Cofnodion y Cyngor 22 Hydref 2021
- Dyddiad dod i rym:
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (PDF, 118.6 KB)
Cofnodion cyfarfod Arbennig o Gyngor Prifysgol Caerdydd a gynhaliwyd Ddydd Gwener 22 Hydref 2021 drwy Zoom am 9:30
Yn bresennol: Yr Athro Stuart Palmer (Cadeirydd), Yr Athro Colin Riordan, Yr Athro Rudolf Allemann, Yr Athro Rachel Ashworth, Ricardo Calil, Hannah Doe, Gina Dunn, Judith Fabian, yr Athro Dame Janet Finch, Jan Juillerat, Dr Joanna Newman, Dr Pretty Sagoo, John Shakeshaft, David Simmons, y Barnwr Ray Singh, Dr Janet Wademan, yr Athro Damian Walford Davies, Yr Athro Stuart Walker, Agnes Xavier-Phillips.
Mynychwyr: Katy Dale, Rashi Jain, Vari Jenkins [Cofnodion] a Ruth Robertson
1966 Croeso
1966.1 Croesawyd pawb i'r cyfarfod;
1967 Ymddiheuriadau am Absenoldeb
1967.1 Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Paul Baston, Chris Jones, yr Athro Kim Graham, Yr Athro Ken Hamilton, Michael Hampson, Claire Morgan, Claire Sanders.
1968 Datganiadau Buddiant
Nodwyd
1968.1 ni nodwyd unrhyw wrthdaro buddiannau.
Cadeiriwyd y cyfarfod gan Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer eitem 4.
1969 Argymhelliad gan Yr Is-Bwyllgor Enwebiadau ar gyfer Olynydd i Gadeirydd y Cyngor
Derbyniwyd Papur 21/169C Argymhelliad gan Yr Is-bwyllgor Enwebiadau am olynydd i Gadeirydd y Cyngor. Siaradodd Jan Juillerat, Is-gadeirydd y Cyngor, am yr eitem hon fel Cadeirydd yr Is-Bwyllgor Enwebiadau.
Nodwyd
1969.1 y broses chwilio helaeth fel y nodir yn y papur, a arweiniodd at restr fer o dri ymgeisydd a ddewiswyd ar gyfer cyfweliad gan ddefnyddio manyleb y person a gymeradwywyd gan y Cyngor;
1969.2 bod yr ymgeisydd a argymhellir yn dangos lefel uchel o ymgysylltu â'r broses, ac yn deall ac yn mynegi heriau, cyfleoedd, ac uchelgeisiau'r Brifysgol;
1969.3 bod yr ymgeisydd a argymhellir yn dangos ymrwymiad cryf i fwrdd, amrywiaeth myfyrwyr a staff, gyda dull gweithredu sy’n seiliedig ar werthoedd a gefnogir gan fetrigau fforensig. Roedd pwyslais cryf ar sicrhau bod Prifysgol Caerdydd mor gynhwysol ag y bo modd, ar draws ystod eang o feysydd;
1969.4 y cynhelir rhaglen ymsefydlu wedi'i thargedu i gefnogi a chyfleu gwybodaeth am y Brifysgol a'i threfniant llywodraethu, a fydd yn cynnwys gweithgarwch ymchwil y Brifysgol;
1969.5 bod Perrett Laver wedi cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy cychwynnol, gyda rhagor o wiriadau diwydrwydd dyladwy gan gynnwys gwiriadau ar y cyfryngau cymdeithasol, yn cael eu cynnal cyn gwahodd ymgeiswyr i gyfweliad. Mae gwrthdaro buddiannau posibl wedi cael eu hadolygu gan Ysgrifennydd y Brifysgol, a chawsant eu trafod gyda'r ymgeisydd a argymhellwyd ac mae mesurau diogelu ar waith os oes unrhyw faterion yn ymwneud â grant a ddyfarnwyd o’r blaen, ac a ddatgelwyd fel rhan o'r broses;
1969.6 [Hepgorwyd]
1969.7 yn unol â phenderfyniad y Cyngor o fis Gorffennaf 2021, y bydd tymor yr Is-gadeirydd presennol yn rhedeg tan 31 Gorffennaf 2022 i ddarparu cefnogaeth i'r Cadeirydd newydd a darparu parhad.
Penderfynwyd
1969.8 cymeradwyo penodiad Patrick Younge i swydd aelod lleyg a Chadeirydd y Cyngor, i olynu yr Athro Stuart Palmer, o 1 Ionawr 2022 am gyfnod cyntaf yn y swydd o bedair blynedd tan 31 Rhagfyr 2025.
Tabl rheoli'r ddogfen
Teitl y ddogfen: | Cofnodion y Cyngor 22 Hydref 2021 |
---|---|
Dyddiad dod i rym: | 30 Medi 2022 |