Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Cofnodion Y Senedd 9 Mawrth 2022

Cofnodion cyfarfod Senedd Prifysgol Caerdydd a Gynhaliwyd Ddydd Mercher 9 Mawrth 2022 am 14:15, drwy Zoom

Presenoldeb

Yr Athro Colin Riordan

P

Claire Morgan

P

Yr Athro Rudolf Allemann

P

Yr Athro Damien Murphy

A

Yr Athro Stuart Allen

P

Yr Athro Jim Murray

P

Yr Athro Rachel Ashworth

A

Larissa Nelson

P

Yr Athro Roger Behrend

A

Dr James Osborne

P

Tine Blomme

P

Joanne Pagett

 

Dr Paul Brennan

A

Dr Jo Patterson

P

Yr Athro Kate Brain

P

Dr Juan Pereiro Viterbo

P

Yr Athro Gill Bristow

P

Dr Jamie Platts

P

Yr Athro Marc Buehner

P

Abyd Quinn-Aziz

P

Dr Cindy Carter

P

Dr Caroline Rae

P

Yr Athro David Clarke

P

Dr Emma Richards

 

Kelsey Coward

 

Kate Richards

P

Yr Athro Trevor Dale

 

Yr Athro Steve Riley

P

Dr Juliet Davis

A

Sebastian Ripley

P

Yr Athro Lina Dencik

A

Dr Josh Robinson

P

Rhys Denton

P

Sarah Saunders

P

Hannah Doe

P

Dr Andy Skyrme

 

Dr Luiza Dominguez

P

Yr Athro Peter Smowton

P

Gina Dunn

P

Dr Zbig Sobiesierski

P

Helen Evans

P

Megan Somerville

P

Yr Athro Stewart Field

 

Helen Spittle

P

Yr Athro Dylan Foster Evans

P

Tracey Stanley

P

Graham Getheridge

P

Yr Athro Ceri Sullivan

P

Yr Athro Kim Graham

P

Yr Athro Petroc Sumner

P

Chris Grieve

 

Yr Athro Peter Sutch

P

Yr Athro Mark Gumbleton

A

Yr Athro Patrick Sutton

P

Yr Athro Ian Hall

 

Orla Tarn

P

Dr Thomas Hall

P

Dr Catherine Teehan

P

Yr Athro Ken Hamilton

P

Gail Thomas

P

Dr Natasha Hammond-Browning

 

Dr Jonathan Thompson

P

Yr Athro Ben Hannigan

P

Dr Onur Tosun

P

Dr Alexander Harmer

P

Dr Laurence Totelin

P

Yr Athro Adam Hedgecoe

P

Charlotte Towlson

P

Yr Athro James Hegarty

A

Yr Athro Damian Walford Davies

P

Yr Athro Mary Heimann

A

Dr Catherine Walsh

A

Dr Monika Hennemann

P

Matt Walsh

P

Yr Athro Joanne Hunt

P

Yr Athro Ian Weeks

P

Yr Athro Nicola Innes

P

Yr Athro Keith Whitfield

P

Yr Athro Dai John

P

Yr Athro David Whitaker

A

Yr Athro Urfan Khaliq

A

Yr Athro John Wild

A

Yr Athro Alan Kwan

 

Yr Athro Martin Willis

A

Yr Athro Wolfgang Maier

P

Yr Athro Jianzhong Wu

P

Emmajane Milton

P

  

Mynychwyr

Ms Katy Dale (cofnodion), Hannah Darnley, Laura Davies, Dr Rob Davies, Rhodri Evans, Judith Fabian, Dr Rob French, Yr Athro Claire Gorrara, Dr Julie Gwilliam, Michael Hampson, Tom Hay, Simon Horrocks [Cofnod 959], Owain Huw [Cofnod 959], Rashi Jain, Yr Athro Wenguo Jiang, Dr Emma Kidd, Tony Lancaster [Cofnod 959], Yr Athro Andrew Lawrence, Dr Stephen Lynch, Paola Messner [Cofnod 959], Sue Midha, Dr Joanna Newman, TJ Rawlinson, Dr Andrew Roberts, Ruth Robertson, Claire Sanders, Yr Athro Phil Stephens, Yr Athro Jason Tucker, Simon Wright (Ysgrifennydd), Yr Athro Karin Wahl-Jorgensen, Darren Xiberras, Pat Younge

