Gweithdrefn Cymeradwyo Rhaglenni
- Fersiwn Version 1
- Dyddiad dod i rym:
- Dyddiad yr adolygiad nesaf:
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (PDF, 226.0 KB)
Trosolwg sefydliadol
O 1 Awst 2022, mae’r ddogfen hon yn amlinellu gweithdrefn cymeradwyo rhaglenni’r Brifysgol ar gyfer pob rhaglen a addysgir (gan gynnwys cynigion gyda phartneriaid allanol).
Mae’r weithdrefn wedi’u hamlinellu yn erbyn gofynion disgwyliadau Côd Ansawdd y DU (arferion craidd a chyffredin) ochr yn ochr â’r cyngor ac arweiniad ategol ar gyfer Dylunio a Datblygu Cyrsiau, Partneriaethau, Monitro a Gwerthuso, Asesu, Galluogi Myfyrwyr i Gyflawni, Arbenigedd Allanol, Ymgysylltu â Myfyrwyr a Dysgu yn y Gwaith fel y bo’n briodol.
Darperir trosolwg sefydliadol drwy’r Polisi Monitro ac Adolygu a gymeradwyodd y Senedd yn 2020. Bydd y weithdrefn yn cael ei hadolygu’n rheolaidd i sicrhau ei bod yn parhau i fodloni’r disgwyliadau a’r arferion a nodir yng Nghôd Ansawdd diwygiedig y Deyrnas Unedig ar gyfer Addysg Uwch a’r Safonau a’r Canllawiau ar gyfer Sicrhau Ansawdd yn y Maes Addysg Uwch Ewropeaidd (ESG) 2015.
Rhaglenni wedi'u cymeradwyo'n strategol gyda phartneriaid allanol
Mae sefydlu partneriaethau allanol yn agweddau pwysig ar weithrediad ac uchelgais strategol unrhyw sefydliad addysg uwch. Yng Nghaerdydd, rydym wedi ymgysylltu ag amrywiaeth o bartneriaid allanol gyda’r bwriad o gefnogi’r gwaith o gyflawni ein his-strategaeth addysg a myfyrwyr a’n his-strategaeth ryngwladol. Mae'r rhain yn cynnwys partneriaethau strategol, cytundeb cyfnewid rhyngwladol, cytundebau ynghylch cynnydd a mynegiant a rhaglenni a addysgir sy'n arwain at ddyfarniad Prifysgol Caerdydd.
Mae’r trefniadau llywodraethu ar gyfer sefydlu, datblygu a chynnal yr holl weithgarwch partneriaeth allanol wedi’u mynegi’n glir yn y Polisi Partneriaethau Addysg fel sy’n ofynnol gan Gôd Ansawdd y Deyrnas Unedig ar gyfer Addysg Uwch. Drwy’r polisi hwn, mae Caerdydd yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar risg o ddatblygu a rheoli ei threfniadau, a chaiff y rhain eu nodi yn Nhacsonomeg y Ddarpariaeth Gydweithredol.
Mae cymeradwyaeth yn gofyn am adnoddau ac amser penodol gan fod pob trefniant yn unigol o ran ei natur. Yr egwyddor gyffredinol yw bod yn rhaid i ansawdd a safonau holl drefniadau darpariaeth gydweithredol Caerdydd fod mor drylwyr, diogel, ac agored i graffu â'r rhai ar gyfer rhaglenni a ddarperir yn gyfan gwbl gan Brifysgol Caerdydd.
Bydd angen i unrhyw gynigion o'r fath barhau i gwblhau pob cam o'r weithdrefn gymeradwyo a nodir yn y ddogfen hon gan gynnwys unrhyw ofynion ychwanegol yn seiliedig ar natur a chymhlethdod y cynnig.
I gael rhagor o gymorth ac arweiniad ar ddatblygu partneriaethau addysg, cysylltwch â’r Tîm Partneriaethau Addysg yn EducationPartnerships@caerdydd.ac.uk ar ddechrau’r broses a chyn i unrhyw drafodaethau ffurfiol gael eu cynnal.
