Senedd Cofnodion 6 Mawrth 2024
- Dyddiad dod i rym:
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (PDF, 222.6 KB)
Cofnodion cyfarfod Senedd Prifysgol Caerdydd a gynhaliwyd ddydd Mercher 6 Mawrth 2024 am 14:15, yn ystafelloedd 0.52 a 0.54 yn Adeilad Bute.
Presenoldeb
Yr Athro Wendy Larner | P | Claire Jaynes | P |
Angie Flores Acuña | P | Dr Nicholas Jones | P |
Yr Athro Rudolf Allemann | P | Yr Athro Dafydd Jones | P |
Yr Athro Stuart Allen | P | Dr Hesam Kamalipour | P |
Yr Athro Rachel Ashworth | P | Dr Tahl Kaminer | P |
Dr Thomas Beach | P | Yr Athro Andrew Kerr | P |
Yr Athro Roger Behrend | A | Yr Athro Urfan Khaliq | P |
Yr Athro Anthony Bennett | A | Yr Athro Mark Llewellyn | P |
Dr Emma Blain | P | Yr Athro Eshwar Mahenthiralingam | P |
Yr Athro Kate Brain | A | Alex Meers | A |
Yr Athro Gill Bristow | P | Claire Morgan | P |
Dr Andreas Buerki | P | Yr Athro Gerard O'Grady | P |
Yr Athro Christine Bundy | A | Dr James Osborne | P |
Dr Cindy Carter | A | Deio Owen | P |
Yr Athro David Clarke | P | Joanne Pagett | |
Lauren Cockayne | A | Micaela Panes | P |
Suzi Cousins | P | Dr Juan Pereiro Viterbo | P |
Yr Athro Dave Cowan | Yr Athro John Pickett | A | |
Yr Athro Vicki Cummings | P | Dr Jenny Pike | P |
Yr Athro Juliet Davis | Abyd Quinn-Aziz | A | |
Michelle Deininger | Dr Caroline Rae | A | |
Dr David Doddington | P | Michael Reade | A |
Dr Luzia Dominguez | P | Kate Richards | A |
Dr Derek Dunne | P | Yr Athro Stephen Riley | A |
Yr Athro Dominic Dwyer | P | Dominic Roche | A |
Yr Athro Edwin Egede | A | Noah Russell | P |
Yr Athro Rachel Errington | P | Yr Athro Katherine Shelton | P |
Fflur Evans | A | Dr Andy Skyrme | A |
Yr Athro Dylan Foster Evans | P | Helen Spittle | P |
Graham Getheridge | A | Georgia Spry | |
Yr Athro Hayley Gomez | Tracey Stanley | P | |
Yr Athro Julian Gould-Williams | P | Yr Athro Patrick Sutton | P |
Yr Athro Mark Gumbleton | P | Dr Catherine Teehan | P |
Yr Athro Thomas Hall | A | Grace Thomas | A |
Dr Natasha Hammond-Browning | P | Dr Jonathan Thompson | P |
Emma Heady | P | Yr Athro Damian Walford Davies | P |
Yr Athro Adam Hedgecoe | A | Matt Walsh | A |
Dr Monika Hennemann | P | Dr Catherine Walsh | A |
Dr Jonathan Hewitt | P | Yr Athro Roger Whitaker | P |
Madison Hutchinson | Yr Athro John Wild | P | |
Yr Athro Aseem Inam | A | Yr Athro Jianzhong Wu | P |
Yr Athro Nicola Innes | P |
Yn Bresennol:
Katy Dale (cofnodion), Ruth Davies, Dr Martin Chorley, Hannah Darnley, Laura Davies, Dr Rob Davies, Rhodri Evans (Ysgrifennydd Dros Dro), Dr Kate Gilliver, Yr Athro Claire Gorrara, Dr Rob Gossedge, Tom Hay, Nicola Harris, Yr Athro Kerry Hood, Daniel Palmer, TJ Rawlinson, Claire Sanders, Dr Henrietta Standley, Yr Athro Amanda Tonks, Yr Athro Jason Tucker, Dr Liz Wren-Owens
1052 Croeso a chyflwyniadau
Nodwyd
1052.1 bod croeso i bawb i’r cyfarfod, yn enwedig yr aelodau newydd (Michelle Deininger, Claire Jaynes, yr Athro Rachel Errington, yr Athro Hayley Gomez a’r Athro Mark Llewellyn).
