Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Adroddiad Bioamrywiaeth Adran 6 Prifysgol Caerdydd 2022

Cyflwyniad a Chyd-destun mewn perthynas â Bioamrywiaeth

Mae Prifysgol Caerdydd yng Ngrŵp 2 yn y Disgrifiad o Sefydliadau mewn Perthynas â Bioamrywiaeth yn Nhabl 1 y ddogfen ganllaw Adran 6. Mae’r Brifysgol yn sefydliad sy’n berchen, yn meddiannu neu’n rheoli ei hadeiladau a’i thiroedd ei hun, ac felly mae’n gyfrifol am adrodd ar Amcanion 1-6 y Cynllun Gweithredu Adfer Natur.

Sefydlwyd Prifysgol Caerdydd yn 1883, ac mae’n un o brifysgolion ymchwil blaenllaw’r Deyrnas Unedig. Ein nod yw sicrhau manteision cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd ac iechyd nid yn unig i Gymru ond hefyd i'r byd ehangach. Mae Prifysgol Caerdydd yn cael ei harchwilio a’i hardystio hyd at safon ryngwladol ISO 14001, yn seiliedig ar system rheoli amgylcheddol effeithiol, a nodweddir gan wella’n barhaus. Cyhoeddodd y Brifysgol argyfwng hinsawdd ym mis Tachwedd 2019 gyda'r uchelgais o gyrraedd allyriadau carbon sero-net ar gyfer Cwmpas 1 a 2 dim hwyrach na 2030, ac ar gyfer Cwmpas 3 erbyn, neu cyn 2050. Yn rhan o’r cyhoeddiad, llofnododd y Brifysgol lythyr byd-eang yr EAUC (y Gynghrair dros Arweinyddiaeth Gynaliadwyedd mewn Addysg) a oedd yn dwyn ynghyd sefydliadau addysgol a rhwydweithiau ar draws y byd i gydnabod yr angen am newid cymdeithasol sylweddol i fynd i’r afael â bygythiad cynyddol y newid yn yr hinsawdd. Rydym hefyd yn llofnodwyr yr ymrwymiad 'Ras i Sero' a'r Cytundeb Nod Datblygu Cynaliadwy (SDG). Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gadwraeth bioamrywiaeth ac yn 2020 lluniodd ei Chynllun Gweithredu Cydnerthedd a Bioamrywiaeth Ecosystemau (ERBAP) cyntaf.

Ein Hymrwymiad i Fioamrywiaeth

Mae ein hymrwymiad i fioamrywiaeth yn cael ei adlewyrchu yn ein cyfeiriad strategol, sy'n cynnwys ein Strategaeth Galluogi Cynaliadwyedd Amgylcheddol, sy'n cysylltu â'r Nodau Datblygu Cynaliadwy a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru (2015).  Mae'r strategaeth alluogi yn manylu ar 'Brifysgol Gydnerth' fel un o'i nodau sylfaenol. Ein prif Ddangosydd Perfformiad Allweddol (DPA) ar gyfer bioamrywiaeth yw “Byddwn yn gwella seilwaith gwyrdd y Brifysgol drwy wella amodau amgylcheddol 30% o'r ystâd werdd erbyn 2023.” Mae'r DPA hwn wedi'i ymgorffori yn ein ERBAP. Mae ein mannau gwyrdd yn cael eu cydnabod fel rhan bwysig o'n Strategaethau Lles ac Iechyd Meddwl. Ym mis Tachwedd 2022 cafodd y Brifysgol, fel y sefydliad cyntaf yn y sector, ei hardystio ei bod yn cydymffurfio ag ISO 45003, safon canllawiau rhyngwladol newydd a gynlluniwyd ar gyfer rheoli peryglon seicogymdeithasol yn y gweithle a'i phrif nod yw lleihau nifer yr achosion o broblemau iechyd meddwl ymhlith staff drwy hyrwyddo lles sefydliadol.

Gofod, graddfa a lle

Yn bennaf, mae campysau Prifysgol Caerdydd wedi’u lleoli yng nghanol y ddinas, ac mae’r Brifysgol yn ymrwymo i warchod bioamrywiaeth lle bo hynny’n bosibl ar ein holl safleoedd boed hynny yn y ddinas neu’r rheiny gyda mwy o dir fel Caeau Chwaraeon Prifysgol Caerdydd (Llanrhymni) a Neuadd y Brifysgol. Mae gan Brifysgol Caerdydd nifer o adeiladau academaidd ar safle Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (campws Parc y Mynydd Bychan), sydd bellach yn cynnwys hen safle'r Adran Gwaith a Phensiynau i'r gorllewin o'r prif gampws. Y Bwrdd Iechyd yw landlordiaid rhai o'r safleoedd hyn ac felly nid yw'r safleoedd hynny wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn. Fodd bynnag, ein nod yw gweithio ochr yn ochr â'r BIP lle bynnag y bo modd i wella bioamrywiaeth. Mae ystad Prifysgol Caerdydd yn cynnwys ychydig yn llai na 40 o hectarau sydd, yn hanesyddol, wedi cynnal nifer fach o rywogaethau a chynefinoedd blaenoriaeth, fel y dangosir yn Nhablau 1 a 2:

Tabl 1. Rhywogaethau Blaenoriaeth Prifysgol Caerdydd  

Enw cyffredin  

Enw rhywogaeth  

Yn bresennol ar hyn o bryd?  

SPIB  

CL BAP  

CU W & W P  

Neidr ddefaid

Anguis fragilis

ydy

ydy

ydy

ydy

Ystlum lleiaf

Pipistrellus pipistrellus  

ydy

ydy

ydy

ydy

Madfall spp.

Lissotriton vulgaris; L. helveticus; Triturus cristatus  

Nac ydy

ydy

ydy

ydy

Gwylan penddu

Larus ridibundus  

ydy

ydy

ydy

Nac ydy

Gwylan y penwaig

Larus argentatus subsp. argentatus  

ydy

ydy

ydy

Nac ydy

Aderyn y to

Passer domesticus  

ydy

ydy

Nac ydy

Nac ydy

Teigr y benfelen

Tyria jacobeae  

ydy

Nac ydy

ydy

Nac ydy

Draenog

Erinaceus europaeus  

ydy

ydy

Nac ydy

ydy

Gwennol ddu

Apus apus  

ydy

Nac ydy

Nac ydy

ydy

Tylluan frech

Strix aluco  

ydy

Nac ydy

Nac ydy

ydy

Adar yr ardd

amrywiol  

ydy

Nac ydy

Nac ydy

ydy

peillwyr

amrywiol  

ydy

Nac ydy

Nac ydy

ydy

Clychau’r Gog

Hyacynthides non-scripta  

ydy

Nac ydy

Nac ydy

ydy

Cennin pedr

Narcissus pseudonarcissus  

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

ydy

Tabl 1. Rhywogaethau blaenoriaeth ERBAP Prifysgol Caerdydd. SPIB = Rhywogaethau Pwysig iawn ar gyfer Bioamrywiaeth, CL BAP = Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Caerdydd, CU W&W P = Cynllun Bywyd Gwyllt a Blodau Gwyllt Prifysgol Caerdydd.

Tabl 2. Cynefinoedd Blaenoriaeth Prifysgol Caerdydd  

Enw cyffredin  

HPIB  

CL BAP  

CU W & W P  

Dôl glaswelltir naturiol iseldir

ydy

ydy

ydy

Pyllau

ydy

ydy

ydy

Coetir collddail cymysg iseldir

ydy

ydy

ydy

Perth

ydy

ydy

ydy

Tabl 2. Cynefinoedd blaenoriaeth ERBAP Prifysgol Caerdydd, HPIB = Cynefin Pwysig Iawn

ar gyfer Bioamrywiaeth, CL BAP = Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Caerdydd, CU W&W P = Cynllun Bywyd Gwyllt a Blodau Gwyllt Prifysgol Caerdydd.

Cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus

Yn y gorffennol, mae'r rhywogaethau a'r cynefinoedd hyn wedi bod yn destun monitro achlysurol gan grwpiau gwirfoddol. Yn dilyn cyhoeddi'r ERBAP yn 2020, maent bellach yn cael eu monitro'n fwy rheolaidd o fewn cyd-destun bioamrywiaeth ei hun ond hefyd o ran darparu gwasanaethau ecosystemau. Mae Pwyllgor Llywio ERBAP yn cyfarfod bob mis ac yn cynnwys cynrychiolaeth o Gyngor Dinas Caerdydd, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru (WTSWW).

Llywodraethu mewn perthynas â Rheoli Bioamrywiaeth

Ffurfiodd y Brifysgol Bwyllgor Llywio ERBAP yn 2019, dan gadeiryddiaeth y Deon Cynaliadwyedd Amgylcheddol, sy'n cynnwys cynrychiolaeth o staff academaidd, cynrychiolwyr myfyrwyr, staff gwasanaethau proffesiynol gan gynnwys staff cynnal a chadw tiroedd sy'n gyfrifol am reoli safleoedd sy'n sensitif i fioamrywiaeth, yr adran Ystadau, a chynghorwyr allanol gan gynnwys Cyngor Dinas Caerdydd, CNC a WTSWW. Mae'r pwyllgor hwn yn bwydo gwybodaeth a gweithredoedd i Grŵp Llywio Systemau Rheoli Amgylcheddol (EMS) y Brifysgol, ac i Is-bwyllgor Cynaliadwyedd Amgylcheddol (ESS) y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau, sydd yn ei dro yn adrodd yn uniongyrchol i Gyngor y Brifysgol. Cadeirir ESS gan y Dirprwy Is-Ganghellor, gyda chynrychiolaeth o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.

Cynllun Gweithredu Cydnerthedd Ecosystemau a Bioamrywiaeth (ERBAP)

Pwrpas Pwyllgor Llywio ERBAP oedd datblygu Cynllun Gweithredu a mynd ar drywydd nodau'r cynllun yn ystod y cyfnod rhwng 2021 a 2023. Cyflwynwyd yr ERBAP yn briodol ym mis Tachwedd 2020 (gweler Atodiad 1 i'r adroddiad hwn). Mae'r ERBAP yn disodli cynlluniau blaenorol sydd wedi bod yn gweithredu ar lefel y brifysgol (gan gynnwys Cynllun Bywyd Gwyllt a Blodau Gwyllt 2018-2023). Yn gryno, mae'r ERBAP yn disgrifio cefndir bioamrywiaeth Prifysgol Caerdydd gan gynnwys cyfiawnhad dros osod ein bioamrywiaeth o fewn naratif cydnerthedd, sy'n gyson â fframwaith cydnerthedd DECCA Cyfoeth Naturiol Cymru a nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i ymdrechu i sicrhau Cymru gydnerth: “Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach, gweithredol sy’n cynorthwyo cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol a’r gallu i addasu i newid.” Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn fframio bioamrywiaeth yng nghyswllt ei chyfraniad at gyflawni cydnerthedd ecosystemau.

Mae'r ERBAP yn disgrifio bioamrywiaeth ac ystâd y Brifysgol o safbwynt rhywogaethau, cynefinoedd a safleoedd allweddol a'n cyd-destun a'n gweithgareddau lleol. Mae angen i ni sicrhau bod yr ERBAP yn gyson â chynlluniau Cyngor Caerdydd a Chyfoeth Naturiol Cymru fel ein bod yn sicrhau ein bod yn rheoli ystâd y Brifysgol mewn modd sy'n cynnal seilwaith gwyrdd mewn ffordd sy'n gwella bioamrywiaeth a chysylltedd, gan ysgogi gwelliannau synergaidd ar gyfer bioamrywiaeth ledled y ddinas. Mae ail adran yr ERBAP yn disgrifio ein prif gamau gweithredu dros gyfnod y cynllun, gan gynnwys penodi swyddog bioamrywiaeth a strategaeth adnoddau, ac mae'r drydedd adran yn cynnwys ein cynllun gweithredu. Trefnir y cynllun gweithredu yn ôl rhywogaethau a chynefinoedd â blaenoriaeth a'r dulliau monitro sydd eu hangen. Mae Targedau Rhywogaethau wedi'u cynnwys (gyda therfynau amser), fel y mae adran costau cyfalaf. Mae cynlluniau ar gyfer ymgysylltu a symud staff a myfyrwyr wedi'u cynnwys, ynghyd â Chynllun Addysg. Yn anffodus, oherwydd y pandemig, nid oedd gwaith maes yn bosibl ar gyfer llawer o 2021 ac felly dechreuodd y gwaith yng Ngwanwyn 2022. Fodd bynnag, rydym yn hyderus y gellir cwblhau'r holl weithgareddau erbyn diwedd 2023.

Uchafbwyntiau, Canlyniadau Allweddol, a Materion o weithredu Dyletswydd Adran 6

Camau gweithredu bioamrywiaeth allweddol

  1. Cyhoeddodd Prifysgol Caerdydd ei Chynllun Gweithredu Cydnerthedd Ecosystemau a Bioamrywiaeth 2021 – 2023. Amcanion y cynllun hwn oedd:
    1. Nodweddu lefel a dosbarthiad amrywiaeth fiolegol, wedi’i fesur o fewn ac ymhlith rhywogaethau, a statws presennol gwasanaethau ecosystem sy’n gysylltiedig â bioamrywiaeth ar draws ystâd y Brifysgol. Caiff y rhain eu gwerthuso yn gyntaf gan arolygon dwys a’u dadansoddi yn ystod Blwyddyn 1 ERBAP.
    2. Sefydlu’r strategaethau rheoli mwyaf effeithiol ar gyfer cynnal a chadw, adfer a gwella ystâd werdd y Brifysgol drwy fesurau lliniaru.
    3. Bydd cynefinoedd a swyddogaethau strategol y nodir eu bod mewn cyflwr anfoddhaol yn cael eu targedu ar gyfer eu hadfer a/neu eu gwella, gan gynnwys cynllun adfer graddol o amgylch ystâd y Brifysgol.
    4. Byddwn yn gwerthuso ystâd werdd y Brifysgol gyda’r nod o wella ei berfformiad bioamrywiaeth, waeth beth yw ei statws presennol. Ein nod yw adfer a gwella swyddogaeth a bioamrywiaeth 30% o ystâd werdd y Brifysgol erbyn 2023, ac i fod wedi cwblhau’r broses ar draws yr holl ystâd erbyn 2030.
    5. Caiff rhaglen fonitro barhaus ei gweithredu er mwyn gwerthuso newidiadau ac effaith yr arferion rheoli ar fioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystem. Bydd gweithgareddau monitro mor gynhwysol â phosibl er mwyn creu ‘labordy byw’, a thrwy hynny ymgorffori gweithgareddau’r ERBAP o fewn bywyd a gweithgareddau dydd i ddydd y Brifysgol.
    6. Bydd ERBAP yn canolbwyntio ar hyrwyddo bioamrywiaeth a’r gwasanaethau ecosystem mae’n creu gyda staff a myfyrwyr, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid. Bydd yn defnyddio ystâd werdd y Brifysgol fel ffocws ar gyfer rhyngweithio cymunedol.
  2. Cawsom Achrediad Efydd Campws Cyfeillgar i Ddraenogod ym mis Chwefror 2022 ac rydym ar lwybr i ennill achrediad arian ym mis Chwefror 2023.
  3. Rydym wedi cynnal rhestr lawn o'n coed aeddfed yn 2021 a 2022 i lywio ein strategaeth ailblannu sydd, ynghyd â phrosiect canopi trefol Coed Caerdydd Cyngor Dinas Caerdydd, yn bwriadu gwella gorchudd canopi coed yn y ddinas i 25% erbyn 2030.
  4. Rydym wedi gweithredu polisi 'No Mow May' mewn nifer o safleoedd allweddol yn 2021 a 2022, gyda'r rhaglen hon i fod i ehangu ymhellach yn 2023.

Canlyniadau cadarnhaol o weithredu Dyletswydd Adran 6

Lles

Yn ystod y pandemig fe wnaeth ein tîm Lles gydnabod a hyrwyddo'r ffaith bod Natur yn ganolog i'n hiechyd seicolegol ac emosiynol. Mae ganddo allu unigryw nid yn unig i ddod â chysur ar adegau o straen, ond hefyd i gynyddu ein creadigrwydd, empathi, a synnwyr o ryfeddod. Mae mwy i hyn na bod allan ym myd natur yn unig. Y peth pwysig yw sut rydyn ni'n ymateb ac yn rhyngweithio â natur. Gall hyd yn oed cysylltiad bychan â natur leihau teimladau o arwahanrwydd cymdeithasol a gall fod yn effeithiol wrth amddiffyn ein hiechyd meddwl ac atal trallod. Hyrwyddodd y tîm deithiau cerdded ymwybyddiaeth ofalgar, gan annog staff a myfyrwyr i fynd allan a mwynhau natur. Recordiwyd a rhannwyd sain taith gerdded ymwybyddiaeth ofalgar ac anogwyd staff a myfyrwyr i anfon/postio lluniau o natur i'r cyfrif Lles Yammer (rhennir yr erthygl yn Atodiad 2).

Presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd

Rydyn ni’n gweithio gydag Anturiaethau Organig Cwm Cynon i wella iechyd a lles pobl drwy eu cysylltu â byd natur.

Mae’r prosiect hwn yn digwydd yn hen dref lofaol Abercynon yn Rhondda Cynon Taf; un o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol yn y DU. Mae’r prosiect yn defnyddio’r cysylltiadau presennol rhwng meddygon teulu lleol, cydlynwyr lles ac Anturiaethau Organig Cwm Cynon i greu cyfleoedd newydd i ymgysylltu â byd natur.

Bydd canlyniadau’r prosiect yn cynnwys:

  • Llwybr natur rhyngweithiol, a ddatblygwyd gan y gymuned yng Nghwm Cynon, sy'n gwasanaethu'r gymuned leol i hybu gwell lles a chanlyniadau iechyd hirdymor.
  • Adnodd ar-lein i fesur lles unigolion sy'n defnyddio'r llwybr.
  • Mwy o ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gofal sylfaenol yn ne Cynon ynghylch manteision posibl presgripsiynu gwyrdd i'r boblogaeth leol.
  • Tystiolaeth y byd go iawn ar sut mae ymwneud â byd natur yn cael effaith gadarnhaol ar les y gymuned
  • Model i ysbrydoli a chefnogi’r gwaith o roi presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd ar waith ledled Cymru.

Astudiaeth Achos - Campws Cyfeillgar i Ddraenogod (HFC)

Fel rhan o'r ERBAP, gwnaethom gofrestru ar y cynllun Campws Cyfeillgar i Ddraenogod (HFC) yn 2021, sef ymgyrch genedlaethol i wneud campysau prifysgol yn gynefinoedd gwell i ddraenogod. Bydd campysau prifysgolion yn cwmpasu rhannau helaeth o dir, a gall y rhain fod yn gynefinoedd addas ar gyfer draenogod yn aml. Mae Campws Cyfeillgar i Ddraenogod yn cydnabod y gall y ffyrdd y mae prifysgolion yn defnyddio'r tir hwn gael effaith sylweddol ar boblogaethau draenogod.

Mae staff a myfyrwyr yn aelodau o weithgor Campws Cyfeillgar i Ddraenogod, a thrwy gydol y flwyddyn rydyn ni wedi trefnu digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth, rhannu'r ymchwil ddiweddaraf, codi arian, yn ogystal a rhoi cymorth i ddraenogod sy'n byw ar gampysau. Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnwys sesiynau casglu sbwriel rheolaidd, ymgyrchoedd addysg, sgyrsiau ar-lein gan arbenigwyr, sgyrsiau â phlant ysgol gynradd, ymgysylltu mewn digwyddiadau cymunedol, arolygon draenogod, a chreu corneli bywyd gwyllt a phentyrrau o goed/dail, cynefinoedd i bryfed a thai draenogod. Rydym hefyd yn cyflwyno digwyddiadau i staff yn ystod pythefnos Iechyd, Amgylchedd a Lles Cadarnhaol (PHEW).

Dyfarnwyd Achrediad Efydd Campws Cyfeillgar i Ddraenogod i'r Brifysgol ym mis Ionawr 2022 a'i chyflwyno ar gyfer y wobr arian ym mis Rhagfyr 2022.

Ym mis Mawrth 2022, dyfarnwyd Grant Gweithgareddau Cymunedol Awr Ddaear 2022 i dîm HFC ar gyfer yr HogBuzz: Ymgysylltu â staff a myfyrwyr gyda'r prosiect ymgyrch Campws Cyfeillgar i Ddraenogod ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd hyn yn ein galluogi i barhau i godi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch, caffael twneli olrhain ôl troed, dau gamera llwybr bywyd gwyllt, hadau blodau gwyllt ac offer plannu: roedd hefyd yn ein galluogi i gynnal digwyddiad a oedd yn cynnwys hau blodau gwyllt a sesiynau hyfforddi arolygu draenogod.

Mae Matt Tebbutt, cyflwynydd Saturday Kitchen, wedi derbyn ein gwahoddiad i fod yn Llysgennad Campws Cyfeillgar i Ddraenogod Prifysgol Caerdydd.

Bydd tîm HFC yn parhau i gynnal gweithgareddau, cynnal digwyddiadau cymunedol, a gweithio gyda'r tîm tiroedd a grŵp llywio ERBAP i gadw mwy o ardaloedd ar gyfer bywyd gwyllt a lleihau'r defnydd o blaladdwyr ar y campws.

An image of the bronze accreditatin certificate in a frame
Tystysgrif Achrediad Efydd Prifysgol Caerdydd

Amcan 1 CGAN3: Ymgysylltu a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn ymsefydlu bioamrywiaeth yn yr holl benderfyniadau a wneir ar bob lefel.

Strategaeth Galluogi Cynaliadwyedd Amgylcheddol

Mae Strategaeth Galluogi Cynaliadwyedd Amgylcheddol 2018 -2023 Prifysgol Caerdydd yn cynnwys 'Prifysgol Gydnerth' fel un o'i nodau sylfaenol:

Prifysgol sy'n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach, gweithredol sy'n cynorthwyo cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol, gan ymgorffori’r gallu i addasu i newid.

Ein prif flaenoriaeth o fewn y nod sylfaenol 'Prifysgol gydnerth' yw:

  • Gwella bioamrywiaeth ein campws drwy hyrwyddo plannu peillwyr ar draws ein mannau gwyrdd.

Gyda dangosydd perfformiad amgylcheddol fel a ganlyn:

  • Drwy Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y Brifysgol, byddwn yn gwella seilwaith gwyrdd y Brifysgol drwy wella amodau amgylcheddol ystâd werdd y Brifysgol gan 30% erbyn 2023.

Rydym wedi gwneud cynnydd tuag at y dangosydd perfformiad amgylcheddol gan gynnwys adeiladu ar waith y prosiect Pharmabees, rydym yn cynyddu'r ardal o ystâd y Brifysgol a orchuddir gan ddôl blodau gwyllt. Bydd yr ymdrech hon yn cynyddu bioamrywiaeth leol, yn darparu porthiant ychwanegol gan gynnwys planhigion a nodwyd gan ymchwil y brifysgol fel eu bod yn addas ar gyfer pryfed peillio a chynyddu atafaelu carbon.

Yn ogystal, sefydlwyd arolwg coed a rhaglen ailblannu yn 2022, lle cafodd yr holl stoc drefol o goed ar ystâd y Brifysgol ei harolygu a'i nodweddu gan ffurfio'r sylfaen ar gyfer ein rhaglen plannu coed 2023.

Gellir dangos enghraifft arall o ymgorffori natur o fewn strategaeth yn Strategaeth Lles Staff 2020 — 2023: ‘Byddwn yn ystyried yr amgylchedd gwaith ffisegol a’i effaith ar les, gan weld datblygiadau adeiladau newydd drwy “lens llesiant”, gan barhau i ystyried gwelliannau i’r ystâd bresennol yn unol ag egwyddorion llesiant diwydiant a chefnogi’r agenda cynaliadwyedd amgylcheddol drwy gydnabod y cysylltiad rhwng gwella ein mannau gwyrdd, gan gynnwys eu bioamrywiaeth, a’r effaith gadarnhaol y mae hynny’n ei chael ar les’.

System Rheoli Amgylcheddol (ISO14001)

Mae dogfennaeth gyfunol System Rheoli Amgylcheddol y Brifysgol yn cynnwys adran ar dir y campws o fewn y gofrestr agweddau ac effeithiau sy'n nodi gweithgareddau sydd ag effeithiau cadarnhaol a negyddol ar yr amgylchedd naturiol. Mae'r ddogfennaeth yn cynnwys cofrestr gyfreithiol, amcanion a thargedau, a chofrestr risgiau a chyfleoedd. Cynhelir archwiliadau mewnol o'r holl ysgolion academaidd a gwasanaethau proffesiynol ar raglen barhaus 2 flynedd. Caiff y system reoli ei harchwilio'n allanol a'i hachredu bob blwyddyn. Mae'r archwiliad blynyddol hwn yn cynnwys diweddariad ar weithgareddau ERBAP.

Newid Ymddygiadol: Effaith Werdd

Mae Effaith Werdd yn rhaglen newid ymddygiad sydd wedi ennill gwobrau a ddatblygwyd gan gorff UCM, Students Organising for Sustainability (SOS UK). Mae'n grymuso sefydliadau i wneud newid ystyrlon ar gynaliadwyedd. Ers 2019, mae timau wedi cael eu hannog i gymryd camau fel rhan o'u cyflwyniad Effaith Gwyrdd i wella bioamrywiaeth eu gweithle a'u cartrefi. Mae gweithrediadau/gweithgareddau a gynhwysir yn y llyfr gwaith dros y tair blynedd diwethaf wedi cynnwys y canlynol:

  • Mae'r tîm wedi sefydlu gweithgaredd sy'n annog staff i ailgysylltu â natur a'r amgylchedd lleol.
  • Ar y campws a gartref: Mae'r tîm yn postio o leiaf un llun o fywyd gwyllt neu flodau gwyllt i grŵp Yammer Bywyd Gwyllt Prifysgol Caerdydd a grŵp Blodau Gwyllt Prifysgol Caerdydd neu wenyn mêl ar flodyn i grŵp Yammer Pharmabees yn ystod y flwyddyn.
  • Mae'r tîm yn cymryd rhan yn y Big Garden Birdwatch neu’r Great British Wildflower Hunt neu debyg ar safle Prifysgol Caerdydd neu gartref
  • Yn y cartref: Mae'r tîm wedi ceisio 'Tyfu gartref!' p'un a yw hynny'n berlysiau silff ffenestr, llysiau mewn potiau neu hyd yn oed gardd lysiau, lle bo hynny'n bosibl.
  • Ar y campws: gwirfoddoli ar weithgareddau ERBAP ar y campws (gan gynnwys campws sy’n addas i ddraenogod)
  • Yn y cartref: Addewid Peillwyr Urban Buzz – Rhoi Cartref i Natur yng Nghaerdydd (caerdyddgwyllt.org)
  • Gwobr arbennig i Hyrwyddwr Bioamrywiaeth 2020/21.

