Polisi a Gweithdrefnau Dim Ysmygu'r Brifysgol
- Fersiwn 4
- Dyddiad dod i rym:
- Dyddiad yr adolygiad nesaf:
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (Word, 34.2 KB)
Document history
Revision number | Date | Amendment | Name | Approved by |
---|---|---|---|---|
1 | Mehefin 2011 | Tudalen flaen wedi'i hychwanegu gydag Awdur, dyddiadau cymeradwyo ac adolygiad nesaf. Newid i bwynt 3.2 lle mae lloches a ddynodwyd ar gyfer ysmygu wedi'i ddarparu ar dir y Preswylfeydd. | Gweithgor Rhoi'r Gorau i Ysmygu | Cadeirydd Pwyllgor yr HSE |
2 | Tachwedd 2013 | Adran ar e-sigaréts wedi'u hychwanegu | Pwyllgor HSE Hydref 2013 | |
3 | Mawrth 2016 | Gwaherddir gwefru e-sigaréts. | Argymhelliad gan UMAL | Pwyllgor HSE |
4 | Ebrill 2020 | Dim newidiadau. | J Gunter | R Rolfe |
1. Cyflwyniad
1.1. Mae Prifysgol Caerdydd yn cydnabod bod gan yr holl staff a myfyrwyr hawl i weithio mewn amgylchedd di-fwg ac mae wedi gweithredu polisi dim ysmygu o fewn ei hadeiladau academaidd a gweinyddol ers blynyddoedd lawer. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i iechyd a diogelwch, a gan ei bod yn gyflogwr da, mae am greu amgylchedd gwaith rhagorol sy'n iachus ac yn ddiogel i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr. Felly, rhaid sicrhau bod pawb yn cael eu hamddiffyn rhag peryglon ysmygu ym mannau gwaith a gorffwys.[1]
1.2. O 2 Ebrill 2007, daeth deddfwriaeth newydd yn gysylltiedig â'r Ddeddf Mangreoedd Di-fwg i rym yng Nghymru a daeth ysmygu'n anghyfreithlon mewn unrhyw fan cyhoeddus sy’n amgaeedig yn llwyr neu i raddau helaeth yng Nghymru. Daeth yn drosedd ysmygu mewn safle na chewch ysmygu neu i ganiatáu ysmygu’n fwriadol mewn safle na chewch ysmygu. Mae cerbydau a ddefnyddir at ddibenion busnes hefyd yn dod o dan y gyfraith. Bydd yn rhaid i berchnogion safleoedd ac unigolion dalu dirwyon statudol sylweddol os caiff y ddeddfwriaeth hon ei thorri. Mae'r Brifysgol yn gyfrifol am fonitro ymlyniad wrth y polisi hwn, ac mae ganddi'r prif gyfrifoldeb i sicrhau bod pawb yn cydymffurfio â’r gyfraith.
1.3. Mae'r Brifysgol wedi diwygio ei pholisi i ddiogelu holl aelodau'r Brifysgol rhag effeithiau niweidiol mwg goddefol. Mae eisiau sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau mewn perthynas â pholisi dim ysmygu’r Brifysgol.
1.4. Mae'r polisi'n berthnasol i'r holl staff, myfyrwyr, ymwelwyr a chontractwyr a chaiff ei gymhwyso'n deg ac yn unffurf ledled y Brifysgol.
1.5. Bydd yn ofynnol i bob aelod o'r Brifysgol gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau ysmygu sefydliadau eraill wrth gynnal busnes y Brifysgol ar eu safle.
1.6. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw astudiaethau awdurdodol wedi'u cynnal i effeithiau niweidiol posibl yr anweddau a gynhyrchir gan e-sigaréts. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn credu y gall yr anweddau gynnwys sylweddau glycol propylen, glyserin a chyflasyn, heb sôn am olion nicotin (yn anochel o ystyried bod defnyddio'r dyfeisiau hyn yn golygu anadlu nicotin ac anadlu anwedd). Nid yw’n glir o gwbl a oes risg o niwed o ganlyniad i ‘ysmygu goddefol’ yr anweddau hyn, ac i ba raddau. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn pryderu y gallai defnyddio e-sigaréts danseilio'r cyfyngiadau presennol ar ysmygu ac maent yn pwyso ar y Llywodraeth i ymestyn y ddeddfwriaeth yn erbyn ysmygu i gynnwys defnyddio e-sigaréts. Yn y cyfamser, maent yn annog cyflogwyr i orfodi gwaharddiadau ar eu defnyddio yn y gweithle ac yn sgil hyn mae'r Brifysgol yn gwahardd defnyddio e-sigaréts ar y campws. Gwaherddir gwefru e-sigaréts ar y campws.
