Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Polisi Partneriaethau Addysg

Cwmpas ac eithriadau

Cwmpas

O 1 Awst 2024, mae'r Polisi hwn yn rhoi trosolwg ar gyfer rheoli ac adolygu ystod eang o drefniadau partneriaeth addysg ym Mhrifysgol Caerdydd gan gynnwys:

Mae'r Polisi hwn yn amlinellu set o egwyddorion sy'n caniatáu i Brifysgol Caerdydd gyflawni ei chyfrifoldebau yn effeithiol dros oruchwylio a rheoli darpariaeth partneriaeth. Datblygwyd Gweithdrefn Partneriaethau Addysg i gefnogi'r Polisi a darparu fframwaith ar gyfer rheoli a gweithredu darpariaeth partneriaeth Caerdydd yn effeithiol. O'r herwydd, dylid darllen y Polisi Partneriaethau Addysg ar y cyd â'r Weithdrefn Partneriaethau Addysg.

Egwyddorion allweddol

Mae'r Polisi wedi'i ddylunio o amgylch yr 'egwyddorion arweiniol' canlynol:

Egwyddor 1: Caiff rhaglenni gradd eu cynllunio a'u darparu yn unol â rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau Prifysgol Caerdydd ac maent yn bodloni gofynion y Disgwyliadau Sefydliadol

Egwyddor 2: Os mai Prifysgol Caerdydd yw'r Sefydliad Dyfarnu, mae ganddi’r cyfrifoldeb dros 'berchen' a 'rheoli' y rhaglen

Egwyddor 3: Mae fframwaith clir ar gyfer monitro, adolygu a rheoli risg

Trosolwg sefydliadol

Mae'r Polisi hwn wedi'i gymeradwyo gan y Senedd ym mis Mehefin 2024. Bydd yn cael ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau i gefnogi prosesau mewnol sy'n gweithredu'n effeithlon ac yn effeithiol ac i gyflawni'r pwyntiau cyfair allanol a nodir yng Nghod Ansawdd Addysg Uwch y DU ac adran 1.5 ac 1.9 o'r Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd yn llawn (ESG) ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol.

Is-bwyllgor Partneriaeth Addysg

Mae gan yr Is-bwyllgor Partneriaeth Addysg, o dan awdurdod dirprwyedig gan ASQC, y cyfrifoldeb i adolygu ansawdd a safonau academaidd gweithgaredd partneriaeth addysg sy’n dwyn credyd yn unol â'r gofynion a nodir yn y Polisi hwn a'r weithdrefn gymeradwyo'r rhaglen. Bydd yr Is-bwyllgor yn darparu adroddiadau rheolaidd i ASQC yn unol â'i Gylch Gorchwyl.

Eithriadau

Cymeradwyo partneriaethau strategol y Brifysgol

Gall y Brifysgol gymeradwyo cynigion i ddatblygu ystod eang o bartneriaethau addysg neu ymchwil sydd â phwysigrwydd sylweddol wrth gyflawni ei huchelgeisiau strategol. Wrth i'r trefniant aeddfedu, gellir cynnig cynigion addysg/ymchwil penodol yn unol â'r rhai a amlinellir yn y polisi hwn. Lle mae hyn yn wir, bydd angen cwblhau pob cam o'r weithdrefn cymeradwyo rhaglen gan gynnwys unrhyw ofynion ychwanegol sy’n seiliedig ar natur a chymhlethdod y cynnig.

Gofynion cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol

Mae'r Brifysgol yn cydnabod bod gan rai rhaglenni ofynion penodol a osodwyd gan gyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddio (PSRB). Lle bo gofynion penodol PSRB yn effeithio ar weithrediad egwyddorion y Polisi hwn, bydd angen eithriad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd.

Gweithgaredd nad yw'n cynnwys credyd

Mae'r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o weithgarwch partneriaeth addysg nad yw'n cynnwys credyd nad yw'n arwain at wobr gan Brifysgol Caerdydd. Disgwylir y bydd monitro ac adolygu'r holl ddarpariaeth nad yw'n cynnwys credydau yn dilyn yr egwyddorion a nodir yn y Polisi hwn. Mae rhai rhaglenni nad ydynt yn cynnwys credydau wedi'u hachredu gan gyrff proffesiynol allanol ac o'r herwydd gallant hefyd fod yn ddarostyngedig i'w polisïau a'u harferion o ran sicrhau ansawdd.

Ceiswyr Lloches, Ffoaduriaid a phobl eraill sy'n ceisio Noddfa yn y DU

Cydnabyddir y gall rhai myfyrwyr sy'n gwneud cais i Brifysgol Caerdydd fod â sawl opsiwn statws swyddogol gwahanol a allai effeithio ar eu gallu i ymgymryd â phartneriaethau addysg penodol a amlinellir yn y polisi. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalennau gwe Fisâu a Mewnfudo y DU.

Egwyddor  Egwyddor 1: Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio a'i chyflwyno yn unol â rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau Prifysgol Caerdydd ac mae'n bodloni gofynion sylfaenol y Disgwyliadau Sefydliadol.

Pwyntiau Cyfeirio Allanol

Mae'r egwyddorion o fewn y Polisi hwn wedi'u mapio yn erbyn disgwyliadau ac arferion craidd a chyffredin cod Ansawdd diwygiedig y DU, ochr yn ochr â'r cyngor a'r canllawiau ategol ar Bartneriaethau, Dylunio a Datblygu Cyrsiau, Monitro a Gwerthuso, Asesu, Galluogi Cyflawniad Myfyrwyr, Arbenigedd Allanol,Ymgysylltu â Myfyrwyr, Graddau Ymchwil a Dysgu Seiliedig ar Waith fel y bo'n briodol.

Disgwyliadau o ran safonauDisgwyliadau o ran ansawdd
Mae safonau academaidd cyrsiau yn bodloni gofynion y fframwaith cymwysterau cenedlaethol perthnasol.Mae cyrsiau wedi cael eu dylunio'n dda, yn rhoi profiad academaidd o safon uchel i bob myfyriwr, ac yn galluogi ffordd ddibynadwy o asesu cyrhaeddiad myfyriwr.
Mae gwerth y cymwysterau a ddyfernir i fyfyrwyr wrth iddynt gymhwyso a thros amser, yn unol â'r safonau a gydnabyddir gan y sector.O gael eu derbyn hyd at gwblhau, caiff yr holl fyfyrwyr y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo mewn addysg uwch, ac i elwa arni.
Arferion craidd o ran safonauArferion craidd o ran ansawdd
Mae’r darparwr yn sicrhau bod safonau’r trothwy ar gyfer ei gymwysterau yn gyson â’r fframweithiau cymwysterau cenedlaethol perthnasol.Mae’r darparwr yn dylunio ac/neu’n cyflenwi cyrsiau o ansawdd uchel.
Mae'r darparwr yn sicrhau bod myfyrwyr y dyfernir cymwysterau iddynt yn gallu cyflawni safonau y tu hwnt i'r trothwy y gellir eu cymharu'n rhesymol â'r rheiny a gyflawnir gan ddarparwyr eraill yn y DU.Pan fydd darparwr yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, mae ganddo drefniadau effeithiol ar waith i sicrhau bod y profiad academaidd o ansawdd uchel waeth ble neu sut y caiff cyrsiau eu cyflwyno a phwy sy'n eu darparu.
Pan fydd darparwr yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, bydd wedi gosod trefniadau effeithiol er mwyn gwneud yn siŵr bod safonau ei ddyfarniadau'n gredadwy ac yn ddiogel waeth ble neu ym mha fodd y darperir cyrsiau, neu bwy sy'n eu darparu.Mae'r darparwr yn cefnogi pob myfyriwr i lwyddo yn academaidd ac yn broffesiynol.
Mae’r darparwr yn defnyddio arbenigedd allanol, prosesau asesu a dosbarthu sy’n ddibynadwy, yn deg ac yn dryloyw.Mae gan y darparwr gyfleusterau, adnoddau dysgu a gwasanaethau cynorthwyo myfyrwyr digonol a phriodol er mwyn darparu profiad academaidd o safon uchel.
 Mae gan y darparwr ddigon o staff medrus sydd â chymwysterau priodol i ddarparu profiad academaidd o safon uchel.
 Pan fydd y darparwr yn cynnig graddau ymchwil mae’n cyflawni’r rhain mewn amgylcheddau ymchwil priodol a chefnogol.
 Mae'r darparwr yn ymgysylltu’n weithredol â myfyrwyr,
yn unigol ac ar y cyd, o ran ansawdd eu profiadau addysgol.
 Mae gan y darparwr weithdrefnau teg a thryloyw ar gyfer mynd i’r afael â chwynion ac apeliadau sydd ar gael i bob
myfyriwr.
Arferion cyffredin o ran safonauArferion cyffredin o ran ansawdd
Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer safonau’n rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i sbarduno
Gwella.
Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer ansawdd yn rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i achosi
gwelliant.
 Mae agwedd y darparwr tuag at reoli ansawdd yn ystyried arbenigedd allanol.
 Mae'r darparwr yn ymgysylltu â myfyrwyr, yn unigol ac ar y cyd wrth ddatblygu, gwarantu a gwella safon eu profiadau academaidd.