Cwrs Cynefino Cynaliadwyedd Amgylcheddol i Staff a Myfyrwyr

Mae'r holl staff newydd yn derbyn cyflwyniad corfforaethol a dogfennaeth ategol a gyhoeddir gan Adnoddau Dynol. Mae'r Cwrs Cynefino Cynaliadwyedd Amgylcheddol yn rhan o'r broses sefydlu. Mae'r cyflwyniad cynefino yn darparu sleid ynghylch y  gwaith sy'n gysylltiedig â'r ERBAP a gweithgareddau cysylltiedig gan gynnwys:

  • Deddf yr Amgylchedd 2016 - Adran 6
  • Strategaeth a Chynllun Gweithredu Bioamrywiaeth
  • Aildyfu Borneo
  • Statws Croesawgar i Wenyn
  • Prosiect Pharmabees
  • Gwyrddio Cathays
  • Gwobr Gymunedol y Faner Werdd
  • Prosiect Mawr Clychau’r Gog
  • Creu cynefin naturiol
  • Prosiect neidr ddefaid
  • Campws sy’n gyfeillgar i ddraenogod
  • Plannu blodau gwyllt - gerddi cymunedol
  • Grŵp Yammer Bywyd Gwyllt a Blodau Gwyllt

Ymgysylltiad: Wythnos Cynaliadwyedd y Brifysgol

Mae’r Wythnos Cynaliadwyedd yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir ar ddechrau mis Mawrth lle rydym yn codi ymwybyddiaeth o bopeth sy'n ymwneud â chynaliadwyedd amgylcheddol. Isod mae tabl yn ymwneud â digwyddiadau Bioamrywiaeth dros y 3 blynedd diwethaf (2019-2022). Gohiriwyd y digwyddiad yn 2020:

Mawrth 2019

Roedd y digwyddiad galw heibio yn stondinau Oriel VJ yn cynnwys digwyddiad rhannu hadau a phlannu yn gysylltiedig â gweithredoedd Effaith Gwyrdd - gwnewch eich pot planhigion papur newydd eich hun a phlannu tomatos neu berlysiau.

Mawrth 2021

Diwrnod ar thema bioamrywiaeth gan gynnwys digwyddiadau yn ymwneud â'n gweithlyfr Effaith Gwyrdd gan gynnwys dolenni i'r SDG 14 — Bywyd o dan y dŵr a SDG15 — Bywyd ar Dir.

Lansio'r ERBAP — sesiwn gyda'r Athro Mike Bruford ac yn agored i'r holl staff a myfyrwyr. Roedd y sesiwn hefyd yn cynnwys lansio ymgyrch Campws Cyfeillgar i Ddraenogod ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gellir gweld y cyflwyniad sleidiau ar gyfer lansio'r ERBAP ym mis Mawrth 2021 yma ERBAP Susweek (1) .pptx a gellir gwylio recordiadau o'r sgyrsiau ar YouTube.

Sesiwn weithgareddau ar yr ap Spot-a-Bee sy'n cysylltu â'n prosiect Pharmabees, a sesiwn ar blannu hadau blodau gwyllt a chreu ardaloedd cyfeillgar i beillwyr gartref ac ar y campws, gan gynnwys enghreifftiau o waith drwy'r ERBAP.

Tirweddau Synergaidd: bydd yr arddangosfa ymarferol hon yn cyflwyno ryseitiau DIY ar gyfer ehangu bioamrywiaeth eich gerddi.

Mawrth 2022

Sesiwn yn benodol ar gyfer Bioamrywiaeth gyda sgwrs ar yr ERBAP a lansio'r archwiliad coed - roedd hyn yn cynnwys cyfle i fyfyrwyr gofrestru i gymryd rhan yn yr archwiliad coed.

Sgwrs ar y daith i ennill gwobr Efydd Campws Cyfeillgar i Ddraenogod.

Hyrwyddo 'Plannu Hadau i Wenyn': hadau blodau gwyllt ar gael i staff a myfyrwyr o fannau Arlwyo'r Brifysgol.

Ymgysylltu â Bioamrywiaeth drwy Addysgu

Comisiynwyd myfyrwyr Meistr o Ysgol Pensaernïaeth Cymru i ddatblygu Canllaw Plannu Coed (prosiect o'r enw Campws Bioamrywiol). Mae'r canllaw plannu coed sy'n deillio o hyn yn ystyried amryw o ystyriaethau pensaernïol, ecolegol, hinsoddol, tymhorol a pholisi. Canolbwyntiodd y prosiect ar ddatblygu canllawiau ar blannu 'y goeden iawn yn y lle iawn'. Y cynulleidfaoedd ar gyfer y canllawiau hyn yw penseiri a dylunwyr tirwedd a fydd yn ymgysylltu ag ystadau Prifysgol Caerdydd yn y dyfodol yn ogystal â'r cyngor lleol.

Mesurau a Dangosyddion

Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig

Fel llofnodwyr Cytundeb Nodau Datblygu Cynaliadwy, rydym wedi ymrwymo i ymgorffori'r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn ein prosesau academaidd a busnes. Adlewyrchir hyn yn ein Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol. Yn rhan o'r Cytundeb, mae'n ofynnol i ni gwblhau arolwg blynyddol. Mae'r arolwg yn manylu ar ein gwaith ar ymgorffori'r 17 SDG yng ngweithgareddau addysg, ymchwil, arweinyddiaeth, gweinyddu ac ymgysylltu’r Brifysgol ac yn ei gweithrediadau. Fel rhan o'n sesiynau ymwybyddiaeth, rydym wedi bod yn neilltuo erthygl fisol yng nghylchlythyr y brifysgol 'Blas' i bob un o'r Nodau Datblygu Cynaliadwy. Ym mis Gorffennaf 2021 gwnaethom redeg erthygl ar SDG15 Bywyd ar y Tir (Atodiad 2).

Yn 2021, fel rhan o'n cyflwyniad blynyddol ar gyfer Cytundeb SDG, gwnaethom gyflwyno astudiaeth achos ar SDG15 yn adrodd ar ein ERBAP a'n gwaith ymgysylltu. Caiff canfyddiadau'r holl lofnodwyr eu casglu mewn adroddiad a gyflwynir yn Fforwm Gwleidyddol Lefel Uchel y Cenhedloedd Unedig yn nigwyddiad Menter Cynaliadwyedd Addysg Uwch (HESI).

Mae'r QS wedi cynhyrchu rhestr newydd, 'World University Rankings — Sustainability ', i ddangos sut mae prifysgolion yn gweithredu i fynd i'r afael â heriau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu. Y nod yw 'rhoi trosolwg clir a thryloyw i ddarpar fyfyrwyr o ba brifysgolion sy'n gweithredu ar newid amgylcheddol a chymdeithasol a sut' a 'helpu prifysgolion i fonitro llwyddiannau a meincnodi cynnydd i helpu i lywio trafodaethau am eu blaenoriaethau ESG'.  Roedd yn rhaid i sefydliadau fodloni tri maen prawf ar gyfer eu cynnwys; cymryd rhan yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd, trothwy isaf o gyhoeddiadau ymchwil, a thystiolaeth o bolisi ar gyfer lliniaru'r argyfwng hinsawdd mewn dogfennau polisi a/neu strategaeth sydd ar gael i'r cyhoedd[1]. Ym mlwyddyn gyntaf y rhestr, roedd Prifysgol Caerdydd yn safle 25 yn fyd-eang allan o 700 o sefydliadau.

Mae'r Brifysgol yn cymryd rhan yn y Times Higher Education (THE) Impact Rankings. Bydd cyflwyno tystiolaeth i THE Impact Rankings yn sefydlu safle'r Brifysgol yn y sector ac yn rhoi cyfle i arddangos y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud. Bydd hefyd yn galluogi'r rhai sy'n darparu tystiolaeth i gael cipolwg ar sut mae ein tystiolaeth yn cymharu ag eraill yn y sector, gan ddarparu llwyfan i adeiladu arno mewn cyflwyniadau yn y dyfodol. Y Rhestrau Effaith yw'r unig dablau perfformiad byd-eang sy'n asesu prifysgolion yn unol â Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs) y Cenhedloedd Unedig. Mae dangosyddion wedi'u graddnodi yn darparu cymariaethau cynhwysfawr a chytbwys ar draws tri maes eang: ymchwil, allgymorth a stiwardiaeth. Drwy gyflwyno, bydd y Brifysgol yn mesur ein perfformiad ar lwyfan byd-eang.

Mae SDG 15 'Bywyd ar y Tir’ yn mesur ymchwil prifysgolion ar fywyd ar dir a'u haddysg ar ecosystemau tir a'u cefnogaeth iddynt. Y Metrigau a ddefnyddir ar gyfer SDG15 yw:

Ymchwil ar ecosystemau tir (27%)

  • Cyfran y papurau yn y 10% uchaf o gyfnodolion fel   y'u diffinnir gan CitesCore (10%)
  • Mynegai dyfyniadau wedi'u pwysoli yn y maes o   bapurau a gynhyrchwyd gan y brifysgol (10%)
  • Nifer y cyhoeddiadau (7%)

Cefnogi ecosystemau tir drwy addysg (23%)

  • Cefnogi neu drefnu digwyddiadau sydd â'r nod o   hyrwyddo cadwraeth a defnydd cynaliadwy o dir (4.6%)
  • Polisi i sicrhau bod bwyd ar y campws yn cael ei   ffermio'n gynaliadwy (4.6%)
  • Cynnal ac ymestyn ecosystemau presennol a'u   bioamrywiaeth (4.6%)
  • Rhaglenni addysgol ar ecosystemau ar gyfer   cymunedau lleol neu genedlaethol (4.6%)
  • Rhaglenni addysgol neu allgymorth ar reoli tir yn   gynaliadwy ar gyfer amaethyddiaeth a thwristiaeth (4.6%)

Cefnogi ecosystemau tir drwy weithredu (27%)

  • Polisi i sicrhau cadwraeth, adfer a defnydd   cynaliadwy o ecosystemau tir sy'n gysylltiedig â'r brifysgol (5.4%)
  • Polisi i nodi, monitro a gwarchod rhywogaethau   dan fygythiad y mae gweithrediad y brifysgol yn effeithio arnynt (5.4%)
  • Cynnwys bioamrywiaeth leol mewn unrhyw brosesau   cynllunio a datblygu — er enghraifft, codi adeiladau newydd (5.4%)
  • Polisi i leihau effaith rhywogaethau estron ar y   campws (5.4%)
  • Cydweithio â'r gymuned leol i gynnal ecosystemau   tir a rennir (5.4%)

Gwaredu gwastraff mewn modd sy’n ystyrlon o’r tir (23%)

  • Safonau ansawdd dŵr a chanllawiau ar gyfer   gollyngiadau dŵr (7.7%)
  • Polisi ar leihau gwastraff plastig ar y campws   (7.65%)
  • Polisi ar waredu gwastraff, sy'n cwmpasu   deunyddiau peryglus (7.65%)

Rydym wedi cymryd rhan yn y THE Impact Ratings am y ddwy flynedd ddiwethaf (gweler copi o ‘nAdroddiad Cryno SDG ar gyfer 2021). Ar gyfer SDG 15 Bywyd ar dir, rydym wedi cael ein gosod fel a ganlyn:

Blwyddyn

Safle yn y DU

Safle Byd-eang

2020

16ed

58fed

2021

8fed

26ed

Adolygwyd nifer o bolisïau i ymgorffori ein hymrwymiad i SDGs y Cenhedloedd Unedig. Bydd y broses hon yn parhau dros y cyfnod adolygu nesaf i ymgorffori'r NDGau yn ein prosesau busnes fel y'u hadlewyrchir yng nghynllun gweithredu'r Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol. Enghreifftiau allweddol o hyn yw'r Polisi a Chanllawiau Caffael a'r Polisi Bwyd Cynaliadwy.

Hyfforddiant Bioamrywiaeth

Rydym wedi cynnig hyfforddiant monitro bioamrywiaeth i'n staff a'n myfyrwyr, yn enwedig o dan ymgyrch Campws Cyfeillgar i Ddraenogod. Rydym wedi darparu hyfforddiant ar sut i fonitro draenogod gan ddefnyddio twneli ôl troed a chamerâu llwybrau; ar dechnegau arolygu rhywogaethau infertebrataidd; a sut i gymryd mesuriadau coed (Tabl 3, Ffigurau 1-3).

Tabl 3. Nifer y staff a'r myfyrwyr a dderbyniodd hyfforddiant ar gadw rhestrau a monitro bioamrywiaeth rhwng 2021 a 2022

Math o hyfforddiant

Nifer y bobl

Arolygon draenogod

50

Bioblitz (infertebratau yn bennaf)

15

Mesuriadau coed

20


A collage of images consisting of people settinng up hedgehog tunnels in various locations; sheets of paper marked with hedgehog footprints
Ffigur 1. Arolygon draenogod gan ddefnyddio twneli ôl troed.
A collage of images consisting of people taking measurements using a laptop and lap equipment; a table with books and quipment on it; a man in the bushes with an insect net; insect specimens in containers
Ffigur 2. Bioblitz infertebratau ar safle'r Prif Adeilad (Mehefin 2021).
People measuring trees with large tape measures
Ffigur 3. Mesuriadau coed ar safle'r Prif Adeilad (Mai 2022).

Amcan CGAN 2: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd pwysig iawn a gwella’u rheolaeth

Rhywogaethau Blaenoriaeth Prifysgol Caerdydd - Nadroedd defaid

Rydym wedi cynhyrchu adroddiad ar nadroedd defaid (Anguis fragilis) o chwe thymor monitro ar un o safleoedd y Brifysgol (Campws - Amdanom - Prifysgol Caerdydd).

'No Mow May’

Yn 2021, cofrestrodd y Brifysgol am y tro cyntaf i ymgyrch flynyddol Plantlife 'No Mow May'. Roedd hyn yn hynod lwyddiannus, gyda nifer o ysgolion a safleoedd preswyl yn cymryd rhan. Yn 2022, gwnaethom gofrestru eto (Ffigur 4) a chawsom adborth cadarnhaol gan staff a myfyrwyr. Mae ein tîm ystadau a thiroedd bellach wedi cytuno ar drydedd flwyddyn, gan gynnwys cynllun rheoli isel a fabwysiadwyd ar gyfer rhai o'r ardaloedd hyn drwy gydol y flwyddyn y tu hwnt i fis Mai.

Images of long grass and flowers in front of Main Building
Ffigur 4. Ardal werdd y Prif Adeilad yn ystod ‘ ' No Mow May’ 2022.

Gwella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt

Rydym wedi gwella cynefin ar gyfer bywyd gwyllt mewn sawl safle ar y campws. Rhestrir strwythurau a osodwyd ar y campws i helpu bywyd gwyllt yn Nhabl 4 (Ffigurau 5-9).  Er enghraifft, mae ardal bywyd gwyllt a lles wedi'i chreu yng nghefn y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion gan dîm Ysgol Busnes Caerdydd.  Mae blodau gwyllt, cynefin trychfilod, baddonau adar, mannau nythu/gaeafgysgu draenogod, pentyrrau coed/dail a lagwnau pryfed hofran wedi cael eu hychwanegu at y safle i helpu bywyd gwyllt.

Tabl 4. Gwella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt ar safleoedd Prifysgol Caerdydd

Lleoliad

Cynefin pryfed/trychfilod

Tŷ draenog

Safle bwydo

Pentwr coed

Pentwr dail

Lagwnau pryfed hofran

Priffordd i ddraenogod

Hwb casglu sbwriel

Y Prif Adeilad

oes

oes

Nac oes

oes

oes

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Adeilad Hadyn Ellis

oes

oes

oes

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Cwrt Canolfan Ôl-raddedig Ysgol Busnes Caerdydd

oes

Nac oes

Nac oes

oes

oes

oes

Nac oes

Nac oes

Tŵr/Cwrt Syr Martin Evans

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Nac oes

oes

Nac oes

oes

Neuadd y Brifysgol

Nac oes

oes

Nac oes

oes

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Neuadd Aberdâr

Nac oes

Nac oes

Nac oes

oes

oes

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Gogledd Tal-y-bont

Nac oes

oes

Nac oes

oes

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Adeilad Trevithick

Nac oes

oes

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Adeilad John Percival

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Nac oes

oes

Nac oes

An image of a plant bed with a path beside it and a log pile on some leaves
Ffigur 5. Ardal bywyd gwyllt Ysgol Busnes Caerdydd a'i phentwr coed.
Hoverfly lagoons in a flowerbed
Ffigur 6. Lagwnau Pryfed Hofran y Prif Adeilad ac Ysgol Busnes Caerdydd.
A bug hotel constructed from pallets with a hedgehog house beside it
Ffigur 7. Cynefin pryfed y Prif Adeilad, pentwr coed, a thŷ draenog.
A bug hotel constructed from bricks and wood
Ffigur 8. Cynefin pryfed Adeilad Hadyn Ellis.
A small gap under a fence with a small sign showing a hedgehog
Ffigur 9. Gosod priffordd draenogod ar y campws.

Gwnaethom hefyd gynnal gweithdy ar gyfer staff, myfyrwyr ac aelodau o'r cyhoedd i'n helpu i adeiladu tai draenogod a chynefinoedd i wenyn a chwilod allan o baletau pren a deunyddiau eraill wedi’u huwchgylchu sydd ar gael yn y Brifysgol. Bydd yr eitemau hyn (Ffigur 10) yn cael eu gosod ar y campws i helpu bywyd gwyllt.

 An image of an insect hotel
Ffigur 10. Gweithdy Cartrefi Bywyd Gwyllt.
An image of two women standing indoors with two insect hotels and a hedgehog house
Ffigur 10. Gweithdy Cartrefi Bywyd Gwyllt.
A table with partly constructed insect hotels on it
Ffigur 10. Gweithdy Cartrefi Bywyd Gwyllt.

Amcan CGAN 3: Cynyddu cydnerthedd ein hamgylchedd naturiol trwy adfer cynefinoedd sydd wedi diraddio a chreu cynefin.

Plannu Coed

Mae cynlluniau gwella tirwedd feddal wedi'u datblygu ar y cyd â chontractwr tir y Brifysgol. I ddechrau, nodwyd chwe ardal ar draws y campws lle gellir dechrau plannu coed yn 2023. Mae'r enghraifft isod yn dangos yr amserlen blannu ar gyfer ardal newydd y campws ger safle Parc y Mynydd Bychan:

A top-down plan of Heath Park

Dolydd Bywyd Gwyllt

Mae gan Brifysgol Caerdydd wyth dôl ar hyn o bryd (gyda mwy wedi’u cynllunio). Arolygwyd y rhan fwyaf o’r rhain yn 2019 yn rhan o’n Harchwiliad Dolydd, ac amlygwyd 42 o rywogaethau blodau gwyllt ar ddiwrnod ein harolwg ym mis Gorffennaf. Mae hyn wedi arwain at arbedion ariannol (nid oes angen torri glaswellt yn yr ardaloedd hyn yn ystod y gwanwyn a’r haf mwyach) ac arbedion carbon (mae gan flodau gwyllt lluosflwydd wreiddiau dyfnach o lawer na lawntiau rhygwellt, felly maen nhw’n dal a storio llawer mwy o garbon), fel y dangosir yn Nhabl 5.

Tabl 5. Amcangyfrif o arbedion ariannol a charbon y flwyddyn o drawsnewid ardaloedd lawnt i ddolydd. 

Lleoliad 

Ardal 

Costau torri gwair 1

Carbon wedi'i atafaelu 2

Llanrhymni 3G

600m 2

£80 y flwyddyn

0.35 tunnell y flwyddyn

Ardal Amgylcheddol Llanrhymni

430m 2

£280 y flwyddyn

0.25 tunnell y flwyddyn

Adeilad Redwood

578m 2

£90 y flwyddyn

0.34 tunnell y flwyddyn

Talybont 3G

420m2

£260 y flwyddyn

0.25 tunnell y flwyddyn

Llys Cartwright

216m2

£140 y flwyddyn

0.13 tunnell y flwyddyn

De Tal-y-bont

85m2

£50 y flwyddyn

0.05 tunnell y flwyddyn

Adeilad Hadyn Ellis

70m2

£50 y flwyddyn

0.04 tunnell y flwyddyn

Llys Senghennydd

76m2

£50 y flwyddyn

0.04 tunnell y flwyddyn

CYFANSWM 

2,475m 2

£1,000 y flwyddyn 

1.45 tunnell y flwyddyn 

Mae ein harbedion yn gymedrol ar hyn o bryd, ond gan fod dolydd ychwanegol wedi’u cynllunio a bod yr arbedion yn parhau bob blwyddyn, gallai’r arbedion ariannol yn arbennig ddod yn fwy sylweddol dros amser. Mae'r un peth yn wir i raddau am yr arbedion carbon, er y credir bod y swm o garbon wedi'i atafaelu yn lleihau ar ôl degawd cyntaf y gwaith adfer.

Rydym wedi cadw pedwar ardal werdd wedi'u lleoli yn y cwrt rhwng Adeilad Syr Martin Evans, y Tŵr, ac Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth i ddatblygu dôl blodau gwyllt newydd (BIOSI Meadow) (Ffigur 11). Roedd yr ardal hon yn bennaf yn cael ei dominyddu gan rywogaethau glaswellt gydag ychydig iawn o flodau ac ambell wenyn mêl yn ymweld. Rydym wedi annog staff a myfyrwyr i gymryd rhan yn natblygiad yr ardal hon (Ffigur 12).

Image of a patch of grass with flowers
Ffigur 11. Dôl blodau gwyllt Ysgol y Biowyddorau.
People kneeling down working on a patch of long grass
Ffigur 12. Staff a myfyrwyr yn gweithio ar ddôl blodau gwyllt Ysgol y Biowyddorau.

Ar ôl dau dymor 'No Mow May' a thair sesiwn plannu hadau rydym yn dechrau sylwi ar newid yn amrywiaeth planhigion a phryfed peillio, gyda llygad y dydd, pys-y-ceirw, meillion gwyn a choch, blodyn yr ŷd, tegeirian gwenyn a rhywogaethau cacwn i gyd wedi'u cofnodi ar y safle.

Rheoli mannau gwyrdd

Cynhaliwyd arolwg ym mis Rhagfyr 2022 gydag aelodau o Grŵp Llywio a Rheoli Tir ERBAP, contractwr tir y Brifysgol, i nodi ardaloedd ar gyfer ychydig o reolaeth (Tabl 6). Cytunwyd i fwrw ymlaen â'r camau canlynol:

  • Bydd ardaloedd sy'n cael eu defnyddio'n weithredol gan bobl yn parhau i gael eu rheoli'n rheolaidd (torri glaswellt).
  • Bydd ardaloedd nad ydynt yn cael eu defnyddio'n weithredol gan bobl yn cael eu gadael heb eu torri yn bennaf. Fodd bynnag, bydd cyfran hanner metr yn cael ei dorri o gwmpas i ddangos y bwriad o adael yr ardaloedd hyn ar gyfer bywyd gwyllt ac i gadw mynediad taclus a diogel i'r borderi. Bydd arwyddion hefyd yn cael eu hychwanegu at yr ardaloedd hyn.
  • Bydd ardaloedd sy'n cael eu gadael ar gyfer bywyd gwyllt yn cael eu cynnal (eu torri) dim ond tair gwaith y flwyddyn, ym mis Mawrth/Ebrill - torri a chasglu; Hydref — torri a gadael; Tachwedd - torri a chasglu.
  • Yn ystod 'No Mow May', bydd yr holl ardaloedd, gan gynnwys yr ardaloedd sydd fel arfer yn cael eu cynnal a'u cadw'n aml (e.e., ardaloedd glaswellt yn y Prif Adeilad, Neuadd y Brifysgol) yn cael eu gadael heb eu torri.
  • Bydd tocio llwyni yn yr Hydref/Gaeaf yn cael ei ohirio nes bod yr holl aeron yn cael eu cymryd gan adar a bywyd gwyllt arall.
  • Yn yr Hydref, bydd dail coed sydd wedi cwympo yn cael eu gadael ar y safle pan nad ydynt yn peri risg iechyd a diogelwch i bobl. Mewn achosion lle mae angen cael gwared o ddail, byddant yn cael eu casglu a'u trosglwyddo i forderi (pentyrrau dail) i greu mannau diogel ar gyfer draenogod sy'n gaeafgysgu a phryfed sy'n gaeafu.
  • Os caiff coed eu nodi ar gyfer prysgoedio neu eu symud, bydd canghennau neu foncyffion yn cael eu casglu a'u rhoi ar y safle i ffurfio pentyrrau coed ar gyfer bywyd gwyllt.
  • Gall ardaloedd a nodwyd gan reolwyr adeiladau a phreswylfeydd ynghyd â'r tîm tiroedd sy'n addas at y diben gael eu gadael yn gyfan gwbl heb eu rheoli ar gyfer bywyd gwyllt.
  • Bydd cynllun ychydig o reolaeth cynhwysfawr, gan gynnwys mapiau GIS o ardaloedd targed a chamau gweithredu y cytunwyd arnynt ar gyfer pob ardal, yn cael ei ddatblygu ar gyfer y Brifysgol.