1053 Ymddiheuriadau am absenoldeb
Nodwyd
1053.1 y byddai'r ymddiheuriadau a dderbyniwyd yn cael eu cofnodi yn y cofnodion.
1054 Datganiad Buddiannau
Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau o'r gofyniad iddynt ddatgelu unrhyw fuddiannau ariannol uniongyrchol neu anuniongyrchol a allai ddylanwadu ar eu barn. Dylid datgelu buddiannau cyn i eitem gael ei drafod, a dylai’r unigolyn dan sylw naill ai adael y cyfarfod neu beidio â chymryd rhan yn y drafodaeth, fel y bo’n briodol ar gyfer y rhan honno o’r agenda.
Nodwyd
1054.1 na wnaeth unrhyw aelod ddatgelu unrhyw fuddiannau.
1055 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2023 (23/449) yn gofnod gwir a chywir, ac fe'u cymeradwywyd i gael eu llofnodi gan y Cadeirydd.
1056 Materion yn codi
Nodwyd
1056.1 bod y Senedd, yn ei gyfarfod diwethaf, wedi cymeradwyo'r Polisi Marcio a Chymedroli yn amodol ar rannu copi glân; roedd y copi glân hwn wedi'i rannu ac ni chafwyd unrhyw sylwadau.
1057 Eitemau gan y Cadeirydd
Nodwyd
1057.1 nad oedd gan y Cadeirydd unrhyw Gamau Gweithredu i’w hadrodd arnynt ers y cyfarfod diwethaf;
1057.2 bod yr Athro Katherine Shelton (Pennaeth yr Ysgol Seicoleg) wedi'i phenodi'n gynrychiolydd Pennaeth yr Ysgol (Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd) ar y Cyngor, yn dilyn pleidlais;
1057.3 bod papur 23/440 (Newidiadau i Ordinhad 8) wedi'i gynnwys er gwybodaeth i'r Senedd a’i fod yn cynnig gwelliant i'r Cyngor gymeradwyo'r tymhorau pedair blynedd rhagosodedig ar gyfer y Dirprwy Is-Ganghellor a'r Rhag Is-Gangellorion; byddai hyn yn rhoi mwy o barhad o ran arweinyddiaeth yn ystod cyfnod hir o newid yn y sector.
1058 Adroddiad gan yr Is-Ganghellor
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/450C 'Adroddiad yr Is-Ganghellor i'r Senedd'. Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.
Nodwyd
1058.1 bod yr Is-Ganghellor yn diolch am yr ymgysylltiad â gweithgareddau'r Sgwrs Fawr; byddai tri dyfodol posibl yn cael eu lansio yn y digwyddiadau Neuadd y Dref sydd ar y gweill i ysgogi trafodaethau; byddai hyn wedyn o gymorth er mwyn paratoi strategaeth lefel uchel ym mis Mai, a chyflwyno’r strategaeth derfynol i'r Cyngor ym mis Gorffennaf i'w chymeradwyo; byddai'r strategaeth derfynol yn dod gerbron cyfarfod y Senedd hefyd ym mis Mehefin i'w drafod;
1058.2 bod Prif Swyddog Trawsnewid wedi'i benodi (Dr David Langley) ac y byddai'r cyhoeddiad yn cael ei wneud yn BLAS;
1058.3 ei bod yn gyfnod heriol i'r Brifysgol a'r sector ehangach yn ariannol; roedd y Brifysgol yn monitro niferoedd myfyrwyr yn fanylach yng ngoleuni hyn ac roedd recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ar gyfer 2024/25 yn bryder (fel y gwelwyd ar draws y sector), yn enwedig o ran rhaglenni ôl-raddedig a addysgir; roedd gwaith wedi'i gomisiynu i symleiddio prosesau derbyn a’u cyflymu;
