Hysbysiad preifatrwydd data ar gyfer cydweithwyr allanol Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2029
Gwybodaeth am breifatrwydd data i gydweithredwyr allanol yn ein cyflwyniad i Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2029.
Gwybodaeth am REF
Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yw system y DU ar gyfer asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU. Ei ddiben yw:
- llywio’r dyraniad o tua £2 biliwn y flwyddyn o arian cyhoeddus ar gyfer ymchwil gan bedwar corff cyllido addysg uwch yn y DU
- cynnig atebolrwydd am fuddsoddiad cyhoeddus mewn ymchwil, gan lywio penderfyniadau strategol am flaenoriaethau ymchwil cenedlaethol
- rhoi cipolwg ar iechyd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU
Cafodd ei gynnal am y tro cyntaf yn 2014 a 2021. Mae’r ymarfer nesaf wedi’i gynllunio ar gyfer 2029 a bydd yn cynnwys asesiad o effaith ehangach ymchwil prifysgolion y tu hwnt i'r byd academaidd: ar yr economi, cymdeithas, diwylliant, polisi cyhoeddus a gwasanaethau, iechyd, yr amgylchedd ac ansawdd bywyd — yn y DU ac yn rhyngwladol.
Caiff effaith ei hasesu drwy gyflwyno astudiaethau achos, sy'n disgrifio'r newidiadau neu'r buddion a ddaw yn sgîl ymchwil a wneir gan ymchwilwyr yn y sefydliad. Canfuwyd effeithiau trawiadol ar draws pob disgyblaeth yn REF 2021, a barnwyd bod 50 y cant o'r cyflwyniadau yn rhagorol.
Gweler cronfa ddata o astudiaethau achos a gyflwynwyd yn 2021
Casglu data
Rheolir y REF gan Research England, ar ran pedwar corff cyllido addysg uwch y DU. Mae Research England yn rhan o Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI), ac o dan y trefniant hwn, mae gan UKRI rôl 'rheolydd data' ar gyfer data personol a gyflwynon ni i'r REF.
Efallai eich bod chi wedi rhoi gwybodaeth sy’n ymwneud ag allbynnau cyhoeddedig, ar gyfer un neu fwy o astudiaethau achos effaith neu i gefnogi datganiadau pobl, diwylliant ac amgylchedd yn rhan o gyflwyniad Prifysgol Caerdydd i REF 2029. Yn 2028 byddwn ni’n cyflwyno gwybodaeth i UKRI at ddiben REF 2029. Ni fydd y wybodaeth ar ffurf wedi'i chodio ac efallai y bydd eich enw - a manylion fel teitl eich swydd a'ch cysylltiad sefydliadol - yn cael eu darparu yn y datganiadau naratif hyn. Rydyn ni’n cyfeirio at y wybodaeth hon amdanoch chi fel 'eich data' a byddwn yn prosesu'r data hwn o dan y sail tasgau cyhoeddus a nodir yn y ddeddfwriaeth Diogelu Data. Lle bynnag y bo'n bosibl, bydd Prifysgol Caerdydd yn ymdrechu i sicrhau nad yw gwybodaeth bersonol neu wybodaeth adnabod, heblaw enwau a theitlau swyddi, yn cael eu cynnwys mewn datganiad.
Bydd rhagor o wybodaeth am y data sy’n cael ei gasglu ar gyfer ymarferiad REF 2029 yn cael ei gyhoeddi ar wefan y REF a byddwn ni’n cysylltu ag ef o’r dudalen hon pan fydd ar gael.
