Rifyn 35 o ReMEDy
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (PDF, 2.1 MB)
Croeso i rifyn 35 o ReMEDy
Ers ein cyhoeddiad diwethaf ym mis Hydref 2020, mae’r byd yn dal i fyw gyda chyfyngiadau i leihau lledaeniad COVID-19. Gyda sawl brechlyn gwahanol wedi’u cyflwyno i frwydro yn erbyn y pandemig hwn, mae gobaith gwirioneddol bellach y byddwn yn gallu dychwelyd i fwy o ryngweithio cymdeithasoldros amser.
Yn y rhifyn hwn, rydym yn edrych ar sut mae staff a myfyrwyr yn ymateb i’r heriau o weithio ac astudio yn ystod cyfnod mor heriol. Mae cymaint o bethau y gallwn eu crybwyll yma ond rwy’n falch iawn bod cymaint o’n myfyrwyr, gan gynnwys ein myfyrwyr C21 yn y Gogledd, wedi bod yn gwirfoddoli mewn canolfannau brechu ledled Cymru i gefnogi’r ymdrech enfawr i reoli’r pandemig hwn.
Bu’n rhaid addasu llawer o’n gweithgareddau yn ystod y pandemig, gan ddefnyddio amrywiaeth o offer ar-lein, ac felly mae’n broses ddysgu ddwys o’r newydd i bawb (addysgu, derbyniadau, asesiadau, lleoliadau, ymgysylltu â’r cyhoedd ac ati) ond wedi’u hwyluso gan ymdrechion ein cydweithwyr, yr Athro Marcus Coffey a’r Dr Duncan Cole a Thanasi Hassoulas o’r grŵp Addysg Ddigidol a drefnodd ac a gynhaliodd gyfres lwyddiannus o weithdai ar gyfer staff a myfyrwyr gan ddarparu cymorth addysgu / dysgu a thechnegol ychwanegol ar ddarparu addysgu ac asesu o bell. Mae pawb ym mhob rhan o’r Ysgol wedi gweithio mor galed i ddarparu profiad cystal ag y gallwn i fyfyrwyr o dan yr amgylchiadau hyn - diolch i chi i gyd.
Mae’r brif erthygl yn tynnu sylw at rai o’r mentrau parhaus sy’n cael eu llywio gan ein Grŵp Tasg Cydraddoldeb Hil Staff Myfyrwyr, ochr yn ochr â myfyrwyr yng Nghymdeithas Feddygol Caribïaidd Affricanaidd (ACMA), Cymdeithas Safbwyntiau Rhyngwladol Gofal Iechyd Caerdydd (CHIPs) a MedSoc. Mae’r gwaith hwn o’r pwys mwyaf i’r Ysgol wrth i ni barhau i wreiddio ein gwerthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan sicrhau bod myfyrwyr o bob cefndir yn cael cefnogaeth ystyrlon. Mae sgyrsiau am sut maeangen i ddarpariaeth gwricwlaidd newid i gydnabod ein hamrywiaeth cynhenid yn digwydd mewn llawer o’r cyfarfodydd addysg feddygol rwy’n eu mynychu - rwy’n croesawu’r trafodaethau hyn ac yn eu cefnogi ar bob cyfle. Rwy’n gobeithio y byddwn yn parhau i gerdded y llwybr hwn a datblygu atebion gyda’n gilydd.
Mae ein herthygl boblogaidd, sef ein sgwrs gyda chynfyfyriwr, yn gyfle i holi Dr Eli Wyatt, a raddiodd yn 2020 ar anterth y pandemig COVID-19 ac sydd bellach yn feddyg F1 yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae gennym erthygl ar waith rhai o’n myfyrwyr i frwydro yn erbyn ffug wybodaeth COVID-19 gyda chefnogaeth Dr Thanasi Hassoulas a Dr Eliana Panayiotou. Yn ogystal â gwaith rhagorol Meddygon Mwslimaidd Cymru yn cynnwys Dr Bnar Talabani a Dr Mohammad Alhadj Ali i ymgysylltu â chymunedau BAME wrth gyflwyno rhaglen brechu COVID-19.
Yn olaf, Abhay Ghaiwal, myfyriwr meddygol israddedig yn y bedwaredd flwyddyn sy’n gyfrifol am greu delwedd drawiadol clawr blaen y rhifyn hwn, gan ymateb i alwad i greu adnoddau ar gyfer plant bach a oedd yn ofni gweld staff meddygol yn gwisgo PPE llawn. Dyma un o sawl delwedd a grëwyd gan fyfyrwyr yn adlewyrchu PPE fel rhan o wisg archarwr sydd wedi helpu plant i deimlo’n fwy hyderus a hapusach ynglŷn â chyfarfod â staff meddygol yn ystod y pandemig.
Yn olaf, cofiwch fod ReMEDy ar gael ar ffurf electronig i gynfyfyrwyr yr Ysgol, felly cofiwch roi gwybod inni os yw eich cyfeiriad ebost wedi newid.
Sgwrs gyda chynfyfyriwr…Dr Eli Wyatt (MBBCh 2020)
Ar hyn o bryd mae Eli yn gweithio fel meddyg blwyddyn sylfaen 1 yn Ysbyty Glan Clwyd, gan weithio ar y ward arennol, yn dilyn cyfnodau o adleoli i helpu ar wardiau COVID.