1058.4 bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd yn y cap ar ffioedd dysgu o £9,000 i £9,250 a bod y Brifysgol yn bwriadu cymhwyso’r cynnydd i’r ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr ‘cartref’ a’i bod yn gweithio drwy oblygiadau’r cynnydd hwn mewn ffioedd a sut caiff ei weithredu cyn ei gyhoeddi'n ffurfiol; nodwyd bod covid, costau byw a gweithredu diwydiannol wedi effeithio ar fyfyrwyr sy'n dychwelyd, a gallai'r cynnydd hwn mewn ffioedd effeithio ymhellach ar sgorau yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr; amlygodd yr Is-ganghellor fod y Brifysgol wedi ymrwymo i'w myfyrwyr a gwella profiad y myfyrwyr ac nad ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad i godi ffioedd; nodwyd y dylai trafodaethau yn y dyfodol ynghylch newidiadau i ffioedd gynnwys Undeb y Myfyrwyr lle bynnag y bo modd;
1058.5 bod panel myfyrwyr wedi bod yn gweithio gyda'r Brifysgol ar y Sgwrs Fawr a byddai'r Is-ganghellor a Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn trafod sut i gynnwys myfyrwyr ymhellach;
1058.6 nad oedd yn glir eto pa adnoddau fyddai eu hangen ar gyfer y gwaith trawsnewid a allai ddeillio o strategaeth newydd; nodwyd bod llwyth gwaith yn broblem a bod hyn yn amlygu'r angen i newid, yn hytrach na pharhau i dorri'n ôl.
1059 Adroddiad Dwysiambr – Adolygiad o argymhellion
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/437C 'Adroddiad Dwysiambr – Adolygiad o Argymhellion' a 'Prifysgol Caerdydd - Adroddiad Terfynol yr Adolygiad Dwysiambr'. Siaradodd y Dirprwy Is-ganghellor am yr eitem hon.
Nodwyd
1059.1 bod yr adolygiad wedi deillio o Adolygiad Effeithiolrwydd Llywodraethu 2021 ('Adolygiad Nicholls') ac mai’r Cyngor wnaeth ei gomisiynu; roedd Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi'i sefydlu i gadarnhau cwmpas yr adolygiad, a penodwyd Halpin yr adolygydd allanol; cyflwynodd Halpin ei adroddiad terfynol ym mis Ionawr 2024 ac roedd wedi cwrdd â’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen i drafod yr adroddiad;
1059.2 bod tri chanmoliaeth wedi'u cynnwys yn yr adroddiad. Roedd y rhain yn cynnwys rôl y Brifysgol yn rhaglen Prentisiaethau Llywodraethwyr, yn ogystal â’r gwaith manwl ar sicrwydd academaidd yng nghyfarfod y Senedd y bu Halpin ynddo;
1059.3 bod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi awgrymu y dylid bwrw ymlaen â phob un ond un o’r 18 argymhelliad; ni chymeradwywyd bwrw ymlaen â sefydlu pwyllgor gosod agenda gan na theimlwyd bod y ddealltwriaeth o gylch gorchwyl y Senedd yn ddigon aeddfed eto i gael budd o hynny; byddai’r mater hwn yn cael ei gynnwys trwy argymhellion eraill;
1059.4 cymeradwyodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen pob un ond 3 o'r 12 awgrym (y diwrnod cwrdd i ffwrdd ar y cyd, goruchwyliaeth y rhanddeiliaid allanol, a’r arolygon);
1059.5 mai argymhellion 7 ac 8 oedd yr eitemau craidd gan y byddai'r rhain yn egluro cylch gorchwyl y Senedd a pherthynas gyfansoddiadol y Senedd â'r Cyngor; roedd y Brifysgol wedi gofyn i Halpin am enghreifftiau da o'r sector;
1059.6 y byddai'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn goruchwylio sut caiff yr argymhellion eu rhoi ar waith ac y byddai’n parhau i ymgysylltu â chydweithwyr ar draws y Brifysgol;
