Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Senedd Cofnodion 8 Tachwedd 2023

Cofnodion cyfarfod Senedd Prifysgol Caerdydd a gynhaliwyd ddydd Mercher 8 Tachwedd 2023 am 14.15, yn Narlithfa Hadyn Ellis.

Presenoldeb

Yr Athro Wendy Larner

P

Dr Hesam Kamalipour

P

Angie Flores Acuña

P

Dr Tahl Kaminer

P

Yr Athro Rudolf Allemann

P

Yr Athro Andrew Kerr

A

Yr Athro Stuart Allen

P

Yr Athro Urfan Khaliq

A

Yr Athro Rachel Ashworth

P

Yr Athro Eshwar Mahenthiralingam

P

Dr Thomas Beach

P

Alex Meers

P

Yr Athro Roger Behrend

A

Claire Morgan

P

Yr Athro Anthony Bennett.

P

Yr Athro Gerard O'Grady

P

Dr Emma Blain

P

Dr James Osborne

A

Yr Athro Kate Brain

P

Deio Owen

P

Yr Athro Gill Bristow

A

Joanne Pagett

 

Dr Andreas Buerki

P

Micaela Panes

P

Yr Athro Christine Bundy

P

Dr Juan Pereiro Viterbo

P

Dr Cindy Carter

P

Yr Athro John Pickett

A

Yr Athro David Clarke

P

Dr Jenny Pike

A

Lauren Cockayne

A

Abyd Quinn-Aziz

A

Susan Cousins

 

Dr Caroline Rae

P

Yr Athro Dave Cowan

 

Michael Reade

P

Yr Athro Vicki Cummings

P

Kate Richards

P

Yr Athro Juliet Davis

P

Yr Athro Stephen Riley

P

Yr Athro Lina Dencik

 

Dominic Roche

A

Dr David Doddington

P

Noah Russell

P

Dr Luzia Dominguez

A

Yr Athro Katherine Shelton

P

Dr Derek Dunne

A

Dr Andy Skyrme

A

Yr Athro Dominic Dwyer

P

Yr Athro Peter Smowton

P

Yr Athro Edwin Egede

P

Zbig Sobiesierski

P

Fflur Evans

P

Helen Spittle

P

Yr Athro Dylan Foster Evans

P

Georgia Spry

P

Helen Evans

A

Tracey Stanley

P

Graham Getheridge

P

Yr Athro Patrick Sutton

P

Yr Athro Julian Gould-Williams

P

Dr Catherine Teehan

A

Yr Athro Mark Gumbleton

A

Grace Thomas

P

Yr Athro Thomas Hall

P

Dr Jonathan Thompson

P

Dr Natasha Hammond-Browning

A

Yr Athro Damian Walford Davies

P

Emma Heady

A

Matt Walsh

P

Yr Athro Adam Hedgecoe

P

Dr Catherine Walsh

P

Dr Monika Hennemann

A

Lisa Watkins

P

Dr Jonathan Hewitt

A

Yr Athro Ian Weeks

P

Madison Hutchinson

P

Yr Athro Roger Whitaker

P

Yr Athro Aseem Inam

 

Yr Athro David Whitaker

A

Yr Athro Nicola Innes

 

Yr Athro John Wild

 

Dr Nicholas Jones

P

Yr Athro Martin Willis

P

Yr Athro Dafydd Jones

P

Yr Athro Jianzhong Wu

P

Yn Bresennol

Dr Martin Chorley, Katy Dale (cofnodion), Hannah Darnley, Dr Rob Davies, Anita Edson, Rhodri Evans (Ysgrifennydd Dros Dro), Kate Gilliver [o Gofnod 1042], Yr Athro Claire Gorrara, Dr Rob Gossedge, Yr Athro Kerry Hood, Rashi Jain, Julie-Anne Johnston, Sue Midha, Yr Athro Wyn Morgan, TJ Rawlinson, Claire Sanders, Dr Henrietta Standley, Yr Athro Amanda Tonks, Yr Athro Jason Tucker, Yr Athro Karin Wahl-Jorgensen [tan Gofnod 1043], Darren Xiberras

1031 Croeso a chyflwyniadau

Nodwyd

1031.1 croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, yn enwedig yr aelodau hynny a oedd yn ymuno â’r cyfarfod am y tro cyntaf;

1031.2 croesawodd y Cadeirydd hefyd yr Athro Wyn Morgan o Halpin, a oedd yn arsylwi'r cyfarfod yn rhan o’r Adolygiad Dwysiambr, a Julie-Anne Johnston, y Prentis-Lywodraethwr ar y Cyngor.

1032 Ymddiheuriadau am absenoldeb

Nodwyd

1032.1 byddai'r ymddiheuriadau a dderbyniwyd yn cael eu cofnodi yn y cofnodion.

1033 Datgan buddiannau

Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau o'r gofyniad iddynt ddatgelu unrhyw fuddiannau ariannol uniongyrchol neu anuniongyrchol a allai ddylanwadu ar eu barn. Dylid datgelu buddiannau cyn i eitem gael ei drafod, a dylai’r unigolyn dan sylw naill ai adael y cyfarfod neu beidio â chymryd rhan yn y drafodaeth, fel y bo’n briodol ar gyfer y rhan honno o’r agenda.

Nodwyd

1033.1 ni wnaeth unrhyw aelod ddatgelu unrhyw fuddiannau.

