Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Datganiad o gefnogaeth ar gyfer dyfeisiau TG

  • Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhaid i chi sicrhau bod eich dyfeisiau a'ch systemau gweithredu yn gyfoes ac yn unol â'n manylebau caledwedd lleiaf.

Cyn ceisio cysylltu unrhyw ddyfais â rhwydwaith y Brifysgol, sicrhewch fod y ddyfais yn rhedeg system weithredu a gefnogir gan y gwneuthurwr, a bod ganddi’r holl ddiweddariadau sydd ar gael, gan gynnwys diweddariadau a phatsiau diogelwch.

Gall dyfeisiau nad ydynt bellach yn cael eu cefnogi gan y gwneuthurwr, neu na allant dderbyn y diweddariadau diweddaraf, fod yn anghydnaws â rhai o systemau'r Brifysgol ac efallai na fyddant yn gallu cael eu cysylltu â rhwydwaith diwifr diogel y Brifysgol (eduroam).

Y rhwydwaith diwifr

Rydyn ni’n eich argymell i ddiweddaru system weithredu eich dyfais drwy osod yr holl ddiweddariadau a phatsiau, a’ch bod wedi gosod gyrwyr diweddaraf y rhwydwaith di-wifr ar eich dyfais ymlaen llaw.

Efallai na fydd rhai dyfeisiau hŷn yn cydweddu â rhwydwaith y Brifysgol. Efallai na fyddwch chi’n gallu cael profiad gemau cyfrifiadurol ar-lein llawn gan ddefnyddio consolau gemau (gweler yr adran isod ar Gemau cyfrifiadurol am ragor o fanylion).

Safonau wifi â chymorth (cenedlaethau)

Cynhyrchu Wi-Fi IEEE

Lansiwyd

Cefnogwyd

#802.11

1997

Na

802.11a a 802.11b

1999

Na

802.11g

2003

Na

802.11n

2008

Ie

802.11ac

2014

Ie

802.11ax

2019

Ie

Ymgynghorwch â gwefan eich gwneuthurwr i gadarnhau'r math o gysylltiad rhwydwaith a ddefnyddir gan eich dyfais.

Sylwer: Er bod 802.11n yn cael ei gefnogi, gall perfformiad ar rwydwaith y Brifysgol fod yn wael o'i gymharu â 802.11ac neu ax.

Gofynion System Weithredu

Mae dyfeisiau a meddalwedd yn newid yn aml. O ystyried yr ystod amrywiol o ddyfeisiau y mae staff a myfyrwyr yn eu cyflwyno i'r Brifysgol, mae'n anodd cynnal rhestr o'r holl ddyfeisiau a systemau gweithredu a gefnogir.

Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae dyfeisiau nad ydynt bellach yn cael eu cefnogi gan y gwneuthurwr, nad ydynt yn rhedeg system weithredu gyfoes, neu sy'n methu â derbyn diweddariadau diogelwch diweddaraf, yn cael eu hystyried yn ddarfodedig.

Mae dyfeisiau darfodedig yn peri risg diogelwch i'r Brifysgol ac ni ddylid eu cysylltu â rhwydwaith y Brifysgol ac efallai na fyddant yn rhedeg rhai o raglenni’r Brifysgol.

Cysylltwch â gwneuthurwr eich dyfais (mae'r wybodaeth hon ar gael ar eu gwefan fel arfer) i gadarnhau a yw'ch dyfais yn parhau i fod yn gefnogol ac yn gallu derbyn y diweddariadau diweddaraf.

Rhwydwaith y Brifysgol mewn llety a reolir gan y Brifysgol

Rhwydwaith academaidd yn bennaf yw rhwydwaith y Brifysgol, sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn llety a reolir gan y Brifysgol. Nid yw'n cynnig profiad rhwydwaith 'cartref' (band eang yn y cartref).

I fyfyrwyr sy'n aros mewn llety a reolir gan y Brifysgol, efallai na fydd rhai consolau gemau yn cynnig profiad gemio ar-lein llawn ac efallai na fydd rhai mathau o ddyfeisiau (er enghraifft rhai argraffwyr) yn gytûn.

Gemau cyfrifiadurol

Mae consolau gemau modern yn cynnig y gallu i gynnal gemau, yn caniatáu i eraill gysylltu â gêm yr ydych yn ei chynnal, neu'n caniatáu ichi gysylltu â gemau y mae pobl eraill yn eu cynnal.

Cyflawnir hyn gan ddefnyddio cyfeiriad IP 'cyhoeddus', ac yn y cartref, bydd eich llwybrydd cartref yn trosi cyfeiriad IP preifat mewnol yn un cyhoeddus - proses a elwir yn 'Trosi Cyfeiriad Rhwydwaith (NAT).

Mae yna wahanol fathau o amgylchedd NAT.