Rhan Un: Cymeradwyaeth Strategol
Mae’r adran hon wedi’i dylunio i’ch cefnogi i ddeall y gwahanol gamau a’r amserlenni ar gyfer datblygu rhaglenni newydd a gwneud newidiadau i raglenni presennol.
Bydd yr holl gynigion (rhaglenni newydd a newidiadau i raglenni presennol) yn cael eu hystyried yn y lle cyntaf, gan Bwyllgor Cam 1 Cymeradwyaeth Strategol eich Coleg. Ar gyfer raglenni newydd, os caiff eich cynnig ei gymeradwyo gan Bwyllgor eich Coleg, caiff ei argymell i gyfarfod Cam 1 Cymeradwyaeth Strategol y Grŵp Strategaeth Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr i'w drafod ymhellach a'i gymeradwyo.
Ar gyfer newidiadau i raglenni presennol, cyfrifoldeb Pwyllgor Cymeradwyaeth Strategol Cam 1 y Coleg yn unig yw cymeradwyo strategol. Os cewch eich cymeradwyo, byddwch yn gallu symud ymlaen i waith datblygu’r rhaglen yng Ngham 2.
Beth sydd angen i mi ei ystyried wrth gyflwyno cynnig am gymeradwyaeth strategol?
Cynhelir trafodaethau ynghylch blaenoriaethau strategol a datblygu portffolio gyda'ch Ysgol/Coleg drwy gydol y flwyddyn academaidd mewn ymateb i ystod eang o amgylchiadau. Gall y rhain gynnwys cymharu â’r sector, data arolwg, cyllid allanol, a datblygiadau strategol yng Nghymru / y DU/ yn Rhyngwladol. Gall cynigion ar gyfer datblygu rhaglenni newydd fod yn gysylltiedig â'r trafodaethau hyn neu efallai eu bod wedi'u datblygu trwy Adolygu a Gwella Blynyddol.
Bydd eich Coleg yn edrych i weld sut mae eich cynnig yn ateb y cwestiynau canlynol:
- A ydym am gynnig y rhaglen hon ac os felly, pam?
- A yw'r cynnig yn gweithio gyda phartneriaid allanol ac os felly, beth yw natur y cydweithio?
- Sut mae'r cynnig yn cyd-fynd â'n blaenoriaethau sefydliadol ac yn eu hymgorffori?
- Sut mae'r cynnig yn paratoi myfyrwyr ar gyfer swyddi'r dyfodol?
- A oes gennym yr adnoddau priodol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno'r rhaglen i gynnig profiad rhagorol i fyfyrwyr?
Gellir ystyried cynigion sy'n nodi meysydd unigryw neu gyfleoedd ariannu allanol sylweddol ond nad oes ganddynt alw amlwg neu sylweddol yn y farchnad. Mae hyn yn arbennig o wir os oes tystiolaeth o ymrwymiad allanol i'r cynnig neu os yw wedi'i nodi'n strategol bwysig i fodloni ac ymgorffori ein blaenoriaethau sefydliadol. Bydd angen rhoi ystyriaeth ofalus i'r buddsoddiad a'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni’r uchelgeisiau strategol.
Datblygwyd templedi i helpu i gasglu'r holl wybodaeth sy'n ofynnol ar hyn o bryd. Mae cymorth ac arweiniad hefyd ar gael gan dîm Cyfathrebu a Recriwtio eich Coleg (ar asesu hyfywedd marchnad eich newidiadau arfaethedig) a Swyddog Ansawdd eich Coleg.
Rhan Dau: Amserlenni ar gyfer datblygu rhaglenni
Rhaglenni newydd
Er mwyn sicrhau y gellir recriwtio’n llwyddiannus i bob cynnig am raglen newydd, mae graddfeydd amser clir ar gyfer cymeradwyaeth derfynol gan yr Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd wedi cael eu sefydlu, a chytunir ar y rhain erbyn diwedd cyfarfod Cam 1 y Gymeradwyaeth Strategol gan RASG.
Gan fod pob cynnig yn amrywio o ran maint a chymhlethdod, mae'n bwysig bod gennych amser ac adnoddau priodol trwy gydol pob cam o'r broses. Gall cynigion sy’n cynnwys partneriaethau allanol gymryd llawer mwy o amser i’w cyflawni os oes angen cymeradwyaeth gan y sefydliad(au) partner brosesau cymeradwyo ychwanegol.
