Waith i gefnogi cynllun gweithredu Trawsnewid Diwylliant Ymchwil
- Diweddarwyd ddiwethaf:
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Detholiad o waith i gefnogi cynllun gweithredu Trawsnewid Diwylliant Ymchwil a gynhaliwyd cyn 2024-26
Cydweithio a cholegoldeb
1. Sefydlu grŵp ar lefel llywodraethu sy'n targedu hyrwyddo diwylliant ymchwil yn rhan o’r portffolio ymchwil sy'n cynnwys trawstoriad eang o arbenigedd, gyda chefnogaeth adnodd y Gwasanaethau Proffesiynol, sef y Grŵp Datblygu Diwylliant Ymchwil.
2. Cyhoeddi Adroddiad Arolwg Diwylliant Ymchwil Prifysgol Caerdydd ym mis Medi 2023, sy’n adrodd ar ganfyddiadau'r arolwg sefydliadol cyntaf o’r diwylliant ymchwil. Gyda chyfanswm o 1,312 o ymatebion, roedd yr arolwg yn nodi barn ac awgrymiadau cydweithwyr sy'n ymwneud ag ymchwil ledled y sefydliad.
3. Argymhellion i'r Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd yn 2024 ar sut y gellid cydnabod diwylliant ymchwil cadarnhaol trwy ddyrchafiadau, i'w ystyried yn y cyd-destun sefydliadol ehangach.
Rhyddid i fod yn chwilfrydig ac yn greadigol
4. Ailsefydlu cynllun gwyliau ymchwil traws-sefydliadol rheolaidd ar gyfer ymgeiswyr Addysgu ac Ymchwil ledled y Brifysgol yn 2023.
Diogelwch swyddi
5. Ers 2021 mae'r Brifysgol wedi cyhoeddi ei defnydd blynyddol o gontractau i gyflogi ymchwilwyr yn erbyn hyd eu gwasanaeth.
6. Cynhaliodd y Gweithgor Llwybrau Ymchwilwyr adolygiad yn 2023 i egluro sut rydyn ni’n cefnogi ac yn galluogi dilyniant gyrfa o raddau 5 i 7 ar gyfer cydweithwyr ymchwil yn unig ar hyn o bryd. Cafodd canllawiau ar yr opsiwn o gynnwys ymchwilwyr yn rhan o geisiadau ar lefel uwch eu rhannu yn hydref/gaeaf 2023.
Datblygu gyrfa
7. Cyllid Ymddiriedolaeth Wellcome wedi’i gaffael yn 2023 i ddatblygu cyfres o raglenni datblygu arweinyddiaeth peilot i'w cynnal yn 2024 a 2025 er mwyn rhoi’r gallu i staff ddod yn arweinwyr effeithiol ac eiriolwyr dros ddiwylliant ymchwil cadarnhaol waeth beth fo'u rôl neu’u lefel (Cynnau|Ignite).
8. Gweithredu'r Ymrwymiad i Dechnegwyr trwy gytundeb yn 2023 ar lwybr sengl newydd y gellir mapio holl rolau staff technegol presennol ac yn y dyfodol.
9. Lansio tudalen we siop un stop o adnoddau cymorth i ymchwilwyr yn 2023, wedi'i dargedu at gydweithwyr ar y llwybr ymchwil yn unig. Sut rydyn ni’n cefnogi staff ymchwil - Mewnrwyd - Prifysgol Caerdydd
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
10. Datblygu cynllun cydraddoldeb strategol diwygiedig a system gwynion newydd i ddelio ag achosion o fwlio ac aflonyddu.
11. Polisi Cydberthnasau Personol Diwygiedig yn 2023 i fynd i'r afael â chamymddwyn rhywiol ac aflonyddu rhywiol. Bydd ymgynghoriad ar bolisi Atal Camymddwyn Rhywiol ac Aflonyddu newydd yn 2024.
Uniondeb ymchwil a moeseg
12. Cynllun peilot o sianeli adolygu moesegol newydd ar gyfer gweithgaredd Israddedig ac Ôl-raddedig a Addysgir yn dechrau yn 2023/24. Bydd yn galluogi dull seiliedig ar risg ar draws pob modiwl o ymdrin â moeseg/craffu moesegol sy'n lleihau'r baich ar staff a myfyrwyr.
13. Adolygu Côd Ymarfer Uniondeb a Llywodraethu Ymchwil i ymgorffori negeseuon ehangach ar ddiwylliant ymchwil, a hyfforddiant ar uniondeb ymchwil er mwyn pwysleisio arweinyddiaeth wrth ddatblygu diwylliant sy'n hyrwyddo uniondeb (2023).
Bod yn agored a thegwch ymchwil
14. Cynllun peilot yn hydref 2023 i brofi agweddau cyhoeddwyr tuag at gadw hawliau’r awdur i lywio datblygiad polisi cadw hawliau sefydliadol, gan alluogi mwy o ddefnydd o Fynediad Agored/ Ymchwil a Gwyddoniaeth.
15. Cynllun peilot CRediT (Contributor Roles Taxonomy) wedi’i gwblhau mewn tair ysgol yn 2023.
16. Cymryd rhan yng nghynllun peilot 'Hyfforddi'r Hyfforddwr' UKRN (UK Reproducibility Network) i ddarparu offer i gymryd rhan mewn Gwyddoniaeth Agored a chyflwyno cyfleoedd hyfforddi mewnol. Mae hyfforddiant eisoes wedi'i gynnig mewn tri lleoliad (2023-24).
Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, iechyd meddwl a lles
17. Mae gwaith datblygu Strategaeth Lles Staff 2024-27 wedi dechrau, gan gynnwys canolbwyntio ar gyfrifoldeb unigol a sefydliadol dros les a chefnogaeth wedi'i theilwra’n well ar gyfer grwpiau amrywiol.