1059.7 bod y Pwyllgor Llywodraethu wedi adolygu'r papur ac wedi amlygu pwysigrwydd argymhellion 7 ac 8; roedd y Pwyllgor hefyd wedi nodi y dylai ymsefydlu fod yn flaenoriaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 ac y dylid ei rannu â'r rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â'r Senedd lle bo’n bosibl;
1059.8 y byddai'r papur yn cael ei ddiweddaru er mwyn i'r Cyngor nodi adborth gan y Pwyllgor Llywodraethu a'r Senedd;
1059.9 bod y Senedd wedi cyflwyno’r sylwadau canlynol:
.1 bod angen diffinio'r defnydd o “fan gwyn” pryd bynnag y caiff ei ddefnyddio;
.2 nad oedd Halpin wedi cyflwyno argymhelliad mewn perthynas â'r farn a fynegwyd bod y Senedd yn cael ei gweld fel un sy’n “cymeradwyo” yn unig, ac y dylid rhoi ystyriaeth bellach i hyn;
.3 y gallai fod argymhellion a allai gael eu rhoi ar waith yn gyflym ac y dylid eu blaenoriaethu lle bo’n bosibl;
.4 bod y mater a godwyd bod rhai lleisiau i’w clywed yn fwy amlwg na rhai eraill yn y Senedd wedi'i nodi yn yr adroddiad ac y dylid mynd i'r afael â hyn;
.5 y gallai diwrnod cwrdd i ffwrdd ar y cyd fod o fudd ac efallai y gallai ganolbwyntio ar symud argymhellion 7 ac 8 yn eu blaenau;
.6 y gallai fod gwybodaeth fewnol gan gydweithwyr y gellid ei defnyddio i gynorthwyo adolygiadau; nodwyd bod cael arbenigedd allanol a gwrthrychol yn ddefnyddiol hefyd ar rai materion;
.7 ei bod yn bwysig ystyried y cyd-destunau sy’n newid ac y dylai unrhyw newidiadau i Statudau ac Ordinhadau wneud yn siŵr eu bod yn parhau i fod yn addas at y diben ar gyfer y dyfodol;
1059.10 bod Cadeirydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi gwneud yn siŵr bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yn ystod yr adolygiad.
Penderfynwyd
1059.11 argymell i'r Cyngor gymeradwyo'r argymhellion a'r awgrymiadau arfaethedig i'w dwyn ymlaen o adroddiad yr Adolygiad Dwysiambr a'r camau nesaf a'r amserlenni cysylltiedig, yn amodol ar gynnwys y sylwadau amlycaf gan y Pwyllgor Llywodraethu a'r Senedd yn y papur a ystyriwyd gan y Cyngor.
1060 Adroddiad Gwella Blynyddol
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/365 'Adroddiad Gwella Blynyddol'. Siaradodd y Rhag Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.
Nodwyd
1060.1 bod yr adroddiad yn ymdrin â'r cyfnod rhwng hydref 2022 a hydref 2023 ac yn cofnodi'r cynnydd a wnaed i gyflawni amcanion yr Is-Strategaeth Addysg a Myfyrwyr drwy'r portffolio addysg a phrofiad myfyrwyr;
1060.2 roedd yr adroddiad yn ddogfen ategol i'r Adroddiad Ansawdd Blynyddol a dderbyniodd y Senedd ym mis Tachwedd 2023 ac, er nad yw'n adroddiad rheoliadol gofynnol, byddai'n cynorthwyo'r adolygiad gwella sydd ar y gweill; roedd astudiaethau achos a lleisiau staff a myfyrwyr wedi'u cynnwys er mwyn gwneud yn siŵr bod y myfyrdodau'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn ansoddol;
1060.3 bod llawer iawn o waith yn cael ei wneud i wella profiad myfyrwyr a bod gwelliannau wedi bod yn y data a ffyn mesur cynnydd a llwyddiant, gan adlewyrchu aeddfedrwydd yn null y Brifysgol o wella;
1060.4 bod nifer o uchafbwyntiau i’w nodi, gan gynnwys:
.1 roedd data am y cymwysterau sydd gan staff addysgu yn cael eu casglu ac roedd y Brifysgol bellach yn rhagori ar gyfartaledd Grŵp Russell;