Os na fydd rhaglenni’n barod erbyn y terfynau amser a amlinellir isod, bydd y gweithgareddau recriwtio a marchnata yn cael eu hoedi ar gyfer y rhaglen tan y cylch nesaf.
Ôl-raddedig a Addysgir - dylai rhaglenni fod yn barod i’w marchnata o leiaf ddeuddeg mis cyn i’r rhaglen ddechrau (e.e. mis Medi 2024 i ddechrau ym mis Medi 2025). |
Israddedig - dylai rhaglenni fod yn barod i’w marchnata o leiaf ddeunaw mis* cyn i’r rhaglen ddechrau (e.e. mis Mawrth 2025 i ddechrau ym mis Medi 2026). |
Ni fydd rhaglenni newydd a gyflwynir yn hwyr yn y cylch recriwtio yn cael eu cefnogi trwy broses Cam 1 y Gymeradwyaeth Strategol gan y bydd hynny’n effeithio ar allu’r Ysgolion i fanteisio i’r eithaf ar weithgarwch recriwtio a marchnata ac i recriwtio’r niferoedd disgwyliedig a nodwyd yn rhan o’u cynllun busnes.
Newidiadau i raglenni presennol
Mae dyddiad cau safonol wedi'i sefydlu ar gyfer cadarnhau gwybodaeth am raglenni ym mis Mai bob blwyddyn i leihau nifer y newidiadau hwyr cyn ac ar ôl cofrestru. Bydd angen ystyried hyn mewn unrhyw drafodaethau’r Bwrdd Astudiaethau wrth wneud newidiadau arferol i raglenni presennol.
Mae cadarnhad hwyr o raglenni neu newidiadau i wybodaeth rhaglenni yn effeithio'n sylweddol ar ansawdd profiad y myfyriwr (dewis modiwlau a gwybodaeth am amserlennu) yn ogystal â dyblygu ymdrechion Ysgolion a staff yn y Gofrestrfa i ddiwygio'r manylion.
Rhan Tri: Modiwlau a darpariaethau eraill sy'n dwyn credydau
Rhaid i bob Rhaglen neu ran o raglenni (modiwlau) a gynigir gan yr ysgol ddod o dan arolygiaeth Bwrdd Astudiaethau. Byddant yn adrodd i Bwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr yr Ysgol ar adolygu, monitro a chyflwyno rhaglenni.
Wrth greu modiwl newydd fel rhan o raglen neu i’w gyflwyno’n annibynnol, cyfrifoldeb y Bwrdd Astudiaethau yw sicrhau bod y modiwl yn cael ei adolygu yn unol â chanllawiau’r Bwrdd Astudiaethau yn benodol yr adran ‘Beth ddylai Bwrdd Astudiaethau ei ystyried wrth adolygu gwybodaeth am fodiwlau)?'
Wrth adolygu'r disgrifiad modiwl, rhaid i'r Bwrdd sicrhau ei fod yn bodloni'r gofynion sylfaenol a amlinellir yn y disgwyliadau sefydliadol gan mai dyma'r egwyddorion allweddol y mae holl raglenni Caerdydd yn seiliedig arnynt.
'Rhaglenni' nad ydynt yn raglenni gradd
Rhaid i bob myfyriwr sy'n astudio ar gyfer credyd fod wedi'i gofrestru ar god rhaglen hyd yn oed os mai dim ond un modiwl y maent yn ei astudio. Ni ellir cofrestru myfyrwyr ar fodiwlau unigol yn uniongyrchol a rhaid eu cysylltu â chod rhaglen nad yw’n raglen radd priodol sy'n adlewyrchu'n gywir y modd y maent yn mynychu a'r hyd. Mae codau rhaglenni nad ydynt yn raglenni gradd yn wahanol i godau rhaglen israddedig ac ôl-raddedig safonol gan nad ydynt yn arwain at Ddyfarniad Prifysgol Caerdydd. Bydd myfyrwyr yn derbyn trawsgrifiad o gredydau ar ôl llwyddo yn yr asesiad.