Tabl 6. Ardal bywyd gwyllt, ardaloedd glaswellt perimedr 50cm, pentyrrau dail (o dan yr ymgyrch 'Gadael y Dail’), a dolydd sy'n cael eu datblygu

Lleoliad

No Mow May

Ardal blodau gwyllt

torri gwair 50cm

Gadewch y Dail

Dôl yn cael ei datblygu

Y prif adeilad

oes

oes

oes

oes

Nac oes

Tŵr/Cwrt Syr Martin Evans

Nac oes

oes

Nac oes

Nac oes

oes

Y Gyfraith (Plas y Parc)

Nac oes

Nac oes

oes

Nac oes

Nac oes

Adeilad Redwood

Nac oes

Nac oes

oes

Nac oes

Nac oes

Adeilad Bute

Nac oes

Nac oes

oes

Nac oes

Nac oes

Y Deml Heddwch (Column Road a Rhodfa'r Amgueddfa yn unig)

Nac oes

Nac oes

oes

Nac oes

Nac oes

Cwrt Adeilad John Percival

Nac oes

oes

Nac oes

Nac oes

oes

Cwrt Canolfan Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd

Nac oes

oes

Nac oes

Nac oes

oes

Rhodfa Colum, Caerdydd

Nac oes

Nac oes

oes

Nac oes

Nac oes

Neuadd Aberdâr

oes

Nac oes

oes

oes

Nac oes

Yr Ysgol Cerddoriaeth

oes

Nac oes

oes

Nac oes

Nac oes

Adeilad Hadyn Ellis

Nac oes

Nac oes

oes

Nac oes

Nac oes

Yr Adeilad Optometreg

Nac oes

Nac oes

oes

Nac oes

Nac oes

Cwrt Canolfan Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd

Mae gan Ysgol Busnes Caerdydd a’r Ganolfan Ôl-raddedigion ddarn sefydledig o dir ger eu hadeilad. Gan weithio gyda thîm ystadau'r Brifysgol a'r tîm tiroedd fe wnaethant ganiatáu i'r ardal ddychwelyd i gyflwr naturiol gyda thocio llwybrau yn unig:

An image of a flowerbed with leafy growth

Cynllun datblygu cwrt John Percival

Mae Cwrt John Percival (JPC) yn parhau i fod yn ofod nad yw’n cael ei ddefnyddio ddigon (Ffigur 13). Cynigir y byddai'r JPC yn cael ei ddefnyddio'n well fel gardd gymunedol a man gweithgareddau a lles a fyddai'n gwasanaethu'r swyddogaethau canlynol:

  • Gweithredu fel man lles gwyrdd i ddefnyddwyr ar draws y tair Ysgol sydd wedi'u lleoli yn yr adeilad
  • Gweithredu fel prosiect gardd gymunedol, lle caiff fflora ei gynllunio a'i gynnal gan ddefnyddwyr yr adeilad
  • Cynyddu a chynnal bioamrywiaeth leol drwy ymgorffori nodweddion fel tai draenogod, blychau adar ac ystlumod, cynefin gwenyn a phryfed, ac amrywiaeth o fflora
  • Bod o fudd i fyfyrwyr a staff fel man awyr agored gyda seddi wrth y caffi (byrddau parc hygyrch)
  • Man gweithgareddau a dysgu awyr agored y gellir eu defnyddio ar gyfer allgymorth cymunedol/lleol i ysgolion, diwrnodau agored, a digwyddiadau yn yr ystafell ddosbarth
  • Offeryn addysgol drwy ymgorffori cyffyrddiadau personol, megis cartrefi draenogod a adeiladwyd i edrych fel tai crwn canoloesol cynnar a gloddiwyd gan Brifysgol Caerdydd, a gardd Ganoloesol Gymreig

Dim ond ychydig o uchafbwyntiau o'r potensial sydd gan y gofod yw’r rhain. Gweler y Cynllun Arfaethedig JPC (Ffigur 14) sydd ynghlwm am gynllun posibl o’r gofod. Nid ydym wedi dechrau arni eto; fodd bynnag, bydd Cam Un yn dechrau ym mis Mawrth/Ebrill 2023 a byddwn yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Adnewyddu a phlannu gwelyau blodau ar hyd rhodfa y caffi
  • Gosod yr Ardd Berlysiau a’r Ardd Synhwyraidd
  • Clirio planhigion diangen (rhywfaint o eiddew, llwyni pinwydd (lle cynigir byrddau a seddi
  • Plannu planhigion clematis ar hyd y ffens ddiogelwch
  • Gosod dyfrwyr bywyd gwyllt ar hyd coed a ffens ddiogelwch
  • Gosod cynefinoedd bywyd gwyllt
  • Ymgorffori cylch bonyn coed (mae'r rhain yn symudol a gellir eu symud yn dibynnu ar anghenion/lleoliad)
  • Gosod casgen ddŵr ar y gwter agosaf i ddefnyddio dŵr glaw i ddyfrio planhigion ac ail-lenwi dyfrwyr (ymddengys nad oes safbibell yn y cwrt ar gyfer mynediad dŵr)
  • Posibilrwydd o osod bin compost (yn dibynnu ar arian Cyngor Caerdydd)
  • Posibilrwydd o osod/ddechrau ar yr Ardd Ganoloesol
  • Posibilrwydd o osod llyfrgell yr Ardd

Bydd deunyddiau adeiladu ar gyfer planhigion, llyfrgell ac ati i gyd yn cael eu rhoi neu'n wastraff wedi'i ailgylchu (h.y., paledi). Bydd seddi mainc a byrddau yn cael eu prynu o'r newydd, yn ddibynnol ar gyllid. Rhagwelir gwaith (h.y., cloddio) a fydd yn ymwthio mwy na 6” i mewn i'r pridd:

  • Postiau cefnogi ar gyfer cynefinoedd pryfed/gwenyn
  • Postiau cefnogi o bosibl ar gyfer gorchudd bwrdd (ee, adlen)
  • Postyn cefnogi ar gyfer y llyfrgell
  • Compostiwr o bosib (yn dibynnu ar y math/lleoliad/cyllid

Mae gwaith y disgwylir iddo fod angen cymeradwyaeth/mewnbwn/gosod pellach gan Ystadau yn cynnwys:

  • Cefnogaeth slabiau/bric/concrit ar gyfer byrddau parc/meinciau
  • Gosod casgen ddŵr
  • Compostio mwydod yn y ddaear arfaethedig

Mae Cyngor Caerdydd wedi cytuno ar gymorth ariannol ar gyfer mentrau bioamrywiaeth (cynefinoedd fflora a ffawna). Mae hyn yn cynnwys prynu offer gardd. Mae cais wedi ei gyflwyno am gasgen ddŵr, compostiwr, a storfa offer. Mae'r cyllid hwn hefyd yn cynnwys arwyddion. Er y cynigir bod graffeg yn cael ei gynhyrchu gan staff darlunio mewnol, gellir prynu arwyddion allanol. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am gyllid ar gyfer Cam 2 (prynu a gosod byrddau a meinciau, ac ymgorffori'r holl gynigion sy'n weddill).

Yn ogystal â staff SHARE, ENCAP, a WELSH (yn ogystal â Chyngor Caerdydd), mae'r prosiect hwn wedi partneru neu yn y camau partneru gyda sawl grŵp ar draws y Brifysgol, gan gynnwys:

  • Campws Cyfeillgar i Ddraenogod (Biowyddorau)
  • Pharmabees
  • Mentrau bioamrywiaeth CARBS
  • Lles Staff
Images of John Percival Courtyard
Ffigur 13. Cwrt John Percival ym mis Rhagfyr 2022.
Image of a top-down plan for a wildlife and wellbeing area
Ffigur 14. Cynllun arfaethedig ar gyfer ardal bywyd gwyllt a lles yng Nghwrt John Percival.

Gwaith adeiladu diweddar ac ystyriaethau bioamrywiaeth

Ers yr adroddiad diwethaf ar adran 6, mae pedwar adeilad newydd arall wedi cael eu codi ar draws y campws. Datblygir amserlenni plannu coed fel rhan o gynlluniau tirwedd yr adeilad newydd. Trwy ERBAP, llwyddwyd i ddylanwadu ar newidiadau i amserlenni plannu o amgylch adeiladau newydd. Enghraifft yw adeiladau SPARC a'r Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH) ar y Campws Arloesedd lle gwnaed newidiadau i sicrhau bod rhywogaethau brodorol yn cael eu plannu.

Amcan CGAN 4: Mynd i’r afael â phwysau allweddol ar rywogaethau a chynefinoedd

Rhywogaethau Goresgynnol a Defnyddio Plaladdwyr

Mae'r Brifysgol yn awyddus i leihau'r defnydd o blaladdwyr. Felly, fel mater o ddewis, defnyddir rheolaethau corfforol a diwylliannol, oni bai bod eu defnydd yn aneffeithiol; yna gellir defnyddio plaladdwyr cymeradwy.

Drwy gydol y flwyddyn cynhelir ymweliadau rheolaidd â phob ardal safle i gynnal archwiliadau ar draws yr holl adeiladau, cyrtiau, sylfeini, gorchuddion tyllau archwilio, pob sylfaen wal, grisiau, rampiau, llwybrau a mannau parcio. Mae tyfiant chwyn yn cael ei reoli drwy eu tynnu â llaw neu gyda pheiriant yn rheolaidd, gyda chwynladdwr yn cael ei ddefnyddio lle bo hynny'n gwbl angenrheidiol.

Drwy gydol y gaeaf, mae mwsogl ac algâu sy’n gordyfu yn cael eu tynnu oddi ar arwynebau caled. Lle bynnag y bo modd, mae tynnu mwsogl ac algâu yn cael ei wneud yn fecanyddol neu â llaw i atal defnyddio cemegau. Os oes angen chwynladdwyr, gwneir hyn gyda bioladdwr cymeradwy yn unol â chanllawiau'r gwneuthurwyr.

O ystyried natur sensitif sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol, cynlluniau bioamrywiaeth, archwiliadau dolydd a pholisi ehangach y brifysgol, cynhelir yr holl weithrediadau mewn cydweithrediad llawn ac ymgynghoriad llawn â Rheolwr Tiroedd y Brifysgol a'r Grŵp Llywio Bioamrywiaeth.

Mae contractwr Tiroedd y Brifysgol yn gweithio i ddatblygu cynllun rheoli chwyn integredig (IWMP) sy'n archwilio gwahanol ddulliau o reoli chwyn. Ar ôl i'r holl opsiynau eraill gael eu hystyried, efallai mai rheolaeth gemegol yw'r opsiwn gorau. Gyda IWMP, fel arfer mae gostyngiad mewn defnydd o gemegau chyfiawnhad cadarn dros eu defnyddio.

Lle bo angen, bydd ecolegydd hyfforddedig yn goruchwylio, cyfarwyddo a chefnogi gweithrediadau rheoli amgylcheddol i sicrhau bod hyfforddiant, rhaglennu, technegau a mesurau lliniaru cywir ar waith bob amser.

Mae gan y Brifysgol ardystiad Systemau Rheoli Amgylcheddol ISO 14001 . Yn ein cofrestr Agweddau ac Effeithiau, rydym wedi nodi 'Y defnydd o blaladdwyr a chwynladdwyr' ar dir y campws. Rydym hefyd wedi cydnabod y ddeddfwriaeth berthnasol o fewn ein cofrestr gyfreithiol ac mae gennym asesiad risg yn ei le sy'n nodi y dylid defnyddio opsiynau amgen lle bynnag y bo modd.

Ailgylchu a lleihau gwastraff

Rydym wedi cael ychydig dros £1m o arian grant Economi Gylchol gan Lywodraeth Cymru i drawsnewid gwastraff ac ailgylchu ar y campws. Mae'r prosiect hwn yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ysgogi cynnydd pellach mewn ailgylchu a datgarboneiddio, lle mae gwastraff yn cael ei osgoi a bod y pethau a ddefnyddiwn yn cael eu defnyddio cyhyd ag y bo modd. Rhoddwyd y prosiect ar waith erbyn mis Mawrth 2021 gan gyflwyno'r chwe ffrwd gwastraff ac ailgylchu canlynol: papur; cardbord; tuniau a chaniau; plastigau; gwydr; a deunyddiau na ellir eu hailgylchu. Mae cynwysyddion ailgylchu bwyd ar gael ym mhob cegin a gorsaf de. Yn ein bwytai a’n siopau coffi gallwch nawr ailgylchu pecynnau tafladwy compostadwy Prifysgol Caerdydd o eitemau a brynwyd o’n bwytai a’n siopau coffi; mae hyn yn cynnwys pecynnau bwyd, cyllyll a ffyrc pren a chwpanau a chaeadau diodydd poeth. Byddwn hefyd yn gwella cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu allanol tebyg i 'ddodrefn stryd' at ddefnydd cyffredinol er mwyn galluogi pobl i wahanu ffrydiau ailgylchu. Bydd mannau gwastraff ac ailgylchu hefyd yn cael eu creu ar dir presennol sy'n eiddo i'r brifysgol er mwyn i ni allu cael gwared ar ddodrefn a chyfarpar sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes er mwyn gallu gwahanu deunyddiau i'w hailgylchu.

Mae'r Strategaeth Galluogi Cynaliadwyedd Amgylcheddol yn manylu ar y DPA cynaliadwyedd amgylcheddol sy'n gysylltiedig â gwastraff domestig ac ailgylchu:

'Ein nod yw gwella cyfleusterau ailgylchu o bob math ledled y Brifysgol'.

Mae'r graff isod yn dangos y newid yn y gymhareb gwastraff dros y cyfnod adrodd. Mae'r data'n cwmpasu'r campws academaidd a phreswylfeydd myfyrwyr.

  1. Erbyn 2023, byddwn yn lleihau ein gwastraff a anfonir i ERF/RDF i ddim mwy na 30% yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru (Cyfleuster Adfer Ynni/Tanwydd yn Deillio o Sbwriel Targed Llywodraeth Cymru ar gyfer gwastraff trefol erbyn 2025)
  2. Drwy ddilyn yr hierarchaeth o ran gwastraff, byddwn yn gweithio tuag at gyflawni targed Llywodraeth Cymru ar gyfer ailgylchu, sef 70% erbyn 2024/25
A bar chart showing the ration of different waste streams

Sylwer. Ers gweithredu ein cynllun ailgylchu ar wahân ym mis Mawrth 2021, mae ein ffigurau ailgylchu campws academaidd wedi gwella i 65%. Ar hyn o bryd mae preswylfeydd myfyrwyr ar 45% sy'n arwain at ffigwr cyffredinol o 55% ar gyfer 2021/22.

Cadwch Gymru'n Daclus

Mae Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd wedi cofrestru ar hyn o bryd gyda Cadwch Gymru'n Daclus fel canolfan casglu sbwriel leol (Ffigur 15). Mae staff a myfyrwyr ynghyd â'r trigolion lleol yn gallu benthyg bagiau a 'chodwyr sbwriel' i gynnal sesiynau casglu sbwriel yn yr ardal.

A map showing the university biosciences department in Sir Martin Evans Building, Museum Avenue, Cardiff.
Ffigur 15. Lleoliad a manylion hwb casglu sbwriel Ysgol y Biowyddorau

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi'u trefnu ers i'r Hwb gael ei gofrestru ac mae tua 100 o fagiau sbwriel wedi'u casglu (Ffigur 16).

Litter pickers standing in front of bags of collected litter
Ffigur 16. Trefnwyd sesiynau casglu sbwriel gan dîm Adeilad Hadyn Ellis.

Polisi i leihau'r pwysau ar rywogaethau.

Yn ogystal â gwarchod bioamrywiaeth leol, mae Adran Arlwyo'r Brifysgol wedi cydnabod dinistrio cynefin a'r pwysau cysylltiedig ar rywogaethau a achosir gan ddefnydd eang o olew palmwydd mewn cyflenwadau arlwyo. O ganlyniad, mae Cynllun Gweithredu Polisi Bwyd Cynaliadwy'r Brifysgol 2021-2023 yn cynnwys yr amcan i 'Chwilio am gynhyrchion â chynhyrchion o ffynonellau cynaliadwy sy'n cynnwys olew palmwydd a soya' a'r weithred 'Dod o hyd i gynhyrchion sy'n cynnwys olew palmwydd sydd wedi'u hardystio gan y Ford Gron ar Olew Palmwydd Cynaliadwy'.

Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy (SUDS)

Rydym wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Caerdydd ar Brosiect Parc McKenzie sydd ochr yn ochr â'r Prif Adeilad. Clustnodwyd yr ardal i ddarparu System Draenio Trefol Cynaliadwy SUDS ar gyfer y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr newydd. Mae SUDS yn lleihau dŵr wyneb a pheryglon llifogydd mewn ffordd sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd gan ddynwared systemau dŵr naturiol fel pyllau, gwlyptiroedd, traethbantau a basnau. Ymgynghorwyd yn helaeth â Grŵp Llywio ERBAP mewn perthynas â'r elfennau bioamrywiaeth ar gyfer y safle. Mae'r system ddraenio wedi defnyddio techneg yr Ardd Law. Mae'r Ardd Law yn casglu dŵr llwyd o Heol Plas y Parc. Mae'n cynnwys ardaloedd ar wahân ar gyfer rheoli gwaddod a thynnu hydrocarbon trwy blannu ystod o hesg, brwyn, a rhywogaethau planhigion dyfrol eraill. Dewiswyd planhigion i gynnwys amrywiaeth o rywogaethau blodeuol er mwyn ennyn diddordeb a gwella mynedfa'r parc.

Amcan CGAN 5: Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n prosesau monitro

Arolygon draenogod

Cychwynnwyd arolygon draenogod, gan ddefnyddio twneli ôl troed, ym mis Ebrill 2021 fel rhan o arolwg mamaliaid peilot 3 wythnos ar Gampws Cathays a Pharc Bute, a arweiniodd at gyflwyno dau adroddiad Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol ym mis Medi 2021. Yna ymestynnodd arolygon draenogod 2021 i bum safle arall yn y Brifysgol a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2021 (Tabl 7). Yn 2022, cynhaliwyd yr arolygon o fis Mawrth 2022 tan fis Hydref 2022. Roedd tymor maes 2022 yn cynnwys safle 1 a safle 5 o 2021, a arolygwyd ddwywaith yn y flwyddyn (safle 1 — Mawrth a Mai; safle 5 — Mai a Medi), a saith safle ychwanegol (safleoedd 7 i 13) (Tabl 7). Yn gyfan gwbl, ar gyfer tymor yr arolwg 2021, gwnaethom gofnodi presenoldeb olion traed draenogod 110 gwaith (35 twnnel dros 51 diwrnod). Hefyd, daethom o hyd i asgwrn cefn draenog yn un o'r twneli ar safle 2, dal lluniau byw o gamera llwybr a osodwyd ar safle 6 a derbyn adroddiadau bod draenogod wedi cael eu gweld ar safle 3. Yn ystod tymor yr arolwg 2022, gwnaethom gofnodi olion traed 163 o weithiau (43 twnnel dros 68 diwrnod), cael adroddiad o weld draenog byw ar safle 8, lluniau camera llwybr o safle 1 a 5, a dod o hyd i samplau ysgarthol ar safleoedd 1, 5 a 13.

Tabl 7. Safleoedd Prifysgol Caerdydd lle canfuwyd presenoldeb draenogod

Blwyddyn

# Safle

Olion traed (twneli)

Fideo camera llwybr

Arall

2021

1

oes

Nac oes

-

2021

2

oes

Nac oes

Sampl asgwrn cefn

2021

3

oes

Nac oes

Wedi gweld draenog byw

2021

4

oes

Nac oes

-

2021

5

oes

Nac oes

-

2021

6

oes

oes

-

2022

1

oes

oes

Potiau Sampl Ysgarthol

2022

5

oes

oes

Potiau Sampl Ysgarthol

2022

7

oes

Nac oes

-

2022

8

oes

Nac oes

Wedi gweld draenog byw

2022

9

oes

Nac oes

-

2022

10

oes

Nac oes

-

2022

11

oes

Nac oes

-

2022

12

oes

Nac oes

-

2022

13

oes

Nac oes

Potiau Sampl Ysgarthol

Bioblitz

Gwnaethom hefyd redeg bioblitz yn ardal werdd y Prif Adeilad ym mis Mehefin 2021. Nod y bioblitz hwn oedd codi ymwybyddiaeth a hyfforddi staff a myfyrwyr ar y gwahanol dechnegau (e.e tyllau, rhwydi) a ddefnyddir i gasglu infertebratau a nodi grwpiau tacsa mawr. Gwnaethom hefyd geisio cael syniad cyffredinol o'r rhywogaethau a oedd yn bresennol yn yr ardal cyn gosod gwesty pryfed a phentyrrau coed/dail yn yr ardal, fel y gallem gymharu'r canlyniadau ag arolygon infertebratau yn y dyfodol ar y safle hwn. Cofnodwyd 34 cofnod yn y daflen ddata, 30 yn cyfateb i rywogaethau infertebratau, yn ogystal ag un mamal a thair rhywogaeth o adar. Yr urdd infertebratau a gofnodwyd amlaf oedd Hymenoptera (37%), ac yna Diptera (23%) (Ffigur 17).

A pie chart showing: Spiders 14%; beetles 13%; true flies 23%; bees, wasps, ants 37%; woodlice 10%; harvest spiders 3%
Figure 17. Arthropoda Orders recorded at the Main Building green area on the 18th of June 2021.

Apiau cofnodi bioamrywiaeth.

Rydym yn adrodd am weld bywyd gwyllt ar y campws drwy gyfrwng apiau cofnodi bioamrywiaeth. (LERC Wales, Spot-a-Bee, iNaturalist, Hedgehog Street, Mammal Mapper). Cafodd un o’n cofnodion o weld criced derw deheuol (Meconema meridionale, Ffigur 18) ei ddewis fel cofnod yr wythnos gan SweBrec. Dim ond naw gwaith yr oedd y rhywogaeth hon wedi'i chofnodi yng Nghymru cyn gweld y cofnodiad hwn.

Image of a southern oak-bush cricket on a black object
Ffigur 18. Gweld criced derw deheuol (Meconema meridionale) ar Gampws Cathays, Tachwedd 2022.

Arolygon coed

Cynhaliwyd arolwg Asesu Coed a Choedyddiaeth Gweledol ar draws y campws yn ystod Gwanwyn 2022 gyda thri adroddiad campws penodol yn cwmpasu’r holl gampws. Cynhaliwyd yr arolygon gan gontractwr tiroedd a gerddi'r Brifysgol ac mae'r adroddiadau'n manylu ar rywogaethau coed, uchder, diamedr coesyn a choron, lefel yr aeddfedrwydd a'r cyflwr presennol.

Adolygu’r Ddyletswydd A6

Mae datblygu'r ERBAP wedi galluogi camau gweithredu bioamrywiaeth i gael eu dyrchafu wrth wneud penderfyniadau ar draws y campws. Mae 'Prifysgol Gydnerth' yn ffurfio un o'n nodau sylfaenol o fewn ein Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol ac mae'n nodi ein hagenda bioamrywiaeth yn glir. Mae gweithgareddau ERBAP yn cael eu hadrodd yn rheolaidd ar bob lefel o'r sefydliad gan gynnwys bob chwarter yn y Pwyllgor Cynaliadwyedd Amgylcheddol a gadeirir gan y Dirprwy Is-Ganghellor ac ym Mwrdd Gweithredol y Brifysgol ddwywaith y flwyddyn. Mae'r ERBAP yn ystyriaeth allweddol ym mhob datblygiad newydd ar draws y campws, gyda gweithgareddau'n cael eu cymeradwyo fel rhan o'n harchwiliad System Rheoli Amgylcheddol allanol blynyddol (ISO 14001).

Mae Strategaeth ERBAP yn rhedeg hyd at ddiwedd 2023. Bydd adolygiad yn cael ei gynnal yn hydref 2023 ac yna bydd y strategaeth a'r cynllun gweithredu ar ei newydd wedd yn cael ei ddatblygu. Bydd gofynion y cynllun a6 yn cael eu hymgorffori yn y Strategaeth a Chynllun Gweithredu ERBAP newydd.

Atodiadau

Atodiad 1: Cynllun Gweithredu Cydnerthedd Ecosystemau a Bioamrywiaeth (EBRAP) Prifysgol Caerdydd 2021-2023

Pwyllgor Llywio ERBAP

Michael Bruford (Cadeirydd; Deon Cynaliadwyedd Amgylcheddol), Les Baillie (PHRMY), Angelina Sanderson Bellamy (PLACE/BIOSI), Jordan Cuff (BIOSI), Marie Davidova (ARCHI), Katrina Henderson (SSWEL), Nicola Hutchinson, (Swyddog Cadwraeth Cyngor Dinas Caerdydd), Chris James (ESTAT), Justine Jenkins (PHRMY), Julia Komar (Swyddog Moesegol ac Amgylcheddol Undeb y Myfyrwyr), Steve Ormerod (BIOSI), Lee Raye (CSERV), Maximilian Tercel (BIOSI), Andrew Thompson (ESTAT).

Talfyriadau

BAP                      Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth

BRED                   Dyletswydd Bioamrywiaeth a chydnerthedd Ecosystemau

CBD                     Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol

CL BAP                Cynllun Gweithredu Lleol Bioamrywiaeth Caerdydd

CWCW                Bywyd Gwyllt Caerdydd a Blodau Gwyllt Caerdydd

DECCA                 Amrywiaeth, Graddfa, Cyflwr, Cysylltedd ac Addasrwydd

ECO                     Swyddog Cydymffurfio Amgylcheddol

EMS                     Systemau Rheoli Amgylcheddol

ERBAP                 Cynllun Gweithredu Cydnerthedd Ecosystemau a Bioamrywiaeth Prifysgol Caerdydd

GI                         Seilwaith Gwyrdd

HPIB                    Cynefinoedd Pwysig Iawn ar gyfer Bioamrywiaeth

IPBES                   Llwyfan Polisi Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystem

LNP                      Partneriaeth Natur Leol

MOOC                 Cyrsiau Ar-lein Agored Enfawr

NGOs                  Cyrff anllywodraethol

NRAP                   Cynllun Gweithredu Adfer Natur

CNC                     Cyfoeth Naturiol Cymru

PHEW                  Pythefnos Iechyd, Amgylchedd a Lles Cadarnhaol

SDGs                   Nodau Datblygu Cynaliadwy

WG                      Llywodraeth Cymru

Pennod 1: Cefndir

Naratif bioamrywiaeth a chydnerthedd

Mae Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) y Cenhedloedd Unedig, a agorwyd am lofnodion yn ystod Uwchgynhadledd y Ddaear yn Rio ym 1992, yn cydnabod yr angen am weithredu rhyngwladol i atal colli bioamrywiaeth. Dros 25 o flynyddoedd yn ddiweddarach, rhybuddiodd yr Adroddiad Asesu Byd-eang o Lwyfan Polisi Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystem (IPBES) y Cenhedloedd Unedig, os rydym am atal colli bioamrywiaeth, arafu dirywiad natur a chyflawni nodau o ran bioamrywiaeth, hinsawdd a datblygu cynaliadwy erbyn 2030, ni fydd “busnes fel arfer” yn gweithio a byddwn yn hytrach yn arwain cymdeithasau ac economïau at fwy o risgiau. Yn ôl yr adroddiad, mae biomas mamaliaid gwyllt wedi cwympo o 82%, mae ecosystemau naturiol wedi colli tua hanner o’u ardaloedd ac mae miliwn o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu.

A ninnau wedi llofnodi Cytundeb Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG) Cymdeithas Amgylcheddol Prifysgolion a Cholegau (EAUC), mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i ymgorffori Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig ar draws y sefydliad. Mabwysiadwyd y Nodau Datblygu Cynaliadwy yn 2015 a gosodwyd cyfres o 17 nod sy’n amlinellu’r camau gweithredu brys sydd angen eu cymryd i gyflawni datblygiad cynaliadwy erbyn 2030. O’r nodau hyn, y rhai mwyaf perthnasol i Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Prifysgol Caerdydd yw’r canlynol:

  • SDG 11: Gwneud dinasoedd ac aneddiadau dynol yn gynhwysol, diogel, cydnerth a chynaliadwy.
  • SDG 13: Cymryd camau gweithredu brys er mwyn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a’i effeithiau.
  • SDG 15: Amddiffyn, adfer a hyrwyddo defnydd cynaliadwy o ecosystemau daearol, rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy, mynd i’r afael â diffeithdiro, atal a gwyrdroi diraddiad tir ac atal colli bioamrywiaeth.