Mae diwrnod arferol yn cynnwys rownd fwrdd, ac yna rownd ward gyda / heb ymgynghorydd a chyfres o bethau i’w cwblhau. Ond, cyn graddio hyd yn oed, roedd Eli wedi gwirfoddoli yn y frwydr yn erbyn COVID-19 gan ddechrau cynorthwyo mewn unrhyw ffordd y gallai yn Ysbyty Glan Clwyd. Meddai Eli: “Mae’r flwyddyn ers graddio wedi bod yn un rhuthr mawr ar ôl i mi raddio yn ystod pandemig byd-eang! Rwyf wedi dysgu a phrofi llawer iawn mewn cyfnod cymharol fyr, ac rwyf wedi gwneud cysylltiadau cryf â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn y gwaith. ”
Pan ofynnwyd iddi pam y dewisodd hi Gaerdydd, mae’n egluro: “Mae yna lawer o resymau. Roeddwn i eisiau aros yng Nghymru, roedd hyn yn golygu y gallwn aros yn agos at fy nain a thaid yr oeddem yn eu cefnogi fel teulu. Rwyf hefyd yn siarad Cymraeg felly i mi, roeddwn i eisiau gallu defnyddio’r iaith ar leoliadau ac ati. Roedd arddull y cwricwlwm yn gweddu i mi gydallawer o brofiad ymarferol a dysgu yn seiliedig ar achosion. Roeddwn i hefyd yn chwarae pêl-rwyd ar safon uchel ac roeddwn am gynnal hyn yn ystod fy mlynyddoedd yn y brifysgol, ac roeddwn wedi clywed bod tîm y brifysgol yn dda iawn a bod digon o glybiau i ymuno â nhw yn y Brifysgol a thu allan i’r Brifysgol. ”
Fel myfyriwr israddedig, mae Eli yn disgrifio ei hoff atgof o’i chyfnod dramor yn y bumed flwyddyn lle gwirfoddolodd i elusen yn Namibia i helpu gyda gofal iechyd gwledig. Meddai: “Roedd yr elusen roeddwn i’n ei helpu hefyd yn gyfrifol am ychydig o warchodfeydd bywyd gwyllt o amgylch Namibia, felly cefais y fraint o gymryd rhan gyda’r bywyd gwyllt yno hefyd. Mae gen i lawer o atgofion o’r amser hwn, yn cynorthwyo plant ac oedolion oedd yn dioddef o ddiffyg maeth ac wedi’u hesgeuluso, tra’n cofio hefyd am fy amser yn gofalu am lawer o fywyd gwyllt amrywiol fel babŵns, llewpartiaid, meerkats a chymaint mwy. Roedd hi’n fraint fy mod i’n gallu gweld y gwahaniaeth enfawr mewn gofal iechyd gwledig yno o’i gymharu â’r wlad hon gan fy atgoffa o ba mor lwcus ydyn ni gyda’n GIG mewn gwirionedd.”
Wrth fyfyrio ar sut y cyfrannodd Ysgol Meddygaeth Caerdydd at ei llwyddiant, meddai Eli: “Bu Prifysgol Caerdydd yn gyfrifol am fy arfogi â’r sgiliau allweddol sydd eu hangen fel meddyg iau sy’n datblygu’n barhaus. Er na allai unrhyw beth fod wedi fy mharatoi i ddechrau gweithio yn ystod pandemig byd-eang, rwy’n teimlo bod llawer o sgiliau hanfodol a gefnogodd fi yn ystod y cyfnod hwn yn deillio o fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd, ac am hynny, rwy’n hynod ddiolchgar.”
I gloi, meddai Eli: “Wrth edrych yn ôl, gwnaeth Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd gymaint o argraff arnaf pan ddaeth y pandemig i’r amlwg. Roedd myfyrwyr y bumed flwyddyn wedi’u gwasgaru ledled y Byd ar eu cyfnodau dramor ond cawsom y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd mewn modd proffesiynol iawn. Fe wnaethant sicrhau bod yr hyn a oedd yn amser brawychus ac anrhagweladwy i ni, yn teimlo fel rhywbeth trefnus ac ystyrlon.”
Cynghorion Eli i fyfyrwyr:
“Peidiwch â rhoi gormod o bwysau arnoch chi’ch hun i wybod / dysgu popeth. Meddygaeth yw un o’r ychydig yrfaoedd lle nad ydych chi byth yn stopio dysgu, felly mae digon o amser. Pwrpas yr ysgol feddygol yw rhoi’r sylfeini i chi adeiladu arnynt yn y dyfodol. “
“Mae dysgu, hyfforddi a gweithio mewn pandemig bydeang wedi dod ag ansicrwydd, newidiadau a heriau ychwanegol i’r amlwg. Byddwch yn falch ohonoch chi eich hun gan wybod ei bod bob amser yn iawn gofyn am help.”
Dan y Chwyddwydr: Y Rhaglen Meistr mewn Iacháu Clwyfau a Thrwsio Meinweoedd
Mae’r rhaglen Meistr mewn Iacháu Clwyfau a Thrwsio Meinweoedd yn rhaglen dysgu o bell dair blynedd, rhyngddisgyblaethol, rhan-amser, sefydledig.