951 Croeso a Chyflwyniadau

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, yn enwedig yr aelodau o’r Cyngor a oedd yn bresennol fel sylwedyddion. Nodwyd y byddai'r cyfarfod yn cael ei recordio i helpu i gynhyrchu'r rhestr bresenoldeb a'r cofnodion.

952 Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Nodwyd

952.1                  byddai'r ymddiheuriadau a dderbyniwyd yn cael eu cofnodi yn y cofnodion.

953 Datganiad Buddiannau

Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau o'r gofyniad iddynt ddatgelu unrhyw fuddiannau ariannol uniongyrchol neu anuniongyrchol a allai ddylanwadu ar eu barn. Dylid datgelu buddiannau cyn i eitem gael ei drafod, a dylai’r unigolyn dan sylw naill ai gadael y cyfarfod neu beidio â chymryd rhan yn y drafodaeth, fel y bo’n briodol ar gyfer y rhan honno o’r agenda.

Nodwyd

953.1                  ni wnaeth unrhyw aelod ddatgelu unrhyw fuddiannau.

954 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Nodwyd

954.1                  bod gwelliant arfaethedig wedi cael ei dderbyn mewn perthynas â chofnod 939.5; roedd ymholiad wedi cael ei godi ynghylch a fyddai adolygiad yr Athro Dinesh Bhugra ar gynnydd yn cael ei gyhoeddi'n gyhoeddus; cadarnhawyd bod yr adroddiad eisoes ar gael ar fewnrwyd y Brifysgol ac y byddai'n cael ei gyhoeddi ar dudalennau gwe cyhoeddus y Brifysgol ar 10Mawrth, ar ôl ei gyfieithu.

Penderfynwyd

954.2                  diwygio cofnod 939.5 y cyfarfod blaenorol i gynnwys yr ymholiad ynghylch a fyddai adolygiad yr Athro Dinesh Bhugra ar gynnydd yn cael ei gyhoeddi'n gyhoeddus;

954.3                  cadarnhau i'r Senedd pryd yr oedd adroddiad yr Athro Bhugra ar gael i'r cyhoedd;

954.4                  cymeradwyo cofnodion y cyfarfod ar 10 Tachwedd 2021, yn amodol ar y diwygiadau uchod.

955 Materion a godir

Nodwyd

955.1                  mewn perthynas â hunanladdiad trasig myfyriwr yr oedd adroddiad amdano yn y cyfarfod diwethaf (Cofnod 948.1), bod adroddiad y Crwner ac ymateb y Brifysgol wedi'u cyhoeddi; roedd y Brifysgol wedi cyfathrebu â'r teulu; ac roedd adolygiad o bobl yn ailsefyll yn ystod y flwyddyn wedi'i gynnal a byddai'n cael ei adrodd i'r Senedd o dan gofnod 961 [Adroddiad y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd i'r Senedd].

956 Eitemau gan y Cadeirydd

Nodwyd

956.1                  bod aelodau'r Senedd wedi cael y fanyleb swydd a pherson ar gyfer y Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter; derbyniwyd nifer o sylwadau gan aelodau'r Senedd a gwnaed rhai newidiadau mewn ymateb.

956.2                  nad oedd unrhyw eitemau wedi cael eu cymeradwyo trwy Gam Gweithredu'r Cadeirydd ers y cyfarfod diwethaf.

957 Cyfansoddiad ac Aelodaeth Is-bwyllgorau’r Senedd (Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr)

Nodwyd a derbyniwyd papur 21/239R, 'Cyfansoddiad ac Aelodaeth y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr 2021-22'.