Gwneud cais i astudio modiwlau sy'n dwyn credydau
- Gofynion Saesneg
- Gofynion fisa a mewnfudo
- Cynllun Cymeradwyaeth Technoleg Academaidd (ATAS)
- Cofrestru ar-lein a chytundeb â datganiad diogelu data'rBrifysgol.
Rhaid i unrhyw un sy’n gwneud cais i astudio neu ymweld â’r Brifysgol drwy’r broses ymgeisio SIMS gadw at y polisïau derbyn priodol gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
Gofyn am god rhaglen nad yw'n raglen radd
Mae cyfres o godau rhaglen nad ydynt yn raglenni gradd eisoes wedi'u sefydlu ym mhob ysgol. Mae'n bwysig eich bod yn gwirio a yw codau presennol yn addas i'w defnyddio cyn gofyn am sefydlu rhai newydd. Bydd eich Rheolwr Gwybodaeth Rhaglen Coleg yn gallu eich cefnogi gyda'r broses hon.
Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid gofyn am godau rhaglenni nad ydynt yn raglenni gradd newydd er mwyn osgoi oedi diangen. Lle mae angen creu codau rhaglenni nad ydynt yn raglenni gradd y tu allan i gylch cadarnhau gwybodaeth y rhaglen e.e., mewn ymateb i dendrau contract modiwl annibynnol neu bartneriaid diwydiannol, rhaid i Gofrestrydd eich Coleg ddarparu tystiolaeth o gymeradwyaeth strategol i gefnogi’r cais sy’n cael ei wneud y tu allan i’r cylch busnes presennol.
Categorïau o ddarpariaethau 'nad ydynt yn raglenni gradd'
Astudiaethau ymweliadol ac achlysurol
- Gall unigolion fod yn gysylltiedig ag UG, PGT, neu PGR.
- Ni fyddant yn derbyn addysg, astudio modiwlau, nac yn cyflwyno asesiadau.
- Rhaid i unigolion fod wedi’u cofrestru ar god rhaglen nad yw’n raglen gradd yn SIMS i’w galluogi i gael mynediad i adeiladau, offer neu labordai at ddibenion cysgodi staff ac ati.
- Ni ddylai unigolion gael eu cofrestru fel astudiaethau ymweliadol neu achlysurol os ydynt yn fyfyrwyr sydd wedi'u cofrestru gyda darparwr arall e.e. cyfnewid, neu AHRC SWW.
- Fel arfer, hyd y cofrestriad ar gyfer ymweliadau neu astudiaethau achlysurol hiraf yw blwyddyn o hyd, yn dibynnu ar natur y gweithgaredd.
- Bydd cofnod unigolion yn SIMS yn cael ei gau'n awtomatig ar ôl y dyddiad gorffen +2 wythnos.
Modiwlau annibynnol a thendrau tymor byr a ariennir yn allanol
- Nid yw myfyrwyr yn derbyn Gwobr Prifysgol Caerdydd.
- Gellir defnyddio credydau a gyflawnwyd yn llwyddiannus i gael mynediad i raglenni (yng Nghaerdydd neu mewn sefydliad arall) trwy'r Polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol.
- Gall myfyrwyr dalu eu ffioedd dysgu eu hunain yn uniongyrchol, neu gallant gael eu hariannu gan gyflogwyr, neu gorff gweithlu strategol e.e, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
- Rhaid i fyfyrwyr fod wedi'u cofrestru ar god rhaglen nad yw'n rhaglen radd yn SIMS sy'n dangos yn glir yr holl fodiwlau sydd ar gael, pryd y maent ar gael a'r dull o fynychu.
- Rhaid i fodiwlau fod werth o leiaf 1 credyd.
- Dylid rheoli casgliadau o fodiwlau gan ddefnyddio casgliadau cynnwys i gefnogi myfyrwyr gyda dewis modiwlau e.e, gallai cod rhaglen ymbarél nad yw’n rhaglen radd penodol AaGIC Meddygaeth gynnwys sawl casgliad o gynnwys er mwyn hwyluso dewis o fewn pwnc penodol.
