Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais

  • Diweddarwyd ddiwethaf:
dwrn clenched

Rhagair: Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais

Mae Model Caerdydd, a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn, yn enghraifft o ddull iechyd y cyhoedd o atal trais. Mae i’r dull hwn bedwar cam. Mae cam un yn cynnwys mynd ati mewn modd systematig i gasglu data ar hyd a lled, nodweddion a chanlyniadau trais. Mae cam dau yn cynnwys cynnal ymchwil i bennu'r ffactorau sy'n cynyddu neu'n lleihau'r risg o drais. Mae cam tri yn defnyddio gwybodaeth o gamau un a dau i gynllunio, gweithredu a gwerthuso ymyraethau. Mae cam pedwar yn golygu cynyddu a gweithredu ymyraethau y dangosir yng ngham tri eu bod yn effeithiol, a lledaenu gwybodaeth am atal yn eang. Trwy ddarllen yr adroddiad rhagorol hwn ar Fodel Caerdydd yn ofalus, gellir gweld pa mor gelfydd y mae’r broses o ddatblygu’r model wedi dangos gwerth pob cam, yn ogystal â phŵer y pedwar cam gyda’i gilydd.

Y darganfyddiad allweddol yng ngham un oedd nad yw mwyafrif y digwyddiadau treisgar sy’n arwain at driniaeth frys mewn ysbyty yn hysbys i’r heddlu, ac felly y gellir, trwy gyfuno data gan adrannau achosion brys a’r heddlu o ran y pwy, y pryd, y ble a’r sut mewn perthynas â digwyddiadau treisgar, gael darlun llawer mwy cywir i gyfeirio ymdrechion atal i'r mannau lle y maent yn fwyaf tebygol o fod yn effeithiol. Y datblygiadau arloesol yng ngham dau oedd dangos bod yna gysylltiad agos rhwng newidiadau mewn cyfraddau trais a digwyddiadau penodol, dyddiau’r wythnos, ac arferion lleol, megis y rheiny sy’n ymwneud â digwyddiadau chwaraeon, gweithgarwch bywyd nos, ac arferion marchnata, gwerthu ac yfed alcohol. Trwy gymharu’r ymdrechion a oedd yn bodoli ar y pryd i fynd i’r afael â thrais, roedd cam tri yn allweddol o ran dargyfeirio adnoddau prin oddi wrth ymyraethau aneffeithiol a thuag at gamau gweithredu a oedd yn targedu’r achosion a nodwyd yng ngham dau yn uniongyrchol. Bu i werthusiadau manwl o gam tri ddangos y gostyngiadau rhyfeddol yn nifer yr anafiadau cysylltiedig â thrais a’r arbedion o ran costau a gyflawnwyd trwy’r dull atal hwn sy’n cael ei lywio gan ddata. Yng ngham pedwar, cafodd Model Caerdydd ei atgynhyrchu ledled y Deyrnas Unedig, a hefyd mewn dinasoedd yn Awstralia, yr Iseldiroedd, ac UDA, ac mae awdurdodau lleol yng Ngholombia, Jamaica a De Affrica yn arbrofi gyda Model Caerdydd yn fodd o fynd i’r afael â chyfraddau eithriadol o uchel o drais yn ymwneud ag alcohol, drylliau a chyffuriau.

Mae’r rôl amlwg y gall adrannau brys ysbytai ei chwarae o ran atal trais yn cael ei hesgeuluso’n druenus yn rhan helaeth o’r byd. Ond mae gwaith arloesol Jonathan Shepherd a Grŵp Ymchwil Trais Prifysgol Caerdydd a ddisgrifir yma yn dangos nad oes angen i bethau fod felly. Dyna pam y mae Uned Atal Trais Sefydliad Iechyd y Byd, ochr yn ochr â phartneriaid atal trais byd-eang eraill, megis Centers for Disease Control and Prevention yr Unol Daleithiau, yn cymeradwyo Model Caerdydd yn gadarn ac yn annog awdurdodau lleol a chenedlaethol ym mhobman i’w roi ar waith.

Alexander Butchart, yr Uned Atal Trais, Adran Penderfynyddion Cymdeithasol Iechyd, Sefydliad Iechyd y Byd, Genefa, y Swistir

Cyflwyniad

Mae gwreiddiau Model arloesol Caerdydd ar gyfer Atal Trais yn yr aflonyddwch diwydiannol ym maes glo Swydd Efrog, y DU, ddechrau’r 1980au pan ddywedodd llawfeddyg, yn ystod rhestr lawdriniaethau yn Ysbyty Pinderfields, Wakefield, “Rydym bob amser yn gweld mwy o gleifion a fu’n destun ymosodiad (pobl a anafwyd yn ystod trais) pan fydd yna streic glowyr.”

“Mae Model Caerdydd yn defnyddio data cyfunol gan yr heddlu ac adrannau argyfwng i fesur ac atal trais. Mae'n troi data gwyliadwriaeth yn weithredu."

Sbardunodd y sylw hwn ddiddordeb Jonathan Shepherd, llawfeddyg yr ên a'r wyneb dan hyfforddiant, mewn trais, a hynny nid yn broblem i'r system gyfiawnder ond yn broblem iechyd cyhoeddus. Roedd eisoes wedi sylwi bod ychydig o dafarndai lleol yn ymddangos fel pe baent yn lleoliadau ar gyfer niferoedd anghymesur o ymosodiadau a fyddai’n arwain at lawdriniaeth frys. Ar ôl symud i Brifysgol Bryste yn rôl llawfeddyg ymgynghorol anrhydeddus gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn Ysbyty Brenhinol Bryste, daeth hyn yn destun ei ymchwil PhD (1985-1988).1 Yn thema ar gyfer un o’r penodau, cymharodd gofnodion adran argyfwng yr Ysbyty Brenhinol o’r driniaeth a roddwyd i bobl a anafwyd o ganlyniad i drais â chofnodion Heddlu Avon a Gwlad yr Haf o droseddau treisgar a ddigwyddodd yn yr un ardal o'r ddinas dros yr un cyfnod.

Roedd y canfyddiadau, a gadarnhawyd yn ddiweddarach yng Nghaerdydd ac yn Abertawe, yn syfrdanol: dim ond 23% o'r digwyddiadau a gofnodwyd yn yr adran argyfwng a ymddangosai yng nghofnodion yr heddlu.2,3 Cododd hyn y cwestiwn amlwg pam y gallai hyn fod, a’r canlyniad oedd cais llwyddiannus gan gyd-weithwyr ym maes y gyfraith ym Mhrifysgol Bryste am gyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol i ganfod yr ateb. Roedd yr astudiaeth hon yn dilyn pobl olynol a anafwyd o ganlyniad i drais, o'r adran argyfwng lle cawsant eu trin gyntaf, trwy'r system gyfiawnder. Datgelodd fod gwybodaeth yr heddlu am drais yn dibynnu bron yn llwyr ar bobl a anafwyd yn rhoi gwybod iddynt am y troseddau hyn ac, yn hollbwysig, fod llawer yn dewis peidio â rhoi gwybod iddynt. Y prif resymau dros beidio â rhoi gwybod oedd bod y bobl a anafwyd yn ofni dial petaent yn mynd at yr heddlu; nid oeddent am i neb graffu ar eu hymddygiad eu hunain; ac yn aml ni allent enwi eu hymosodwr ac felly ni allent weld beth y gallai’r heddlu ei wneud i ymateb.4,5

llaw yn dal llafn

Goblygiadau’r ymchwil

Goblygiadau cyffredinol y canfyddiadau hyn oedd y gallai data adrannau argyfwng ddarparu gwybodaeth newydd unigryw y gellid ei defnyddio i atal trais mewn modd mwy effeithiol na dulliau atal seiliedig ar ddata’r heddlu yn unig, ac y gallai’r un data hyn o adrannau argyfwng hefyd fod yn sail i ddull mesur newydd ar gyfer trais yn lleol ac yn genedlaethol. Cadwodd Dr Shepherd y goblygiadau hyn mewn cof pan symudodd i Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru (rhan o Brifysgol Caerdydd o 2004 ymlaen) yn 1991 yn rôl athro llawdriniaeth gên ac wyneb.

Yn ystod y pum mlynedd nesaf bu’n sefydlu ei adran newydd a dau grŵp ymchwil newydd, gan gynnwys Grŵp Ymchwil Trais Prifysgol Caerdydd. I archwilio dulliau atal trais amlasiantaethol yn Sir Caerdydd, aeth ati hefyd i wahodd Heddlu De Cymru, Cyngor Sir Caerdydd, yr awdurdod iechyd dosbarth lleol, a’r sefydliad trydydd sector, Cymorth i Ddioddefwyr, i anfon cynrychiolwyr i gyfarfod. Cynigiodd y dylai dulliau atal trais fod yn seiliedig nid yn unig ar gudd-wybodaeth yr heddlu – sy’n anghyflawn am na roddir gwybod iddynt am gymaint o drais difrifol – ond hefyd ar wybodaeth a gasglwyd ac a rannwyd gan adran argyfwng Ysbyty Athrofaol Cymru – yr unig adran argyfwng sy’n gwasanaethu prifddinas Cymru. Roedd y ddau ddatblygiad hyn yn rhoi dulliau atal trais ar waith o safbwynt iechyd y cyhoedd am y tro cyntaf ac, yn hollbwysig, yn cyfuno gwerthuso â hyn.

Tarddiad a datblygiad Model Caerdydd

Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf hwn o’r hyn a ddatblygodd i fod yn Fwrdd Atal Trais Caerdydd – prototeip o’r bartneriaeth diogelwch a’r Uned Lleihau Trais – ar 25 Gorffennaf 1997. Mae'r bartneriaeth hon yn parhau i fod yn ganolog i Fodel Caerdydd, ac mae’n defnyddio data cyfunol gan yr heddlu ac adrannau argyfwng i fesur ac atal trais. Mae'n troi data gwyliadwriaeth yn gamau gweithredu.6 Mae’n cynnwys swyddogion gweithredol sydd â'r awdurdod i ddefnyddio adnoddau atal, ac mae'n gweithio trwy ei asiantaethau cyfansoddol, yn bennaf Heddlu De Cymru, Cyngor Sir Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'n enghraifft o ddull iechyd cyhoeddus o atal trais.

