Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd

  • Diweddarwyd ddiwethaf:

Datganiad preifatrwydd i gyflogwyr a sut y bydd Prifysgol Caerdydd yn trin data cyflogwyr.

Gwybodaeth amdanoch chi: Sut rydyn ni'n ei ddefnyddio a gyda phwy rydyn ni'n ei rannu

Mae’n fuddiant dilys i’r Brifysgol ddefnyddio eich manylion cyswllt proffesiynol i ddarparu’r gwasanaeth rydych yn dymuno ei gael gennym ni ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am sut gallwn ni eich helpu. Rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth er mwyn:

  • Rhoi gwybod i chi am ein gwasanaethau, gan gynnwys hysbysebu swyddi, cymryd rhan mewn digwyddiadau, a chreu eich proffil yn y Brifysgol.
  • Rhoi newyddion i chi am y Brifysgol a'n myfyrwyr a'n graddedigion drwy gylchlythyrau.
  • Cael eich adborth drwy arolygon achlysurol.
  • Holi am gymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu a recriwtio myfyrwyr.
  • Cysylltu â chi am unrhyw newidiadau i’r telerau ac amodau sy’n ymwneud â’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig.

Mae'r Brifysgol yn defnyddio cwmni allanol, GTI, yn brosesydd data. Maen nhw’n darparu cronfa ddata TARGETconnect i ganiatáu i ni’r rheolwr data, gysylltu â chi a gweinyddu ein gwasanaethau.

Byddwn ni’n cadw'r manylion cyswllt proffesiynol rydych chi'n eu rhoi am hyd at 3 blynedd a byddwn ni’n cysylltu â chi bob 3 blynedd i wirio'ch manylion a chadarnhau eich bod am aros ar ein cronfa ddata ac ni fyddwn ni’n rhannu hyn ag unrhyw un arall.

Mae manylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data a rhagor o fanylion am eich hawliau diogelu data ar gael: Ein polisi diogelu data

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi gael eich tynnu oddi ar ein cronfa ddata, cysylltwch ag employerservices@caerdydd.ac.uk.