- Rhaid i fyfyrwyr gofrestru'n flynyddol os yw cyrsiau'n fwy na blwyddyn.
Sefydlu eich rhaglen nad yw’n raglen gradd ar gyfer sawl dyddiad dechrau
Gall myfyrwyr gofrestru ar fodiwlau ar sawl adeg yn ystod y flwyddyn academaidd gan ganiatáu iddynt astudio sawl modiwl sydd ynghlwm wrth yr un cod rhaglen nad yw'n radd am gyfnodau amrywiol o amser.
Bydd angen creu dyddiadau pwrpasol ar gyfer pob myfyriwr i’w galluogi i gofrestru ar fodiwlau gwahanol am gyfnodau gwahanol o amser neu ar gyfer gwahanol bwyntiau mynediad. Gall eich Rheolwr Gwybodaeth Rhaglen Coleg roi cymorth, cyngor ac arweiniad os oes angen nifer o ddyddiadau cychwyn arnoch.
Modiwlau Annibynnol Traws-Brifysgol
Gellir cyflawni datblygu modiwlau annibynnol traws-Brifysgol ar lefel 7 trwy ychwanegu'r holl fodiwlau at y rhaglen ysgol o fewn y cod rhaglen nad yw’n raglen radd penodol yn yr un modd ag y rhennir casgliadau cyfnewid .
Mae'n ofynnol i Ysgolion adolygu eu modiwlau annibynnol traws-Brifysgol yn flynyddol yn unol â'r broses o gadarnhau gwybodaeth am y rhaglen, gan gadarnhau pa fodiwlau fydd ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod.
Astudio dramor a myfyrwyr cyfnewid rhyngwladol sy'n dod i mewn
Disgwylir i ysgolion sicrhau bod gwybodaeth am y modiwlau sydd ar gael yn gywir ac yn gyfredol, gydag ystod briodol o fodiwlau yn cael eu cynnig i fyfyrwyr sy'n dod i mewn. Yn unol â'r broses cadarnhau gwybodaeth rhaglen, mae'n ofynnol i Ysgolion adolygu eu rhaglen astudio dramor nad yw'n radd a gwybodaeth modiwlau yn flynyddol a chadarnhau pa fodiwlau fydd ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod.
- Rhaid i fyfyrwyr sy'n dod i mewn fod wedi'u cofrestru gyda darparwr partner.
- Nid yw myfyrwyr yn derbyn Gwobr Prifysgol Caerdydd.
- Rhaid i fyfyrwyr fynychu addysgu wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd.
- Bydd myfyrwyr yn astudio ystod o fodiwlau sy'n dwyn credydau yn unol â gofynion eu sefydliad cartref.
- Bydd credydau a enillir yn llwyddiannus yn cael eu cofnodi ar eu trawsgrifiad o gredydau a'u hanfon i'w sefydliad cartref ar ôl y bwrdd arholi.
- Lle mae myfyrwyr sy'n dod i mewn yn astudio rhaglenni nad ydynt yn raglenni â modiwlau e.e., yn yr Ysgol Meddygaeth, mae angen codau rhaglenni nad ydynt yn raglenni gradd ar wahân ar gyfer darpariaeth â modiwlau a heb fodiwlau.
- Rhaid i fodiwlau fod werth o leiaf 1 credyd.
- Dylid rheoli casgliadau o fodiwlau gan ddefnyddio casgliadau cynnwys i gefnogi myfyrwyr gyda dewis modiwlau e.e., gallai cod rhaglen ymbarél di-radd cyfnewid ENCAP gynnwys sawl casgliadau o gynnwys er mwyn hwyluso dewis o fewn pwnc neu ddisgyblaeth benodol os cynigir modiwlau y tu allan i un ysgol.
- Rhaid neilltuo costau i fodiwlau i sicrhau y gellir cynhyrchu anfonebau myfyrwyr ar lefel fodiwlaidd, yn hytrach na defnyddio ffioedd pro-rata
Cronni credydau ôl-raddedig a addysgir
Mae cronni credydau ar Lefel 7 FHEQ yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio modiwlau sydd â gwerth ar eu pen eu hunain yn ogystal â chyfrannu at becyn dysgu mwy. Gall dysgwyr gronni modiwlau mewn ffordd sy'n caniatáu iddynt gyd-fynd â'i gilydd, adeiladu, neu bentyrru credydau wrth iddynt weithio tuag at eu canlyniadau bwriadedig boed hynny drwy gwblhau modiwl unigol neu ddyfarniad y Brifysgol yn y pen draw.