Ar yr un pryd, ar ôl ymgais ofer i ennyn diddordeb y gweinidog dros yr heddlu yn y Swyddfa Gartref ar y pryd, cysylltwyd â’i weinidog cysgodol, yr aelod seneddol dros Dde Caerdydd a Phenarth, Alun Michael, gyda’r cynnig y dylid mabwysiadu’r dull amlasiantaeth hwn yn fwy eang, ac y dylai’r GIG ddod yn bartner o ran polisi ac ymarfer atal troseddau. Cafodd y cynnig hwn, a oedd yn gyson â chred yr Ysgrifennydd Cartref cysgodol ar y pryd, Jack Straw, fod atal troseddau yn fater rhy bwysig i’w adael yn nwylo’r heddlu yn unig, groeso cynnes. Wedi i’r llywodraeth newid yn 1997, lluniwyd Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a oedd adlewyrchu’r egwyddor hon.7 Creodd 373 o Bartneriaethau Lleihau Trosedd ac Anhrefn ledled Prydain Fawr (Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yng Nghymru ac, yn ddiweddarach, mewn mannau eraill) lle mae’r GIG yn bartner statudol, gan adlewyrchu dull Caerdydd. Tynnwyd sylw at Fodel Caerdydd yn y canllawiau i’r Ddeddf, yn enghraifft o arfer da.7

“Mae defnyddio gwybodaeth benodol a gasglwyd yn y gwasanaethau iechyd brys i dargedu dulliau atal cychwynnol yn well, [yn galluogi] gwasanaethau iechyd brys i adnabod y rhai sydd wedi’u hanafu fel y gellir atal niwed ailadroddus ... ac y gellir lleihau effeithiau trais ar iechyd meddwl ac effeithiau eraill trais”

Roedd datblygu’r dull hwn yng Nghaerdydd yn cynnwys nifer o gamau pwysig, gyda golwg ar roi pob un ar waith yn genedlaethol hefyd. Roedd sefydlu llif cynaliadwy o wybodaeth ddefnyddiol o ansawdd uchel gan adran argyfwng Ysbyty Athrofaol Cymru yn hollbwysig. I wneud hyn, cafodd meddalwedd yr adran argyfwng ei haddasu i gynnwys cyfleusterau i gofnodi amser a dyddiad y trais, yr arf a ddefnyddiwyd, nifer yr ymosodwyr, y berthynas rhwng yr anafedig a'r rhai a achosodd anaf, ac union leoliad y trais, a hynny fel mater o drefn a chan ddefnyddio cyfleuster testun rhydd. Dangosodd treial fod gofyn i dderbynyddion (a elwir yn gofrestryddion yn yr Unol Daleithiau) adrannau argyfwng gofnodi'r wybodaeth hon yn ddigidol yn gweithio'n llawer gwell na chofnodion ar bapur gan glinigwyr a oedd, beth bynnag, yn rhy brysur yn gyda’u dyletswyddau clinigol i gyflawni’r dasg ychwanegol hon.8 Daeth sicrhau bod y data hyn yn ddienw a’u rhannu fesul achos â dadansoddwyr yr awdurdodau lleol a'r heddlu, yn dasg arferol, wythnosol i uned TG y Bwrdd Iechyd, ac mae’n parhau felly hyd heddiw.

Yn dilyn hynny cafwyd grant sylweddol gan gronfa blismona’r Swyddfa Gartref i sefydlu tîm “Mynd i’r Afael â Throseddau ar y Stryd sy’n Gysylltiedig ag Alcohol” (TASC) i ganolbwyntio ar y categori trais hwn sy’n cynnwys llawer iawn o achosion9. Roedd y tîm hwn yn cynnwys dadansoddwr llawn-amser a aeth ati i ddadansoddi’r data cyfunol, nodi mannau problemus o ran trais yn y sir, a chrynhoi’r canfyddiadau a gwybodaeth allweddol arall ar gyfer y Bwrdd Atal Trais (y Bwrdd) a oedd yn gwneud penderfyniadau.10 Yn 2001 aeth Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd ati i sicrhau bod  y gwaith hwn yn waith prif ffrwd, a daeth Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais (y Model) yn ‘fusnes fel arfer’. Cafwyd cymeradwyaeth pwyllgor moeseg y GIG a’r Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer y dull hwn sy’n cael ei lywio gan ddata, wedi’i hwyluso gan nodwedd allweddol o Fodel Caerdydd, sef bod yr holl wybodaeth a gesglir yn yr adran argyfwng yn ddienw cyn iddi gael ei rhannu â dadansoddwyr a phartneriaid eraill. Nid yw'r strategaeth hon yn ymwneud â dod â rhagor o droseddwyr gerbron llys na chynyddu nifer ymchwiliadau'r heddlu; mae'n ymwneud â defnyddio gwybodaeth benodol a gasglwyd yn y gwasanaethau iechyd brys i dargedu dulliau atal cychwynnol yn well, a galluogi gwasanaethau iechyd brys i adnabod y rhai sydd wedi’u hanafu fel y gellir atal niwed ailadroddus – dull atal eilaidd o safbwynt iechyd y cyhoedd – ac y gellir lleihau effeithiau trais ar iechyd meddwl ac effeithiau eraill trais – dulliau atal trydyddol.10

Dulliau ymarferol o atal trais

Gan weithio trwy Heddlu De Cymru, cafodd llwybrau patrolio eu haddasu’n wythnosol i gynnwys mannau problemus a nodwyd gan y data cyfunol. Cafodd swyddogion heddlu eu hadleoli o faestrefi di-drosedd, fwy neu lai, i ganol y ddinas yn ystod y nos, yn rhan o'r fenter 'Caerdydd ar ôl iddi Dywyllu' sydd wedi parhau a chael ei mireinio hyd heddiw. Gan weithio yn unol â’r data a thrwy’r awdurdod lleol a Heddlu De Cymru, bu i’r Bwrdd hefyd gychwyn newidiadau o ran trwyddedu alcohol: cyfyngwyd ar yr oriau agor, collodd rhai safleoedd eu trwyddedau, yn cynnwys Bar Risa yn ardal newydd Plaza’r Mileniwm ger Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd, a chafodd amod trwyddedu ei gyflwyno ar ddiwrnodau digwyddiadau mawr (er enghraifft, diwrnodau gemau rygbi rhyngwladol), i’r perwyl mai dim ond mewn gwydr cryfach y gallai safleoedd werthu diodydd, ac, wedi hynny, dim ond mewn llestri yfed nad oeddent yn rhai gwydr. Roedd y cam hwn yn adlewyrchu canfyddiadau'r grŵp ymchwil trais mewn hap-dreial rheoledig fod gwydrau tafarnau a wnaed o wydr cryfach yn arwain at ostyngiad sylweddol yn y risg o dorri ac achosi anafiadau, ac yng nghostau adnewyddu gwydrau.11

Yn 2000, cyhoeddodd y Bwrdd restr o'r deg uchaf mewn perthynas â safleoedd trwyddedig yng Nghaerdydd, a oedd yn adlewyrchu nifer y digwyddiadau treisgar y rhoddwyd gwybod i’r adran argyfwng yr oeddent wedi digwydd yno. Ar wahân i dynnu sylw’r cyhoedd at y risgiau cymharol mewn safleoedd penodol – cam a gefnogwyd yn gryf ac yn gyhoeddus gan gwsmeriaid economi’r nos yng Nghaerdydd – ysgogodd hyn ddeiliaid trwyddedi yng Nghaerdydd i sefydlu fforwm ar y cyd i drafod materion trwyddedu yn y Sir, a hynny gyda chefnogaeth Heddlu De Cymru o'r cychwyn cyntaf. Mae cyfarfodydd y fforwm yn parhau. Mae’r strategaeth hon o enwi a chodi cywilydd wedi cael ei defnyddio gan y Bwrdd yn achlysurol ers hynny, gan gynnwys i dynnu sylw at safleoedd lle roedd alcohol yn cael ei werthu i gwsmeriaid meddw, yn ôl pob tebyg, a hynny yn ôl adroddiadau am gleifion meddw yn yr adran argyfwng, dull gweithredu a roddwyd ar waith wedi hynny yn Awstralia.12

Aeth nyrs lawn-amser ychwanegol yn yr adran argyfwng, a ariannwyd yn gyntaf gan y Swyddfa Gartref ac wedyn gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru (gweler isod), ati i graffu ar gofnodion y rhai a anafwyd o ganlyniad i drais mewn lleoliadau domestig, sef menywod yn bennaf ond nid yn unig, gan eu cefnogi a helpu i’w hamddiffyn rhag niwed ailadroddus trwy Gynadleddau Asesu Risgiau Amlasiantaeth (MARACs), llety lloches lle bo angen, ac mewn ffyrdd eraill.

Ysgogwyd llawer o ymgyrchoedd atal penodol a sefydlwyd gan y Bwrdd gan y data cyfunol. Ymhlith y rhain yr oedd gwaith ar y cyd rhwng Heddlu De Cymru ac adrannau parciau awdurdodau lleol i dorri llwyni yng Ngerddi'r Orsedd a Thiroedd y Castell yng Nghaerdydd er mwyn cynyddu gwyliadwriaeth naturiol; bu i hyn leihau trais homoffobig a thrais difrifol arall yn y lleoliadau hyn bron i ddim. Nodwyd parc yng nghymdogaeth y Tyllgoed yn lleoliad ar gyfer trais gan ieuenctid, a chafodd ei dargedu’n llwyddiannus.  Cafodd Heol Eglwys Fair – canolfan economi’r nos yng Nghaerdydd, ei gwneud yn ardal i gerddwyr yn unig pan ddaeth i’r amlwg bod cyfyngu cannoedd, weithiau miloedd, o bobl feddw, newynog i balmentydd cul, yn enwedig pan oeddent yn chwilio am drafnidiaeth adref, yn sbarduno digwyddiadau treisgar. Gosodwyd goleuadau stryd ar stryd ochr ar gyfer cerddwyr yn unig, a oedd wedi'i goleuo'n wael yn flaenorol a lle roedd clwb nos a oedd yn agor yn hwyr wedi’i leoli. Gosodwyd camera teledu cylch cyfyng ar y stryd i ddarparu gwyliadwriaeth amser real o fan problemus o ran trais nas nodwyd o'r blaen mewn rhes ynysedig o eiddo manwerthu yn ardal Tiger Bay yn y ddinas, a oedd wedi'i hailddatblygu'n llwyr erbyn hynny.

Llun stoc o'r parafeddyg sy'n gofalu am glaf

Partneriaeth â Grŵp Ymchwil Trais Prifysgol Caerdydd

Trwy gydol ei fodolaeth, mae'r Bwrdd Atal Trais wedi gweithio'n agos gyda Grŵp Ymchwil Trais Prifysgol Caerdydd13, sydd bellach yn rhan annatod o Sefydliad Ymchwil Troseddau a Diogelwch y Brifysgol14. Am ddau ddegawd, cadeiriwyd y Bwrdd a’r grŵp ymchwil, fel ei gilydd, gan Jonathan Shepherd, yr academydd clinigol a’u galwodd ynghyd ac a gyd-sylfaenodd y Sefydliad15. Mae'r berthynas agos hon wedi hwyluso’r gwaith o werthuso Model Caerdydd yn drylwyr, gwerthuso ymyraethau newydd a awgrymwyd gan y Bwrdd, trosi dulliau newydd effeithiol yn gyflym yn arferion atal, a therfynu ymyraethau nad oeddent yn gweithio.

Yn y categori olaf hwn, rhoddwyd y gorau i osod llinellau ffôn cyfrinachol, rhad ac am ddim, taflenni cyngor “Silence Hurts Too” i gleifion, a phosteri yn annog pobl a oedd wedi’u hanafu i roi gwybod i Heddlu De Cymru ac i geisio cymorth gan y sefydliad trydydd sector, Cymorth i Ddioddefwyr, ym man aros yr adran argyfwng am nad oeddent yn effeithiol. Aed ati hefyd i gyflwyno clinigau Cymorth i Ddioddefwyr a gynlluniwyd mewn amryw o ffyrdd i’r adran argyfwng, ond ychydig iawn o bobl a’u defnyddiodd, a rhoddwyd y gorau iddynt. Credwyd y byddai cynrychiolaeth o’r gwasanaeth prawf a’r farnwriaeth ar y Bwrdd Atal Trais yn cynyddu ei effeithiolrwydd, ond nid oedd hyn yn wir. Cafodd cynllun i roi arian yn ôl am ddychwelyd gwydrau, gyda’r nod o leihau argaeledd gwydrau a photeli y gellid eu defnyddio fel arfau, ei gychwyn yn y ddinas ond roedd yna ddiffyg fframwaith deddfwriaethol neu gyllid i'w gefnogi.

