Polisi Cyhoeddiadau Mynediad Agored Prifysgol Caerdydd
- Dyddiad dod i rym:
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (PDF, 167.2 KB)
Cyflwyniad
Mae Prifysgol Caerdydd yn cydnabod y manteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol sy’n gysylltiedig â mynediad agored at ymchwil a ariennir yn gyhoeddus.
Mae Mynediad Agored yn fodel cyhoeddi sy'n caniatáu i erthyglau sydd wedi’u hadolygu gan gymheiriaid fod ar gael yn rhwydd i unrhyw un sydd â mynediad at y rhyngrwyd, yn hytrach na’u cyfyngu i ddarllenwyr sydd wedi tanysgrifio yn unig. Mae hyn yn gwneud yn siŵr bod gwaith ymchwil academaidd yn agored i bawb, a chefnogir hyn yn gryf gan Lywodraeth y DU fel sbardun ar gyfer adfywiad economaidd.
Mae UKRI a chyrff ariannu eraill megis Ymddiriedolaeth Wellcome, Horizon Europe a rhai cyrff ariannu elusennol yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliaid eu grantiau sicrhau bod pob allbwn o’u grantiau ar gael drwy Mynediad Agored. Mae gofynion mynediad agored hefyd ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF).
Mae storfa sefydliadol Prifysgol Caerdydd, ORCA, yn arddangos cyhoeddiadau ymchwil staff a myfyrwyr, ac yn gwneud allbynnau ymchwil ar gael i’r cyhoedd ar-lein. Mae Prifysgol Caerdydd yn ei gwneud yn ofynnol ychwanegu testun llawn pob un o gyhoeddiadau ymchwil Prifysgol Caerdydd at ORCA os bydd hawlfraint.
Polisi Cyhoeddiadau Mynediad Agored Prifysgol Caerdydd
Mae Polisi Cyhoeddiadau Mynediad Agored Prifysgol Caerdydd yn gwneud y canlynol yn ofynnol:
Ar gyfer deiliaid grantiau (UKRI, Wellcome, ac ati)
- Mynediad agored ar unwaith i erthyglau ymchwil (o fis Ebrill 2022 ar gyfer deiliaid grantiau UKRI). Gall hyn fod drwy Gytundeb Mynediad Agored Trawsnewidiol neu gyhoeddiad Mynediad Agored llawn gyda chyhoeddwr masnachol, neu drwy ystorfa sefydliadol neu bwnc neu lwyfan cyhoeddi.
- Ar gyfer monograffau, penodau mewn llyfrau a chasgliadau wedi'u golygu, rhaid sicrhau bod y rhain ar gael drwy fynediad agored o fewn 12 mis i'w cyhoeddi, o 1 Ionawr 2024.
Ar gyfer awduron heb grant:
- Mae angen i awduron/ cydlynwyr mynediad agored gofnodi manylion llyfryddol yr holl allbynnau ymchwil yn storfa sefydliadol y Brifysgol, erbyn y dyddiad cyhoeddi fan bellaf.
- O ran erthyglau mewn cyfnodolion a thrafodion cynadleddau yn unig, mae’r awduron yn ychwanegu testun llawn fersiwn derfynol yr awdur, a adolygwyd gan gymheiriaid (“fersiwn ôl-argraffu”), at y storfa sefydliadol tri mis ar ôl ei derbyn fan bellaf. Lle mae caniatâd hawlfraint cyhoeddwyr yn caniatáu ac nad oes unrhyw gyfyngiad o ran cyfrinachedd neu fasnach, bydd y fersiynau hyn yn rhai Mynediad Agored. Gall tîm ORCA a Llyfrgellwyr Pwnc roi cyngor ar ganiatâd hawlfraint (gweler paragraff 21).
- Bydd llawysgrifau sydd wedi’u derbyn ac sydd wedi’u hunan-archifo eisoes yn cynnwys blaenddalen gyda’r holl fanylion llyfryddol.
- Ni chaiff allbynnau sy’n destun embargo eu rhyddhau yn gyhoeddus nes y bydd y cyfnod embargo wedi dod i ben (er y byddant yn parhau i fod yn gymwys i’w cyflwyno i’r REF o fewn cyfnod yr embargo).
- Cyfrifoldeb yr awduron/ cydlynwyr mynediad agored yw gwirio cywirdeb eu cyhoeddiadau yn y Porth Ymchwil.
- Anogir awduron/ cydlynwyr mynediad agored yn gryf i ychwanegu testun llawn yr holl gyhoeddiadau eraill (gan gynnwys ysgrifau) at y storfa sefydliadol pan fo caniatâd hawlfraint cyhoeddwyr yn caniatáu. Bydd hyn yn galluogi'r Brifysgol i hawlio credydau yn y datganiadau Amgylchedd ar gyfer hyrwyddo Polisi Mynediad Agored.
- Rhaid i awduron ddefnyddio’r ffurf safonol “Prifysgol Caerdydd” wrth nodi’r cysylltiad sefydliadol ar gyfer yr holl allbynnau ymchwil er mwyn sicrhau cysylltiad cyson â’r Brifysgol. Mae angen defnyddio dulliau adnabod awdur safonol fel ORCID. Mae cymorth ar gael gan dîm ORCA a/neu eich llyfrgellydd pwnc.
- Rhaid i awduron gydnabod ffynhonnell y cyllid grant sy’n gysylltiedig ag allbwn ymchwil. Mae hyn yn amod arianwyr grantiau.
