Cyfansoddiadau Pwyllgor Prif Bwyllgorau
- Dyddiad dod i rym:
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (PDF, 400.7 KB)
Cyfansoddiad Pwyllgor Prif Bwyllgorau
Prif Bwyllgorau'r Cyngor
Cyfansoddiad Y Pwyllgor Archwilio a Risg
Diben
1. Sefydlwyd gan y Cyngor, i gynghori a chynorthwyo'r Cyngor i oruchwylio amgylchedd sicrwydd a rheoli'r Brifysgol. Mae ei ddyletswyddau'n cynnwys:
a. Asesu effeithiolrwydd trefniadau’r sefydliad ar gyfer rheoli risg, rheoli, ac o ran y rheolaethau a gweithdrefnau mewnol at ddibenion hyrwyddo cynaliadwyedd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, a chynghori’r Cyngor ynghylch hyn;
b. Goruchwylio trefniadau archwilio allanol a mewnol, gan gynnwys cynghori'r corff llywodraethu ar benodi'r darparwyr archwilio, a goruchwylio natur a chwmpas archwiliadau allanol a mewnol ac effeithiolrwydd y prosesau archwilio; a
c. Goruchwylio agweddau archwilio ar ddatganiadau ariannol y Brifysgol, gan gynnwys barn yr archwilwyr allanol, y datganiad o gyfrifoldebau'r aelodau, y datganiad rheolaeth fewnol ac unrhyw fater perthnasol a godwyd yn llythyr rheoli’r Archwilwyr Allanol.
Cyfansoddiad ac Aelodaeth
2. Bydd y Pwyllgor yn cael ei gyfansoddi fel a ganlyn:
Aelodaeth | |
---|---|
1 Aelod lleyg (Cadeirydd), a fydd yn cael ei benodi gan y Cyngor ac o’i blith | |
4 Aelod lleyg, a benodir gan y Cyngor, bydd o leiaf dau ohonynt yn aelodau o'r Cyngor | |
Gellir cyfethol 1 aelod annibynnol a does dim rhaid iddo fod yn aelod o’r Cyngor | |
Nodiadau: Bydd o leiaf un aelod â phrofiad proffesiynol ym maes cyllid, cyfrifeg neu archwilio. Ni fydd Cadeirydd y Cyngor yn aelod o'r Pwyllgor. Ni ddylai aelodau fod yn unigolion sydd â chyfrifoldebau rheoli gweithredol o fewn y sefydliad nac yn aelodau o'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau. Ni ddylai aelodau fod yn aelodau o staff nac yn fyfyriwr yn y sefydliad, gan gynnwys staff a myfyrwyr sy'n aelodau o'r Cyngor. Bydd y broses o benodi i fod yn aelod o'r Pwyllgor a thelerau'r swydd yn unol ag Ordinhad 3. |
Swyddogion Pwyllgor (yn bresennol) |
---|
Is-Ganghellor |
Prif Swyddog Gweithredu a Ysgrifennydd y Brifysgol |
Prif Swyddog Ariannol |
Archwilwyr Mewnol y Brifysgol |
Archwilwyr Allanol y Brifysgol |
Rheolwr Risg |
Rheolydd Ariannol y Grŵp |
Ymgynghorydd Llywodraethu (Prif Swyddog o’r Tîm Llywodraethu Corfforaethol) |
Nodiadau: Gall y Pwyllgor, fel mater o drefn, gynnal sesiynau cyfrinachol yn y dirgel ac mae ganddo’r hawl, pryd bynnag y bydd yn fodlon bod hyn yn briodol, i fynd i sesiwn gyfrinachol ac eithrio unrhyw un neu’r holl gyfranogwyr ac arsylwyr eraill heblaw am Ysgrifennydd y Pwyllgor. O leiaf unwaith y flwyddyn, bydd Aelodau'r Pwyllgor yn cwrdd â'r archwilwyr Allanol a Mewnol heb fod rheolwyr y Brifysgol yn bresennol, heblaw am Ysgrifennydd y Pwyllgor. Yr Ysgrifennydd i'r Pwyllgor Archwilio a Risg fydd yr Ysgrifennydd i'r Cyngor neu'r cyfryw berson arall a benodir gan y Cyngor. Yn ôl disgresiwn y Cadeirydd gwahoddir Swyddogion eraill y Brifysgol, aelodau lleyg neu bartïon penodedig eraill fel y bo'n briodol, i fynychu cyfarfodydd ar sail ad hoc. |
Cylch Gorchwyl
Cyfrifoldeb i graffu ar berfformiad y Brifysgol, ac i roi cyngor ac/i argymell cynigion, yn y meysydd busnes canlynol:
3. Penodi, ailbenodi neu derfynu penodiad yr Archwilwyr Allanol a'r Pennaeth Archwilio Mewnol, telerau eu hymgysylltiad, gan gynnwys unrhyw gais am gyfyngiad atebolrwydd – mae'n rhaid rhoi gwybod i’r Cyngor am y rhain;
4. Perfformiad yr Archwilwyr Allanol a Mewnol, gan gynnwys cydymffurfiaeth y swyddogaeth â safonau perthnasol, unrhyw faterion sy'n effeithio ar eu gwrthrychedd, ac unrhyw faterion sy'n ymwneud â'u hymddiswyddiad neu eu diswyddo;
5. Problemau ac amheuon sy'n deillio o'r archwiliadau allanol interim a therfynol, gan gynnwys adolygiad o'r llythyr rheoli sy'n ymgorffori'r ymatebion rheoli, ac unrhyw faterion eraill y gall yr Archwilwyr Allanol ddymuno eu trafod (yn absenoldeb rheolwyr lle bo angen);
6. Archwilio agweddau ar y datganiadau ariannol blynyddol (sef eu hystyried yng ngŵydd yr Archwilwyr Allanol), gan gynnwys barn ffurfiol yr Archwilwyr, a’r datganiad ynghylch cyfrifoldebau aelodau a’r datganiad ynghylch rheolaeth fewnol, yn unol â Chyfarwyddiadau Cyfrifon Medr. Bydd hyn yn cynnwys ystyried pa mor dryloyw ac agored yw’r adroddiadau o ran datganiadau ariannol drwyddynt draw;
7. Canfyddiadau mawr ymchwiliadau Archwilio Mewnol ac ymateb y rheolwyr; adroddiad blynyddol yr Archwilwyr Mewnol; ac unrhyw faterion eraill y gall yr Archwilwyr Mewnol ddymuno eu trafod.
8. Gweithredu argymhellion sy'n seiliedig ar archwilio y cytunwyd arnynt, o ba bynnag ffynhonnell;
9. Trefniadau rheoli risg mewnol, gan gynnwys effeithiolrwydd y gofrestr risg gorfforaethol, y strategaeth risg a'r trefniadau archwaeth, rheoli a llywodraethu. Bydd hyn yn cynnwys cydymffurfio â'r fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol y mae'r sefydliad yn gweithredu yn unol ag o. Bydd hyn yn cynnwys ystyried y diwylliant a'r ymddygiad sy'n gyffredin o fewn y Brifysgol a threfniadau sy'n gallu effeithio ar enw da, megis rheoli gwrthdaro rhwng buddiannau;
10. Digwyddiadau neu fethiannau difrifol (fel y'u diffinnir gan y Cod Rheoli Ariannol a'r Comisiwn Elusennau) a cholledion sylweddol yn nhermau eu hymchwiliad priodol, a bod yr archwilwyr Allanol a Mewnol, a lle bo'n briodol Medr neu gyrff rheoleiddio eraill, wedi cael gwybod;
11. Adolygiadau archwilio priodol eraill nad ydynt wedi'u cynnal gan yr archwilwyr Allanol neu Fewnol, ond sydd â goblygiadau i drefniadau rheoli risg, rheoli a llywodraethu y sefydliad;
12. Materion sy'n ymwneud â safonau ac egwyddorion bywyd cyhoeddus ar gais y Cyngor; Cadeirydd y Cyngor; Is-gadeirydd y Cyngor; neu Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg;
13. Sicrwydd cyfnodol ar y dull a'r sylfaen dystiolaethol ar gyfer darparu sicrwydd blynyddol gan y Senedd i'r Cyngor ar ansawdd a safonau academaidd.
14. Unrhyw wallau materol (mwy na £100k) mewn ffurflenni treth a ffurflenni eraill.
15. Effeithiolrwydd trefniadau i sicrhau bod datganiadau data priodol a chywir yn cael eu dychwelyd i randdeiliaid allanol a chyrff rheoleiddio.
