Guidance notes (accessible) MDataGov
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (Word, 23.3 KB)
Dilynwch y canllawiau hyn os ydych yn cyflwyno cais i astudio un neu fwy o fodiwlau o Raglen MSc Dadansoddi Data i’r Llywodraeth.
Mae’r canllawiau isod wedi’u rhestru yn ôl y penodau o fewn y ffurflen gais ar-lein. Os oes arnoch angen cyngor neu gefnogaeth gyda’r broses ymgeisio, ebostiwch admissions@caerdydd.ac.uk
Cyrff Proffesiynol:
- Nid oes angen llenwi’r adran hon. Mae croeso i chi ddewis ‘Nac ydw, dydw i ddim yn aelod’, ac wedyn ‘Parhau’, er mwyn hepgor adran hon y ffurflen.
Datganiad Personol:
- Nodwch yn glir y modiwl(au) yr hoffech ei astudio, yn ogystal â chôd y modiwl(au), yn adran Datganiad Personol y ffurflen. Gweler y rhestr o fodiwlau i gael mwy o wybodaeth.
- Os ydych yn cael eich noddi gan eich cyflogwr, does dim angen i chi gyflwyno datganiadu personol - bydd eu hawdurdodiad yn cynrychioli cadarnhad eich bod chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, fodd bynnag mae'n rhaid i chi gyflwyno llythyr noddi gyda'ch cais.
Talu/Ffioedd:
- Os yw'ch sefydliad yn talu i chi astudio'r modiwl(au), cadarnhewch hyn drwy:
- Lanlwytho llythyr noddi syml o fewn adran Datganiad Personol y ffurflen (drwy ddewis yr opsiwn 'lanlwytho dogfen'). Dylai'r llythyr noddi gynnwys enw, teitl swydd a llofnod pwy bynnag sy'n awdurdodi eich nawdd. Dylai nodi'n glir hefyd y cyfanswm (£) y bydd eich cyflogwr yn talu tuag at eich astudiaethau.
- Lanlwytho dogfen Rhif Archeb (RhA) i adran Datganiad Personol y ffurflen.
- Os ydych yn talu i astudio eich modiwl(au) eich hunain, does dim angen cyflwyno unrhyw wybodaeth ariannol yn ystod cam hwn y broses ymgeisio - byddwn yn gofyn am eich manylion pan fyddwch yn ymrestru.
1. Manylion personal
1.1. Nid oes angen rhoi manylion o dan adran ‘Manylion Pasbort’ – gallwch hepgor adran hon y ffurflen.
2. Cymwysterau
2.1. Gallwch gyflwyno cais ar sail eich profiad proffesiynol yn unig os ydych wedi bod yn gweithio mewn rôl berthnasol am flwyddyn o leiaf. Os ydych yn cyflwyno cais ar sail eich profiad proffesiynol yn unig, ticiwch y blwch yn yr adran hon.
2.2. Os ydych yn lanlwytho gwybodaeth am gymwysterau perthnasol, noder nad oes angen cyflwyno trawsgrifiad llawn o’r modiwlau a astudioch chi.
2.3. Os ydych yn ansicr a yw eich cymwysterau’n berthnasol, ebostiwch admissions@caerdydd.ac.uk
3. Cyrff proffesiynol
3.1. Nid oes angen llenwi’r adran hon. Mae croeso i chi ddewis ‘Nac ydw, dydw i ddim yn aelod’, ac wedyn ‘Parhau’, er mwyn hepgor adran hon y ffurflen.
4. Datganiad personol
4.1. Nodwch yn glir y modiwl(au) yr hoffech ei astudio, yn ogystal â chôd y modiwl(au), yn adran Datganiad Personol y ffurflen. Gweler y rhestr o fodiwlau i gael mwy o wybodaeth.
4.2. Os ydych yn cael eich noddi gan eich cyflogwr, does dim angen i chi gyflwyno datganiadu personol - bydd eu hawdurdodiad yn cynrychioli cadarnhad eich bod chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, fodd bynnag mae'n rhaid i chi gyflwyno llythyr noddi gyda'ch cais.
5. Talu/ffioedd
Os yw'ch sefydliad yn talu i chi astudio'r modiwl(au), cadarnhewch hyn drwy:
5.1. Lanlwytho llythyr noddi syml o fewn adran Datganiad Personol y ffurflen (drwy ddewis yr opsiwn 'lanlwytho dogfen'). Dylai'r llythyr noddi gynnwys enw, teitl swydd a llofnod pwy bynnag sy'n awdurdodi eich nawdd. Dylai nodi'n glir hefyd y cyfanswm (£) y bydd eich cyflogwr yn talu tuag at eich astudiaethau. Lanlwytho dogfen Rhif Archeb (RhA) i adran Datganiad Personol y ffurflen.
5.2. Os ydych yn talu i astudio eich modiwl(au) eich hunain, does dim angen cyflwyno unrhyw wybodaeth ariannol yn ystod cam hwn y broses ymgeisio - byddwn yn gofyn am eich manylion pan fyddwch yn ymrestru.
Os ydych yn talu i astudio eich modiwl(au) eich hunain, does dim angen cyflwyno unrhyw wybodaeth ariannol yn ystod cam hwn y broses ymgeisio - byddwn yn gofyn am eich manylion pan fyddwch yn ymrestru.
Tabl rheoli'r ddogfen
Teitl y ddogfen: | Guidance notes (accessible) MDataGov |
---|---|
Statws y ddogfen: | Cymeradwywyd |