- Rhaid i awduron gydymffurfio â pholisïau’r arianwyr mewn perthynas â Mynediad Agored, gan gynnwys gwybodaeth ymchwil a rheoli data, gan gynnwys datganiadau mynediad data ymchwil.
- Mae'r polisi yn berthnasol i’r holl ymchwilwyr, gan gynnwys myfyrwyr PhD.
- Mae rheoliadau’r Brifysgol eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i theses ymchwil gael eu hychwanegu at ORCA pan fyddant yn cael eu dyfarnu (oni bai eu bod wedi eu heithrio am resymau hawlfraint).
- Sefydlwyd Gwasg Prifysgol Caerdydd i ddarparu llwybr sy'n cydymffurfio â mynediad agored ar gyfer allbynnau'r Brifysgol, gan gynnwys monograffau. Mae cyflwyniadau i'r wasg yn cael eu rheoli gan Fyrddau Golygyddol dan oruchwyliaeth Bwrdd Golygyddol Gwasg y Brifysgol.
Sail resymegol y polisi
- Sicrhau bod gofynion arianwyr ymchwil i wneud allbynnau ymchwil ar gael i bawb ar-lein yn cael eu bodloni.
- Sicrhau bod yr holl erthyglau mewn cyfnodolion, trafodion cynadleddau a monograffiau â’r potensial i gael eu cyflwyno i’r REF.
- Codi proffil ymchwil a wneir gan Brifysgol Caerdydd.
- Gwella cyfleoedd i awduron gael cyhoeddi eu gwaith.
- Galluogi arddangosfeydd cyson o fesurau bibliometrig sy'n gysylltiedig ag allbynnau ymchwil megis y cyfrif dyfyniadau a ffactorau traweffaith yr erthygl.
Manteision
- Bydd ychwanegu allbynnau ymchwil at y storfa sefydliadol yn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu, eu storio, ac ar gael yn y tymor hir.
- Bydd data cyhoeddiadau a dolenni ar gael drwy dudalennau gwe’r Ysgol a thudalennau gwe personol.
- Bydd ymchwilwyr yn cael eu cefnogi wrth lanlwytho gwybodaeth berthnasol, ofynnol i System Allbynnau Ymchwil gyson UKRI, yn seiliedig ar ddull Researchfish (sy’n ofynnol ar gyfer cyllid yn y dyfodol).
- Bydd allbynnau a ychwanegir at storfa sefydliadol yn “agored” i Google a pheiriannau chwilio eraill, gan gynyddu gwelededd a’r cyfrif dyfyniadau.
- Mae gwneud allbynnau’n Fynediad Agored yn hwyluso’r broses o rannu gwybodaeth a gwyddoniaeth agored. Bydd sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus, busnesau bach a chanolig, a busnesau sydd heb fynediad at lenyddiaeth academaidd yn gallu cael mynediad at allbynnau’r Brifysgol yn rhydd ar y rhyngrwyd, gan arddangos ymrwymiad Caerdydd i gefnogi’r economi yng Nghymru a thu hwnt.
Cyngor ac arweiniad
- Gall ymchwilwyr ychwanegu eu cyhoeddiadau at y storfa sefydliadol drwy’r fewnrwyd. Mae Llyfrgell y Brifysgol yn rhoi cyngor a chymorth i helpu ymchwilwyr gyda’u cyhoeddiadau. Cysylltwch â'ch Llyfrgellydd Pwnc neu ORCA@caerdydd.ac.uk am ragor o wybodaeth.
- Gall Llyfrgellwyr Pwnc a Thîm ORCA hefyd roi cyngor ar gydymffurfio â chyfnodau hawlfraint ac embargo a materion eraill megis datganiadau mynediad data ymchwil.
- Mae gwefan Sherpa Romeo yn rhoi manylion polisïau cyhoeddwyr gwahanol o ran caniatâd hawlfraint, ac mae Sherpa Fact yn offeryn i helpu awduron i ganfod a yw cyfnodolyn yn cydymffurfio â pholisïau noddwyr.
- Darperir cymorth i staff academaidd ynghylch cyngor ar ofynion cyllidwyr ac argaeledd cyllid Mynediad Agored a/neu Gytundebau Trawsnewidiol a allai dalu costau Mynediad Agored drwy openaccess@caerdydd.ac.uk.
- Ceir rhagor o wybodaeth, gan gynnwys canllawiau cam wrth gam ynghylch cydymffurfio â’r REF ar gyfer pob Ysgol ar y fewnrwyd staff a myfyrwyr drwy chwilio am Fynediad Agored.
- Mae'r polisi hwn yn rhan o God Ymarfer Gonestrwydd Ymchwil y Brifysgol, sydd ar gael ar y fewnrwyd.
Prifysgol Caerdydd
19 Mai 2014
Diwygiwyd ar 16 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ar 2 Rhagfyr 2014
Diwygiwyd ar 7 Gorffennaf 2017
Fersiwn ddiwygiedig wedi ei chymeradwyo gan y Senedd ar 25 Hydref 2017
Diwygiwyd Medi 2021, a gymeradwywyd gan y Senedd 10 Tachwedd 2021
Tabl rheoli'r ddogfen
Teitl y ddogfen: | Polisi Cyhoeddiadau Mynediad Agored Prifysgol Caerdydd |
---|---|
Dyddiad cymeradwyo: | 10 Tachwedd 2021 |
Cymeradwywyd gan: | Senate |
Dyddiad dod i rym: | 19 Mai 2014 |