Cyfrifoldeb i graffu ar berfformiad y Brifysgol, ac i argymell cynigion i'r Cyngor a/neu'r Is-Ganghellor fel y bo'n briodol, yn y meysydd busnes canlynol:
16. Unrhyw adroddiadau perthnasol o Archwilio Cymru, Medr a sefydliadau eraill.
Awdurdod i gymeradwyo argymhellion mewn perthynas â:
17. Natur a hyd a lled yr Archwiliad Allanol, ac unrhyw wasanaethau nad ydynt yn ymwneud ag archwilio, sydd i'w cyflwyno gan yr Archwilwyr Allanol;
18. Asesiad risg archwilio, strategaeth a rhaglen yr Archwilwyr Mewnol a bydd yn gofyn am sicrwydd bod y cwmpas yn cwmpasu holl weithgareddau'r Brifysgol, ei holl reolaeth risg, rheolaeth a llywodraethu, ac unrhyw agwedd ar darparu gwerth am arian;
19. Goruchwylio effeithiolrwydd polisïau'r Brifysgol sy'n ymwneud ag ymddygiad moesegol ac ymddygiad arall, gan gynnwys Polisïau’r Brifysgol ar Wrth-Dwyll a Gwrth-Lwgrwobrwyo, Atal Ariannu Terfysgaeth, Sancsiynau Ariannol ac Atal Efadu Trethi, Atal Gwyngalchu Arian a hefyd goruchwylio effeithiolrwydd Y Cod Ymarfer Datgelu er Lles y Cyhoedd (chwythu'r Chwiban). Mae hyn yn cynnwys cael gwybod am unrhyw faterion a gododd yn gysylltiedig â’r rhain, fel arfer unwaith y bydd yr ymchwiliadau perthnasol wedi dod i ben.
Dull Gweithredu
20. Bydd y Pwyllgor yn arfer goruchwylio hawl y Prif Swyddog Risg i gael mynediad uniongyrchol at Gadeirydd y pwyllgor Archwilio a Risg.
21. Awdurdodir y Pwyllgor gan y Cyngor i ymchwilio i unrhyw weithgaredd o fewn ei gylch gorchwyl. Fe'i hawdurdodir i ofyn am unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol ganddo gan unrhyw weithiwr, a chyfeirir at bob gweithiwr i gydweithredu ag unrhyw gais a wneir gan y pwyllgor.
22. Awdurdodir y Pwyllgor gan y Cyngor i gael cyngor proffesiynol cyfreithiol neu gyngor annibynnol arall, drwy Ysgrifennydd y Brifysgol (ac yn ddarostyngedig i derfyn o £5,000), a sicrhau presenoldeb rhai nad ydynt yn aelodau sydd â phrofiad ac arbenigedd perthnasol os yw'n ystyried hyn yn angenrheidiol, fel arfer mewn ymgynghoriad â'r Is-ganghellor a / neu Gadeirydd y Cyngor.
23. Bydd y Pwyllgor yn paratoi ei adroddiad blynyddol sy'n ymdrin â blwyddyn ariannol y Brifysgol ac unrhyw faterion arwyddocaol hyd at ddyddiad paratoi'r adroddiad. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyfeirio at Gadeirydd y Cyngor a'r Is-ganghellor, a bydd yn crynhoi'r gweithgarwch am y flwyddyn. Bydd yn rhoi barn y Pwyllgor am ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau'r Brifysgol ar gyfer y canlynol:
- rheoli risg, rheoli a llywodraethu;
- cynaliadwyedd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd (gwerth am arian); a
- rheoli a sicrhau ansawdd y data a ddefnyddir ac a gyflwynwyd at ddibenion rheoleiddio.
Bydd y farn ar y materion hyn yn seiliedig ar y wybodaeth a'r asesiadau a gyflwynir i'r Pwyllgor gan yr archwilwyr a chan reolwyr y Brifysgol.
24. Bydd y Pwyllgor yn hyrwyddo cydlynu rhwng yr Archwilwyr Allanol a Mewnol.
25. Bydd y Pwyllgor yn gweithio ac yn cysylltu yn ôl yr angen gyda'r holl bwyllgorau eraill gan ystyried yn benodol effaith y risg ar waith pwyllgorau eraill.
26. Gall yr Archwilwyr Allanol neu Fewnol ofyn am gyfarfod os ydynt o'r farn bod angen gwneud hynny.
27. Bydd y pwyllgor yn ystyried y canlynol ym mhob mater:
- budd y myfyrwyr a budd y cyhoedd
- cynaliadwyedd
- cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Rheoli Fersiynau
Adolygwyd y cylch gorchwyl ddiwethaf: | Awst 2024 |
Dyddiad a chorff cymeradwyo: | Y Cyngor, 26 Tachwedd 2024 |
I’w adolygu: | Medi 2025 |
Cyfansoddiad Y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau
Diben
1. Fe’i sefydlwyd gan y Cyngor, i gynghori a chynorthwyo'r Cyngor ar faterion ariannol ac adnoddau'r Brifysgol, gan gynnwys dyrannu adnoddau, rheoli ariannol, buddsoddi a bancio, ystadau a rheoli seilwaith a rheoli adnoddau dynol.
Cyfansoddiad ac Aelodaeth
2. Bydd y Pwyllgor yn cael ei gyfansoddi fel a ganlyn:
Aelodau | |
---|---|
Cadeirydd y Cyngor ex officio | |
Is-gadeirydd y Cyngor ex officio | |
y Llywydd a’r Is-Ganghellor ex officio | |
y Dirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth ex officio | |
Cadeirydd yr Is-bwyllgor Buddsoddi a Bancio ex officio | |
un aelod o'r Cyngor a benodir gan y Cyngor o blith ei aelodau staff academaidd | |
dau aelod lleyg a benodir gan y Cyngor | |
Llywyd Undeb y Myfyrwyr ex officio | |
un cynrychiolydd sy’n fyfyriwr, a enwebir gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr, o blith swyddogion etholedig Undeb y Myfyrwyr | |
Nodiadau: Cadeirydd y Cyngor fydd cadeirydd y Pwyllgor neu gall ddirprwyo'r rôl hon i un o aelodau lleyg y Pwyllgor Bydd y broses o benodi i fod yn aelod o'r Pwyllgor a thelerau'r swydd yn unol ag Ordinhad 3. Yn unol â'r Cod Rheoli Ariannol, dylai fod gan o leiaf un aelod o'r pwyllgor brofiad perthnasol o gyllid. Ni chaiff Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg fod yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau hefyd (yn unol â phwynt 122 y Cod Rheoli Ariannol). |
Swyddogion Pwyllgor (yn bresennol) |
---|
Prif Swyddog Gweithredu a Ysgrifennydd y Brifysgol (Ysgrifennydd y Pwyllgor) |
Prif Swyddog Ariannol |
Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant |
Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau Campws |
Cyfarwyddwr yr Adran Cynllunio Strategol |
Ymgynghorydd Llywodraethu (Prif Swyddog o’r Tîm Llywodraethu Corfforaethol) |
Nodiadau: Yn ôl disgresiwn y Cadeirydd gwahoddir Swyddogion eraill y Brifysgol, aelodau lleyg neu bartïon penodedig eraill fel y bo'n briodol, i fynychu cyfarfodydd ar sail ad hoc. |
Adeg Cynnal
3. Bydd y Pwyllgor yn cwrdd ddigon o weithiau ac ar adegau priodol yn y flwyddyn academaidd i alluogi adrodd am fusnes yn amserol i'r Cyngor ac i'r rheoleiddwyr allanol.
Cylch Gorchwyl
Cyfrifoldeb i graffu ar berfformiad y Brifysgol, ac argymell cynigion, yn y meysydd busnes canlynol:
Strategaeth, Risg a Dyrannu Adnoddau
4. Cynigion yr Is-Ganghellor ar gyfer cyflawni nodau strategol y Brifysgol, yn benodol drwy sicrhau aliniad adnoddau (gan gynnwys adnoddau ariannol, corfforol, digidol a dynol) gyda Chynllun Strategol y Brifysgol a rhoi cyngor i'r Cyngor ynghylch blaenoriaethu cynigion sy'n cystadlu yn erbyn yr adnoddau sydd ar gael;
5. Y risgiau strategol sy'n berthnasol i waith y Pwyllgor fel y penderfynir gan bolisi rheoli risg a chofrestr risgiau’r Brifysgol;
6. Monitro'r holl Ddangosyddion Perfformiad Allweddol perthnasol, gan sicrhau y rhoddir sylw i bryderon am berfformiad;
7. Yn dilyn cyngor gan yr Is-ganghellor, gwneud argymhellion i'r Cyngor ar ddyrannu adnoddau'r Brifysgol, gan gynnwys ymrwymiadau yn y dyfodol, i gefnogi cyflawni strategaeth y Brifysgol.