Dechreuodd y rhaglen fel diploma ôlraddedig yn 1996, gan ddod yn rhaglen Meistr yn 1999 yn ddiweddarach. Mae’r rhaglen yn denu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o feysydd fel nyrsio, meddygaeth, fferylliaeth a phodiatreg, ac yn cynnig cyfle i astudio ar-lein ochr yn ochr â grŵp rhyngwladol o fyfyrwyr o bob cwr o’r byd.
Mae’r rhaglen wedi cael dros ddau ddegawd o lwyddiant gydag addysgu wedi’i chefnogi gan ystod o arbenigwyr rhyngwladol, rhyngbroffesiynol ym maes iacháu clwyfau a thrwsio meinweoedd.
Ers i’r rhaglen gychwyn, bu bron i 350 o raddedigion gan gynnwys 184 MSc, 130 Diploma Ôl-raddedig a 34 Tystysgrif Ôl-raddedig. Daw mwyafrif y myfyrwyr o’r DU ond dros y ddwy flynedd ddiwethaf bu cynnydd yn yr ystod o wledydd a gynrychiolir gan gynnwys; Gwlad Belg, y Swistir, yr Iseldiroedd, Singapore, Malaysia, Awstralia, UDA ac Ynys Manaw.
Ym mis Medi fe ymatebodd y rhaglen i her y pandemig trwy ddarparu’r holl ddysgu ar-lein, yn hytrach na chael bloc astudio 5 diwrnod, wyneb yn wyneb, ar y campws. Er bod hyn wedi profi gwytnwch pawb dan sylw, mae’r newid i fod yn hollol rithwir wedi bod yn llwyddiant gyda chynnydd yn nifer y myfyrwyr ar gyfer Blwyddyn 1. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb ymroddiad yr holl unigolion sy’n ymwneud â’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen – diolch!
Chwalu Chwedlau yn ystod COVID-19
Un o’r heriau niferus sy’n wynebu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ystod y pandemig yw faint o ffug wybodaeth sy’n cael ei rhannu ar raddfa frawychus. Gall lledaeniad gwybodaeth anghywir o’r fath gael effaith niweidiol ar ganfyddiad y cyhoedd o ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd allweddol, a’u hyder ynddynt.
Mae enghreiffitiau o gamliwio a diffyg cywirdeb amrywiol wedi bod yn frith yn ddiweddar, yn benodol ar gyfryngau cymdeithasol, o safbwynt tarddiad y firws, sut mae’n cael ei ledaenu, a’r wyddoniaeth sy’n sail i’r brechlynnau a ddatblygwyd yn ddiweddar. Mewn ymateb i’r ffug wybodaeth, a’r ffug newyddion a’r damcaniaethu di-sail, mae nifer o’n myfyrwyr meddygol wedi camu i’r adwy drwy greu ystod o adnoddau atyniadol gyda’r nod o chwalu rhai o’r chwedlau cyffredin, yn ogystal ag ymdrechu i gynnig cefnogaeth i’r rhai a all fod yn teimlo’n bryderus neu’n isel yn y cyfnod hwn.
Bu Dr Athanasios Hassoulas yn gweithio gyda thîm o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf C21 i ledaenu cyfres o adnoddau addysgiadol sy’n cynnwys taflen wybodaeth i gleifion, pamffled iechyd y cyhoedd, a fideo dan arweiniad myfyrwyr yn dadansoddi honiadau di-sail. Dyluniwyd y daflen wybodaeth i gleifion, a grëwyd gan fyfyrwyr C21 blwyddyn un, Meghan Edwards a Sanya Trikha, i’w dosbarthu ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn lleoliadau gofal sylfaenol.
Mae’r daflen yn herio rhai o’r chwedlau sy’n cael eu hailadrodd, gan gynnig gwybodaeth am natur y brechlynnau COVID-19 sydd ar gael yn y DU ar hyn o bryd, a’i nod yw rheoli disgwyliadau’r cyhoedd o safbwynt sut mae’r rhaglen brechu yn cael ei chyflwyno.
Yn ogystal â’r daflen, dyluniwyd pamffled iechyd y cyhoedd gan fyfyrwyr C21 blwyddyn un, Praveena Pemmasani, Molly Sherriff, Je Yin Chooi a Rebecca James, dan arweiniad y Pediatregydd Ymgynghorol Dr Eliana Panayiotou.
Nod y pamffled yw chwalu honiadau ffug sy’n cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol am natur y brechlyn, trwy ddarparu crynodeb lleyg o sut mae’r brechlyn yn gweithio a chyfeirio’r cyhoedd at ffynonellau gwybodaeth dibynadwy.
Gan ychwanegu ymhellach at y gyfres o adnoddau sy’n chwalu’r chwedlau, creodd Anna Thomas, myfyriwr blwyddyn un C21, fideo deniadol ac addysgiadol lle mae hi’n dadansoddi mewn modd systematig yr honiadau ffug sy’n cael eu hyrwyddo ar nifer o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Mae dull proffesiynol Anna sy’n seiliedig ar dystiolaeth o werthuso a herio honiadau ffug, a wnaed ar natur y firws a’r broses datblygu brechlynnau, wedi derbyn canmoliaeth gan staff rhaglen C21. Mae ei fideo wedi cael ei wylio gannoedd o weithiau ac mae wedi cael ei rannu gan nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol fel rhan o’r ymdrechion parhaus i rymuso’r cyhoedd i wahaniaethu rhwng gwybodaeth ffug a ffaith.