Ond roedd llawer o ymyraethau a gychwynnwyd gan y Bwrdd wedi gweithio, wedi’u gwreiddio yn yr egwyddorion seiliedig ar dystiolaeth fod, er enghraifft, cyfyngu ar argaeledd alcohol, plismona targededig, a lleihau argaeledd arfau (yn yr achos hwn gwydrau a photeli gwydr) yn effeithiol.16 Yn hytrach na symud y trais, canfuwyd bod gweithgarwch targededig yr heddlu yn creu ardal o ataliad o gwmpas y lleoliadau a dargedwyd.17 Roedd ymyraethau effeithiol a ddeilliodd o wybodaeth, arsylwadau a gwerthusiadau'r Grŵp Ymchwil Trais hefyd yn cynnwys gosod camerâu teledu cylch cyfyng i gwmpasu mannau problemus o ran trais a oedd yn gudd cyn hynny (gweler uchod).18 Targedodd ymgyrchoedd Heddlu De Cymru allfeydd bwyd cyflym a chlybiau nos a nodwyd yn lleoliadau trais, ac roeddent yn cynnwys lleoli cŵn canfod cyffuriau ymhlith ciwiau o bobl oedd yn ceisio mynd i mewn i glybiau nos. Sbardunwyd y strategaeth olaf gan ganfyddiadau ymchwil y grŵp, sef bod ffyrdd gwrthgymdeithasol o fyw yn cynnwys nid yn unig trais, ond hefyd camddefnyddio cyffuriau, chwarae triwant, trosedd yn ymwneud â cheir, ac ystod o ymddygiadau eraill sy’n niweidiol i iechyd.19,20,21

Dylanwadau defnyddiol ac annefnyddiol

Yn ystod dau ddegawd cyntaf Bwrdd Atal Trais Caerdydd, profodd bwysau i wyro oddi wrth ddulliau gweithredu a lywiwyd gan ddata a thystiolaeth. Mae enghreifftiau’n cynnwys pwysau gan sefydliadau a oedd am i’r prif neu’n unig ffocws fod ar fenywod a merched a oedd yn wynebu risg, yn hytrach nag ar ddynion a bechgyn hefyd sydd, fel y mae’r data’n dal i ddangos yng Nghaerdydd ac mewn mannau eraill, yn wynebu’r perygl mwyaf o gael niwed.

Mae'r Model yn dilyn egwyddorion iechyd y cyhoedd, ac mae’n berthnasol i drais sy'n effeithio ar bob grŵp oedran, y ddau ryw, a phob amgylchedd lle mae'n digwydd. Bu pwysau pellach i gopïo ymyraethau nad ydynt yn seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n cael eu rhoi ar brawf mewn mannau eraill, gyda’r rhain yn aml yn cael eu hargymell yn glir ac yn gyson. Gall brwdfrydedd a chwilfrydedd penrhydd fod yn rhwystr hefyd, er enghraifft pan awgrymir y dylid casglu rhagor o eitemau data er na ddangoswyd bod gwybodaeth o’r fath yn ddefnyddiol ar gyfer atal trais. Dysgwyd gwers bwysig arall yma: gall derbynyddion mewn adrannau argyfwng gofnodi rhywfaint o ddata ychwanegol, megis y rhai a oedd yn hanfodol ar gyfer Model Caerdydd, ond os ychwanegir rhagor eto o eitemau data daw'r fenter cofnodi data gyfan yn amhosibl mewn adran argyfwng brysur.

Mae'r Bwrdd Atal Trais amlasiantaeth a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gysylltiedig ag ef yn cynnig syniadau newydd yn gyson. Mae angen i bob cynnig ysgogi'r cwestiwn, a yw’n seiliedig ar dystiolaeth – a yw wedi cael ei brofi, ac a ganfuwyd ei fod yn effeithiol mewn o leiaf un treial dan reolaeth? Os na, caiff ei gategoreiddio’n flaenoriaeth ar gyfer ymchwil a datblygu, lle y gall y partner ymchwil – yn yr achos hwn Grŵp Ymchwil Trais Prifysgol Caerdydd – ei werthuso.

Mae’r hyn a ddysgwyd o’r Model hefyd yn dangos bod angen i grwpiau amlasiantaethol feddu ar gysylltiadau cryf â’r asiantaethau y maent yn eu cynnwys, yn anad dim fel y gellir achub y blaen ar gynigion i ddadfuddsoddi mewn swyddi sy’n allweddol i waith amlasiantaethol. Bu i doriadau yng nghyllid awdurdodau lleol yng Nghaerdydd ar ôl dirywiad economaidd 2008 arwain at fwy nag un cynnig i ddadfuddsoddi mewn swydd dadansoddwr data hollbwysig; llwyddwyd i gadw’r swydd hon trwy'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol. Yn fwy niweidiol, a hynny heb gyfeirio at y Bwrdd Atal Trais, bu i’r Ysbyty Athrofaol gael gwared ar swydd y nyrs a oedd yn gyfrifol am nodi a chefnogi pobl a anafwyd o ganlyniad i drais mewn lleoliadau domestig. Yn y pen draw, llenwyd y bwlch hwn yn y ddarpariaeth gan Gynghorydd Trais Domestig Annibynnol, a ariannwyd gan Gomisiynydd Heddlu De Cymru.

Yn parhau i fod yn allweddol i weithrediad llwyddiannus Model Caerdydd y mae bwrdd effeithiol sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol llawn cymhelliant ac sydd â’r sgiliau atal a chyfathrebu cywir, ynghyd â digon o awdurdod yn eu hasiantaethau priodol i sicrhau newid – megis adleoli adnoddau heddlu. Mae angen adlewyrchu'r rolau hyn yn swydd-ddisgrifiadau y gweithwyr proffesiynol.

Grŵp bach o bobl ifanc sy'n rhan o eilwaith

Mae angen i'r gadwyn cyflenwi data fod yn gryf hefyd; os bydd derbynyddion adrannau argyfwng, swyddog TG y GIG sy'n rhannu data’r adran ac yn sicrhau eu bod yn ddienw, neu'r dadansoddwr data yn colli cymhelliant, neu os na ellir cyflogi rhywun yn eu lle, yna bydd y gadwyn yn torri. Yng Nghaerdydd, cafodd gweithred y Prif Gwnstabl o gyflwyno gwobr diogelwch cymunedol i uwch-dderbynnydd yr adran argyfwng ei gwerthfawrogi’n fawr, a bu hyn yn gymhelliant iddi hi a’i thîm am flynyddoedd lawer. Mae angen dulliau dethol gofalus, yn cynnwys pan fydd aelodau o’r bwrdd yn cael eu dyrchafu neu eu lleoli yn rhywle arall, neu pan fyddant yn ymddeol. Mae uwch-arweinyddiaeth barhaus yn bwysig.  Gellir ennyn diddordeb parhaus yr asiantaethau allweddol a gynrychiolir ar fwrdd atal trais, boed ar lefel dinas neu ranbarth, os byddant yn cwrdd yn eu gwahanol bencadlysoedd yn eu tro – yn Neuadd y Sir, yng Ngorsaf Ganolog yr Heddlu, ac yn yr Ysbyty Athrofaol lle mae’r brif adran argyfwng wedi’i lleoli, er enghraifft.

Mae angen hyblygrwydd i adlewyrchu'r angen i atal trais rhag effeithio ar bob grŵp oedran, ynghyd ag ymddangosiad asiantaethau newydd a chanfyddiadau ymchwil newydd. Er enghraifft, mewn ymateb i archwiliad o ymatebion y Bwrdd Iechyd o ran diogelu plant a oedd wedi rhoi gwybod am anafiadau o ganlyniad i drais, ehangwyd gwaith bwrdd atal Caerdydd i'r sector addysg.22 Aeth y Bwrdd ati hefyd i recriwtio rheolwr cynllun bugeiliaid stryd Caerdydd, gyda'i doreth o wirfoddolwyr eglwysig – “gwarcheidwaid medrus” mewn troseddeg23 – ar strydoedd canol y ddinas ar benwythnosau, i gynorthwyo ac amddiffyn pobl agored i niwed. Roedd ychwanegu cynrychiolydd o dîm y Comisiynydd yn ddefnyddiol pan fu i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd weithredu’r Model ledled ardal Heddlu De Cymru yn 2012. Mae gweithredu'r Model mewn gwledydd eraill – gweler isod – hefyd yn gofyn am amrywiad fel ei fod yn cyd-fynd ag amgylchiadau cenedlaethol a lleol.

Gwerthuso Model Caerdydd: a yw’n effeithiol ac yn fuddiol o ran y gost?

Wedi'u hariannu gan grantiau yn bennaf gan Swyddfa Cymru ar gyfer Ymchwil a Datblygu (sef cynllun Ymchwil a Datblygu y GIG yng Nghymru ar y pryd), dangosodd gwerthusiadau fod y dull newydd hwn yn effeithiol. Er enghraifft, pan oedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn ymwneud â thargedu, bu i lefelau trais mewn safleoedd trwyddedig ostwng yn sylweddol o gymharu â phan nad oedd y GIG yn gysylltiedig.24 Roedd data 'achosion o glwyfo' iQuanta y Swyddfa Gartref, y mae'r Bwrdd Atal Trais yn eu defnyddio i fonitro cynnydd, yn dangos bod Caerdydd yn dod yn fwy diogel yn gyson ymhlith ei theulu o 14 o ddinasoedd “mwyaf tebyg” dynodedig y Swyddfa Gartref yng Nghymru a Lloegr. Yn 2007, Caerdydd oedd y ddinas fwyaf diogel yn ei theulu, yn ôl y mesur hwn.25

Yn fwyaf argyhoeddiadol, mae adolygiad systematig o werthusiadau o’r Model gan academyddion iechyd y cyhoedd ym Mhrifysgol Deakin, Awstralia26, ynghyd â meta-ddadansoddiad dan arweiniad academyddion iechyd y cyhoedd ym Mhrifysgol Cape Town, De Affrica27, yn darparu tystiolaeth bod y dull hwn yn effeithiol. Daeth adolygiad Prifysgol Deakin o naw gwerthusiad i’r casgliad canlynol:

“Cofnododd pob astudiaeth a geisiodd fesur effeithiolrwydd ymyraethau ostyngiadau sylweddol yn nifer yr ymosodiadau a nifer yr unigolion a fynychodd yr adran argyfwng ar ôl yr ymyrraeth, gydag un yn nodi nad fu unrhyw newid. Bach iawn oedd y pryderon ynghylch dichonoldeb logistaidd negyddol, a’r consensws ymhlith yr awduron oedd y gallai protocolau rhannu data a phartneriaethau gael eu rhoi ar waith yn hawdd yn systemau brysbennu adrannau argyfwng modern, a hynny gyda chyn lleied â phosibl o gostau, baich ar lwyth gwaith y staff, effaith ar ddiogelwch, gwasanaeth ac anhysbysrwydd cleifion, neu risg o ddadleoli’r niwed, neu gynnydd yn hyd arhosiad cleifion.”26

Daeth y meta-ddadansoddiad o werthusiadau o’r model (a elwid gan yr awduron yn “systemau gwyliadwriaeth anafiadau (ISS) sy’n mynd i’r afael ag atal trais”), a arweiniwyd gan Brifysgol Cape Town, i’r casgliad bod: “... cyflwyno ISS wedi dangos canlyniadau sylweddol o ran lleihau ymosodiadau (cymhareb cyfradd y digwyddiadau=0.80; 95% CI 0.71 i 0.91).27

Daeth tystiolaeth bellach o effeithiolrwydd o ddata ar laddiadau a gasglwyd yn annibynnol gan Manuel Eisner, athro troseddeg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae’r graff yn Ffigur 1 yn dangos bod lefelau lladdiadau wedi gostwng yn ystod y cyfnod pan roddwyd Model Caerdydd ar waith yng Nghaerdydd, tra bo lefelau lladdiadau wedi codi yn Birmingham, Llundain, Leeds a Chaeredin.30

Astudiaeth arbrofol a dadansoddiad cyfres amser o Fodel Caerdydd ar gyfer Atal Trais28

Y lleoliad

Caerdydd, Cymru, ac 14 o ddinasoedd cymharol a ddynodwyd yn “fwyaf tebyg” gan y Swyddfa Gartref yng Nghymru a Lloegr.