Ar lefel genedlaethol, aethpwyd i’r afael â bioamrywiaeth drwy Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth (BAP) y DU[1]. Dilynodd y Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth (BAPs) Erthyglau y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) a chynnwys asesiadau o gyflwr elfen o fioamrywiaeth a roddwyd (gan gynnwys ei dogfennu’n gywir), nodi camau gweithredu hanfodol a oedd eu hangen er mwyn gwella cyflwr y fioamrywiaeth honno, yn y tymor byr, canolig a’r hirdymor, gan weithredu’r cynlluniau hynny ac, yn y pen draw, monitro’r deilliannau a rhoi’r gweithredoedd unioni a oedd eu hangen ar waith. Mae deddfwriaeth Cymru yn cadarnhau ymrwymiad cyfreithiol Cymru i gadwraeth bioamrywiaeth. Cyflwynodd Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 “ddyletswydd o ran gwella bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau (dyletswydd S6)” ar gyfer awdurdodau cyhoeddus, sy’n gofyn eu bod yn “ceisio cynnal a gwella bioamrywiaeth yn unol ag arfer eu swyddogaethau’n briodol ac wrth wneud hynny, hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau”. Er mwyn cydymffurfio â dyletswydd S6, dylai awdurdodau cyhoeddus “ymgorffori ystyriaeth o fioamrywiaeth ac ecosystemau i’w syniadau cynnar a’u cynlluniau busnes... yn ogystal ag i’w gweithgareddau dydd i ddydd”. Cyflwynodd Prifysgol Caerdydd ei hadroddiad Adran 6 cychwynnol i Lywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr 2019[2] - mae dolen i’r adroddiad yn Atodiad 1.

Yn ogystal, un o saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), 2015 yw anelu at Gymru gydnerth: “Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach, gweithredol sy’n cynorthwyo cadernid cymdeithasol, economaidd ac ecolegol a’r gallu i addasu i newid.” Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn fframio bioamrywiaeth yng nghyswllt ei chyfraniad at gyflawni cydnerthedd ecosystemau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW), corff amgylcheddol Llywodraeth Cymru, wedi datblygu fframwaith er mwyn gwerthuso cydnerthedd ecosystemau yn seiliedig ar bum nodwedd, a gyfeirir atynt fel DECCA: Amrywiaeth, Graddfa, Cyflwr, Cysylltedd ac Addasrwydd. Er mwyn cydnabod bod cyd-destun polisi Cymru yn rhoi sylw i bwysigrwydd cydnerthedd ecosystemau a bioamrywiaeth fel elfen hanfodol o gydnerthedd, rydym yn cyfeirio at ein cynllun fel Cynllun Gweithredu Cydnerthedd Ecosystemau a Bioamrywiaeth Prifysgol Caerdydd (ERBAP). Y rheswm dros hynny yw, yn ogystal â bioamrywiaeth, rydym yn ystyried cysylltedd, cyflwr a graddfa ecosystemau daearol ar draws ystadau Prifysgol Caerdydd. Dyma ddisgrifiad byr o nodweddion Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) ar gyfer ystyried cydnerthedd.

Amrywiaeth. Mae amrywiaeth yn bwysig ar lefelau a graddfeydd gwahanol, o enynnau i rywogaethau ac o gynefinoedd i dirweddau. Mae’n cefnogi cymhlethdod swyddogaethau ecosystem a’r rhaeadrau o ryngweithio sy’n darparu gwasanaethau a manteision[3]. Os caiff amrywiaeth ei golli, gallai systemau ddirywio a chwalu yn y pen draw. Mae swyddogaeth cydrannau unigol system hefyd yn agored i gael eu tarfu; mae amrywiaeth yn cynnig gormodedd o swyddogaethau ac yn gwella gallu’r system yn ei chyfanrwydd i addasu ar gyfer newid yn y dyfodol[4]. Mae’n bwysig nodi fod rhaid i amrywiaeth hefyd fod yn ‘addas’; mae’n bosibl fod gan rhai ecosystemau, e.e. mawnogydd, amrywiaeth gymharol isel, ond, serch hynny, mae’r ystod benodol o rywogaethau a chynefinoedd sydd ganddynt yn hanfodol ar gyfer y ffordd maent yn gweithredu.

Graddfa. Y mwyaf yw graddfa cynefin neu rywogaeth, y gorau y bydd yn gallu rheoli effeithiau tarfu. Er enghraifft, mae cynefin mwy o ran maint yn gallu cynnal poblogaethau mwy, sy’n llai tebygol o ddarfod (ac a allai hefyd gael amrywiaeth geneteg ehangach sy’n arwain at allu gwell i addasu) ac yn cael eu heffeithio llai gan effeithiau ymyl niweidiol. Mae gan lawer o rywogaethau gynefin o’r maint lleiaf sydd ei angen er mwyn cefnogi poblogaeth, sy’n golygu y gallent ddarfod[5]. Mae maint hefyd yn dylanwadu ar brosesau ecolegol, er enghraifft, mae cyforgors sy’n ddigon mawr i gefnogi ei system hydrolegol ei hun yn debygol o fod yn fwy cydnerth na chors lai.

Cyflwr. Mae cyflwr yn derm eang sy’n rhyngweithio â’r nodweddion eraill. Rydym yn ei ddefnyddio yma er mwyn gwneud cysylltiad â sut y caiff system ei rheoli, pa fewnbynnau sy’n cael eu cyflwyno, beth sy’n cael ei gymryd ohoni, a sut mae’n cael ei dylanwadu gan y ffordd y rheolir y tir sy’n ei hamgylchynu. Bydd ecosystem sydd mewn cyflwr gwael ‘o dan straen’ ac â llai o gapasiti i wrthsefyll, gwella neu addasu i aflonyddwch newydd, neu i ddarparu gwasanaethau ecosystem yn effeithiol. Gellir ystyried cyflwr yn nhermau cydrannau ecosystem eang sy’n ymwneud â bioamrywiaeth, aer, dŵr a thir. Mae asesiadau cydnerthedd, felly, yn ystyried cyflwr safleoedd, gan gynnwys ansawdd pridd, aer a dŵr, ac effeithiau defnydd helaeth o dir/môr a diwydiannau.

Cysylltedd.Mae cysylltedd ymhlith cynefinoedd yn galluogi symud o fewn a rhwng ecosystemau fflora a ffawna, maetholion, deunydd abiotig ac ynni. Mae cysylltu dau neu fwy o glystyrau cynefin yn galluogi cyfnewid deunydd genetig, maetholion, nwyddau, diwylliant, gwybodaeth ac ati, sy’n golygu bod eu cyflwr lleol yn gwella. Mae cysylltedd yn galluogi ecosystemau i weithredu a gwella os bydd aflonyddwch, ond mae’n cael ei leihau o ganlyniad i golli a chwalu cynefinoedd, creu rhwystrau, ac erydiad o’r ‘athreiddedd’ sy’n caniatáu symud ar draws y dirwedd. Mewn sefyllfaoedd penodol, mae’n bosibl fod gan gysylltedd agweddau negyddol, er enghraifft, os oes risg o hwyluso lledaeniad clefydau, tân neu rywogaethau ymwthiol estron[6].

Addasrwydd.Mae addasrwydd yn wahanol i’r nodweddion eraill gan ei fod yn rhan o ddiffiniad cydnerthedd yn hytrach na’n nodwedd sy’n ei gefnogi. Fodd bynnag, mae ei gynnwys yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) yn bwysig gan ei fod yn pwysleisio un o nodweddion pwysicaf cydnerthedd: bywiogrwydd a’r gallu i addasu i newid. Mae hyn yn arbennig o berthnasol ar gyfer newid yn yr hinsawdd, sydd bellach yn cael ei ystyried yn anochel ond ni allwn ddisgwyl cynnal y sefyllfa sydd ohoni. Yn hytrach, mae’n rhaid i ni feddwl yn nhermau newid dosbarthiad rhywogaethau, cyfansoddiad cymunedau ecolegol a swyddogaethau a phrosesau ecosystemau. Dyma ble mae’r elfennau o amrywiaeth, graddfa, cyflwr a chysylltedd yn dechrau cysylltu a chynnig y sylfaen er mwyn i addasu ddigwydd. Er enghraifft, gall cynnal llecynnau amrywiaeth a chysylltedd rhyngddynt hwyluso symudiad o ran ystod rhywogaethau[7].

Mae addasrwydd clystyrau cynefin yn ganlyniad o’u cydnerthedd. Mae addasrwydd cyffredinol ecosystemau yn gwahodd ystyriaeth benodol o’r cylchoedd addasol y mae llawer o ecosystemau yn mynd drwyddynt – deall nad yw ecosystemau yn endidau statig ac y byddant yn newid dros amser. Y cwestiwn allweddol yw p’un a fydd ecosystemau yn addasu ac yn newid yn y cyfeiriad a ddymunir o ystyried newidiadau a gofynion amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol y dyfodol megis newid yn yr hinsawdd. Mae angen mynd i’r afael â heriau o’r fath drwy reoli cynefinoedd yn rhagweithiol ar draws ystadau’r Brifysgol, gan gynnwys ymyriadau cynefin uniongyrchol a Dylunio Systemig.

Yn ogystal â nodweddion Cyfoeth Naturiol Cymru o gydnerthedd ecosystemau, mae’r Ddeddf Amgylcheddol yn gosod naw egwyddor syml o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy sy’n sail i reoli adnoddau naturiol. Mae Prifysgol Caerdydd yn ceisio integreiddio’r ffyrdd hyn o weithio o fewn strwythur llywodraethu ERBAP. Dyma’r egwyddorion[8]:

Addasrwydd: cynllunio, monitro, adolygu a newid ein gwaith wrth i ni gael gwell dealltwriaeth o ganlyniad i’n tystiolaeth amgenach. Caiff hyn ei gyflawni drwy’r archwiliad blynyddol yn ogystal â’r cyfnodau rheolaidd o wirio ERBAP.

Dibyniaeth ar raddfa: gwneud penderfyniadau a gweithredu ar y lefel gywir, yn fyd-eang a lleol. Mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd er mwyn nodi’r raddfa fwyaf addas ar gyfer cyflwyno’r blaenoriaethau a’r cyfleoedd amgylcheddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd ehangach y mae ein tystiolaeth yn eu hamlygu. Mae ERBAP yn creu cynllun gweithredu canolog er mwyn arwain camau gweithredu y gwasanaethau proffesiynol ac ymchwil sy’n ymwneud â phenderfyniadau ar lawr gwlad. Er mwyn uwchraddio ein camau gweithredu, mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda phartneriaid eraill ar draws dinas-ranbarth Caerdydd i uno ein mannau gwyrdd a chreu rhwydwaith ecolegol mwy cynhwysfawr ar draws y ddinas.

Gweithio gyda’n gilydd: gwneud yn siŵr bod yr holl randdeiliaid yn gallu chwarae rôl yng nghadwraeth a rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy drwy ymgysylltu, cyd-ddylunio a chyd-greu prosiectau, darparu tystiolaeth, a chydweithredu a chydweithio ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Mae’r Grŵp Llywio ERBAP yn cynnwys rhanddeiliaid o gymuned gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol, corff y myfyrwyr ac academyddion, yn ymgysylltu â chyrff llywodraethol eraill, gan gynnwys Cyngor Dinas Caerdydd (cynrychiolydd sy’n aelod o’n Grŵp Llywio ERBAP) a Chyfoeth Naturiol Cymru (tîm Datganiadau Ardal Canol y De), yn ogystal â chyrff anllywodraethol, Prifysgolion eraill yn rhanbarth dinas Caerdydd a chymunedau lleol.

Ymgysylltu â’r cyhoedd: sicrhau bod tryloywder a bod gan y cymunedau lleol gyfle i gael dweud eu dweud ar sut y dylid rheoli ein hadnoddau naturiol. Bwriad Grŵp Llywio ERBAP yw sbarduno ymgysylltu â’r cyhoedd trwy drefnu gweithdy a digwyddiadau allgymorth cyhoeddus eraill, yn targedu cyrff anllywodraethol, myfyrwyr a’r cyhoedd. Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn ymgysylltu â chymunedau drwy brosiectau gwyddor dinasyddion (e.e. Ap Spotabee) a byddant yn annog cyfranogiad o ran monitro a rheoli cynefinoedd presennol.

Casglu tystiolaeth: gwella ein sylfaen dystiolaeth er mwyn cynyddu ein dealltwriaeth o’n hadnoddau naturiol, sut maent yn gweithio a’u manteision. Bydd y dystiolaeth hon yn ein helpu ni gyd i ddeall y camau y gallwn ni eu cymryd yn well er mwyn rheoli ein hystâd yn fwy cynaliadwy. Bydd angen ystod lawn o dystiolaeth; nid tystiolaeth amgylcheddol yn unig, ond tystiolaeth ddiwylliannol, gymdeithasol ac economaidd hefyd, a gasglwyd gan arbenigwyr, rhanddeiliaid a chymunedau lleol. Caiff ERBAP ei gefnogi gan dystiolaeth a gesglir fel rheol drwy gyrsiau israddedig, prosiectau ymchwil a gwyddor dinasyddion.

Deall y manteision: gwella ein dealltwriaeth o werth ein hadnoddau naturiol a sut maent yn cefnogi ei gilydd fel ein bod ni a chenedlaethau’r dyfodol yn parhau i gael buddion economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol tra’n lleihau ein heffaith amgylcheddol. Caiff yr amcanion hyn eu cyflawni drwy ymgysylltu ag academyddion, gweithwyr proffesiynol y dyfodol a dinasyddion, trwy ledaenu gwybodaeth, allgymorth ac addysg.

Ymagwedd hirdymor: mae angen i effeithiau ein penderfyniadau a’n camau gweithredu gael eu hystyried nid yn unig o ran eu heffaith yn y tymor byr ond hefyd yn yr hirdymor, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Felly, mae angen gwneud penderfyniadau sydd â manteision hirdymor yn ogystal â thymor byr mewn golwg, sydd yn atblygol ac sy’n esblygu wrth i amodau newid. Mae cryfhau cydnerthedd yn broses sy’n cymryd amser ac mae angen iddi gael ei gwerthuso’n feirniadol fesul 5 mlynedd neu fwy.

Atal: cymryd camau i atal niwed sylweddol i’n hecosystemau. Mae ERBAP yn ceisio adfer ac amddiffyn ein mannau gwyrdd a’r manteision maent yn eu cynnig i gymdeithas. Er mwyn lliniaru digwyddiadau megis difrod damweiniol a chanlyniadau annisgwyl camau rheoli, caiff sefyllfaoedd posibl yn y dyfodol eu gwerthuso, a datblygir cynlluniau wrth gefn er mwyn osgoi goblygiadau negyddol mawr i ystâd werdd y Brifysgol.

Cydnerthedd: gwnewch yn siŵr bod ein penderfyniadau yn ystyried cydnerthedd ein hecosystemau a’u gallu i gynnig eu manteision yn yr hirdymor. Mae hwn wrth galon ERBAP a pham rydym yn ystyried nid yn unig y nifer o rywogaethau rydym yn eu gwarchod, ond hefyd graddfa, ansawdd, cysylltedd ac addasrwydd eu cynefin. O’r herwydd, mae angen i ni gydnabod yr amgylchedd penodol mae ardal drefol Caerdydd yn ei gynnig, sut mae’n amrywio ar draws ystâd y Brifysgol a rôl prosesau cymdeithasol a diwylliannol wrth ffurfio’r matrics hwn.

Gyda’r Ddeddf Amgylcheddol, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Cynllunio, mewn egwyddor mae gennym ni fframwaith integredig ehangach ar gyfer cydnerthedd ecosystem, sy’n ymgorffori cymhwysiad rheolaeth a pholisi bioamrywiaeth. Gellir gosod y fframwaith hwn yng nghyd-destun Cynllunio Adnoddau Naturiol ac yn natblygiad ‘Datganiadau Ardal’ Cyfoeth Naturiol Cymru am roi cydnerthedd ecosystemau a pholisi bioamrywiaeth mewn cyd-destun lleol, a chynhaliwyd trafodaethau yn ddiweddar gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys staff Prifysgol Caerdydd, o ran sut y dylai’r datganiadau hyn edrych. Ar yr un pryd, mae nifer o weithgorau wedi’u sefydlu i helpu gyda syniadau o ran cyflwyno Deddf Amgylcheddol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys rhai perthnasol ar Gydnerthedd ac Adfer Ecosystemau a Seilwaith Gwyrdd Trefol.

Tra bod cymdeithas yn wynebu argyfwng bioamrywiaeth, rydym hefyd yn wynebu argyfwng yr hinsawdd, sydd wedi’i gydnabod gan Ddatganiad y Brifysgol ym mis Tachwedd 2019 a gan y gwaith presennol i ddatblygu ein llwybr i beidio â chynhyrchu allyriadau erbyn 2030. Fodd bynnag, ni allwn fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd heb hefyd ystyried cadwraeth a chynyddu bioamrywiaeth. Mae ERBAP yn chwilio am gyfleoedd i warchod a hyrwyddo’r amrywiaeth o rywogaethau ar ystâd y Brifysgol, sydd hefyd yn gallu cyd-fynd â chamau gweithredu i leihau allyriadau carbon a chynyddu storio carbon. O fewn yr amgylchedd trefol, mae cadwraeth bioamrywiaeth yn arbennig o bwysig gan fod ardaloedd bywyd gwyllt yn gallu dioddef o lygredd a difa, felly dylai ymdrechion gwmpasu amddiffyn y safleoedd o ddiddordeb sydd yn weddill ar gyfer bioamrywiaeth, gwella safleoedd o werth posibl, a chreu cynefinoedd newydd. Mae adroddiad IPBES yn amlygu rhai offer polisi, opsiynau a gweithredoedd neilltuol mewn mannau trefol, megis hyrwyddo atebion sy’n seiliedig ar natur; cynyddu mynediad at wasanaethau trefol ac amgylchedd trefol iach ar gyfer cymunedau o incwm isel; gwella mynediad at ardaloedd gwyrdd; cynhyrchu a defnyddio cynaliadwy; a chysyllted ecolegol o fewn mannau trefol, yn arbennig gyda rhywogaethau estron. Gydag ERBAP, rydym yn ceisio mynd i’r afael â’r pryderon hyn a thrwy wneud hynny, ymuno â’r rhestr o brifysgolion y DU sydd hefyd wedi ymroi i weithio i atal colli bioamrywiaeth.

Mae staff Prifysgol Caerdydd wedi gweithio dros y blynyddoedd diwethaf i wella’r nifer o beillwyr o fewn rhanbarth trefol Caerdydd drwy osod cychod gwenyn ar do llawer o adeiladau’r brifysgol. Fodd bynnag, mae angen mynediad at gynefin addas a phorthiant amrywiol ar beillwyr a mathau eraill o fywyd gwyllt trwy gydol y flwyddyn er mwyn ffynnu. Mae ERBAP yn ceisio ymgymryd â ffordd gydlynol o weithio ar draws safleoedd y Brifysgol, gyda’r gwasanaethau proffesiynol, ymchwilwyr academaidd, myfyrwyr, a gyda Chyngor Dinas Caerdydd a gweithredwyr eraill er mwyn creu coridor o ardaloedd gwyrdd o ansawdd ar draws ardal dinas Caerdydd. Bydd ERBAP yn nodi cyfres o egwyddorion er mwyn arwain ymarferion cynnal a chadw y dirwedd ac yn ymgorffori’r rhain i’r broses dendro. Wrth i ERBAP ddatblygu, caiff lleoliadau ac egwyddorion pellach eu cynnwys yn yr arferion cadwraeth.  Bydd egwyddorion yn cynnwys gadael mannau pwrpasol wedi’u dylunio ar gyfer dolydd blodau gwyllt, lleihau a chael gwared ar y defnydd o chwynladdwyr, arolygu poblogaeth y coed a defnyddio offer digidol i hysbysu rhywogaethau a dewis lleoliadau ar gyfer plannu coed yn y dyfodol, ac amseru clipio cloddiau gan roi ystyriaeth i rywogaethau sy’n nythu.

O ystyried yr uchod, mae datblygiad ERBAP yn amserol a bydd yn ychwanegu at arferion gorau, yn ogystal â chefnogi Strategaeth Galluogi Cynaliadwyedd Amgylcheddol Prifysgol Caerdydd[9] er mwyn cyflawni’r nodau sylfaenol. Mae Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth (BAPs) gan lawer o brifysgolion yn y DU eisoes, ac o’r herwydd rydym ar ei hôl hi i raddau. Fodd bynnag, rydym wedi archwilio sut y caiff y rhain eu fframio o fewn cyd-destun pob un o amgylcheddau lleol y Brifysgol ac wedi datblygu ERBAP trwy gymryd rhai o elfennau gorau’r cynlluniau hyn. Yn ogystal, mae angen i ni sicrhau bod ERBAP yn cyd-fynd â Chynlluniau Gweithredu Seilwaith Gwyrdd a Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau Cyngor Dinas Caerdydd 2019[10] a chynlluniau deiliaid tir perthnasol eraill, er mwyn sicrhau ein bod yn rheoli ystâd y Brifysgol mewn ffordd sy’n gyson â dyheadau’r cyngor a chynnal seilwaith gwyrdd mewn ffordd sy’n gwella bioamrywiaeth a chysylltedd, gan ysgogi gwelliannau synergaidd ar gyfer bioamrywiaeth ledled y ddinas.

Nodau

Mae gan ERBAP Prifysgol Caerdydd yr amcanion cyffredinol canlynol.

  1. Nodweddu. Yn gyntaf, bydd ERBAP yn nodweddu lefel a dosbarthiad amrywiaeth fiolegol, wedi’i fesur o fewn rhywogaethau (helaethrwydd, cydnerth demograffig, amrywiaeth genetig) ac ymysg rhywogaethau (amrywiaeth ar lefel gymunedol ar gyfer pob grŵp mawr o blanhigion ac anifeiliaid brodorol). Bydd ERBAP hefyd yn nodweddu statws presennol gwasanaethau ecosystem sy’n gysylltiedig â bioamrywiaeth ar draws ystâd y Brifysgol, gan gynnwys lefelau o gysylltedd, swyddogaeth seilwaith gwyrdd (storio carbon, draenio cynaliadwy, oeri trefol, adfer ansawdd aer), gwasanaethau peillio a gwerth diwylliannol. Caiff y nodweddion bioamrywiaeth hyn eu gwerthuso yn gyntaf gan ddefnyddio arolygon dwys a dadansoddi data yn ystod Blwyddyn 1 ERBAP (2021-2022) er mwyn cofnodi cylch blynyddol llawn ecosystemau o fewn Ystâd y Brifysgol. Staff, myfyrwyr a gwirfoddolwyr sy’n ddinasyddion lleol fydd yn gwneud y gwaith nodweddu a bydd yn dilyn fframwaith DECCA (Amrywiaeth, Graddfa, Cyflwr, Cysylltedd ac Addasrwydd) deddfwriaeth Cymru. Cyflwynir adroddiad llawn ar ddiwedd Blwyddyn 1.
  2. Rheoli. Yna bydd ERBAP yn defnyddio’r data a gasglwyd ym Mlwyddyn 1 i bennu’r strategaethau rheoli mwyaf effeithiol ar gyfer cynnal a chadw, adfer a gwella ystâd werdd y Brifysgol drwy wneud y canlynol:
    1. Lliniaru. Yn gyntaf, bydd arferion sy’n cael effaith negyddol ar amrywiaeth yr Ystâd a gwasanaethau ecosystem cysylltiedig yn cael eu newid a/neu eu lliniaru gan fesurau gwellhaol sy’n berthnasol i’r arferion hynny. Bydd angen rhestr o’r arferion hynny a’u goblygiadau i Ystâd Werdd y Brifysgol yn ystod Blwyddyn 1.
    2. Adfer. Bydd cynefinoedd strategol a swyddogaethau a oedd mewn cyflwr anfoddhaol ym Mlwyddyn 1 yn cael eu targedu i gael eu hadfer a/neu eu gwella yn ystod cyfnod y BAP, sy’n cynnwys cynllun adfer graddol o amgylch Ystâd y Brifysgol yn canolbwyntio ar wella bioamrywiaeth o dan fframwaith DECCA.
    3. Gwelliant. Byddwn yn gwerthuso ystâd werdd y Brifysgol gyda’r nod o wella ei berfformiad bioamrywiaeth, waeth beth yw ei statws presennol, yn dilyn fframwaith DECCA (sy’n cynnwys cysylltedd o fewn yr Ystâd a gyda seilwaith gwyrdd lleol). Bydd gwelliannau’n digwydd yn raddol ac yn cynnwys addasu cynefinoedd, gan gynnwys plannu, tynnu chwyn, gwella bioamrywiaeth frodorol gan ddefnyddio seilwaith a gosodiadau megis refugia, mesurau cysylltedd a chyflwyno arferion rheoli newydd sy’n gwella bioamrywiaeth. Yn gyffredinol, ein nod yw adfer a gwella swyddogaeth a bioamrywiaeth 30% o ystâd werdd y Brifysgol erbyn 2023, ac i fod wedi cwblhau’r broses ar draws yr holl ystâd erbyn 2030.
  3. Monitro. Bydd ERBAP yn sefydlu rhaglen monitro barhaus a fydd yn gwerthuso newidiadau ac effaith arferion rheoli ar fioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystem drwy ymgysylltu â staff academaidd a’r gwasanaethau proffesiynol, drwy gyfleoedd addysgol a gynigir i fyfyrwyr ar draws yr holl golegau a thrwy ymgysylltu â gwirfoddolwyr lleol. Bydd gweithgareddau monitro mor gynhwysol â phosibl er mwyn creu ‘labordy byw’, a thrwy hynny ymgorffori gweithgareddau’r BAP o fewn bywyd a gweithgareddau dydd i ddydd y Brifysgol.
  4. Hyrwyddo, Ymgysylltu a Pharatoi. Bydd ERBAP yn canolbwyntio ar hyrwyddo bioamrywiaeth a’r gwasanaethau ecosystem mae’n creu gyda staff a myfyrwyr, gan gynnwys gwneud iddynt gymryd rhan yn y gweithgareddau a ddisgrifir uchod. Bydd ERBAP hefyd yn gwella ymgysylltu ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid gyda’r nod o wneud ystâd werdd y Brifysgol yn ffocws ar gyfer gweithgareddau cymunedol sy’n ymwneud ag addysg a lles. Caiff hyn ei wireddu drwy ddefnyddio ystâd werdd y Brifysgol fel ffocws ar gyfer rhyngweithio cymunedol trwy gyd-ddylunio, cyd-greu, arddangosiadau, gosodiadau, tirlunio caled ac e-ddysgu.

Torri Tir Newydd: Bioamrywiaeth ac Ystadau Prifysgol Caerdydd

Rhywogaethau

Hyd yma ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym wedi nodi deunaw o rywogaethau (neu grwpiau o rywogaethau) o fywyd gwyllt a blodau gwyllt fel ein blaenoriaethau ar gyfer gweithredu cadwraeth (Tabl 1). Mae’r rhestr yn cynnwys yr holl Rywogaethau Pwysig Iawn ar gyfer Bioamrywiaeth (SPIBs - o dan Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016)[11] sy’n bodoli ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, yn ogystal â’r Rhywogaethau Blaenoriaeth a nodwyd yng Nghynllun Gweithredu Lleol Bioamrywiaeth Caerdydd, 2008 (CL BAP).[12]

Yn ogystal, mae’r rhestr hefyd yn cynnwys rhai rhywogaethau a ddewiswyd gan Gymuned Prifysgol Caerdydd i gael sylw arbennig. Ym mis Ionawr-Chwefror 2019, cynhaliodd grŵp staff Bywyd Gwyllt Caerdydd a Blodau Gwyllt Caerdydd ymgynghoriad ar Yammer ynghylch y posibilrwydd o ddatblygu ‘Cynllun Bywyd Gwyllt a Blodau Gwyllt’ ar gyfer Prifysgol Caerdydd. Darllenwyd y dogfennau ymgynghori gan 308 o aelodau staff a denu 167 o gyfraniadau. Gwnaeth y cyfranwyr nodi deg rhywogaeth (neu grwpiau o rywogaethau) o fywyd gwyllt a blodau gwyllt fel blaenoriaethau cymuned ar gyfer gweithredu cadwraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn ogystal, mae nifer o grwpiau sensitif a nodwyd gan gofnodion fel rhai presennol ar diroedd y brifysgol wedi’u cynnwys ar y rhestr, gan warantu eu blaenoriaeth mewn cynlluniau rheoli sy’n mynd rhagddynt. Gwnaed y cofnodion hyn gan aelodau o’r Gweithgor Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth ac, fel y disgrifir mewn manylder isod, drwy amgyffrediad o gofnodion hanesyddol diweddar o’r fflora a ffawna sy’n bodoli trwy iRecord. Mae cadwraeth y grwpiau hyn yn gyraeddadwy i raddau helaeth ochr yn ochr â nodau sy’n bodoli eisoes sy’n ymwneud â’r rhywogaethau blaenoriaeth eraill.

Rydym yn cydnabod ar gyfer rhai rhywogaethau ar y rhestr ganlynol (e.e. tingoch du, golfan y mynydd) efallai na fydd yn bosibl gwella niferoedd, gan fod eu helaethrwydd yn ymwneud â ffactorau ecolegol sy’n ymestyn y tu hwnt i allu Prifysgol Caerdydd i ddylanwadu. Fodd bynnag, mae nifer o rywogaethau eraill ar y rhestr (e.e. pincod, teloriaid, adar ysglyfaethus, bronfreithod eraill) sy’n hysbys ac sy’n ymweld â’r safle’n gyson, ac mae disgwyl y gallwn weld cynnydd yn eu niferoedd trwy gamau gweithredu wedi’u targedu.

Tabl 1. Rhywogaethau a grwpiau o rywogaethau sydd wedi’u nodi hyd yma fel blaenoriaeth ar gyfer gweithredu a rheoli cadwraeth.

Rhywogaethau Blaenoriaeth Prifysgol Caerdydd

#

Enw cyffredin

Enw rhywogaeth

Rhywogaethau Pwysig Iawn ar gyfer Bioamrywiaeth

Cynllun Gweithredu Lleol Bioamrywiaeth Caerdydd

Cynllun Bywyd Gwyllt a Blodau Gwyllt Prifysgol Caerdydd

Statws ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2020

1

Neidr ddefaid

Anguis fragilis

oes

oes

oes

Yn bresennol ar un safle

2

Ystlum lleiaf

Pipistrellus pipistrellus

oes

oes

oes

Yn defnyddio tri safle o leiaf

3

Madfallod dŵr

Lissotriton vulgaris; L. helveticus; Triturus cristatus

oes

oes

oes

Dim cofnod

4

Gwylan penddu

Larus ridibundus

oes

oes

Nac oes

Yn bresennol ar un safle

5

Gwylan y penwaig

Larus argentatus subsp. argentatus

oes

oes

Nac oes

Yn bresennol ar sawl safle

6

Aderyn y to

Passer domesticus

oes

Nac oes

Nac oes

Yn bresennol ar sawl safle

7

Teigr y benfelen

Tyria jacobeae

Nac oes

oes

Nac oes

Bridiau ar ddau safle

8

Draenog

Erinaceus europaeus

oes

Nac oes

oes

Yn defnyddio tri safle o leiaf, posibilrwydd o fridio

9

Gwennol ddu

Apus apus

Nac oes

Nac oes

oes

Yn bridio ar un safle

10

Tylluan frech

Strix aluco

Nac oes

Nac oes

oes

Yn defnyddio un safle

11

Adar yr ardd

Yn cynnwys Prunella modularis, Turdus philomelos, Sturnus vulgaris,

oes

Nac oes

oes

Yn bresennol yn y mwyafrif o safleoedd

12

Peillwyr

Yn cynnwys Spilosoma lutea, Malacosoma neustria

Nac oes

Nac oes

oes

Yn bresennol yn y mwyafrif o safleoedd

13

Clychau’r Gog

Hyacynthides non-scripta

Nac oes

Nac oes

oes

Yn bresennol ar bedwar safle

14

Cennin pedr

Narcissus pseudonarcissus

Nac oes

Nac oes

oes

Dim cofnod

15

Fflora/ffawna’r pridd

Yn cynnwys Acari, Trichoniscidae, various Coleoptera, Chilopoda, Fungi

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Yn bresennol ym mhob safle

16

Coed hynafol

Yn cynnwys Quercus spp., Fagus sylvatica, Fraxinus excelsior

oes

Nac oes

Nac oes

Yn bresennol ar sawl safle

17

Fflora/ffawna saproxylic

Yn cynnwys Lucanidae, Syrphidae, Fungi

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Yn bresennol mewn rhai safleoedd

18

Gwyfynod

Var. Lepidoptera

Nac oes

Nac oes

Nac oes

Yn bresennol ym mhob safle

Cynefinoedd

Yn ogystal â’n rhywogaethau blaenoriaeth (neu grwpiau o rywogaethau) rydym hefyd wedi nodi pump cynefin sy’n flaenoriaeth (Tabl 2). Mae’r pedwar cyntaf o’r rhain i gyd yn Gynefinoedd Pwysig Iawn ar gyfer Bioamrywiaeth o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (HPIBs) yn ogystal â Chynefinoedd Blaenoriaeth o dan Gynllun Gweithredu Lleol Bioamrywiaeth Caerdydd 2008 (CL BAP) ac fe’u dewiswyd yn annibynnol hefyd fel blaenoriaethau gan Gymuned Prifysgol Caerdydd yn y Cynllun Bywyd Gwyllt a Blodau Gwyllt 2019. Dewiswyd y pumed, coed hynafol, gan ei fod yn darparu sawl microgynefin allweddol y mae llu o rywogaethau ar restr goch yr UE, chwilod saproxylic yn bennaf, yn dibynnu arnynt; mae nifer o chwilod tebyg wedi’u cofnodi ar diroedd y brifysgol, sy’n debygol iawn o fod yn dibynnu ar y ddarpariaeth sydd yno o’r microgynefinoedd hyn.

Tabl 2. Cynefinoedd sydd wedi’u nodi hyd yma fel blaenoriaeth ar gyfer gweithredu a rheoli cadwraeth.

Cynefinoedd Blaenoriaeth Prifysgol Caerdydd

#

Enw cyffredin

Cynefin Pwysig Iawn ar gyfer Bioamrywiaeth

Cynllun Gweithredu Lleol Bioamrywiaeth Caerdydd

Cynllun Bywyd Gwyllt a Blodau Gwyllt Prifysgol Caerdydd

Statws ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2020

1

Dôl glaswelltir naturiol iseldir

oes

oes

oes

c.2,475m2 ar hyn o bryd ar draws wyth safle. Wedi’u troi o laswelltir sydd wedi gwella, ond gyda pheth gweddillion a llawer o rywogaethau sydd wedi cytrefu

2

Pyllau

oes

oes

oes

Un pwll bychan yn unig ar hyn o bryd ar draws pob safle, ond pwll arall yn bresennol yn hanesyddol.

3

Coetir collddail cymysg iseldir

oes

oes

oes

Tua 9,000m2 ar draws tri safle.

4

Perth

oes

oes

oes

Dros 3km yn bresennol ar draws sawl safle.

5

Coed hynafol

oes

Nac oes

Nac oes

O leiaf tri safle yn cynnwys coed hynafol.

Mae ein rhywogaethau a’n cynefinoedd blaenoriaeth wedi’u gwasgaru ar draws campws y Brifysgol. Yn Nhabl 3, rydym yn nodi amrywiaeth a graddfa ein safleoedd allweddol gyda rhai sylwadau ar ansawdd a chysylltedd lle bo hynny’n hysbys. Ni ddangosir y rhywogaethau hyn ar lefel safle er mwyn gwarchod eu lleoliad. Mae’n werth nodi bod y gwerthoedd a’r datganiadau hyn yn fras a bydd angen arolwg pellach yn ystod cam cyntaf ERBAP (nodweddu). Mae’r llinellau llwyd yn Nhabl 3 yn nodi’r dyheadau ar gyfer pob safle: mae’n bosibl y byddant yn newid yn seiliedig ar ganlyniad y data a gesglir ym Mlwyddyn 1. Yna bydd nodweddion pob safle yn cael eu defnyddio i bennu’r strategaethau rheoli mwyaf effeithiol ar gyfer cynnal a chadw, adfer a gwella ystâd werdd y Brifysgol, a gellir adolygu’r dyheadau hynny ar yr adeg honno.

Tabl 3. Safleoedd allweddol ar gyfer bioamrywiaeth ar draws ystâd Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys sylwebaeth DECCA. Penderfynwyd ar statws rhywogaethau gwan neu gryf yn seiliedig ar hyfforddiant gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol[13]. Yn y ddogfen hyfforddi, mae allwedd 2a yn nodi: “Mae ardaloedd rhywogaethau gwan wedi’u dominyddu gan rygwellt ac mae ganddynt fioamrywiaeth gwan fel arfer. Mae gan ardaloedd sydd wedi gwella’n rhannol lai o rygwellt ac ychydig o rywogaethau. Mae gan ardaloedd rhywogaethau cryf 15+ o blanhigion fasgwlaidd, neu mwy na 30% o blanhigion blodeuol yn bresennol ac ychydig o rygwellt.”

Safleoedd Prifysgol Caerdydd

Safle

Dôl

Pyllau

Coetir

Perth

Rhywogaethau Blaenoriaeth

Meysydd Chwarae

1,030m2

Rhywogaethau Gwan

bach

 

870m

Cysylltiedig

10

Meysydd Chwarae

Dyheadau 2023

530m2

Rhywogaethau Gwan

bach

870m

Cysylltiedig

7[14]

Neuadd y Brifysgol

68m2

Rhywogaethau Gwan

yn flaenorol

8,200m2

Cysylltiedig

580m

Cysylltiedig

6

Neuadd y Brifysgol

Dyheadau 2023

418m2

Gwelliannau rhannol

oes

8,200m2

Cysylltiedig

580m

Cysylltiedig

10

Redwood

c538m2

Heb ei arolygu

   

5

Redwood

Dyheadau 2023

c538m2

Rhywogaethau Cryf

oes

oes

7

Gogledd Tal-y-bont

420m2

Rhywogaethau Cryf

 

300m2

Cysylltiedig

610m

Cysylltiedig

5

Gogledd Tal-y-bont

Dyheadau 2023

420m2

Rhywogaethau Cryf

300m2

Cysylltiedig

610m

Cysylltiedig

5

De Tal-y-bont

85m2

Rhywogaethau Gwan

  

450m

Cysylltiedig

5

De Tal-y-bont

Dyheadau 2023

85m2

Rhywogaethau Cryf

450m

Cysylltiedig

5

Llys Cartwright

216m2

Rhywogaethau Gwan

 

350m2

Cysylltiedig

370m

Cysylltiedig

5

Llys Cartwright

Dyheadau 2023

216m2

Rhywogaethau Cryf

350m2

Cysylltiedig

370m

Cysylltiedig

5

Adeilad Bute

Nac oes

   

3

Adeilad Bute

Dyheadau 2023

500m2

Rhywogaethau Cryf

oes

5

Adeilad Trevithick

0

  

oes

0

Adeilad Trevithick

Dyheadau 2023

400m2

Rhywogaethau Cryf

oes

5

Cubric

Na

  

oes

2

Cubric

Dyheadau 2023

250m2

Rhywogaethau Cryf

 

oes

5

Y Prif Adeilad

   

300m

Cysylltiedig

3

Y Prif Adeilad

Dyheadau 2023

   

300m

Cysylltiedig

3

Hadyn Ellis

70m2

Gwelliannau rhannol

   

3

Hadyn Ellis

Dyheadau 2023

70m2

Gwelliannau rhannol

3

Yr Ardd Goffa

    

3

Yr Ardd Goffa

Dyheadau 2023

3

5-7 Heol Corbett

   

50m

Ddim yn gysylltiedig

2

5-7 Heol Corbett

Dyheadau 2023

50m

Ddim yn gysylltiedig

2

Llys Senghennydd

76m2

Rhywogaethau Cryf

   

2

Llys Senghennydd

Dyheadau 2023

76m2

Rhywogaethau Cryf

2

Roy Jenkins

    

2

Roy Jenkins

Dyheadau 2023

2

Neuadd Gordon

   

80m

Ddim yn gysylltiedig

1

Neuadd Gordon

Dyheadau 2023

80m

Ddim yn gysylltiedig

1

Er bod llawer o’r gwaith eisoes wedi’i wneud i nodi ardaloedd o fioamrywiaeth bwysig ac i fapio ardaloedd o seilwaith gwyrdd pwysig ar draws ystâd y Brifysgol, cydnabyddir bod angen i ERBAP adeiladu ar y gwaith yma. Mae gwaith pellach ei angen i nodweddu’r amrywiaeth fflora a ffawna sy’n bresennol ar draws ystâd y Brifysgol drwy arolygu safleoedd mewn manylder trwy gydol y flwyddyn. Bydd ERBAP yn gweithredu’r arolygon hyn yn ystod 2021, gan leoli staff y Gwasanaethau Proffesiynol, staff a myfyrwyr Academaidd mewn ffordd systematig. Cynhelir arolygon chwarterol ar gyfer pob safle seilwaith gwyrdd a nodwyd o amgylch y Brifysgol yn 2019 gan y Deon a’i gydweithwyr, nid y rhai a nodwyd uchod yn unig. Cynhelir yr arolygon hyn fel y disgrifir yn yr adran ERBAP isod.

Cyd-destun a gweithgareddau lleol

Cyngor Dinas Caerdydd

Mae Prifysgol Caerdydd wedi’i lleoli’n bennaf yng nghanol y ddinas, mewn lleoliadau gwahanol sy’n cynnwys amrywiaeth eang o seilwaith adeiledig, mannau gwyrdd a phatrymau defnydd gan staff a myfyrwyr y Brifysgol a’r cyhoedd. Mae hyn yn golygu bod rheoli seilwaith gwyrdd yn her ac yn benodol iawn i’r cyd-destun. Yng nghyd-destun DECCA, mae hefyd yn golygu na ellir gweld rhannau o ystâd werdd y Brifysgol ar eu pennau eu hunain, naill ai yn rhinwedd eu hunain, neu yng nghyd-destun yr ystâd werdd sy’n bresennol wrth ymyl ac yn agos at y Brifysgol, lle mae cyfrifoldeb Cyngor Dinas Caerdydd yw ei rheoli. Cynhyrchodd y Cyngor Flaengynllun Seilwaith Gwyrdd (GI) a Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau (BRED) (2019)[15] newydd yn ddiweddar, ac mae ERBAP y Brifysgol yn cael ei roi mewn cyd-destun yn y dogfennau hyn. Nod y Cynllun GI yw creu “mannau gwyrdd cysylltiedig aml-bwrpas sy’n manteisio’n llawn ar y tir - ar un pryd â chynnig man agored gwyrdd i bawb, gan helpu bywyd gwyllt i ffynnu, a chyflwyno ystod eang o fanteision economaidd, iechyd a chymunedol.” Mae Cynllun Gweithredu BRED mewn sefyllfa i “gyflwyno amcanion y Cynllun Seilwaith Gwyrdd yn ogystal â’r rhai hynny sy’n rhan o Gynllun Gweithredu Adfer Natur (2015).”

Gweledigaeth gyffredinol y cynlluniau hyn yw y bydd ‘treftadaeth naturiol nodedig Caerdydd yn cynnig rhwydwaith o Seilwaith Gwyrdd a gaiff ei amddiffyn, ei wella, ei ddatblygu a’i reoli i wneud yn siŵr bod ei onestrwydd a’i gysylltedd yn cael ei gynnal er budd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y Ddinas a’r Rhanbarth.’ Mae’n glir bod ystâd Caerdydd, yn enwedig y rhan a leolir o fewn Parc Cathays ac o’i chwmpas, o bwys eithriadol er mwyn i Gyngor Dinas Caerdydd wireddu’r weledigaeth hon ac o’r herwydd, mae’n rhaid i ni weithio’n agos â’r Cyngor i wneud yn siŵr bod ein gweithgareddau ERBAP yn gyson â’r weledigaeth hon ac â’r gweithgareddau rheoli uniongyrchol a gyflawnir gan y cyngor. Ar yr un pryd, mae Prifysgol Caerdydd yn cyflogi >6,600 aelod o staff ac mae ganddi >33,000 o fyfyrwyr, gyda phob un ohonynt, ar ryw adeg neu’i gilydd, yn defnyddio seilwaith gwyrdd a chyfleusterau’r ddinas, ac a fydd yn elwa’n sylweddol ar ffordd gydlynol o reoli mannau gwyrdd a bioamrywiaeth yn eu hamgylchedd.

Mae Cynllun GI Cyngor Dinas Caerdydd wedi’i fframio’n benodol o fewn y cysyniad o gydnerthedd a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a dyma’r prif reswm pam fod ERBAP y Brifysgol hefyd wedi’i fframio yn yr un ffordd. Ymysg ysgogwyr polisi eraill, mae Cynllun y Cyngor hefyd yn cydnabod rôl gweithgarwch Datganiadau Ardal Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd â’r nod o helpu hwyluso rheolaeth gynaliadwy adnoddau naturiol Cymru. Mae Cyngor Dinas Caerdydd a phob un o ystadau Prifysgol Caerdydd wedi’u lleoli o fewn ffin Datganiad Ardal Canol y De[16]. Mae ei chwe phrif amcan yn cynnwys gwarchod a gwella ecosystemau Caerdydd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn parhau i gefnogi cynefinoedd a rhywogaethau amrywiol, gan eu galluogi i addasu i newid (Amcan 1). Mae hyn yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:

  1. Mapio ecosystemau, a pharatoi a gweithredu cynlluniau rheoli ar gyfer ecosystemau penodol;
  2. Cyflwyno mentrau ledled y ddinas ac ar draws ffiniau gan gynnwys prosiectau er mwyn cefnogi cael gwared ar rywogaethau ymwthiol, plannu mwy o beillwyr a gwarchod cynefinoedd a rhywogaethau sydd o dan fygythiad;
  3. Gwneud yn siŵr bod ecosystemau yn gydnerth, o ran eu graddfa, amrywiaeth, cysylltedd a chyflwr (DECCA)
  4. Darparu coridorau ecosystem mewn datblygiadau newydd a chyffrous
  5. Gwaith parhaus gyda gwirfoddolwyr i wella bioamrywiaeth leol
  6. Monitro a chofnodi rhywogaethau a chynefinoedd
  7. Darparu gwybodaeth a hyfforddiant i wirfoddolwyr a phobl leol.

Mae’r amcanion eraill yn cynnwys: rheoli seilwaith gwyrdd er mwyn gwella cydnerthedd hinsawdd a diogelu pobl a lleoedd (gan gynnwys rheoli llifogydd, darparu cysgod a microgynefinoedd eraill, draenio trefol cynaliadwy a monitro effeithiau newid yn yr hinsawdd ar seilwaith gwyrdd); cefnogi’r economi leol a thwristiaeth, cynnig manteision o ran iechyd corfforol ac iechyd meddwl drwy wella, hyrwyddo a chreu seilwaith gwyrdd aml-bwrpas cysylltiedig; galluogi dinasyddion i gymryd rhan mewn gwaith dysgu, hyfforddi a gwirfoddoli er mwyn meithrin cynhwysiant cymdeithasol a chydraddoldeb a gwella cyfleoedd bywyd; cyfoethogi ymdeimlad o le Caerdydd – mae Caerdydd eisoes yn adnabyddus am fod yn un o ddinasoedd mwyaf gwyrdd Ewrop ac mae Cynllun GI yn bwriadu ychwanegu at y dreftadaeth hon.

Nod Cynllun Gweithredu BRED yw defnyddio’r gweithgareddau cyffredinol yng Nghynllun GI i ddylanwadu ar amcanion Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP) Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys “Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd pwysig iawn a gwella’r ffordd o’u rheoli”, “Cynyddu cydnerthedd ein hamgylchedd naturiol trwy adfer cynefinoedd sydd wedi diraddio a chreu cynefinoedd”; “Mynd i’r afael â phwysau allweddol ar rywogaethau a chynefinoedd” a “Gwella tystiolaeth, dealltwriaeth a monitro”. Rhagwelir y bydd nifer fawr o weithgareddau yn rhan o gynllun “Troi’r Ddinas yn Wyrdd”, sydd wedi’i ymgorffori yng Nghynllun Cyflawni GI 2019-2022. Er bod llawer o’r rhain yn benodol i le, maent yn cynnwys amcanion cyffredinol i fapio gwasanaethau ecosystem sy’n seiliedig ar GI, datblygu cynllun rhwydwaith Green Lane, gosod llwybrau chwilotwyr bywyd gwyllt ar draws systemau’r parciau, gosod byrddau dehongli, a datblygu cynlluniau rheoli parciau. Yn gyffredinol, ceir nod o gynyddu canopi’r coed o 19% i 25% erbyn 2030, creu Partneriaeth Natur Leol (sydd bellach wedi’i chreu, gweler isod), a chynhyrchu Cynllun Gweithredu Adfer Natur a Chynllun Peillio lleol ar gyfer y ddinas.

Gellir gweld bod yr amcanion uchod yn mapio’n dda iawn gydag amcanion ERBAP y Brifysgol. Fodd bynnag, er mwyn gwneud yn siŵr bod gweithgareddau ERBAP yn gyson â Chynlluniau GI a BRED Cyngor Dinas Caerdydd mewn modd gofodol ac amserol, mae gofyn am ffordd o feddwl a gweithgareddau cydlynol a phenodol. Mae angen nodi, cyrchu, rheoli a monitro cyfleoedd cydweithio uniongyrchol. Er mwyn galluogi i’r gweithgareddau hyn gael eu nodi a’u datblygu, mae aelod o Gyngor Dinas Caerdydd ar bwyllgor ERBAP ar hyn o bryd (Swyddog Cadwraeth, Cyngor Caerdydd) ac aelod o’r Brifysgol ar bwyllgor llywio Partneriaeth Natur Leol Caerdydd (LNP) (Deon Cynaliadwyedd Amgylcheddol). Mae pwyllgor llywio LNP yn cynnwys cynrychiolwyr o’r llywodraeth leol, Cyfoeth Naturiol Cymru, amrywiaeth o gyrff anllywodraethol, Cymdeithas Ddinesig Caerdydd a gweithredwyr megis y Brifysgol. Mae’r cydweithio mewn cyfnod cynnar, ond rydym eisoes yn rhan o drafodaethau ynghylch, er enghraifft, dylunio a rheoli mannau gwyrdd i’r de o Brif Adeilad y Brifysgol a’r cyfleoedd lleoli posibl ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Caerdydd gyda gweithgareddau LNP ar gyfer prosiectau ac fel lleoliadau gwirfoddoli.

Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Datganiad Ardal Canol y De Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio ar raddfa ofodol ehangach ac â’r nod, ymhlith ei brif oblygiadau, o adeiladu ecosystemau cydnerth, cysylltu pobl â natur, gwella iechyd a gwella ansawdd aer. Mae’r tîm yn ymwybodol o ddatblygiad ERBAP y Brifysgol. O dan y thema Adeiladu Ecosystemau Cydnerth, mae ecosystemau trefol yn flaenoriaeth ac wrth weithio drwy Bartneriaethau Natur Lleol, Awdurdodau Cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, bydd y tîm Datganiadau Ardal yn cynnig cyngor i randdeiliaid gyda datblygu eu sylfaen dystiolaeth, deall rhwydweithiau ecolegol ar raddfa ofodol ehangach ar gyfer cynllunio synergaidd ac yn datblygu cynlluniau ardal yn seiliedig ar gydnerthedd.

Pharmabees

Gellir olrhain y prosiect arobryn Pharmabees yn ôl i Dr Jenny Hawkins, cynfyfyriwr yn yr Ysgol Fferylliaeth a gwblhaodd PhD yn 2015 o’r enw ‘Gwenyn Apothecari, defnyddio’r wenynen fel offeryn i ddarganfod cyffuriau’. Darganfu Jenny ‘uwch fêl’ o Dywyn yng ngogledd Cymru a oedd yn lladd arch-fygiau ysbyty, a phenderfynodd fod hyn o ganlyniad i blanhigion penodol yr oedd y gwenyn yn ymweld â nhw wrth chwilota. I ail-greu uwch fêl, gosodwyd cychod gwenyn ar do’r Adeilad Fferylliaeth (Redwood) a phlannwyd planhigion Tywyn i ddarparu’r ‘uwch’ fwyd ar gyfer y gwenyn[17].

Gan ddefnyddio’r profiad o Adeilad Redwood, ymgysylltodd Pharmabees â’r Brifysgol ehangach, gan arwain at osod cychod gwenyn a blychau chwilod ar fwy o adeiladau’r Brifysgol. Gwnaeth prosiect ar y cyd ag elusen Buglife arwain at blannu dôl bywyd gwyllt yn Adeilad Redwood a ddatblygodd i fod yn ardd goffa (er cof am yr Athro Chris McGuigan) gyda lawnt heb wair. Yn 2016, enillodd y prosiect Wobr Gymunedol y Faner Werdd, sydd wedi’i dyfarnu’n flynyddol ers hynny wrth i’r safle ddatblygu.

Mae Pharmabees hefyd wedi’i alinio’n agos â dau o’r “Prif” brosiectau; Treftadaeth Caer sy’n bwriadu gosod gardd apothecari ar eu safle a Phrosiect Cymunedol Grangetown sydd wedi gosod gardd gymunedol sy’n denu peillwyr ac sydd yn y broses o hau dôl blodau gwyllt. Mae’n rhaid i’r prosiectau cydweithredol hyn barhau i esblygu.

Yn 2018, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Byd Natur a Chadwraeth (WildSoc) Undeb y Myfyrwyr, cafwyd cyllid gan Grow Wild i sefydlu 10 ardal sy’n denu peillwyr ar draws yr ystâd. Mae’r gerddi a grëwyd o’r newydd yn rhychwantu safle cyfan Prifysgol Caerdydd; plannwyd planhigion ar y Caeau Chwaraeon; Campws y Parc Iechyd; Safle Adeilad y Frenhines; safle Cathays a safle newydd Heol y Maendy. Gorffennodd y prosiect gydag anerchiad gan yr academydd uchel ei barch yr Athro David Goulson, sy’n un o’r ymchwilwyr mwyaf blaenllaw i wenyn bwm. Ymgysylltodd y prosiect ag oddeutu 500 o bobl o fewn ac o gwmpas Prifysgol Caerdydd. Mae bellach 10 ardal y gellir eu datblygu ymhellach yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf gyda chyfraniad cymdeithasau staff a myfyrwyr.