Cydweithio i Wreiddio Gwerthoedd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Roedd 2020, yn flwyddyn heriol ac anodd, o bandemig COVID-19 i aildanio mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys (Black Lives Matter), ar ôl marwolaeth drasig George Floyd gyda’i eiriau olaf ‘Ni allaf anadlu’. Roedd ei farwolaeth yn sbardun ar gyfer y protestiadau niferus a gynhaliwyd ledled y byd yn ystod Gwanwyn 2020, gan ddod â phwnc hiliaeth i sylw’r cyhoedd.
Amlygodd unigolion ar draws gwahanol sectorau y rhwystrau sy’n eu hwynebu gydag anghydraddoldebau hiliol systemig ac nid yw hyn yn wahanol ym maes meddygaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion fel ei gilydd. Yn draddodiadol yn y DU, mae gan addysg feddygol bersbectif Ewropeaidd, sy’n arbennig o amlwg mewn arbenigeddau mwy gweledol fel dermatoleg, ond mae hyn i’w weld ym mhob arbenigedd ym maes meddygaeth. Mae’r diffyg amrywiaeth hwn yn rhwystr i baratoi hyfforddeion i ofalu am gymdeithas gynyddol amlddiwylliannol mewn modd sy’n canolbwyntio ar y claf.
Yn yr Ysgol Meddygaeth, codwyd pryderon ynghylch hiliaeth yn y gorffennol ac yn 2017 cyflwynodd adolygiad annibynnol 13 o argymhellion ym maes polisi, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol. Yn dilyn hyn, cafwyd ymrwymiad o’r newydd tuag at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Mewn ymateb i fudiad a phrotestiadau BLM, roedd myfyrwyr meddygol angerddol Caerdydd ynghlwm â’r ddisgwrs hon ac yn cydweithredu i drefnu llythyrau agored am newidiadau i’r cwricwlwm o ran hil. Cynigiodd dogfen a luniwyd gan Gymdeithas Feddygol Caribïaidd Affrica (ACMA) argymhellion mewn meysydd fel cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant, mynd i’r afael â microymosodiadau, diweddaru’r polisi codi pryderon, a newid y diwylliant.
Er mwyn mynd i’r afael â’r cynigion hyn mewn modd cydlynus, ymatebodd cafwyd ymateb ffafriol gan yr ysgol meddygaeth, a chrëwyd Grŵp Tasg Cydraddoldeb Hil Staff MEDIC Caerdydd yn y flwyddyn academaidd newydd.
Mae’r grŵp yn cynnwys staff o wahanol ddisgyblaethau yn ogystal â chynrychiolwyr myfyrwyr o chwe chymdeithas, Ffigur 1, sy’n cynrychioli gwahanol grefyddau, ethnigrwydd, a chorff cyffredinol y myfyrwyr yn ogystal â chynrychiolydd myfyrwyr Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA). Gwahoddir aelod o dîm ehangach Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y brifysgol i ddarparu persbectif allanol ac atebolrwydd. Maent yn cwrdd chwe gwaith mewn blwyddyn academaidd gyda’r hyblygrwydd i gynnal cyfarfodydd ad hoc os bydd mater sy’n hanfodol o ran amser yn codi. Gwahoddir aelodau eraill o staff hefyd yn dibynnu ar ffocws pob cyfarfod grŵp tasg, gydag arolygon myfyrwyr yn cael eu dosbarthu lle bo hynny’n berthnasol cyn y cyfarfodydd i gael persbectif ehangach.
Cylch gwaith y grŵp tasg yw trafod a chreu cynlluniau gweithredu ar sail rhai pwyntiau allweddol a gynigiwyd gan gorff y myfyrwyr ar sut i wella cydraddoldeb hil yn yr Ysgol Meddygaeth, amgylchedd y myfyrwyr meddygol a’r cwricwlwm. Maent yn eiriol dros ac yn sicrhau tegwch a chynrychiolaeth hil yn y gyfadran a chorff y myfyrwyr.
Eu ffocws cychwynnol ar gyfer y flwyddyn academaidd hon fu blaenoriaethu’r pryderon a godwyd yn y llythyrau agored a’r dogfennau ymgynghorol, gan ddechrau dad-drefedigaethu’r cwricwlwm israddedig a hyrwyddo cydraddoldeb hil ar draws yr ysgol meddygaeth. Er enghraifft , diwygiwyd y polisi Codi Pryderon i gynnwys enghreifftiau o wahaniaethu crefyddol a hiliol, a llofnododd Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd Siarter y BMA hefyd i ymrwymo’n ffurfiol i atal, a mynd i’r afael ag, aflonyddu hiliol.
Mae dad-drefedigaethu’r cwricwlwm, sy’n brosiect parhaus, wedi canolbwyntio ar dri arbenigedd eleni: dermatoleg, obstetreg a gynaecoleg, a seiciatreg. Dewiswyd yr arbenigeddau hyn i gyflwyno gwelliannau bach o fewn pob cam gan sicrhau bod y cwricwlwm craidd yn cael ei gynnal. Yng Ngham 1 y nod oedd annog trafodaethau mewn Dysgu Seiliedig ar Achosion trwy gefnogi hwyluswyr a myfyrwyr mewn trafodaethau sy’n edrych ar wahaniaethau hiliol a sut y gallai cleifion brofi gwahanol ganlyniadau. Yng Ngham 2 a 3 ychwanegwyd adnoddau gan gynnig banc delweddau mwy amrywiol yn ogystal ag e-fodiwl yn edrych ar ganlyniadau iechyd mamolaeth.