1034 Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2023 (papur 22/858) fel cofnod gwir a chywir ac fe’u cymeradwywyd i gael eu llofnodi gan y Cadeirydd.

1035 Materion yn codi

Nodwyd nad oedd unrhyw faterion yn codi.

1036  Cyfansoddiad ac Aelodaeth

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/225 – ‘Cyfansoddiad ac Aelodaeth’. Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.

Penderfynwyd

1036.1 adolygu a allai Prif Weithredwr Undeb y Myfyrwyr fynychu cyfarfodydd y Senedd.

1037 Cyfansoddiad ac aelodaeth yr is-bwyllgorau

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/162 'Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Cymrodoriaethau a Graddau er Anrhydedd'. Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.

Penderfynwyd

1037.1 cymeradwyo'r cyfansoddiad diwygiedig ar gyfer y Pwyllgor Cymrodoriaethau a Graddau er Anrhydedd.

1038 Eitemau gan y Cadeirydd

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/226C 'Adroddiad am Gamau Gweithredu'r Cadeirydd Ers y Cyfarfod Diwethaf'. Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.

Nodwyd

1038.1 bod yr Is-Ganghellor blaenorol wedi cymeradwyo’r eitemau;

Sefydlu cronfa waddol ar gyfer Athro Seiciatreg Hodge

1038.2 y datblygwyd Athro Seiciatreg Hodge i ariannu rhagor o ymchwil ym maes seiciatreg fanwl ac ymyrraeth seiciatreg mewn cymdeithas; roedd hyn yn gysylltiedig â'r GIG a chyflwyno gwasanaethau;

Cymeradwyo Amrywiad ar gyfer Myfyrwyr sydd â Chanlyniad Cynnydd wedi’i Ohirio

1038.3 bod hysbysu myfyrwyr a oedd yn aros am eglurhad ynghylch y trefniadau ar gyfer symud ymlaen i gam nesaf y rhaglen yn 2023/24 wedi bod yn fater brys a phwysig;

1038.4 bod yr atodiad yn nodi'n anghywir gais am gymeradwyaeth y Senedd; eitem i'w nodi oedd hon gan ei bod wedi'i chymeradwyo drwy weithred y Cadeirydd;

1038.5 y dylai myfyrwyr a oedd wedi cael caniatâd i symud ymlaen heb gael canlyniadau rhai modiwlau, ac y bu'n ofynnol iddynt ailsefyll wedi hynny, gael cyngor academaidd fesul achos i benderfynu ar yr opsiwn mwyaf priodol ar eu cyfer.

1039 Adroddiad gan yr Is-Ganghellor

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/227C 'Adroddiad yr Is-Ganghellor i'r Senedd'. Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.

Nodwyd

1039.1 bod yr Is-Ganghellor yn diolch i bawb a oedd wedi cyfrannu at y Sgwrs Fawr hyd yn hyn, ac am y cyfraniadau a'r ymgysylltu parhaus; y bwriad oedd dechrau creu opsiynau strategol a’u hadolygu ar gyfer y dyfodol ym misoedd cyntaf 2024;

1039.2 bod amrywiaeth ac ansawdd y gwaith sy'n cael ei wneud ym mhob rhan o’r Brifysgol wedi creu argraff ar yr Is-Ganghellor;

1039.3  bod llwyddiant ymchwil wedi'i nodi yn yr adroddiad ac fe holwyd a oedd modd buddsoddi ymhellach yn y maes hwn; nododd yr Is-Ganghellor nad oedd arian ychwanegol ar gael a bod angen blaenoriaethu; byddai buddsoddiad newydd mewn un maes yn digwydd ar draul maes arall ac roedd y Sgwrs Fawr yn allweddol yn hyn o beth i nodi sut mae’r Brifysgol am edrych yn y dyfodol a pha weithgareddau oedd yn flaenoriaethau;

1039.4 y gofynnwyd a oedd modd cynnal arolwg o’r diwylliant addysgu, o ystyried ei bwysigrwydd i'r Brifysgol; nodwyd nad tasg rhwydd yw diffinio diwylliant addysgu, felly efallai nad oedd yn addas ar gyfer arolwg, ond croesawyd syniadau ar sut i symud hyn ymlaen; roedd angen hefyd ystyried diwylliant mewn modd cyfannol ochr yn ochr â gwerthoedd y sefydliad.

1040 Safbwynt y Myfyrwyr – ymateb y brifysgol

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papur 23/228, 'Ymateb i Safbwyntiau’r Myfyrwyr 2023’. Siaradodd y Rhag Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

1040.1 bod y Senedd wedi derbyn y tair dogfen Safbwynt y Myfyrwyr a gyflwynwyd yn 2023 yn ei gyfarfod ym mis Mehefin;

1040.2 bod y papur hwn yn cynnwys ymateb y Brifysgol i'r Safbwyntiau hyn, yn ogystal â manylion cyflawniadau mewn ymateb i Safbwynt y Myfyrwyr 2022 (a’r rhai y bu cynnydd sylweddol yn eu herbyn);

1040.3 y diolchwyd i Undeb y Myfyrwyr am eu partneriaeth a'u cefnogaeth barhaus wrth ddatblygu camau gweithredu y cytunwyd arnynt;

1040.4 y byddai llywodraethu Safbwyntiau o ran Tai, ac Ystadau a Chyfleusterau yn rhan o waith Grŵp Bywyd y Myfyrwyr a Bwrdd y Gwasanaethau Proffesiynol, a byddai'r Grŵp Ailfeddwl Asesu yn goruchwylio’r Safbwynt o ran Asesu ac Adborth;

1040.5 bod Undeb y Myfyrwyr yn diolch i'r Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr am y gwaith cydweithredol yn y maes hwn a nododd:

.1 fod y cynnydd dymunol o ran Safbwynt y Myfyrwyr 2022 a’r amseroedd agor y campws y gofynnwyd amdanynt yn cael eu gwneud yn gyson ar draws oriau agor anhraddodiadol (er enghraifft agor Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ar benwythnosau Wythnos y Glas); cadarnhaodd y Prif Swyddog Gweithredu fod defnydd isel o adeiladau yn cael ei adolygu ac y byddai'r uchod yn cael ei ystyried;

.2 y byddai'n fuddiol cynnwys proses ddilysu ar gyfer y gwaith Marcio ac Asesu i fel bod y gwaith yn cael ei wneud yn yr un modd ar draws pob ysgol;

.3 bod Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn rhan o sgyrsiau am dai myfyrwyr ond bod myfyrwyr yn parhau i wynebu heriau o ran dod o hyd i lety addas, a byddai'n fuddiol mabwysiadu ymagwedd traws-ddinas, i wneud yn siŵr bod prifysgolion yn cydweithio i roi llety i bawb; cadarnhaodd y Prif Swyddog Gweithredu fod cytundeb ar waith gydag Unite i gaffael rhagor o lety ond roedd yn cytuno bod angen ystyried hyn mewn modd cyfannol ar draws y ddinas; roedd Strategaeth Preswylfeydd yn cael ei datblygu;

.4 bod ystafell weddïo ychwanegol wedi'i nodi ym Mharc y Mynydd Bychan ond mae yn yr un adeilad â'r ystafell bresennol, felly mae’n bosibl y byddai adeilad arall yn fwy dymunol; cadarnhawyd bod gwaith yn mynd rhagddo i fapio ystafelloedd gweddïo ar draws y campws a nodi lleoliadau addas eraill; roedd gwaith hefyd ar y gweill gyda TG i gynnwys lleoliadau ystafelloedd gweddïo yn ap y myfyrwyr;

.5 bod gan Barc y Mynydd Bychan y gyfran waethaf o ran faint o le sydd ar gael i fyfyrwyr astudio, ac y dylid adolygu hyn; amlygwyd bod safle Parc y Mynydd Bychan yn cael ei rannu â'r GIG a bod hyn yn gosod rhai cyfyngiadau ar faint o le sydd ar gael;

1040.6  bod adborth penodol gan fyfyrwyr yn cael ei gynnwys yn Safbwynt y Myfyrwyr a bod ymateb y Brifysgol wedi'i ddrafftio yn yr un modd ar lefel uwch; nodwyd pryder felly bod yr argymhellion yn Safbwynt y Myfyrwyr a sut caiff y rhain eu rhoi ar waith, yn cael eu cytuno o’r brig i lawr yn hytrach nag ar lefel leol; roedd gofyniad rheoliadol i'r Brifysgol ddarparu ymateb sefydliadol i adborth blynyddol Undeb y Myfyrwyr, felly mae angen mewnbwn ar lefel rheolwyr; roedd disgwyl y byddai adborth ar argymhellion Safbwynt y Myfyrwyr yn cael ei rannu drwy Fyrddau Astudiaethau, Paneli Myfyrwyr Staff, a Phwyllgorau Addysg a Phrofiad Myfyrwyr Colegau ac Ysgolion a bod yr eitem ddiweddarach ar yr Adolygiad Llywodraethu Addysg yn nodi bod angen gwella’r llif hwn o wybodaeth.

Penderfynwyd

1040.7 cynnwys y Cyfarwyddwr Ystadau mewn cyfarfod partneriaeth misol rhwng Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol, i drafod y materion ystadau a nodwyd yn 1040.5.4 a 1040.5.5;

1040.8  argymell i'r Cyngor yr ymateb i Safbwyntiau’r Myfyrwyr ar gyfer 2023.

1041 Canlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr

Derbyniwyd ac ystyriwyd adroddiad llafar gan y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr.

Nodwyd

1041.1 ei bod yn bwysig rhannu manylion canlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr â’r Senedd, o ystyried ei rôl yn cynghori'r Cyngor a’r cyfrifoldeb sydd ganddi dros faterion academaidd a materion sy’n ymwneud â phrofiad y myfyrwyr;

1041.2 bod Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi'i lansio yn 2005 a'i fod yn arolwg o holl israddedigion y DU; felly, mae’n adlewyrchu'r darlun cenedlaethol o brofiad myfyrwyr ac mae rheoleiddwyr yn ei ddefnyddio fel ffon fesur gynrychiadol o brofiad myfyrwyr; mae hefyd yn effeithio ar safleoedd mewn tablau cynghrair;

1041.3 ei bod yn bwysig ystyried cyfraddau ymateb wrth adolygu’r canlyniadau a bod y gyfradd ymateb gyffredinol wedi cynyddu i 71% yn 2023;

1041.4 bod yr arolwg wedi’i ddiwygio ar gyfer 2023, gyda’r ateb canolog niwtral wedi’i ddileu, iaith fwy emosiynol wedi’i defnyddio a chwestiwn wedi’i ychwanegu am les meddwl; roedd y sgôr ar gyfer boddhad cyffredinol wedi'i dileu hefyd ar gyfer sefydliadau yn Lloegr ond mae yno o hyd ar gyfer gwledydd eraill yn y DU;

1041.5 bod ymatebwyr i arolwg eleni wedi dechrau addysg uwch yn 2020 yn ôl pob tebyg a bod Covid, gweithredu diwydiannol a’r argyfwng costau byw wedi effeithio arnynt yn ystod y cyfnod hwn;

1041.6 mai dyma brif benawdau’r canlyniadau:

.1 bod y canlyniadau wedi peri siom i’r Brifysgol ac nad oedd y rhain yn adlewyrchu ymdrechion ar draws y sefydliad yn y maes hwn;

.2 bod sgôr y Brifysgol yn is na chyfartaledd y sector ar bob lefel o ran boddhad myfyrwyr, a’i bod wedi methu â gwrthdroi’r dirywiad a welwyd dros y blynyddoedd blaenorol;

.3 bod 25 o 62 o bynciau wedi gwella o ran boddhad cyffredinol, a bod gwelliant o dros 10% mewn 7 pwnc, a oedd yn braf i’w weld; fodd bynnag, bu gostyngiad mewn 34 o bynciau, a hynny o dros 10% mewn 8 pwnc:

.4 mai Undeb y Myfyrwyr yw’r dangosydd perfformiad uchaf o hyd;

.5 bod rhai themâu yn gwella ond ar gyfradd arafach o’i chymharu â'r sector yn gyffredinol;

.6 bod 16 dangosydd yn is na’r meincnod yn ystadegol;

1041.7 bod y Brifysgol, o'i chymharu â'r sector, yn tanberfformio yng nghyd-destun Cymru, Grŵp Russell a ledled y DU, a bod angen gwella hyn;

1041.8  mai’r Brifysgol erbyn hyn, yn sgîl canlyniadau'r Arolwg, yw’r sefydliad a reoleiddir fwyaf yng Nghymru oherwydd y monitro ychwanegol, a bod 50% o ysgolion yn cael eu monitro gan CCAUC; ychwanegodd hyn lefel uchel o faich rheoleiddio gan fod yr angen i ymateb eleni wedi cyd-daro â dechrau'r flwyddyn academaidd, o ganlyniad i’r oedi wrth gyhoeddi canlyniadau'r Arolwg; diolchwyd i bawb a chwaraeodd ran wrth ymateb i ganlyniadau'r arolwg;

1041.9 bod canlyniadau'r Arolwg wedi arwain at risg sefydliadol uchel y bydd y ddarpariaeth academaidd yn annigonol (fel y'i diffinnir gan CCAUC) a bod y Brifysgol wedi cyflwyno cynllun sefydliadol i ddangos sut y byddai’n mynd i'r afael â'r risg hon;

1041.10 bod cynlluniau cymorth ar gyfer ysgolion yn cael eu paratoi hefyd i’w helpu i roi cynlluniau ysgolion ar waith;

1041.11 bod y gwaith i fynd i'r afael â chanlyniadau'r Arolwg yn ystyried y Brifysgol gyfan ac yn cynnwys Gwasanaethau Proffesiynol, felly nid mater i staff academaidd yn unig yw hwn;

1041.12 bod canlyniadau cryf o ran deilliannau graddedigion a pherfformiad REF wedi golygu bod safleoedd y Brifysgol yn y tablau cynghrair wedi aros yn gyson, ond mae disgwyl i ganlyniadau siomedig yr Arolwg ddechrau effeithio ar safleoedd y Brifysgol ac ar recriwtio myfyrwyr;

1041.13 bod llawer iawn o waith eisoes wedi'i wneud i wella sgorau yn yr Arolwg, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill): datblygu staff addysgu; cau'r ddolen adborth; adolygu cymorth tiwtoriaid personol; adolygu modelau gwasanaeth; a chymorth lles;

1041.14 mai dim ond un ffordd o fesur o brofiad myfyrwyr yw’r Arolwg, er ei fod yn bwysig;

1041.15 y dylai effaith covid ar garfannau o fyfyrwyr leihau yn y dyfodol ac y bydd canlyniadau’r Arolwg, gyda lwc, yn adlewyrchu hyn;

1041.16 bod gwaith wedi’i wneud i rannu arferion gorau’r ysgolion sy’n perfformio'n dda ond roedd hyn yn aml yn berthnasol i ysgolion penodol a phynciau â charfannau bach;

1041.17 ei bod yn hanfodol sicrhau bod y ddarpariaeth fugeiliol a gynigir i fyfyrwyr yn gydlynol ar draws y Brifysgol; mae cyfathrebu â myfyrwyr a’u cyfeirio yn hanfodol yma hefyd, beth bynnag fo’u hysgol neu ddisgyblaeth;

1041.18 bod y canlyniadau'n awgrymu nad oedd y Brifysgol wedi adfer cystal â’r sector ar ôl y pandemig, a bod cyflymder y gwelliant yn araf;

1041.19  bod Undeb y Myfyrwyr wedi croesawu gwahoddiadau diweddar i ymweld ag ysgolion ac adolygu sut i adeiladu cymuned a gwneud i’r myfyrwyr deimlo eu bod yn perthyn iddi;

1041.20 y dylid ystyried llwyth gwaith staff hefyd; pwysleisiwyd mai profiad y myfyrwyr ddylai fod yn sail i'r holl weithgarwch, felly mae'n bosibl y bydd angen gwneud llai o rai gweithgareddau neu roi’r gorau iddynt er mwyn gwneud yn siŵr bod hyn yn digwydd.