Dangoswyd diddordeb o’r tu hwnt i gampws y brifysgol, gan arwain at ymgysylltu ynglŷn â bioamrywiaeth, gwrthfiotigau ac ymwrthedd i wrthfiotigau gyda 12 ysgol uwchradd, 30 ysgol gynradd a chwe phrosiect cymunedol yn ne Cymru a thramor.  Roedd hyn yn golygu y gellid datblygu ymgysylltiad strwythuredig wedi’i seilio ar dystiolaeth gydag ysgolion, y campws a’r gymuned. Mae’r tîm wedi gweld tystiolaeth o gynnydd mewn gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n amlygu newidiadau cadarnhaol o ran ymddygiad a gwerthoedd yn ymwneud â bioamrywiaeth, gwenyn, yr amgylchedd, gwyddoniaeth a lles. I ymgysylltu â chymunedau ynglŷn â phwysigrwydd y gwaith hwn, crëwyd gwefan sy’n dangos sut mae ymchwil y brifysgol yn cael effaith ar y byd go iawn a sut gall y cyhoedd gyfrannu[18]. Mae’r wefan yn cynnal dolen i brosiect deillio gwyddor dinasyddion, sef ‘gweld gwenynen’, lle mae’r cyhoedd yn defnyddio ffonau symudol i lanlwytho lluniau o wenyn a phlanhigion i Google Maps er mwyn creu map o blanhigion sy’n denu gwenyn yng Nghaerdydd. Hyd yma mae dros 5000 o ymgeiswyr, gyda rhai yn dod yr holl ffordd o California ac Angola. Mae Pharmabees yn gobeithio cysylltu allbynnau’r apiau gyda chronfeydd data cenedlaethol a defnyddio’r data fel teclyn cynllunio i nodi meysydd trefol sydd angen planhigion ac i fonitro effaith newid yn yr hinsawdd ar fflora a ffawna. Mae trefniadau yn eu lle ar gyfer ymgysylltu pellach ag ysgolion a phrifysgolion.

Mae’r prosiect Pharmabees bellach yn cael ei gydnabod yn rhan o Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol y Brifysgol. Mae dros 1,000m2 o blanhigion sy’n addas i bryfed peillio ac sy’n dal a storio carbon wedi cael eu plannu yn y brifysgol. Dyfarnodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Statws Croesawgar i Wenyn i’r Brifysgol hefyd. Yn 2017, enillodd y prosiect nifer o wobrau cenedlaethol a oedd yn cynnwys gwobrau cynaliadwyedd gan y Guardian a Chynnal Cymru. Mae’r prosiect wedi ymgysylltu ag amrywiaeth eang o sefydliadau fel gerddi cymunedol, ysgolion, diwydiant, byrddau iechyd, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Sefydliad y Merched.

Mae’r prosiect hefyd wedi gwella cysylltiadau â sefydliadau partner ledled de Cymru er mwyn cyfoethogi bioamrywiaeth mannau gwyrdd y tu hwnt i ffiniau’r Brifysgol ac annog mwy o ymgysylltiad a phryfed peillio ar draws y rhanbarth. Gwnaethant gyd-greu amgylcheddau croesawgar i wenyn sy’n gyfoethog o ran planhigion i wneud y Brifysgol a Chaerdydd yn lle gwell i fyw a gweithio. Yn ogystal â hyn, maen nhw’n cynnal prosiect cymysgedd o hadau blodau gwyllt mewn tair ardal yng Nghaerdydd ar hyn o bryd lle maent yn gofyn i’r cyhoedd dyfu cymysgedd arbrofol o hadau blodau gwyllt gartref a chofnodi’r pryfed sy’n ymweld â nhw. Caiff y gymysgedd o hadau blodau gwyllt hefyd eu defnyddio i greu dôl blodau gwyllt mewn safle yn Grangetown. Bydd trigolion ac ysgolion lleol yn monitro tyfiant ac ymweliadau gan bryfed.

Arweiniodd y datblygiadau hyn at gyd-greu gofod lles gyda byrddau iechyd. Yn ddiweddar, cyfeiriodd Archwilydd Cyffredinol Cymru at ofod lles yn Ysbyty Llandochau fel enghraifft o arfer da. Mae prosiect yn ysbyty Ystrad Mynach yn gobeithio mesur effaith treulio amser mewn mannau gwyrdd ar les personol. Yn sgil mwy o ymgysylltiad â Llywodraeth Cymru, bu Pharmabees yn curadu cynhadledd ar ran Grŵp Gweithredu ar Bryfed Peillio Llywodraeth Cynulliad Cymru, sef ‘Bee Well Cardiff, Joining the Dots’.

Ardaloedd Dolydd Prifysgol Caerdydd

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae naw ardal dôl wedi’u creu ar y campws gan Dîm Cynnal a Chadw Tiroedd Prifysgol Caerdydd (SPORT) a Pharmabees mewn cydweithrediad â Phreswylfeydd, Ystadau a WildSoc. Darparwyd yr hadau a ddefnyddiwyd gan brosiect Urban Buzz Buglife a phrosiect Gerddi Cymunedol Gerddi Kew. Mae’r dolydd ar bridd niwtral a chawsant eu plannu gyda rhywogaethau brodorol ac archaeophyte yn unig. Y prif rywogaethau a blannwyd oedd llygad-llo mawr, moron y maes, milddail, bwrned, y bengaled, blodau menyn, pys-y-ceirw a meillion coch a gwyn. Mae rhai dolydd wedi sefydlu neu recriwtio planhigion llai cyffredin, gan gynnwys ffacbys y berth, eurinllys trydwll, cribell felen, pidyn-y-gog gwyllt, llygad Ebrill, y ganrhi goch, clust-y-llygoden euraid, hocys mwsg, briwydd felen a briwydd y clawdd.

Yn ychwanegol, plannwyd 4,300 o glychau’r gog brodorol ar draws pum safle i gynnig banc hadau ar gyfer y dyfodol (roedd clychau’r gog brodorol wedi darfod ar y campws yn flaenorol). Roedd yr ardaloedd dolydd yn ardaloedd lawnt gynt (glaswelltir wedi gwella neu wedi gwella’n rhannol) ac maent bellach yn cael eu rheoli fel dolydd yn rhan o gytundeb tiroedd Prifysgol Caerdydd. Cafodd hanner cant o blanhigion gwiberlys eu tyfu o hedyn a’u cyflwyno yn 2019 yn seiliedig ar ganllaw gan ymchwil paill Pharmabees. Mae’r rhain wedi datblygu ar ddau safle o leiaf.

Grŵp Staff Bywyd Gwyllt Caerdydd a Blodau Gwyllt Caerdydd (CWCW)

Mae Grŵp Staff Bywyd Gwyllt Caerdydd a Blodau Gwyllt Caerdydd (CWCW) yn rhan o rwydwaith preifat Yammer Prifysgol Caerdydd, sy’n agored i holl aelodau staff Prifysgol Caerdydd. Crëwyd y grŵp yn 2018 ac mae ganddo 400 o aelodau ar hyn o bryd (310 sydd wedi bod yn weithredol ar y grŵp yn ystod y flwyddyn ddiweddaf). Pwrpas y grŵp yw rhannu gwybodaeth a brwdfrydedd ynghylch bioamrywiaeth Prifysgol Caerdydd, a phrosiectau amgylcheddol lleol. Ceir cyfartaledd o un post yr wythnos, lluniau neu fideos o anifeiliaid gwyllt a phlanhigion a dynnwyd ar diroedd y Brifysgol fel arfer, neu fentrau lleol eraill, deisebau a chynigion.

Ym mis Ionawr 2019, er mwyn dathlu bod 250 aelod yn rhan o Grŵp Staff CWCW, cynhaliwyd arolwg er mwyn dewis rhywogaethau a chynefinoedd blaenoriaeth er mwyn i Brifysgol Caerdydd weithio tuag at eu gwarchod (gweler Tabl 1 uchod). Cafodd canlyniadau’r arolwg eu datblygu yn Gynllun Bywyd Gwyllt a Blodau Gwyllt Prifysgol Caerdydd, a oedd yn un o’r dogfennau cychwynnol a gyflwynwyd i Grŵp Llywio ERBAP ar ddechrau ei ddeiliadaeth.

Llywodraethu a gwneud penderfyniadau

Caiff ERBAP ei reoli gan Grŵp Llywio ar hyn o bryd, sydd wedi’i sefydlu ers mis Awst 2019. Codwyd y pwyllgor a’i gylch gwaith o Strategaeth Galluogi Cynaliadwyedd Amgylcheddol 2018-2023 y Brifysgol, a oedd yn cynnwys blaenoriaeth “I wella bioamrywiaeth ein campws drwy hyrwyddo plannu peillwyr ar draws ein mannau gwyrdd” yn rhan o’r nod o Gynnal Prifysgol Gydnerth. Amlinellwyd pedwar o amcanion bioamrywiaeth o dan y flaenoriaeth hon:

  1. Cysylltu â’r strategaeth Lles i ddatblygu gardd gymunedol a gofod tyfu bwyd;
  2. Ehangu menter Peillio Llywodraeth Cymru ar draws adeiladau’r Brifysgol;
  3. Meithrin partneriaethau â’n cymdogion i ddatblygu coridorau bioamrywiaeth ar draws y ddinas;
  4. Mynd ati’n barhaus i blannu blodau gwyllt/planhigion denu gwenyn o amgylch campysau’r Brifysgol.

Mae’r Pwyllgor yn cynnwys yr aelodau o Staff Academaidd canlynol ar hyn o bryd: Yr Athro Michael Bruford (Deon Cynaliadwyedd Amgylcheddol fel Cadeirydd), Yr Athro Steve Ormerod (BIOSI), Yr Athro Les Baillie (PHRMY), Dr Angelina Sanderson-Bellamy (PLACE/BIOSI), Dr Marie Davidova (ARCHI); myfyrwyr ôl-raddedig: Jordan Cuff a Maximilian Tercel (BIOSI); Swyddog Moesegol ac Amgylcheddol Undeb y Myfyrwyr: Julia Komar, Staff y Gwasanaethau Proffesiynol: Justine Jenkins (PHRMY fel ysgrifennydd), Katrina Henderson (SSWEL), Lee Raye (CSERV), Andrew Thompson (ESTAT), Chris James (ESTAT); a chynrychiolydd o Gyngor Dinas Caerdydd: Nicola Hutchinson (Swyddog Cadwraeth). Ar hyn o bryd, mae’r grŵp yn adrodd ar sail ad hoc i’r Grŵp Llywio Systemau Rheoli Amgylcheddol (EMS), is-bwyllgor Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd y Brifysgol ond heb eto gael ei sefydlu’n ffurfiol o fewn strwythur adrodd pwyllgor y Brifysgol, ac nid oes egwyddorion cyffredinol sy’n ymwneud ag aelodaeth wedi’u sefydlu chwaith. Mae tîm ERBAP wedi bod yn cwrdd bron yn fisol i drafod datblygiad ERBAP ei hun, gweithgareddau perthnasol yn ystâd y Brifysgol ac o’i hamgylch, gweithgareddau partneriaeth, adnoddau a seilwaith.

Awgrymir y dylai Pwyllgor ERBAP roi adroddiad ffurfiol i’r Pwyllgor Llywio EMS pan fo’n cwrdd ac, yn rhan o ERBAP, dylai’r Pwyllgor wneud adolygiad ffurfiol o aelodaeth, gan gynnwys meini prawf, cydbwysedd (ar hyn o bryd does dim aelodau ffurfiol sy’n fyfyrwyr israddedig, nac aelodau o’r gymuned leol) a sut y caiff penderfyniadau eu gwneud yn ffurfiol (trwy gonsensws ad hoc ar hyn o bryd) cyn cyflwyno i Bwyllgor EMS i’w gymeradwyo. Mae’r materion llywodraethu hyn yn bwysig gan y bydd ERBAP yn gofyn am adnoddau gan y Brifysgol ac arianwyr allanol i weithredu’r argymhellion.

Pennod 2: Camau gweithredu

Creu Cynllun Gweithredu Cydnerthedd Ecosystemau a Bioamrywiaeth

Mae’r ERBAP wedi’i gynhyrchu ar y cyd gan aelodau o’r Pwyllgor Llywio, er mwyn trafod, addasu a chael argymhellion yn y pen draw gan Fwrdd Gweithredol y Brifysgol a’r Cyngor. Cydnabyddir y bydd angen cyfnod ymgynghori ar y Brifysgol a Rhanddeiliaid er mwyn asesu’r camau gweithredu a argymhellir. Mae amserlen yr ERBAP presennol yn dilyn cyfnod presennol Ffordd Ymlaen y Brifysgol (h.y. o 2021 i 2023), er bod rhai o’r argymhellion yn ymestyn y tu hwnt i gyfnod presennol dogfen y Ffordd Ymlaen, tan 2030, er mwyn cyd-fynd â Datganiad Argyfwng yr Hinsawdd y Brifysgol, Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig a tharged canopi coed y Cyngor.

Penodi Swyddog Bioamrywiaeth

Un o argymhellion canolog ERBAP yw penodi Swyddog Bioamrywiaeth ar gyfer y Brifysgol. Mae’r rôl a’r disgrifiad swydd i’w gweld isod. Rydym yn argymell swydd gyda’r Gwasanaethau Proffesiynol ar ganol Graddfa 5 (Pwynt graddfa 25: £38,704 yn y flwyddyn gyntaf), wedi’i gyfrifo am 3 blynedd yn y daenlen a atodwyd (yma ar 28/35 awr).  Dyma gyfrifoldebau’r rôl:

  • Goruchwylio gwelliannau cynefin a gyflwynir yn rhan o ERBAP y Brifysgol.
  • Arwain gwaith cynnal a chadw ardaloedd bioamrywiaeth o ansawdd uchel Prifysgol Caerdydd sy’n bodoli eisoes.
  • Cymryd cyfrifoldeb dros fonitro rhywogaethau blaenoriaeth ar safleoedd Prifysgol Caerdydd a gwneud yn siŵr bod data rhywogaethau wedi’u digido mewn cronfa ddata addas ar gyfer ymchwilwyr yn y dyfodol a hysbysu Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru.
  • Cadw cofnodion manwl o’r holl brosiectau bioamrywiaeth gan gynnwys mapiau GIS, cynigion prosiect, asesiadau risg a ffotograffau.
  • Creu cynlluniau rheoli fel sy’n ofynnol i gefnogi’r gwaith o reoli safleoedd sy’n groesawgar i fioamrywiaeth.
  • Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau / prosiectau bioamrywiaeth.
  • Cynnal digwyddiadau plannu a monitro gwirfoddol ar y campws ar gyfer myfyrwyr a staff sy’n gwirfoddoli.
  • Helpu i wneud cais am gyllid prosiect a gwobrau amgylcheddol.
  • Cadw mewn cysylltiad â phorthorion y safleoedd amgylcheddol, a’r timau cynnal a chadw tiroedd.
  • Cysylltu â swyddfa’r wasg i rannu newyddion pwysig a ffotograffau a chefnogi cyfathrebu allanol.
  • Cysylltu â phartneriaid yng Nghyngor Dinas Caerdydd, Partneriaeth Natur Leol a Chyfoeth Naturiol Cymru a chefnogi ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r gymuned ehangach.

Strategaeth o ran Adnoddau

Cydnabyddir y bydd gweithredu ERBAP yn gofyn am adnoddau ychwanegol o natur uniongyrchol ariannol, dynol ac o ran seilwaith. Felly, mae angen strategaeth o ran adnoddau er mwyn gweithredu ERBAP. Yn ogystal â’r adnoddau mewnol a allai ddod yn uniongyrchol gan y rhai hynny a roddwyd i’r adran Ystadau (e.e. ar gyfer rheoli a gwella tiroedd), gweithgareddau addysgol a gwirfoddol (trwy fyfyrwyr a staff) a gan weithgareddau Ysgol, mae’r Brifysgol yn gymwys i gael cyllid allanol er mwyn helpu gwella’r seilwaith gwyrdd, galluogi ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol drwy grwpiau dinasyddion, ysgolion ac fel aelodau o’r Bartneriaeth Natur Leol. Mae’r cyllid sydd eisoes yn cael ei ddenu gan brosiect Pharmabees yn brawf o argaeledd adnoddau allanol os caiff prosiectau a rhaglenni da eu datblygu. Mae ceisiadau cyllid allanol eisoes yn cael eu datblygu gan aelodau o’r pwyllgor ERBAP gan ffynonellau academaidd ac eraill, ac ar hyn o bryd mae cyfleoedd ariannu allanol yn cael eu nodi, eu monitro’n fisol a’u blaenoriaethu ar gyfer ceisiadau. Fodd bynnag, mae llwyddiant y dull hwn yn dibynnu ar amser ac argaeledd aelodau o’r pwyllgor ac eraill i ddatblygu cynigion. Byddai penodi Swyddog Bioamrywiaeth yn gwella’r gweithgaredd hwn i raddau helaeth ac yn galluogi manteisio ar gyllid allanol yn fwy effeithiol er mwyn lleihau costau ERBAP yn y dyfodol a chynhyrchu incwm ymchwil hyd yn oed.

Pennod 3: Cynllun Gweithredu

Cynllun Rhywogaethau a Bioamrywiaeth y Gymuned

Caiff Amcanion canolog ERBAP eu disgrifio uchod ond eu crynhoi yma.

  1. Nodweddu lefel a dosbarthiad amrywiaeth biolegol, wedi’u mesur o fewn ac ymysg rhywogaethau a statws presennol gwasanaethau ecosystem sy’n gysylltiedig â bioamrywiaeth ar draws ystâd y Brifysgol. Caiff y rhain eu gwerthuso yn gyntaf gan arolygon dwys a’u dadansoddi yn ystod Blwyddyn 1 ERBAP (2021-2022).
  2. Caiff y data a gasglwyd ym Mlwyddyn 1 ei ddefnyddio i bennu’r strategaethau rheoli mwyaf effeithiol ar gyfer cynnal a chadw, adfer a gwella ystâd werdd y Brifysgol drwy broses liniaru.
  3. Caiff cynefinoedd strategol a swyddogaethau a oedd mewn cyflwr anfoddhaol ym Mlwyddyn 1 eu targedu i gael eu hadfer a/neu eu gwella, sy’n cynnwys cynllun adfer graddol o amgylch Ystâd y Brifysgol yn canolbwyntio ar wella bioamrywiaeth o dan fframwaith DECCA.
  4. Byddwn yn gwerthuso ystâd werdd y Brifysgol gyda’r nod o wella ei berfformiad bioamrywiaeth, waeth beth yw ei statws presennol. Ein nod yw adfer a gwella swyddogaeth a bioamrywiaeth 30% o ystâd werdd y Brifysgol erbyn 2023, ac i fod wedi cwblhau’r broses ar draws yr holl ystâd erbyn 2030.
  5. Caiff rhaglen fonitro barhaus ei gweithredu er mwyn gwerthuso newidiadau ac effaith yr arferion rheoli ar fioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystem. Bydd gweithgareddau monitro mor gynhwysol â phosibl er mwyn creu ‘labordy byw’, a thrwy hynny ymgorffori gweithgareddau’r ERBAP o fewn bywyd a gweithgareddau dydd i ddydd y Brifysgol.
  6. Bydd ERBAP yn canolbwyntio ar hyrwyddo bioamrywiaeth a’r gwasanaethau ecosystem mae’n creu gyda staff a myfyrwyr, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid. Bydd yn defnyddio ystâd werdd y Brifysgol fel ffocws ar gyfer rhyngweithio cymunedol.

Adolygu Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth eraill

Gwnaethom gynnal adolygiad yn gyntaf o’r BAPs a oedd ar gael ar draws Grŵp Russell, Prifysgolion Cymru ac awdurdodau lleol er mwyn sefydlu cwmpas y dogfennau hyn a meincnodi arferion gorau ar draws sectorau perthnasol. Yn y Grŵp Russell, mae BAPs wedi’u cynhyrchu gan Fryste, Durham, Caerwysg, Glasgow, Leeds, Lerpwl, Newcastle, Nottingham, Rhydychen, Sheffield, Southampton, UCL, Warwick ac Efrog. Talwyd sylw penodol i brifysgolion GW4 Bryste a Chaerwysg. Ar gyfer SAU Cymru, mae BAPs wedi’u creu gan Aberystwyth, Bangor, Abertawe, De Cymru a Glyndŵr Wrecsam. Mae BAPs hefyd wedi’u creu gan Gyngor Dinas Caerdydd (wedi’u ddisodli gan y cynlluniau GI a BRED a ddisgrifir uchod), Cyngor Bryste a gwnaethom hefyd edrych ar Gynllun Pen-y-bont ar Ogwr. Gwnaethom nodi prif elfennau’r cynlluniau hyn gyda chyfeiriad arbennig at y sector Addysg Uwch (Tabl 4) a’u mapio ar gynlluniau Sefydliadol i weld pa agweddau sy’n cael eu cynnwys yn aml ac i nodi Arferion Gorau.

Tabl 4. Elfennau allweddol o Gynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Sefydliad Addysg Uwch

 

Grŵp Russell

(gyda chynlluniau)

SAU Cymru

(gyda chynlluniau)

Fframwaith Deddfwriaethol

8

1

Naratif byd-eang

3

2

Naratif lleol (gan gynnwys y Brifysgol)

5

3

Polisi Cymdeithas Amgylcheddol Prifysgolion a Cholegau (EAUC)

1

0

Arolwg o gystadleuwyr

1

0

Cynllun Ystadau

Rheoli1

Lliniaru2

Adfer3

Monitro4

9

2

1

5

1

1

0

3

Seilwaith Gwyrdd / cysylltedd / cynllun gofodol

4

0

Mapiau gan gynnwys cynefinoedd

7

4

Cydymffurfiaeth 14001 Systemau Rheoli Amgylcheddol

1

2

Gwobrau Efydd, Arian, Aur, a Phlatinwm EcoGampws (mae gan Brifysgol Caerdydd y wobr blatinwm ar hyn o bryd)

0

1

Effaith Werdd

7

2

Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREAAM)

1

0

Baner Werdd

2

1

Campws Bwytadwy

1

0

Penderfyniadau a llywodraethu sefydliadol

1

0

Swyddog / Cydlynydd Bioamrywiaeth

1

0

Strategaeth ariannu

2

0

Bioblitz / arolwg blynyddol

1

0

Cynlluniau Rhywogaethau

3

1

Cyhoeddiad adroddiad bioamrywiaeth

2

0

Codi ymwybyddiaeth / cyfathrebu

3

1

Cynllun Gweithredu (yn ôl amserlen)

7

2

Partneriaethau Lleol

5

0

Cynllun Addysg (gan gynnwys Addysgu ac allgymorth)

1

0

Cyfranogiad y corff myfyrwyr

4

0

Cyfranogiad y staff (gwirfoddoli)

4

0

Byw’n iach (ymwybyddiaeth ofalgar, gerddi)

1

0

Arferion Gorau

Mae dogfennau gweddol gynhwysfawr wedi’u creu gan Exeter (campws Penryn, sydd, fodd bynnag, yn adroddiad â chryn bwyslais ar ystadau), Glasgow (yr un mwyaf cynhwysfawr efallai sy’n cyfuno’r mwyaf o agweddau posibl o’r hyn y gallai BAP Prifysgol ei gynnwys), Leeds (dogfen hynod academaidd, a does braidd dim am ystadau), Nottingham (pwyslais ar ystadau yn unig, i’r graddau nad yw academyddion a myfyrwyr yn rhan ohono o gwbl), Sheffield (hefyd â chryn bwyslais ar ystadau), Abertawe (eithaf cynhwysfawr, ond o bosibl yn fwy academaidd) a UCL (cryn bwyslais ar ystadau). Nod y ddogfen hon, felly, yw defnyddio’r elfennau gorau o’r Cynlluniau hyn i greu ERBAP cynhwysfawr yn seiliedig ar arferion gorau.

Un nod ERBAP yw gwarchod y Rhywogaethau Blaenoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd drwy reoli ein Cynefinoedd Blaenoriaeth yn iawn (yn enwedig pan fo’n hysbys bod y rhywogaethau blaenoriaeth am ymddangos, Tabl 5). Nod arall y cynllun yw rhoi gweithdrefnau monitro yn eu lle ar gyfer ein rhywogaethau a chynefinoedd blaenoriaeth. Bydd ERBAP hefyd yn sefydlu rhaglen nodweddu gynhwysfawr er mwyn ailymweld â’r holl safleoedd a chynefinoedd ar ystâd werdd y Brifysgol.