Ymyrraeth

Ar ôl cyfnod datblygu o 33 mis, cafodd data dienw a oedd yn berthnasol i atal trais (union leoliad y trais, yr amser, y diwrnodau a’r arfau) gan gleifion a fynychodd adrannau achosion brys yng Nghaerdydd ac a adroddodd am anafiadau o ganlyniad i drais, eu rhannu dros gyfnod o 51 mis â’r heddlu a phartneriaid awdurdodau lleol, a’u defnyddio i dargedu adnoddau ar gyfer atal trais.

Prif fesurau’r canlyniadau

Cofnodion y gwasanaeth iechyd o dderbyniadau i'r ysbyty yn ymwneud â thrais, a chofnodion yr heddlu o anafiadau ac ymosodiadau llai difrifol yng Nghaerdydd a dinasoedd eraill ar ôl addasu ar gyfer ffactorau drysu posibl.

Canlyniadau

Roedd rhannu a defnyddio gwybodaeth yn gysylltiedig â gostyngiad sylweddol ac arwyddocaol mewn derbyniadau i’r ysbyty a oedd yn ymwneud â thrais. Yn y ddinas ymyrryd (Caerdydd) gostyngodd y cyfraddau o saith i bump y mis fesul 100 000 o’r boblogaeth o gymharu â chynnydd o bump i wyth mewn dinasoedd cymharol (cymhareb cyfradd y digwyddiadau wedi’i haddasu 0.58, cyfwng hyder 95% 0.49 i 0.69). Newidiodd cyfradd gyfartalog yr anafiadau a gofnodwyd gan yr heddlu o 54 i 82 y mis fesul 100 000 o'r boblogaeth yng Nghaerdydd o gymharu â chynnydd o 54 i 114 mewn dinasoedd cymharol (cymhareb cyfradd y digwyddiadau wedi'i haddasu 0.68, 0.61 i 0.75). Roedd yna gynnydd sylweddol yn nifer yr ymosodiadau llai difrifol a gofnodwyd gan yr heddlu, o 15 i 20 y mis fesul 100 000 o’r boblogaeth yng Nghaerdydd o gymharu â gostyngiad o 42 i 33 mewn dinasoedd cymharol (cymhareb cyfradd y digwyddiadau wedi’i haddasu 1.38, 1.13 i 1.70).

Casgliad

Bu i bartneriaeth rhannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau iechyd, yr heddlu, a llywodraeth leol yng Nghaerdydd, Cymru, newid y strategaeth blismona a strategaethau eraill i atal trais yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd gan gleifion a gafodd driniaeth mewn adrannau achosion brys ar ôl cael anaf o ganlyniad i drais. Arweiniodd yr ymyrraeth hon at ostyngiad sylweddol yn nifer yr anafiadau treisgar difrifol, ac roedd yn gysylltiedig â chynnydd yng nghofnodion yr heddlu o fân ymosodiadau yng Nghaerdydd o gymharu â dinasoedd tebyg yng Nghymru a Lloegr lle nad oedd yr ymyrraeth hon yn cael ei gweithredu.28

Dau heddweision

Dadansoddiad cost a budd o Fodel Caerdydd ar gyfer Atal Trais29

Canlyniadau

Roedd yr arfer o rannu a defnyddio gwybodaeth ddienw wedi arwain at ostyngiad yn nifer yr achosion o glwyfo a gofnodwyd gan yr heddlu a berodd i gostau economaidd a chymdeithasol trais ostwng £6.9 miliwn yn 2007 o gymharu â’r costau y byddai’r ddinas dan sylw, Caerdydd, y DU, wedi’u hwynebu yn absenoldeb y rhaglen. Mae hyn yn cynnwys gostyngiad gros o £1.25 miliwn yn y gost i’r gwasanaeth iechyd ac £1.62 miliwn yn y gost i’r system cyfiawnder troseddol yn 2007. Mewn cyferbyniad, roedd y costau a oedd yn gysylltiedig â’r rhaglen yn gymedrol: roedd y costau sefydlu o ran addasu meddalwedd a strategaethau atal yn £107,769, ac amcangyfrifwyd bod costau gweithredu blynyddol y system yn £210,433 (punt y DU 2003). Cymhareb gronnol y budd cymdeithasol i’r gost ar gyfer y rhaglen o 2003 i 2007 oedd £82 mewn buddion am bob punt a wariwyd ar y rhaglen, gan gynnwys cymhareb y budd i’r gost o 14.80 ar gyfer y gwasanaeth iechyd ac 19.1 ar gyfer y system cyfiawnder troseddol. Mae pob un o’r cymarebau hyn o ran y budd i’r gost yn fwy nag 1 ar draws dewis eang o ddadansoddiadau.

Casgliad

Arweiniodd partneriaeth rhannu gwybodaeth effeithiol rhwng gwasanaethau iechyd, yr heddlu a llywodraeth leol yng Nghaerdydd, y DU, at arbed costau sylweddol i’r gwasanaeth iechyd a’r system cyfiawnder troseddol o gymharu ag 14 o ddinasoedd eraill yng Nghymru a Lloegr a ddynodwyd yn rhai tebyg gan lywodraeth y DU.29

Ffigur 1: Cyfraddau lladdiadau yn ninasoedd mawr y DU
Gweithredu Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais yn y DU

Gweithredu Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais yn y DU

Bron ers cychwyn Model Caerdydd ddiwedd y 1990au, roedd heddluoedd, dinasoedd a rhanbarthau mewn mannau eraill yn y DU yn dangos diddordeb ynddo.

Roedd y diddordeb hwn yn adlewyrchu cysylltiadau â rhwydweithiau cenedlaethol o heddluoedd, awdurdodau lleol ac arbenigeddau meddygol perthnasol, yn enwedig meddygaeth frys; cyhoeddi gwerthusiadau gan Grŵp Ymchwil Trais Prifysgol Caerdydd; a chysylltiadau â llywodraeth genedlaethol, yn enwedig â Swyddfa Gartref y DU. Roedd y mabwysiadwyr cynnar yn cynnwys Heddlu Cilgwri/Glannau Mersi, Heddlu Glasgow/Strathclyde, Cwnstabliaeth Caergrawnt/Sir Gaergrawnt, a Swyddfa’r Llywodraeth ar gyfer y De-ddwyrain (GOSE), fel yr oedd ar y pryd, a fabwysiadodd y model ddechrau’r 21ain ganrif. Dangosodd llywodraeth genedlaethol ddiddordeb hefyd, a hynny gyntaf yn 1996-97. Ymwelodd yr Ysgrifenyddion Cartref Jack Straw, Charles Clarke ac Alan Johnson â Bwrdd Atal Trais Caerdydd, fel y gwnaeth y Twrnai Cyffredinol, Patricia Scotland. Cymerodd cadeirydd y bwrdd ran yn uwchgynadleddau Stryd Downing y Prif Weinidog ar Drais Ieuenctid (2000) ac, yn dilyn cynnydd sydyn mewn lladdiadau a throseddau’n ymwneud â chyllyll yng Nghymru a Lloegr, Trais Difrifol (2019). O 2000 ymlaen, roedd gan dîm arolwg troseddu y Swyddfa Gartref ddiddordeb yn y defnydd o ddata adrannau argyfwng yn fesur o drais, fel y cynigiwyd gan gadeirydd y bwrdd, a dechreuodd grwpiau llywodraeth a oedd yn pryderu ynghylch trais domestig archwilio sut y gallai'r Model helpu i nodi a diogelu'r rheiny a oedd mewn perygl. Gan ddechrau yn 2006, roedd y Model yn destun cyfres o weithdai hyfforddi ar gyfer ymarferwyr perthnasol, personél partneriaethau diogelwch cymunedol, a dadansoddwyr ledled Cymru, a drefnwyd gan gyfarwyddiaeth diogelwch cymunedol Llywodraeth Cynulliad Cymru, fel yr oedd ar y pryd. Yn 2007, cafodd Model Caerdydd ei gynnwys yn Strategaeth Alcohol ddiwygiedig llywodraeth y DU, “Safe Sensible Social”.31

Cafodd gweithredu’r Model ledled y DU ei gynnwys ym maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol cyn Etholiad Cyffredinol 2010. O ganlyniad, bu i’r glymblaid newydd rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol ei gynnwys yn ei rhaglen lywodraethu. Arweiniodd hyn at sefydlu grŵp rhannu gwybodaeth trawslywodraethol a leolwyd yn yr Adran Iechyd, fel yr oedd ar y pryd32; safon gwybodaeth newydd, sef Rhannu Gwybodaeth i Fynd i'r Afael â Thrais (ISB 1594), a gyhoeddwyd gan GIG Digidol ac a oedd yn codeiddio eitemau data Model Caerdydd33; gorfodaeth i Ymddiriedolaethau Ysbytai’r GIG yn Lloegr gasglu data; a dau archwiliad gweithredu yng Nghymru a Lloegr34. Dangosodd yr ail o’r archwiliadau hyn fod 60% o Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol wedi gweithredu’r Model, i ryw raddau o leiaf, erbyn 2013.34

Fodd bynnag, bu i’r dirywiad economaidd o 2008 ymlaen, ynghyd â rhaglenni arbed costau dilynol awdurdodau lleol a gwasanaethau heddlu leihau'r gallu i gynnal trefniadau amlasiantaethol i atal trais. Yng Nghaerdydd, diddymwyd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol gan adael fawr ddim heblaw am ei henw, a chafodd y staff eu hadleoli neu eu diswyddo. Mewn mannau eraill, gwnaed heb lawer o ddadansoddwyr yr awdurdodau lleol a’r heddlu, gan leihau’r gallu ar gyfer trefniadau atal trais targededig, seiliedig ar ddata. Yn wahanol i'r GIG, a oedd yn destun gwell amddiffyniad, lle mae llawdriniaeth dargededig, er enghraifft, yn dibynnu ar ddelweddau o ansawdd uchel ac ymchwiliadau eraill, ni ystyriwyd bod dadansoddi data yn hanfodol i blismona targededig a diogelwch cymunedol35. Efallai nad yw hyn yn syndod gan fod Arolygon Troseddau blynyddol olynol o Gymru a Lloegr erbyn hynny yn dangos gostyngiadau flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn troseddau treisgar – tystiolaeth a ategwyd gan arolygon blynyddol y Grŵp Ymchwil Trais o nifer y derbyniadau i adrannau argyfwng mewn perthynas â thrais36. Fodd bynnag, roedd y cynnydd yn nifer y lladdiadau a’r trais yn ymwneud â chyllyll ganol y 2010au yn dangos bod angen ailfuddsoddi ar frys.

Yn 2017, cafodd eitemau data Model Caerdydd (Safon Gwybodaeth 1594) eu hymgorffori yn y Set Ddata Gofal Brys (ECDS) newydd a roddwyd ar waith ym mhob adran argyfwng yn Lloegr37. Mewn datblygiad pellach, yn 2020, cafodd maes testun rhydd ei gynnwys yn y set ddata genedlaethol hon i hwyluso’r gwaith o gofnodi union leoliadau trais – cam hanfodol bwysig sy’n hwyluso’r trefniadau atal targededig, tra ymatebol y mae Model Caerdydd yn eu darparu.