  • Mae 'NAT Agored' yn golygu bod eich consol gemau yn rhydd i gysylltu ag unrhyw amgylchedd gemio arall, a phobl eraill i gysylltu â chi.
  • Mae 'NAT llym' yn golygu y gallai fod gan eich consol gemau gysylltedd cyfyngedig â chwaraewyr eraill ac efallai na fydd eraill yn gallu ymuno â gemau yr ydych yn eu cynnal.
  • Bydd Consolau Gemau yn cael eu gosod i Strict NAT (Math 3) – a allai gael effaith andwyol ar gemau aml-chwaraewr, a swyddogaeth 'sgwrsio' gêm.

Mae rhwydwaith y Brifysgol yn gweithredu polisi NAT Llym, sy'n golygu y gall swyddogaeth consolau gemau gael ei lleihau. Efallai na fyddwch yn gallu ymuno â gemau a gynhelir, ac efallai na fydd eraill yn gallu cysylltu â'ch amgylchedd gemio.

Argraffu

Bydd angen i argraffwyr wifi mewn llety a reolir gan y Brifysgol gysylltu â'r rhwydwaith gan ddefnyddio “Allwedd Personol a Rennir ymlaen llaw (PPSK)”. Fel cyfrinair, mae angen PPSK i ddilysu'r argraffydd ar Rwydwaith y Brifysgol. Mae'n bwysig gwirio bod eich argraffydd yn gytûn â PPSK (er enghraifft, bydd yn caniatáu i chi nodi allwedd a rennir ymlaen llaw (PPSK)), a bydd y wybodaeth hon yn cael ei harddangos yn y fanyleb/gwybodaeth dechnegol ar gyfer eich argraffydd (lle da i wirio yw gwefan gwneuthurwyr argraffwyr ar gyfer eich argraffydd penodol)

Os nad yw'ch dyfais yn cefnogi PPSK, ar gyfer dyfeisiau sydd â chysylltiad USB, efallai y bydd gofyn i chi argraffu'n uniongyrchol i'ch argraffydd o USB. Ar gyfer dyfeisiau nad oes ganddynt gysylltiad USB, efallai na fydd yn bosibl defnyddio'r argraffydd ar rwydwaith y Brifysgol.

Dyfeisiau Windows

Mae Microsoft yn adolygu'n rheolaidd sut mae diweddariadau a datganiadau yn cael eu cyflwyno a'u cefnogi ond mae'r canlyniad ymarferol yn debyg i'r canlynol ar y cyfan:

Mae Microsoft yn cyflenwi diweddariadau rheolaidd ar gyfer y fersiwn Windows gyfredol a'r ddwy fersiwn fawr flaenorol.

Dylai defnyddwyr wirio bod yr holl feddalwedd a gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer eu gweithio neu ddysgu yn cael eu cefnogi’n llawn gan fersiwn system weithredu Windows sydd newydd ei rhyddhau cyn diweddaru i'r fersiwn newydd honno.

Er mwyn sicrhau nad yw defnyddwyr yn agored i risgiau diogelwch diangen a materion cydnawsedd rydym yn argymell yn gryf bod defnyddwyr yn defnyddio dyfais sy'n gallu rhedeg unrhyw un o'r fersiynau system weithredu a gefnogir, sydd wedi’u disgrifio uchod. Bydd diweddariadau rheolaidd yn cael eu cyflwyno na ddylai defnyddwyr eu hatal rhag cael eu defnyddio.

Mae angen meddalwedd gwrthfeirysol a gwrthfaleiswedd cyfredol hefyd. Rhaid i ddyfeisiau sy'n eiddo i'r Brifysgol redeg y cynnyrch diogelu diweddbwynt cymeradwy a ddarperir gan TG y Brifysgol.

Manylebau caledwedd lleiaf

Bob blwyddyn mae TG y Brifysgol yn cyhoeddi’r fanyleb leiaf a’r fanyleb a argymhellir ar gyfer dyfeisiau Windows.

Ar gyfer cyfrifiadur desg waith neu liniaduron Windows, argymhellwn y canlynol:

  Gofyniad lleiafArgymelledig
System Weithredu Windows 10 Windows 11
Prosesydd i5 (8th Gen) i5 (11th Gen neu uwch)
RAM 8GB 16GB
Gyriant disg galed 256GB 512GB (neu uwch) 
Gwe-gamera Gosodedig neu allanol
Meicroffon Gosodedig neu allanol
Seinydd/clustffonau Gosodedig neu allanol

Sylwer: Darperir y manylebau hyn at ddibenion cyffredinol. Ar gyfer rhai dibenion, bydd angen cyfrifiadur â manyleb uwch. Bydd TG y Brifysgol yn gallu rhoi cyngor i chi am hyn.

Dylai staff sy'n dymuno prynu dyfeisiau'r Brifysgol gael y rhain gan gyflenwyr cymeradwy'r Brifysgol, oni bai bod Rheolwyr Gwasanaethau TG yn awdurdodi fel arall. Rydyn ni’n gwneud hyn er mwyn cydymffurfio â chanllawiau caffael a chylch oes dyfeisiau, ac i sicrhau cydweddoldeb yn y dyfodol.