Tabl 5. Bygythiadau sy’n wynebu rhywogaethau blaenoriaeth

Bygythiadau sy’n wynebu ein Rhywogaethau Blaenoriaeth

Rhywogaethau Blaenoriaeth

Bygythiadau Rhyngwladol yn ôl IUCN

Bygythiadau Cenedlaethol

Bygythiadau Lleol

(mae * wrth ymyl y rhai sy’n berthnasol i boblogaethau Prifysgol Caerdydd)

Neidr ddefaid

Dwysâd amaethyddol, datblygiad preswyl, tanau, coedwigaeth

Colli cynefin, ysglyfaethu

Lladd ar y ffordd, colli ymylon caeau, perthi, dolydd*, glaswelltir garw*, datblygiad preswyl*, tarfu dynol*, ysglyfaethu*

Madfallod dŵr

Llygredd dŵr, colli pyllau, cyflwyno pysgod

Colli cynefin, dwysâd ffermio

Ysglyfaethu*, colli pyllau*

Tylluan frech

Colli coetir, defnydd o blaladdwyr, traffig, llinellau pŵer

Poblogaeth llygod (vole)

Colli coetir*, defnydd o blaladdwyr*, traffig*, llinellau pŵer*, presenoldeb llygod*

Gwylan penddu

Clefyd, gollyngiadau olew, llygredd

Ysglyfaethu

Clefyd*, ysglyfaethu*, llygredd

Gwylan y penwaig

Clefyd, gollyngiadau olew, llygredd, ffermydd gwynt

Lleihad yn y gwastraff bwyd sydd ar gael, ysglyfaethu

Clefyd*, lleihad mewn gwastraff bwyd*, ysglyfaethu*, llygredd

Gwennol ddu

Datblygiad preswyl, ail-osod toeau neu ddymchwel

Adnewyddu adeiladau

Adnewyddu adeiladau*, tarfu*, dymchwel*, ffactorau rhyngwladol

Adar yr ardd

Colli infertebratau, dwysâd amaethyddol, colli perthi, prysg a glaswelltir, draenio pridd, plaladdwyr, newid yn yr hinsawdd

Dwysâd amaethyddol (colli bwyd), defnydd o blaladdwyr

Colli blodau gwyllt*, defnydd o blaladdwyr (yn enwedig pelenni malwod)*, dwysâd amaethyddol, llygredd*, newid yn yr hinsawdd*

Peillwyr

Dwysâd amaethyddol, defnydd o blaladdwyr, colli blodau gwyllt, rhywogaethau ymwthiol, clefyd, newid yn yr hinsawdd

Dwysâd o ran defnydd tir, colli cynefin, clefyd, defnydd o blaladdwyr, newid yn yr hinsawdd

Defnydd o blaladdwyr*, clefyd*, newid yn hir hinsawdd*, colli cynefin*, dwysâd o ran defnydd tir

Draenog

Dim

Colli cynefin, dwysâd amaethyddol, argaeledd ysglyfaeth, lladd ar y ffordd, ysglyfaethu

Datblygiad preswyl ac amaethyddol*, lladd ar y ffordd*, coelcerthi

Ystlum lleiaf

Erlid, tarfu, adnewyddu adeiladau

Adnewyddu adeiladau, tarfu

Newid yn yr hinsawdd*, datblygiad / adnewyddu preswyl*, ffyrdd*, tarfu*

Clychau’r Gog

-

Dinistrio coetir, casglu yn y gwyllt, croesrywedd gyda chlychau’r gog o Sbaen

Dinistrio coetir*, newid mewn rheolaeth*, torri gwair cyson*, sathru*, casglu*, cyflwyno clychau’r gog o Sbaen*

Cennin pedr

-

Dwysâd amaethyddol, rheoli gwael

Dwysâd amaethyddol, rheoli gwael*

Fflora/ffawna’r pridd

Erydiad ansawdd cynefin, dwysâd amaethyddol, newid yn nefnydd y tir

Erydiad ansawdd cynefin, dwysâd amaethyddol, newid yn nefnydd y tir

Dwysâd amaethyddol, defnydd o blaladdwyr*, llygredd*, newid yn nefnydd y tir*

Coed hynafol

Datgoedwigo, dwysâd amaethyddol

Datgoedwigo, dwysâd amaethyddol

Dwysâd amaethyddol, dinistrio coetir*, newid mewn rheolaeth*

Fflora/ffawna saproxylic

Colli cynefin, newid yn nefnydd y tir, gor-reoli

Colli cynefin, newid yn nefnydd y tir, gor-reoli

Dwysâd amaethyddol, dinistrio coetir*, newid mewn rheolaeth*, lleihad mewn cysylltedd cynefin*

Gwyfynod

Newid yn yr hinsawdd, datgoedwigo, dwysâd amaethyddol, colli cynefin, newid yn nefnydd y tir

Newid yn yr hinsawdd, datgoedwigo, dwysâd amaethyddol, colli cynefin, newid yn nefnydd y tir

Datgoedwigo, dwysâd amaethyddol, llygredd golau, colli cynefin, newid yn nefnydd y tir

Strategaeth Fonitro

Mae strategaeth fonitro ddelfrydol wedi’i dyfeisio er mwyn rhoi cyfrif am yr ystod dacsonomaidd ymarferol ehangaf o fflora a ffawna. Gwneir ymdrechion i weithredu cymaint o’r strategaethau hyn ag sy’n rhaid er mwyn nodweddu bioamrywiaeth Prifysgol Caerdydd yn llawn o dan gyfyngiadau yr arbenigedd, deunydd, gwaith llafur a hawliau (e.e. trwyddedau) sydd ar gael. Bydd monitro yn rhoi cyfrif am yr amrywiad mewn amrywiaeth yn ôl amser a gofod ar draws holl diroedd y brifysgol. Bydd angen casglu deunydd yn rheolaidd, eu cadw a’u hadnabod yn dilyn hynny er mwyn nodweddu’r ffawna infertebrat sy’n bodoli, tra bod fertebratau, planhigion a ffyngau yn gallu cael eu harolygu a’u cofnodi heb eu casglu. Caiff arolygon o grwpiau sydd angen gwybodaeth dacsonomaidd hynod arbenigol eu cyfyngu gan argaeledd arbenigedd perthnasol ar gyfer y broses adnabod. Er mwyn sicrhau hirhoedledd, gellir ymgorffori’r arolygon hyn i arferion addysgu yn yr Ysgol Biowyddorau ac unrhyw ysgolion prifysgol perthnasol eraill lle bo’n bosibl. Bydd yr arolwg yn cynnwys amrywiaeth o dechnegau i’w defnyddio’n rheolaidd yn dibynnu ar y gwaith llafur a’r tarfu ecolegol posibl sy’n gysylltiedig â phob un:

Microgynefinoedd:

  • Mae arolygon gweledol o safleoedd eisoes wedi’u cynnal i ddechrau a gellir eu diweddaru wrth i’r diwygio o ran rheoli barhau.

Infertebratau:

  • Infertebratau’r tir – Gosodir trapiau tyllau (cwpanau wedi’u claddu sydd â gorchudd rhwyll a chaead i atal cnofilod a glaw rhag cael mynediad) a chynhelir samplo sugno ar gyfer infertebratau’r dydd a’r nos.
  • Infertebratau sy’n hedfan – Defnyddir trapiau gludog/malaise/rhyng-gipio fel sy’n briodol yn dibynnu ar niferoedd, mynediad a strwythur cynefin. Caiff lluniau ffawna carismatig fel gloÿnnod byw eu tynnu a mentrau fel Big Butterfly Count eu hannog ar diroedd y brifysgol.
  • Rhywogaethau nosol sy’n cael eu denu at olau – Mae trapio golau eisoes yn cael ei wneud ar draws Caerdydd gan staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a chaiff ei roi ar waith ar diroedd y brifysgol.

Fertebratau:

  • Mamaliaid – Defnyddir trapiau camera a thrapiau Longworth, yn amodol ar drwyddedau addas, arbenigedd a phresenoldeb tyllau chwistlod.
  • Ystlumod – Defnyddir datgelwyr ystlumod/datgelwyr ystlumod statig, yn arbennig mewn safleoedd y tybir sy’n cynnwys ystlumod.
  • Adar – Defnyddir arolygon corws y wawr ar gyfer adar cân ac arolygon gweledol ar gyfer adar mwy gan gynnwys gwylanod, yn enwedig gwylanod y penwaig.
  • Draenogod/mamaliaid bach – Defnyddir arolygon ôl-troed twnnel a ffaglu (torching) (yn unol ag achrediad campws sy’n croesawu draenogod), yn amodol ar drwyddedau addas.
  • Ymlusgiaid – Mae arolygon refugia eisoes yn cael eu cynnal ar y safleoedd mwyaf addas a byddant yn parhau, gydag arolygon ychwanegol yn cael eu hystyried pan fo cynefin addas yn codi.
  • Amffibiaid – Does dim pyllau yn bresennol ar hyn o bryd, ond unwaith iddynt gael eu sefydlu, defnyddir ffaglu, cyfri/chwilio am silod a thrapiau potel, yn amodol ar drwyddedu addas (er nad oes Madfallod Cribog wedi’u cofnodi hyd yma ar diroedd y brifysgol).

Fflora/Ffyngau:

  • Blodau gwyllt – Mae arolygon llawn o’r safle wedi’u cynnal yn y gorffennol. Cynhelir arolygon gweledol/ffotograffau yn ogystal ag arolygon llawn ychwanegol o’r safle.
  • Llystyfiant y tir – Cynhelir arolygon gweledol/ffotograffau.
  • Coed – Bydd arolygon gweledol/ffotograffau yn adeiladu ar y raddfa bresennol o gatalogio, sydd eisoes wedi nodweddu nifer fawr o’r fioamrywiaeth blodau.
  • Ffyngau – Cynhelir arolygon gweledol/ffotograffau.

Er mwyn ychwanegu at yr arolygon hyn, mae cofnodion hanesyddol ar draws tiroedd y brifysgol wedi bod, ac yn parhau i gael eu casglu o’r safle/ap cofnodi natur iRecord, a ddefnyddir yn eang, gan ddefnyddio’r nodwedd “gweithgarwch”. Mae’r cofnodion wedi’u casglu ar gyfer holl diroedd Prifysgol Caerdydd, gyda nifer o rywogaethau sydd wedi’u cynnwys yn y cofnodion hyn yn cyfrannu at ddatblygiad y rhestr rhywogaethau blaenoriaeth er mwyn rheoli’r uchod yn y dyfodol. Caiff gweithgareddau “bioblitz” eu hannog i gynyddu’r raddfa o gofnodi ar diroedd y brifysgol, yn enwedig gan grwpiau ac unigolion sydd â gwybodaeth arbenigol o grwpiau tacsonomaidd arbenigol.

Mae’r adran ganlynol yn cyflwyno cynllun penodol ar gyfer pob un o’r rhywogaethau blaenoriaeth a nodwyd i’w gwarchod a’u gwella.

Targedau Rhywogaethau

Nadroedd defaid

  1. Astudiaeth nodweddu gychwynnol
  2. Erbyn dechrau 2021, byddwn wedi sefydlu rhaglen monitro nadroedd defaid o dan arweiniad staff.
  3. Erbyn diwedd 2021, byddwn wedi sefydlu system sy’n rhwystro cathod (e.e. seiniwr agosatrwydd), er mwyn gwneud yn siŵr nad yw cathod yn difrodi poblogaeth nadroedd defaid.
  4. Erbyn diwedd 2022, byddwn wedi codi arwydd rhybudd ar bob safle lle mae’r rhywogaeth hon yn bresennol er mwyn osgoi tarfu.
  5. Erbyn diwedd 2023, byddwn wedi creu asesiad amgylcheddol a phrotocol lliniaru, i’w ddilyn os oes angen i’r brifysgol ddatblygu unrhyw ardaloedd sy’n sensitif yn amgylcheddol yn seiliedig ar brofi prototeipiau trefol.
  6. Erbyn 2023, byddwn wedi troi 1,000m2 ychwanegol yn ddolydd. Bydd hwn wedi hanner ei orffen erbyn 2022.

Madfallod dŵr

  1. Astudiaeth nodweddu gychwynnol
  2. Erbyn diwedd 2020, byddwn wedi adnewyddu’r pwll yn Neuadd y Brifysgol a chreu hibernaculum amffibiaid ac ymlusgiaid gerllaw.
  3. Erbyn diwedd 2023, byddwn wedi creu pwll bywyd gwyllt mawr canolog yn y brifysgol ger y prif adeilad. Bydd y pwll wedi’i ddylunio i eithrio pysgod a chynnig cysgod i amffibiaid. Caiff hyn ei gefnogi gan ddyluniad trawsddisgyblaethol wedi’i chyd-greu, a ellir ei gyflawni drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid a thrwy raglenni israddedig a meistr.

Tylluanod brych

  1. Erbyn diwedd 2021, byddwn wedi rhoi rhaglen Arolwg Cyfnos yn ei le er mwyn chwilio am bresenoldeb tylluanod ar draws Prifysgol Caerdydd.
  2. Erbyn diwedd 2022, ym mhob safle lle caiff tylluanod brych eu canfod, byddwn wedi rhoi rhaglen lleihau niwed yn ei lle gan gynnwys arwyddion rhybuddio mewn meysydd parcio a chynlluniau osgoi gwrthdaro o amgylch llinellau pŵer.
  3. Erbyn 2023, byddwn wedi creu un filltir o berth ychwanegol a/neu laswelltir garw er mwyn annog mamaliaid bychain ac adar. Bydd hwn wedi hanner ei orffen erbyn 2022.

Gwylanod

  1. Erbyn diwedd 2021, byddwn wedi rhoi rhaglen arolygu gwylanod yn ei lle. Bydd hyn yn cynnwys pedwar ymweliad blynyddol â safleoedd sydd â gwylanod, chwilio am unrhyw arwyddion o glefyd ac ysglyfaethu, a chyfri’r nifer o nythod.

Gwenoliaid du

  1. Erbyn diwedd 2022, byddwn wedi creu polisi safle sy’n groesawgar i wenoliaid du sy’n gwneud yn siŵr nad oes tarfu ar wenoliaid du yn ystod eu tymor nythu.
  2. Erbyn diwedd 2022, byddwn wedi codi arwydd rhybudd ar bob safle lle mae’r rhywogaeth hon yn bresennol er mwyn osgoi tarfu. Bydd y gwaith dylunio ar gyfer gwella cynefinoedd yn dechrau.
  3. Erbyn diwedd 2023, byddwn wedi creu asesiad amgylcheddol a phrotocol lliniaru, i’w ddilyn os oes angen i’r brifysgol ddatblygu unrhyw ardaloedd sy’n sensitif yn amgylcheddol. Byddwn wedi cynyddu cyfleoedd o ran cynefin i wenoliaid du gydag ymyriadau penodol ac wedi datblygu dyluniadau penodol. Cyflawnir hyn drwy integreiddio gwyddor dinasyddion a myfyrwyr lle bo’n bosibl.

Adar yr ardd

  1. Astudiaeth nodweddu gychwynnol – pa rywogaethau sydd gennym, ble a phryd ydyn nhw’n ymweld? Pa rai sy’n bridio? (e.e. telorion yr ardd, telorion penddu, helygddryw, adar ysglyfaethus), pa rai dros y gaeaf (e.e. telorion penddu, siff-siaffod)?
  2. Erbyn 2023, byddwn wedi troi 1000m2 o laswelltir a reolir gan ystâd werdd yn ddolydd.
  3. Erbyn diwedd 2021, byddwn wedi gwahardd y defnydd o blaladdwyr a phelenni malwod ym mhob amgylchedd awyr agored.

Peillwyr

  1. Astudiaeth nodweddu gychwynnol
  2. Erbyn diwedd 2021, byddwn wedi gwahardd y defnydd o blaladdwyr a phelenni malwod ym mhob amgylchedd awyr agored.
  3. Erbyn diwedd 2021, byddwn wedi cyfyngu ar y defnydd o blaladdwyr dethol i gynnwys caeau chwaraeon yn unig.
  4. Erbyn diwedd 2022, byddwn wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio cynnyrch glyffosad mewn ysgrepanau (knapsacks); byddwn yn defnyddio weipars chwyn, chwistrelliad coesyn a thoddiannau heb gymysgu yn unig. Byddwn hefyd yn cynyddu cynefinoedd a thirweddau bwytadwy i beillwyr yn yr ardal o 50%.
  5. Erbyn 2023, byddwn wedi troi 1,000m2 ychwanegol yn ddolydd.

Draenogod

  1. Astudiaeth nodweddu gychwynnol
  2. Erbyn diwedd 2021, byddwn wedi gwahardd y defnydd o blaladdwyr a phelenni malwod ym mhob amgylchedd awyr agored.
  3. Erbyn diwedd 2021, byddwn wedi cofrestru ar y Cynllun Campws sy’n Croesawu Draenogod a rhoi rhaglen Arolwg Cyfnos yn ei le er mwyn chwilio am bresenoldeb draenogod ar draws Prifysgol Caerdydd.
  4. Erbyn diwedd 2022, byddwn wedi rhoi arwyddion rhybuddio ym meysydd parcio safleoedd lle mae’n hysbys eu bod yn cael eu defnyddio gan ddraenogod. Byddwn hefyd yn cynyddu cynefinoedd a thirweddau bwytadwy yn yr ardal gan ddefnyddio ymyriadau trefol.
  5. Erbyn diwedd 2023, byddwn wedi creu asesiad amgylcheddol a phrotocol lliniaru, i’w ddilyn os oes angen i’r brifysgol ddatblygu unrhyw ardaloedd sy’n sensitif yn amgylcheddol.
  6. Erbyn 2023, byddwn wedi creu un filltir o berth ychwanegol a/neu laswelltir garw er mwyn annog mamaliaid bychain ac adar. Bydd hwn wedi hanner ei orffen erbyn 2022.

Ystlumod lleiaf

  1. Arolwg cychwynnol yn defnyddio dulliau acwstig (yn benodol i weld ble a ph’un a oes gennym ystlumod lleiaf soprano ac/neu alto, sy’n rhywogaethau ar wahân).
  2. Erbyn diwedd 2022, byddwn wedi creu polisi safle sy’n groesawgar i ystlumod sy’n gwneud yn siŵr nad oes tarfu arnynt yn ystod eu tymor bridio.
  3. Erbyn diwedd 2021, byddwn wedi rhoi rhaglen Arolwg Cyfnos yn ei le er mwyn chwilio am bresenoldeb ystlumod lleiaf ar draws Prifysgol Caerdydd.
  4. Erbyn diwedd 2022, byddwn wedi codi arwydd rhybudd ar bob safle lle mae’r rhywogaeth hon yn bresennol er mwyn osgoi tarfu ac ehangu eu cynefin drwy ymyriadau trefol.
  5. Erbyn 2023, bydd ein gweithrediadau Ystadau a Chyfleusterau Campws yn garbon niwtral (gweler strategaeth Galluogi Cynaliadwyedd Amgylcheddol).
  6. Erbyn diwedd 2023, byddwn wedi creu asesiad amgylcheddol a phrotocol lliniaru, i’w ddilyn os oes angen i’r brifysgol ddatblygu unrhyw ardaloedd sy’n sensitif yn amgylcheddol.

Clychau’r gog

  1. Astudiaeth nodweddu gychwynnol, gan gynnwys adnabod unrhyw groesrywiau posibl.
  2. Erbyn diwedd 2023, byddwn wedi cael gwared ar holl glychau’r gog o Sbaen ym Mhrifysgol Caerdydd, a gwahardd eu defnydd.
  3. Erbyn diwedd 2022, byddwn wedi codi arwydd rhybudd ar bob safle lle mae’r rhywogaeth hon yn bresennol er mwyn osgoi tarfu.
  4. Erbyn diwedd 2023, byddwn wedi creu asesiad amgylcheddol a phrotocol lliniaru, i’w ddilyn os oes angen i’r brifysgol ddatblygu unrhyw ardaloedd sy’n sensitif yn amgylcheddol. Byddwn yn cefnogi eu cynefin drwy ddigwyddiadau gwasgaru hadau’r gymuned mewn ardaloedd a ddymunir.
  5. Erbyn 2023, byddwn wedi cyflwyno clychau’r gog ym mhob safle sydd ag ardaloedd coediog ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cennin pedr

  1. Erbyn diwedd 2023, byddwn wedi codi arwydd rhybudd ar bob safle lle mae’r rhywogaeth hon yn bresennol er mwyn osgoi tarfu.
  2. Erbyn diwedd 2023, byddwn wedi gwahardd plannu cennin pedr garddwriaethol a rhoi cennin pedr Cymreig gwyllt yn eu lle. Byddwn yn trefnu digwyddiadau cyhoeddus er mwyn casglu barn y cyhoedd am dyfu ar y safle yn ogystal ag yn eu gerddi blaen. Fe fydd hyn yn cefnogi cysylltedd ar draws y ddinas.
  3. Erbyn diwedd 2023, byddwn wedi creu asesiad amgylcheddol a phrotocol lliniaru, i’w ddilyn os oes angen i’r brifysgol ddatblygu unrhyw ardaloedd sy’n sensitif yn amgylcheddol.
  4. Erbyn 2023, byddwn wedi troi 1,000m2 ychwanegol yn ddolydd. Bydd hwn wedi hanner ei orffen erbyn 2022.

Fflora/ffawna’r pridd

  1. Erbyn diwedd 2021, byddwn wedi gwahardd y defnydd o blaladdwyr a phelenni malwod ym mhob amgylchedd awyr agored.
  2. Erbyn diwedd 2021, byddwn wedi cyfyngu ar y defnydd o blaladdwyr dethol i gynnwys caeau chwaraeon yn unig.
  3. Erbyn diwedd 2022, byddwn wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio cynnyrch glyffosad mewn ysgrepanau (knapsacks); byddwn yn defnyddio weipars chwyn, chwistrelliad coesyn a thoddiannau heb gymysgu yn unig. Byddwn hefyd yn cynyddu cynefinoedd a thirweddau bwytadwy i beillwyr yn yr ardal o 50%.
  4. Erbyn 2023, byddwn wedi troi 1,000m2 ychwanegol yn ddolydd. Bydd hwn wedi hanner ei orffen erbyn 2022.

Coed hynafol

  1. Caiff coed hŷn eu cadw, cyhyd â’u bod yn ddiogel yn strwythurol i aros yno (polisi eisoes yn ei le).
  2. Caniateir i goed sy’n bodoli eisoes i aeddfedu. Cynhelir asesiadau trylwyr ynghylch diogelwch strwythurol coed, gyda choed sydd wedi’u heffeithio gan bydredd ffwngaidd, erydu neu farwolaeth hyd yn oed ddim yn cael eu tynnu oni bai eu bod yn peri risg i ddiogelwch dynol (polisi eisoes yn ei le).

Fflora/ffawna saproxylic

  1. Cynhelir arolwg cychwynnol o ffawna saproxylic sy’n bodoli yn 2021
  2. Erbyn diwedd 2021, byddwn wedi gwahardd y defnydd o blaladdwyr a phelenni malwod ym mhob amgylchedd awyr agored.
  3. Erbyn diwedd 2021, byddwn wedi cyfyngu ar y defnydd o blaladdwyr dethol i gynnwys caeau chwaraeon yn unig.
  4. Erbyn diwedd 2022, byddwn wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio cynnyrch glyffosad mewn ysgrepanau (knapsacks); byddwn yn defnyddio weipars chwyn, chwistrelliad coesyn a thoddiannau heb gymysgu yn unig. Byddwn hefyd yn cynyddu cynefinoedd a thirweddau bwytadwy i beillwyr yn yr ardal o 50%.

Gwyfynod

  1. Astudiaeth nodweddu gychwynnol gan ddefnyddio trapiau gwyfynod yn 2021
  2. Erbyn diwedd 2021, byddwn wedi gwahardd y defnydd o blaladdwyr a phelenni malwod ym mhob amgylchedd awyr agored.
  3. Erbyn diwedd 2021, byddwn wedi cyfyngu ar y defnydd o blaladdwyr dethol i gynnwys caeau chwaraeon yn unig.
  4. Erbyn diwedd 2022, byddwn wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio cynnyrch glyffosad mewn ysgrepanau (knapsacks); byddwn yn defnyddio weipars chwyn, chwistrelliad coesyn a thoddiannau heb gymysgu yn unig.
  5. Erbyn 2023, bydd ein gweithrediadau Ystadau a Chyfleusterau Campws yn garbon niwtral (gweler strategaeth Galluogi Cynaliadwyedd Amgylcheddol).
  6. Erbyn 2023, byddwn wedi troi 1,000m2 ychwanegol yn ddolydd. Dylai hyn fod wedi cynyddu cynefinoedd a thirweddau bwytadwy i beillwyr o amgylch y brifysgol o dros 50%.

Tabl 6. Crynodeb o Dargedau

Mae dichonoldeb pob targed yn dibynnu ar benodi Swyddog Bioamrywiaeth

Crynodeb o Dargedau

Dyddiad

Targedau

Erbyn Medi 2021

Arolygon ac astudiaethau nodweddu cychwynnol wedi’u cwblhau, a’r canlyniadau wedi’u cyflwyno ar iRecord.

Plaladdwyr a phelenni malwod wedi’u gwahardd.

Plaladdwyr dethol wedi’u cyfyngu i gaeau chwaraeon.

Rhaglen fonitro nadroedd defaid staff wedi’i sefydlu.

Y pwll yn Neuadd y Brifysgol wedi’i adnewyddu.

Erbyn Rhagfyr 2021

Arolwg bioamrywiaeth cyffredinol cyntaf wedi’i gwblhau ar draws pob safle.

Arolwg cyfnos wedi’i sefydlu ar gyfer tylluanod brych, ystlumod a draenogod, gan ddefnyddio recordydd sain statig o bosibl i helpu monitro safleoedd.

Cofrestru a dechrau ar y Cynllun Campws sy’n Croesawu Draenogod.

Arolwg gwylanod wedi’i sefydlu.

Polisïau safle yn eu lle ar gyfer gwenoliaid du ac ystlumod.

Systemau gwrth-gathod yn eu lle ar gyfer nadroedd defaid.

Arwyddion rhybuddio wedi’u gosod ar ffyrdd ar gyfer draenogod, tylluanod brych.

Arwyddion ‘Peidiwch â tharfu’ ar gyfer clychau’r gog, cennin pedr Cymreig, gwenoliaid du, ystlumod, nadroedd defaid. Prosiectau ar gefnogi cynefinoedd prototeip ar draws y campws yn dechrau. Dechrau ymgysylltu â’r cyhoedd.

Erbyn Rhagfyr 2022

Cynnyrch glyffosad wedi’u cyfyngu.

Clychau’r gog o Sbaen i gyd wedi’u tynnu.

Cennin pedr garddwriaethol wedi’u tynnu a chennin pedr Cymraeg brodorol yn eu lle.

Plannu mwy o gennin pedr garddwriaethol a chlychau’r gog wedi’i wahardd.

Creu 500m2 o ddolydd ar gyfer peillwyr, adar cân, cennin pedr Cymreig

Creu 500m o berth/glaswelltir garw ar gyfer draenogod, tylluanod brych. Datblygu cynefinoedd prototeip ar draws y campws, ymgysylltu â’r cyhoedd. Dechrau ymyriadau systemig.

Erbyn Rhagfyr 2023

Asesiad amgylcheddol a phrotocol lliniaru ar gyfer datblygu safleoedd sy’n sensitif yn amgylcheddol.

Byddwn wedi creu pwll bywyd gwyllt newydd ger y prif adeilad. Monitro cynefinoedd prototeip. Creu rhai newydd sydd wedi’u llywio gan y rhai blaenorol. Monitro gwyddor dinasyddion, taleb, DIY, apiau AR.

Adfer a gwella swyddogaeth a bioamrywiaeth 30% o ystâd werdd y Brifysgol.

Creu 1,000m2 o ddolydd ar gyfer peillwyr, adar cân, cennin pedr Cymreig.

Creu 1km o berth/glaswelltir garw ar gyfer draenogod, tylluanod brych.

Clychau’r gog wedi’u cyflwyno i bob safle sydd â choetir. Cymuned trawsrywogaethol yn ffynnu.

Erbyn Rhagfyr 2030

Cwblhau’r gwaith o adfer a gwella swyddogaeth a bioamrywiaeth ystâd werdd y Brifysgol.