O safbwynt atal trais, nid oedd Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998 y DU, a oedd yn gorfodi dull amlasiantaeth o leihau troseddau yn gyffredinol, yn mynd yn ddigon pell. Er ei bod yn creu Partneriaethau Diogelwch Cymunedol statudol ac yn gosod sylfaen y gellid adeiladu cydweithrediad rhwng asiantaethau arni, nid oedd yn mandadu nac yn blaenoriaethu cydweithio i atal trais yn benodol.

Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, yn 2019, aeth llywodraeth y DU, a oedd yn dibynnu’n helaeth ar dystiolaeth gyhoeddedig o effeithiolrwydd Model Caerdydd a’i fudd mewn perthynas â chost, ati i gyhoeddi ei hasesiad o effaith deddfwriaeth newydd bosibl (“mesurau iechyd y cyhoedd”38) a gynlluniwyd i fandadu cydweithredu ar gyfer atal trais. Amcangyfrifwyd bod yr effaith hon yn sylweddol. Rhagwelwyd y byddai’r buddion yn cynnwys arbed costau ar draws gwasanaethau cyhoeddus “gwerth £858 miliwn dros 10 mlynedd, sy’n cyfateb i ostyngiad o tua 20 lladdiad y flwyddyn, pe bai dim ond pump y cant o’r partneriaethau diogelwch cymunedol yn gweithredu Model Caerdydd”. Perswadiodd yr asesiad hwn lywodraeth y DU i ddeddfu i gyflwyno dyletswydd trais difrifol newydd i awdurdodau penodol – llywodraeth leol, yr heddlu, y GIG, ac awdurdodau eraill – gydweithio i atal trais difrifol. Mae’r ddyletswydd newydd hon wedi’i chynnwys ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd a fydd, ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, yn dod yn gyfraith ganol 2022. Yng ngeiriau gweinidog llywodraeth y DU, Rachel Maclean, “Mae’r VRU [Uned Lleihau Trais} yn cytuno ar ymatebion amlasiantaeth i drais difrifol yn seiliedig ar ddata a rennir, gan efelychu Model Caerdydd.”

Yn 2019, aeth Swyddfa Gartref y DU ati hefyd i ariannu 18 o Unedau Lleihau Trais newydd (Uned Atal Trais (VPU) yng Nghymru) mewn ardaloedd heddluoedd lle roedd trais difrifol yn fwyaf cyffredin39. Yn seiliedig ar y cysyniad a nodwyd gan Jonathan Shepherd a David Farrington yn 1993 bod angen mynd i’r afael â thrais fel mater iechyd cyhoeddus40, cysyniad a fabwysiadwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd yn ei Adroddiad ar Drais ac Iechyd y Byd yn 2002, mae Unedau Lleihau Trais y DU yn mabwysiadu’r ymagwedd hon at atal trais.41,42

Mesur trais

Gan sylweddoli y gallai data Model Caerdydd fod yn ddull newydd o fesur trais, yn ogystal ag yn ffordd newydd o’i atal, aeth Jonathan Shepherd, yn ei waith gwreiddiol ym Mryste, ati i gymharu tueddiadau a ddeilliai o ddata yr heddlu ac adrannau argyfwng43. O’r cychwyn cyntaf, mae bwrdd atal trais Caerdydd wedi defnyddio data Model Caerdydd i fonitro cynnydd. Yn 2001, roedd tua 80 o bobl yr wythnos yn mynd i’r adrannau argyfwng yn y ddinas o ganlyniad i achosion yn ymwneud â thrais; erbyn 2018 roedd y nifer wedi gostwng i tua 35/wythnos (gweler Ffigur 2).

Ffigur 2: Tueddiadau mewn trais difrifol yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru 2000-2022
Ffigur 2: Tueddiadau mewn trais difrifol yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru 2000-2022

Datgelodd y data hyn hefyd dueddiadau mewn trais difrifol yn y ddinas yn ystod y cyfyngiadau symud a chyfyngiadau eraill a osodwyd yn ystod epidemig COVID-19 44. Roedd y rhain yn cynnwys gostyngiadau sylweddol mewn trais y tu allan i’r cartref, dim newid yn y lefelau trais yn y cartref neu drais lle defnyddiwyd arfau, llai o risg o drais lle câi plant eu hanafu, a gostyngiadau sylweddol yn y risg o anafiadau i wrywod ond dim newid sylweddol yn achos menywod. Dychwelodd y lefelau trais i lefelau cyn-COVID pan godwyd y cyfyngiadau, er i’r broses o ailagor ysgolion gael ei chysylltu â brig dros dro mewn trais a oedd yn effeithio ar blant, gan adlewyrchu drwgdeimlad a oedd yn gysylltiedig â dychwelyd i drefniadau arferol yr ysgolion.

Ffigur 3: Tueddiadau mewn trais difrifol yng Nghaerdydd dros gyfnod epidemig COVID-19

Ffigur 3a: Tueddiadau cyffredinol mewn trais difrifol.
Ffigur 3a: Tueddiadau cyffredinol mewn trais difrifol.
Ffigur 3b: Tueddiadau mewn anafiadau cysylltiedig â thrais ymhlith gwrywod a benywod.
Ffigur 3b: Tueddiadau mewn anafiadau cysylltiedig â thrais ymhlith gwrywod a benywod.
 Ffigur 3c: Trais lle cafodd arfau eu defnyddio a lle na chawsant eu defnyddio i achosi anaf.
Ffigur 3c: Trais lle cafodd arfau eu defnyddio a lle na chawsant eu defnyddio i achosi anaf.
Figure 3d: Violent injury in and outside the home.
Figure 3d: Violent injury in and outside the home.
Ffigur 3e: Trais lle cafodd plant eu hanafu.
Ffigur 3e: Trais lle cafodd plant eu hanafu.

Canfu grŵp ymchwil trais Caerdydd hefyd fod y metrig newydd hwn yn ddilys ac yn ddibynadwy ar lefel genedlaethol, yng Nghymru a Lloegr36. Cafodd hwn wedyn ei ddefnyddio ochr yn ochr â data arolwg troseddu cenedlaethol a chofnodion yr heddlu er mwyn triongli mesuriadau. Mae’n bwysig cofio y canfu’r grŵp fod tueddiadau a ddeilliai o ddata adrannau argyfwng yn adlewyrchu tueddiadau a nodwyd yn Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr – gan ddilysu’r ddau fesur. Mewn cyferbyniad, cadarnhawyd nad oedd cofnodion yr heddlu, sydd bob amser yn agored i newidiadau sylweddol sy’n adlewyrchu mathau newydd o droseddau yn cael eu cyflwyno a chyfraddau adrodd a chofnodi amrywiol, yn fesur dibynadwy o drais.36

Arweiniwyd y gwaith o ddatblygu’r Rhwydwaith Cenedlaethol i Gadw Gwyliadwriaeth ar Drais (NVSN) o fwy na 120 o adrannau argyfwng yng Nghymru a Lloegr, gan Vaseekaran Sivarajasingam, y cafodd ei PhD ei oruchwylio gan Jonathan Shepherd ac sydd, er 2018, wedi bod yn athro clinigol yn y grŵp ymchwil. Sefydlwyd y rhwydwaith hwn i hwyluso arolygon blynyddol o drais difrifol o safbwynt iechyd y cyhoedd; cyhoeddir adroddiadau blynyddol yr NVSN oddi ar 2000. Yn ogystal ag egluro tueddiadau o ran trais, cafodd y mesur newydd hwn ei ddyledus barch yn ystod epidemig COVID-19 pan nad oedd y cyfweliadau wyneb yn wyneb sy’n sail i’r Arolwg Troseddu yn bosibl. Roedd data Model Caerdydd (NVSN) ar gyfer 2020 yn dangos bod cyfyngiadau COVID yn gysylltiedig â gostyngiadau sylweddol mewn trais a oedd yn ddigon difrifol i arwain at driniaeth frys mewn ysbyty yng Nghymru a Lloegr (Ffigur 4).45

Noder: Mae’r Arolwg Troseddu yn dibynnu ar gyfweliadau wyneb yn wyneb, ond nid oedd yn bosibl cynnal y rhain yn ystod epidemig COVID-19. Felly, nid oedd yn bosibl llunio amcangyfrifon Arolwg Troseddu ar gyfer 2020.

Ffigur 4: Tueddiadau mewn trais yng Nghymru a Lloegr yn ôl data adrannau argyfwng (Model Caerdydd) a data o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW).
Ffigur 4: Tueddiadau mewn trais yng Nghymru a Lloegr yn ôl data adrannau argyfwng (Model Caerdydd) a data o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW).

Astudiaeth Achos: Model Caerdydd, Llundain

Yn Sesiwn Holi Maer Llundain ar 17 Mawrth 2010, gofynnodd Aelod Cynulliad Llundain, Dee Doocey, i Boris Johnson, a oedd yn cefnogi “defnyddio Model Caerdydd, fel y’i gelwir, i fynd i’r afael â throseddau’n ymwneud â chyllyll, a ddatblygwyd gan yr Athro Jonathan Shepherd, lle mae adrannau damweiniau ac achosion brys yn casglu data dienw ar union leoliad ac amser digwyddiadau treisgar lle ceir troseddau’n ymwneud â chyllyll, gyda'r data wedyn yn cael eu rhannu â'r bartneriaeth lleihau trosedd ac anhrefn? Os felly, pa gamau yr ydych wedi’u cymryd i annog mwy o ddefnydd ohono ledled Llundain gyfan?”46

Ysgogodd hyn gais llwyddiannus gan Swyddfa'r Maer ar gyfer Plismona a Throseddu (MOPAC) i'r Swyddfa Gartref am gyllid i gefnogi’r gwaith o weithredu'r Model ledled Llundain. O 2011 ymlaen, canolbwyntiodd un o aelodau Cynulliad Llundain, Caroline Pidgeon, ar yr achos hwn a gofynnodd gyfres o gwestiynau manwl i’r Maer ynglŷn â gweithredu.47 Bu i’r fenter “Rhannu Gwybodaeth i Fynd i’r Afael â Thrais” (ISTV – Model Caerdydd) arwain at bob un o’r 29 o adrannau argyfwng yn Llundain yn casglu ac yn rhannu data Model Caerdydd â thîm canolog Ystadegau Diogel Awdurdod Llundain Fwyaf (GLA) erbyn 2019.48 Mae cytundeb rhannu gwybodaeth rhwng yr Heddlu Metropolitanaidd a’r GLA yn cefnogi’r defnydd gweithredol o’r data hyn ar gyfer plismona targededig.

Mae enghraifft o’r problemau a all godi wrth weithredu’r Model yn ymwneud ag Ysbyty St George, prif ganolfan drawma y GIG sy’n gwasanaethu De-orllewin Llundain. Yma, yn 2018, daeth rheolwr data â phroses rhannu data Model Caerdydd i ben oherwydd, er gwaethaf cymeradwyaeth y Comisiynydd Gwybodaeth a deddfwriaeth a oedd yn caniatáu rhannu data ar gyfer atal troseddau, roedd yn pryderu efallai na fyddai’r dull hwn yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) newydd. Gwnaed pob ymdrech i ddatrys y broblem hon ac, yn y diwedd, cysylltodd cadeirydd Bwrdd Atal Trais Caerdydd â gohebydd troseddau yr Evening Standard, Justin Davenport, a aeth ati yn ei dro i roi gwybod i Caroline Pidgeon am y pryder; dywedodd hithau ei bod yn “wirioneddol erchyll” bod gweithgarwch atal trais wedi cael ei oedi yn y modd hwn. Cyn pen wythnos o gyhoeddi'r erthygl a ddilynodd yn yr Evening Standard49, roedd trefniadau rhannu data Ysbyty St George wedi cael eu hailsefydlu. At hynny, ysgogodd hyn hefyd Ysbyty Chelsea a Westminster, a oedd yn llusgo’i draed, i ddechrau rhannu data yn unol â Model Caerdydd.