958 Adroddiad gan yr Is-Ganghellor

Derbyniwyd papur 21/502C ‘Adroddiad yr Is-Ganghellor i'r Senedd’. Siaradodd yr Is-Ganghellor am yr eitem hon.

Nodwyd

958.1                  mewn perthynas â goresgyniad yr Wcráin, roedd yr Is-Ganghellor wedi cyhoeddi e-bost i’r holl staff ar y mater hwn ar 7 Mawrth ac wedi hysbysu’r Senedd:

.1           bod gwylnos wedi'i chynnal ar fore 9 Mawrth ar gyfer pobl Wcráin yr oedd y goresgyniad yn effeithio arnynt; roedd hwn yn ddigwyddiad a barodd deimladau mawr;

.2           y credir ar hyn o bryd yn y Brifysgol fod 63 o fyfyrwyr o Rwsia, 17 o Wcráin a 7 o Belarus a chysylltwyd â'r myfyrwyr hyn i gynnig cymorth;

.3           y byddai unrhyw fyfyrwyr y mae caledi ariannol yn effeithio arnynt yn gallu gwneud cais am gymorth ariannol, tra bod y Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o gymorth arall drwy ei gwasanaethau Bywyd Myfyrwyr; roedd y Brifysgol hefyd yn ymchwilio i gymorth ynglŷn â llety ar gyfer myfyrwyr na fyddent o bosibl yn gallu dychwelyd adref ar ddiwedd y flwyddyn academaidd; byddai'r cymorth hwn ar gael i'r holl fyfyrwyr yr oedd y rhyfel yn effeithio arnynt ac ni fyddai'r Brifysgol yn gwahaniaethu ar sail o ble y daeth y myfyrwyr;

.4           roedd y Brifysgol yn gweithio gyda'r Cyngor Academyddion Mewn Perygl (CARA);

.5           roedd y Brifysgol hefyd yn edrych i gefnogi myfyrwyr na fyddent yn gallu parhau â'u hastudiaethau yn yr Wcráin; roedd hyn yn dibynnu ar gyrff eraill (ee Llywodraeth y DU) i ganiatáu i unigolion a ffoaduriaid ddod i'r DU ac i Gymru;

.6           roedd y Brifysgol yn gwneud cais i ddod yn Brifysgol Noddfa ac roedd wedi cymryd camau i gychwyn ar y broses ymgeisio cyn yr argyfwng presennol;

.7           bod awgrymiadau amrywiol a chyferbyniol mewn perthynas â'r hyn y dylai academyddion fod yn ei foicotio a byddai'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried hyn mewn cyd-destun sector cyfan, gan ystyried rhyddid i lefaru a chyfle cyfartal;

958.2                  y byddai'r Brifysgol yn bwrw ymlaen ag argymhelliad yr Athro Bhugra ar ddysgu o'r gwaith ynglŷn â rhyw a rhywedd a byddai'r Dirprwy Is-Ganghellor yn ystyried y posibilrwydd y bydd grŵp(iau) allanol yn monitro datblygiad yn y maes hwn;

958.3                  y gallai’r cynnydd mewn datgeliadau o drais, o gam-drin ac o drais rhywiol fod o ganlyniad i gynnydd mewn digwyddiadau yn ystod y pandemig ond ei fod hefyd yn debygol o fod oherwydd bod mwy o adrodd yn dilyn ymrwymiad cyhoeddus a chyhoeddusrwydd y Brifysgol i fynd i’r afael â thrais a cham-drin; byddai'r Brifysgol yn parhau i fonitro a dadansoddi'r data hyn a byddai'r Is-Ganghellor yn adrodd yn ôl i'r Senedd gyda gwybodaeth bellach yn y cyfarfod nesaf.