Dyfeisiau Apple

Ar gyfer cyfrifiadur desg neu liniadur Mac, rydym yn argymell:

  Gofyniad lleiafArgymelledig
System Weithredu Ventura Sequoia
Prosesydd Intel i5 / Apple M1 Apple M2 (neu uwch)
RAM 8GB 16GB
Gyriant disg galed 256GB 512GB (neu uwch) 
Gwe-gamera Gosodedig neu allanol
Meicroffon Gosodedig neu allanol
Seinydd/clustffonau Gosodedig neu allanol

Sylwch y gallai fod gan rai systemau TG eu manylebau isafswm dyfais eu hunain a allai fod ychydig yn wahanol i'r rhai a restrir yma. Os ydych yn ansicr, gwiriwch y wybodaeth a gyhoeddir ar gyfer y system TG benodol.

Ar gyfer dyfeisiau macOS, bydd Apple fel arfer yn cyflenwi diweddariadau a fersiynau Safari (porwr gwe) newydd ar gyfer y fersiwn fawr macOS cyfredol a dwy fersiwn fawr flaenorol.

Ar gyfer dyfeisiau iOS ac iPadOS mae Apple fel arfer yn cyflenwi diweddariadau ar gyfer y fersiwn fawr gyfredol yn unig.

Gwiriwch fod yr holl feddalwedd a gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer eich rôl gweithio neu ddysgu yn cael eu cefnogi gan fersiwn system weithredu Apple sydd newydd ei rhyddhau cyn diweddaru i'r fersiwn newydd honno.

Am resymau diogelwch rydym yn argymell yn gryf eich bod yn defnyddio dyfais Apple a all redeg un o'r fersiynau system weithredu a gefnogir sydd wedi’u disgrifio uchod a chymhwyso mân ddiweddariadau fersiwn yn brydlon ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.

Rhaid i ddefnyddwyr MacOS redeg swyddogaethau gwrthfaleiswedd cyfoes. Mae Sophos Endpoint Protection ar gael ar gyfer cyfrifiaduron Apple sy'n eiddo i'r Brifysgol.

Dewch o hyd i fanylion ar ddiweddariadau Apple a ryddhawyd yn ddiweddar a'r modelau dyfais y maent yn eu cefnogi ar wefan cymorth Apple.

Mae TG y Brifysgol yn cadw'r hawl i ddatgysylltu dyfeisiau Apple o rwydweithiau Prifysgol Caerdydd os ydynt yn fygythiad i ddefnyddwyr, dyfeisiau neu wasanaethau eraill.

Sylwer: Hwyrach y bydd staff sy'n dymuno prynu dyfeisiau Apple yn destun i rheoliadau ariannol y Brifysgol.

Llechi, dyfeisiau Chromebook a chyfrifiaduron sy’n rhedeg Windows 10S

Nodwch na all llechi, dyfeisiau Chromebook a chyfrifiaduron sy’n rhedeg Windows 10S (fersiwn wedi’i chwtogi ar Windows) fod yn addas ar gyfer astudio academaidd hirdymor.

Dyfeisiau E-Inc

Ar hyn o bryd, ni ddylid defnyddio'r dyfeisiau hyn ar gyfer busnes Prifysgol.

Mae'r Brifysgol yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi bod diddordeb cynyddol mewn defnyddio dyfeisiau E-Inc ar gyfer gwaith neu astudio, hyn ar ddyfeisiadau fel yr reMarkable 2 neu'r Onyx Boox ar gyfer cymryd nodiadau digidol a gweithgareddau eraill.

Rydym hefyd yn deall bod rhai o'r gwerthwyr hyn yn hyrwyddo neu'n cynnig rhyw lefel o gydnawsedd â dogfennau Microsoft Office ar gyfer rhai mathau o’r dyfeisiau hyn, neu'n hysbysebu integreiddiadau â phlatfformau fel OneDrive.

Nid oes gan ddyfeisiadau cyfredol ychwaith y lefel diogelwch sylfaenol (amgryptio, glanhau o bell) sy'n angenrheidiol i gael mynediad at wybodaeth gyfrinachol y Brifysgol (C1/C2) a’i storio, ac nid yw integreiddio ag OneDrive yn defnyddio rheolyddion manwl i gyfyngu ar fynediad at wybodaeth nad yw'n gyfrinachol (NC).

Rydym yn ymwybodol bod hon yn farchnad newydd, ac mae gwerthwyr eraill yn datblygu dyfeisiau o'r fath ac y bydd elfennau a nodweddion newydd yn cael eu hychwanegu at y dyfeisiau sydd yn y farchnad ar hyn o bryd, wrth i amser fynd rhagddo. I’r perwyl hwnnw, rydym yn monitro ac yn adolygu ein sefyllfa o ran y dyfeisiau hyn, ond ar hyn o bryd ni ddylid eu defnyddio ar gyfer busnes na gweithgareddau'r Brifysgol.