Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Canllawiau i gyflogwyr: Hysbysebu swyddi gwag gyda Phrifysgol Caerdydd

  • Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig gwasanaeth hysbysebu am ddim i gyflogwyr hyrwyddo cyfleoedd i fyfyrwyr a graddedigion drwy TARGETconnect, ein bwrdd swyddi gwag ar-lein.

Mae'r canllawiau isod wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddenu a recriwtio ein myfyrwyr a'n graddedigion amrywiol a thalentog.

1. Mathau o swyddi gwag y gallwn eu hysbysebu

Rydym yn gwahodd cyflogwyr i lanlwytho'r swyddi gwag canlynol (yn y DU a thramor) yn unol â'r canllawiau a restrir isod:
1.1. Swyddi parhaol gwag i raddedigion.
1.2. Lleoliadau gwaith ac interniaethau.
1.3. Contractau tymor byr.
1.4. Profiadau dysgu cysylltiedig â gwaith, heriau a chystadlaethau, gan gynnwys rhaglenni mentora a chipolwg.
1.5. Gwaith gwirfoddol gyda sefydliad trydydd sector.
1.6. Gellir derbyn swyddi rhan-amser mewn amgylchiadau lle mae'r rôl yn cyfrannu at radd y myfyriwr (gwaith gofal/cymorth i fyfyrwyr gofal iechyd). Rhaid i'r rolau hyn nodi yn yr hysbyseb sut y gallan nhw helpu'r myfyrwyr i ennill profiad gwerthfawr i'w gradd.

2. Mathau o swyddi gwag na allwn eu hysbysebu

Mae gennym gyfrifoldeb i'n myfyrwyr sy'n golygu na allwn ni dderbyn:
2.1. Swyddi gwag nad ydyn nhw o safon i raddedigion. I hysbysebu swyddi gwag achlysurol rhan-amser, cysylltwch â'r Jobshop, y gwasanaeth cyflogadwyedd i fyfyrwyr sy'n cael ei redeg gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
2.2. Interniaethau di-dâl neu brofiad gwaith dros 70 awr, oni bai bod y rhain yn lleoliadau gwirfoddol i sefydliadau trydydd sector. Am fwy o wybodaeth am arferion gorau mewn interniaethau, gweler y canlynol: Common-Best-Practice-Code-on-High-Quality-Internships.pdf
2.3. Swyddi gwag nad ydyn nhw’n talu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol cyfreithiol, oni bai eu bod yn gyfleoedd gwirfoddol gyda sefydliadau trydydd sector. Rydyn ni’n argymell bod cyflogwyr yn talu cyflog i fyfyrwyr sy'n adlewyrchu lefel y gwaith y mae ein myfyrwyr neu raddedigion yn ei wneud.
2.4. Cyfleoedd yr amheuir eu bod yn anghyfreithlon, gormesol, gwahaniaethol neu sy’n ecsbloetio.
2.5. Swyddi gwag mewn sefydliadau lle gallai fod gwrthdaro buddiannau gyda chyllid ymchwil Prifysgol Caerdydd.
2.6. Swyddi i fyfyrwyr presennol sy'n gofyn am ymrwymiad o fwy na 15 awr yr wythnos yn ystod y semester.
2.7. Hysbysebion neu hyrwyddiadau gan Asiantaethau Recriwtio nad ydyn nhw’n cynnwys cyflogwr a enwir a manylion swydd penodol yn yr hysbyseb swydd neu wybodaeth hyrwyddo.
2.8. Cyfleoedd sy'n gofyn am gymryd meddyginiaeth fel cymryd rhan mewn treialon cyffuriau.
2.9. Cyfleoedd sy'n cynnwys ysgrifennu ar gyfer traethodau academaidd, deunydd sy'n gysylltiedig â chwrs neu ddatganiadau personol y gall myfyrwyr eraill eu defnyddio.
2.10. Rolau comisiwn-yn-unig neu rwydwaith 'pyramid' neu gynlluniau gwerthu o arddull tebyg.
2.11. Cyfleoedd sy'n hyrwyddo gwasanaethau i'n myfyrwyr a'n graddedigion am gost rhy uchel a/neu mae'r brifysgol eisoes yn cynnig y gwasanaeth cyfatebol yn rhad ac am ddim.

3. Swyddi gwag y tu allan i'r DU

3.1 Rhaid i gyfleoedd myfyrwyr neu raddedigion a gynigir mewn gwledydd y tu allan i'r DU gydymffurfio â deddfwriaeth gyflogaeth berthnasol y wlad.
3.2 Sylwch fod unrhyw hysbysebion am swyddi gwag gan gynnwys datganiadau fel 'rhaid gallu cael neu fod â chaniatâd i weithio yn y DU' yn cael eu diwygio i ddarllen, 'rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus, erbyn dechrau ei gyflogaeth, gael caniatâd i weithio yn y DU'.