959 Dull Strategol o Ddarparu Ar-lein yng Nghaerdydd

Derbyniwyd papur 21/501 'Dull Strategol at Ddarpariaeth Ar-lein yng Nghaerdydd'. Siaradodd y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

959.1                  i’r papur gael ei gyflwyno i'r Senedd fel darn trafod ac i helpu i ddatblygu cyfeiriad strategol i'r dyfodol i'r Brifysgol yn y maes hwn;

959.2                  oherwydd y pandemig, y bu twf yn y farchnad ddysgu ar-lein fyd-eang, trwy gwmnïau OPM (rheoli rhaglenni ar-lein) a MOOCs (cyrsiau ar-lein agored enfawr); roedd nifer o brifysgolion wedi bod yn cynyddu eu darpariaeth ar-lein ac roedd y pandemig wedi caniatáu i hyn ddigwydd yn gyflym;

959.3                  y bu nifer o fanteision o ddysgu cyfunol a ddarparwyd yn ystod y pandemig a'i bod yn bwysig parhau â’r manteision hyn;

959.4                  bod gan y Brifysgol nifer fach o raglenni sydd ar-lein yn unig (21 PGT); roedd y Brifysgol hefyd wedi bod yn bartner strategol wrth sefydlu FutureLearn ac wedi cynnig 14 cwrs byr drwy'r platfform hwn gyda mwy na 112,000 o gofrestriadau;

959.5                  bod y Brifysgol hefyd yn ystyried microgymwystrau (darnau dysgu byrdymor a bach tebyg i fodiwl);

959.6                  bod nifer o yrwyr newid yn y maes hwn gan gynnwys:

.1           adeiladu ar y gwaith a wnaed yn ystod y pandemig;

.2           manteisio ar farchnadoedd newydd a datblygu rhai sy'n bodoli eisoes; roedd potensial hefyd am refeniw ychwanegol neu am arallgyfeirio;

.3           y gallu i alinio'r gwaith hwn â strategaeth y Brifysgol i ehangu cyfranogiad a chynaliadwyedd a'r cyfleoedd posibl ar gyfer datblygu darpariaeth DPP hyblyg;

.4           bod risg y byddai'r Brifysgol yn cwympo y tu ôl yn y maes hwn;

959.7                  roedd y gwaith tymor byr yn canolbwyntio ar adolygu'r partneriaid a'r llwyfannau newydd presennol a phosibl i ddatblygu presenoldeb ar-lein y Brifysgol o fewn perthnasoedd presennol;

959.8                  bod gwaith tymor hwy yn canolbwyntio ar ddatblygu strategaeth y Brifysgol yn y maes hwn ac ar greu portffolio o gyrsiau neu gymwysterau y gellir eu “pentyrru”, gyda'r posibilrwydd y bydd meysydd darpariaeth yn gwbl ar-lein; byddai hyn yn adeiladu mewn meysydd lle'r oedd capasiti ac awydd ac nad oedd yn cael ei gweld fel proses linol, gan olygu y gallai ysgolion a disgyblaethau unigol ddatblygu fel y teimlent yn briodol;

959.9                  y byddai angen datblygu proses sicrhau ansawdd (SA) addas ar gyfer unrhyw ddarpariaeth ar-lein; roedd nifer o adnoddau ar gael i gefnogi'r maes hwn;

959.10                nad oedd y Brifysgol wedi ystyried rhyddfreinio ei darpariaeth ar-lein ar hyn o bryd; roedd cyfleoedd ar gyfer cydweithio posibl mewn rhai meysydd (ee gyda Llywodraeth Cymru ynghylch dysgu cyfrwng Cymraeg);

959.11                bod y Brifysgol yn awyddus i sicrhau bod capasiti yn cael ei ystyried wrth ddatblygu unrhyw ddarpariaeth ar-lein; roedd nifer o ddarparwyr a allai gefnogi'r Brifysgol yn y gwaith hwn (ee rheoli derbyniadau neu recriwtio i gyrsiau ar-lein) a hefyd opsiwn i ddatblygu hyn yn fewnol;

959.12                ei bod yn bwysig adolygu a fyddai darpariaeth ar-lein yn gwbl ar-lein neu’n gyfuniad o ar-lein ac wyneb yn wyneb ac asesu’r effaith y byddai hyn yn ei chael ar fyfyrwyr a staff; roedd cyfle i'r Brifysgol benderfynu ble ar y sbectrwm o weithgareddau cwbl ar-lein, hybrid a chymysg, yr oedd yn dymuno eistedd ar gyfer gwahanol weithgareddau;

959.13                bod adolygiad dysgu digidol yn cael ei gynnal, a oedd wedi cynnwys peilot o fersiwn newydd o Blackboard a oedd wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn; y gobaith oedd y byddai'n cael ei gyflwyno'n llawn yn 2023;

959.14                mai nod datblygu strategaeth ar gyfer darpariaeth ar-lein oedd sicrhau bod y Brifysgol yn parhau i ddatblygu ei darpariaeth dysgu ac addysgu er mwyn rhagweld anghenion newidiol myfyrwyr a staff addysgu, yn hytrach na darparu ffrwd incwm newydd yn unig;

959.15                ei bod yn bwysig adolygu hyn ochr yn ochr â datblygu gwaith DPP y Brifysgol; nodwyd bod ffocws cychwynnol ar fodiwlau/cyrsiau byr PGT a bod cyllid gan rai cyrff allanol (ee ar gyfer cyrsiau meddygaeth) bellach mewn symiau llai ac felly roedd cynnig hyblygrwydd a chyrsiau byrrach yn bwysig i aros yn gystadleuol;

959.16                y byddai angen diwygio'r strwythurau presennol i ganiatáu mwy o ddarpariaeth o gyrsiau ar-lein (ee newidiadau i SIMS, trefniadau Byrddau Arholi, amser i gymeradwyo cyrsiau ac ati);

959.17                bod cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid rhyngwladol allweddol a phartneriaethau strategol y Brifysgol i dyfu'r maes hwn; roedd hefyd yn bwysig ystyried y galw lleol am ddarpariaeth ar-lein;

959.18                y gallai darpariaeth ar-lein gefnogi ehangu cyfranogiad a darparu llwybr i addysg uwch;

959.19                y byddai darpariaeth ar-lein yn cyd-fynd â darpariaeth bersonol fel ffordd arall i fyfyrwyr astudio.

960 Adroddiad y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr i'r Senedd

Derbyniwyd papur 21/503 'Adroddiad y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr i'r Senedd'. Siaradodd y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

960.1                  mai hwn oedd yr adroddiad agoriadol i'r Senedd gan y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr;

960.2                  bod yr adroddiad yn cynnwys un eitem i'w chymeradwyo; roedd hyn yn ymwneud â newid a argymhellwyd i aelodaeth y Grŵp Strategaeth Ymchwil Ôl-raddedig, i gynyddu cynrychiolaeth myfyrwyr o 1 i 3 aelod;

960.3                  bod y Pwyllgor wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu mewn perthynas â'r ACF a'r monitro uwch mewn perthynas â chanlyniadau'r ACF; bod cynnydd da wedi'i wneud mewn perthynas â'r cynllun mynediad sefydliadol ac roedd CCAUC wedi cadarnhau ei fod yn fodlon â'r ymatebion a'r cynlluniau a gyflwynwyd yn yr Hydref; cafodd archwiliad mewnol ei gynnal mewn perthynas â chynlluniau rheoli'r ACF (yn enwedig ar lefel Ysgol a Choleg) a byddai'r adroddiad yn cael ei drafod yn y Pwyllgor Archwilio a Risg ar 16 Mawrth; bu argymhelliad i ddatblygu fframwaith monitro a gwerthuso clir, yn nodi rolau a chyfrifoldebau, ar gyfer gweithgareddau'r AMC a byddai'r Senedd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynigion yn dilyn yr archwiliad hwn;

