Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cyngor

Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cyngor

1. A chithau’n un o aelodau’r Cyngor, ni ddylech ddwyn anfri ar y Brifysgol na'r Cyngor. Disgwylir i chi ymddwyn mewn ffordd sy'n gyson â Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus bob amser. Y saith egwyddor yw:

Anhunanoldeb

Dylai popeth a wnewch fod er budd y bobl yn unig. Ni ddylech wneud rhywbeth sy’n golygu y byddwch chi, eich teulu neu eich ffrindiau’n elwa’n ariannol neu’n faterol.

Uniondeb

Ni ddylech fod dan rwymedigaeth ariannol neu rwymedigaethau eraill i unigolion a allai geisio dylanwadu arnoch wrth i chi gyflawni eich dyletswyddau swyddogol.

Gwrthrychedd

Dylech ymddwyn yn ddiduedd, yn deg ac ar sail teilyngdod, yn enwedig wrth roi contractau.

Atebolrwydd

Rydych yn atebol i'r cyhoedd am eich penderfyniadau a'r hyn rydych yn ei wneud, a rhaid i chi gynnig eich hun i ba bynnag archwiliad sy’n briodol i'ch dyletswyddau.

Agwedd agored

Dylech fod mor agored â phosibl am yr holl benderfyniadau a chamau gweithredu y gallwch eu cymryd. Dylech roi rhesymau dros eich penderfyniadau a chyfyngu ar wybodaeth pan fydd yn glir bod angen gwneud hynny er budd ehangach y cyhoedd.

Gonestrwydd

Mae dyletswydd arnoch i ddatgan unrhyw fuddiannau preifat sy’n ymwneud â’ch dyletswyddau cyhoeddus a chymryd camau priodol i ddatrys unrhyw wrthdaro sy’n codi mewn ffordd sy’n diogelu buddiannau’r cyhoedd.

Arweinyddiaeth

Dylech hyrwyddo, cefnogi a dangos safonau ymddygiad uchel a bod yn barod i herio ymddygiad gwael.

2. A chithau’n ymddiriedolwr, rydych yn gyfrifol am gyflawni amcanion elusennol y Brifysgol. Rhaid i’ch penderfyniadau fod er budd buddiolwyr yr elusen. Mae gan yr elusen ystod eang ac amrywiol o fuddiolwyr. Maent yn cynnwys myfyrwyr yn benodol a phobl yn gyffredinol. Ar adegau, bydd blaenoriaethau carfanau gwahanol o fuddiolwyr yn gwrthdaro. A chithau’n ymddiriedolwr, bydd gofyn i chi wneud penderfyniadau i sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu’n briodol rhwng gweithgareddau, gan gynnwys sicrhau bod cronfeydd ariannol wrth gefn yn cael eu cynnal at ddibenion cynnal y sefydliad.

3. Rhaid i unrhyw beth a wna aelodau'r Cyngor fod o fewn y pwerau a roddwyd iddynt gan y Siarter a Statudau. Os byddwch chi neu unrhyw aelod arall yn mynd y tu hwnt i bwerau o'r fath, gallech fod yn bersonol atebol am ganlyniadau camau esgeulus neu ddiawdurdod a gymerwyd yn enw'r Brifysgol. Dylech hefyd sicrhau eich bod yn ymwybodol o Reoliadau Ariannol y Brifysgol ac yn eu parchu.

4. Mae gennych swydd gyfrifol sy’n cynnwys dyletswydd i barchu cyfrinachedd y Brifysgol a’i phartïon cysylltiedig.

5. Dylech fod yn ymwybodol o’r canlynol sy’n berthnasol i aelodau’r Cyngor:

5.1. mae gan bob aelod yr un statws a’i fod yr un mor gyfrifol ac atebol â’r aelodau eraill ym musnes y Cyngor;

5.2. nid yw unrhyw rai o aelodau'r Cyngor yn ddirprwy i unrhyw gorff, adran, person neu fudd;

5.3. wrth sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol neu weinyddol ar gyfer defnyddio arian cyhoeddus, mae cyfrifoldebau aelodau unigol y Cyngor yn cynnwys:

  • sicrhau bod safonau llywodraethu corfforaethol uchel yn cael eu cyrraedd bob amser;
  • pennu cyfeiriad strategol cyffredinol y Brifysgol o fewn y fframwaith polisïau ac adnoddau y cytunwyd arno gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
  • goruchwylio'r gwaith o sicrhau canlyniadau arfaethedig drwy fonitro perfformiad yn erbyn amcanion a thargedau strategol y cytunwyd arnynt;
  • sicrhau bod yr hyn a wna’r Cyngor o fewn terfynau ei awdurdod ac yn unol ag unrhyw amodau eraill sy’n ymwneud â defnyddio arian cyhoeddus;
  • sicrhau, wrth wneud penderfyniadau, bod y Cyngor wedi ystyried unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

6. Dylech bwyso a mesur pob mater mewn ffordd adeiladol yn hytrach na bod yn gorff sy'n cymeradwyo camau gweithredu a pholisïau Bwrdd y Brifysgol yn ddi-gwestiwn.

7. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wna, a’i nod yw sicrhau diwylliant cynhwysol sy’n rhydd o wahaniaethu ac sy’n seiliedig ar werthoedd urddas, cwrteisi a pharch. Disgwylir i chi rannu a chefnogi'r ymrwymiad hwn.