2. Cymorth ar gyfer Rhoi'r Gorau i Ysmygu
2.1. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gefnogi unrhyw un sy'n dymuno rhoi'r gorau i ysmygu ac felly nod y polisi yw helpu ac ysgogi ysmygwyr i roi'r gorau i ysmygu os dymunant.
2.2. Mae cymorth ar gael i aelodau staff a myfyrwyr sy'n dymuno rhoi'r gorau i ysmygu. Anogir y rhai sy'n dymuno cael cymorth a chefnogaeth i gysylltu â'r ganolfan iechyd yn y lle cyntaf. Gellir cynnig cefnogaeth ar ffurf rhaglenni rhoi'r gorau i ysmygu gan asiantaethau allanol. Mae rhifau ffôn llinellau cymorth lleol eraill ar gael yn gyfrinachol gan Iechyd Galwedigaethol.
2.3. Fel arall, efallai yr hoffai aelodau staff a myfyrwyr gysylltu â'r sefydliadau a ddangosir yn Atodiad 1.
3. Ardaloedd Dim Ysmygu
3.1. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gael polisi dim ysmygu yn yr adeiladau er mwyn amddiffyn ei holl staff a myfyrwyr. Ni chaniateir ysmygu yn neu ar unrhyw un o safleoedd y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys yr holl fannau gwaith cymunedol, yr ystafelloedd unigol, y grisiau, y lifftiau, y mannau gorffwyso, y toiledau, y meysydd parcio a'r tiroedd. Gwaherddir ysmygu hefyd mewn cerbydau sy'n eiddo i'r Brifysgol neu sy'n cael eu rhedeg gan y Brifysgol neu gerbydau a gaiff eu cyflogi neu eu prydlesu ar gyfer busnes y Brifysgol.
3.2. Preswylfeydd i Fyfyrwyr
O 2 Ebrill 2007, bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i bob ardal gymunedol o fewn preswylfeydd y Brifysgol fod yn llefydd lle na chewch ysmygu. O'r dyddiad hwn ni chaniateir ysmygu yn unrhyw ran o breswylfeydd y Brifysgol gan gynnwys yr holl ystafelloedd preifat, bariau, ardaloedd cymunedol. Fodd bynnag, er bod ysmygu'n cael ei wahardd, derbynnir ysmygu yn y llochesi ysmygu penodedig ar y tir.
3.3. Adeilad Undeb y Brifysgol
Mae'r Adeilad hwn yn destun polisi ar wahân ar ysmygu a gyflwynwyd gan Undeb Myfyrwyr Caerdydd
4. Arwyddion
4.1. Bydd arwyddion 'Dim ysmygu' priodol yn cael eu harddangos yn glir wrth fynedfa holl adeiladau'r Brifysgol.
5. Myfyrwyr
5.1. Rhaid i holl aelodau cymuned y Brifysgol, gan gynnwys myfyrwyr ddilyn y polisi hwn wrth fyw neu weithio ar safle'r Brifysgol. Pan fydd polisi’r Brifysgol ynglŷn ag ysmygu’n cael ei dorri, bydd y weithdrefn ddisgyblu berthnasol i fyfyrwyr yn cael ei roi ar waith.
6. Gweithdrefnau
6.1. Penaethiaid Ysgol/Cyfarwyddiaeth, Rheolwyr a Goruchwylwyr sy'n gyfrifol am sicrhau bod staff, myfyrwyr, ymwelwyr a, lle y bo'n berthnasol, contractwyr yn cael gwybod am y polisi hwn a'u bod yn cydymffurfio â'i ofynion.
6.2 Rhaid rheoli cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth a pholisi'r Brifysgol yn lleol. Mae'n ofynnol i'r rhai sy'n gyfrifol am ardaloedd a grwpiau dynodedig gydweithredu'r polisi yn yr ardal y maent yn gyfrifol amdani.