960.4                  roedd y Pwyllgor wedi cael cyflwyniad ar gwricwlwm cynhwysol a chafodd arweinydd academaidd ei benodi ar gyfer y maes hwn; ac awgrymwyd fframwaith ategol ar gyfer gwreiddio cynhwysiant wrth gynllunio'r cwricwlwm a rhaglen a byddai cynigion yn cael eu cyflwyno i'r Senedd ar ôl eu datblygu;

960.5                  bod Undeb y Myfyrwyr wedi cymryd nifer o gamau gweithredu mewn perthynas â lles ac iechyd myfyrwyr yn dilyn cyllid gan CCAUC a chroesawyd y mentrau hyn;

Penderfynwyd

960.6                  Cymeradwyo'r newid i'r Rheoliadau Rheolaeth Academaidd i gynnwys tri myfyriwr ymchwil ôl-raddedig yn aelodau o'r Grŵp Strategaeth Ymchwil Ôl-raddedig.

961 Adroddiad y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd i'r Senedd

Derbyniwyd papur 21/506 'Adroddiad y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd i'r Senedd'. Siaradodd y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

961.1                  bod y papur yn gofyn am gymeradwyaeth i bolisi gordanysgrifio ar gyfer yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg; roedd y Senedd eisoes wedi cymeradwyo polisïau ar gyfer yr Ysgolion Deintyddiaeth, Meddygaeth a Gwyddorau Gofal Iechyd;

961.2                  bod y papur yn gofyn i'r Senedd argymell i'r Cyngor ddyddiadau blwyddyn academaidd 2022/23 a 2023/24; roedd y Pwyllgor wedi pennu dyddiadau dros dro tan flwyddyn academaidd 2032/33 a byddai'r rhain yn cael eu dwyn i'r Senedd i'w hargymell tua 18 mis ymlaen llaw;

961.3                  bod y Brifysgol wedi cynnal adolygiad o'r defnydd o ailsefyll arholiadau yn ystod y flwyddyn (hy y rhai a safwyd yng nghanol semester cyn cyfarfod Bwrdd Arholi) yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Crwner; gofynnwyd i Ysgolion gadarnhau unrhyw raglenni sy’n cynnig ailsefyll yn ystod y flwyddyn, p’un a oedd y rhain wedi’u cymeradwyo’n ffurfiol o’r blaen ai peidio, er mwyn caniatáu i’r holl amrywiadau gael eu cofnodi ac i sicrhau bod pob Ysgol sy’n cynnal arholiadau ailsefyll yn ystod y flwyddyn yn dilyn protocol priodol a bod y canlyniadau yn cael eu rhannu mewn modd prydlon a chlir; roedd yr adolygiad bellach wedi'i gwblhau a chymeradwywyd nifer o arholiadau ailsefyll yn ystod y flwyddyn (ee lle'r oedd angen amlwg i wneud hynny), tra bu'n ofynnol i'r rhai nad oeddent yn bodloni'r meini prawf ddod i ben (nifer fach);

961.4                  roedd y Rhag Is-ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr hefyd wedi comisiynu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i adolygu'r iaith a'r naws a ddefnyddir mewn trawsgrifiadau a'u cyfathrebu i fyfyrwyr mewn perthynas â'u canlyniadau; arweiniwyd hwn gan yr Athro Ann Taylor o'r Ysgol Feddygaeth; byddai'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn adrodd i'r ASQC, gydag argymhellion yn cael eu rhoi ar waith cyn i Fyrddau Arholi haf 2022 ddechrau;

961.5                  roedd adroddiad yr arholwyr allanol ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 wedi cadarnhau bod safonau academaidd dyfarniadau'r Brifysgol yn bodloni gofynion y fframwaith cymwysterau cenedlaethol perthnasol a bod canlyniadau gradd yn ddilys ac yn ddibynadwy; ni chodwyd unrhyw bryderon sylweddol;