1042 Adroddiad Ansawdd Blynyddol

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/189R, 'Adroddiad Ansawdd Blynyddol 2022-23'. Siaradodd y Rhag Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

1042.1 bod yr adroddiad yn cynnwys trosolwg o'r system ansawdd flynyddol a'i gweithrediad er mwyn sicrhau gwelliant parhaus;

1042.2 cadarnhaodd yr adroddiad hefyd fod safonau’r dyfarniadau'n cael eu gosod a'u cynnal yn briodol a bod y Brifysgol yn cymryd camau i fynd i'r afael â phryderon ynghylch profiad y myfyrwyr;

1042.3 bod adran 6.4 yn ymdrin â'r adroddiad archwilio mewnol ar y broses hysbysu canlyniadau y gofynnwyd amdani yn dilyn Adroddiad Ansawdd Blynyddol 2021/22; roedd yr adroddiad archwilio wedi rhoi peth sicrwydd ac roedd Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi'i sefydlu i fwrw ymlaen ag argymhellion y rheolwyr; roedd hwn yn ddarn sylweddol o waith, ac fe gymeradwyodd y Bwrdd Gweithredol achos busnes ar gyfer Prosiect Prosesu Marciau ym mis Hydref 2023; byddai'r prosiect yn parhau tan 2025/26 a bydd rhaid cyflawni nifer o elfennau yn y flwyddyn gyntaf i roi sicrwydd;

1042.4 bod data anghyflawn ar gyfer 2022/23 yn adrannau 4.2 a 4.3 (Canlyniadau Gradd) oherwydd boicot marcio ac asesu (MAB) a oedd wedi peri i ganlyniadau cynnydd a dyfarniadau gael eu gohirio; bydd adolygiad pellach yn cael ei gynnal cyn diwedd 2023 i ddarparu datganiad wedi'i ddiweddaru am ddeilliannau gradd a data i lenwi’r bylchau dyfarnu, ac y byddai gofyn i'r Senedd eu hadolygu maes o law; roedd yn braf nodi nad oedd arholwyr allanol wedi codi unrhyw bryderon ynghylch safonau academaidd dyfarniadau;

1042.5 bod nifer o ffactorau yn effeithio ar y bwlch dyfarnu a bod y Brifysgol yn edrych ar y maes hwn yn fanwl i wneud yn siŵr bod adnoddau a chefnogaeth ar ei gyfer drwy'r prosiect Addysg Gynhwysol;

1042.6 roedd gwaith da wedi'i wneud ynghylch deallusrwydd artiffisial (AI) ac roedd canllawiau wedi'u cyhoeddi; teimlad presennol y sector oedd parhau i archwilio asesiadau amgen a oedd yn ategu cywirdeb academaidd yn hytrach na dychwelyd i arholiadau ysgrifenedig traddodiadol;

1042.7 ei bod yn ofynnol i'r Brifysgol adrodd i Gomisiynydd y Gymraeg am unrhyw gwynion yn ymwneud â'r Gymraeg; credwyd bod y rhain wedi'u cynnwys yn yr Adroddiad Cwynion Blynyddol a dderbyniwyd gan y Bwrdd Gweithredol ac y dylid ystyried eu cynnwys yn yr Adroddiad Ansawdd Blynyddol (AQR);

1042.8 y croesawyd bod profiad myfyrwyr ôl-raddedig wedi’i gynnwys yn yr adroddiad.

Penderfynwyd

1042.9 adolygu sut mae cwynion am y Gymraeg yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad;

1042.10 y byddai’r Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr yn trafod cynrychiolaeth myfyrwyr ôl-raddedig ar fyrddau/grwpiau gydag Is-lywydd y Myfyrwyr Ôl-raddedig (Addysg a Lles);

1042.11 argymell i’r Cyngor gymeradwyo’r Adroddiad Ansawdd Blynyddol a bod yr adroddiad yn cael ei ddefnyddio fel sail ar gyfer y datganiadau sicrwydd sy'n ymwneud â safonau academaidd ac ansawdd profiad y myfyrwyr a gyflwynir gan y Cyngor i CCAUC.