Rheolaeth ariannol
8. Adolygu a monitro strategaeth ariannol a chynlluniau'r Brifysgol, gan sicrhau eu bod yn bodloni gofynion rheoleiddiol y Comisiwn Elusennau, Medr a'i olynwyr;
9. Adolygu datganiadau ariannol blynyddol drafft y sefydliad ar gyfer adrodd arnynt i'r Pwyllgor Archwilio a Risg ac argymhelliad i'r Cyngor;
10. Gwneud argymhellion i'r Cyngor ar bennu cyllideb flynyddol y Brifysgol ac, yn unol â strategaeth sydd wedi ei chymeradwyo, gan ystyried cyflwr ariannol y Brifysgol;
11. Trosolwg o gynlluniau cronfa bensiwn y Brifysgol o ran yr effaith ar sefyllfa ariannol a strategaeth y Brifysgol, trwy dderbyn adroddiad blynyddol;
12. Adolygu, a gwneud argymhellion i'r Cyngor fel sy’n briodol, ar unrhyw amrywiadau i’r gyllideb flynyddol ac achosion busnes nad ydynt wedi'u cynnwys ynddi;
13. Gwneud argymhellion i'r Cyngor ar gyllideb flynyddol y cynllun buddsoddi cyfalaf ac ar achosion busnes neu amrywiadau i'r gyllideb cynllun buddsoddi cyfalaf blynyddol y cytunwyd arni;
14. Ystyried, yn flynyddol, y dyraniad a roddwyd gan y Brifysgol i Undeb y Myfyrwyr, a derbyn a monitro cyfrifon a chyllidebau blynyddol yr Undeb, gan dderbyn cyngor yn ôl yr angen gan yr Is-Ganghellor;
15. Sicrhau bod fforddiadwyedd, a risgiau yn gysylltiedig ag ymrwymiadau ariannol wedi'u hasesu yn unol â'r Cod rheoli Ariannol (neu ag unrhyw reoliadau dilynol)
16. Bodloni ei hun bod cyfanswm adnodd y Brifysgol yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol, yn effeithlon ac yn gynaliadwy, at hyn, y ceisir ac y cyflawnir gwerth am arian wrth ddefnyddio'r holl gronfeydd;
17. Ystyried unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud â lles ariannol y Brifysgol yn ôl cyfarwyddyd y Cyngor;
18. Awdurdod i gymeradwyo'r canlynol:
a. Rheoliadau Ariannol a Dirprwyaeth Ariannol Fframwaith Awdurdod y Brifysgol (lle mae'r cofnodion hynny'n ymwneud ag awdurdodau a ddirprwywyd i'r Pwyllgor neu'n is);
b. cynllun Ffioedd a Mynediad y Brifysgol.
c. cymeradwyo'r broses TRAC yn unol â gofynion TRAC.
Buddsoddiad a Bancio
19. Craffu ar berfformiad ac argymell cynigion mewn perthynas â strategaeth ac egwyddorion buddsoddi'r Brifysgol;
20. Awdurdod i gymeradwyo'r canlynol:
a. gwneud argymhellion i'r Cyngor ar benodi bancwyr y Brifysgol ac ymgynghorwyr ariannol proffesiynol eraill (megis rheolwyr buddsoddi);
b. gwariant, buddsoddi, dadfuddsoddi, peidio â buddsoddi, benthyciadau, prydlesi a dyledion cyllid yn unol â'r trothwyon a nodir yn y Cynllun Dirprwyo, ac i wneud argymhellion i'r Cyngor ar gynigion sydd uwchlaw'r terfyn y gall y Pwyllgor ei awdurdodi;
c. Datganiad Rheoli'r Trysorlys a'r strategaethau a'r polisïau ar gyfer rheoli arian parod, buddsoddi a benthyca;
d. yn dilyn argymhelliad gan yr Is-bwyllgor Buddsoddi a Bancio, y strategaeth fuddsoddi gyffredinol a'r awdurdod i fuddsoddi yn unol â'r strategaeth, gan gynnwys penodi rheolwyr a chynghorwyr ar fuddsoddi;
e. yn dilyn argymhelliad gan yr Is-bwyllgor Buddsoddi a Bancio, llofnodwyr i ymgymryd â threfniadau buddsoddi a llofnodwyr banc;
f. penodi prif yswiriwr corfforaethol y Brifysgol;
g. adroddiadau sicrwydd blynyddol sy’n ymwneud â Rheolaeth y Trysorlys.
Gweithgareddau Masnachol
21. Derbyn adroddiadau am ran y Brifysgol mewn cyd-fentrau ac is-gwmnïau, a’u perfformiad;
22. Awdurdod i gymeradwyo'r canlynol:
a. creu, tynnu'n ôl o neu roi'r gorau i gwmnïau deillio, neu fuddsoddi mewn ymgymeriad cysylltiedig yn unol â'r trothwyon a nodir yn y Cynllun Dirprwyo;
b.penodi Cyfarwyddwyr i Gyd-Fenter
Rheoli Adnoddau Dynol
23. Craffu ar berfformiad y Brifysgol, ac argymell cynigion sy'n ymwneud â strategaeth adnoddau dynol, risg ac alinio adnoddau;
24. Awdurdod i gymeradwyo'r canlynol:
a. adroddiadau sicrwydd blynyddol sy’n ymwneud â Rheolaeth Pobl.
Isadeiledd
25. Adolygu cynlluniau a chynigion ar gyfer cynnal a chadw a datblygu seilwaith ac ystâd Prifysgol Caerdydd gan gynnwys gwybodaeth ac adnoddau digidol sy’n sicrhau bod yr ystâd yn cael ei rheoli mewn modd cynaliadwy a chynghori'r Cyngor ar adnoddau ac angen strategol a blaenoriaeth pob cynllun mawr ar gyfer datblygiad neu adnewyddiadau adeiladau newydd a gyflwynwyd gan Fwrdd Gweithredol y Brifysgol;
26. Derbyn adroddiad blynyddol am berfformiad yr ystâd;
27. Craffu ar berfformiad ac argymell cynigion mewn perthynas â gwaith y Brifysgol tuag at gyflawni sero-net carbon a'i strategaeth a'i chynllun rheoli carbon;
28. Awdurdod i gymeradwyo'r canlynol:
a. gwaredu asedau yn unol â'r trothwyon a nodir yn y Cynllun Dirprwyo;
b. caffael rhydd-ddaliadaeth neu dir/eiddo lesddaliad hir, prydlesi newydd neu estyniadau i brydlesi presennol yn unol â'r trothwyon a nodir yn y Cynllun Dirprwyo.
Dull Gweithredu
29. Mae'r Pwyllgor wedi sefydlu'r Is-bwyllgorau canlynol:
a. Is-bwyllgor Cynaliadwyedd Amgylcheddol
b. Is-bwyllgor Buddsoddiadau a Bancio
30. Bydd y pwyllgor yn ystyried y canlynol ym mhob mater:
a. budd y myfyrwyr a budd y cyhoedd
b. cynaliadwyedd
c. cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rheoli Fersiynau
Adolygwyd y cylch gorchwyl ddiwethaf: | Hydref 2024 |
Dyddiad a chorff cymeradwyo: | Y Cyngor, 26 Tachwedd 2024 |
I’w adolygu: | Hydref 2025 |
Cyfansoddiad Y Pwyllgor Llywodraethu
Diben
1. Sefydlwyd y Pwyllgor Llywodraethu gan y Cyngor, i gynghori a chynorthwyo'r Cyngor ar effeithiolrwydd strwythur llywodraethu a fframwaith y Brifysgol, gan gynnwys comisiynu adolygiadau effeithiolrwydd y Cyngor yn ôl y gofyn; lefel cydymffurfiaeth gan y Brifysgol â gofynion gorfodol deddfwriaeth a rheoliadau eraill, gan gynnwys darpariaethau'r Ddeddf Cydraddoldeb a Deddf yr Iaith Gymraeg; a materion cyfansoddiadol a chyfreithiol, gan gynnwys y Siarter, Statudau ac Ordinhadau.