Tabl 7. Costau cyfalaf

Costau cyfalaf Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth dros 3 blynedd – Rhywogaethau a Chynefinoedd

Prosiect

Safle Posibl

Eitem a chost – mae pob pris yn fras

Cyfanswm

Prosiect y ddôl

Neuadd y Brifysgol

Adeilad Bute

Adeilad Trevithick

Adeilad Cubric

100% hadau blodau gwyllt (3kg) (£390)

Byrddau dehongli (x2) (£500)

£890

Prosiect y Pwll

Neuadd y Brifysgol

Adeilad Redwood

Gwaith adnewyddu pwll Neuadd y Brifysgol (£350)

Creu pwll bywyd gwyllt newydd (£1,000)

£1,350

Prosiect y Berth

Gallai hyn gynnwys

Meysydd Chwarae

Llys Cartwright

Safleoedd terfynol i’w cadarnhau yn seiliedig ar arolwg a’r galw

Perthi, coed a llwyni (x500) (£1,000)

£1,000

Arolwg cyfnos

Safleoedd ystlum, tylluan frech, draenog a gwennol ddu heb eu datgelu (x5)

Synhwyrydd ystlum statig (£780)

Camerâu bywyd gwyllt (x3) (£450)

£1,230

Prosiect neidr ddefaid

Safle neidr ddefaid heb ei ddatgelu

Gwrthyrrwr/dychrynwr cathod wedi’i bweru gan yr haul (x2) (£40)

Bwrdd dehongli ar gyfer safle (£250)

Refugia newydd (x3) (£25)

£315

Prosiect gwennol ddu

Safle gwennol ddu heb ei ddatgelu

Arwyddion ar gyfer y safle (x3) (£100)

Bwrdd dehongli ar gyfer safle (£250)

£350

Prosiect draenog

Safleoedd draenogod heb eu datgelu (x3)

Arwyddion ffyrdd ar gyfer safleoedd (x6) (£200)

Byrddau dehongli (x3) (£750)

£950

Prosiect ystlum

Safleoedd ystlumod heb eu datgelu (x3)

Arwyddion ffyrdd ar gyfer safleoedd (x6) (£200)

Bwrdd dehongli ar gyfer safleoedd (x3) (£750)

£950

Prosiect clychau’r gog

Ardaloedd cysgodol dolydd o amgylch y campws heb eu datgelu (x5)

Bylbiau clychau’r gog (x4,000) (£800)

Arwyddion ar gyfer safleoedd (x6) (£200)

£1,000

Prosiect cennin pedr

Cennin pedr garddwriaethol sydd eisoes wedi’u plannu o amgylch y campws a dolydd lliwgar (x c.10)

Bylbiau (x1,000) (£960)

Arwyddion ar gyfer safleoedd (x3) (£100)

£1,060

Cyfanswm

  

£9,095

Cynllun Ymgysylltu a Pharatoi

Mae nifer o gymunedau yr hoffai pwyllgor llywio ERBAP ymgysylltu â nhw, gyda manylion pellach isod:

  1. Gwasanaethau Proffesiynol
  2. Staff academaidd
  3. Myfyrwyr prifysgol
  4. Cymunedau Caerdydd a grwpiau cymunedol
  5. Llywodraeth leol
  6. Cyrff Anllywodraethol Amgylcheddol

Caiff gweithgareddau BAP eu hymgorffori o fewn y rhaglen newid ymddygiad, Effaith Werdd. Bydd hyn yn annog adeiladu timau o bob rhan o’r Brifysgol i gymryd rhan mewn codi ymwybyddiaeth ac ymgymryd ag ystod o weithgareddau i gefnogi BAP. Bydd y gweithgareddau yn rhan o’r wythnos Cynaliadwyedd staff a myfyrwyr a gynhelir ym mis Mawrth yn flynyddol a hefyd ym mhythefnos Iechyd, Amgylchedd a Lles Cadarnhaol (PHEW) staff a gynhelir bob blwyddyn ym mis Gorffennaf. Defnyddir rhwydwaith y Swyddog Cydymffurfio Amgylcheddol (ECO) i ledaenu gwybodaeth i ardaloedd lleol.

Un o nodau’r rhaglen nodweddu ym mlwyddyn un bydd i gynhyrchu llyfryn “Bywyd Gwyllt a Blodau Gwyllt Prifysgol Caerdydd”.Bydd y llyfryn yn rhestru’r 100 o rywogaethau mwyaf cyffredin y gellir dod o hyd iddynt yng nghynefinoedd blaenoriaeth gwahanol Prifysgol Caerdydd. Bydd yn ganllaw maes sylfaenol ac yn cynnig ffotograffau o bob un o’r 100 o rywogaethau yn eu cynefin yng Nghaerdydd. Gellir gwerthu’r llyfrynnau hyn yn Undeb y Myfyrwyr ac mewn lleoliadau eraill o amgylch y campws. Byddant yn helpu i godi ymwybyddiaeth am fywyd gwyllt a blodau gwyllt Prifysgol Caerdydd. Rhoddir yr arian a godir tuag at ariannu prosiectau bioamrywiaeth yn unig (e.e. creu dolydd, coetir, perth neu bwll; bocsys adar, pryfed, ystlumod neu ddraenogod) ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn ystod Wythnos y Glas 2021, a phob blwyddyn wedyn, byddwn yn cynnal taith dywys o fywyd gwyllt a blodau gwyllt Prifysgol Caerdydd. Bydd hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth ac ewyllys da tuag at fioamrywiaeth Caerdydd, yn enwedig ymysg myfyrwyr sydd newydd symud i Gaerdydd. Yn ystod y daith, gallwn hysbysebu a gwerthu’r llyfrynnau Bywyd Gwyllt a Blodau Gwyllt Prifysgol Caerdydd er mwyn codi arian ar gyfer prosiectau cadwraeth eraill. Byddwn yn ystyried cynnal digwyddiadau tebyg yn ystod PHEW yn ogystal â gweithgareddau ymsefydlu i staff. Byddwn yn ceisio ymgysylltu â staff ym mhob un o’r Ysgolion ym Mhrifysgol Caerdydd drwy seminarau amser cinio er mwyn creu lle am syniadau newydd a phrosiectau cydweithredol ehangach ar weithgareddau ERBAP yn y dyfodol.

Bydd Undeb y Myfyrwyr (UyM) yn chwarae rhan weithredol yng ngweithgareddau BAP. Bydd UyM yn gweithredu’r Prosiect Plannu drws nesaf at Orsaf Rheilffordd Cathays ac yn anelu at greu Grŵp Gwirfoddoli Myfyrwyr a fydd yn helpu gyda Phrosiectau BAP ar draws y campws. Bydd cynnydd gwaith y Grŵp a gweithgareddau BAP yn cael eu postio ar gyfryngau cymdeithasol UyM trwy gydol y flwyddyn academaidd. Yn ystod yr Wythnos Werdd yn UyM (Chwefror/Mawrth 2021), fe fydd cryn bwyslais ar fioamrywiaeth, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth yn ogystal â hyrwyddo ymgysylltu myfyrwyr â gweithgareddau BAP.

Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd gyda sefydliadau perthnasol (e.e. Buglife, Plantlife), grwpiau cymunedol (e.e. Troi Cathays yn Wyrdd) ac awdurdodau lleol (e.e. Cyngor Caerdydd) i drafod datblygiad BAP a’i gyd-destun o ran bioamrywiaeth ehangach Caerdydd. Bydd hwn yn cynnig cyfle i fonitro aliniad Prifysgol Caerdydd â nodau bioamrywiaeth leol er mwyn sicrhau dull cydlynol o wella bioamrywiaeth yn y ddinas a threfnu gwell cysylltedd rhwng cynefinoedd sy’n bodoli eisoes a rhai newydd. Mae gweithgareddau Pharmabee, fel y manylir uchod, eisoes wedi ymgysylltu’n helaeth ar draws cymunedau Caerdydd (cymdogaethau, ysgolion ac ysbytai) er mwyn ychwanegu mwy o ardaloedd gwyrdd o ansawdd sy’n cyfrannu at fioamrywiaeth. Gall ERBAP greu synergeddau gyda Pharmabees er mwyn gwella ymgysylltu â’r gymuned. Yn ychwanegol, trwy gyfranogiad y Deon yn yr LNP a rôl Swyddog Cadwraeth Cyngor Caerdydd ym mhwyllgor llywio ERBAP, caiff y gwaith o ymgysylltu â’r llywodraeth leol ei hwyluso.

Bydd y gwaith o baratoi’r cymunedau amrywiol a nodir uchod yn digwydd drwy ein cynllun ymgysylltu. Caiff cymunedau a chyrff anllywodraethol eu gwahodd i gyd-ddylunio prosiectau, gweithgareddau a gweithdai, megis gwasgaru hadau, gweithdai garddio, bioblitz, cyngherddau, gwyliau bwyd iach a cholur, ac ati. Yn y modd hwn, rydym yn ceisio ysgogi syniadau gan ein cymunedau a chyd-weithio i wireddu’r syniadau hynny.

Bydd y Brifysgol a chymunedau Caerdydd yn paratoi ymhellach drwy hyrwyddo apiau ffôn er mwyn defnyddio dulliau gweithredu gwyddor dinasyddion i fesur a monitro bioamrywiaeth ar gampws y Brifysgol a ledled dinas Caerdydd. Syniad pellach i ymgysylltu â rhanddeiliaid cymuned yw trwy ddefnyddio economi daleb lle mae cyfranogwyr yn gallu ennill talebau am wirfoddoli yng ngweithgareddau ERBAP a’u cyfnewid am gynnyrch cynaliadwy. Gellir gweithredu’r math yma o system wobrwyo dros gyfnod 2021-2023 ERBAP ar gyfer amser a wirfoddolwyd, ond gall hefyd gael ei hyrwyddo mewn digwyddiadau penodol megis wythnos Cynaliadwyedd a PHEW a’i weithredu fel cystadleuaeth rhwng ysgolion, adeiladau neu dimau ar gyfer allbynnau prosiect, megis cynefinoedd DIY ac estyniadau tirweddau bwytadwy. Gellir rhoi cydnabyddiaeth a gwobrau i gategorïau gwahanol megis “Hyrwyddwyr Rhywogaethau” ar gyfer y rhai hynny sy’n gweld ac yn cofnodi’r mwyaf o rywogaethau blaenoriaeth bob mis.

Gallai pwyllgor llywio ERBAP, gyda chefnogaeth benodol gan y Swyddog Bioamrywiaeth, gydweithio ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru i ymgysylltu ag ymwelwyr yr amgueddfa drwy arddangosfeydd a digwyddiadau penodol yn ystod y flwyddyn. Gellir defnyddio’r un dull gyda Pharc Bute a nifer o’n cyrff anllywodraethol amgylcheddol lleol, megis Bug’s Life, yr Ymddiriedolaeth Natur a grwpiau garddio cymunedol. Ym mis Ionawr 2021, bydd pwyllgor llywio ERBAP yn cytuno ar galendr o ddigwyddiadau ar gyfer 2021 drwy ymgysylltu â’n Prifysgol a phartneriaid allanol a rhanddeiliaid.

Tabl 8. Cyllideb ar gyfer y cynllun ymgysylltu a pharatoi

Costau’r Cynllun Ymgysylltu a Pharatoi

Costau

Gweithgareddau gweithdy (lletygarwch @ £300/gweithdy *2 weithdy) a deunyddiau (£100/gweithdy *2 weithdy)*3 blynedd

£2400

Cynnyrch cynaliadwy yn gyfnewid am dalebau (5 taleb/cynnyrch, pob cynnyrch @£5*50)*3 blynedd

£750

Cystadleuaeth Ysgrifennu Bioamrywiaeth (4 gwobr @ £50/gwobr/blwyddyn*3blynedd)

£600

Cyfanswm y Gost

£3750

Cynllun Addysg

Bydd y brifysgol yn integreiddio ERBAP i’w chwricwlwm ar draws yr ysgolion a’r colegau. Caiff hyn ei berfformio trwy ‘labordai byw’ prosiectau bywyd go iawn myfyrwyr. Felly, e.e. bydd myfyrwyr pensaernïol yn gweithio ar ehangu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau o bwys, tra bod myfyrwyr cerddoriaeth yn dadansoddi synau gwenyn. Gellir cyflwyno allbynnau o’r mathau hyn o brosiectau myfyrwyr trwy ddigwyddiadau cyhoeddus ac ysbrydoli a hyrwyddo ymgysylltu pellach. Yn ogystal, mae’r cynllun yn cynnig gradd meistr ôl-raddedig newydd mewn dylunio systemig. Bydd y rhaglen yn gwbl drawsddisgyblaethol, gan ddatblygu prosiectau cydweithredol wedi’u cyd-ddylunio a’u cynnal mewn stiwdio gyda myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol. Bydd y prosiectau yn defnyddio campysau’r brifysgol fel labordy byw ar gyfer ehangu cynefinoedd a thirweddau bwytadwy ar gyfer y rhywogaethau y sonnir amdanynt uchod, gan integreiddio systemau cymdeithasol, technegol ac amgylcheddol trwy ddull holistig.

Mae’n rhaid i bob cwrs a gynigir gan y brifysgol integreiddio bioamrywiaeth mewn perthynas â’i gynnwys; gellir ategu hyn drwy ymgorffori peth gweithgarwch tirfesur neu brosiectau ymyraethol yn y cwricwlwm. Mae hyn yn golygu na ddylai’r cwricwlwm fod yn ddyn-ganolog, gan fod yn gynhwysol i rywogaethau eraill. Mae hyn yn cynnwys e.e. rhyngweithio cyfrifiadurol nad yw’n ddynol, synau rhywogaethau eraill, seicoleg nad yw’n ddynol, cymunedau, cynefinoedd, amaethyddiaeth a meddyginiaeth. Caiff arolygon o grwpiau arbenigol dosbarthol hefyd eu hymgorffori yn arferion addysgu BIOSI ac ysgolion perthnasol eraill lle bo’n bosibl.

Gellir cynnal arolwg a gweithgareddau ymyraethol mewn lleoliad amlddisgyblaethol, er enghraifft drwy bioblitz a gynhelir yn rheolaidd, gyda myfyrwyr o ysgolion gwahanol yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni amcanion dysgu. Yn ychwanegol i weithgareddau bioblitz, caiff prosiectau cydweithredol amlddisgyblaethol, traws-ysgol myfyrwyr, ôl-raddedigion a staff eu cefnogi drwy gystadlaethau prosiect a noddir gan ERBAP, megis dylunio gwesty pryfed, gyda phrosiectau a gyflwynir yn cael eu gwerthuso a’r tîm prosiect buddugol yn cael eu gwobrwyo yn ystod wythnos Cynaliadwyedd. Caiff cystadlaethau blynyddol pellach eu noddi gan ERBAP, gan gynnwys cystadleuaeth flynyddol ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd Caerdydd ac aelodau o gymuned Caerdydd, sy’n cynnwys cyflwyno traethawd am werth rhywogaethau blaenoriaeth i Gaerdydd. Caiff y traethawd buddugol ei ddewis o bob categori o gyfranogwyr a’i gyhoeddi yn ystod Wythnos Cynaliadwyedd. Rhoddir £50 i bob enillydd gwobr.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Deon Cynaliadwyedd Amgylcheddol wedi bod yn cynnal arolwg o’r holl gyrsiau a gynigir ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n cynnwys pynciau yn ymwneud â chynaliadwyedd amgylcheddol. Ar ôl ei gwblhau, caiff y wybodaeth ei defnyddio gan bwyllgor llywio ERBAP er mwyn gweithio ar y cyd â hyrwyddwyr addysg gynaliadwyedd ar draws y campws, gan gynnwys Academyddion a’r Deon Addysg Ôl-raddedig (PSE) mewn Pensaernïaeth yn ogystal â’r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ac Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, i ddatblygu cwricwlwm ar gydnerthedd ecosystemau a bioamrywiaeth a ellir ei weithredu fel deunydd rhagarweiniol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 1 ar draws yr holl golegau, ac a fydd cael ei addasu yn Gwrs Ar-lein Agored Enfawr (MOOC). Caiff deunydd y modiwl ei ddylunio fel bod un modiwl wedi’i addasu ar gyfer pob coleg, wedi’i deilwra tuag at y disgyblaethau o fewn y coleg, ond hefyd yn cynnwys elfennau o ERBAP ym mhob modiwl.

Yn ogystal â hyn, caiff deunydd cynaliadwyedd amgylcheddol ei gynnwys mewn gweithgareddau ymsefydlu staff a myfyrwyr.

Tabl 9. Amserlen o Weithgareddau Addysgol

Gweithgaredd

Cwblhau:

Archwiliad o gyrsiau sydd â chynnwys yn ymwneud â chynaliadwyedd amgylcheddol

Ionawr 2021

Cyflwyno cwrs hyfforddi ymsefydlu ar-lein gorfodol i staff a myfyrwyr ar gynaliadwyedd amgylcheddol

Rhagfyr 2020

Gweithredu’r Wobr Bwlch Gwybodaeth

Gwobr gyntaf i’w chyflwyno yn ystod Wythnos Cynaliadwyedd Mawrth 2021

Gweithredu MOOC ymsefydlu cynaliadwyedd amgylcheddol

Medi 2022

Agoriad y Meistr Dylunio Systemig

Hydref 2022

Gwerthusiad o’r cwrs ymsefydlu

Ionawr 2023

Atodiad 2: Ymgysylltu cyhoeddus

Cyhoeddwyd yr erthyglau canlynol yng nghylchlythyr cyfathrebu holl staff Mewnrwyd Prifysgol Caerdydd 'Blas' yn y cyfnod 2019 — 2023 (nid yw dolenni ar gael i'r cyhoedd).

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

5 Mai 2021

Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl gan y Sefydliad Iechyd Meddwl rhwng 10 ac 16 Mai 2021, Natur yw’r thema eleni. Cofrestrwch ar gyfer ein sesiynau lles amser cinio. Cewch hefyd ragor o wybodaeth am ein her cyfrif camau, a gweld sut y gallwch chi gymryd rhan.

Pam natur?

Yn ystod y pandemig, trodd miliynau ohonom at natur. Dangosodd ymchwil y Sefydliad Iechyd Meddwl ar effeithiau’r pandemig ar iechyd meddwl mai un o’n prif strategaethau ymdopi oedd mynd am dro, a nododd 45% o bobl fod mannau gwyrdd wedi bod yn hanfodol i iechyd meddwl.

Mae natur yn ganolog i'n hiechyd seicolegol ac emosiynol. Mae ganddo allu unigryw nid yn unig i ddod â chysur ar adegau o straen, ond hefyd i gynyddu ein creadigrwydd, empathi ac ymdeimlad o ryfeddod. Mae mwy i hyn na bod allan ym myd natur yn unig. Y peth pwysig yw sut rydyn ni'n ymateb ac yn rhyngweithio â natur. Gall hyd yn oed cysylltiadau bach â natur leihau teimladau o unigedd cymdeithasol a bod yn effeithiol wrth amddiffyn ein hiechyd meddwl ac atal trallod.

Gweithdai lles

Cofrestrwch ar gyfer gweithdai sy'n cael eu cynnal yn rhan o’r Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl:

Teithiau cerdded ymwybyddiaeth ofalgar

Rydyn ni am annog pawb i fynd allan a mwynhau natur. Mae Lles Staff wedi recordiosain taith gerdded Ymwybyddiaeth Ofalgar y gallwch wrando arno ar eich teithiau cerdded. Byddem hefyd wrth ein bodd pe baech yn anfon eich lluniau atom o’ch teithiau cerdded, gallwch naill ai eu postio'n uniongyrchol i'r gymuned yammer Lles Staff neu eu e-bostio i Staffwellbeing@cardiff.ac.uk i ni eu rhannu.

Mwynhewch baned o de lles a bwyd i godi’ch hwyliau

Mae gan y tîm Lles Staff baneidiau o de lles i chi eu mwynhau yn rhad ac am ddim. Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw cysylltu â staffwellbeing@caerdydd.ac.uk gyda'ch manylion. Mae nifer cyfyngedig ar gael a byddant yn cael eu hanfon allan ar sail y cyntaf i'r felin.

Gallwch hefyd brynu te lles naturiol 100% (te gwyrdd pur wedi'i gyfuno â phlanhigion naturiol a mêl Cymreig) o'n canolfannau arlwyo ar y campws. Gallwch brynu bocs o 15 bag te am £4.50 neu baned o de i fynd am £1.40 (£1.15 os dewch â cwpan y gellir ei ailddefnyddio). Byddwch yn cael pecyn o hadau am ddim gyda phob cwpan (tra bod rhai ar gael) a bydd canran o’r elw yn cefnogi prosiectau peillwyr a bioamrywiaeth ledled Cymru.

Bydd gwasanaeth arlwyo’r campws yn cynnig cyfres o ryseitiau brecwast a chinio iach sy'n dda i'r ymennydd ac yn cynyddu egni. Cadwch lygad ar y rhain ar eu cyfrif Instagram @CUFoods, cymuned Yammer arlwyo ar y campws, a chymuned yammer lles Staff.

Her Cyfrif Camau 2021

Bydd einHer Cyfrif Camau chwech wythnos yn dechrau ar 24 Mai. Mae mis Mai yn Fis Cerdded Cenedlaethol a gobeithiwn y bydd hwn yn gyfle i gael hwyl, cadw'n heini, ac ymgysylltu â chydweithwyr mewn her iach a allai roi hwb i'ch lles. Byddwn yn cynnig gwobrau bach yn ystod yr her cyn coroni ein Pencampwyr Her Cyfrif Camau 2021 ar y diwedd.

Bydd angen i chi:

  • Greu tîm o bump o bobl.
  • Dewiswch gapten i’r tîm.
  • Dewiswch enw tîm.
  • Bydd capten y tîm wedyn yn ebostio staffwellbeing@caerdydd.ac.uk i fynegi eu diddordeb mewn cofrestru eu tîm.

Ar ôl cofrestru, fe gewch gyfrif defnyddiwr lle gallwch recordio'ch camau dyddiol o 24 Mai (gan ddefnyddio pedomedr neu'ch hoff ap neu ddyfais) ac olrhain cynnydd eich tîm ar ein tablau cynghrair. Cerdded yw un o’r ffyrdd hawsaf o fod yn fwy egnïol, colli pwysau, a dod yn iachach.

Rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi gymryd rhan yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Sut y gall Care First eich helpu

SDG15 – Bywyd ar y tir

14 Gorffennaf 2021

Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs) yw glasbrint y Cenhedloedd Unedig i sicrhau dyfodol gwell a mwy cynaliadwy. Rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n cyfrannu at SDG15 a rhannwch eich gwaith yn y maes hwn.

Yn gynharach eleni, roeddem yn rhannu’r  21ain safle allan o 21 o sefydliadau'r DU sy’n cyflwyno i Restr Effaith Addysg Uwch The Times, sy'n archwilio'r effaith y gall prifysgol ei wneud ar y SDGs. Mae prifysgolion yn cael sgôr a safle am eu gweithgareddau ar gyfer pob un o’r nodau y maent yn cyflwyno data ar eu cyfer.

Roedd SDG15 – Bywyd ar y tir yn un o’r SDGs y gwnaethom gyflwyno, a’i nod yw: Amddiffyn, adfer a hyrwyddo defnydd cynaliadwy o ecosystemau daearol, rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy, mynd i’r afael â diffeithdiro, atal a gwyrdroi diraddiad tir ac atal colli bioamrywiaeth.

Rydym yn 16eg yn y DU ar gyfer y SDG hwn. Dyma rai enghreifftiau o’n cyfraniadau:

Cynllun Gweithredu Cydnerthedd Ecosystemau a Bioamrywiaeth (ERBAP)

Ym mis Mawrth 2021, fe wnaethom lansio cynllun ar gyfer meithrin cydnerthedd ecosystenau a bioamrywiaeth ar draws ein campysau.

Mae’r ERBAP, a ddatblygwyd ar y cyd gyd Chyngor Caerdydd yn defnyddio adnoddau ac arbenigedd cymuned ehangach ein Prifysgol: staff academaidd a'r gwasanaethau proffesiynol, myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.

Mae’n ein galluogi i wneud yn siŵr bod ein hystâd yn cael ei rheoli mewn ffordd sy’n cynyddu ein hisadeiledd gwyrdd, ac mewn ffordd sy’n hyrwyddo a gwella bioamrywiaeth ac yn codi ymwybyddiaeth ymysg ein myfyrwyr o’r fioamrywiaeth sydd ar ein campws.

Rhagor o wybodaeth am yr ERBAP a’r amcanion y mae’n ei osod ar gyfer 2021-2023

Campws sy’n gyfeillgar i ddraenogod

Oeddech chi’n gwybod bod niferoedd y draenogod yn y Du wedi gostwng hyd at eu hanner ers 2000? Gall Prifysgolion chwarae rhan bwysig wrth newid y duedd hon drwy drawsffurfio campysau i fod yn gynefinoedd saff i ddraenogod a bywyd gwyllt eraill.

Fel rhan o’r ERBAP, rydym wedi ymuno â chynllun archedu Campws sy'n Addas i Ddraenogod. Mae’n gynllun rhyngwladol sydd wedi’i drefnu gan Gymdeithas Cadwraeth Draenogod Prydain. Mae gweithgarwch presennol a dyfodol o’n gweithgor yn cynnwys casgliadau sbwriel rheolaidd, ymgyrchoedd addysg, darlithoedd arbenigol, ac arolygon draenogod drwy ddefnyddio twneli ôl-traed.

Os hoffech chi gymryd rhan yn unrhyw rai o’r gweithgareddau hyn, ebostiwch hedgehogs@caerdydd.ac.uk. Hefyd, gallwch ddod o hyd i’r gweithgor ar Twitter, Instagram ac YouTube.

Spot-a-bee

Mae data rhywogaethau a chynefin yn hanfodol ar gyfer olrhain newidiadau mewn amgylcheddau lleol a phenderfynu sut i’w gwarchod. Gallwch chwarae rhan bwysig yn hyn, gan mai gwyddonwyr dinesig sy’n casglu mwyafrif y data hwn yn y DU.

Y llynedd, lansiodd ein prosiect Pharmabees brosiect monitro bioamrywiaeth o’r enw Spot-A-Bee. Gall aelodau o’r cyhoedd ddefnyddio’r ap rhad ac am ddim gyflwyno lluniau o blanhigion sy’n denu gwenyn i’w hardal leol. Mae hyn yn helpu i lunio map o amrywiaeth planhigion a phryfed ar draws y DU. Hyd yn hyn, mae dros 9,000 o ddelweddau wedi’u derbyn o cyn belled i ffwrdd ag Awstralia.

Mae’r tîm yn awyddus i recriwtio mwy o ddefnyddwyr yng Nghaerdydd - yn enwedig preswylwyr Cathays, Sblot a Grangetown. Hefyd, maent am weithio gyda defnyddwyr i gynyddu bioamrywiaeth ein dinas drwy blannu cymysgedd o hadau yr ydym wedi’u datblygu sydd ar gael am ddim gan siopau lleol.

Os ydych yn breswylydd lleol sydd â diddordeb mewn bodlondeb i greu cymdogaeth wyrddach, cysylltwch â Les Baillie am sgwrs anffurfiol.

Rhagor o wybodaeth am ap Spot-A-Bee ac am waith y prosiect gyda phreswylwyr lleol yn Cathays.

Ehangu bioamrywiaeth

Mae Dr Marie Davidová, Darlithydd mewn Dylunio Pensaernïol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yn gweithio ar gwestiynau ynghylch addasu dinasoedd rhag y newid yn yr hinsawdd a cholled bioamrywiaeth. Ym mis Ebrill, cyflwynodd hi ddarlith yn Nathliad Diwrnod Creadigrwydd ac Arloesedd Byd y Cenhedloedd Unedig, lle arddangosodd ymyriadau ymarferol ar gyfer hybu bioamrywiaeth yn eich gardd neu’ch cymdogaeth. Rhagor o wybodaeth a gwylio’r ddarlith.

Os ydych yn byw yn Grangetown, gallwch ddefnyddio ap Co-De|GT i ymgysylltu â bioamrywiaeth yn y maes. Gall defnyddwyr gyflawni tasgau fel adeiladu strwythurau sydd wedi’u dylunio i annog bywyd traws-rywogaethol a hybu ymgysylltiad â bioamrywiaeth.  Rhagor o wybodaeth

Rhannu eich gwaith

Os ydych yn ymgymryd ag unrhyw waith ynghylch SDG15? Byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi. Ebostiwch environment@caerdydd.ac.uk i rannu’r hyn yr ydych chi’n ei wneud.