1043 Adroddiad y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd i'r Senedd

Derbyniwyd papur 23/229 'Adroddiad y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd'. Siaradodd y Rhag Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

1043.1 bod yr adroddiad yn adlewyrchu cyfarfodydd y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf a mis Hydref;

1043.2 y byddai Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael ei sefydlu i adolygu cydymffurfiaeth â'r diwygiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar i gyngor cyfraith defnyddwyr;

1043.3  bod arolwg wedi'i gynnal ynghylch asesiadau gwaith grŵp a byddai canllawiau ar hyn i ddilyn; nodwyd bod gweithio mewn grwpiau wedi'i adolygu yn yr Ysgol Busnes a gallai fod canllawiau defnyddiol i'w rhannu'n ehangach o ganlyniad i hyn;

Polisi Marcio a Chymedroli

1043.4 bod y papur yn cyflwyno Polisi Marcio a Chymedroli wedi'i ddiweddaru i'w gymeradwyo gan y Senedd; Dr Kate Gilliver oedd wedi arwain y gwaith hwn; nodwyd bod y fersiwn a roddwyd i'r Senedd yn cynnwys rhai gwallau teipio a fformatio a fyddai'n cael eu cywiro;

1043.5 y cafwyd adborth cyson gan arholwyr allanol ynghylch anghysondebau wrth gymedroli; cwestiynau yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr ynghylch asesu a marcio oedd yr ail ffactor a ysgogodd y polisi diwygiedig;

1043.6 bod ymchwil wedi'i chynnal ar sut y rheolir marcio a chymedroli yn y sector, ochr yn ochr ag adborth gan arholwyr allanol a myfyrwyr;

1043.7 roedd y polisi'n cynnwys newid i gymedroli cyn marcio gan mai dyma’r arfer gorau yn y sector; roedd pryder y gallai hyn arwain at lwyth gwaith ychwanegol, ond roedd yr ysgolion lle'r oedd hyn eisoes yn digwydd wedi canfod ei fod wedi lleihau'r amser a gymerir i gymedroli gan fod cyd-ddealltwriaeth cyn dechrau marcio;

1043.8 y byddai'r polisi ar waith o fis Medi 2024 er mwyn caniatáu i waith gael ei wneud gydag ysgolion er mwyn ei gyflwyno; nodwyd bod llawer o ysgolion eisoes yn cyd-fynd â'r polisi diwygiedig;

1043.9  bod gwaith a oedd wedi’i wneud ynghylch gwaith cwrs rhy faith wedi bod yn heriol ac er gwaethaf ymgynghori, ni chafwyd cytundeb ar sut i reoli hyn (gwelwyd dulliau amrywiol yn y sector); cytunwyd felly y byddai'r dull gweithredu sydd yn y polisi gwreiddiol yn parhau; nodwyd bod arholwyr allanol wedi mynegi pryderon nad oedd y dull presennol yn briodol, felly byddai’r arfer gorau ar weithredu'r dull yn cael ei rannu ag ysgolion i sicrhau bod y polisi'n cael ei roi ar waith yn gyson ac, os oedd pryderon yn parhau, dylai'r Senedd adolygu'r dull o dan sylw;

1043.10 y byddai'n fuddiol adolygu'r geiriad i egluro beth yw’r polisi (yr hyn sy’n rhaid ei wneud) a beth yw canllaw (yr hyn y dylid ei wneud);

1043.11 bod rhai problemau wedi codi wrth gymedroli rhaglenni cydanrhydedd gan fod gwahanol ddulliau'n cael eu mabwysiadu ar draws ysgolion; awgrymwyd y dylid adolygu hyn wrth roi ar waith mewn ymarfer gweithredu a gwersi a ddysgwyd;

1043.12 y byddai'n ddefnyddiol nodi'r dehongliad o “lle bynnag y bo modd” mewn perthynas ag anhysbysrwydd (adran 2.4), oherwydd efallai na fydd hyn yn bosibl mewn sefyllfaoedd os oes nifer cyfyngedig yn meddu ar arbenigedd; nodwyd y gallai hwn fod yn faes da i'w adolygu mewn ymarfer sy’n ystyried y gwersi a ddysgwyd.

Penderfynwyd

1043.13 cymeradwyo'r Polisi Marcio a Chymedroli, yn amodol ar rannu copi glân o'r ddogfen â'r Senedd.

1044 Adroddiad y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr i'r Senedd

Derbyniwyd papur 23/230 'Adroddiad y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr'. Siaradodd y Rhag Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

1044.1 bod Safbwynt Myfyrwyr 2022 wedi gofyn am newid i recordiadau o ddarlithoedd a bod y Brifysgol wedi ymrwymo i ryddhau recordiadau darlithoedd yn awtomatig am 5 diwrnod, yn amodol ar ymgynghori ag Undebau Llafur a pharatoi canllawiau gweithredu;

1044.2 bod y Pwyllgor wedi gwneud mân ddiwygiad i'w Gylch Gorchwyl i gywiro enw'r Grŵp Dyfodol Myfyrwyr Llwyddiannus.

1045 Diweddariad ar yr adolygiad dwysiambr

Derbyniwyd ac ystyriwyd adroddiad llafar gan y Dirprwy Is-Ganghellor.

Nodwyd

1045.1 bod y Cyngor wedi comisiynu Adolygiad o Effeithiolrwydd Llywodraethu yn 2021 (adroddiad Nicholls); ar sail yr argymhellion yn yr adroddiad hwn, roedd y Cyngor wedi comisiynu adolygiad o'r berthynas rhwng y Cyngor a'r Senedd i sicrhau ei bod mor effeithiol â phosibl rhwng y cyrff, yn ogystal â’r byrddau eraill sy'n bwydo i mewn i'r cyrff hyn;

1045.2 y gelwir hwn yr adolygiad dwysiambr a byddai'n edrych ar feysydd megis y berthynas gyfansoddiadol, sut cafodd barn rhanddeiliaid ei cheisio a’i hystyried, a sut y rhoddwyd sicrwydd academaidd;

1045.3 bod Grŵp Gorchwyl a Gorffen (dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Is-Ganghellor) wedi'i sefydlu i oruchwylio'r adolygiad; Halpin fydd yn cynnal yr adolygiad;

1045.4 bod yr adolygiad yn y cam casglu gwybodaeth ar hyn o bryd a bod Halpin yn cwrdd â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys aelodau'r Senedd, aelodau'r Cyngor a'r rhai ar y Bwrdd Astudiaethau/Colegau a’r Pwyllgorau Addysg Ysgolion a Phrofiad Myfyrwyr;

1045.5 y byddai’r adroddiad drafft yn cael ei gyhoeddi ddiwedd Ionawr 2024, cyn cael ei rannu â'r Bwrdd Gweithredol, y Pwyllgor Llywodraethu, y Senedd a'r Cyngor.