Trosolwg o reoli risg

Yng Nghaerdydd, rydym yn cymryd dull seiliedig ar risg o ddatblygu a rheoli'r holl weithgarwch partneriaeth addysg. Mae natur y risgiau – a ph’un a yw’r rhain yn gyfleoedd neu fygythiadau – yn dibynnu ar y partner a natur y gweithgarwch. Rydym yn ceisio cydbwyso’r angen am broses effeithlon o wneud penderfyniadau gyda’r angen i gael system briodol o reoli risg.

Yn ymarferol, bydd natur a graddau’r asesiad risg a gynhelir yn amrywio yn unol â chymhlethdod y cynnig. Bydd Tacsonomeg Partneriaethau Addysg yn rhoi man cychwyn i chi wrth ddatblygu eich strategaeth rheoli risg gan eich helpu i nodi'r risgiau a sut y gallent gael eu lliniaru.

Diwydrwydd dyladwy

Mae’n rhaid cynnal diwydrwydd dyladwy ar gyfer pob math o drefniadau partneriaeth addysg; fodd bynnag, bydd natur a chymhlethdod y cynnig yn llywio'r math o ddiwydrwydd dyladwy sydd ei angen. Mae angen trafodaethau cynnar gyda'r Tîm Partneriaeth Rhyngwladol cyn dechrau ar sgyrsiau ar ddiwydrwydd dyladwy. Mae'n cwmpasu'r canlynol:

  • y partner (strategol, ariannol a chyfreithiol)
  • gallu'r partner i gyflawni'r trefniant (safonau academaidd)
  • yr ymweliad (cyfleusterau, cymorth i fyfyrwyr a phrofiad dysgu o ansawdd uchel)

Mae gofynion sylfaenol diwydrwydd dyladwy ar gyfer pob math o weithgaredd partneriaeth i’w gweld yn yr adrannau canlynol o'r Polisi.

Datblygu eich strategaeth rheoli risg

Mae gofyn am fonitro trefniadau partneriaethau Addysg ac adolygu yn barhaus, yn ystod oes y cytundeb. Er mwyn i hyn ddod yn fusnes llwyddiannus fel gweithgaredd arferol, mae’n rhaid ei integreiddio i bob trafodaeth addysg o fewn yr ysgol fel rhan o'r cylch blynyddol o fusnes gyda'r cynnydd yn cael ei adrodd drwy bwyllgorau'r Ysgol a'r Coleg. Mae monitro risgiau yn galluogi cymryd gweithredu'n brydlon os oes ganddo'r potensial i effeithio ar safonau academaidd ac ansawdd profiad y myfyriwr. Mewn achosion difrifol, gall achosi risg i enw da.

Cefnogi myfyrwyr ac ymgysylltu â nhw

Pan fydd myfyriwr yn astudio i ffwrdd o Gaerdydd, mae'n parhau yn un o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac yn ddarostyngedig o hyd i reoliadau, polisïau, a gweithdrefnau Prifysgol Caerdydd yn unol â'r Rheoliadau Astudio ac Ymgysylltu â Myfyrwyr.

Mae'r ysgol yn gyfrifol am ddarparu trefniadau cymorth i fyfyrwyr gan gynnwys cymorth bugeiliol effeithiol. Bydd myfyrwyr yn cael mynediad i'r rhan fwyaf o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr sy'n cael eu cynnig gan y Brifysgol o hyd; a disgwylir y dylai tiwtoriaid personol (neu rywun arall a enwebwyd gan yr ysgol) egluro’r dull cyfathrebu a'r amserlen gyfathrebu â myfyrwyr cyn iddynt adael Caerdydd.

Cwynion ac Apeliadau

Pan fo myfyriwr i gael ei gofrestru neu'n astudio mewn sefydliad arall, disgwylir, os oes ganddo gŵyn neu bryder, y bydd yn trafod gyda'r partner yn uniongyrchol yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, fel un o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, gallant ddilyn Gweithdrefn Gwynion Myfyrwyr a Pholisi a Gweithdrefn Apeliadau Academaidd y Brifysgol gan mai Prifysgol Caerdydd yw'r Sefydliad Dyfarnu.

Partneriaethau Addysg a Addysgir yn arwain at Ddyfarniad Prifysgol Caerdydd

Diffiniad:

“Unrhyw ddarpariaeth sy'n arwain at ddyfarniad Prifysgol Caerdydd, neu ddyfarniad credyd sefydliadol sy'n cael ei ddarparu, ei asesu neu ei gefnogi mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd ac un neu ragor o sefydliadau."

Ystyrir bod partneriaethau addysg a addysgir sy'n arwain at ddyfarniad Prifysgol Caerdydd yn risg uwch ar dacsonomeg partneriaethau addysg; felly, mae angen lefelau craffu ychwanegol ar gyfer goruchwyliaeth sefydliadol gan Is-bwyllgor y Bartneriaeth Addysg ac wedi hynny ASQC a'r Senedd.

Diwydrwydd Dyladwy

Er bod y Brifysgol yn cydnabod sawl model o bartneriaethau addysg a addysgir sy'n cael eu disgrifio yn Nhacsonomeg Partneriaethau Addysg, disgwylir y bydd unrhyw bartneriaeth addysg a addysgir sy'n arwain at ddyfarniad Prifysgol Caerdydd yn ymgymryd â gweithgaredd diwydrwydd dyladwy priodol. Bydd gofyn i ysgolion gwblhau diwydrwydd dyladwy, a bydd hyn yn cael ei adolygu gan Is-bwyllgor y Bartneriaeth Addysg.

Y partner

Mae ymgymryd a diwydrwydd dyladwy y partner yn sicrhau y cynhelir gwiriadau priodol a'r wybodaeth a werthuswyd cyn y gall Prifysgol Caerdydd ymrwymo i gytundeb cyfreithiol rwymol yn hyderus.

Gallu'r partner i gyflawni’r rhaglen (neu ran o'r rhaglen)

Mae angen diwydrwydd dyladwy o allu'r partner i gyflwyno'r rhaglen (neu ran o raglen) er mwyn sicrhau ansawdd a safonau academaidd a phrofiad y myfyriwr cyn symud i gontract. Mae’n rhaid bod strwythurau rheoli rhaglenni clir a datganiad cyfrifoldeb cytunedig yn dibynnu ar y math o bartneriaeth addysg.

Ymweliad safle

Bydd angen ymweliad safle fel rhan o'r broses diwydrwydd dyladwy i asesu a oes gan y partner gyfleusterau priodol, gwasanaethau i gefnogi'r myfyriwr, a gallant ddarparu profiad dysgu o ansawdd uchel. Gall yr ymweliad hefyd gynnig cyfleoedd i arsylwi addysgu yn y partner a siarad â myfyrwyr yn dibynnu ar natur y bartneriaeth arfaethedig.

Egwyddor 1: Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio a'i chyflwyno yn unol â rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau Prifysgol Caerdydd ac mae'n bodloni gofynion sylfaenol y Disgwyliadau Sefydliadol.

Llywodraethir y broses o ddatblygu a chymeradwyo unrhyw raglen sy’n cynnwys partneriaeth addysg gan weithdrefn cymeradwyo rhaglenni y Brifysgol. Mae cyfres o ddisgwyliadau sefydliadol o ran strwythur, dyluniad a darpariaeth rhaglenni wedi’i datblygu, sy'n amlinellu'r gofynion sylfaenol allweddol a ddylai fod yn rhan o holl raglenni Caerdydd.

Yn dibynnu ar gymhlethdod y cynnig, disgwylir y bydd staff o bob partner yn aelodau o'ch tîm datblygu er mwyn sicrhau eich bod yn ffactora eu harbenigedd i mewn. Y ffocws bob amser yw datblygu rhaglen gydlynol hyd yn oed os yw myfyrwyr yn astudio mewn sefydliadau partner gwahanol.

Cyn dechrau ar unrhyw waith datblygu ar raglen bartneriaeth addysg a addysgir (neu ran o raglen) sy'n arwain at Ddyfarniad Prifysgol Caerdydd, mae’n rhaid i chi drafod y cynnig gyda'r tîm Partneriaethau Rhyngwladol cyn dechrau trafodaethau gyda'r partner.

Egwyddor 2: Os mai Prifysgol Caerdydd yw'r Sefydliad Dyfarnu, mae ganddi’r cyfrifoldeb dros 'berchen' a 'rheoli' y rhaglen.

Os mai Prifysgol Caerdydd yw'r sefydliad dyfarnu, ein cyfrifoldeb ni bob amser yw sicrhau bod y partner yn deall, yn gweithredu, ac yn cadw at ein rheoliadau, ein polisïau a'n gweithdrefnau. Hyd yn oed os nad yw staff Prifysgol Caerdydd yn cyflawni'r rhaglen gyfan, ein cyfrifoldeb o hyd yw safonau academaidd a phrofiad myfyrwyr. Os bydd unrhyw beth yn mynd o'i le, mae gan fyfyrwyr yr hawl i gwyno atom fel y sefydliad dyfarnu.

Pan fydd rhaglen Prifysgol Caerdydd (neu ran o raglen) yn cael ei chyflwyno gan bartner, mae’n rhaid cael strwythurau rheoli rhaglenni clir ar gyfer sicrhau ansawdd a safonau academaidd a phrofiad y myfyrwyr. Bydd datblygu neu ddiweddaru datganiad o gyfrifoldeb yn cefnogi gweithrediad llyfn y bartneriaeth a all fod yn rhan o'ch strategaeth rheoli risg.