Cyfansoddiad ac Aelodaeth
2. Bydd y Pwyllgor yn cael ei gyfansoddi fel a ganlyn:
Aelodaeth | |
---|---|
Cadeirydd y Cyngor | |
Is-gadeirydd y Cyngor | |
Y Llywydd a’r Is-Ganghellor neu enwebai | |
Tri aelod lleyg ychwanegol a benodir gan y Cyngor ac o’i blith | |
Dau aelod a benodir gan y Senedd ac o’i phlith | |
Llywydd Undeb y Myfyrwyr, neu enwebai o blith y Swyddogion Etholedig | |
Y Dirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth (cyfetholwyd) | |
Nodiadau: Cadeirydd y Cyngor fydd cadeirydd y Pwyllgor neu gall ddirprwyo'r rôl hon i un o aelodau lleyg y Pwyllgor. Bydd y broses o benodi i fod yn aelod o'r Pwyllgor a thelerau'r swydd yn unol ag Ordinhad 3. |
Swyddogion Pwyllgor (yn bresennol) |
---|
Prif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd y Brifysgol (Ysgrifennydd) |
Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol |
Ymgynghorydd Llywodraethu (Prif Swyddog o’r Tîm Llywodraethu Corfforaethol) |
Nodiadau: Yn ôl disgresiwn y Cadeirydd gwahoddir Swyddogion eraill y Brifysgol, aelodau lleyg neu bartïon penodedig eraill (e.e. archwilwyr allanol) fel y bo'n briodol, i fynychu cyfarfodydd ar sail ad hoc. |
Cylch Gorchwyl
Cyfrifoldeb i graffu ar berfformiad y Brifysgol, ac argymell cynigion, yn y meysydd busnes canlynol:
3. Strwythur llywodraethu a fframwaith y Brifysgol, gan gynnwys comisiynu adolygiadau o effeithiolrwydd y Cyngor yn ôl y gofyn, a monitro cwblhau unrhyw argymhellion sy'n deillio o adolygiadau o'r fath.
4. Lefel cydymffurfio’r Brifysgol â gofynion gorfodol deddfwriaeth a rheoliadau eraill, gan gynnwys darpariaethau'r Ddeddf Cydraddoldeb a Deddf yr Iaith Gymraeg, Concordat UUK i Gefnogi Gonestrwydd Ymchwil, Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986, diogelu data, a deddfwriaeth iechyd, diogelwch a llesiant.
5. Goruchwylio effeithiolrwydd a pherthnasedd y Siarter, Statudau ac Ordinhadau a materion cyfansoddiadol a chyfreithiol eraill sy'n ymwneud â threfn lywodraethu'r Brifysgol.
6. Enwebiadau ac Apwyntiadau, gan gynnwys:
a. trefniadau cynllunio ar gyfer olyniaeth i sicrhau gweithrediadau llywodraethu effeithiol parhaus, gan gynnwys mewn perthynas â'r trosglwyddiad rhwng Cadeiryddion pwyllgorau'r Cyngor;
b. cadw dan adolygiad cyfansoddiad aelodaeth y Cyngor, gan gynnwys ei broffil yn erbyn y matrics sgiliau y cytunwyd arno a sut mae'n sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb o ran yr aelodau;
c. derbyn adborth trwy arfarniadau blynyddol o aelodau;
d. goruchwylio datblygiad aelodau unigol a rhaglennol;
e. monitro swyddi gwag aelodau lleyg ac aelodau cyfetholedig, a chyfnodau swydd cadeiryddion pwyllgorau yn flynyddol;
f. sicrhau bod yr Is-bwyllgor Enwebiadau yn hysbysebu swyddi gwag sydd ar ddod fel y bo'n briodol, ac yn argymell ymgeiswyr addas i'r Cyngor ac yn llenwi swyddi gwag yn brydlon, gan gynnwys penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor;
g. derbyn adroddiadau am wybodaeth am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn perthynas â chyfansoddiad aelodaeth y Cyngor a'i bwyllgorau;
h. ystyried arferion a chanllawiau da y sector gan gyrff allweddol, a'r camau y gellir eu cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw newidiadau mewn arfer y cytunwyd arnynt;
i. adolygu ceisiadau i ddileu aelodaeth aelod o’r Pwyllgor.
7. Cydymffurfio â chyfraith elusennau ac arferion da o ran budd-daliadau a threuliau Aelodau'r Cyngor.
8. Argymhellion o adroddiadau archwilio am wasanaethau llywodraethu'r Brifysgol a'r goblygiadau ehangach ar gyfer strwythur a fframwaith llywodraethu’r Brifysgol.
Awdurdod i gymeradwyo argymhellion mewn perthynas â'r adroddiadau canlynol ar ran y Cyngor:
9. Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986: Adroddiad Cydymffurfio - Datganiad Deiliad y Sefydliad
10. Datganiad Blynyddol ynghylch Uniondeb Ymchwil
11. Safonau’r Gymraeg Adroddiad blynyddol
12. Adroddiad Blynyddol Prevent
13. Datganiad Blynyddol Deddf Caethwasiaeth Fodern
14. Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol
15. Adroddiad Blynyddol Llywodraethu Gwybodaeth
16. Datganiad Polisi ar Ddiogelwch, Iechyd, yr Amgylchedd a Lles
Dull Gweithredu
17. Bydd y Pwyllgor yn cyfeirio materion sydd â goblygiadau strategol ac o ran adnoddau i'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau, a'r materion hynny sydd â goblygiadau academaidd i'r Senedd ac sy’n gallu gwaethygu pryderon ynghylch y risg o ddiffyg cydymffurfio â deddfwriaeth i'r Pwyllgor Archwilio a Risg.
18. Gall y Pwyllgor sefydlu gweithgorau o'r fath fel sy'n angenrheidiol i gynghori ar faterion o fewn cylch gwaith y Pwyllgor.
19. Mae'r Pwyllgor wedi sefydlu'r Is-bwyllgorau canlynol:
a. Pwyllgor Safonau Biolegol
b.Is-bwyllgor Tegwch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
c.Is-bwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles
d. Is-bwyllgor Enwebiadau
e. Y Pwyllgor Gonestrwydd a Moeseg Ymchwil Agored
20. Bydd y pwyllgor yn ystyried y canlynol ym mhob mater:
a. budd y myfyrwyr a budd y cyhoedd
b. cynaliadwyedd
c. cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Rheoli Fersiynau
Adolygwyd y cylch gorchwyl ddiwethaf: | Awst 2024 |
Dyddiad a chorff cymeradwyo: | Y Cyngor, 26 Tachwedd 2024 |
I’w adolygu: | Hydref 2025 |
Cyfansoddiad Y Pwyllgor Taliadau
Diben
1. I ddatblygu strategaeth a pholisi gwobrwyo cyffredinol i’r Cyngor ar gyfer talu am dâl, budd-daliadau ac amodau cyflogaeth uwch swyddogion y Brifysgol, gan gynnwys tâl, budd-daliadau ac amodau cyflogaeth y Llywydd a Rhag Is-Gangellorion y Colegau ac aelodau o staff sy’n adrodd yn uniongyrchol atynt, y lwfansau ar gyfer deiliaid eraill o swyddi cylchol y Brifysgol a'r paramedrau ar gyfer tâl a buddion uwch staff y Brifysgol.
Cyfansoddiad ac Aelodaeth
2. Bydd y Pwyllgor yn cael ei gyfansoddi fel a ganlyn:
Aelodaeth | |
---|---|
Is-gadeirydd y Cyngor | |
Cadeirydd y Cyngor | |
Dau aelod lleyg o blith y Cyngor | |
Nodiadau: Gellir penodi un aelod annibynnol arall nad oes angen iddo fod yn aelod o'r Cyngor ond a fydd â phrofiad proffesiynol mewn tâl a gwobrwyo, pan nodir bod angen. Ni fydd Cadeirydd y Pwyllgor Taliadau yn Gadeirydd y Cyngor. Y Cyngor fydd yn penodi cadeirydd o blith yr aelodau lleyg. Bydd y Cadeirydd yn llywyddu'r cyfarfod neu yn ei absenoldeb yn trefnu i aelod lleyg arall weithredu fel Cadeirydd. Gall y Cadeirydd enwebu Is-Gadeirydd o blith aelodau'r Pwyllgor. Ni ddylai’r unigolyn fod yn Gadeirydd ar y Cyngor. Bydd y broses o benodi i fod yn aelod o'r Pwyllgor a thelerau'r swydd yn unol ag Ordinhad 3. |
Swyddogion Pwyllgor (yn bresennol) |
---|
Pennaeth Arweinyddiaeth a Datblygu Staff neu aelod arall o'r Tîm adnoddau Dynol fel y bo'n briodol (Ysgrifennydd) |
Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant |
Nodiadau: Gall y Pwyllgor wahodd yr Is-Ganghellor a'r Dirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth i fynychu rhan o gyfarfodydd y Pwyllgor, i ddarparu gwybodaeth ac i ateb unrhyw gwestiynau gan y Pwyllgor. Yn ôl disgresiwn y Cadeirydd gwahoddir Swyddogion eraill y Brifysgol, aelodau lleyg neu bartïon penodedig eraill (e.e. archwilwyr allanol) fel y bo'n briodol, i fynd i gyfarfodydd ar sail ad hoc. |
Adeg Cynnal
3. Bydd y Pwyllgor yn penderfynu ar ei amserlen ei hun ar gyfer cyfarfodydd ond disgwylir iddo gwrdd o leiaf ddwywaith bob blwyddyn