Ym mis Ebrill, cynhaliodd aelodau’r Grŵp Tasg ddigwyddiad rhithwir Diwrnod Ymwybyddiaeth Hil dros 2 ddiwrnod er mwyn cynnal y trafodaethau hyn sydd yn aml yn rhai anodd. Roedd pob diwrnod yn cynnwys tri i bedwar gweithdy cyfochrog yr oedd staff a myfyrwyr yn eu mynychu rhwng 2 sesiwn lawn. Nod y digwyddiad oedd gwella dealltwriaeth ein staff a’n myfyrwyr o gynghreiriad a phersbectif bydeang amrywiaeth diwylliannol mewn gofal iechyd sy’n bodoli yn y byd sydd ohoni. Gwahoddwyd ystod eang o siaradwyr bob dydd i gyflwyno gwahanol bynciau am ymwybyddiaeth hil ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol, trwy ddefnyddio gweithdai a chyfarfodydd llawn.
Y mis Rhagfyr hwn, bydd rhai aelodau hefyd yn cyflwyno gweithdy ar gyfer y Gynhadledd Datblygu Rhagoriaeth mewn Addysg Feddygol (DEMEC). Dyma gyfle gwych i’r Ysgol Meddygaeth arddangos y gwaith maen nhw’n ei wneud ar lefel genedlaethol. Bydd clinigwyr ac addysgwyr yn y gymuned addysg feddygol yn ei fynychu gyda’r nod o annog trawsnewid cadarnhaol a chynaliadwy. Bydd y gweithdy’n cynnwys edrych ar strategaethau ar gyfer gwella cydraddoldeb hil mewn sefydliadau gofal iechyd gyda’r gobaith o nodi rhwystrau i hwyluso sgyrsiau am hil.
Un o brif lwyddiannau’r Grŵp Tasg oedd sefydlu cysylltiadau gwaith cydweithredol rhwng myfyrwyr a staff gyda mwy o ymddiriedaeth a thryloywder. Mae hyn wedi caniatáu trafodaethau agored gyda chysylltiadau allweddol ac mae defnyddio amser siarad gwarchodedig yn helpu i greu ‘lle diogel’ ar gyfer trafodaethau, a sicrhau bod pob llais yn cael ei werthfawrogi’n gyfartal. Er y gall barn pobl fod yn wahanol i’w gilydd, mae aelodaeth amrywiol yn golygu bod amrywiaeth eang o safbwyntiau yn cael eu hystyried ac mae unrhyw bwyntiau gweithredu y cytunir arnynt yn debygol o fod yn dderbyniol i’r holl randdeiliaid allweddol.
Fodd bynnag, fel gweithgor newydd ei ffurfio, bu heriau hefyd. Mae disgwyliadau gwahanol o’r hyn y gellir ei gyflawni o fewn amserlenni penodol wedi achosi rhwystredigaeth, gyda’r angen i gydbwyso cyfyngiadau ar lwythi gwaith staff ac amser yn erbyn yr awydd i newid pethau ar unwaith. Cydnabuwyd bod nodau tymor byr yn fwy realistig gan werthfawrogi y byddai angen strategaeth tymor hwy er mwyn ymgorffori newid diwylliannol yng ngwead yr ysgol. Mae’r grŵp tasg wedi ymrwymo i weithredu newidiadau sy’n gynaliadwy ac yn ddeinamig, gyda’r awydd i newid meddyliau o ran hil yn hytrach na chyflwyno ymarferion ‘blwch ticio’.
At ei gilydd, mae’r Grŵp Tasg ynrhan allweddol o wella addysg feddygol mewn perthynas â hil ac ethnigrwydd yn ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, a bydd yn parhau i wneud hynny. Y nod yn y pen draw yw cynhyrchu cenedlaethau o feddygon sy’n hyderus ac yn gymwys i ddarparu gofal i boblogaeth amlddiwylliannol sy’n esblygu’n gyson, a bydd y Grŵp Tasg yn allweddol i gyflawni hyn. Byddent yn annog unrhyw fyfyriwr meddygol presennol a chyn-fyfyrwyr i gymryd rhan a chefnogi’r gwaith y maent yn ei wneud.
10 enghraifft o effaith Medic
Mae gan yr Ysgol Meddygaeth hanes llwyddiannus o gyfrannu at y gymdeithas drwy ei gweithgarwch Ymchwil, Dysgu ac Addysgu, Arloesi ac Ymgysylltu. Mae ymdrechion llawer o staff a myfyrwyr yn amlygu'r amrywiaeth eang o ffyrdd y mae'r Ysgol yn ymgysylltu â'r gymdeithas ac yn cynnig manteision iddi.