Ar hyd a lled Llundain, mae'r data hyn ar adrannau argyfwng wedi datgelu llawer o fannau problemus o ran trais a fyddai, fel arall, wedi bod yn anweledig. Roedd yn amlwg, er enghraifft, fod mapiau o’r mannau problemus o ran trais yn Tower Hamlets yn edrych yn wahanol iawn o gael eu llunio gan ddefnyddio data o adrannau argyfwng, o gymharu â mapiau a gynhyrchwyd o ddata yr Heddlu Metropolitanaidd. Yma, roedd data yr adrannau argyfwng yn dangos crynodiadau o drais o amgylch Ysbyty Brenhinol Llundain, Parc Stepney Green ac yn union i'r gorllewin o Goleg Technegol Bethnal Green; yn ôl cudd-wybodaeth yr heddlu, yr unig fan problemus amlwg oedd ar gyffordd rhwng Heolydd Whitechapel a Mile End.48 Roedd data Model Caerdydd hefyd yn dangos bod lleoliadau problemus yn amrywio yn ôl diwrnod yr wythnos. Yn fwyaf trawiadol, datgelodd y data hyn fannau cyflenwi crac am y tro cyntaf, er enghraifft yn union i’r de o Ysbyty Homerton yng Ngogledd Llundain ac i’r dwyrain o Faes Awyr Heathrow yng Ngorllewin Llundain.

Trwy weithredu’r Model yn Llundain, dangoswyd hefyd fod anafiadau o ganlyniad i fwy nag un ymosodwr yn arwydd o drais gan gangiau (mae data Model Caerdydd yn cynnwys nifer yr ymosodwyr sy’n gysylltiedig â phob digwyddiad). Mae hyn yn galluogi'r Heddlu Metropolitanaidd i adnabod trais gan gangiau yn amlach, hyd yn oed os bydd pobl anafedig yn ceisio triniaeth mewn adran argyfwng ymhell o leoliad yr ymosodiad. Mae'r Uned Integredig Gangiau Hackney yn defnyddio'r data hyn i nodi a thargedu gweithgarwch gangiau ledled y brifddinas.50

Gweithredu Model Caerdydd yn rhyngwladol

Amlygodd Sefydliad Iechyd y Byd Fodel Caerdydd yn enghraifft o arfer da gyntaf yn ei adroddiad yn 2004,  “Preventing Violence: a guide to implementing the recommendations of the World Report on Violence and Health.”42

Ac eithrio mewn lleoliadau ymchwil, lle roedd y Model wedi cael ei ddisgrifio mewn cynadleddau troseddeg ac iechyd cyhoeddus ym Mharis, Stockholm, Atlanta a dinasoedd eraill, dangoswyd y diddordeb rhyngwladol cyntaf mewn rhoi’r Model ar waith gan ddinas Milwaukee yn yr Unol Daleithiau yn 2011. Aeth yr athro mewn meddygaeth frys, Stephen Hargarten, ati i gynnull cyfres o weithdai ag awdurdodau’r ddinas, a chanlyniad hyn oedd dechrau’r broses o gasglu data Model Caerdydd yn Ysbyty Froedtert, un o ddwy ganolfan trawma i oedolion Lefel I yn nhalaith Wisconsin, ac yn Ysbyty Plant Wisconsin. Roedd darganfyddiadau o'r data hyn yn cynnwys ysgolion a pharciau ym maestref West Allis yn ardal fetropolitan Milwaukee a oedd yn fannau problemus o ran trais, lle byddai plant yn cael eu hanafu; nid oedd y rhain yn amlwg o ddata’n ymwneud â  gorfodi'r gyfraith. Mae data Model Caerdydd a gasglwyd mewn canolfannau trawma i oedolion a phlant yn yr Unol Daleithiau bellach wedi cael eu hastudio, a chanfuwyd eu bod yn ddichonadwy ac yn ymarferol.51,52

Yn 2017, cyhoeddodd y Centers for Disease Control and Prevention (CDC) yn yr Unol Daleithiau eu pecyn cymorth ar gyfer Model Caerdydd53. Cyhoeddwyd gwerthusiad ffurfiol o’r broses o ddyblygu Model Caerdydd yn Ne-ddwyrain yr Unol Daleithiau yn 201954. Yn 2020, gyda chymorth CDC, sefydlwyd Rhwydwaith yr Unol Daleithiau o ddinasoedd Model Cenedlaethol Caerdydd, sy'n gweithredu ac yn bwriadu gweithredu'r Model; mae cynrychiolwyr o’r dinasoedd, y taleithiau, prifysgolion a CDC yn yr Unol Daleithiau yn cwrdd bob dau fis.

Yn 2012, penderfynodd maer Amsterdam ar y pryd, Eberhard van der Laan, atgynhyrchu'r Model yn y ddinas, ac aeth ati i gynnull cynhadledd bord gron yn ei barlwr. Roedd y gwahoddedigion yn cynnwys prif weithredwyr yr holl ysbytai yn Amsterdam oedd ag adrannau argyfwng, prif weithredwr y darparwr yswiriant iechyd mwyaf yn yr Iseldiroedd, ac arweinwyr asiantaethau allweddol eraill. Dilynwyd hyn gan beilot, gyda'r bwriad i fabwysiadu’r Model, a ariannwyd yn rhannol gan adran cyfiawnder llywodraeth yr Iseldiroedd.59 Ymhlith yr heriau yr oedd gelyniaeth gynhenid i rannu gwybodaeth, gan gynnwys mewn deddfwriaeth. Roedd hyn yn deillio o ddioddef meddiannaeth gan bŵer tramor yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a fynnai’n ddyddiol wybodaeth bersonol am dderbyniadau i’r ysbytai gan feddygon yr ysbyty, a hynny dan gosb cael eu harestio neu waeth. Mynegwyd pryder annisgwyl gan brif weithredwyr yr ysbytai, yr oedd pob un ohonynt yn poeni am effaith atal trais ar nifer y cleifion trawma, ynghyd â’r gostyngiadau dilynol yn incwm ysbytai; cafodd hyn effaith andwyol ar eu cymhelliant i weithredu'r model. Ar y llaw arall, dywedodd y darparwr yswiriant iechyd cenedlaethol wrth y gynhadledd y byddai lleihau troseddu yn lleihau premiymau yswiriant. Dilynwyd hyn gan beilot arall yn y ddinas Brifysgol, Tilburg.

Jon Shephard yn yr Adran Frys

Wedi'u hannog gan gymeradwyaeth Sefydliad Iechyd y Byd, dilynwyd hyn gan ddiddordeb, prosiectau peilot, a gweithredu’r Model mewn gwledydd eraill, gan gynnwys yng Ngholombia yn Ne America, wedi’i ysgogi gan Dwrnai Cyffredinol y wlad; yn Nova Scotia yng Nghanada, wedi'i ysgogi gan brif swyddog meddygol y dalaith; ac yn Jamaica, wedi'i ysgogi gan gadeirydd Cynghrair Atal Trais y wlad. Wedi'i hwyluso gan y Pan American Health Organization, mae'r Model yn cael ei roi ar waith yn rhan o Gynllun Gweithredu Cenedlaethol Jamaica ar gyfer Ymateb Integredig i Blant a Thrais, 2018-2030.60

Yn nhalaith Western Cape yn Ne Affrica, dan arweiniad y llawfeddyg trawma, Andrew Nicol, a’r arbenigwr iechyd y cyhoedd, Richard Matzopoulos, y ddau yn Athrawon ym Mhrifysgol Cape Town, caiff data Model Caerdydd eu casglu yng nghanolfan trawma Ysbyty Groote Schuur a’u defnyddio gan arsyllfa anafiadau a thrais i fapio trais yn ardal fetropolitan Cape Town.27 Rhoddwyd y Model ar waith yn ysbeidiol yn ninas Paarl, sydd hefyd yn nhalaith Western Cape, gan adlewyrchu newidiadau yn arweinyddiaeth yr heddlu yno. Yn 2020 penderfynodd Cymdeithas Llywodraeth Leol De Affrica, yn gweithio gyda Sefydliad Joe Slovo, roi’r Model ar waith ledled y wlad, gan ddechrau ym mwrdeistref fetropolitan Tshwane (ardal ehangach Pretoria) lle mae’r ffocws cychwynnol ar atal trais ar sail rhywedd.61

Yn Awstralia, dan arweiniad athro iechyd y cyhoedd Prifysgol Deakin, Peter Miller, mae Model Caerdydd wedi cael ei roi ar waith yn Sydney, Melbourne, Canberra, Geelong, a Warrnambool mewn hap-dreial, “Driving change12”, lle defnyddir data o adrannau argyfwng i leihau anafiadau a thrais cysylltiedig ag alcohol. Mae’r adrannau argyfwng mewn naw ysbyty wedi cael eu rhoi mewn pum grŵp ar hap, wedi'u clystyru yn ôl daearyddiaeth ac, o 2016 ymlaen, dechreuwyd cynnal ymyriadau bob tri mis. Mae data 'diodydd diwethaf' yn ymwneud â’r alcohol a gafodd ei yfed yn y 12 awr cyn cael triniaeth yn yr adran argyfwng; y defnydd nodweddiadol o alcohol; a’r union fan lle y cafodd yr alcohol ei brynu a’i yfed, yn cael eu casglu gan nyrsys a chlinigwyr brysbennu yn yr adrannau argyfwng yn rhan o broses glinigol safonol. Rhoddir gwybodaeth a luniwyd yn unol ag egwyddorion cyf-weld ysgogiadol (“cyngor byr”) i gleifion yr adran argyfwng sy’n hunan-adrodd bod eu defnydd o alcohol yn peri risg. Mae ymyriadau iechyd y cyhoedd yn cynnwys rhannu gwybodaeth â safleoedd trwyddedig ac â'r heddlu ac asiantaethau cymunedol eraill, a’i rhyddhau i'r cyhoedd, fel y gwnaed yn achos rhestrau y '5 Uchaf' o safleoedd yng Nghaerdydd (gweler uchod). Cofnodir pryderon logistaidd a dichonolrwydd, ynghyd ag effeithiau clinigol gweithredu'r model hwn o newid systemau yng nghyd-destun Awstralia. Mae’r effaith economaidd ac adenillion o fuddsoddi yn cael eu gwerthuso mewn dadansoddiad cost a budd economaidd ffurfiol.12

Lansiwyd INSPIRE ochr yn ochr â’r Bartneriaeth Fyd-eang i Roi Terfyn ar Drais yn Erbyn Plant yn 2016, ac mae’n set o saith strategaeth seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwledydd a chymunedau sy’n gweithio i ddileu trais yn erbyn plant. Cychwynnwyd INSPIRE gan Sefydliad Iechyd y Byd, ac mae’n becyn ac arweinlyfr technegol seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gweithredu rhaglenni byd-eang cynhwysfawr, effeithiol i frwydro yn erbyn trais.  Mae Model Caerdydd yn rhan o’r strategaeth Amgylcheddau Diogel, ac mae wedi cael ei ddisgrifio a’i hyrwyddo yn nigwyddiadau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer gwledydd Affricanaidd a Nordig, a gwledydd Dwyrain Ewrop, America Ladin a De America.62

