Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Yr egwyddorion arweiniol ynghlwm wrth asesu ffioedd

1. Egwyddorion asesu statws ffioedd

1.1Prifysgol Caerdydd fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch statws ffioedd myfyriwr yn seiliedig ar wybodaeth unigol yn unol â Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007, Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymwys a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015, ac unrhyw ddiwygiadau dilynol.

1.2 Mae’r Brifysgol yn defnyddio canllawiau UKCISA (Cyngor Materion Myfyrwyr Rhyngwladol y DU) i Gymru (Cymru: statws ffioedd (Addysg Uwch) i bennu statws ffioedd.

1.2.1 Bydd statws eich ffioedd yn pennu cyfradd y ffioedd dysgu rydych yn gyfrifol am eu talu:

  • y DU
  • Ynys (Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw)
  • Yr UE
  • neu Dramor

Sylwer, os oes angen Fisa Myfyriwr arnoch i astudio yn y DU mae'n rhaid ichi gael eich dosbarthu yn fyfyriwr Tramor neu'n fyfyriwr yr UE.

1.2.2 Mae dosbarthiadau statws ffioedd yn amodol ar ddehongli canllawiau UKCISA. Er enghraifft, wrth benderfynu ar breswylfa arferol efallai y bydd angen ystyried a ellir ystyried absenoldeb o'r DU yn “absenoldeb dros dro.” Gan nad yw 'dros dro' wedi'i ddiffinio'n benodol yng nghanllawiau UKCISA neu ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i arfer ei barn. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y Brifysgol yn ystyried cyfraith achosion ynghylch preswylfa arferol ac yn sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei drin yn deg ac yn gyson.

1.2.3 Barna'r Brifysgol mai diwrnod cyntaf y rhaglen yw'r "dyddiad perthnasol" wrth benderfynu ar y breswylfa arferol.

1.2.4 Os bydd ymgeisydd yn ennill statws preswylydd sefydlog ar ôl y dyddiad perthnasol (fel yr amlinellir yn Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007) ond cyn dechrau'r rhaglen, bydd y Brifysgol yn barnu mai diwrnod cyntaf y rhaglen fydd y dyddiad perthnasol wrth benderfynu ar statws y cynnig.

2.  Y broses asesu

2.1 Cadarnheir statws ffioedd ar ôl derbyn cais ffurfiol i'r Brifysgol sy'n llwyddiannus (h.y., pan gynigir lle astudio neu y gellir cynnig lle). Caiff statws ffioedd pob ymgeisydd yn unigol, gan ddibynnu ar amgylchiadau unigryw pob unigolyn, ei ystyried gan aelod o Dîm Derbyn y Brifysgol sydd â’r arbenigedd perthnasol.

2.2 Fel arfer, penderfynir ar statws ffioedd gan ddefnyddio’r wybodaeth a gyflwynir yn y cais am fynediad.

2.2.1 Os na ellir pennu statws ffioedd gan ddefnyddio’r wybodaeth a gyflwynir ar y cais, gofynnir i'r ymgeisydd lenwi holiadur asesu ffioedd a darparu dogfennaeth a gwybodaeth ategol berthnasol. Mae’n rhaid datgelu’r holl wybodaeth/dogfennau perthnasol sy’n hysbys/ar gael ar adeg gwneud y cais.

2.2.2 Gwneir penderfyniadau ynghylch statws ffioedd cyn gynted â phosibl. Fel arfer, caiff asesiadau terfynol eu gwneud cyn cofrestru, yn amodol ar gyflwyno’r dogfennau priodol.

2.2.3 Bydd methu â chyflwyno dogfennaeth neu wybodaeth ategol, pan ofynnir amdani, yn arwain at ddyrannu'r gyfradd uwch o ddosbarthiad ffioedd. Caniateir o leiaf 14 diwrnod gwaith i gyflwyno dogfennau/gwybodaeth.

2.3 Os ydych yn gwneud cais am fynediad gohiriedig, bydd statws eich ffioedd yn seiliedig ar eich amgylchiadau ar yr adeg y gwnaethoch gais. Fodd bynnag, os bydd eich amgylchiadau'n newid cyn ichi ddechrau eich rhaglen, cewch ofyn am gael eich ailasesu.

3.  Ailasesu statws ffioedd

3.1 Mae gennych yr hawl i ofyn am ailasesu statws eich ffioedd os ydych yn anghytuno â dosbarthiad statws y ffioedd a bod gennych sail resymol dros wneud hynny. Mae seiliau rhesymol fel a ganlyn:

  • gwybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol sy’n dangos bod dosbarthiad y ffi yn anghywir
  • mae eich amgylchiadau wedi newid ers yr asesiad gwreiddiol, er enghraifft, rydych yn ymgeisydd mynediad gohiriedig a fydd hwyrach yn bodloni'r gofynion preswylio bellach
  • rydych o’r farn nad yw eich asesiad wedi’i drin yn deg nac yn gyson, nac yn unol â rheoliadau swyddogol

3.2 Dylid gwneud pob cais am ailasesiad yn ysgrifenedig i’r Pennaeth Derbyn cyn pen 28 diwrnod ar ôl derbyn cynnig ffurfiol drwy e-bostio admissions-advice@caerdydd.ac.uk. Dylech gynnwys "ailasesu statws ffioedd" yn llinell pwnc eich e-bost. Mae’n rhaid ichi roi eich enw llawn a rhif cais Prifysgol Caerdydd neu rif adnabod personol UCAS, yn ogystal ag unrhyw ddogfennau neu dystiolaeth sy’n berthnasol i’r cais am ailasesu. Os ydych wedi ymrestru cyn pen 28 diwrnod ar ôl derbyn y cynnig ffurfiol ac yn dymuno gofyn am ailasesiad, e-bostiwch eich cais i studentconnect@caerdydd.ac.uk.