Mae sefydlu eich cod rhaglen nad yw’n raglen gradd ar gyfer cronni credydau ôl-raddedig yn dilyn yr un drefn a nodir ar gyfer modiwlau annibynnol.
- Nid yw myfyrwyr yn derbyn Gwobr Prifysgol Caerdydd.
- Gellir defnyddio credydau a gyflawnwyd yn llwyddiannus i gael mynediad i raglenni Dyfarniad Dysgu Hyblyg penodol yng Nghaerdydd trwy'r Polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol.
- Gall myfyrwyr dalu eu ffioedd dysgu eu hunain yn uniongyrchol, neu gallant gael eu hariannu gan gyflogwyr, neu gorff gweithlu strategol e.e, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
- Rhaid i fyfyrwyr fod wedi'u cofrestru ar god rhaglen gronni credydau penodol nad yw'n radd yn SIMS sy'n dangos yn glir yr holl fodiwlau sydd ar gael, pryd y maent ar gael a'r dull o fynychu.
- Rhaid i fodiwlau fod werth o leiaf 1 credyd.
- Dylid rheoli casgliadau o fodiwlau gan ddefnyddio casgliadau cynnwys i gefnogi myfyrwyr gyda dewis modiwlau e.e., gallai cod rhaglen gronni credyd ymbarél HCARE HEIW gynnwys sawl casgliad o gynnwys i ganiatáu dewis rhwydd o fewn pwnc penodol.
- Rhaid i fyfyrwyr gofrestru'n flynyddol os os yw'r rhaglen nad yw'n raglen gradd yn fwy na blwyddyn.
- Mae myfyrwyr yn ailadrodd a gallant gymryd rhwng 0-60 credyd bob blwyddyn.
- Rhaid neilltuo costau i fodiwlau i sicrhau y gellir cynhyrchu anfonebau myfyrwyr ar lefel fodiwlaidd, yn hytrach na defnyddio ffioedd pro-rata.
- Gall myfyrwyr dderbyn Diploma Ôl-raddedig generig mewn Addysg Uwch neu Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch trwy god rhaglen gronni credydau nad yw’n raglen gradd os ydynt wedi cronni'r swm cywir o gredydau pan fyddant yn gadael.
Ennill Dyfarniad Prifysgol Caerdydd trwy gronni credydau
Wrth ddatblygu unrhyw raglen sy'n cefnogi cronni credydau, bydd angen ei chymeradwyo'n llawn fel yr amlinellir yn Rhan Un. Rhaid i Ysgolion nodi mai uchafswm hyd y rhaglen ar gyfer cyflawni Dyfarniad Prifysgol Caerdydd trwy gronni credydau yw 7 mlynedd o ddechrau'r modiwl cyntaf fel yr amlinellir yn y Rheoliadau Academaidd.
Ar ôl cwblhau cyfres o fodiwlau, efallai y bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddefnyddio'u credydau y gellir eu 'pentyrru' i drosglwyddo rhaglen gymeradwy yn fewnol lle gallant ennill Dyfarniad Prifysgol Caerdydd. Mae tri Dyfarniad Prifysgol Caerdydd wedi'u cymeradwyo i gefnogi myfyrwyr sy'n astudio trwy gronni credydau.
Defnyddio teitl rhaglen sy'n bodoli eisoes
Rhaid i'r rhaglen fod â'r un strwythur, deilliannau dysgu lefel rhaglen, a chynnwys i ddiogelu uniondeb teitl y Dyfarniad a'r Rhaglen bresennol.