4. Mae cyflogwyr yn gyfrifol am sicrhau’r canlynol

4.1 Mae'r holl wybodaeth a ddarperir sy'n ymwneud â swyddi gwag/lleoliadau yn gywir, yn gyfredol ac nid yw'n gamarweiniol mewn unrhyw ffordd.
4.2 Nid yw unrhyw swydd/i sy'n cael eu hysbysebu neu eu hyrwyddo yn wahaniaethol ac yn cydymffurfio â holl ddeddfwriaeth y DU sy'n ymwneud ag arferion recriwtio, gan gynnwys cyfleoedd cyfartal, cyfraith cyflogaeth a gofynion diogelu data.
4.3 Mae gennych bolisïau Iechyd a Diogelwch cyfredol a dilys, Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr ac Atebolrwydd Cyhoeddus mewn perthynas ag unrhyw gyfle a gynigir.
4.4 Rhoddir hysbysiadau o unrhyw newidiadau i archebion, gwybodaeth am swyddi gwag neu unrhyw drefniadau eraill i ni mewn da bryd.
4.5 Rydych yn derbyn ein bod yn cadw'r hawl i fod yn ddetholus ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am wybodaeth na gweithredoedd y cyflogwr/asiantaeth.

5. Ni ddylai hysbysebion a/neu hyrwyddiadau gynnwys

5.1 Cynnwys unrhyw ddeunydd sy'n ddifenwi unrhyw berson.
5.2 Cynnwys unrhyw ddeunydd sy'n anweddus, sarhaus, cas, neu ymfflamychol.
5.3 Torri unrhyw hawlfraint, hawl cronfa ddata neu nod masnach unrhyw berson arall.
5.4 Bod yn debygol o dwyllo unrhyw berson.
5.5 Torri unrhyw ddyletswydd gyfreithiol sy'n ddyledus i drydydd parti, megis dyletswydd gytundebol neu ddyletswydd hyder.
5.6 Dynwared unrhyw berson, neu gamliwio eich hunaniaeth neu gysylltiad ag unrhyw berson.

Canllawiau’r swydd wag

Mae'r Brifysgol yn defnyddio cwmni allanol, GTI, fel ein prosesydd data. Maen nhw’n darparu cronfa ddata TARGETconnect i ganiatáu i ni, fel rheolwr data, gysylltu â chi a gweinyddu ein gwasanaethau.

Cyn lanlwytho swydd wag, bydd angen i chi gofrestru a derbyn eu telerau ac amodau. Am fwy o wybodaeth am sut y bydd Prifysgol Caerdydd yn trin data cyflogwyr, gweler ein datganiad preifatrwydd ar gyfer cyflogwyr.

Er bod pob ymdrech wedi'i gwneud i sicrhau mai dim ond myfyrwyr a graddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n gallu cael mynediad at swyddi gwag (hyd at dair blynedd), ni allwn warantu hyn.

Byddwn yn ymateb i'r holl archebion gwasanaeth neu geisiadau hysbysebu swydd a'u prosesu o fewn 3 diwrnod gwaith. Os bydd angen i ni gysylltu â chi i drafod eich cais neu ofyn am ragor o wybodaeth, efallai y bydd hyn yn oedi'r broses. Fel rhan o'r broses hon, efallai y byddwn yn gwneud mân ddiwygiadau neu olygiadau i'r wybodaeth rydych wedi'i darparu, er mwyn cydymffurfio â gofynion ein system. Fodd bynnag, nid ydym yn gwarantu y bydd TARGETconnect, nac unrhyw gynnwys arno, yn rhydd o wallau neu hepgoriadau.

Ni allwn warantu y bydd mynediad at TARGETconnect, nac unrhyw gynnwys arno, bob amser ar gael, neu na fydd yn cael ei dorri ar ei draws. Caniateir mynediad dros dro. Efallai y byddwn yn atal, tynnu'n ôl, terfynu neu newid unrhyw ran o TARGETconnect heb rybudd. Ni fyddwn yn atebol os nad yw TARGETconnect ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm.

Bydd methu â chydymffurfio â'r canllawiau hyn yn arwain at gamau y credwn ni eu bod yn briodol, a allai gynnwys, heb gyfyngiad, dileu ar unwaith, dros dro neu barhaol unrhyw hysbyseb a/neu hyrwyddiad gan TARGETconnect.

Cymorth i gyflogwyr

Mae Prifysgol Caerdydd yn cydweithio â sefydliadau ar draws pob sector i gefnogi eich ymgyrchoedd denu a recriwtio. Rydym yn cynnig ystod gynhwysfawr a phwrpasol o wasanaethau a digwyddiadau i'ch helpu i adeiladu eich brand a nodi talent yn y dyfodol. Gallwch weld y gefnogaeth sydd ar gael yn ein Llyfryn i Gyflogwyr.

Mae'n hawdd ychwanegu eich swydd wag ac mae ein tîm wrth law i gynorthwyo os oes unrhyw broblemau. Rydyn ni’n cynnig y canlynol:

  • Gwasanaeth cyflym ac effeithlon
  • Help a chyngor ynghylch hysbysebu swyddi gwag
  • Cyfle i drafod y ffordd orau o ddefnyddio ein digwyddiadau a’n gwasanaethau i ddiwallu anghenion eich cleientiaid
  • Help i drefnu digwyddiadau gyrfaoedd a chyflogwyr
  • Cyfle i adeiladu partneriaethau gyda ni

Gallwn ni helpu i recriwtio hefyd. Rydyn ni’n cynnig:

  • Cymorth cyfweliad wyneb yn wyneb neu ddigidol
  • Ystafelloedd grŵp bach ar gyfer sgyrsiau anffurfiol
  • Gweithgareddau canolfan asesu ar lefel graddedigion

Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â'r Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda lanlwytho swyddi gwag, neu ddefnyddio'r platfform trwy employerservices@caerdydd.ac.uk.