961.6                  byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal mewn perthynas ag Arholwyr Allanol 'pwnc' a 'rhaglen' a'r gofyniad dilynol i bob Ysgol weithredu strwythur Byrddau Arholi dwy haen;

961.7                  roedd y Pwyllgor hefyd wedi ystyried yr arfer a oedd yn dod i'r amlwg mewn sawl prifysgol o benodi Prif Arholwr Allanol i'r sefydliad i gynorthwyo gyda'r gwaith o oruchwylio safonau gradd ac i roi cyngor ar y datganiad canlyniadau gradd; roedd ASQC yn gefnogol i'r syniad hwn a bydd disgrifiad rôl yn cael ei ddrafftio ac ystyried sut y gallai rôl o'r fath weithredu o dan strwythur llywodraethu addysg presennol y Brifysgol;

961.8                  roedd nifer o welliannau mewn perthynas â datblygu rhaglenni yn cael eu datblygu gan gynnwys:

.1           sicrhau adroddiadau rheolaidd ar gymeradwyaethau Cam 1 i'r Grŵp Strategaeth Recriwtio a Derbyn (RASG) i sicrhau eglurder ynghylch lle mae cynigion yn y broses;

.2           datblygu Disgwyliadau Sefydliadol ar gyfer cynllun a strwythur rhaglenni, er mwyn darparu pwynt cyfeirio allweddol wrth ddechrau rhaglenni newydd neu adolygu rhai presennol yn sylweddol; nodwyd y byddai'r ddogfen hon wedi bod o fudd cyn i Ysgolion ddechrau ar ymarferion ailddilysu gan fod yr adnodd wedi cael ei ddarparu ar ôl i'r ailddilysu ddechrau mewn rhai Ysgolion;

.3           roedd Gwasanaeth Datblygu Addysg yn cael ei ddatblygu i ddarparu cymorth i dimau rhaglen; byddai hwn yn cael ei leoli o fewn yr Academi Dysgu ac Addysgu ac yn gweithio'n agos gydag Ysgolion;

961.9                  bod gwaith wedi'i wneud ar y cyd â chydweithwyr o'r Pwyllgor Archwilio a Risg a'r Cyngor i gynhyrchu fframwaith sicrwydd academaidd a fyddai'n mapio'r system ansawdd academaidd (fel yr adroddwyd yn yr Adroddiad Ansawdd Blynyddol) yn erbyn y sicrwydd yr oedd angen ei roi i CCAUC; byddai hyn hefyd yn amlinellu'r dull a'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer darparu sicrwydd blynyddol ar ansawdd a safonau academaidd.

Penderfynwyd

961.10                cymeradwyo polisi gordanysgrifio ar gyfer yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg i ddod i rym ar unwaith ac unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i'r Rheoliadau Derbyn;

961.11               argymell i'r Cyngor gymeradwyo dyddiadau blwyddyn academaidd 2022/23 a 2023/24.

962 Unrhyw Fater Arall

Nodwyd

962.1                  bod yr Athro Kim Graham yn mynychu ei chyfarfod diwethaf o’r Senedd a diolchwyd i’r Pwyllgor am yr holl waith yr oedd yr Athro Graham wedi’i wneud.

963 Eitemau a Dderbyniwyd er Gwybodaeth

Nododd y Senedd y papurau canlynol:

  • Papur 21/500HC Diweddariad ar Endidau Strategol
  • Papur 21/499 Adroddiad Blynyddol Gwasg Prifysgol Caerdydd
  • Papur 21/498C Crynodeb Gweithredol – Adroddiad Diwedd Cylch Recriwtio a Derbyn 2021
  • Papur 21/353 Cofnodion y Pwyllgor E&SEC 18 Tachwedd 2021
  • Papur 21/504 Cofnodion y Pwyllgor E&SEC 26 Ionawr 2022
  • Papur 21/507 Cofnodion ASQC 8 Chwefror 2022

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Cofnodion Y Senedd 9 Mawrth 2022
Dyddiad dod i rym:05 Hydref 2022