Dull addysgu

Pan fydd rhaglen Prifysgol Caerdydd (neu ran o raglen) yn cael ei chyflwyno gan bartner, mae ysgolion yn gyfrifol am sicrhau bod pob aelod o staff partner yn gymwys i ymgymryd â'u rôl cyn iddynt ddechrau addysgu[1] (Rheoliadau Asesu'r Senedd). 

Mae’n rhaid i'r Pennaeth Ysgol sicrhau bod gan holl staff y partner addysg sy'n ymwneud â chyflwyno a gweinyddu'r rhaglen, hyfforddiant priodol a chyfleoedd i gymryd rhan yn holl weithgareddau datblygu staff Prifysgol Caerdydd. Mae'n bwysig bod pob aelod o staff partner yn deall rheoliadau, polisïau a phrosesau Prifysgol Caerdydd a sut maent yn berthnasol i'r rhaglen.

Mae’n rhaid i staff partner fod yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau drwy'r datganiad o gyfrifoldebau a dylent gael eu mentora drwy gydol y broses. Mae'n bwysig bod yr holl staff partner yn ymwybodol o'r gofynion sylfaenol, ac mae'r gofynion ar gyfer pob gweithgaredd cefnogi myfyrwyr ac ymgysylltu â nhw yn cael eu nodi yn y Weithdrefn Bartneriaeth Addysg.

1 Nid oes angen cymeradwyo darlithwyr gwadd neu staff sy'n ymwneud â thiwtorialau a chyflwyniadau seminarau os ydynt dan oruchwyliaeth aelod o staff academaidd o Brifysgol Caerdydd.

Egwyddor 3: Mae fframwaith clir ar gyfer monitro, adolygu a rheoli risg

Rheoli rhaglenni a phartneriaethau

Mae’n rhaid integreiddio rheoli partneriaethi'r holl drafodaethau addysg o fewn yr Ysgol fel rhan o'r cylch busnes blynyddol. I wneud hyn, mae’n rhaid i'r strwythurau rheoli rhaglenni canlynol fod ar waith:

  • Bwrdd Rheoli Partneriaeth gyda chylch gorchwyl sy’n seiliedig ar y contract cyfreithiol rwymol a'r datganiad o gyfrifoldebau
  • Datganiad o gyfrifoldebau a ddatblygwyd ar y cyd gan yr ysgol, y partner, a'r Tîm Partneriaeth Addysg
  • Dylid sefydlu bwrdd arholi ar wahân ar gyfer goruchwylio darpariaeth partneriaeth addysg, dan gadeiryddiaeth y Deon Addysg perthnasol
  • Adrodd i ESEC yr Ysgol a'r Coleg yn unol â'r cylch blynyddol
  • Dulliau i ddal adborth myfyrwyr yn y partner i'w trafod yn y Bwrdd Rheoli Partneriaeth
  • Sefydlu Tiwtor Cyswllt a Safonwr Allanol

Caiff adroddiadau cymedrolwyr ac ymatebion ysgolion eu hadolygu gan Is-bwyllgor y Bartneriaeth Addysg a fydd yn dadansoddi'r cynnwys ac yn rhoi diweddariad i ASQC. Manylir ar y dadansoddiad yn yr Adroddiad Ansawdd Blynyddol a gyflwynir i ASQC, y Senedd a'r Cyngor bob blwyddyn gan ddarparu dadansoddiad o'r risg sy'n gysylltiedig â'r bartneriaeth gan gynnwys sut mae'n cael ei rheoli'n fewnol gan yr ysgol.

Cefnogi myfyrwyr ac ymgysylltu â nhw

Gall trefniadau ar gyfer cefnogi myfyrwyr ac ymgysylltu â nhw yn y partner fod ychydig yn wahanol i rai Prifysgol Caerdydd. Pan nodir hyn fel rhan o'r broses diwydrwydd dyladwy, mae’n rhaid i'r ysgol fonitro'r trefniadau i sicrhau eu bod yn darparu profiad dysgu cymharol i fyfyrwyr (nid yr un peth) i raglen a astudiwyd ym Mhrifysgol Caerdydd. Pan nodir problemau, dylai'r Ysgol roi gwybod i'r tîm Ansawdd a Safonau er mwyn sicrhau y gellir dod o hyd i ddatrysiad cyflym.

Yn ogystal â'r cymorth a ddarperir gan y partner, mae'r ysgol yn gyfrifol o hyd am ddarparu trefniadau cymorth i fyfyrwyr gan gynnwys cymorth bugeiliol effeithiol. Bydd myfyrwyr yn cael mynediad i'r rhan fwyaf o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr sy'n cael eu cynnig gan y Brifysgol o hyd; a disgwylir y dylai tiwtoriaid personol (neu rywun arall a enwebwyd gan yr ysgol) egluro’r dull cyfathrebu a'r amserlen gyfathrebu â myfyrwyr cyn iddynt adael Caerdydd.

Pan fydd myfyriwr yn astudio i ffwrdd o Gaerdydd, mae'n dal i fod yn fyfyriwr Prifysgol Caerdydd ac yn dal i fod yn ddarostyngedig i reoliadau, polisïau, a

Gweithdrefnau’r Brifysgol sy'n unol â'r Rheoliadau Astudio ac Ymgysylltu â Myfyrwyr.

Adolygu, adnewyddu neu adael partneriaeth addysg a addysgir gan arwain at Wobr Prifysgol Caerdydd

Ystyrir bod partneriaethau addysg a addysgir yn peri risg uchel ar dacsonomeg partneriaethau addysg; felly, bydd y lefelau craffu sy'n ofynnol ar gyfer goruchwyliaeth sefydliadol gan yr Is-bwyllgor Partneriaeth Addysg ac wedi hynny gan ASQC a'r Senedd yn seiliedig ar y canlynol:

  • Gwybodaeth gyd-destunol ehangach yn ymwneud â'r bartneriaeth, megis unrhyw ddiweddariadau i strategaeth, rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau’r brifysgol
  • Diweddaru diwydrwydd dyladwy y partner, ymweliad safle a gallu'r partner i gyflwyno'r rhaglen
  • Data recriwtio a chofrestru
  • Data perfformiad myfyrwyr
  • Nifer yr ymatebion i’r arolwg

Materion a nodwyd gan y Cymedrolwr neu gan y Tiwtor Cyswllt

Adnewyddu eitemau

Lle gwnaethpwyd y penderfyniad i adnewyddu'r bartneriaeth addysg a addysgir, mae’n rhaid i'r ysgol gwblhau pob cam o'r broses cymeradwyo rhaglen yn ogystal â’r gofynion Polisi hyn. Lle bo'n ymarferol, dylai'r adolygiad gael ei alinio â gweithgaredd ail-ddilysu ysgol.

Ymweld â'r Partner

Disgwylir i'r ysgol ymweld â'r partner bob 2 flynedd, gydag amlder yr ymweliadau yn cael eu hadolygu wrth i'r bartneriaeth aeddfedu. Ar gyfer partneriaethau sy'n seiliedig yn y DU, bydd y Tîm Partneriaeth Addysg yn bresennol ac yn llunio adroddiad o'u hymweliad ac yn rhannu hyn gyda'r Is-bwyllgor Partneriaeth Addysg ac AQSC fel rhan o'r broses rheoli risg.

Gadael y trefniant partneriaeth

Bydd y manylion yn y contract gyda'r partner yn amlinellu sut i ddod â’r trefniant i ben ac ym mha amserlenni. Mae’n rhaid i'r amserlenni gael eu cynnwys yn yr adolygiad o'r trefniant er mwyn sicrhau bod modd bodloni'r holl ofynion cytundebol.

Bydd y 'Teach Out Plan' yn cael ei ystyried a'i gymeradwyo gan Is-bwyllgor y Bartneriaeth Addysg. Bydd yr Is-bwyllgor hefyd yn adolygu'r Cynllun yn rheolaidd nes bod y myfyriwr olaf wedi cwblhau a gadael y rhaglen.

Astudio Dramor

Diffiniad:

“Blwyddyn ychwanegol o astudio sy’n dwyn credyd mewn sefydliad addysg uwch arall, y tu allan i'r DU, lle mae'r astudio’n rhan annatod o raglen Prifysgol Caerdydd (120 credyd ychwanegol).”

Mae partneriaethau astudio dramor yn rhan allweddol o is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr y Brifysgol. Mae'r ffrwd waith 'cynllunio ar gyfer dyfodol llwyddiannus i fyfyrwyr' yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu dinasyddion sy'n ymwybodol o ddiwylliant yn fyd-eang ac mae ein trefniadau partneriaeth astudio dramor yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni'r uchelgais hwn.