Y modd y cafodd Model Caerdydd ei allforio o Gymru a’r DU i’r Unol Daleithiau: persbectif personol

Jonathan Shepherd

"Prin yr oeddwn yn dychmygu y byddai anfon ein gwerthusiad cyhoeddedig o strategaeth atal trais newydd i ychydig o gannoedd o droseddegwyr o gwmpas y byd yn gam hanfodol tuag at ei mabwysiadu yn ffurfiol yn yr Unol Daleithiau."
Yr Athro Jonathan Shepherd

Anfonodd un derbynnydd, Robert Boruch, athro ym Mhrifysgol Pennsylvania, y gwerthusiad hwn at un o'i gyn-fyfyrwyr graddedig, Laura Leviton, a oedd ar y pryd yn Sefydliad Robert Wood Johnson (RWJF), sef sefydliad dyngarol mwyaf yr Unol Daleithiau sy'n canolbwyntio ar iechyd yn unig. Ymwelodd Dr Leviton â Chaerdydd. Dilynwyd hyn gan grant sylweddol, a ariannodd y broses o ddyblygu a gwerthuso'r Model yn Atlanta a Philadelphia. Ar hyd y ffordd, cafodd canolfan ymchwilio i anafiadau y CDC ym Milwaukee, Wisconsin, ei hariannu gan Fiwro Cymorth Cyfiawnder UDA i efelychu'r Model yno44. Wedi hynny, cynhaliwyd darlithoedd a gweithdai yn y dinasoedd hyn. Roeddwn eisoes wedi cyflwyno yn y CDC yn dilyn cyfarfodydd o Gymdeithas Troseddeg America. Roedd dyblygu'r model wedi nodi materion a oedd yn benodol i'r Unol Daleithiau, a all ddylanwadu ar y broses o’i weithredu54. Er enghraifft, er bod Caerdydd, dinas ag oddeutu hanner miliwn o bobl, yn cael ei gwasanaethu gan un adran argyfwng yn unig, mae gan ddinas o faint tebyg yn yr Unol Daleithiau nifer o adrannau argyfwng. Yn ddefnyddiol, roedd tîm Safe Stats Awdurdod Llundain Fwyaf wedi datblygu ffordd o gyfuno a dadansoddi data o safleoedd lluosog – datrysiad a oedd wedi'i deilwra ar gyfer yr Unol Daleithiau.48

Problem arall oedd bod cyfraith ffederal yn ei gwneud yn ofynnol sicrhau diogelwch ar gyfer gwybodaeth iechyd ar ffurf electronig, gan gynnwys gwybodaeth wedi'i dadbersonoli tebyg i’r hyn sy'n allweddol i Fodel Caerdydd. Yn y DU, roedd y weithred o rannu’r wybodaeth hon wedi cael ei hystyried a’i chymeradwyo gan Gomisiynwyr Gwybodaeth y DU. Roedd angen canllawiau a sicrwydd tebyg yn yr Unol Daleithiau. Cafwyd y canllawiau a’r sicrwydd hyn yn 2017 ar ffurf Pecyn Cymorth53 Model Caerdydd y CDC sy’n cynnwys canllawiau ar sefydlu’r Model ar gyfer ysbytai ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith; canllawiau ar ystyriaethau cyfreithiol, technegol ac ariannol, meithrin partneriaethau, cyfathrebu allanol a chysylltiadau â’r cyfryngau; a “rhestr wirio parodrwydd” ar gyfer dinasoedd.53 Yn ei gyflwyniad, ysgrifennodd Cyfarwyddwr y CDC, James Mercy, “Rydym yn eich annog i ddefnyddio'r deunyddiau hyn i ffurfio partneriaeth eang i atal trais yn eich cymuned”. Dyfarnwyd rhagor o grantiau yn yr Unol Daleithiau ers hynny i gefnogi’r broses o weithredu Model Caerdydd, gan gynnwys ei gymhwyso i fapio gorddosau o gyffuriau nad yw asiantaethau heblaw am y sector iechyd yn gwybod am lawer ohonynt55. Cafodd yr angen am y Model, ynghyd â’i berthnasedd, ei hybu yn yr Unol Daleithiau gan astudiaeth yn 2019 a oedd yn dangos nad yw bron 90% o’r trais sy’n arwain at driniaeth frys yn yr ysbyty yn nhalaith Georgia yn hysbys i’r heddlu56.

Adeilad Canolfan Rheoli Clefydau

“Fel yn y DU, mae straeon am gyflawniadau mewn perthynas ag atal trais yn yr Unol Daleithiau, trwy’r Model, mor rymus â’r data.”

Fel yn y DU, mae straeon am gyflawniadau mewn perthynas ag atal trais yn yr Unol Daleithiau, trwy’r Model, mor rymus â’r data. Yn Atlanta, er enghraifft, datgelodd data Model Caerdydd ganolfan siopa, gorsaf nwy a hostel pris rhesymol lle roedd yna grynodiad o drais, gan ysgogi partneriaeth Model Caerdydd i gynnwys rheolwyr o'r busnesau hyn. Fel yn y DU, mae gwersi’n cael eu dysgu am fecanweithiau atal. Mae’r rhain yn cynnwys yr atebolrwydd y naill i’r llall sy’n cael ei greu yn y byrddau amlasiantaeth sydd wrth wraidd y Model – ni chaiff atebolrwydd dros atal trais ei greu os yw’r asiantaethau’n gweithio yn eu seilos traddodiadol. Nid yw gweithio mewn seilos a'r angen am atebolrwydd yn fwy amlwg yn unman nag ym maes plismona yn yr Unol Daleithiau, lle mae 18,000 o adrannau heddlu yn gyfrifol am atal trais, gyda rhai ohonynt yn cynnwys ychydig o swyddogion yn unig; mae nifer o’r adrannau hyn yn rhai nad ydynt yn ennyn ymddiriedaeth neu’n rhai nad ystyrir eu bod yn gyfreithlon.  Argymhellodd adroddiad yn 2015 a ysgogwyd gan yr Arlywydd Obama y “Dylai asiantaethau gorfodi’r gyfraith gymryd rhan mewn dulliau tîm cymunedol, amlddisgyblaethol i gynllunio, gweithredu ac ymateb.”57 Fel yr wyf i a Steve Sumner yn CDC wedi ysgrifennu, mae Model Caerdydd yn darparu glasbrint ar gyfer gwaith tîm o’r fath58. Rwy’n ysgrifennu hwn ar wrth fy nesg yn y Sefydliad Ymchwilio i Droseddau a Diogelwch, ac mae delwedd yn dod i'r meddwl o'r arwydd ar ddrws bwyty yn Atlanta, "Cardiff Dinner", sy’n cyfeirio'r heddlu, swyddogion iechyd a gweithredwyr llywodraeth leol i'w swper ar ôl diwrnod o weithdai y CDC. Roedd hyn yn dynodi bod Model Caerdydd yn wir wedi dod yn un o allforion Cymru a’r DU."

Ysbytu ac Adeilad Meddygol

Y dyfodol

Ymhlith y rhagofynion ar gyfer gweithredu Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais a'r manteision a all ddeillio ohono, y mae ymrwymiad lleol i atal trais mewn modd cydweithredol ac uwch-arweinyddiaeth yn hynny o beth; sefydlu a chynnal continwwm o ran casglu, dadansoddi a defnyddio data Model Caerdydd, a sicrhau eu bod yn ddienw; a byrddau atal trais dinesig neu gymunedol sy'n cynnwys swyddogion gweithredol awdurdodau penodedig sy’n meddu ar yr awdurdod i weithredu ar y data yn brydlon.

Gan ystyried pob un o’r rhagofynion hyn yn ei dro, gall ymrwymiad i fesurau atal amlasiantaeth fod ar lefel ranbarthol – fel yn achos yr unedau lleihau trais yng Nghymru a Lloegr – neu ar lefel genedlaethol – fel yn Neddf Trosedd ac Anhrefn y DU a deddfwriaeth ar gyfer dyletswydd mewn perthynas â thrais difrifol. Ond mae ymrwymiad ar lefel leol, ar lefel y ddinas neu ar lefel gymunedol yn hanfodol. Yma, gall uwch-arweinyddiaeth barhaus ddeillio o unrhyw asiantaeth berthnasol, er enghraifft uwch-feddyg brys, uwch-lawfeddyg, neu uwch-feddyg iechyd y cyhoedd; uwch-swyddog yr heddlu; neu uwch-swyddog awdurdod lleol (bwrdeistref).

Gall cynnwys eitemau Model Caerdydd ym meddalwedd adrannau argyfwng fel y gellir cynnal y broses o gasglu data olygu comisiynu newidiadau o’r fath, gweithredu setiau data newydd, er enghraifft y Set Ddata Gofal Brys yn y DU, neu fanteisio ar arbenigedd TG yn lleol, mewn ysbytai acíwt neu mewn canolfannau trawma, ynghyd â’r cyfleuster i wneud y newidiadau hyn. Mae cofnodi data Model Caerdydd yn barhaus yn golygu hyfforddi derbynyddion (cofrestrydd neu nyrs yn yr Unol Daleithiau) a chymell perthnasoedd o wythnos i wythnos ag arweinwyr atal trais mewn ysbytai – yn ddelfrydol meddyg brys yn yr adran argyfwng. Gan fod holl ddata Model Caerdydd fel arfer ar ffurf electronig, gall y gwaith o sicrhau bod y data’n ddienw ac yn cael eu rhannu gael ei wneud gan staff TG yr ysbyty neu’r ganolfan drawma, a hynny ymhell o’r adran argyfwng – mae hon yn dasg arferol yng Nghaerdydd ac mewn mannau eraill yn y DU.

Mae dadansoddi data yn gofyn am sgiliau mapio a sgiliau data eraill, ynghyd â'r gallu i gyfathrebu'n rheolaidd ac mewn modd effeithiol â'r bwrdd atal trais lleol ar y naill law, ac â chofnodwyr data yn yr adran argyfwng ar y llaw arall. Yng Nghaerdydd, caiff data eu rhannu’n wythnosol. Mae pob cyswllt yn y gadwyn ddata hon yn bwysig – mae angen rheoli’r perthnasoedd rhyngddynt – fel yn unrhyw dîm amlddisgyblaethol. Mae angen i fyrddau atal trais gwrdd yn ddigon aml i ymateb yn brydlon wrth i grynodiadau daearyddol ac amserol newydd o drais gael eu nodi o’r data. Mae dinasoedd yn ddynamig ac yn esblygu’n barhaus. Gellir defnyddio data Model Caerdydd ar gyfer asesiadau strategol, ond eu grym gwirioneddol yw ysgogi trefniadau atal tactegol o wythnos i wythnos, o fis i fis.

Mae angen llywodraethu effeithiol, yn cynnwys ar lefel arolygiaeth genedlaethol neu wladwriaethol, ac mae angen integreiddio prosesau atal trais i mewn i’r broses o lywodraethu gwasanaethau eraill yn y ddinas neu’r gymuned. Nid oes yr un ohonynt yn bwysicach na threfniadau i gadw pobl yn ddiogel.