Dyma 10 enghraifft ddiweddar:
1 - E-Ganllaw i Hyrwyddo Iechyd Meddwl Da yn ystod Pandemig COVID-19
Mae pandemig COVID-19 wedi achosi cryn aflonyddwch i’n holl fywydau, sydd yn ei dro wedi cael effaith ddwys ar ein lles meddyliol. Mae Dr Athanasios Hassoulas, Cyfarwyddwr Rhaglen Seiciatreg MSc, wedi gweithio gyda myfyrwyr meddygol blwyddyn 3, Srinjay Mukhopadhyay a Ravanth Baskaran i ddatblygu e-ganllaw iechyd meddwl mynediad agored a luniwyd i gynnig cefnogaeth o bell yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’r e-ganllaw yn cynnwys ymarferion rhyngweithiol, fideos a thasgau gyda’r nod o hybu iechyd meddwl da a darparu cefnogaeth i bobl o bob grŵp oedran. Mae miloedd o bobl ledled y DU wedi cael mynediad i’r e-ganllaw a gellir ei rannu’n hawdd ag unrhyw un yr ydych chi’n teimlo a allai fod yn ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd.
2 - Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Fyw Ar-lein 2021
Cynhaliwyd digwyddiad rhithwir eleni ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 ar 10 a 11 Mawrth, gan gynnig cyfuniad o adnoddau wedi’u recordio ymlaen llaw a phedair sesiwn fyw ar-lein. Cofrestrodd 464 i dderbyn y rhaglen ryngweithiol gyda dolenni i’r holl adnoddau.
Casglwyd adborth, yn fyw ac ar-lein, ac o’r rhai a gymerodd ran -
- Roedd 95% yn teimlo bod y digwyddiad wedi eu helpu i hyrwyddo eu nodau gyrfa i’r dyfodol
- Nododd 76% eu bod yn fwy tebygol o astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl mynychu’r digwyddiad
- Cytunodd 70% yn gryf fod y digwyddiad wedi eu hysbrydoli tuag at yrfa mewn gwyddoniaeth ym maes iechyd.
3 - Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl pobl Ifanc
Sefydlwyd y ganolfan yn 2020, gan ddod ag ymchwilwyr o’r radd flaenaf ynghyd i ganolbwyntio ar leihau gorbryder ac iselder ymysg pobl ifanc.
Er bod oedi yn gysylltiedig â’r pandemig wedi effeithio ar nifer o ffrydiau gwaith ymchwil Canolfan Wolfson, mae’r Ganolfan eisoes wedi bod yn brysur yn cynhyrchu papurau ymchwil a grantiau ym maes iechyd meddwl pobl ifanc ynghyd â sefydlu ei llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a’i gwefan.
Dywedodd y Cyd-gyfarwyddwr, yr Athro Stephan Collishaw, “Mae dod o hyd i ymyriadau a dylanwadu ar bolisi a fydd yn helpu i wella iechyd meddwl pobl ifanc yn flaenoriaeth, yn enwedig o ystyried effaith pandemig COVID-19.
Rydym yn edrych ymlaen at gynyddu cyflymder ein hymdrechion ymchwil a gweithio gyda phobl ifanc trwy ein grŵp ffocws newydd arfaethedig a rhanddeiliaid allweddol ar ba waith ymchwil yr hoffent ei weld yn cael ei ddatblygu.”
4 - Langerin yn erbyn HIV
Mae ymchwil dan arweiniad Dr Magdalena Czubala (Prifysgol Caerdydd), Miss Ghizlane Maarifi a Dr Fabien Blanchet (y ddau o Brifysgol Montpellier) wedi taflu goleuni newydd ar y mecanwaith posibl y gall interfferonau amddiffyn rhag trosglwyddo HIV yn rhywiol. Disgrifiodd yr ymchwil a gyhoeddwyd yn Cellular & Molecular Immunology Langerin, sef derbynnydd wyneb adnabyddus ar Gelloedd Langerhans, fel genyn cymelladwy interfferon newydd. Meddai Dr Czubala:
“ Mae’r rhain yn ganfyddiadau cyffrous iawn. Mae celloedd Langerhans yn chwarae rhan bwysig wrth ddal a lladd HIV, ond hefyd drwy drosglwyddiad rhywiol. Gallai gosod Langerin ar y celloedd hyn gynyddu effeithlonrwydd dal a diraddio HIV, a thrwy hynny leihau’r siawns o drosglwyddo firws rhwng partneriaid”.
5 - Myfyriwr meddygaeth ôl-raddedig yn ennill gwobr fawreddog
Mae’r myfyriwr ôl-raddedig Dr Charlotte Brown wedi ennill y Fedal Medawar fawreddog yng nghyngres Cymdeithas Trawsblannu Prydain 2021 NHSBT. Enillodd Charlotte y wobr gyda’i chyflwyniad o’r enw “Mae rhagamodi isgemig yn gyrru ehangiad poblogaeth celloedd amddiffynnol yn y stroma arennol”.
Mae Charlotte, sy’n hyfforddai llawfeddygol â diddordeb mewn trawsblannu, ar fin cyflwyno ei thraethawd PhD ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n cael ei goruchwylio gan dîm o ymchwilwyr clinigol ac anghlinigol o Uned Ymchwil Arennau Cymru - Dr Soma Meran, Mr Usman Khalid, Dr Robert Steadman a Mr Rafael Chavez.