Cworwm
4. Mae'r cworwm ar gyfer y Pwyllgor Taliadau yn dri aelod lleyg.
Cylch Gorchwyl
Cyfrifoldeb i graffu ar berfformiad y Brifysgol, ac argymell cynigion, yn y meysydd busnes canlynol:
5. Strategaeth a pholisi gwobrwyo cyffredinol i gwmpasu tâl, buddion ac amodau cyflogaeth uwch swyddogion y Brifysgol.
6. Adolygu tâl, budd-daliadau ac amodau cyflogaeth y Llywydd a’r Is-Ganghellor a'r rheini sy’n adrodd yn uniongyrchol iddo/iddi, a Rhag Is-Gangellorion y Colegau, gan ystyried fforddiadwyedd, gwybodaeth gymharol am gydnabyddiaeth ariannol, budd-daliadau ac amodau cyflogaeth yn y sector Prifysgolion ac mewn mannau eraill fel y bo'n briodol, a metrigau a data perfformiad perthnasol.
7. Adolygu penderfyniadau'r Pwyllgor Athrawon ac Uwch Gyflogau, gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau dewisol i dâl a wneir rhwng cyfarfodydd y Pwyllgor hwnnw.
8. Derbyn adroddiad ar unrhyw delerau diswyddo y cytunwyd arnynt ar gyfer uwch staff y Brifysgol o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Athrawon ac Uwch Gyflogau.
9. Hyrwyddo cyfrifoldebau'r Brifysgol dros gydraddoldeb ac amrywiaeth drwy sicrhau bod materion perthnasol yn cael eu hystyried yn llawn ym mhob mater sy'n ymwneud â thâl yr holl staff sy'n dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor a'r Pwyllgor Athrawon ac Uwch Gyflogau.
10. Derbyn ac ystyried adroddiad blynyddol ar y bwlch cyflog ac ar gyflog cyfartal yn y Brifysgol.
Awdurdod i gymeradwyo argymhellion mewn perthynas â:
11. Pennu taliadau, buddion ac amodau cyflogaeth y Llywydd a’r Is-Ganghellor a’r rhai sy’n adrodd iddo/iddi yn uniongyrchol
12. Pennu'r strategaeth, y polisi a'r paramedrau ar gyfer adolygu a phenderfynu ar lwfansau i ddeiliaid eraill swyddi cylchol y Brifysgol, gan gynnwys Deoniaid a Phenaethiaid Ysgolion.
13. Gosod y strategaeth, y polisi a’r paramedrau ar gyfer adolygu a phenderfynu ar dâl a manteision uwch staff y Brifysgol o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Athrawon ac Uwch Gyflogau;
14. Gosod y strategaeth, polisi a pharamedrau ar gyfer telerau diswyddo i'r holl uwch staff; ystyried a chymeradwyo telerau diswyddo ar gyfer yr Is-Ganghellor a’r rheini sy’n adrodd yn uniongyrchol iddo/iddi, a Rhag Is-Gangellorion y Colegau, ar derfynu eu cyflogaeth gan sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion a nodir gan Medr;
15. Sicrhau annibyniaeth briodol i'r swyddogaeth, adolygu tâl y Pennaeth Archwilio Mewnol gan ystyried argymhelliad y Pwyllgor Archwilio a Risg
16. Cytuno ar fframwaith gwaith blynyddol ac adolygu ac adrodd ar y cynnydd drwy ddarparu adroddiad blynyddol (i'r Cyngor a Datganiad Ariannol y Brifysgol) sy'n dryloyw ac yn ateb gofynion llywodraethu da;
17. Cytuno pa wybodaeth am waith y Pwyllgor a threfniadau gwobrwyo gweithredol y dylid eu cyhoeddi ar dudalennau gwe Llywodraethu'r Brifysgol yn ogystal â'r fframwaith blynyddol o waith a'r adroddiad blynyddol.
Dull Gweithredu
18. Mae'r Pwyllgor wedi sefydlu'r Is-bwyllgorau canlynol:
a. Pwyllgor Cyflogau Athrawon ac Uwch-Aelodau Staff
19. Bydd y pwyllgor yn ystyried y canlynol ym mhob mater:
a. budd y myfyrwyr a budd y cyhoedd
b. cynaliadwyedd
c. cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Rheoli Fersiynau
Adolygwyd y cylch gorchwyl ddiwethaf: | Tachwedd 2024 |
Dyddiad a chorff cymeradwyo: | y Cyngor, 10 July 2024. |
I’w adolygu: | Tachwedd 2025 |
Prif Bwyllgorau'r Cyngor a'r Senedd
Cyfansoddiad Y Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd
Diben
1. Ddyfarnu teitlau uwch ddarlithydd, darllenydd, cadeirydd personol, uwch gymrawd ymchwil, prif gymrawd ymchwil a chymrawd ymchwil athrawol i staff academaidd yn unol â'r gweithdrefnau ac adolygu polisi a gweithdrefnau ar gyfer dyrchafu staff academaidd.
2. Bydd y Pwyllgor yn gyd-bwyllgor o'r Cyngor a'r Senedd.
Cyfansoddiad ac Aelodaeth
3. Bydd y Pwyllgor yn cael ei gyfansoddi fel a ganlyn:
Aelodaeth | |
---|---|
y Llywydd a’r Is-Ganghellor | |
Y Dirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth | |
Y Rhag Is-Gangellorion sy’n benaethiaid coleg |
|
6 o athrawon a benodir gan y Senedd, 2 o bob coleg | |
Nodiadau: Y Llywydd a'r Is-Ganghellor fydd yn cadeirio'r Pwyllgor neu gall ddirprwyo'r rôl hon i'r Dirprwy Is-Ganghellor neu'r Rhag Is-Ganghellor. Bydd y broses o benodi i fod yn aelod o'r Pwyllgor a thelerau'r swydd yn unol ag Ordinhad 3. |
Swyddogion Pwyllgor (yn bresennol) |
---|
Pennaeth Arwain a Datblygu Staff (Ysgrifennydd) |
Swyddog Datblygu Sefydliadol a Staff (Dyrchafiadau) |
Nodiadau: Yn ôl disgresiwn y Cadeirydd gwahoddir Swyddogion eraill y Brifysgol, aelodau lleyg neu bartïon penodedig eraill (e.e. archwilwyr allanol) fel y bo'n briodol, i fynychu cyfarfodydd ar sail ad hoc. |
Cylch Gorchwyl
Cyfrifoldeb i graffu ar berfformiad y Brifysgol, ac argymell cynigion, yn y meysydd busnes canlynol:
4. Adolygu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer dyrchafu staff academaidd, gan gynnwys sefydlu gweithdrefnau apelio;
5. Ystyried ceisiadau gan aelodau'r staff academaidd mewn perthynas â:
(i) Dyrchafiad i swydd uwch-ddarlithydd, darllenydd a chadair bersonol
Bydd y pwyllgor yn ystyried ceisiadau ar gyfer dyrchafiad i swydd uwch-ddarlithydd, darllenydd a chadair bersonol yn unol â’r gweithdrefnau. Bydd y Pwyllgor yn rhoi dyrchafiad i swydd uwch-ddarlithydd, darllenydd a chadair bersonol ar ôl cwblhau’r prosesau perthnasol a phan mae’n penderfynu bod hynny’n briodol.
(ii) Dyrchafiad i swydd uwch-gymrawd ymchwil, prif gymrawd ymchwil a chymrawd ymchwil athrawol
Bydd y Pwyllgor yn ystyried ceisiadau ar gyfer dyrchafiad swydd uwch-gymrawd ymchwil, prif gymrawd ymchwil a chymrawd ymchwil athrawol yn unol â’r gweithdrefnau. Bydd y Pwyllgor yn rhoi dyrchafiad i swydd uwch-gymrawd ymchwil, prif gymrawd ymchwil a chymrawd ymchwil athrawol ar ôl cwblhau’r prosesau perthnasol a phan mae’n penderfynu ei bod yn briodol.
