Ewch i'r prif gynnwys
Polisi

Canllawiau Cyfweld a Chlyweld

1. Cyflwyniad

1.1 Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i bob cyfweliad a chlyweliad ffurfiol a gynhelir i asesu pa mor addas ydych i gael eich derbyn i raglenni Prifysgol Caerdydd.

1.1.1 Nid ystyrir cyfarfodydd anffurfiol â staff y Brifysgol i drafod rhaglenni'r Brifysgol, gofynion mynediad neu addasrwydd ar gyfer rhaglenni dethol yn gyfweliadau nac yn glyweliadau yng nghyd-destun y polisi hwn.

1.2 Drwy gydol y ddogfen, mae unrhyw gyfeiriad at gyfweliad hefyd yn cyfeirio at glyweliad, oni nodi yn wahanol.

1.3 Mae’r Brifysgol yn amgylchedd i oedolion. Felly, mae’n trin ei holl fyfyrwyr yn unigolion annibynnol ac aeddfed. Bydd myfyrwyr o dan 18 oed yn cael eu trin yn yr un modd. Fodd bynnag, os ydych o dan 18 oed, darllenwch y polisi hwn ar y cyd â’r polisi ar gyfer unigolion o dan 18 oed.

1.3.1 Ar ben y polisi ar gyfer unigolion o dan 18 oed, mae’r canlynol hefyd yn berthnasol i unigolion o dan 16 oed:

  • bydd gweithdrefnau cyfweld yn cyd-fynd â’r polisi diogelu
  • mae’n rhaid i chi fynd i’r cyfweliad yng nghwmni oedolyn addas dros 18 oed (efallai y bydd angen rhoi ei fanylion cyswllt a phrawf o’i oedran)
  • os na allwch fynd yng nghwmni oedolyn addas (er enghraifft, gan eich bod wedi ymddieithrio oddi wrth eich teulu), e-bostiwch admissions-advice@caerdydd.ac.uk i drafod trefniadau amgen posibl

2. Egwyddorion

2.1 Mae'r Brifysgol yn cynnal cyfweliadau ar sail yr egwyddorion canlynol:

  • tegwch
  • tryloywder
  • proffesiynoldeb
  • hygyrchedd
  • defnydd cyson o bolisïau a gweithdrefnau

2.2 Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth y mae’n ei wneud, gan gynnwys mewn cyfweliadau. I ddangos yr ymrwymiad hwn:

2.2.1 Pan fydd ysgol academaidd yn cynnal cyfweliadau’n unol â’r prosesau dethol a hysbysebwyd, mae’n rhaid i Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb gael ei gynnal o’r cychwyn cyntaf a phan fydd newidiadau mawr i’r broses. Mae’n rhaid i adolygiadau byrrach o asesiadau o’r fath gael eu cynnal bob blwyddyn cyn dechrau pob cylch. Mae'n ofynnol i ysgolion academaidd gyflwyno copïau o'r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb i Grŵp Polisi Derbyn Myfyrwyr y Brifysgol, a hynny er mwyn i’r grŵp edrych yn ofalus arnynt.

2.2.2 Bydd yr holl staff a fydd yn cyfweld neu’n trefnu cyfweliad yn cael eu hannog i wneud yr hyfforddiant canlynol:

  • Cadeirydd panel cyfweld
  • Gwrth-hiliaeth
  • Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • Rhagfarn ddiarwybod

2.3 Os byddwch yn adnabod cyfwelydd yn bersonol, dylech roi gwybod i drefnwyr y cyfweliad ar unwaith. Bydd gofyn i’r cyfwelydd ddatgan achos o wrthdaro buddiannau i Dîm Derbyn Myfyrwyr y Brifysgol, gan gynnwys y Tîm Derbyn Myfyrwyr yn yr ysgol academaidd.

2.3.1 Ni fydd enwau’r cyfwelwyr na’r detholwyr yn cael eu rhannu gyda’r ymgeisydd cyn y cyfweliad.

2.3.2 Pan fydd achos o wrthdaro buddiannau wedi’i ddatgan, bydd trefnwyr y cyfweliad yn gwneud pob ymdrech i ddod o hyd i rywun i gymryd lle’r cyfwelydd. Pan na fydd hyn yn bosibl, bydd y cyfweliad naill ai’n cael ei recordio neu’n cael ei gynnal yng nghwmni arsylwr annibynnol.