Mae ei phrosiect yn ymchwilio i rôl y matrics allgellog polysacarid Hyaluronan yn anaf acíwt yr arennau i gontinwwm clefyd cronig yr arennau ac mae hi wedi defnyddio modelau in vivo, a ddatblygwyd gan y tîm ymchwil i ymchwilio i gyfryngwyr anaf arennol.
6 - Yr Athro Adrian Edwards wedi’i Benodi yn Gyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth Ymchwil COVID-19 Newydd Cymru
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi penodi’r Athro Adrian Edwards yn Gyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 newydd Cymru. Mae’r ganolfan £3 miliwn, yn cael ei chreu ar ran Llywodraeth Cymru i ddefnyddio canfyddiadau ymchwil ledled y DU a’r tu hwnt er mwyn ateb cwestiynau pwysig a helpu i wneud penderfyniadau yng Nghymru. Gallai hyn gynnwys mynd i’r afael ag effeithiau tymor hir y pandemig ac edrych ar heriau megis rheoli’r haint a chadw pellter cymdeithasol, goblygiadau hunanynysu ac effeithiau’r aflonyddwch economaidd ar iechyd.
Bydd y Ganolfan yn cynnig ffordd gyflym o gael gafael ar ganfyddiadau a thystiolaeth ymchwil ryngwladol o bwys er mwyn i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru allu gwneud penderfyniadau. Bydd hefyd yn sicrhau bod modd cynnal astudiaethau ymchwil cyflym a phenodol ar lefel Cymru, gan gynnwys am COVID hir.
7 - Dwy wobr am fatres sy’n synhwyro wlserau pwysau
Creodd myfyriwr meddygol o Gaerdydd, Luthhan Nessa a gwyddonydd data Prifysgol Harvard, Anna McGovern, CalidiScope - sef matres sy’n synhwyro wlserau pwyso, ac mae wedi ennill dwy brif wobr arloesi gwerth cyfanswm o £40,500 mewn cwta dau ddiwrnod.
Yn gyntaf, curodd Luthfun ac Anna bedwar arall yn y rownd derfynol i gipio’r wobr o £10,000 yng Ngwobrau Arloesedd Iechyd blynyddol y Sefydliad Arloesedd Iechyd Byd-eang (IGHI). Yna, ddeuddydd yn ddiweddarach, enillodd CalidiScope Her Catalydd Mentro Imperial Enterprise Lab, gan ennill £30,000 ynghyd â gwobr gynulleidfa o £500.
Mae CalidiScope yn gobeithio gwella’r strategaeth atal yn sylweddol ar gyfer cleifion sydd mewn perygl o ddatblygu wlserau pwysau trwy helpu nyrsys i bersonoli gofal cleifion.
8 - Gwyddonwyr yn datblygu prawf cyflym ar gyfer gwneud diagnosis o set o gyflyrau genetig prin
Arweiniwyd yr ymchwil gan yr Athro Duncan Baird ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Athro Tom Vulliamy ym Mhrifysgol Queen Mary yn Llundain ac mae wedi’i chyhoeddi yng nghyfnodolyn Human Genetics.
Mae telomeropathïau yn cael eu hachosi wrth i bennau’r cromosomau fyrhau’n rhy gynnar. Moleciwlau DNA sy’n cynnwys ein gwybodaeth enetig yw cromosomau. Gallan nhw arwain at ystod o symptomau, gan gynnwys methiant mêr esgyrn, ffibrosis yr ysgyfaint, canser a chlefyd yr afu mewn oedolion a phlant. Ar hyn o bryd mae tua 1,000 o bobl yn byw gyda telomeropathïau yn y DU, gyda nifer ohonynt heb eu canfod. Dywedodd yr Athro Baird:
“ Yn awr, os oes gan glaf symptom difrifol fel methiant mêr esgyrn gallwn brofi, yn fwy cyflym a chywir nag erioed o’r blaen, os yw hyn o ganlyniad i delomeropathi, a thrwy hynny gyflymu’r broses o roi diagnosis i’r cleifion hyn.”
9 - Ramadan Iach Cymru
Mae Ysgol Meddygaeth Caerdydd mewn partneriaeth â Diabetes UK Cymru a Chynghrair Ryngwladol Diabetes a Ramadan (DAR) yn cynnal cyfres o weminarau ‘Ramadan Iach Cymru’ dan arweiniad Dr Mohammad Alhadj Ali , Darlithydd Clinigol mewn Diabetes ac Endocrinoleg. Meddai Dr Mohammad Alhadj Ali:
“Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod 148 miliwn o Fwslimiaid â diabetes ledled y byd a bydd hyd at 79% o Fwslimiaid â diabetes yn ymprydio am o leiaf 15 diwrnod yn ystod Ramadan. Nod Ramadan Iach Cymru yw rhoi’r wybodaeth a’r canllawiau mwyaf diweddar i weithwyr proffesiynol gofal iechyd ar reoli diabetes yn ystod Ramadan, yn ogystal â chefnogi Mwslimiaid sy’n ymprydio yn ystod Ramadan i gael ympryd diogel ac iach.”
Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal gan Feddygon Mwslimaidd Cymru gyda chefnogaeth Cymdeithas Feddygol Islamaidd Prydain (BIMA) a Chyngor Mwslimaidd Cymru.