6. Bydd y Pwyllgor yn ymarfer y pwerau a gaiff eu dirprwyo iddo gan y Senedd a’r Cyngor.
Awdurdod i gymeradwyo argymhellion mewn perthynas â:
7. Dyfarnu teitlau academaidd uwch ddarlithydd, darllenydd, cadeirydd personol, uwch gymrawd ymchwil, prif gymrawd ymchwil a chymrawd ymchwil athrawol.
8. Dogfennau llunio polisïau mewn perthynas â dyrchafu staff academaidd.
Dull Gweithredu
9. Bydd y Pwyllgor yn paratoi adroddiad blynyddol ar gyfer y Senedd a’r Cyngor.
10. Bydd y Pwyllgor yn cyfeirio materion gyda goblygiadau strategol ac adnoddau i'r Cyngor, a'r materion hynny sydd â goblygiadau academaidd i'r Senedd.
11. Gall y Pwyllgor sefydlu gweithgorau o'r fath fel sy'n angenrheidiol i gynghori ar faterion o fewn cylch gwaith y Pwyllgor.
12. Bydd y Pwyllgor yn ystyried y canlynol ym mhob mater:
a. budd y myfyrwyr a budd y cyhoedd
b. cynaliadwyedd
c. cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Rheoli Fersiynau
Adolygwyd y cylch gorchwyl ddiwethaf: | Hydref 2022 |
Dyddiad a chorff cymeradwyo: | Cyngor 24 Tachwedd 2022 a Senedd 30 Tachwedd 2022 |
I’w adolygu: | Hydref 2023 |
Cyfansoddiad Y Pwyllgor Cymrodoriaethau a Graddau er Anrhydedd
Diben
Goruchwylio'r broses ar gyfer dyfarnu Cymrodoriaethau Er Anrhydedd a Graddau Er Anrhydedd a chynghori'r Senedd a'r Cyngor ar y materion hyn. Awdurdod dirprwyedig i ddirymu dyfarniadau er anrhydedd.
Cyfansoddiad ac Aelodaeth
Bydd y Pwyllgor yn cael ei gyfansoddi fel a ganlyn:
Aelodaeth | |
---|---|
Is-Ganghellor (yn y Gadair) | |
Cadeirydd y Cyngor neu ei h/enwebai a dynnwyd o blith aelodau lleyg y Cyngor | |
Ail aelod lleyg o'r Cyngor, a etholwyd gan y Cyngor mewn modd o'i ddewis, i wasanaethu am dymor heb fod yn hwy na thair blynedd | |
Y Dirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth |
|
Y Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr |
|
Chwe aelod o staff academaidd i gael eu hethol gan y Senedd, bydd pob un ohonynt yn gwasanaethu am dymor o dair blynedd, gan gynnwys dau aelod (bydd o leiaf un ohonynt yn Bennaeth Ysgol) o bob un o'r Colegau |
|
Llywydd Undeb y Myfyrwyr |
|
Yn bresennol |
---|
Y Prif Swyddog Gweithredu a Ysgrifennydd y Brifysgol |
Y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr |
Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr |
Nodiadau: Bydd Ysgrifennydd y Pwyllgor yn cael ei enwebu gan y Cadeirydd. |
Cylch Gorchwyl
Cyfrifoldeb i graffu ar berfformiad y Brifysgol, ac argymell cynigion, yn y meysydd busnes canlynol:
3. 3.gwahodd Aelodau'r Brifysgol (fel y'i diffinnir yn ordinhad 2[1]) i enwebu unigolion sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer dyfarnu Cymrodoriaeth Er Anrhydedd Prifysgol Caerdydd; ac am ddyfarniad Doethur er Anrhydedd Prifysgol Caerdydd
[1] Ordinhad 2 - Aelodau'r Brifysgol
Bydd y canlynol yn Aelodau Prifysgol Caerdydd
- (1) y Canghellor, y Rhag Gangellorion, y Llywydd a’r Is-Ganghellor, Cadeirydd y Cyngor a Swyddogion eraill;
- (2) aelodau'r Cyngor a'r Senedd;
- (3) gweithwyr Prifysgol Caerdydd;
- (4) myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a’r sefydliadau a’i rhagflaenodd;
- (5) unigolion eraill fel y’u diffinnir gan benderfyniad y Cyngor.
4. Ystyried yr holl gyflwyniadau a dderbyniwyd yn unol â'r meini prawf cyhoeddedig ar gyfer dyfarnu Cymrodoriaethau er Anrhydedd a Graddau er Anrhydedd, gan gadarnhau'r rhai y dylid cynnig dyfarniadau o'r fath iddynt a sicrhau y gwneir gwahoddiadau o'r fath
5. Parhau i adolygu'r meini prawf ar gyfer dyfarnu Cymrodoriaethau er Anrhydedd a Graddau er Anrhydedd, gan hysbysu'r Senedd a’r Cyngor o unrhyw newidiadau a wnaed
6. Rhoi gwybod i’r Senedd ac i’r Cyngor am yr unigolion sydd wedi cadarnhau eu bod yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Caerdydd neu i dderbyn Gradd er Anrhydedd
7. Sicrhau cyhoeddi cofrestr ddiweddara Graddedigion er Anrhydedd Prifysgol Caerdydd neu ei chyrff rhagflaenol
8. Adolygu a diweddaru yn ôl yr angen gweithdrefnau a threfniadau seremonïol ar gyfer rhoi Cymrodoriaethau er Anrhydedd a Graddau er Anrhydedd y Brifysgol
9. Ystyried cynigion gan y Prif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd y Brifysgol i ddirymu dyfarniad Gradd er Anrhydedd neu Gymrodoriaeth er Anrhydedd
10. O dan awdurdod dirprwyedig gan y Cyngor a’r Senedd, dirymu dyfarniadau er anrhydedd ar ôl dilyn y broses briodol (fel y’i pennir gan y pwyllgor) a fydd yn cynnwys ystyried buddiannau’r Brifysgol a’u rhwymedigaethau i'w rheoleiddwyr
Dull Gweithredu
11. Bydd y pwyllgor yn ystyried y canlynol ym mhob mater:
a. budd y myfyrwyr a budd y cyhoedd
b. cynaliadwyedd
c. cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rheoli Fersiynau
Adolygwyd y cylch gorchwyl ddiwethaf: | Medi 2024 |
Dyddiad a chorff cymeradwyo: | Y Cyngor Tachwedd 2024 a’r Senedd Tachwedd 2024 |
I’w adolygu: | Hydref 2025 |
Cyfansoddiad Pwyllgor Dyfarniadau A Chynnydd Y Brifysgol
1. Diben
1.1 1.1 Bydd Pwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd y Brifysgol, o dan awdurdod a ddirprwywyd iddo gan y Senedd a'r Cyngor, yn derbyn i raddau’r Brifysgol neu yn cyflwyno diplomâu, tystysgrifau neu ddyfarniadau academaidd eraill y Brifysgol i’r personau sydd wedi cymhwyso ar gyfer dyfarniad o’r fath yn unol â Statudau, Ordiniannau, a rheoliadau neu weithdrefnau academaidd.
2. Cyfansoddiad ac Aelodaeth
2.1 Bydd y Pwyllgor yn cael ei gyfansoddi fel a ganlyn:
Aelodau | Swyddogion y Pwyllgor |
---|---|
Y Rhag Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) (Cadeirydd) | Pennaeth Llywodraethu Addysg (Ysgrifennydd) |
Deon Coleg (Addysg a Myfyrwyr), a benodir gan y Rhag Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr | Bennaeth Gweithrediadau'r Gofrestrfa |
Cofrestrydd Academaidd |
2.2 2.2 Gall aelod o'r Pwyllgor drefnu i rywun arall sydd â’r uwch-arbenigedd a'r arbenigedd angenrheidiol i fynychu yn eu lle os nad ydynt yn gallu mynychu cyfarfod. Fel arfer, y person(au) a ddaw yn lle aelod fydd:
- (i) y Dirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth neu Rag Is-Ganghellor ar gyfer y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr;
- (ii) Deon Coleg arall (Addysg a Myfyrwyr) ar gyfer y Deon Coleg penodedig (Addysg a Myfyrwyr);
- (iii) Deon Coleg (Addysg a Myfyrwyr) ar gyfer y Cofrestrydd Academaidd.