.2 bod nifer o becynnau cymorth wedi'u paratoi i gynorthwyo staff academaidd, ochr yn ochr â gweithgarwch DPP;
.3 gwelliannau i'r ddarpariaeth ddysgu ddigidol, gan gynnwys y ffaith bod y rhan fwyaf o fodiwlau yn defnyddio Blackboard Ultra erbyn hyn, a bod opsiynau posibl yn cael eu datblygu ar gyfer dysgu hyblyg;
.4 cyflwyno Swyddogion Ymgysylltu â Myfyrwyr a hyrwyddo gwaith ar gau'r ddolen adborth;
.5 y gwaith sylweddol mewn cysylltiad ag asesu, a'r camau nesaf i adolygu sut caiff ei roi ar waith a chynorthwyo ysgolion;
.6 y sgôr uchaf erioed yn yr arolwg Hynt Graddedigion a nifer cynyddol o leoliadau gwaith; roedd llai o ddiddordeb a oedd yn cael ei adolygu;
1060.5 bod rhaglen Bywyd y Campws wedi'i gohirio a bod hyn yn gyfle i adolygu ac ailystyried y maes hwn yng ngoleuni'r strategaeth newydd; roedd y cyllid y cytunwyd arno ar gyfer mannau astudio yn parhau, a rhagwelwyd y byddai'r gwaith hwn yn cael ei gwblhau mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf;
1060.6 bydd y portffolio addysg a phrofiad myfyrwyr yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2024, felly ymgorffori'r gwaith sydd wedi’i wneud a gwerthuso effaith cynlluniau fydd y camau nesaf; roedd y gwaith wedi canolbwyntio ar arferion academaidd ac roedd hefyd angen symud i adolygu a rhoi sylw i brofiad ehangach y myfyrwyr.
1061 Diweddariad ar yr Adroddiad Ansawdd Blynyddol: Safonau Academaidd
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/422R 'Diweddariad ar yr Adroddiad Ansawdd Blynyddol - Safonau Academaidd'. Siaradodd y Rhag Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.
Nodwyd
1061.1 bod y Senedd wedi derbyn yr Adroddiad Ansawdd Blynyddol yn hydref 2023 a, bryd hynny, nid oedd y manylion ar ganlyniadau gradd yn hysbys oherwydd y boicot marcio ac asesu (MAB): roedd y rhain bellach wedi'u cadarnhau ac mae eu manylion yn y papur; byddai'r papur yn cael ei rannu â'r Cyngor hefyd;
Canlyniadau Graddau
1061.2 ei bod yn ofynnol i'r Brifysgol ddiweddaru ei Datganiad am Ganlyniadau Graddau;
1061.3 cyn y pandemig, bod cyfran yr anrhydeddau dosbarth cyntaf a da yn is na chyfartaledd Grŵp Russell ond yn uwch na'r sector; bu cynnydd yn ystod y pandemig o ganlyniad i fabwysiadu'r rhwyd ddiogelwch, a gwelwyd hyn ar draws y sector hefyd;
1061.4 roedd cyfran yr anrhydeddau dosbarth cyntaf a da bellach yn gostwng i lefelau cyn-bandemig yn gyflymach na'r sector yn gyffredinol ac roedd angen deall pam mae hyn yn digwydd er mwyn cynorthwyo myfyrwyr i gyflawni canlyniadau da;
Nodweddion Myfyrwyr
1061.5 bod gwahaniaeth o saith pwynt canran rhwng y canlyniadau ar gyfer myfyrwyr gwyn y DU a myfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig y DU o ran cyflawni graddau da; o edrych ar y rhain fesul categori, roedd yn sylweddol is ar gyfer myfyrwyr Du ac roedd yn parhau i ostwng;
1061.6 bod y Prosiect Addysg Gynhwysol wedi'i sefydlu i adolygu'r maes hwn ac roedd yn cwrdd ag ysgolion i ddeall yr effaith a nodi camau gweithredu;
Cynnydd
1061.7 bod yr adroddiad yn cynnwys data am ddilyniant ar draws y sefydliad am y tro cyntaf;