Er bod y Brifysgol yn cydnabod bod sawl model o drefniadau astudio dramor yn y sector, mae Tacsonomeg Partneriaethau Addysg yn amlinellu bod rhaid cyflwyno a rheoli unrhyw drefniant astudio sy'n dwyn credyd dramor sy'n arwain at ddyfarniad Prifysgol Caerdydd yn unol â'r egwyddorion a amlinellir isod:

Egwyddor 1: Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio a'i chyflwyno yn unol â rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau Prifysgol Caerdydd ac mae'n bodloni gofynion sylfaenol y Disgwyliadau Sefydliadol

Mae datblygu a chymeradwyo unrhyw raglen gyda Blwyddyn o Astudio Dramor yn cael ei lywodraethu gan weithdrefn cymeradwyo rhaglenni a disgwyliadau sefydliadol y Brifysgol. Wrth ddatblygu rhaglenni astudio dramor, mae gan Brifysgol Caerdydd gonfensiynau enwi penodol, a gymeradwywyd gan ASQC, ar gyfer rhaglenni sydd â 120 o gredydau ychwanegol ar gyfer astudio dramor. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  • ‘Enw rhaglen graidd' ynghyd â'r ôl-ddodiad 'gyda Blwyddyn o Astudio Dramor' (with a Year of Study Abroad)

Strwythur y rhaglen a chyfwerth y credydau

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr astudio credyd gyda’r partner astudio dramor sy'n cyfateb i 120 o gredydau Prifysgol Caerdydd a disgwylir iddo, lle bo hynny'n bosibl, gael ei rannu'n gyfartal rhwng pob semester, ac ar y lefel FHEQ briodol.

Bydd modiwl Blwyddyn Astudio Dramor safonol 120 credyd yn cael ei gofnodi fel naill ai'n llwyddo neu'n methu ac ni fydd yn cyfrannu at gyfrifiad dosbarthiad gradd terfynol.

Methu ennill credyd gyda phartner astudio dramor

Mae trothwy goddefgarwch ar gael i fyfyrwyr yn unol â rheolau cydsynio a ganiateir o dan Reoliadau Academaidd Caerdydd. Mae’n rhaid i fyfyriwr basio'r hyn sy'n cyfateb i 100 o leiaf o gredydau Prifysgol Caerdydd (allan o'r 120 credyd) gyda’r partner astudio dramor i fod yn gymwys i basio'r flwyddyn astudio dramor ac i symud ymlaen i flwyddyn nesaf ei raglen.

Os nad yw myfyriwr yn cyflawni'r hyn sy'n cyfateb i 100 o gredydau Prifysgol Caerdydd, ac nad oes cyfle i ailasesu gyda’r partner, gall aros yn y sefydliad partner tan ddiwedd y flwyddyn astudio dramor a throsglwyddo i'r amrywiad tair blynedd safonol o'r rhaglen ar ôl dychwelyd i astudio yng Nghaerdydd.

Ni chaniateir i fyfyrwyr ymgymryd ag ailsefyll a ddarperir gan staff academaidd Prifysgol Caerdydd pan fyddant yn dychwelyd gan na fyddai'r Brifysgol yn gwbl ymwybodol o'r cwricwlwm, y dulliau asesu, y deilliannau dysgu gyda’r partner astudio dramor; ac asesu'r profiad y mae myfyriwr wedi'i gael wrth astudio dramor.

Lle mae'r flwyddyn astudio dramor yn rhan annatod o gwrdd â deilliannau dysgu lefel y rhaglen (ieithoedd).

Pan fo Blwyddyn Astudio Dramor yn rhan annatod o gyflawni deilliannau dysgu'r rhaglen e.e., mewn rhaglenni sy'n gysylltiedig ag iaith, mae’n rhaid i fyfyrwyr:

  • Astudio’r hyn sy'n cyfateb i 80 o gredydau Prifysgol Caerdydd gyda’r partner astudio dramor dros y flwyddyn academaidd lawn
  • Pasio'r hyn sy'n cyfateb i o leiaf 60 o gredydau Prifysgol Caerdydd allan o'r 80 gyda’r partner astudio dramor erbyn diwedd y flwyddyn academaidd
  • Cwblhau holl asesiadau Prifysgol Caerdydd yn llwyddiannus yn ychwanegol at y gofynion a nodir gan y partner astudio dramor
Cyfraniad i'r dosbarthiad gradd

Ni fydd Blwyddyn Astudio Dramor safonol yn cyfrannu at y cyfrifiad dosbarthiad gradd terfynol. Bydd y modiwl Blwyddyn Astudio Dramor 120 credyd yn cael ei gofnodi fel naill ai'n pasio neu'n methu. Cofnodir canlyniad pasio os yw myfyriwr wedi pasio'r hyn sy'n cyfateb i o leiaf 100 allan o 120 o gredydau Prifysgol Caerdydd gyda’r partner astudio dramor.

Pan fo Blwyddyn Astudio Dramor yn rhan annatod o gyflawni deilliannau dysgu'r rhaglen e.e., mewn rhaglenni sy'n gysylltiedig ag iaith, bydd yr ysgol yn gosod asesiad atodol Prifysgol Caerdydd yn ychwanegol at y gofynion a nodir gan y partner astudio dramor. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo'r pwysoli o 10% tuag at ddosbarthiad gradd derfynol y myfyriwr.

Lle nad yw myfyriwr yn llwyddo i basio pob credyd a gynhelir gyda’r partner astudio dramor, mae’n rhaid i'r ysgol sicrhau bod myfyrwyr yn deall y canlyniadau a sut y bydd hyn yn effeithio ar eu hastudiaethau. Mae manylion am sut mae hyn yn cael ei reoli yn cael eu cynnwys o fewn y Gweithdrefn Partneriaethau Addysg.

Egwyddor 2: Os mai Prifysgol Caerdydd yw'r Sefydliad Dyfarnu, mae ganddi’r cyfrifoldeb dros 'berchen' a 'rheoli' y rhaglen.

Diwydrwydd Dyladwy

Adnabod partneriaid astudio dramor

Disgwylir, cyn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda darpar bartneriaid astudio dramor, y bydd yr ysgol yn gweithio gyda'r tîm Cyfleoedd Byd-eang i asesu pob trefniant partneriaeth ar gyfer ei addasrwydd a phriodoldeb y cwricwlwm sy'n cael ei astudio.

Mae'n bwysig i'r ysgol, mewn cydweithrediad â'r partner astudio dramor, ddatblygu system briodol o reoli risg barhaus ar gyfer pob gweithgaredd astudio dramor lle caiff y risgiau eu nodi, eu hasesu, eu rheoli a'u monitro'n barhaus (gweler y Weithdrefn Bartneriaeth Addysg).

Ymweld â'r partner

Mae ymweld â’r partner astudio dramor yn rhan allweddol o feithrin perthnasoedd cadarnhaol ac yn caniatáu i’r Brifysgol sicrhau bod gan y partner astudio dramor staff, cyfleusterau a gwasanaethau priodol i gefnogi’r myfyriwr yn ystod ei amser yno a’i fod yn gallu darparu profiad dysgu o ansawdd uchel.

Cydnabyddir efallai na fydd hyn bob amser yn ymarferol oherwydd ystyriaethau ariannol ac amgylcheddol ac mewn achosion o'r fath, cymerir dull sy'n seiliedig ar risg i ddefnyddio mathau amgen o ddiwydrwydd dyladwy i ddarparu'r un sicrwydd. Am ragor o wybodaeth am ail-ymweliadau a'r mathau eraill o sicrwydd, gweler y Weithdrefn Bartneriaeth Addysg.

Hyrwyddo eich rhaglenni Astudio Dramor

Wrth ddatblygu unrhyw raglen 'gyda Blwyddyn Astudio Dramor' neu 'gyda Blwyddyn Lleoliad Dramor' mae'n bwysig i bob Ysgol gadarnhau bod digon o adnoddau ar waith i gefnogi'r ddarpariaeth. Bydd angen i ysgolion nodi i'r Tîm Cyfleoedd Byd-eang ac i Dîm Cyfathrebu a Marchnata'r Coleg os hoffent hysbysebu eu rhaglen drwy UCAS a CourseFinder.

Bydd angen rheoli'n ofalus nifer y lleoedd astudio dramor sydd ar gael a sut y cânt eu dyrannu er mwyn sicrhau y gellir cyflawni'r rhwymedigaethau cytundebol pan fydd myfyrwyr yn gwneud cais am raglen 'gyda Blwyddyn Astudio Dramor'.

Mae ysgolion sy'n dewis peidio â hysbysebu eu rhaglenni Blwyddyn Astudio Dramor ac mae’n well ganddynt yr opsiwn i drosglwyddo myfyrwyr yn fewnol (i reoli niferoedd neu fannau sydd ar gael) yn gallu nodi y gallai fod cyfleoedd i fyfyriwr astudio dramor wrth hysbysebu'r rhaglenni safonol ar UCAS a CourseFinder ac yn ystod digwyddiadau recriwtio.
Efallai y bydd angen i ysgolion gynnwys gofynion academaidd ychwanegol os bydd rhagofynion penodol neu ofynion PSRB. Mae’n rhaid i fyfyrwyr fod yn ymwybodol o'r holl ofynion mynediad wrth wneud cais i ymgymryd â blwyddyn o astudio dramor i sicrhau bod penderfyniadau clir a thryloyw yn cael eu gwneud.

Astudiaethau tramor sy'n dod i mewn a myfyrwyr cyfnewid rhyngwladol

Mae cyfleoedd astudio dramor yn dibynnu ar drefniadau cyfatebol gyda phartneriaid eraill ac o'r herwydd, mae gennym gyfrifoldeb dros gyflwyno darpariaeth addysg ar gyfer myfyrwyr cyfnewid sy'n dod i mewn. Disgwylir i ysgolion sicrhau bod gwybodaeth am y modiwlau sydd ar gael yn gywir ac yn gyfredol, gydag ystod briodol o fodiwlau yn cael eu cynnig i fyfyrwyr sy'n dod i mewn.

