Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Datganiad Safbwynt Ymchwil

  • Fersiwn 1.0
  • Diweddarwyd ddiwethaf:

1. Diben y datganiad hwn

Mae’r Datganiad hwn yn crynhoi’r egwyddorion allweddol ar gyfer cynnal a chefnogi Ymchwil Agored ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r Datganiad yn cael ei lywio gan fframweithiau allanol gan gynnwys papur cyngor Cynghrair y Prifysgolion Ymchwil Ewropeaidd (LERU) ‘Open Science and its role in Universities: a roadmap for cultural change, Mai 2018’, a’r Concordat ar Ddata Ymchwil Agored.

Cynhyrchwyd y datganiad hwn gan Grŵp Tasg a Gorffen Ymchwil Agored y Brifysgol a’i gymeradwyo gan Bwyllgor Ymchwil Agored, Gonestrwydd a Moeseg y Brifysgol. Mae Fframweithiau Polisi manylach ar gyfer Mynediad Agored a Rheoli Data Ymchwil ar gael yn Adran 9 o’r ddogfen hon.

Bydd y Datganiad hwn yn cael ei adolygu a’i adnewyddu o leiaf bob dwy flynedd ac ar ôl newidiadau polisi mawr.

2. Datganiad o fwriad

Mae gonestrwydd ymchwil, moeseg ac Ymchwil Agored yn rhan hanfodol o weledigaeth Prifysgol Caerdydd, ac mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod Caerdydd yn arweinydd yn y meysydd hyn. Wrth weithio gyda’n staff a myfyrwyr, rydym yn ymdrechu i ddatblygu dulliau arloesol o gefnogi Ymchwil Agored a’r defnydd cyfrifol o fetrigau ymchwil, ac yn gwneud yn siŵr bod ein staff a myfyrwyr yn cael hyfforddiant o ansawdd uchel fel eu bod yn gwybod sut i ymgymryd ag ymchwil trylwyr a chredadwy o’r radd flaenaf.

3. Beth yw Ymchwil Agored?

Ymchwil Agored yw ymchwilio mewn modd sy’n galluogi pobl eraill i gydweithio a chyfrannu. Mewn Ymchwil Agored, mae data ymchwil, protocolau, nodiadau labordy a phrosesau ymchwilio eraill ar gael yn rhwydd ac o dan delerau sy’n cynnig modd o ailddefnyddio, ailddosbarthu ac ailgynhyrchu’r ymchwil a’i data a’i dulliau sylfaenol (gweler Foster Open Science).

Mae Ymchwil Agored yn cynnwys didwylledd trwy gydol y cylch ymchwil, trwy weithio ar y cyd a rhannu a sicrhau bod methodoleg ymchwil, meddalwedd, côd a deunyddiau ymchwil digidol ar gael yn rhwydd ar-lein, ynghyd â chyfarwyddiadau ar gyfer eu defnyddio. Mae Ymchwil Agored yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, sicrhau bod cyhoeddiadau ar gael yn rhwydd ar-lein (Mynediad Agored), yn ychwanegol at y data ymchwil sylfaenol (Data Agored), meddalwedd, protocolau ymchwil, samplau meinwe a’r deunyddiau ymchwil a ddefnyddir (gweler tudalen Prifysgol Caerwysg ar Ymchwil Agored).

4. Manteision Ymchwil Agored

Mae Ymchwil Agored yn ymwneud â chreu mwy o effeithlonrwydd a chynhyrchedd. Mae ymgorffori Ymchwil Agored fel rhan greiddiol o ymarfer ymchwil da yn sicrhau manteision sylweddol, fel yr amlinellir yn yr adroddiad Gweithlu Data Ymchwil Agored a  phapur Cynghrair Prifysgolion Ymchwil Ewropeaidd ar Wyddoniaeth Agored. Mae'r rhain yn cynnwys:

4.1. Gwella gwelededd, ac felly’r gallu i ddarganfod, yr holl gyn

hyrchion ymchwil ansoddol a meintiol (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i setiau data, meddalwedd, protocolau ymchwil, samplau meinwe, adweithyddion, llinellau celloedd). Dylai hyn ganiatáu mwy o gydnabyddiaeth i awduron a helpu i wella effaith ymchwil;