1061.8 bod hyn yn adlewyrchu cynnydd yng nghyfran y myfyrwyr blwyddyn 1 i flwyddyn 2 sy'n ailadrodd y flwyddyn gyntaf, yn gadael y Brifysgol neu'n gorfod tynnu'n ôl gan Fyrddau Arholi; gwelwyd hyn yn arbennig yng Ngholeg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ond roedd yn fater ar gyfer y Brifysgol gyfan;
1061.9 bod darn pellach o waith ar ddadansoddi dilyniant wedi'i wneud gan y tîm Gwybodaeth Busnes i adolygu pa nodweddion a gafodd ddylanwad ar obeithion myfyrwyr blwyddyn gyntaf o symud ymlaen i'r ail flwyddyn; canfuwyd bod cartref, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, dull astudio, oedran, cymwysterau, a chôd post ymhlith y ffactorau sy'n cael yr effaith fwyaf ar ddilyniant; dangosodd y canfyddiadau hefyd fod myfyrwyr gwyn o’r DU ychydig dros ddwywaith yn fwy tebygol o symud ymlaen i’r ail flwyddyn o gymharu â myfyrwyr du; roedd gwahaniaeth mawr hefyd o ran myfyrwyr ag anabledd a heb fod yn derbyn Lwfans i Fyfyrwyr Anabl;
1061.10 roedd gwaith ar y gweill i ddeall y sefyllfa hon ymhellach ac i adolygu sut y gallai'r Brifysgol helpu myfyrwyr i ddysgu a chyflawni deilliannau gwell; roedd cyfarfod llawn wedi'i gynnal gydag ysgolion a oedd wedi bod yn fuddiol a lle nodwyd meysydd i'w hadolygu;
1061.11 y byddai costau byw hefyd yn effeithio ar allu myfyrwyr i symud ymlaen (e.e. rhy oer neu newynog i astudio neu orfod gwneud mwy o waith cyflogedig).
Penderfynwyd
1061.12 rhannu'r model atchweliad ag aelodau'r Senedd a ofynnodd am ragor o wybodaeth.
1062 Adroddiad y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd i'r Senedd
Derbyniwyd papur 23/451 'Adroddiad y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd i'r Senedd'. Siaradodd y Rhag Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.
Nodwyd
1062.1 bod dau bolisi wedi'u cynnwys i'w cymeradwyo;
Polisi Adborth Academaidd
1062.2 bod y polisi yn ddogfen ategol i'r Polisi Marcio a Chymedroli;
1062.3 mai yn 2015 y cafodd y polisi ei adolygu ddiwethaf a bod angen ei ddiweddaru; yr oedd wedi ei grynhoi er mwyn ei symleiddio;
1062.4 bod newidiadau yn canolbwyntio ar ymateb i adborth gan arholwyr allanol a myfyrwyr (h.y. ansawdd a phryd y rhoddir adborth);
1062.5 nad oedd unrhyw newid wedi'i wneud i pryd y rhoddir adborth (o fewn 20 diwrnod gwaith);
1062.6 bod eglurhad a chadarnhad wedi'u cynnwys ynghylch rôl Byrddau Astudiaethau a fyddai'n pennu'r strategaeth ar gyfer rhoi adborth;
1062.7 y byddai gweithredu'r polisi yn allweddol; roedd hwn yn faes lle nad oedd y Brifysgol yn perfformio'n dda yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr;
1062.8 nad oedd data ynghylch bodloni'r amserlen ar gyfer rhoi adborth yn cael ei gasglu'n ganolog; byddai'r polisi i ddefnyddio Blackboard ar gyfer adborth, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, yn caniatáu i ddata gael ei gasglu;
1062.9 nad oedd rhif fersiwn y ddogfen yn cyfateb i fersiwn hanes y ddogfen; cadarnhawyd bod y papur yn cynnwys y fersiwn ddiweddaraf fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd;