3. Pam rydym yn cyfweld

3.1 Ar gyfer y rhan fwyaf o raglenni, nid yw'r Brifysgol yn cyfweld ag ymgeiswyr yn rhan o'i phroses ddethol. Fodd bynnag, bydd yn ofynnol i chi gymryd rhan mewn cyfweliad mewn rhai amgylchiadau er mwyn i chi gael eich ystyried ar gyfer lle.

3.1.1 Mae amgylchiadau o’r fath fel arfer yn cynnwys:

  • pan geir gofyniad neu ganllaw cyfreithiol/rheoleiddiol perthnasol
  • pan fydd dim ond hyn a hyn o leoedd ar gael ar y rhaglen
  • pan fydd cyllid llawn neu gyllid rhannol ar gael ar gyfer nifer gyfyngedig o ymgeiswyr, er mwyn nodi'r ymgeisydd/ymgeiswyr gorau ar gyfer y dyfarniad (gallai fod yn gyllid i dalu ffioedd dysgu, yn fwrsariaeth ar gyfer costau byw neu’n nawdd ar gyfer prosiect)
  • pan fydd y Brifysgol o’r farn mai dyma'r ffordd orau o nodi potensial i astudio (er enghraifft, er mwyn asesu potensial ymchwil, addasrwydd ar gyfer y rhaglen neu ddiddordeb yn y pwnc ac ymrwymiad i’w astudio)

3.2 Bydd meini prawf unigol ar gyfer dethol a dulliau asesu, ynghyd ag unrhyw godau ymarfer penodol sy'n ymwneud â chyfweliadau ar gyfer rhaglen benodol, yn cael eu dogfennu yng ngofynion mynediad cyhoeddedig y Brifysgol.

4. Mathau o gyfweliad

4.1 Gallai cyfweliadau gael eu cynnal wyneb-yn-wyneb neu ar-lein (er enghraifft, gan ddefnyddio Microsoft Teams). Mewn rhai achosion, gallai gofynion cyfreithiol neu reoleiddiol olygu nad oes modd cynnal cyfweliad ar-lein. Bydd cyfweliadau ar-lein yn cael eu cynnal ar sail yr un egwyddorion ac arweiniad sy’n berthnasol i gyfweliadau wyneb-yn-wyneb. Os bydd cyfweliad ar-lein yn cael ei gynnig i chi, bydd gofyn i chi brofi pwy ydych cyn dechrau’r cyfweliad.

4.2 Mae mathau o gyfweliadau ffurfiol yn cynnwys:

  • clyweliad
  • cyfweliad panel safonol
  • sesiwn cyfweliadau byr
  • cyflwyniad
  • trafodaeth ynghylch darn o ymchwil

4.3 Mae clyweliad yn cynnwys perfformiad gan ddefnyddio eich ‘prif’ offeryn neu lais o flaen panel. Fel arfer, byddwch yn dewis eich repertoire. Bydd eich perfformiad yn cael ei asesu ar sail safonau mynegiannol a thechnegol cyffredinol.

4.4 Bydd cyfweliad panel safonol yn cynnwys o leiaf ddau berson. Pan na fydd panel dau-berson yn bosibl, efallai y bydd y cyfweliad yn cael ei recordio at ddibenion archwilio neu’n cael ei gynnal yng nghwmni arsylwr neu hebryngwr (mae gennych yr hawl hefyd i ofyn bod hebryngwr yn bresennol).

4.4.1 Nid yw arsylwyr na hebryngwyr yn chwarae rhan weithredol yn y cyfweliad. Os gwelir bod arsylwr neu hebryngwr yn ymyrryd â’r broses, efallai y bydd gofyn iddo dynnu’n ôl.

4.5 Mae sesiwn cyfweliadau byr yn cynnwys nifer o gyfweliadau byr sy’n cael eu hamseru’n ofalus.

4.6 Bydd rhagor o wybodaeth am y math o gyfweliad y gallech ei ddisgwyl ar gael yn yr adnodd Canfod cwrs, a bydd yn cael ei hanfon yn uniongyrchol at yr ymgeiswyr sydd wedi llwyddo i gael eu rhoi ar y rhestr fer.

4.7 Bydd cyfwelwyr yn cael eu dewis ar sail eu harbenigedd a’u perthnasedd i’r pwnc. Efallai y byddant wedi’u cyflogi gan Brifysgol Caerdydd, y GIG yng Nghymru neu gyflogwr arall.

5. Ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg

5.1 Fel arfer, mae cyfweliadau’n cael eu cynnal yn Saesneg. Pan gewch eich gwahodd i gyfweliad, cewch ofyn am gyfweliad yn Gymraeg.

5.2 Pan na fydd yn bosibl cael panel lle mae pawb arno’n siarad Cymraeg, cewch ddewis rhwng cyfweliad dwyieithog neu gyfweliad lle bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

6. Gwahoddiad i gyfweliad

6.1 Bydd gwahoddiad i gyfweliad yn cael ei anfon at y cyfeiriad e-bost a nodwyd ar eich cais.

6.2 Pan fyddwch wedi gwneud cais erbyn y dyddiad cau (ac eithrio’r dyddiadau cau ar gyfer UCAS Extra a’r broses Clirio), byddwch yn cael o leiaf bythefnos o rybudd o ddyddiad eich cyfweliad.

6.2.1 Os cewch gynnig cyfweliad yn rhan o broses UCAS Extra neu’r broses Clirio, mae’n debyg iawn y bydd yn cael ei drefnu ar fyr rybudd.

6.3 Os na allwch fynd i'ch cyfweliad, ni allwn addo cynnig dyddiad arall ar gyfer y cyfweliad ym mhob achos. Bydd hyn yn dibynnu a oes staff a lleoliad ar gael. Os ydych yn gwybod, ar ôl cael dyddiad ar gyfer eich cyfweliad, na fyddwch yn gallu mynd iddo, rhowch wybod i’r ysgol academaidd berthnasol cyn gynted â phosibl er mwyn rhoi’r cyfle gorau posibl i ni gynnig dyddiad arall. Os na fyddwch wedi rhoi gwybod i’r Brifysgol na fyddwch yn mynd i’r cyfweliad, ni fydd dyddiad arall yn cael ei gynnig ar gyfer y cyfweliad.

6.4 Os bydd y Brifysgol yn canslo neu’n gohirio’r cyfweliad, bydd dyddiad newydd yn cael ei gynnig ar gyfer y cyfweliad. Os bydd y Brifysgol wedi rhoi llai na 24 awr o rybudd y bydd yn canslo’r cyfweliad, bydd yn ad-dalu unrhyw gostau teithio y byddwch wedi mynd iddynt (mae angen tystiolaeth o’r costau hyn er mwyn gallu eu hawlio).

6.5 Os byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad ond yn peidio â chadw slot amser erbyn y dyddiad a nodwyd, neu’n peidio â chadarnhau y byddwch yn mynd i’r cyfweliad pan fydd gofyn i chi wneud hynny, neu’n peidio â mynd i’r cyfweliad, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i wrthod eich cais.

7. Costau teithio a chynhaliaeth

7.1 Nid yw'r Brifysgol fel arfer yn ad-dalu’r costau teithio y gallai ymgeiswyr fynd iddynt er mwyn cymryd rhan mewn cyfweliad, ac eithrio pan fydd y cyfweliad wedi’i ganslo (gweler 7.4). Os bydd taliad teithio a chynhaliaeth ar gael i chi, bydd y gwahoddiad i gyfweliad yn nodi hyn.

8. Cyn y cyfweliad

8.1 Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, byddwch yn cael gwybodaeth fanylach am y prosesau, y meini prawf a natur yr asesiad yn y gwahoddiad neu ar ôl i’ch slot amser neu bresenoldeb gael ei gadarnhau. Bydd y wybodaeth hon yn ychwanegol at y wybodaeth sydd wedi’i chyhoeddi yn yr adnodd Canfod cwrs.

8.2 Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, mae’r Brifysgol yn eich annog i ddatgelu manylion unrhyw anabledd (fel y’i diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010) a allai gael effaith ar eich perfformiad. Mae hyn er mwyn galluogi’r Brifysgol i ystyried addasiadau rhesymol priodol.

8.2.1 Bydd addasiadau rhesymol yn amrywio, gan ddibynnu ar anghenion yr ymgeisydd unigol. Mae angen trafod a chytuno ar addasiadau rhesymol fesul achos.

8.2.2 Mae’r gallu i wneud addasiadau rhesymol neu beidio’n dibynnu ar y rhybudd rydych yn ei roi i’r Brifysgol i allu ystyried a diwallu eich anghenion.

8.2.3 Mae addasiadau rhesymol hefyd yn destun unrhyw gyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r cyfweliad ei hun neu y mae cyrff allanol neu reoleiddiol yn eu gwneud yn rhan o’r broses gyfweld.