1046 Diweddariad ar yr adolygiad llywodraethu addysg

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/240 'Adolygiad Llywodraethu Addysg'. Siaradodd y Rhag Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

1046.1 bod y trefniadau newydd ar gyfer llywodraethu addysg wedi dod i rym o 2021/22 a bod adolygiad wedi'i addo o sut maent yn cael eu gweithredu;

1046.2 bod yr adolygiad wedi'i gynnal ym mis Medi a mis Hydref 2023 a'i fod wedi cynnwys arolwg staff; byddai'r adolygiad hwn yn cael ei rannu â Halpin hefyd i fod yn rhan o'r Adolygiad Dwysiambr;

1046.3 mai dyma’r prif ddeilliannau:

.1 cymorth i staff ac eglurder ynghylch rolau'r pwyllgorau, gan gynnwys nodi unrhyw orgyffwrdd;

.2  dull mwy systematig i lif y wybodaeth drwy'r system i wneud yn siŵr bod staff yn ymwybodol o benderfyniadau; roedd hyn yn arbennig o wir o ran y llif yn ôl ac ymlaen i’r Byrddau Astudiaethau a nodwyd bod angen ymgynghori ac ymgysylltu â nhw’n fwy rheolaidd;

.3 adolygu cynrychiolaeth myfyrwyr ar bwyllgorau;

.4  adolygu Paneli Myfyrwyr-Staff a'u perthynas â Byrddau Astudiaethau;

1046.4  yr holwyd a ellir cynnwys cyflogi a hyfforddi tiwtoriaid ôl-raddedig yn rhan o gylch gorchwyl Pwyllgorau Addysg Ôl-raddedig a Phrofiad Myfyrwyr y Coleg; nodwyd y byddai'r Rhag Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr a'r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn rhoi ystyriaeth bellach o ran y lle gorau i drafod y materion hyn.

Penderfynwyd

1046.5 cymeradwyo'r newidiadau i'r Rheoliadau Rheoli Academaidd.

1047 Rhaglen cefnogi rhagoriaeth ymchwil

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/231 'Cefnogi Rhagoriaeth Ymchwil – Blaengynllunio ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2023-24'. Siaradodd y Rhag Is-ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter am yr eitem hon.

Nodwyd

1047.1 bod y rhaglen wedi'i sefydlu y llynedd gyda'r nod o ddiwygio arferion a gweithdrefnau ymchwil da a sicrhau cynllunio systematig a threfnus ar gyfer REF yn y dyfodol;

1047.2 bod y fframwaith wedi'i gynnwys yn y papur; byddai hwn yn cael ei rannu â Chyfarwyddwyr Ymchwil a Byrddau Colegau i benderfynu ar y cyfeiriad ar gyfer y dyfodol;

1047.3 bod ymgysylltu â Phenaethiaid Ysgolion a Chyfarwyddwyr Ymchwil wedi rhoi persbectif ar sefyllfa bresennol y Brifysgol a’r meysydd fydd yn flaenoriaeth i’r ysgolion yn y dyfodol; roedd ymrwymiad cryf ar lefel ysgolion i symud y rhaglen yn ei blaen ac roedd rhai ysgolion eisoes wedi adolygu hyn yn annibynnol; byddai rhaglen ymgysylltu i nodi cynnydd yn erbyn camau gweithredu yn ystod Gwanwyn 2024;

1047.4 bod gan y Brifysgol lawer o feysydd ymchwil o safon ryngwladol;

1047.5 bod y rhaglen yn rhoi pobl yn gyntaf ac y byddai'n adolygu mecanweithiau a diwylliant i sicrhau arferion gorau; roedd yr Athro Karin Wahl-Jorgensen wedi cynnal arolwg o ddiwylliant ymchwil a'i arwain;

1047.6 bod angen adolygu effaith ymchwil ar draws y sefydliad ac alinio hyn â'r risgiau a'r cyfleoedd posibl yn y maes hwn;

1047.7 mai ansawdd ymchwil oedd y ffocws a'r flaenoriaeth yn hytrach na mynd ar drywydd REF er ei fwyn ei hun; nodwyd bod sgyrsiau am REF a'i ddyfodol yn cael eu cynnal yn y sector a bod angen bod yn effro i newidiadau posibl mewn cyflwyniadau yn y dyfodol; nodwyd bod angen adolygu allbynnau ymchwil y Brifysgol o ystyried pa mor bell y maent o gyfartaledd Grŵp Russell;

1047.8 bod perchnogaeth leol yn allweddol; bod camau gweithredu wedi'u nodi ar lefel ysgolion a’r sefydliad.

