Trwydded Meddalwedd Prifysgol Caerdydd ar gyfer y Storfa Data Ymchwil
- Diweddarwyd ddiwethaf:
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Hawlfraint © 2016 Prifysgol Caerdydd
Mae Trwydded Meddalwedd Prifysgol Caerdydd yn cael ei chymhwyso mewn rhai achosion i feddalwedd sydd wedi’i chyhoeddi yn y Storfa Data Ymchwil. Mae setiau data a gyhoeddir o dan y drwydded hon wedi'u nodi'n glir ar dudalen cofnodion y set ddata unigol.
Rhoddir caniatâd, yn rhad ac am ddim, i unrhyw berson sydd yn cael copi o'r meddalwedd hwn a ffeiliau dogfennau cysylltiedig (y "Meddalwedd"), i ymdrin â'r Meddalwedd heb gyfyngiad, gan gynnwys heb gyfyngiad yr hawl i ddefnyddio, copïo, addasu, cyfuno, cyhoeddi, dosbarthu, is-drwyddedu, ac/neu gwerthu copïau o'r Meddalwedd, ac i ganiatáu i bersonau y rhoddir y Meddalwedd iddyn nhw wneud hynny, yn amodol ar yr amodau canlynol:
- (i) rhaid cynnwys y hysbysiad hawlfraint uchod a'r hysbysiad caniatâd hwn ym mhob copi neu ran sylweddol o'r Meddalwedd
- (ii) bydd unrhyw wybodaeth a gynhyrchir drwy ddefnyddio'r Meddalwedd hwn (naill ai yn ei gyfanrwydd, yn rhannol neu ar ffurf wedi'i haddasu) ac a gyflwynir i'r parth cyhoeddus yn cyd-fynd â chydnabyddiaeth ei bod wedi ei chynhyrchu o ganlyniad i ddefnyddio'r Meddalwedd (yn ei gyfanrwydd, yn rhannol, neu ar ffurf wedi’i haddasu) ac awdur y Meddalwedd, gan ddefnyddio'r cyfeiriad a roddir
- (iii) Ni chaiff enw Prifysgol Caerdydd nac ychwaith enw awdur y Meddalwedd eu defnyddio ac eithrio fel y'i pennir yn (ii), ac yn benodol ni chaiff eu defnyddio i gymeradwyo na hyrwyddo cynhyrchion sy'n deillio o'r Meddalwedd hynny (ar ffurf wreiddiol neu wedi'i haddasu)
Darperir y meddalwedd "fel y mae", heb warant o unrhyw fath, naill ai wedi'I fynegi neu ymhlyg, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig I warantau marsiandwyaeth, ffitrwydd at bwrpas arbennig a pheidio â thorri amodau. Ni fydd yr awduron na'r deiliaid hawlfraint yn atebol dan unrhyw amgylchiadau am unrhyw hawliad, iawndal, neu atebolrwydd arall, boed mewn achos contract, Camwedd neu fel arall, sydd yn deillio o, allan o neu mewn cysylltiad â'r meddalwedd, ei ddefnydd, neu drafodion eraill ag ef.