Yn unol â'r broses wybodaeth am raglenni cadarnhau safonol, mae'n ofynnol i Ysgolion adolygu eu gwybodaeth am raglen a modiwlau astudio dramor sy'n dod i mewn yn flynyddol a chadarnhau pa fodiwlau fydd ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod i'r un amserlen ac erbyn y dyddiad cau ar gyfer cadarnhau gwybodaeth am raglen.

Egwyddor 3: Mae fframwaith clir ar gyfer monitro, adolygu a rheoli risg.

Rheoli rhaglenni

Mae’n rhaid integreiddio proses rheoli rhaglen i mewn i’r holl drafodaethau addysg o fewn yr ysgol fel rhan o'r cylch busnes blynyddol. I wneud hyn, mae’n rhaid i'r strwythurau rheoli rhaglenni canlynol fod ar waith:

  • Penodi Cydlynydd Astudio DramoR
  • Dylid sefydlu bwrdd cyn-arholi ar gyfer astudiaeth dramor yn yr Ysgol ar gyfer goruchwylio’r ddarpariaeth astudio dramor ar gyfer myfyrwyr sy’n dychwelyd, gydag unrhyw faterion a nodir gan y bwrdd cyn-arholi yn cael eu cyfleu i fwrdd arholi perthnasol yr ysgol ac yn cael eu manylu ar eu Fframwaith Bwrdd Arholi
  • Sicrhau bod trefniadau astudio dramor yn eitem sefydlog ar agenda Byrddau Astudio
  • Sicrhau bod yna fecanweithiau priodol ar gyfer ymgysylltu â myfyrwyr pan fyddant yn astudio i ffwrdd o Gaerdydd fel y gall y Bwrdd Astudio drafod hyn yn unol ag adborth gan fyfyrwyr eraill
  • Mae’n rhaid i adborth gael ei adrodd yn rheolaidd i ESEC Ysgolion a Cholegau yn unol â'r cylch blynyddol

Cytundebau Dysgu

Mae ar yr ysgol gyfrifoldeb i fonitro ac adolygu Cytundebau Dysgu pob myfyriwr unigol yn rheolaidd i sicrhau ei bod yn hyderus bod myfyrwyr yn parhau i astudio'r nifer ofynnol o gredydau ar y lefel briodol i gyflawni Dyfarniad Prifysgol Caerdydd. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr ddychwelyd copi cyflawn wedi'i lofnodi o'u Cytundeb Dysgu myfyriwr heb fod yn hwyrach na 4 wythnos ar ôl ymrestru gyda’r partner astudio dramor.

Mae'r cytundeb dysgu yn gweithredu fel cadarnhad o'r hyn y bydd myfyrwyr yn ei astudio ac yn eu galluogi i gael mynediad at ffynonellau cyllid (yn dibynnu ar gymhwysedd) megis cyllid Taith a Turing. Bydd methu â dychwelyd Cytundeb Dysgu wedi'i gwblhau a'i lofnodi yn golygu na fydd cyllid yn cael ei ryddhau i’r myfyriwr.

Cydnabyddir bod achlysuron lle gall myfyriwr brofi anawsterau wrth ddychwelyd cytundeb dysgu yn unol â'r amserlenni a bennwyd ymlaen llaw. Caiff y rhain eu trin fesul achos, fel y manylir arnynt yn y Weithdrefn Bartneriaeth Addysg.

Peidio ag ymgysylltu

Pan fo'r Cydlynydd Astudio Dramor neu'r Pennaeth ysgol wedi dechrau'r Weithdrefn Peidio ag Ymgysylltu Myfyrwyr, gallai unrhyw gamau ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr ddychwelyd i Gaerdydd neu drosglwyddo ymlaen i'r rhaglen safonol 3 blynedd ar ddiwedd ei flwyddyn astudio dramor.

Cymorth i fyfyrwyr (cyn ac ar ôl ymadael)

Gall trefniadau ar gyfer cefnogi myfyrwyr ac ymgysylltu â nhw yn y partner fod ychydig yn wahanol i rai Prifysgol Caerdydd. Pan nodir hyn mae’n rhaid i'r ysgol fonitro'r trefniadau er mwyn sicrhau eu bod yn darparu profiad dysgu cymharol i fyfyrwyr (nid yr un peth) i raglen a astudiwyd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae'r ysgol yn gyfrifol am ddarparu trefniadau cymorth i fyfyrwyr sydd ar flwyddyn o astudio dramor gan gynnwys cymorth bugeiliol effeithiol. Bydd myfyrwyr yn parhau i allu cael mynediad i'r rhan fwyaf o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr sy'n cael eu cynnig gan y Brifysgol.

Trwy gyswllt tiwtor personol rheolaidd â'r myfyriwr, gellir adnabod risgiau yn gynnar, e.e. os yw myfyriwr wedi methu gormod o gredydau, a gellir ei unioni, e.e. mae'r partner astudio dramor yn cynnig cyfleoedd i ailsefyll, neu gall y myfyriwr ddychwelyd i'w raglen gyda Phrifysgol Caerdydd. Felly, disgwylir i diwtoriaid personol gysylltu â'r myfyriwr sy'n astudio dramor heb fod yn llai na dwywaith y semester.

Mae'n ofynnol i ysgolion gadw cofnodion cryno o bob cyfarfod, i gynnwys crynodeb o'r drafodaeth ac unrhyw gamau gweithredu neu atgyfeiriadau y cytunwyd arnynt. Dylai cofnodion gael eu cadw ar System Rheoli Gwybodaeth Myfyrwyr y Brifysgol (SIMS).

Er mwyn cefnogi trefniadau gofal bugeiliol ymhellach, a chyda chaniatâd y myfyriwr ac mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth diogelu data perthnasol, gall yr ysgol rannu gwybodaeth gyda'r sefydliad partner lle y caniatawyd unrhyw addasiadau rhesymol i fyfyriwr.

Ymgysylltu â myfyrwyr

Tra bod myfyriwr gyda darparwr astudio dramor, mae'n parhau i fod yn un o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Felly, mae’n rhaid iddo gofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd gan fod y datganiad cofrestru yn weithredol o hyd, a bydd yn dal i fod yn ddarostyngedig i reoliadau, polisïau a gweithdrefnau Prifysgol Caerdydd yn unol â'r Rheoliadau Astudiaethau ac Ymgysylltiad Myfyrwyr a'u polisïau cysylltiedig. Mae’n rhaid i ysgolion barhau i fonitro ymgysylltiad academaidd y myfyriwr tra eu bod ar eu Blwyddyn Astudio Dramor er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fodloni gofynion llawn Rheoliadau Astudio ac Ymgysylltu Myfyrwyr.

Llais y Myfyrwyr

Mae’n rhaid i ysgolion sicrhau bod ffordd glir, effeithiol a chyfrinachol i fyfyrwyr ddarparu adborth tra byddant ar leoliad ac wrth ddychwelyd o'u lleoliad. Mae ar bob Ysgol a'r Tîm Cyfleoedd Byd-eang gyd-gyfrifoldeb dros ddatblygu a gweinyddu arolygon yn unol ag egwyddorion y Fframwaith Rheoli Arolwg. Mae’n rhaid i Fyrddau Astudiaethau perthnasol ystyried yr holl adborth yn unol â'r cylch gweithgaredd blynyddol a'i adrodd drwy'r broses ARE ochr yn ochr ag adborth arall o'r arolwg.

Adolygu, adnewyddu neu adael trefniadau astudio dramor

Amlinellir y risgiau a'r lliniariadau ar gyfer partneriaethau Astudio Dramor ar Tacsonomeg Partneriaethau Addysg. Wrth adolygu neu adnewyddu bydd Is-bwyllgor y Bartneriaeth Addysg yn ystyried y canlynol:

  • Gwybodaeth gyd-destunol ehangach yn ymwneud â strategaeth, rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau prifysgol
  • Gallu'r ysgol i ddarparu digon o adnoddau i gefnogi'r gweithgaredd
  • Diweddarwyd diwydrwydd dyladwy y partner, ymweliadau safle a gallu'r partner i gefnogi'r trefniant
  • Data ynghylch symudedd i mewn ac allan
  • Data perfformiad myfyrwyr
  • Nifer yr ymatebion i’r arolwg

Trefniadau gadael astudio dramor

Pan wnaethpwyd y penderfyniad i adael y bartneriaeth astudio dramor, bydd y Tîm Cyfleoedd Byd-eang yn rhoi rhybudd ysgrifenedig i'r partner astudio dramor heb fod yn hwyrach na chwe mis cyn i'r contract astudio dramor ddod i ben. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni gyda Blwyddyn Lleoliad Dramor

Lleoliadau a Dysgu Seiliedig ar Waith

Diffiniad:

"...dysgu drwy waith, dysgu ar gyfer gwaith a/neu ddysgu yn y gwaith. Mae'n cynnwys cyfleoedd strwythuredig dilys ar gyfer dysgu sy'n cael eu cyflawni mewn lleoliad yn y gweithle neu sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu angen a nodwyd yn y gweithle.”

Bydd myfyrwyr Caerdydd yn wydn, yn feirniadol, ac yn datrys problemau. Byddan nhw’n rhoi newid ar waith ac yn gwybod sut i gydweithio mewn byd sy’n ansicr a rhyngddisgyblaethol, sy’n cwmpasu sawl sector, ac sydd wedi'i ddigideiddio. Mae lleoliadau, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd dilys eraill gyda chyflogwyr a'r gymuned ehangach yn rhan annatod o'n cwricwlwm.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae Prifysgol Caerdydd yn ymrwymedig i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl arferion a’n gweithgareddau. Amlinellir yr egwyddorion hyn yn y Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, sydd ei hun yn sail i ddeddfwriaeth y DU.