2.3 2.3 Yn ôl disgresiwn y Cadeirydd gwahoddir Swyddogion eraill y Brifysgol, aelodau lleyg neu bartïon penodedig eraill fel y bo'n briodol, i fynychu cyfarfodydd ar sail ad hoc.
3. Adeg Cynnal
3.1 3.1 Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod ac ar adegau priodol ac yn ddigon aml yn ystod y flwyddyn academaidd i allu cyflwyno dyfarniadau'n amserol i'r rhai sy'n gymwys, sef pum cyfarfod y flwyddyn academaidd fel arfer.
4. Cylch Gorchwyl
4.1 4.1 Bydd Pwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd y Brifysgol, yn ôl yr awdurdod a ddirprwywyd iddo gan y Senedd a’r Cyngor:
1. 1. yn derbyn i raddau’r Brifysgol neu yn cyflwyno diplomâu, tystysgrifau neu ddyfarniadau academaidd eraill y Brifysgol i’r personau sydd wedi cymhwyso ar gyfer dyfarniad o’r fath yn unol â Statudau, Ordinhadau, a rheoliadau neu weithdrefnau academaidd;
2. 2. yn diddymu penderfyniadau i dderbyn personau i ddyfarniadau:
(i) (i) er mwyn cywiro camgymeriadau rhifyddol neu gamgymeriadau ffeithiol eraill;
(ii) (ii) yn ôl argymhelliad Byrddau Arholi sydd wedi’u hailgynnull.
4.2 4.2 Bydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad i'r Senedd a'r Cyngor o wobrau a roddwyd felly a bydd rhestr o enwau personau y dyfarnwyd gradd, diploma, tystysgrif neu wobr academaidd arall y Brifysgol iddynt yn cael ei chynnal gan y Gofrestrfa.
4.3 4.3 Bydd y Pwyllgor yn derbyn argymhellion gan Fyrddau Archwilio mewn perthynas â'r holl apeliadau y cyfeiriwyd at Fwrdd Archwilio sydd wedi'i ailymgynnull o dan y Weithdrefn Gwirio ac Apeliadau. Bydd argymhellion o'r fath yn cyd-fynd â chyfiawnhad dros amrywio, neu gynnal y penderfyniad blaenorol.
4.4 4.4 Bydd gan y Pwyllgor y pŵer i gadarnhau neu neilltuo penderfyniad a wnaed gan Fwrdd Archwilio lle mae'n dod i'r casgliad bod y penderfyniad a wnaed gan Fwrdd Archwilio wedi'i ail-ymgynnull yn afresymol neu na ellid ei gynnal gan ffeithiau'r achos.
4.5 4.5 Bydd y Pwyllgor yn cynghori'r Senedd a'r Cyngor ar argymhellion y Senedd i amddifadu unrhyw berson o, radd, diploma, tystysgrif neu wobr academaidd arall y Brifysgol neu i adfer unrhyw person iddynt.
4.6 Bydd y Pwyllgor yn ystyried y canlynol ym mhob mater:
- budd y myfyrwyr a budd y cyhoedd
- cynaliadwyedd
- cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
5. Dull Gweithredu
5.1 5.1 Bydd y Pwyllgor yn adrodd yn flynyddol i'r Senedd a'r Cyngor drwy'r Adroddiad Ansawdd Blynyddol.
6. Rheoli Fersiynau
Adolygwyd y cylch gorchwyl ddiwethaf: | Ionawr 2023 |
Dyddiad a chorff cymeradwyo: | Cyngor Chwefror 2022 |
I’w adolygu: | 2023/24 |
Prif Bwyllgorau'r Senedd
Cyfansoddiad Y Pwyllgor Safonau Ac Ansawdd Academaidd
1. Diben
1.1 Is-bwyllgor o’r Senedd a’r Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr yw’r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd ac mae’n gyfrifol am gynghori’r Brifysgol ynghylch pob mater sy’n ymwneud â hyrwyddo ansawdd a safonau academaidd ar draws holl ystod darpariaeth y Brifysgol i fyfyrwyr.
2. Cyfansoddiad ac Aelodaeth
2.1 Bydd y Pwyllgor yn cael ei gyfansoddi fel a ganlyn:
Aelodau | |
---|---|
Rhag Is-Ganghellor (Addysg a Myfyrwyr) | |
Is-Ganghellor | |
Un Deon y Coleg (Israddedig) Astudiaethau a benodir gan y Rhag Is-Ganghellor (Addysg a Myfyrwyr) | |
Un Deon y Coleg (Ôl-raddedig) Astudiaethau a benodir gan y Rhag Is-Ganghellor (Addysg a Myfyrwyr) | |
Deon ar gyfer Cyflogadwyedd Myfyrwyr | |
Chwe aelod o staff academaidd, dau o bob Coleg, sydd â phrofiad o reoli safonau academaidd a gweithdrefnau ansawdd, a benodir gan y Senedd | |
Un aelod a benodir gan y Cyngor na fydd yn weithiwr neu'n fyfyriwr yn y Brifysgol | |
Bydd tri myfyriwr, a benodir gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr, bydd o leiaf un ohonynt yn fyfyriwr ôl-raddedig |
Swyddogion y Pwyllgor |
---|
Pennaeth Llywodraethu Addysg |
Cofrestrydd Academaidd |
Pennaeth Ansawdd a Safonau Academaidd |
Cyfarwyddwr yr Academi Dysgu ac Addysgu |
Pennaeth Gweithrediadau'r Gofrestrfa |
Rheolwyr Addysg y Coleg |
2.2 Nodiadau:
.1 Bydd y Rhag Is-Ganghellor (Addysg a Myfyrwyr) yn Gadeirydd y Pwyllgor.
.2 Y Pennaeth Llywodraethu Addysg fydd yr Ysgrifennydd
.3 Yn ôl disgresiwn y Cadeirydd gwahoddir Swyddogion eraill y Brifysgol, aelodau lleyg neu bartïon penodedig eraill fel y bo'n briodol, i fynychu cyfarfodydd ar sail ad hoc.
3. Adeg Cynnal
3.1 Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod bedair gwaith bob blwyddyn academaidd.
4. Cylch Gorchwyl
4.1 Bydd y Pwyllgor yn:
4.1.1 datblygu a chadw dan adolygiad y strategaeth ansawdd academaidd, rheoliadau, gweithdrefnau polisi a sicrhau ansawdd y Brifysgol, a’u gweithredu, a gwneud argymhellion arnynt i'r Senedd;
4.1.2 sicrhau bodolaeth a gweithrediad mecanweithiau ansawdd academaidd mewnol priodol o fewn y Brifysgol a derbyn adroddiadau amdano; ac i gefnogi materion o'r fath bydd y Pwyllgor yn:
- sicrhau gweithredu mecanweithiau sicrhau ansawdd a safonau mewn Ysgolion gan ddefnyddio gweithdrefnau Prifysgol cymeradwy;
- sicrhau y gweithredir y gweithdrefnau sicrhau ansawdd cymeradwy mewn perthynas â gwerthuso rhaglenni a addysgir yn flynyddol, yr adolygiad o raglenni a addysgir a'u a’u hailddilysiad;
- sicrhau y gweithredir y gweithdrefnau sicrhau ansawdd cymeradwy mewn perthynas ag adolygiadau blynyddol y Brifysgol o weithgarwch ymchwil ôl-raddedig;
- gwneud argymhellion priodol i'r Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr neu'r Senedd, fel y bo'n briodol, yn codi o 4.1.2 i iii
4.1.3 gwneud argymhellion i'r Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr mewn perthynas â chyfleoedd gwella sy'n deillio o weithredu gweithdrefnau sicrhau ansawdd a safonau;
4.1.4 monitro'r amgylchedd sicrhau ansawdd a safonau allanol a sicrhau bod y Brifysgol yn ymateb fel y bo'n briodol; ac i gefnogi materion o'r fath bydd y Pwyllgor yn:
- ystyried, mewn perthynas â rhaglenni a addysgir, adroddiadau o'r fath sy’n deillio o sicrwydd ansawdd allanol, asesu ansawdd, dilysu ac achredu gweithdrefnau ac adrodd a gwneud argymhellion amdanynt i'r Senedd;
- o ran cymeradwyo, monitro, adolygu a chofnodi rhaglenni astudio a addysgir, sicrhau bod y Brifysgol yn rhoi sylw dyladwy i Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru, Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru a Chod Ansawdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch y DU;
4.1.5 cyfrannu at hyrwyddo a gwella amgylchedd academaidd sy’n ymwybodol o ansawdd yn y Brifysgol drwy ledaenu gwybodaeth, rhannu enghreifftiau o arfer da, a thrwy ddulliau priodol eraill; ac i gefnogi materion o'r fath bydd y Pwyllgor yn:
- datblygu, gweithredu, goruchwylio ac adolygu nodau, amcanion a pholisïau'r Brifysgol sy'n ymwneud â safonau academaidd ei holl raglenni astudio addysgedig ac ymchwil;
- ystyried y cyfryw faterion ansawdd, safonau a rheoleiddio a all godi'n fewnol neu'n allanol sy’n gallu effeithio ar strategaethau'r Brifysgol;
- gwneud argymhellion priodol i'r Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr neu i'r Senedd, fel y bo'n briodol, yn codi o 4.1.5 i hyd at ii
4.1.6 Ystyried a chymeradwyo adroddiadau sy'n deillio o weithredu gweithdrefnau'r Brifysgol mewn perthynas â chymeradwyo rhaglenni astudio newydd neu newidiadau mawr i raglenni sy'n bodoli eisoes
4.1.7 ystyried cynigion ar gyfer llunio, neu ddiwygio Rheoliadau Academaidd ac eithriadau iddynt, a gwneud argymhellion i'r Senedd amdanynt;
4.1.8 sefydlu, fel y bo'n briodol, yr Is-bwyllgorau hynny neu grwpiau tasg-ganolog eraill sy'n ofynnol er mwyn cyflawni ei rôl.