Fel y dengys enghreifftiau yn yr adroddiad hwn, gall cydweithredu rhwng ymarferwyr atal trais ac ymchwilwyr sydd â sgiliau meintiol ac ansoddol perthnasol fod yn ddefnyddiol iawn. Mae diddordeb mewn gwerthuso ac arian ymchwil ar gael yn gynyddol – er enghraifft gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) yn y DU. Ond nid yw cydweithredu o’r fath yn hanfodol ar gyfer atal yn lleol. Mae bod yn ffyddlon i egwyddorion ac arferion Model Caerdydd yn allweddol, gyda’r rheiny wedi'u haddasu i amgylchiadau lleol a rhanbarthol ac yn ddigon hyblyg i esblygu wrth i ganfyddiadau newydd ddod i'r amlwg.

Mae’r ffaith bod llywodraeth genedlaethol ar y naill ochr a’r llall i Fôr Iwerydd, yn ogystal â Sefydliad Iechyd y Byd, wedi mabwysiadu Model Caerdydd yn gosod y llwyfan ar gyfer ei fabwysiadu a'i ehangu ymhellach. Mae pecyn cymorth Model Caerdydd y CDC53, yn cynnwys ei restr wirio parodrwydd, yn berthnasol yn rhyngwladol.

Cyfeiriadau

1. Shepherd JP (1988). Assaults: Characteristics of Injuries and Injured. PhD thesis. University of Bristol.
2. Shepherd J P, Shapland M, Irish M, Scully C & Leslie I J (1989). Recording of violent offences by the police: An Accident and Emergency Department perspective. Medicine, Science, Law 29:251-256.
3. Sutherland I, Sivarajasingam V, Shepherd JP (2002). Recording of community violence by medical and police services. Injury Prevention 8:246-247.
4. Clarkson C, Cretney A, Davis G, Shepherd JP (1994). Assaults: the relationship between seriousness, criminalisation and punishment. Criminal Law Review, January: 4-19.
5. Cretney A, Davis G, Clarkson C & Shepherd JP (1994). Criminalising Assault: the failure of the ‚offence against society‘ model. British Journal of Criminology 34:15-26.
6. Crime and Security Research Institute. The Cardiff Model for Violence Prevention. https://www.cardiff.ac.uk/crime-security-research-institute/publications/research-briefings/the-cardiff-model
7. UK Crime and Disorder Act 1998.
8. Warburton Al, Shepherd JP (2004). Development, utilisation, and importance of accident and emergency department derived assault data in violence management. Emergency Medicine Journal, 2004, 21:473–477.
9. Maguire M, Morgan R, Nettleton H (2001). Early lessons from the crime reduction programme: Tackling Alcohol related Street Crime in Cardiff (TASC Project). Home Office Briefing Note 9/01
10. Shepherd J (2005). Victim Services in the National Health Service: combining treatment with violence prevention. Criminal Behaviour and Mental Health 15:75-80.
11. Warburton AL, Shepherd JP (2000). Effectiveness of toughened glassware in terms of reducing injury in bars. A randomised controlled trial. Injury Prevention 6:36-40.
12. Miller P, Droste N, Egerton-Warburton D, et al (2019). Driving change: A partnership study protocol using shared emergency department data to reduce alcohol‐related harm. Emergency Medicine Australasia https://doi.org/10.1111/1742-6723.13266
13. https://www.cardiff.ac.uk/violence-research-group
14. https://www.cardiff.ac.uk/crime-security-researchinstitute
15. Safe Smarter Cities. Cardiff Model 20th Anniversary. https://crimeandsecurity.org/cardiffmodel
16. Braga AA, Papachristos AV, Hureau DM (2014). The Effects of Hot Spots Policing on Crime: An Updated Systematic Review and Meta-Analysis. Justice Quarterly 31: 633-63 https://doi.org/10.1080/07418825.2012.673632
17. Weisburd D, Wyckoff LA, Ready J, et al (2006). Does crime just move around the corner? A controlled study of spatial displacement and diffusion of crime control benefits. Criminology; 44: 549-92.
18. Sivarajasingam V, Shepherd JP, Matthews K (2003). Effect of urban closed-circuit television on assault injury and violence detection. Injury Prevention 9:312-316.
19. Shepherd JP, Peak JD, Haria S, Sleeman D (1995). Characteristic illness behaviour in assault patients: DATES Syndrome. Journal of the Royal Society of Medicine; 88:85-87.
20. Shepherd JP, Farrington D P, Potts A J C (2002). Relations between offending, injury and illness. Journal of the Royal Society of Medicine 95:539-544.
21. Shepherd JP, Farrington DP, Potts AJC (2004). Impact of antisocial lifestyle on health. Journal of Public Health; 26:347-52.
22. Shepherd JP, Shepherd JP, Tuthill D, Parry B, Dowd H (2010). Audit of emergency medicine responses to children injured in violence. Emergency Medicine Journal 27: 125-128
23. Cohen L E, Felson M (1979). Social Change and Crime Rate Trends: A Routine Activity Approach. American Sociological Review;44: 588-608.
24. Warburton Al, Shepherd JP (2006). Tackling alcohol related violence in city centres: effect of emergency medicine and police intervention. Emergency Medicine Journal 23:12-17.
25. Home Office. (2007). iQuanta. London, Home Office (not released).
26. Droste N, Miller P, Baker T (2014). Emergency department data sharing to reduce alcohol-related violence: A systematic review of the feasibility and effectiveness of community-level interventions. Emergency Medicine Australasia. doi: 10.1111/1742-6723.12247
27. Jabar A, Fong F, Chavira M, et al (2019). Is the introduction of violence and injury observatories associated with a reduction in violence-related injury in adult populations? A systematic review and meta-analysis. BMJ Open 2019;9: doi:10.1136/bmjopen-2018-027977
28. Florence C, Shepherd JP, Brennan I, Simon T (2011). Effectiveness of anonymised information sharing and use in a health service, police, and local government partnership for preventing violence related injury: experimental study and time series analysis. BMJ 2011;342: d3313. doi:10.1136/bmj. d3313
29. Florence C, Shepherd JP, Brennan I, Simon T (2014). An economic evaluation of anonymised information sharing in a partnership between health services, police and local government for preventing violence-related injury. Injury Prevention; 20:108–114. doi:10.1136/injuryprev-2012-040622
30. Eisner M. Homicide rates in major UK cities. In: Shepherd JP, Avery V, Rahman S (2016). Targeted policing. Police Professional;503: 14-16
31. Department of Health and Home Office (2007). Safe, Sensible, Social. The next steps in the National Alcohol Strategy. London, DH and Home Office.
32. Department of Health and Social Care. (2014). A&Es and police will share information to help tackle violence. Information Sharing to Tackle Violence (ISTV) will ensure A&E departments share data about attendees injured by violent crime with the police. London, DHSC.
33. NHS Digital (2014). ISB1594: Information Sharing to Tackle Violence Minimum Dataset. NHS Digital.
34. Social Care, Local Government and Care Partnerships Directorate Analytical Unit. (2015) Information Sharing to Tackle Violence: audit of progress. London: Department of Health.
35. Shepherd JP (2019). Data and Crime. The Times, July 2.
36. Sivarajasingam V, Page N, Wells J, Morgan P, Matthews K, Moore SC, Shepherd JP (2015). Trends in Violence in England and Wales 2010-2014. Journal of Epidemiology and Community Health. doi:10.1136/jech-2015-206598
37. Emergency Care Data Set (2021) NHS Digital.
38. Home Office (2019) Introducing Public Health Measures IA 2019. IA No: HO0345. London, Home Office.
39. Home Office (2019). Police granted funding for action on serious violence.
40. Shepherd JP & Farrington D P (1993). Assault as a Public Health problem. Journal of the Royal Society of Medicine 86:89-94.
41. Krug EG et al., eds. (2002). World report on violence and health. Geneva, World Health Organization.
42. World Health Organization. (2004). Preventing violence: a guide to implementing the recommendations of the World Report on Violence and Health. Geneva, World Health Organisation.
43. Shepherd JP, Pierce N X, Scully C & Leslie I J (1987). Rates of violent crime from hospital records. Lancet 8573:1470-1471.
44. Shepherd JP, Moore SC, Long A, Mercer Kollar LM, Sumner SA (2021). Association Between COVID-19 Lockdown Measures and Emergency Department Visits for Violence-Related Injuries in Cardiff, Wales. JAMA. 2021; 325:885-887.
45. Sivarajasingam V, Guan B, Page N, Moore SC, Shepherd JP (2021). Violence in England and Wales in 2020. Cardiff University. ISBN: 978-1-9995878-4-0.
46. Cardiff model in tackling knife crime. Meeting: MQT on 2010-03-17. Session date: March 17, 2010. Reference: 2010/1098. Question By: Dee Doocey.
47. Knife Crime Strategy - Information Sharing to Tackle Violence (ISTV). Meeting: MQT on 2017-08-10 ... 2017/3077. Question By: Caroline Pidgeon.
48. Shepherd JP, Avery V, Rahman S (2016). Targeted policing. Police Professional;503: 14-16.
49. Davenport J (2019). London hospitals ‘risk lives’ by not sharing anti-violence data. London: Evening Standard. 4 February.
50. Wright R. (2018). On the frontline of London’s surge in fatal gang violence: Hackney Integrated Gangs Unit is tackling violence by treating it as a public health issue. Financial Times 10 May.
51. Levas MN, Hernandez-Meier JL, Kohlbeck S, et al (2018). Integrating population health data on violence into the emergency department: a feasibility and implementation study. J Trauma Nurs 2018; 25:149–58.
52. Nguyen P, Kohlbeck SA, Levas M, et al (2022). Implementation and initial analysis of Cardiff Model data collection procedures in a level I trauma adult emergency department. BMJ Open 2022;12: e052344.
53. Centers for Disease Control and Prevention (2017). The Cardiff Violence Prevention Model Toolkit. Atlanta, CDC
54. Mercer Kollar LM, Sumner SA, Bartholow B et al (2019). Building capacity for injury prevention: a process evaluation of a replication of the Cardiff Violence Prevention Programme in the Southeastern USA. Injury Prevention. doi: 10.1136/injuryprev-2018-043127.
55. Bureau of Justice Assistance. (2016). The Cardiff Model: Strengthening Community Capacity to Reduce Violence. U.S. Department of Justice. https://bja.ojp.gov/funding/awards/2016-aj-bx-k042
56. Wu DT, Moore JC, Bowen DA, et al (2019). Proportion of Violent Injuries Unreported to Law Enforcement. JAMA Internal Medicine; 179:111-112. doi:10.1001/jamainternmed.2018.5139.
57. President’s Task Force on 21st Century Policing (2015). Final Report of the President’s Task Force on 21st Century Policing. Washington, DC: Office of Community Oriented Policing Services. https://cops.usdoj.gov/pdf/taskforce/taskforce_finalreport.pdf
58. Shepherd JP, Sumner SA (2017). Policing and Public Health—Strategies for Collaboration. JAMA; 317: 1525–1526. doi:10.1001/jama.2017.1854.
59. Draisma C, Stam C, Toet H, Blatter B (2016). Pilot ‘Preventieve aanpak geweld’ Amsterdam-Amstelland Rapport 640 Projectnummer: 10.0317.www.veiligheid.nl.
60. Violence Prevention Alliance (2019). National Plan of Action Officially Launched. The Peace Guardian; 3: October-December.
61. Cardiff University (2022). Cardiff Model Tackles South African Gender Based Violence.
62. World Health Organisation (2016). INSPIRE: seven strategies for ending violence against children. Geneva. World Health Organisation. ISBN 978 92 4 156535 6.

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais
Awdur(on):Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chuddwybodaeth
Statws y ddogfen:Cymeradwywyd