- MSc [teitl rhaglen sydd eisoes ag enw arni]= 120 credyd a addysgir ynghyd â thraethawd hir/prosiect 60 credyd ar Lefel 7
- Diploma Ôl-raddedig [teitl rhaglen sydd eisoes ag enw arni] = 120 credyd a addysgir ar Lefel 7
- Tystysgrif Ôl-raddedig [teitl rhaglen sydd eisoes ag enw arni] = 60 credyd a addysgir ar Lefel 7
Teitl rhaglen generig gyda chydnabyddiaeth datblygiad proffesiynol ffurfiol
Bydd y rhain yn gasgliad wedi’i ddiffinio ymlaen llaw o fodiwlau â thema sydd wedi’u hatodi i god rhaglen nad yw’n radd sydd â chydnabyddiaeth CPD gan CPSRh ond nad ydynt yn mapio i deitl rhaglen sydd eisioes ag enw. Dylid rheoli casgliadau o fodiwlau gan ddefnyddio casgliadau cynnwys i gefnogi myfyrwyr gyda dewis modiwlau i sicrhau eu bod yn bodloni unrhyw ofynion datblygiad proffesiynol disgyblaeth-benodol.
Bydd trawsgrifiad y myfyriwr yn dangos y themâu a ddewiswyd gan y modiwlau a ddewiswyd.
- MSc [xxxxxx] Datblygiad Proffesiynol: 120 o gredydau a addysgir ynghyd â thraethawd hir/prosiect 60 credyd ar Lefel 7
- Diploma Ôl-raddedig [xxxxxx] Datblygiad Proffesiynol: 120 credyd a addysgir ar Lefel 7
- Tystysgrif Ôl-raddedig [xxxxxx] Datblygiad Proffesiynol: 60 credyd a addysgir ar Lefel 7
Rhaglen generig yn cynnwys casgliad o fodiwlau o bob rhan o'r Brifysgol. *1
Ar ôl cwblhau cyfres o fodiwlau, gall dysgwyr ddewis defnyddio eu credyd y gellir ei bentyrru i gefnogi dyfarniad generig*. Yn dibynnu ar y modiwlau a ddewisir, gall confensiwn enwi rhaglen generig fod yn seiliedig ar y ddisgyblaeth pwnc eang a astudir gan bob dysgwr e.e. tystysgrif ôl-raddedig yn y gwyddorau cymdeithasol/gwyddorau gofal iechyd ac ati.
1 Rhagwelir mai dim ond ar gyfer nifer fach o ddysgwyr y bydd hwn yn cael ei ddefnyddio. Bydd gweithredu rhaglen generig ar draws llawer o ddisgyblaethau yn gymhleth i’r dysgwr ei llywio a gallai ddarparu profiad amrywiol i’r dysgwr.
Bydd angen bod yn ofalus gydag unrhyw deitlau Dyfarniad gwarchodedig sy'n rhoi cofrestriad proffesiynol.
- MSc [disgyblaeth pwnc eang]: 120 o gredydau a addysgir ynghyd â thraethawd hir/prosiect 60 credyd ar Lefel 7
- Diploma Ôl-raddedig [disgyblaeth pwnc eang]: 120 credyd a addysgir ar Lefel 7
- Tystysgrif Ôl-raddedig [disgyblaeth pwnc eang] :60 credyd a addysgir ar Lefel 7
Rhaglenni Darpariaeth Saesneg
Yn cael eu rhedeg gan y tîm ELP - mae'r rhaglenni hyn yn rai heb fodiwlau, ac fel arfer yn rhedeg am wythnosau nid blynyddoedd i hwyluso sgiliau Saesneg myfyrwyr rhyngwladol cyn astudio.
Unwaith y bydd dyddiad gorffen rhaglen myfyriwr cofrestredig +2 wythnos wedi mynd heibio, bydd cofnod y myfyriwr yn cael ei gau'n awtomatig.
Partneriaethau Hyfforddiant Doethurol.
Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol yn gonsortiwm o sefydliadau partner sy'n cynnig cyfleoedd ymchwil i staff a myfyrwyr.
- Nid yw myfyrwyr yn derbyn dyfarniad na chredydau.
- Bydd angen cytundeb cyd-oruchwylio wedi'i lofnodi ar bob myfyriwr cyn cofrestru.