Caiff myfyrwyr eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu gan ddarparwyr lleoliadau yn y DU gan ddarpariaethau’r Ddeddf Cydraddoldeb, p'un a ydynt mewn swyddi cyflogedig neu mewn swyddi di-dâl. Mae hyn hefyd yn cynnwys rhwymedigaeth benodol ar y Brifysgol, a lle y bo'n briodol, ei phartneriaid, i ddarparu addasiadau rhesymol ar gyfer myfyrwyr sydd â nodweddion gwarchodedig.

Gall natur yr addasiadau hyn amrywio yn dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael. Gall Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia’r Brifysgol gynorthwyo drwy sicrhau bod ymwybyddiaeth glir o'r rhwymedigaethau cyfreithiol a chynnig arweiniad a chefnogaeth mewn perthynas ag arfer da. Dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 y nodweddion gwarchodedig yw'r seiliau lle mae gwahaniaethu yn anghyfreithlon. Y nodweddion gwarchodedig o dan y Ddeddf yw:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred (gan gynnwys diffyg cred)
  • rhyw a chyfeiriadedd rhywiol

Er bod y Brifysgol yn cydnabod bod sawl model o drefniadau lleoliad/dysgu seiliedig ar waith yn y sector, mae Tacsonomeg Partneriaethau Addysg yn amlinellu bod rhaid cyflwyno a rheoli unrhyw drefniant lleoliad sy'n cynnwys credyd/dysgu seiliedig ar waith sy'n arwain at ddyfarniad Prifysgol Caerdydd yn unol â'r egwyddorion a amlinellir isod.

Egwyddor 1: Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio a'i chyflwyno yn unol â rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau Prifysgol Caerdydd ac mae'n bodloni gofynion sylfaenol y Disgwyliadau Sefydliadol.

Gweithiwr Proffesiynol

Mae’r gwaith o ddatblygu a chymeradwyo unrhyw raglen sydd â blwyddyn o leoliad/dysgu seiliedig ar waith yn cael ei lywodraethu gan weithdrefn cymeradwyo rhaglenni a disgwyliadau sefydliadol y Brifysgol. Wrth ddatblygu rhaglenni dysgu ar leoliad, mae gan Brifysgol Caerdydd gonfensiynau enwi penodol, a gymeradwywyd gan ASQC. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  • 'Enw'r rhaglen graidd' ynghyd â'r ôl-ddodiad 'gyda Blwyddyn o Leoliad Gwaith Proffesiynol ('with a Professional Placement Year')
  • 'Enw'r rhaglen graidd' ynghyd â'r ôl-ddodiad 'gyda Blwyddyn mewn Diwydiant' ('with a Year in Industry')
  • 'Enw'r rhaglen graidd' ynghyd â'r ôl-ddodiad 'gyda Blwyddyn o Leoliad Gwaith Dramor' ('with a Placement Year Abroad')

Wrth ddatblygu rhaglenni gyda lleoliad neu weithgareddau dysgu seiliedig ar waith, derbynnir 'credyd ychwanegol' a 'chredyd amnewid' fel modelau priodol.

Credyd ychwanegol: Unrhyw raglen a gynlluniwyd gyda blwyddyn ychwanegol o 120 credyd a astudiwyd ar leoliad neu weithgareddau dysgu seiliedig ar waith sy’n cynnwys credyd ac sy'n arwain at deitl gwobr 'gyda Blwyddyn Lleoliad Proffesiynol', 'gyda Blwyddyn mewn Diwydiant', neu 'gyda Blwyddyn Lleoliad Dramor'.

Credyd amnewid: Mae'r model yn seiliedig ar fyfyriwr yn disodli credyd Prifysgol Caerdydd i ymgymryd â lleoliad neu weithgaredd dysgu seiliedig ar waith neu weithgaredd lleoli mewn modiwl, megis lleoliadau clinigol.

Pan fydd y lleoliad yn disodli semester o astudiaeth academaidd, bydd y myfyriwr yn gallu treulio’r semester cyfan gyda'r darparwr lleoliad. Pan fo'r lleoliad yn disodli un modiwl, gellir caniatáu absenoldeb i'r myfyriwr o'i astudiaethau, o heb fod yn fwy nag un diwrnod yr wythnos, i gwblhau ei weithgaredd lleoli, os oes angen.

Cyfraniad i'r dosbarthiad gradd

Credyd ychwanegol

Pan gymeradwywyd rhaglen gyda 120 credyd ychwanegol o ddysgu lleoliad/seiliedig ar waith bydd yn cyfrannu at 10% o ddosbarthiad gradd derfynol y myfyriwr.

Credyd amnewid

Bydd y dosbarthiad gradd ar gyfer credyd amnewid (lleoliadau am Semester cyfan, neu leoliad modiwl sengl) yn cael ei gyfrifo yn unol â'r set gyfrifo’r dyfarniad a gymeradwywyd ar gyfer y rhaglen. 
Mae’n rhaid i'r ysgol sicrhau bod asesiad priodol o Brifysgol Caerdydd yn cyd-fynd â gwerth credyd y modiwl lleoliad/dysgu seiliedig ar waith. Dylai'r asesiad gael ei gynllunio i adeiladu ar brofiad y myfyriwr a'i fod yn gynhwysol wrth gwblhau'r lleoliad ac fel arfer dylai gynnwys elfen o fyfyrio personol.

Egwyddor 2: Os mai Prifysgol Caerdydd yw'r Sefydliad Dyfarnu, mae ganddi’r cyfrifoldeb dros 'berchen' a 'rheoli' y rhaglen.

Prifysgol Caerdydd yw'r sefydliad dyfarnu felly ein cyfrifoldeb ni bob amser yw sicrhau bod pob gweithgaredd dysgu lleol/seiliedig ar waith yn gynhwysol ei natur. Er mwyn cefnogi cyfrifoldebau'r sefydliad i sicrhau cynwysoldeb mewn lleoliadau a chyflawni ei gyfrifoldeb dros oruchwylio'r ddarpariaeth yn effeithiol, dylai fod gan bob lleoliad gytundeb lleoliad priodol ar waith. Mae'r Weithdrefn Partneriaethau Addysg yn manylu ar sut y dylid drafftio, gweithredu'r cytundeb a'i adolygu.

Diwydrwydd Dyladwy

Nodi darparwyr lleoliadau addas

Disgwylir, cyn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda darparwyr lleoliadau posibl, y bydd yr ysgol, lle bo'n briodol, yn gofyn am gyngor ac arweiniad gan dîm Dyfodol Myfyrwyr i asesu'r gofynion ar gyfer pob lleoliad.

Mae'n ofynnol i ysgolion gwblhau asesiad risg priodol fel yr amlinellir yn y ddogfen Canllawiau ar Asesu Risgiau ar gyfer y Ddarpariaeth Lleoliadau. Pan fydd yr asesiad risg wedi'i gwblhau, disgwylir i Ysgolion rannu'r asesiad gyda darparwr y lleoliad a datblygu system briodol o reoli risg yn barhaus ar gyfer holl weithgareddau’r lleoliad lle mae'r risgiau'n cael eu nodi, eu hasesu, eu rheoli a'u monitro'n barhaus.

Ymweld â darparwr y lleoliad

Mae ymweld â phartner y lleoliad yn rhan allweddol o feithrin perthnasoedd cadarnhaol ac yn caniatáu i’r Brifysgol sicrhau y gall y myfyriwr gael profiad diogel a chynhwysol ar leoliad. Cydnabyddir efallai na fydd hyn bob amser yn ymarferol oherwydd ystyriaethau ariannol ac amgylcheddol ac mewn achosion o'r fath, cymerir dull sy'n seiliedig ar risg i ddefnyddio mathau amgen o ddiwydrwydd dyladwy i ddarparu'r un sicrwydd.

Dylai pob lleoliad (boed yn y DU neu'n rhyngwladol) fod yn sail i gytundeb teirochrog, sy'n nodi cyfrifoldebau'r Brifysgol, y myfyriwr, a'r darparwr lleoliad.

Hyrwyddo eich rhaglenni lleoli

Wrth ddatblygu unrhyw raglen sydd â 120 credyd ychwanegol o ddysgu lleol/seiliedig ar waith, mae'n bwysig i bob Ysgol gadarnhau bod digon o adnoddau ar waith i gefnogi'r ddarpariaeth. Bydd angen i ysgolion nodi i'w Tîm Cyfathrebu a Marchnata Coleg yr hoffent hysbysebu eu rhaglen drwy UCAS a CourseFinder.

Bydd angen rheoli'r nifer o leoliadau sydd ar gael a sut y cânt eu dyrannu yn ofalus er mwyn sicrhau y gellir cyflawni'r rhwymedigaethau cytundebol pan fydd myfyrwyr yn gwneud cais am raglen sydd â 120 credyd o leoliad.

Mae ysgolion sy'n dewis peidio â hysbysebu rhaglenni lleoli ac sy'n well ganddynt yr opsiwn i drosglwyddo myfyrwyr yn fewnol (i reoli niferoedd neu fannau sydd ar gael) yn gallu nodi y gallai fod cyfleoedd i fyfyriwr astudio ar raglen leoliadau wrth hysbysebu'r rhaglenni safonol ar UCAS a CourseFinder ac yn ystod digwyddiadau recriwtio.