1062.10 y byddai gan y polisi oblygiadau o ran llwyth gwaith ac adnoddau; nodwyd bod hyn wedi'i ystyried wrth drafod diweddariadau i'r polisi a bod y diwygiadau yn ceisio canolbwyntio ar adborth a oedd yn angenrheidiol ac a fyddai o fudd i'r myfyrwyr; Byrddau Astudio fyddai'n pennu lefelau priodol o adborth ac roedd y defnydd o adborth cryno wedi'i bwysleisio yn y polisi; roedd gwaith hefyd yn cael ei wneud i ddiweddaru'r pecyn cymorth ar gyfer adborth;
1062.11 mai’r bwriad y tu ôl i adborth “gweithredol” oedd gwneud yn siŵr bod adborth yn canolbwyntio ar y myfyriwr a'i bod yn amlwg beth allai myfyrwyr ei ddysgu o adborth; nodwyd y byddai hyn o fudd mawr i fyfyrwyr;
1062.12 bod yr holl raglenni a addysgir (gan gynnwys rhaglenni clinigol) wedi'u cynnwys yn y polisi;
1062.13 y byddai'r defnyddio'r polisi ar gyfer rhoi adborth ar weithgareddau yn ystod lleoliad gwaith yn cael ei drafod ryw dro arall;
Polisi Partneriaeth Addysg
1062.14 bod hwn yn bolisi newydd, ac wedi'i ffurfio o gasgliad o bolisïau blaenorol;
1062.15 bod y polisi'n cadarnhau disgwyliadau ynghylch partneriaethau addysg a hefyd yn manylu ar rôl yr is-bwyllgor Partneriaeth Addysg a fu’n goruchwylio yn y maes hwn;
1062.16 bod templed syml wedi'i ddarparu i'w ddefnyddio mewn gweithgareddau ail-ddilysu;
1062.17 y teimlwyd bod adolygiad strategol llawn o gam un i adnewyddu partneriaethau addysg a oedd yn gweithio'n dda yn llafurddwys a bod modd ei symleiddio; credwyd mai'r broses bresennol oedd hon ac y byddai trafodaeth bellach ar hyn yn fuddiol;
1062.18 y byddai'n ddefnyddiol egluro'r dyddiad dechrau o ran y cytundebau, nifer y credydau sy’n ofynnol ac a oedd gofynion ynghylch pa bynciau yr oedd yn rhaid eu hastudio;
1062.19 bod angen gwneud rhagor o waith i egluro'r cwestiynau a godwyd ar y polisi hwn cyn y gellid ei gymeradwyo; pe bai'r newidiadau'n fân, byddai hyn yn cael ei gymeradwyo drwy Gam Gweithredu gan y Cadeirydd; byddai unrhyw newidiadau sylweddol yn cael eu cyflwyno i'r Senedd i'w cymeradwyo.
Penderfynwyd
1062.20 cymeradwyo'r Polisi Adborth Academaidd, yn amodol ar roi eglurder ynghylch ystyr y geiriau “gellir ei weithredu”;
1062.21 y byddai rhagor o waith yn cael ei wneud ar y Polisi Partneriaeth Addysg.
1063 Adroddiad y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr i'r Senedd
Derbyniwyd papur 23/452 'Adroddiad y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr i'r Senedd'. Siaradodd y Rhag Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.
Nodwyd
1063.1 bod cynlluniau gweithredu mewn perthynas ag Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi'u cyflwyno i CCAUC a'u bod yn briodol; roedd adolygiad wedi’i gynnal o'r camau gweithredu yng nghynllun gweithredu sefydliadol 2022;
1063.2 bod y cymorth personol a roddir i fyfyrwyr a addysgir wedi'i adolygu a bod amrywiaeth mawr ym mhrofiadau myfyrwyr; roedd gwaith ar y gweill i weld a oes modd cynnig gwasanaeth cymorth mwy cyfannol i fyfyrwyr a addysgir.
1064 Diweddariad ar Weithgareddau Diwylliant Ymchwil
Derbyniwyd papur 23/453 'Diweddariad ar Weithgareddau Diwylliant Ymchwil'. Siaradodd y Rhag Is-ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter am yr eitem hon.