6.3. Dim ond yn ystod egwyliau penodedig y gall staff sy'n dymuno ysmygu yn ystod y diwrnod gwaith wneud hynny, h.y. cyfnod gorffwys swyddogol y cytunwyd arno ac i ffwrdd o safle'r Brifysgol, megis yr egwyl ginio.
6.4. Dylid gofyn yn gwrtais i bobl sy'n ysmygu mewn ardaloedd gwaharddedig, fel yr amlinellir ym mhwynt 3 uchod, roi'r gorau iddi a dweud eu bod yn torri polisi'r Brifysgol.
6.5. Mae gwrthod rhoi'r gorau iddi yn annerbyniol a dylid rhoi gwybod Bennaeth eich Ysgol/Cyfarwyddiaeth neu ei enwebai neu, lle bo'n briodol, Rheolwr yr Adeilad neu’r Breswylfa. Cyfrifoldeb Pennaeth yr Ysgol/Cyfarwyddiaeth yw gweithredu, gan gymryd cyngor gan Gyfarwyddiaeth briodol y Brifysgol yn ôl yr angen.
6.6. Mae methu â chydymffurfio â gofynion y polisi drwy ysmygu ar safle'r Brifysgol neu wrthod rhoi'r gorau iddi pan ofynnir amdano yn drosedd ddisgyblu i staff a myfyrwyr. Yn y lle cyntaf, ymdrinnir â thorri'r polisi trwy addysg a chefnogaeth. Gall ddiffyg cydymffurfio pellach arwain at gamau disgyblu ffurfiol ac yn y pen draw gallai arwain at ddiswyddo a diarddel myfyrwyr.
Dylid gofyn i gontractwyr neu ymwelwyr sy'n torri'r côd roi'r gorau i ysmygu ar y safle. Dylai fod yn ofynnol i gontractwr neu ymwelydd sy'n gwrthod rhoi'r gorau i ysmygu adael y safle.
[1] Mae mwg tybaco yn cael ei ddosbarthu fel carsinogen Grŵp A, sylwedd sy’n achosi canser mewn pobl ac nad oes lefel ddiogel gydnabyddedig ohono. Mae ysmygu goddefol yn achosi clefyd ac mae gan bobl nad ydynt yn ysmygu tybaco risg uwch o gael canser yr ysgyfaint os ydynt yn agored i fwg tybaco yn yr amgylchedd.
Atodiad 1: Cymorth i roi'r gorau i ysmygu
Mae'r ffynonellau cymorth canlynol ar gael i ysmygwyr sydd am roi'r gorau iddi:
- Llinell Gymorth Ysmygwyr Cymru: 0800 169 0169. Yn cynnig cyngor a deunyddiau hunangymorth.
- Dim Smygu Cymru: 0800 085 2219. Gwasanaeth lleol rhad ac am ddim sy'n cynnig cymorth a chwnsela i roi'r gorau i ysmygu.
- Galw Iechyd Cymru
- Llinell Gymorth y GIG
Ffôn 0800 169 0 169
Urdu: 0800 169 0 881
Punjabi: 0800 169 0 882
Hindi: 0800 169 0 883
Gujarati: 0800 169 0 884
Bengali: 0800 169 0 885 - ASH (Gweithredu ar Ysmygu ac Iechyd)
- QUIT
Tel 0800 00 22 00
Bengali (Dydd Llun): 0800 0022 44
Hindi (Dydd Mercher): 0800 0022 66
Punjabi (Dydd Iau): 0800 00 22 77
Twrceg/Cwrdistan (Dydd Iau a Dydd Sul): 0800 002299
Urdu (Dydd Sul): 0800 0022 88
Arabeg (Dydd Sadwrn): 08001691300
Gujarati (Dydd Mawrth): 0800002255 - Sefydliad Prydeinig y Galon — Ysmygu
- Diwrnod Cenedlaethol Dim Ysmygu
Tabl rheoli'r ddogfen
Teitl y ddogfen: | Polisi a Gweithdrefnau Dim Ysmygu'r Brifysgol |
---|---|
Awdur(on): | Gweithgor Rhoi'r Gorau i Ysmygu |
Rhif y fersiwn: | 4 |
Statws y ddogfen: | Cymeradwywyd |
Dyddiad cymeradwyo: | 01 Mehefin 2011 |
Cymeradwywyd gan: | Cyngor y Brifysgol |
Dyddiad dod i rym: | 01 Mawrth 2007 |
Dyddiad yr adolygiad nesaf: | Ionawr 2023 |