3.3 Nid oes terfyn amser yn achos ailasesu statws ffioedd os yw amgylchiadau perthnasol ymgeisydd wedi newid h.y. os ydych wedi cael caniatâd amhenodol i aros yn ddiweddar.

3.4 Ni fydd ymgeiswyr yn dioddef unrhyw anfantais o ganlyniad i ofyn am ailasesu statws eu ffioedd.

3.5 Bydd y Brifysgol yn rhoi ateb cychwynnol cyn pen 28 diwrnod ar ôl derbyn cais i ailasesu statws ffioedd. Cewch ofyn am wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol yn rhan o'r ailasesiad.

4.  Panel Apêl

4.1 Mae gennych yr hawl i ofyn i banel apêl adolygu eich achos os ydych yn anghytuno â dosbarthiad statws eich ffioedd yn dilyn ailasesiad a bod gennych seiliau rhesymol dros wneud hynny. Mae seiliau rhesymol fel a ganlyn:

  • rydych o’r farn nad yw eich asesiad wedi cael ei drin yn deg nac yn gyson, nac yn unol â’r rheoliadau swyddogol

4.2. Ni ddylech gyflwyno dogfennau neu dystiolaeth newydd i gefnogi statws eich ffioedd ar hyn o bryd. Os cyflwynir dogfennau neu dystiolaeth newydd, yna bydd yr achos yn parhau i gael ei reoli drwy'r broses ail-asesu (pwynt 3).

4.3 Mae’n rhaid gwneud cais am adolygiad gan banel apêl yn ysgrifenedig i'r Pennaeth Derbyn cyn pen saith diwrnod ar ôl derbyn eich penderfyniad ailasesu drwy e-bostio admissions-advice@caerdydd.ac.uk. Mae’n rhaid ichi roi eich enw llawn a rhif cais Prifysgol Caerdydd neu rif adnabod personol UCAS, yn ogystal ag unrhyw ddogfennau neu dystiolaeth sy’n berthnasol i’r apêl. Mae’n rhaid ichi hefyd nodi pa gategori UKCISA (Cymru) rydych chi o’r farn eich bod yn perthyn iddo, gan roi tystiolaeth sut rydych chi'n bodloni'r holl feini prawf yn y categori hwnnw.

4.4Bydd y panel apêl yn cynnwys o leiaf tri aelod o staff Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys o leiaf un cynrychiolydd nad yw’n aelod o’r Tîm Derbyn. Ni fydd dau aelod o leiaf o’r panel wedi bod ynghlwm wrth asesu’r ffioedd yn wreiddiol neu eu hailasesu.

4.5 Bydd aelodau'r panel yn asesu statws y ffioedd yn annibynnol ac yna'n trafod eu canfyddiadau. Cynhelir pob apêl mewn modd amserol, a byddwch chi neu barti awdurdodedig sy’n gweithredu ar eich rhan yn cael gwybod am amserlen gwneud penderfyniad pan fyddwn wedi derbyn y dystiolaeth/gwybodaeth lawn gennych.

4.6 Mae pob penderfyniad gan y panel yn derfynol ac nid oes hawl bellach i apelio. Bydd y Pennaeth Derbyn Myfyrwyr (neu aelod o’r staff sy’n gweithredu ar ei ran) yn rhoi gwybod ichi yn ysgrifenedig am y penderfyniad terfynol.

4.7 Os oes gennych dystiolaeth bod y Brifysgol wedi gwyro oddi wrth ei pholisi cyhoeddedig ar asesu ffioedd wrth ystyried eich apêl ynghylch statws ffioedd, mae gennych yr hawl i wneud cwyn ffurfiol. Gweler adran 4.3 o Weithdrefn Cwynion ac Apeliadau’r Ymgeisydd.

Sylwer mai dim ond yn ystod yr un cylch derbyn y mae cwyn wedi’i chyflwyno y gellir cyflwyno cwyn yn ysgrifenedig.

5.  Manylion cyswllt

5.1 I gael rhagor o wybodaeth am y ddogfen hon, cysylltwch â'r Tîm Cymorth Derbyn:

E-bostiwchadmissions-advice@caerdydd.ac.uk

Swydd: Y tîm Cefnogi Derbyn Myfyrwyr,
Prifysgol Caerdydd,
sbarc | spark,
Heol Maendy,
Caerdydd,
CF24 4HQ