Nodwyd
1064.1 bod diwylliant ymchwil yn dod yn fwyfwy pwysig yn yr agenda ymchwil, nid yn unig i arianwyr ond hefyd mewn perthynas â'r elfen newydd o REF (pobl, diwylliant a'r amgylchedd);
1064.2 bod diwylliant ymchwil yn perthyn i holl gymuned y Brifysgol a bod angen datblygu a gwella'n barhaus;
1064.3 mai’r Athro Karin Wahl-Jorgensen, fel Deon y Brifysgol dros Ymchwil yr Amgylchedd a Diwylliant, sy’n arwain y gwaith yn y maes hwn;
1064.4 bod cynllun gweithredu yn cael ei ddatblygu ar sail yr arolwg o ddiwylliant ymchwil a bod ymdrechion yn cael eu targedu mewn meysydd allweddol; roedd y rhain yn cael eu croeswirio â fframweithiau cenedlaethol a chynlluniau cyfredol perthnasol, ac roedd canlyniadau'r arolwg yn adleisio adborth o'r Sgwrs Fawr; byddai'r cynllun gweithredu yn cael ei gwblhau erbyn diwedd y semester presennol a'i lansio yn yr haf;
1064.5 bod y Brifysgol wedi llwyddo i sicrhau gwerth dwy flynedd o gyllid (£889k) gan Ymddiriedolaeth Wellcome ar gyfer rhaglen Cynnau; byddai’n cael ei defnyddio i dreialu rhaglenni a fydd yn ceisio grymuso unigolion i arwain mewn perthynas â datblygu diwylliant ymchwil y Brifysgol;
1064.6 bod gwaith yn cael ei wneud i gynorthwyo paratoadau ar gyfer REF 2029; roedd y Brifysgol yn hunan-archwilio ar yr elfen pobl, diwylliant ac amgylchedd ar lefel sefydliadol, ochr yn ochr â gweithio gydag ysgolion ar lefel uned i rannu arferion gorau ac ymgorffori hyn fel busnes fel arfer;
1064.7 bod y Brifysgol wedi cael £80k gan CCAUC i ddatblygu diwylliant ymchwil; nodwyd bod hyn gryn dipyn yn llai na'r symiau a ddyfarnwyd i brifysgolion yn Lloegr; byddai unigolion yn gallu gwneud cais i ddefnyddio'r arian hwn ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau yn ymwneud â datblygu diwylliant ymchwil ac mai i’w gadarnhau a fyddai hyn yn cynnwys myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
1065 Adroddiad Diwedd Cylch Recriwtio a Derbyn - Mynediad 2023/24
Derbyniwyd papur 23/454C 'Adroddiad Diwedd Cylch Recriwtio a Derbyn - Mynediad 2023/24. Siaradodd y Dirprwy Is-ganghellor am yr eitem hon.
Nodwyd
1065.1 bod yr adroddiad yn edrych yn ôl ac yn cyfeirio at fynediad yn 2023/24; roedd adroddiad yr Is-Ganghellor wedi cyfeirio at fynediad yn 2024/25;
1065.2 bod y Dirprwy Is-Ganghellor erbyn hyn yn Gadeirydd y Grŵp Strategaeth Recriwtio a Derbyn (RASG);
1065.3 [Hepgorwyd];
1065.4 [Hepgorwyd];
1065.5 [Hepgorwyd];
1065.6 [Hepgorwyd];
1065.7 [Hepgorwyd];
1065.8 [Hepgorwyd];
1065.9 [Hepgorwyd];
1065.10 [Hepgorwyd].
1066 Unrhyw Fater Arall
Nodwyd
1066.1 bod pryderon wedi'u codi ynghylch rhoi'r gorau i fodiwlau yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd; mater i'r Bwrdd Astudio perthnasol oedd hwn (nid y Senedd) a byddai’r Is-Ganghellor yn ymateb yn ysgrifenedig i egluro hyn;
1066.2 bod dyddiadau cyfarfodydd wedi’u pennu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 ac y byddai’r Senedd yn cwrdd ar 6 Tachwedd 2024, 12 Mawrth 2025 ac 11 Mehefin 2025.
1067 Eitemau a gafwyd i’w cymeradwyo
Penderfynwyd
1067.1 argymell y papurau canlynol:
23/455 Diweddariadau i'r Cynllun Dirprwyo
1068 Eitemau a gafwyd er gwybodaeth
Derbyniwyd y papurau canlynol er gwybodaeth:
- 23/456 Cofnodion ASQC – 8 Chwefror 2024
- 23/457 Cofnodion ESEC – 26 Ionawr 2024
- 23/458 Gwasg Prifysgol Caerdydd - Adroddiad Blynyddol i'r Senedd 2022-23
- 23/385 Adroddiad Blynyddol ar gyfer y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfaoedd Ymchwilwyr
- 23/440 Newidiadau i Ordinhad 8
Tabl rheoli'r ddogfen
Teitl y ddogfen: | Senedd Cofnodion 6 Mawrth 2024 |
---|---|
Dyddiad dod i rym: | 25 Gorffennaf 2024 |