1048 Newidiadau i Ordinhad 7

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/232 'Newidiadau i Ordinhad 7'. Siaradodd Ysgrifennydd y Brifysgol a’r Cwnsler Cyffredinol am yr eitem hon.

Nodwyd

1048.1 bod y Senedd wedi cael cais i wneud sylwadau ar aelodaeth arfaethedig y Senedd yn y Cyd-bwyllgor ac argymell i'r Cyngor;

1048.2 bod y Pwyllgor Llywodraethu wedi trafod aelodaeth y Cyngor o’r Cyd-bwyllgor yn ei gyfarfod ar 7 Tachwedd 2023 ac wedi argymell y dylai fod 2 aelod lleyg, un aelod allanol (Is-ganghellor, Profost neu swyddog cyfatebol o Sefydliad Addysg Uwch) ac un arall nad yw'n weithiwr na'n fyfyriwr;

1048.3 y byddai'r Cyd-Bwyllgor, ar ôl ei ffurfio, yn ffurfio un corff;

1048.4 bod rhestr aelodau'r Senedd wedi'i thrafod yng nghyfarfod y Senedd ym mis Mehefin 2022 a bod y papur yn edrych ar godeiddio penderfyniad y Senedd yn y cyfarfod hwnnw (ac fel yr adlewyrchwyd mewn fersiynau blaenorol o'r Cyd-bwyllgor); byddai hyn yn helpu i sefydlu Cydbwyllgor yn gyflym pan fyddai angen;

1048.5 bod y dull ethol ym mhob categori yn golygu mai dim ond y rhai cymwys yn y categori hwnnw y gellid eu henwebu a dim ond y rhai yn y categori hwnnw a fyddai'n gallu pleidleisio pe bai angen pleidlais (e.e. dim ond Penaethiaid Ysgol fyddai'n gymwys o dan y categori Pennaeth Ysgol a dim ond Penaethiaid Ysgolion fyddai’n gallu pleidleisio yn y categori hwn).

Penderfynwyd

1048.6 argymell i’r Cyngor gymeradwyo’r newidiadau i Ordinhad 7.

1049  Strategaeth newydd llyfrgelloedd ac archifau 2023 - 2027

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/89 'Strategaeth Newydd Llyfrgelloedd ac Archifau 2023 – 2027'. Siaradodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Llyfrgelloedd y Brifysgol am yr eitem hon.

Nodwyd

1049.1 mewn ymateb i ymholiadau, cadarnhawyd y canlynol:

.1 bod y strategaeth newydd yn cynnwys thema trawsnewid ardaloedd ac yn ystyried y posibilrwydd o adeilad newydd; roedd cael llyfrgell newydd ar gampws Cathays yn uchelgais ond nid oedd o fewn amserlen y strategaeth hon ac nid oedd penderfyniad wedi’i wneud ar hyn eto; bod angen cynllunio'r ardal a'r gofynion ar y gwasanaeth llyfrgell drwy’r strategaeth hon;

.2 bod y strategaeth yn cyfeirio at adnoddau gwybodaeth gan gynnwys cyfryngau digidol a phrint; rhagwelwyd y byddai angen adolygu casgliadau print yn ystod y strategaeth a'u rheoli'n rhan o broses barhaus i reoli'r ardal; byddai'r rhain yn parhau i gael eu cynnal ar y cyd â cholegau ac ysgolion;

.3 bod gweledigaeth i adolygu deunyddiau oedd â gwerth ymchwil ar draws y DU a chydweithio i bennu ble roedd y rhain yn cael eu storio’n barhaol; byddai hyn yn caniatáu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag unrhyw sefydliadau partner a chytundeb ar fecanweithiau i wneud yn siŵr bod modd eu rhannu; nid oedd disgwyl i staff neu fyfyrwyr orfod teithio i gael mynediad at y deunyddiau hyn; roedd gwaith yn mynd rhagddo ar hyn a bydd yr ysgolion yn cael rhagor o wybodaeth ar ôl ei ddatblygu.

Penderfynwyd

1049.2  cymeradwyo Strategaeth Newydd Llyfrgelloedd ac Archifau 2023 – 2027.

1050  Unrhyw Fater Arall

Nodwyd nad oedd unrhyw faterion eraill.

1051 Eitemau a gafwyd er gwybodaeth

Derbyniwyd y papurau canlynol er gwybodaeth:

  • 22/856 Cofnodion y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC) – 3 Gorffennaf 2023
  • 23/233 Cofnodion y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC) – 16 Hydref 2023
  • 23/234 Cofnodion y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr (ESEC) – 3 Hydref 2023
  • 23/242 Cytundeb Perthynas ag Undeb y Myfyrwyr a Siarter y Myfyrwyr
  • 23/206 Datganiad Blynyddol ar Onestrwydd Ymchwil
  • 23/235C Adroddiad Blynyddol gan y Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd
  • 23/236C Monitro Cynllun Ffioedd a Mynediad (FAP) 22-23
  • 23/237 Adroddiad Blynyddol Grantiau a Chontractau Ymchwil
  • 23/238 Aelodaeth gweithwyr ar Is-bwyllgorau’r Brifysgol 2023-24 (penodiadau a wneir gan y Senedd)

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Senedd Cofnodion 8 Tachwedd 2023
Dyddiad dod i rym:09 Mai 2024