Bydd gofyn i fyfyrwyr sy'n dangos diddordeb mewn gwneud cais i astudio ar raglen gyda blwyddyn leoliad wneud cais yn fewnol i'r ysgol ac efallai y bydd gofyn iddynt fodloni meini prawf cymhwysedd penodol fel arfer yn eu hail flwyddyn astudio. Manylir ar y meini prawf cymhwysedd cais safonol a fydd yn cael eu cymhwyso ar gyfer rhaglenni sy'n gweithredu'r dull derbyn hwn yn y Weithdrefn Partneriaethau Addysg.

Efallai y bydd angen i ysgolion gynnwys gofynion academaidd ychwanegol os bydd rhagofynion penodol neu ofynion PSRB. Mae’n rhaid i fyfyrwyr fod yn ymwybodol o'r holl ofynion mynediad wrth wneud cais i ymgymryd â rhaglen leoli er mwyn sicrhau gwneud penderfyniadau clir a thryloyw.

Egwyddor 3: Mae fframwaith clir ar gyfer monitro, adolygu a rheoli risg

Rheoli Rhaglenni

Mae’n rhaid integreiddio proses rheoli rhagleni mewn i’r holl drafodaethau addysg o fewn yr ysgol fel rhan o'r cylch busnes blynyddol. I wneud hyn, mae’n rhaid i'r strwythurau rheoli rhaglenni canlynol fod ar waith:

  • Penodi cyswllt allweddol ar gyfer lleoliadau er mwyn rheoli'r gweithgaredd lleoli yn effeithiol (gall y strwythur fod yn wahanol ym mhob ysgol)
  • Sicrhau bod trefniadau dysgu ar leoliad yn eitem sefydlog ar agenda Byrddau Astudio
  • Sicrhau bod mecanweithiau priodol ar gyfer ymgysylltu â myfyrwyr pan fyddant yn astudio i ffwrdd o Gaerdydd fel y gellir trafod gweithgarwch lleoliad yn y Bwrdd Astudiaethau yn unol ag adborth eraill gan fyfyrwyr
  • Rhoi adborth i ESEC yr Ysgol a'r Coleg yn unol â'r cylch blynyddol

Cymorth i fyfyrwyr

Mae'r ysgol yn gyfrifol am ddarparu trefniadau cymorth i fyfyrwyr sydd ar leoliad gan gynnwys cymorth bugeiliol effeithiol. Bydd myfyrwyr yn parhau i allu cael mynediad i'r rhan fwyaf o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr sy'n cael eu cynnig gan y Brifysgol.

Dylid esbonio dull ac amserlen cyfathrebu i'r myfyrwyr cyn i'r lleoliad ddechrau er mwyn sicrhau bod ymsefydlu priodol wedi digwydd, a bod y myfyriwr wedi trosglwyddo i amgylchedd y lleoliad. Ar gyfer lleoliadau byr, modiwlaidd (hyd at 70 awr) dylai'r cyswllt cyntaf ddigwydd o fewn 2 ddiwrnod i ddechrau'r lleoliad ond o fewn pythefnos ar gyfer lleoliadau hirach. 
Y disgwyliadau gofynnol ar gyfer cyswllt myfyrwyr yw dwywaith y semester dros Teams/Zoom a/neu dros y ffôn gydag e-bost dilynol lle y bo’n briodol. Mae'n ofynnol i ysgolion gadw cofnodion cryno o bob cyfarfod, i gynnwys crynodeb o'r drafodaeth ac unrhyw gamau gweithredu neu atgyfeiriadau y cytunwyd arnynt. Dylai cofnodion gael eu cadw ar System Rheoli Gwybodaeth Myfyrwyr y Brifysgol (SIMS).

Ymgysylltu â myfyrwyr

Tra bod myfyriwr gyda darparwr lleoliad, mae’n dal i fod yn fyfyriwr Prifysgol Caerdydd. Felly, mae’n rhaid iddo gofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd gan fod y datganiad cofrestru yn weithredol o hyd, a bydd yn dal i fod yn ddarostyngedig i reoliadau, polisïau a gweithdrefnau Prifysgol Caerdydd yn unol â'r Rheoliadau Astudiaethau ac Ymgysylltiad Myfyrwyr a'u polisïau cysylltiedig. Mae'n ofynnol i ysgolion fonitro ymgysylltiad academaidd y myfyriwr tra eu bod ar eu Blwyddyn Lleoliad Proffesiynol er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fodloni gofynion llawn y Rheoliadau Astudio ac Ymgysylltu â Myfyrwyr.

Llais y Myfyrwyr

Mae’n rhaid i ysgolion sicrhau bod ffordd glir, effeithiol a chyfrinachol i fyfyrwyr roi adborth tra byddant ar leoliad ac wedi dychwelyd o'u lleoliad. Disgwylir hefyd y bydd yr ysgol yn gofyn am adborth gan ddarparwr y lleoliad. Mae ar bob Ysgol gyfrifoldeb llwyr am ddatblygu a gweinyddu arolygon yn unol ag egwyddorion y Fframwaith Rheoli Arolwg.

Gall ysgolion ofyn am gyngor gan y Tîm Dyfodol Myfyrwyr ynghylch a oes unrhyw gwestiynau ychwanegol y maent yn credu y dylid eu cynnwys yn yr arolygon. Mae’n rhaid i Fyrddau Astudiaethau perthnasol ystyried yr holl adborth yn unol â'r cylch gweithgaredd blynyddol a'i adrodd drwy'r broses ARE ochr yn ochr ag adborth arall o'r arolwg.

Dod â lleoliadau i ben yn gynnar

Mae natur dysgu ar leoliad yn golygu bod risg bob amser y gall lleoliad ddod i ben yn gynnar, yn aml oherwydd amgylchiadau y tu allan i reolaeth y partïon. Mae’n rhaid i ysgolion fod â phrosesau clir ar waith i liniaru digwyddiadau o'r fath, megis opsiynau i barhau â'r lleoliad gyda darparwr amgen neu opsiynau astudio amgen i gyflawni'r deilliannau dysgu.

Adolygu, adnewyddu neu adael trefniadau lleoli

Amlinellir y risgiau a'r lliniariadau ar gyfer partneriaethau sy'n gysylltiedig â lleoliadau ar Tacsonomeg Partneriaethau Addysg. Wrth adolygu neu adnewyddu cytundebau lleoli, dylai ysgolion ystyried:

  • Gwybodaeth gyd-destunol ehangach yn ymwneud â'r bartneriaeth, megis unrhyw ddiweddariadau i strategaeth, rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau’r brifysgol
  • Gallu'r ysgol i ddarparu digon o adnoddau i gefnogi'r gweithgaredd
  • Diwydrwydd dyladwy y darparwr lleoliad a ddiweddarwyd a'u gallu i gefnogi'r lleoliad
  • Data perfformiad myfyrwyr
  • Nifer yr ymatebion i’r arolwg
  • Materion a nodwyd gan y myfyriwr, yr ysgol a'r myfyriwr

Os yw'r Brifysgol/Ysgol yn dymuno parhau gyda'r trefniant ar gyfer blwyddyn lleoli dramor, nodir y gofynion ar gyfer adnewyddu yn adran Astudio Dramor y weithdrefn Partneriaeth Addysg.

Gadael trefniadau lleoliad

Lle penderfynwyd peidio ag adnewyddu'r cytundeb lleoliad, bydd yr ysgol yn ysgrifennu'n ffurfiol at y darparwr lleoliad gan ddweud nad ydynt bellach yn dymuno parhau â'r trefniant.

Pan fydd gan y rhaglen flwyddyn lleoli dramor, bydd y Tîm Cyfleoedd Byd-eang yn ysgrifennu'n ffurfiol at y partner gan ddweud nad ydynt bellach yn dymuno parhau â'r trefniant.

Os yw'r Brifysgol/Ysgol am adael y bartneriaeth cyn diwedd naturiol y cytundeb, mae’n rhaid gwneud hyn yn unol â thelerau'r cytundeb. Gall y Tîm Cyfleoedd Byd-eang gefnogi ysgolion drwy'r broses hon.

Cytundebau Dilyniant a Chydweddu

Diffiniad:

Cytundebau dilyniant:
“Trefniant rhwng dau sefydliad sy'n cwmpasu mynediad i flwyddyn gyntaf y rhaglen addysg uwch yn unig”.

Gytundebau cydweddu:
“Cytundeb rhwng dau sefydliad sy'n caniatáu i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau rhaglen/rhan o raglen yn llwyddiannus gydag un partner addysg ddefnyddio'r credyd i fynd imewn i raglen gymeradwy Prifysgol Caerdydd ar gam uwch”.

Rydym yn defnyddio cytundebau dilyniant a chydweddu i dargedu cyfleoedd recriwtio gan sefydliadau penodol (a gwledydd) i mewn i raglenni Prifysgol Caerdydd. Mae'r trefniadau hyn yn gytundebau ffurfiol rhwng Prifysgol Caerdydd a'r sefydliad partner.

Lle mae ysgolion yn ystyried datblygu cytundebau newydd, dylent ymgynghori â'r Tîm Partneriaethau Rhyngwladol a fydd yn gallu darparu rhestr o gytundebau dilyniant a chydweddu gweithredol cyfredol gyda phartneriaid sefydledig. Bydd hyn yn osgoi dyblygu ymdrechion ac yn cydlynu sgwrs ar lefel sefydliadol gyda phartneriaid.