10 - Gadewch i’r celloedd imiwnedd weld y firws: Gwyddonwyr yn darganfod ffordd unigryw o dargedu firws cyffredin
Mae cytomegalofirws dynol (HCMV) yn firws cyffredin sy’n effeithio ar un o bob 200 o fabanod newydd-anedig yn y DU lle nad oes ond triniaeth gyfyngedig ar gael ar ei gyfer. Mae’r ymchwilwyr bellach wedi darganfod math newydd o wrthgorff yn y labordy sy’n marcio celloedd wedi’u heintio fel y gall y system imiwnedd eu “gweld”, yn hytrach na lladd y feirws yn uniongyrchol.
Dywedodd y prif awdur Dr Richard Stanton, firolegydd: “Mae HCMV yn cynnig her sylweddol gan ei fod wedi datblygu ystod o wahanol dechnegau er mwyn osgoi ymateb imiwnedd y corff ei hun.
“ Rydym wedi datblygu ffordd unigryw sy’n galluogi’r system imiwnedd i weld y feirws fel y gall fynd ati i’w ladd.”
Ymgysylltu â chymunedau BAME gyda rhaglen brechu COVID-19
Ar ddechrau’r broses o gyflwyno’r rhaglen brechu, dechreuodd grŵp o’r enw Meddygon Mwslimaidd Cymru sy’n cynnwys Dr Bnar Talabani a Dr Mohammad Alhadj Ali, o’r Ysgol Meddygaeth, ar waith i chwalu rhai o’r chwedlau sy’n cylchredeg ar y rhyngrwyd yn ieithoedd cyntaf cymunedau BAME.
“Rwy’n credu mai’r broblem yw, er bod adnoddau i frwydro yn erbyn y ffug wybodaeth ar gael yn Saesneg, nid ydyn nhw o reidrwydd ar gael mewn ieithoedd y mae rhai o’r cymunedau hyn yn eu siarad fel iaith gyntaf,” esboniodd Dr Bnar Talabani.
Mae Meddygon Mwslimaidd Cymru yn cynnal arolwg yn gofyn i bobl am eu barn ar y brechlyn - mae dros 300 o bobl wedi ateb hyd yn hyn, ac mae’r canlyniadau’n creu darlun a gaiff ei adlewyrchu mewn arolygon eraill ar y mater. Dywedodd tua 10% o bobl na fyddent yn cymryd y brechlyn, gyda 16% yn ansicr. “Nid yw’r bobl yma’n gwrthwynebu’r brechlyn, maen nhw mewn gwirionedd yn agored iawn i ddeialog,” meddai Dr Talabani.
“Dywedodd un gŵr oedrannus y cefais sgwrs ag ef yn ddiweddar wrthyf ‘wel, ydy’r brechlyn yma’n newid fy DNA?’ a dywedais ‘Wel, na, all e ddim oherwydd dyw e ddim yn dod i gysylltiad â’ch DNA’
“A dywedodd ‘iawn, wel dyna oedd fy unig bryder. Rwy’n hapus i’w gael nawr ‘, ac roedd mor syml â hynny mewn gwirionedd.“
Dywedodd Dr Talabani mai un o’r problemau yn y cymunedau yw bod pobl yn derbyn gwybodaeth anghywir yn eu hiaith eu hunain trwy’r cyfryngau cymdeithasol.
“Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, rydych chi’n derbyn llawer o wybodaeth anghywir trwy WhatsApp a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill mewn ieithoedd sy’n iaith gyntaf i chi, ond nid yw’r wybodaeth gywir sydd ei hangen arnoch i frwydro yn erbyn hyn o reidrwydd ar gael yn yr iaith honno”, meddai.Mae sicrhau bod y wybodaeth honno yn hygyrch gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel llwyfan i’w lledaenu yn union fel y mae’r ffug wybodaeth hefyd yn cael ei lledaenu, yn ffordd o ddarparu’r wybodaeth gywir i’r cymunedau mewn sawl iaith ac mae hyn yn mynd yn bell o ran helpu i fynd i’r afael â hynny.”
Ychwanegodd ei bod yn bwysig bod y wybodaeth hon yn dod o lefel “llawr gwlad” yn ogystal â gan y llywodraeth, gan ymgysylltu ag arweinwyr ffydd.
Mae Meddygon Mwslimaidd Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol i wella mynediad i’r brechlyn. Er enghraifft, mae 2 fosg wedi’u sefydlu fel canolfannau brechu. Mae hyn wedi arwain at niferoedd cadarnhaol yn derbyn y brechlynnau ar drawsy cymunedau lleol hyn (nid Mwslemiaid yn unig) gan gynnwys pobl ddigartref nad oeddent yn gwybod ble arall i fynd am eu brechlynnau.
Mae Meddygon Mwslimaidd Cymru yn cynnal gweminarau wythnosol mewn gwahanol ieithoedd ac yn ennyn diddordeb pobl mewn gwahanol gymunedau.
I gloi, meddai Dr Talabani: “Rydyn ni’n cael adborth bod deialog, y gallu i ofyn cwestiynau am y brechlyn mewn iaith maen nhw’n gyffyrddus â hi, gyda phobl sy’n dod o’u cymuned nhw eu hunain, yn eu helpu i fynd i’r afael â’r pryderon hynny.”
Gellir gweld Meddygon Mwslimaidd Cymru ar Facebook a Twitter lle gallwch gael gafael ar ystod o adnoddau mewn sawl iaith.