- Rhaid i'r myfyriwr fod wedi'i gofrestru gyda'r darparwr amgen
- Gall hyd y rhaglen nad yw'n raglen gradd fod yn 3-7 mlynedd.
- Disgwylir i fyfyrwyr gofrestru'n flynyddol o hyd.
- Nid yw'r rhaglenni hyn yn rhai y gellir eu dychwelyd gan HESA, ac nid ydynt yn fodiwlaidd felly os oes angen mynediad at ddeunyddiau addysgu ar fyfyrwyr bydd angen i ysgolion eu cofrestru ar Dysgu Canolog.
- Nid oes angen cymeradwyaeth ar gyfer y rhaglenni hyn nad ydynt yn rhai gradd.
- Unwaith y bydd dyddiad gorffen rhaglen myfyriwr cofrestredig +2 wythnos wedi mynd heibio, bydd cofnod y myfyriwr yn cael ei gau'n awtomatig.
Dyfarnu credydau
I ddyfarnu credydau, mae'n rhaid i chi gael Bwrdd Arholi. Wrth sefydlu eich rhaglen nad yw’n raglen gradd rhaid i chi ystyried y canlynol:
- Lle mae ysgolion yn defnyddio'r un cod modiwl o fewn y rhaglen nad yw'n radd a rhaglen sy'n dwyn dyfarniad, rhaid i chi ystyried pob modiwl yn yr un bwrdd arholi.
- Rhaid i reolau ailsefyll fod yn eu lle ar gyfer pob rhaglen nad yw'n radd.
- Rhaid i bob myfyriwr (rhaglen nad yw’n radd a dyfarniad) ailsefyll o fewn y cyfnod ailsefyll y cytunwyd arno gan y Brifysgol.
- Os bydd ysgolion yn sefydlu codau modiwl annibynnol, rhaid amlinellu amserlen y byrddau arholi yn glir ar ddechrau'r flwyddyn academaidd gan nodi pryd y bydd ailsefyll ar gael i fyfyrwyr (cynllun llinell).
- Rhaid cadw byrddau arholi yn unol ag amserlen gymeradwy’r bwrdd arholi er mwyn sicrhau y gellir cau cofnod myfyriwr ar yr adeg briodol.
- Rhaid i fyfyrwyr gofrestru'n flynyddol os yw cyrsiau'n fwy na blwyddyn.
Mae cyngor ac arweiniad pellach ar yr holl ddarpariaeth credyd ar gyfer rhaglenni nad ydynt yn raglenni gradd ar gael trwy eich Swyddog Gwybodaeth Rhaglen.
Document history
Version | Date | Author | Notes on revisions |
---|---|---|---|
V1 | 15 Mehefin 2022 | Martine Woodward - Pennaeth Ansawdd a Safonau | Mae'r Polisi Datblygu Rhaglenni wedi'i ddisodli gan weithdrefn cymeradwyo rhaglenni’n unig. Mae'r elfen ddatblygu wedi'i hymgorffori yn y Disgwyliadau Sefydliadol ar gyfer strwythur, dylunio a chyflwyno rhaglenni. |
V2 | 3 Gorffennaf 2023 | Martine Woodward - Pennaeth Ansawdd a Safonau | Roedd y Weithdrefn angen gael ei ddiweddaru oherwydd y cyflwyniad o Bolisi Partneriaethau Addysg newydd (sy’n ailosod Polisïau Darpariaeth Gydweithredol, Astudio Dramor, a Dysgu ar Leoliad) Mae ‘Rhan 4: Rôl y Bwrdd Astudiaethau’ wedi cael ei ddiddymu oherwydd mae’r cyngor ac arweiniad ar gael ar Rwydwaith Ansawdd a Safonau Academaidd y Brifysgol. |
Tabl rheoli'r ddogfen
Teitl y ddogfen: | Gweithdrefn Cymeradwyo Rhaglenni |
---|---|
Awdur(on): | Martine Woodward |
Rhif y fersiwn: | Version 1 |
Dyddiad cymeradwyo: | 03 Awst 2023 |
Cymeradwywyd gan: | ASQC |
Dyddiad dod i rym: | 01 Awst 2022 |
Dyddiad yr adolygiad nesaf: | Awst 2024 |