Er bod y Brifysgol yn cydnabod bod sawl model o weinyddu cytundebau dilyniant a chytundebau mynegi yn y sector, mae'r Polisi hwn yn amlinellu'r egwyddorion ar gyfer defnyddio'r ddau fath o drefniadau ar gyfer mynediad i raglen Prifysgol Caerdydd.

Egwyddor 1: Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio a'i chyflwyno yn unol â rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau Prifysgol Caerdydd ac mae'n bodloni gofynion sylfaenol y Disgwyliadau Sefydliadol.

Wrth ddefnyddio cytundebau dilyniant a chydweddu safonol, disgwylir y bydd myfyrwyr yn astudio rhaglen gymeradwy Prifysgol Caerdydd. Os bydd gofyn i fyfyrwyr astudio fersiwn wedi'i haddasu o raglen gymeradwy Prifysgol Caerdydd, ystyrir hyn yn amrywiad a bydd angen ei adolygu er mwyn canfod lefel y newid a'r risg cysylltiedig o weithredu'r newid. Lle bo'n bosibl, dylai'r newid gael ei reoli gan Fwrdd Astudiaethau neu drwy'r broses newidiadau dros y trothwy er mwyn osgoi mynd trwy weithdrefn gymeradwyo y rhaglen lawn.

Egwyddor 2: Os mai Prifysgol Caerdydd yw'r Sefydliad Dyfarnu, mae ganddi’r cyfrifoldeb dros 'berchen' a 'rheoli' y rhaglen.

Cytundebau dilyniant

Dim ond ar gyfer mynediad i flwyddyn gyntaf rhaglen Prifysgol Caerdydd y defnyddir cytundebau dilyniant a byddant yn dilyn Polisïau a gweithdrefnau derbyn Prifysgol Caerdydd safonol ar gyfer pob rhaglen dan ystyriaeth.

Cytundebau cydweddu

Wrth lofnodi cytundeb mynegi, rydym wedi cytuno i gadw lle a chaniatáu i'r myfyriwr ymrestru ar y rhaglen gymeradwy, a gyhoeddir, yn amodol ar fodloni'r gofynion mynediad ac academaidd. Ar ôl cytuno arnynt, ni ellir newid neu ddiwygio'r rhain yn ddiweddarach. Pan fo ymgeiswyr yn bodloni'r meini prawf derbyn a'r meini prawf academaidd, byddant yn cael eu derbyn yn awtomatig ar gyfer mynediad i'r rhaglen.

Ar ôl cytuno arnynt, ni ellir newid neu ddiwygio'r rhain yn ddiweddarach. Pan fo ymgeiswyr yn bodloni'r meini prawf derbyn a'r meini prawf academaidd, byddant yn cael eu derbyn yn awtomatig ar gyfer mynediad i'r rhaglen.

Mae cytundeb cydweddu Safonol yn defnyddio trosglwyddo credyd allanol ar gyfer mynediad i mewn i:

  • Blwyddyn 2 rhaglen israddedig 3 blynedd (1+2 neu 2+2); neu
  • Blwyddyn 3 rhaglen feistr integredig 4 blynedd (2+2)
Mynediad uniongyrchol i flwyddyn 2 (nid trwy gytundeb cydweddu)

Mae’n rhaid bod yn ofalus wrth adolygu ceisiadau am fynediad uniongyrchol i flwyddyn 2 gan ddefnyddio'r Polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol gan fod angen i gynigion fod yn gyson â'r rhai a nodir mewn cytundebau cydweddu. Ni ellir rhoi triniaeth sy’n llai neu'n fwy ffafriol i fyfyrwyr sy'n gwneud cais am fynediad uniongyrchol drwy RPL na'r rhai sy'n rhan o'r trefniant mynegi fel yr amlinellwyd ym mholisïau a pregnant.

Caiff yr holl gytundebau cydweddu eu hadolygu a'u cymeradwyo gan Is-bwyllgor y Bartneriaeth Addysg cyn iddynt gael eu llofnodi, a gellir derbyn ymgeiswyr i'r rhaglen drwy'r Polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol.

Cytundebau cydweddu ansafonol: Dim ond ar sail eithriadol y caiff mynediad i flwyddyn olaf rhaglen israddedig 3 blynedd bresennol Prifysgol Caerdydd ei gymeradwyo pan gytunir arno gyda'r Tîm Partneriaethau Rhyngwladol. Ni all ysgolion ddefnyddio cytundeb cydweddu ansafonol ar gyfer mynediad uwch i gam traethawd hir y rhaglen ôl-raddedig a addysgir.

Amlinellir ceisiadau i ddefnyddio trosglwyddo credyd allanol ar gyfer cytundebau mynegi safonol ac ansafonol yn y weithdrefn Bartneriaeth Addysg.

Diwydrwydd Dyladwy

Mapio'r cwricwlwm partner

Er mwyn i fyfyrwyr drosglwyddo'n llwyddiannus i raglen Prifysgol Caerdydd, mae’n rhaid cwblhau ymarfer mapio i sicrhau bod y cwricwlwm gyda’r partner yn cwmpasu'r wybodaeth, y sgiliau a'r dysgu craidd/gofynnol a addysgir yng Nghaerdydd yn briodol. Wrth gwblhau'r mapio, bydd Ysgolion hefyd yn ystyried a oes angen rhoi unrhyw drefniadau cymorth ychwanegol ar waith i gefnogi pontio llwyddiannus i fyfyrwyr.

Bydd yr ymarfer mapio yn cael ei gwblhau gan yr Ysgol gyda chefnogaeth gan y Timau Partneriaethau Ryngwladol a Phartneriaethau Addysg. Mae manylion y gofynion ar gyfer y broses fapio yn y Weithdrefn Partneriaethau Addysg.

Egwyddor 3: Mae fframwaith clir ar gyfer monitro, adolygu a rheoli risg.

Cymeradwyir cytundebau cydweddu am gyfnod uchafswm o bum mlynedd er mwyn sicrhau y gellir eu monitro a'u hadolygu. Lle bo'n ymarferol, dylai Ysgolion alinio pob trafodaeth adnewyddu â'r cylch ail-ddilysu er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn yr adolygiad cyfannol ehangach o'u darpariaeth addysg.

Fel rhan o'r cylch gweithgareddau blynyddol, mae'n ofynnol i ysgolion ddarparu dadansoddiad o effeithiolrwydd unrhyw gytundeb cynhyrchu/mynegi drwy olrhain cynnydd a chanlyniadau myfyrwyr sy'n mynd i mewn drwy'r trefniadau hyn gan gynnwys unrhyw gynlluniau gweithredu i gefnogi myfyrwyr.

Adolygu, adnewyddu, neu adael trefniadau dilyniant neu gydweddu

Os yw Ysgolion yn dymuno adnewyddu cytundeb dilyniant neu gydweddu, bydd angen iddynt ystyried:

  • Gwybodaeth gyd-destunol ehangach yn ymwneud â'r bartneriaeth, megis unrhyw ddiweddariadau i strategaeth, rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau’r brifysgol
  • Diwydrwydd dyladwy wedi'i ddiweddaru a chadarnhad bod cwricwlwm y partner yn parhau i fapio i raglen benodol Prifysgol Caerdydd
  • Nifer y myfyrwyr
  • Incwm ffioedd a gwariant cysylltiedig
  • Data perfformiad myfyrwyr
  • Nifer yr ymatebion i’r arolwg
  • Unrhyw faterion a nodwyd gan yr ysgol

Gadael cytundeb dilyniant neu gydweddu

Lle penderfynwyd peidio ag adnewyddu'r cytundeb, bydd y Tîm Partneriaethau Rhyngwladol yn ysgrifennu'n ffurfiol at y partner gan gynghori nad yw'r Brifysgol bellach yn dymuno parhau â'r trefniant. Os yw'r Brifysgol/Ysgol am adael y bartneriaeth cyn diwedd naturiol y cytundeb, mae’n rhaid gwneud hyn yn unol â thelerau pob cytundeb unigol. Gall y Tîm Partneriaethau Rhyngwladol gefnogi ysgolion drwy'r broses hon.

Document history

FersiwnDyddiadPwyllgor Diwygiadau
 1 03/07/2023 Y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd AcademaiddPolisi Newydd
217/02/2024Y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd
Papur 23/427

Ymgynghoriad ychwanegol â rhanddeiliaid [Cofnod 1516.3]

Ychwanegu gweithdrefn symlach ar gyfer ysgolion sydd am ychwanegu Blwyddyn Astudio Dramor at raglen gyfredol sy'n bodoli eisoes. [Cofnod 1616.6]

306/03/2024Y SeneddCyfeiriwyd at ASQC
423/05/2024Y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd
Papur 23/649

Ymgorffori adborth gan Aelodau'r Senedd Mawrth 2024 [Cofnod 1533.4].

Dileu'r adran ymchwil ôl-raddedig gan fod polisi ar wahân yn cael ei ddatblygu [1534.1].

512/06/24Y SeneddDiweddariadau i wybodaeth am geiswyr lloches, ffoaduriaid a phobl eraill sy'n ceisio noddfa yn y DU.

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Polisi Partneriaethau Addysg
Cymeradwywyd gan:Y Senedd