4.2 Bydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad ansawdd blynyddol i'r Senedd a'r Cyngor i lywio'r sicrwydd blynyddol a ddarperir i'r corff rheoleiddio.
4.3 Mae gan y Pwyllgor awdurdod i gymeradwyo argymhellion mewn perthynas â'r canlynol:
4.3.1 cymeradwyo rhaglenni gradd newydd ac amrywiadau i raglenni gradd presennol;
4.3.1 amrywiadau i reoliadau a pholisïau'r Senedd mewn ymateb i raglen benodol neu achosion sy'n gysylltiedig â myfyrwyr.
5. Dull Gweithredu
5.1 Mae'r Pwyllgor wedi sefydlu'r Is-bwyllgorau canlynol:
- Is-Bwyllgor Rhaglenni ac Ailddilysu
- Is-bwyllgor Partneriaethau Addysg
- Grŵp Polisïau Derbyn Myfyrwyr
5.2 Bydd y grwpiau canlynol yn adrodd i'r Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr a lle bo'n briodol i'r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd:
- Pwyllgorau Addysg Colegau a Phrofiad Myfyrwyr;
- Pwyllgorau Ymchwil Ôl-raddedig y Colegau
5.3 Bydd y Pwyllgor yn cyflwyno Adroddiad Ansawdd Blynyddol i'r Senedd a'r Cyngor.
5.4 Bydd y pwyllgor yn ystyried y canlynol ym mhob mater:
- budd y myfyrwyr a budd y cyhoedd
- cynaliadwyedd
- cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
6. Rheoli Fersiynau
Adolygwyd y cylch gorchwyl ddiwethaf: | Medi 2022 |
Dyddiad a chorff cymeradwyo: | Cyngor 24 Tachwedd 2022 a Senedd 30 Tachwedd 2022 |
I’w adolygu: | Tachwedd 2023 |
Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
1. Diben
1.1 Bydd y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, un o is-bwyllgorau'r Senedd, yn gyfrifol am ddarparu cyfeiriad strategol ac am chynghori'r Brifysgol ar bob mater sy'n ymwneud ag addysg a phrofiad myfyrwyr ar draws ystod lawn ei darpariaeth i fyfyrwyr.
2. Cyfansoddiad ac Aelodaeth
2.1 Bydd y Pwyllgor yn cael ei gyfansoddi fel a ganlyn:
Aelodau | |
---|---|
Rhag Is-Ganghellor (Addysg a Myfyrwyr) | |
Is-Ganghellor | |
Deon y Coleg (Astudiaethau Israddedig) ym mhob Coleg | |
Deon y Coleg (Astudiaethau Ôl-raddedig) ym mhob Coleg | |
Deon ar gyfer Cyflogadwyedd Myfyrwyr | |
Deon y Gymraeg | |
Cofrestrydd Academaidd | |
Cyfarwyddwr yr Adran Cynllunio Strategol | |
Chwe aelod o staff academaidd, dau o bob Coleg, sydd â phrofiad o reoli safonau academaidd a gweithdrefnau ansawdd, a benodir gan y Senedd | |
Un aelod a benodir gan y Cyngor na fydd yn weithiwr neu'n fyfyriwr yn y Brifysgol | |
Bydd tri myfyriwr, a benodir gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr, bydd o leiaf un ohonynt yn fyfyriwr ôl-raddedig |
Swyddogion y Pwyllgor |
---|
Pennaeth Llywodraethu Addysg |
Cyfarwyddwr yr Academi Dysgu ac Addysgu |
Rheolwr Busnes y Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr |
Pennaeth Gweithrediadau'r Gofrestrfa |
Rheolwyr Addysg y Coleg |
Llyfrgellydd y Brifysgol |
2.2 Nodiadau:
- Y Rhag Is-Ganghellor (Addysg a Myfyrwyr) fydd yn Gadeirydd y Pwyllgor.
- Y Pennaeth Llywodraethu Addysg fydd yr Ysgrifennydd.
- Yn ôl disgresiwn y Cadeirydd gwahoddir Swyddogion eraill y Brifysgol, aelodau lleyg neu bartïon penodedig eraill fel y bo'n briodol, i fynychu cyfarfodydd ar sail ad hoc.
3. Adeg Cynnal
Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod bedair gwaith bob blwyddyn academaidd.
4. Cylch Gorchwyl
4.1Bydd y Pwyllgor yn:
4.1.1yn gwerthuso effaith ac effeithiolrwydd gwelliannau i addysgu, asesu a phrofiad myfyrwyr;
4.1.2hyrwyddo arloesedd a gwelliannau ym maes addysg ac asesu;
4.1.3hyrwyddo’r cyfleoedd datblygiad proffesiynol i staff er mwyn cefnogi dulliau addysgu ac asesu;
4.1.4Mae'r pwyllgor yn gwerthuso canlyniadau arolygon myfyrwyr ac effaith gwelliannau i brofiad myfyrwyr.
4.1.5parhau i adolygu a gwerthuso effaith ac effeithiolrwydd strategaethau sy'n ymwneud ag addysg a myfyrwyr, gan gynnwys y strategaeth ehangu cyfranogiad;
4.1.6darparu goruchwyliaeth dros adrodd i Medr a Llywodraeth Cymru ar faterion sy'n ymwneud ag addysg a myfyrwyr.
4.2Bydd y Pwyllgor yn sefydlu, fel y bo'n briodol, yr Is-bwyllgorau hynny neu grwpiau tasg-ganolog eraill sy'n ofynnol er mwyn cyflawni ei rôl
4.3Bydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad blynyddol i'r Senedd ar weithgareddau i wella profiad myfyrwyr.
5. Dull Gweithredu
5.1 Mae'r Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr wedi sefydlu'r is-bwyllgorau canlynol:
i. Addysgu sy’n Ysbrydoli
ii. Dyfodol Myfyrwyr
iii. Bywyd Myfyrwyr
iv. Llais a Phartneriaeth Myfyrwyr
v. Y Bwrdd Ehangu Cyfranogiad
5.2 Bydd y grwpiau canlynol yn adrodd i'r Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr:
i. Pwyllgorau Addysg Colegau a Phrofiad Myfyrwyr;
ii. Grŵp strategaeth ôl-raddedig ymchwil
iii. Grŵp Goruchwylio Perfformiad Addysg
5.3 Bydd y Pwyllgor yn ystyried y canlynol ym mhob mater:
- budd y myfyrwyr a budd y cyhoedd;
- cynaliadwyedd;
- cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
6. Rheoli Fersiynau
Adolygwyd y cylch gorchwyl ddiwethaf: | Hydref 2022 |
Dyddiad a chorff cymeradwyo: | Cyngor 24/11/2022, Senedd 30/11/2022 |
I’w adolygu: | Hydref 2023 |
Tabl rheoli'r ddogfen
Teitl y ddogfen: | Cyfansoddiadau Pwyllgor Prif Bwyllgorau |
---|---|
Dyddiad dod i rym: | 26 Tachwedd 2024 |