4.2. Darparu ar gyfer defnyddio dynodwyr/prosesau cydnabyddedig i roi cydnabyddiaeth ddyledus i awduron a chyllidwyr allanol;

4.3. Hyrwyddo rhagor o gyfathrebu a chydweithio effeithiol rhwng ymchwilwyr;

4.4. Gwella trylwyredd, dilysrwydd ac atgynyrchioldeb ymchwil trwy sicrhau bod y dystiolaeth y mae’n seiliedig arni yn cyd-fynd â hawliadau gwirioneddol, a gwneud y dystiolaeth honno’n haws ei chyrchu ar gyfer craffu a holi;

4.5. Cyflymu a chynyddu effaith ymchwil yn y gymuned ymchwil a thu hwnt. Gellir archwilio, ailddefnyddio, adeiladu ar ac addasu data a chyhoeddiadau agored, gan arwain at ganfyddiadau ymchwil newydd, datblygu ac arloesi.

5. Ymchwil Agored ym Mhrifysgol Caerdydd

5.1. Nod y Brifysgol yw bod yn arweinydd o ran creu gwybodaeth, adnoddau a pholisïau newydd mewn partneriaeth â busnes, diwydiant, llywodraeth a phrif rhanddeiliaid eraill, wedi’i hwyluso gan amgylchedd ymchwil bywiog a chynhwysol. Mae’r deilliannau ymchwil yn rhan hanfodol o gyflymu’r cyfraniadau mae Prifysgol Caerdydd yn eu gwneud ym meysydd iechyd, cyfoeth, diogelwch a lles cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, yn y DU ac yn fyd-eang.

5.2. Mae’r Brifysgol yn cefnogi safbwynt Ymchwil ac Arloesedd ar ymchwil agored, gan gynnwys y Concordat ar Ddata Ymchwil Agored 2016.

5.3. Dylai allbynnau ymchwil (gan gynnwys cyhoeddiadau, protocolau, canlyniadau ansoddol a meintiol a’r data sy’n cefnogi’r canlyniadau hynny) fod yn agored i graffu arnynt a’u trafod er mwyn gwella tryloywder a mynediad at wybodaeth.

5.4. Drwy hyrwyddo diwylliant ymchwil agored cryf sy’n unedig o ran ein hymrwymiad i ddarparu’r safonau uchaf o ran cyflawniad academaidd, gallwn sicrhau bod Prifysgol Caerdydd yn parhau yn arweinydd sector ym maes gonestrwydd ac ansawdd ymchwil.

5.5. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ddilyn egwyddorion Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil a’r defnydd cyfrifol o fetrigau.

6. Disgwyliadau o ymchwilwyr

6.1. Mae’r Brifysgol yn disgwyl i bob ymchwilydd gadw at y safonau uchaf o ran cywirdeb ymchwil fel y nodir yn y Côd Ymarfer Gonestrwydd a Llywodraethu Ymchwil.

6.2. Yn amodol ar ystyriaethau megis cyfrinachedd, diogelwch ac amddiffyn hawliau eiddo deallusol, dylai ymchwilwyr fod yn agored i rannu eu hymchwil ag ymchwilwyr eraill a’r cyhoedd a bod yn barod i hyrwyddo cyfnewid agored o syniadau a gwybodaeth.

6.3. Mae gan ymchwilwyr ryddid i ddewis y dulliau priodol i ledaenu allbynnau a data ymchwil (yn ei holl ffurfiau). Daw’r dewis hwnnw â chyfrifoldeb i sicrhau bod yr holl allbynnau ymchwil a’r data cysylltiedig yn cael eu gwneud ‘mor agored â phosibl, mor gaeedig ag sy’n angenrheidiol’.

6.4. Mae’r Brifysgol yn disgwyl i’w hymchwilwyr fod yn agored gydag ymchwilwyr eraill a’r cyhoedd ynghylch eu gwaith a hyrwyddo cyfnewid syniadau a gwybodaeth yn agored. Mae hyn yn cynnwys y trylwyredd angenrheidiol i sicrhau bod deunyddiau agored o’r ansawdd uchaf. Gallai hyn gynnwys:

  • lle bo hynny’n bosibl, sicrhau bod pob cyhoeddiad yn Fynediad Agored;
  • lle bo hynny’n briodol ac yn bosibl, sicrhau bod y data sylfaenol sy’n ymwneud â’r cyhoeddiadau hyn ar gael yn agored;
  • rhannu protocolau yn agored.

6.5. Mae’r Brifysgol yn disgwyl y bydd data ymchwil sy’n profi canfyddiadau ymchwil neu sy’n debygol o fod o ddiddordeb ar gyfer ymchwil yn y dyfodol yn cael ei adneuo i’w gadw mewn gwasanaeth neu gadwrfa data Prifysgol, cenedlaethol neu ryngwladol, lle mae ystyriaethau cyfreithiol, cytundebol a moesegol yn caniatáu hynny.  Rhaid i’r data ymchwil gael ei roi gyda’r metadata a’r ddogfennaeth briodol ac mae’n rhaid iddo lynu at egwyddorion data FAIR, sy’n gofyn i ddata fod yn Hawdd ei Ganfod, Hygyrch, Rhyngweithredol ac Ailddefnyddiadwy.

6.6. Sicrhau bod gofynion Ymchwil Agored yn cael eu hystyried wrth gostio prosiect ymchwil a thrwy gydol cylch bywyd y prosiect.

6.7. Disgwylir i ymchwilwyr weithredu bob amser yn unol â disgwyliadau’r rhai sy’n ariannu’r ymchwil, a chyda’r trothwyon lleiaf a bennir gan gyrff rheoleiddio.

7. Cefnogi ein hymchwilwyr

Bydd y Brifysgol yn cefnogi ei hymchwilwyr trw:

7.1. Strwythur llywodraethu priodol, gan gynnwys arweinwyr Ymchwil Agored ym mhob Ysgol, Grŵp Gweithredol Ymchwil Agored, sy’n adrodd i bwyllgor Ymchwil Agored, Gonestrwydd a Moeseg y Brifysgol a chymorth gwasanaethau Proffesiynol (gan gynnwys staff mewn Gwasanaethau Arloesi Ymchwil, Gwasanaethau Llyfrgelloedd y Brifysgol a TG y Brifysgol).

7.2. Cydnabod hanesion academyddion mewn arferion Ymchwil Agored fel rhan o bolisïau llogi, hyrwyddo ac arfarnu sefydliadol.

7.3. Datblygu diwylliant o Ymchwil Agored trwy’r sefydliad, gan gynnwys dulliau cyfathrebu mewnol ac allanol.

7.4. Darparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad i ymchwilwyr unigol, sy’n briodol i’w lleoliad disgyblu, gan gynnwys canllawiau ar amddiffyn eiddo deallusol, sicrhau cyfrinachedd a thrwyddedu a rhannu data, côd a deunyddiau digidol.

7.5. Darparu hyfforddiant mewn dulliau Ymchwil Agored, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, reoli data ymchwil, Mynediad Agored, defnyddio metrigau yn gyfrifol, a’r Ddeddf Meinweoedd Dynol.

7.6. Sicrhau cynaliadwyedd tymor hir deunyddiau agored a’u hygyrchedd agored parhaus, gan gynnwys prynu system ystorfa ddata sefydliadol a gynlluniwyd ar gyfer diwedd 2019.

7.7. Ymgysylltu â sefydliadau’r llywodraeth a sector, consortia rhyngwladol i sicrhau bod datblygu a chydymffurfio â pholisïau yn unol ag anghenion y Brifysgol a’r gymdeithas ehangach.

8. Cefnogaeth

Cyfeiriwch unrhyw gwestiynau ynglŷn â Datganiad Safbwynt Ymchwil Agored y Brifysgol at y tîm Gonestrwydd a Llywodraethu Ymchwil, Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi: resgov@caerdydd.ac.uk

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Datganiad Safbwynt Ymchwil
Rhif y fersiwn:1.0