8.2.4 Pan na fydd yn bosibl addasu’r broses gyfweld, bydd y Brifysgol yn esbonio pam yn llawn.

8.2.5 Ni ellir ystyried anableddau nac anghenion penodol sy’n cael eu datgelu ar ôl y cyfweliad yn ôl-weithredol.

8.3 Os bydd eich cais yn cael ei wrthod cyn i chi gael cyfweliad, a hynny’n rhan o’r broses ragddethol, ni chewch ailymgeisio yn ystod yr un cylch derbyn i ddilyn y rhaglen honno.

9. Yn ystod y cyfweliad

9.1 Cyn y cewch gymryd rhan mewn cyfweliad, ni waeth beth fo’r fformat, bydd gofyn i chi gadarnhau pwy ydych.

9.1.1 Bydd angen i chi gyflwyno dogfen adnabod swyddogol briodol sy’n cadarnhau eich enw llawn a’ch dyddiad geni ac sy’n dangos llun clir ohonoch (er enghraifft, pasbort neu drwydded yrru).

9.1.2 Os ydych yn gwisgo gorchudd wyneb am resymau meddygol neu grefyddol, bydd gweithdrefnau priodol yn cael eu dilyn i hwyluso’r broses adnabod (er enghraifft, cadw pellter cymdeithasol neu sicrhau bod rhywle preifat un-i-un ar gael gyda pherson o’r un rhyw).

9.2 Mae disgwyl i’r holl staff (gan gynnwys cyfwelwyr allanol), myfyrwyr ac ymgeiswyr gydymffurfio â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a’r Polisi Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio.

10. Ar ôl y cyfweliad

10.1 Cewch wybod yn eich cyfweliad faint o amser yn fras y bydd yn ei gymryd i benderfyniad (cynnig lle neu wrthod eich cais) gael ei wneud ynghylch eich cais. Os bydd y penderfyniad yn dibynnu ar ffactorau eraill (er enghraifft, os bydd angen cynnal pob cyfweliad cyn rhoi gwybod am benderfyniadau), cewch wybod am hyn.

10.2 Os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, cewch gynnig lle ar y rhaglen. Efallai y bydd y cynnig yn amodol ar ffactorau eraill (er enghraifft, bodloni’r gofynion academaidd neu ofynion iaith Saesneg angenrheidiol).

10.3 Os na fyddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, efallai y bydd y Brifysgol yn cynnig lle i chi ar raglen arall neu’n gwrthod eich cais.

10.3.1 Os bydd eich cais yn cael ei wrthod ar ôl i chi gael cyfweliad, ni chewch ailymgeisio yn ystod yr un cylch derbyn i ddilyn y rhaglen honno. Fodd bynnag, cewch ailymgeisio yn ystod y cylch derbyn dilynol.

11. Adborth ar eich perfformiad

11.1 Ar gyfer rhai rhaglenni, bydd adborth ysgrifenedig ar eich perfformiad yn y cyfweliad yn cael ei anfon atoch yn awtomatig drwy e-bost. Os bydd hyn yn digwydd, cewch wybod am hyn, gan gynnwys pryd y gallwch ddisgwyl cael yr adborth, yn y cyfweliad.

11.2 Ar gyfer pob rhaglen arall, gallwch wneud cais ysgrifenedig am adborth drwy ddilyn y broses adborth, cwynion ac apeliadau.

12. Cadw data

12.1 Bydd cadeiryddion paneli cyfweld yn gwneud yn siŵr bod cofnod ffurfiol o'ch cyfweliad yn cael ei greu a'i gadw'n ddiogel. Bydd copi o'r cofnodion hyn hefyd yn cael ei gynnal gan Gydlynydd Derbyn Myfyrwyr yr ysgol academaidd. Dylai’r cofnodion hyn gael eu cadw’n unol â'r amseroedd a nodir yn amserlenni cadw cofnodion y Brifysgol.

13. Pwyntiau cyswllt perthnasol

13.1 Ar gyfer ymholiadau sy’n ymwneud â’ch cyfweliad chi’n benodol, cysylltwch â’r ysgol academaidd berthnasol.

13.2 Ar gyfer ymholiadau sy’n ymwneud â derbyn myfyrwyr yn gyffredinol, neu os ydych yn ansicr pwy yw’r pwynt cyswllt yn yr ysgol academaidd, neu er mwyn rhoi adborth ar y polisi hwn, cysylltwch â Thîm Derbyn Myfyrwyr y Brifysgol.