Rhannu gwybodaeth amdanoch chi
Gall UKRI drosglwyddo eich data, neu rannau ohono, i unrhyw un o'r sefydliadau canlynol sydd ei angen i lywio dosbarthiad dethol arian cyhoeddus ar gyfer ymchwil ac i gyflawni eu swyddogaethau statudol sy'n gysylltiedig â chyllido addysg uwch:
- Gwefan Adran yr Economi, Gogledd Iwerddon
- Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Cymru (Medr)
- Cyngor Cyllido'r Alban
Bydd UKRI a'r sefydliadau a restrir uchod yn defnyddio'r wybodaeth i ddadansoddi a monitro REF 2029. Gall hyn arwain at ryddhau gwybodaeth i ddefnyddwyr eraill gan gynnwys ymchwilwyr academaidd neu ymgynghorwyr (a gomisiynodd y cyrff cyllido), i gynnal ymchwil neu ddadansoddi, yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) (Rheoliad (UE) 2016/679). Pan fydd gwybodaeth na chafodd ei chyhoeddi o'r blaen yn cael ei rhyddhau i drydydd parti, bydd hyn yn ddienw lle bo hynny'n ymarferol.
Bydd UKRI yn mynnu y bydd unrhyw un sydd â mynediad at eich data, a gedwir yng nghofnodion UKRI, ar bapur neu'n electronig, yn parchu ei gyfrinachedd ac yn ei brosesu yn unol â chyfarwyddiadau a gyhoeddwyd at y dibenion a bennodd UKRI yn unig.
Bydd rhannau o'ch data yn cael eu trosglwyddo i baneli arbenigol y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil a phaneli cynghori (y mae ei aelodau'n annibynnol ar UKRI) er mwyn cynnal gwerthusiad systematig o gyflwyniadau, yn unol â meini prawf a dulliau a bennwyd ymlaen llaw. Mae pob aelod o'r panel yn rhwym wrth drefniadau cyfrinachedd.
Cyhoeddi gwybodaeth am eich rhan chi yn ein cyflwyniad
Bydd canlyniadau'r ymarfer asesu yn cael eu cyhoeddi gan UKRI, ar ran pedwar corff cyllido addysg uwch y DU, yn 2030.
Bydd y rhannau hynny o gyflwyniadau sy'n cynnwys data ffeithiol a gwybodaeth destunol am weithgarwch ymchwil hefyd yn cael eu cyhoeddi gan UKRI, ar ran y pedwar corff cyllido addysg uwch yn y DU, a byddan nhw ar gael ar-lein. Mae gwybodaeth gyhoeddedig yn debygol o gynnwys gwybodaeth destunol gan gynnwys astudiaethau achos effaith y gallech gael eich cyfeirio atyn nhw. Efallai y bydd eich enw a theitl eich swydd yn cael eu cynnwys yn y wybodaeth destunol hon a byddan nhw’n cael eu prosesu o dan y sail tasg gyhoeddus a nodir yn y ddeddfwriaeth Diogelu Data.
Lle bynnag y bo'n bosibl, bydd Prifysgol Caerdydd yn ymdrechu i sicrhau nad yw gwybodaeth bersonol neu wybodaeth adnabod, heblaw enwau a theitlau swyddi, yn cael eu cynnwys mewn datganiad. Gan gyfeirio at honiadau sy'n cael eu gwneud sy'n ymwneud ag arwyddocâd diwydiannol allbwn, byddwn yn gyffredinol yn cyhoeddi sefyllfa a chwmni unigolyn oni bai gofynnir i ni beidio â gwneud hynny. Bydd manylion personol eraill fel arfer yn cael eu dileu.
Cael gafael ar eich data personol
O dan Ddeddf Diogelu Data 2018 a'r GDPR, mae gennych hawl i ofyn am gopi o unrhyw wybodaeth bersonol y mae UKRI yn ei chadw amdanoch chi. Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf a'r GDPR, a chanllawiau ar wneud cais am fynediad at ddata, ar gael ar wefan Research England.
Manylion cyswllt
Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â'ch gwybodaeth yn cael ei defnyddio at y dibenion hyn, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Grŵp Llywodraethu Gwybodaeth
Tŷ Polaris
Swindon
SN2 1FL
E-bost: dataprotection@ukri.org
Gweler rhagor o wybodaeth am ddiogelu data ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys yr hysbysiad preifatrwydd i staff a sut i gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol.