Is-strategaethau rhyngwladol
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (PDF, 202.0 KB)
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Yng ngoleuni newidiadau sylweddol yn y cyd-destun byd-eang, rydym wedi ail-lunio ein His-strategaeth Ryngwladol.
Mae'r strategaeth ddiwygiedig yn ystyried y goblygiadau, a'r cyfleoedd posibl, a gyflwynir erbyn diwedd cyfnod pontio'r DU ar gyfer gadael yr UE a phandemig byd-eang Covid-19. Nid yw ein huchelgeisiau rhyngwladol wedi newid ond mae'r ffordd yr ydym yn ceisio cyflawni'r rhain wedi cael ei haddasu i'r amgylchedd sydd wedi newid.
Ein huchelgais
Mae Prifysgol Caerdydd yn brifysgol fyd-eang a rhyngwladol, â chymuned o staff, myfyrwyr a chynfyfyrwyr rhyngwladol sy’n tyfu. Rydym yn ymestyn ein cyrhaeddiad yn rhyngwladol drwy bartneriaethau â sefydliadau o ansawdd uchel ledled y byd. Rydym yn cefnogi ein myfyrwyr a’n staff i feithrin cysylltiadau byd-eang ystyrlon drwy raglenni cyfnewid a chydweithio rhyngwladol. Rydym yn cyfrannu at y genhadaeth addysg uwch fyd-eang drwy gefnogi’r broses o ehangu gallu addysg ac ymchwil ein partneriaid. Mae ein partneriaethau ymchwil rhyngwladol yn gwella enw da byd-eang ac effaith ein gwaith. Trwy ein gweithgareddau rhyngwladol ein huchelgais yw gwneud cyfraniad cadarnhaol at faterion o bwysigrwydd byd-eang.
Adeiladu ar y strategaeth flaenorol
Mae'r cynnydd cryf a wnaed yn erbyn ein strategaeth ryngwladol hyd yma yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer ein cyfeiriad yn y dyfodol. Mae ein hagwedd ac enw da byd-eang yn cael eu hadlewyrchu yn ein cymuned o myfyrwyr a staff ac yn ein partneriaethau â phrifysgolion. Yn 2019/20, roedd 23% o'n myfyrwyr a 30% o'n staff academaidd o genedligrwyddau tramor ac mae ein pedair partneriaeth strategol gyda Phrifysgol Xiamen, Prifysgol Campinas, Prifysgol Normal Beijing a Phrifysgol Bremen wedi cynyddu'r cyfleoedd rhyngwladol ar gyfer ein myfyrwyr a staff. Ar ôl datblygu a chefnogi amrywiaeth o gyfleoedd byd-eang sy'n agored i'n holl fyfyrwyr israddedig, roedd 22% o'n myfyrwyr israddedig cartref a raddiodd wedi cwblhau lleoliad rhyngwladol a barodd am dair wythnos neu fwy yn 2019/20, a thrwy hynny wedi cyfrannu at eu cyflawniadau academaidd, eu cyflogadwyedd a'u sgiliau rhyngddiwylliannol.
Amcanion sylfaenol
Cawn ein hadnabod fel prifysgol sydd:
- yn cael ei chydnabod fel un flaengar, lle mae cysylltiadau rhyngwladol yn hollbwysig ac sy'n cyfrannu at faterion o bwysigrwydd byd-eang;
- yn creu cyfleoedd i bob myfyrwyr gymryd rhan mewn profiadau rhyngwladol sy’n cael effaith fel rhan annatod o'u hastudiaethau;
- yn weithredol wrth gefnogi ein staff i ddatblygu partneriaethau addysg ac ymchwil rhyngwladol;
- yn atgyfnerthu ein rhwydwaith cynfyfyrwyr byd-eang i gefnogi ein cenhadaeth ryngwladol.
Gwneud i hyn ddigwydd
Mae ymrwymiad hirdymor yn allweddol i lwyddiant ein gweithgareddau rhyngwladol, yn enwedig mewn cyfnod o newidiadau mawr i'r amgylchedd rhyngwladol rydym yn gweithredu ynddo ac o amharu mawr arno. Felly, byddwn yn rhoi'r mesurau lliniaru angenrheidiol ar waith i gynnal ac adeiladu ein cysylltiadau byd-eang trwy ddulliau rhithwir ac yn paratoi ar gyfer byd ôl-Covid-19 lle bydd gweithgareddau rhyngwladol personol, teithio a rhyngweithio cymdeithasol am ddim yn bosibl unwaith eto. Er gwaethaf hyn, byddwn yn defnyddio profiad a enillwyd yn ystod pandemig Covid-19 i hyrwyddo trawsffurfio hirhoedlog yn ein hymagwedd tuag at weithgareddau rhyngwladol, ac yn enwedig tuag at deithio.
Buddsoddi mewn cyfleoedd byd-eang i'n myfyrwyr
Byddwn yn parhau i annog pob un o'n myfyrwyr i fod â chysylltiad rhyngwladol trwy ddarparu cyfleoedd a chefnogaeth ragorol ar gyfer astudio, gweithio neu wirfoddoli mewn lleoliad rhyngwladol; yn benodol, bydd o leiaf 20% o'n poblogaeth myfyrwyr israddedig cartref wedi astudio, wedi gweithio neu wedi gwirfoddoli dramor am bythefnos o leiaf, neu wedi ennill profiad rhyngwladol sylweddol arall yn ystod eu gradd gyda ni.
Trwy fuddsoddiad parhaus yn ein cynnig Cyfleoedd Byd-eang a thrwy ein partneriaethau rhyngwladol, byddwn yn:
- sicrhau bod ystod eang o leoliadau yn Ewrop a rhanbarthau allweddol eraill yn parhau i fod ar gael i fyfyrwyr israddedig ar ôl Brexit, o fewn terfynau cyfyngiadau Covid-19;
- ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer 'rhyngwladoli gartref', gan sicrhau bod hwn yn opsiwn ystyrlon, ac yn hyrwyddo ymgysylltiad myfyrwyr;
- datblygu, hyrwyddo a chefnogi profiadau symudedd rhithwir buddiol a gwerth chweil i'n myfyrwyr trwy brifysgolion partner, sefydliadau a chynfyfyrwyr rhyngwladol;
- archwilio cyfleoedd ar gyfer cyflwyno rhaglenni cyfunol gyda'n partneriaid strategol;
- gweithio gyda thimau gwasanaeth cymorth i fyfyrwyr i ehangu cyfranogiad, gan sicrhau hygyrchedd ac apêl rhaglenni i'n poblogaeth amrywiol o fyfyrwyr;
- gweithio gyda'n Hysgolion academaidd i ddatblygu profiadau symudedd newydd sy'n dwyn credyd.
Annog cymuned o fyfyrwyr a chynfyfyrwyr rhyngwladol amrywiol
Er gwaethaf heriau Brexit a Covid-19 ar gyfer recriwtio myfyrwyr, rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol ac yn optimistaidd bod ein rhwydweithiau recriwtio llwyddiannus a'n partneriaethau rhyngwladol yn rhoi cyfle ar gyfer rhagor o dwf o ansawdd yn amrywiaeth ryngwladol ein corff myfyrwyr; yn benodol byddwn yn anelu at sicrhau bod 25% o'n poblogaeth myfyrwyr yn dod o'r tu allan i'r DU.
Byddwn yn:
- manteisio ar alluoedd digidol sy'n dod i'r amlwg ac yn mabwysiadu dulliau arloesol i gynyddu ein cyrhaeddiad rhyngwladol, gan gynnwys gwell defnydd o dechnoleg CRM wrth feithrin perthnasoedd â'n hymgeiswyr;
- cynyddu ein cyflenwad o staff yn y wlad mewn rhanbarthau allweddol o'r byd sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda darpar fyfyrwyr i'w cefnogi i ymuno â'n prifysgol;
- archwilio arloesiadau i'n rhaglenni gradd, gan gynnwys dulliau newydd ar gyfer cyflwyno rhaglenni;
- datblygu ein strategaeth partneriaethau recriwtio ymhellach; dilyn cytundebau trosglwyddo newydd i greu cyfleoedd i fyfyrwyr yn ein sefydliadau partner astudio yng Nghaerdydd ar gyfer rhan o'u rhaglen radd;
- dyfeisio Strategaeth Addysg Ryngwladol (TNE) sy'n arddangos cryfderau academaidd Caerdydd yn rhyngwladol ac sy’n cychwyn datblygu o leiaf dwy bartneriaeth TNE erbyn 2023;
- cynyddu nifer a lefelau gweithgarwch ein grwpiau cynfyfyrwyr rhyngwladol a mynd ati i’w cynnwys yn ein gweithgareddau rhyngwladol, gan gynnwys recriwtio myfyrwyr a gwella ein cyfleoedd byd-eang
Denu talent rhyngwladol
Byddwn yn parhau i recriwtio ledled y byd i ddenu'r talent gorau i ymuno â'n staff, gan wella effaith ac amrywiaeth ein haddysg a'n hymchwil; yn benodol byddwn yn anelu at sefyllfa lle mae 30% o'n staff academaidd yn rhai rhyngwladol (o genedligrwydd y tu allan i'r DU).
Byddwn yn:
- hyrwyddo ein proffil rhyngwladol, a chryfhau ein henw da am ragoriaeth ryngwladol drwy fynegi’n effeithiol allbynnau a chyflawniadau ein staff.
- anelu at ddod yn sefydliad o ddewis ar gyfer talent academaidd byd-eang trwy gyfleoedd cyllido newydd yn y DU i ymchwilwyr rhyngwladol newydd mewn meysydd strategol allweddol;
- manteisio ar y cyfleoedd a ddarperir gan arferion gweithio o bell newydd i alluogi staff rhyngwladol i ymuno â ni o bell a gweithio i ni o bell, yn ôl yr angen;
- cefnogi ein staff newydd i wreiddio yn ein cymuned trwy gynllun mentora academaidd pwrpasol.
Meithrin partneriaethau rhyngwladol sy’n fuddiol i bawb
Mae pandemig Covid-19 wedi tynnu sylw at werth a chryfder ein partneriaethau rhyngwladol, gan ein bod wedi datblygu ffyrdd i gynnal a thyfu ein rhyngweithiadau trwy ddulliau rhithwir. Yn yr un modd, rydym yn gwerthfawrogi etifeddiaeth ein perthnasoedd hirsefydlog a ffurfiwyd trwy ein cyfranogiad o raglenni'r UE. Byddwn yn parhau i geisio sefydlu perthnasoedd cryf â phrifysgolion partner rhyngwladol yn rhanbarthau allweddol y byd, i godi ein proffil byd-eang a chynyddu cyfleoedd cydweithredu addysg ac ymchwil i'n myfyrwyr a'n staff; yn benodol rydym yn anelu at gael o leiaf bum partneriaeth strategol gyda sefydliadau academaidd rhyngwladol erbyn 2023.
Byddwn yn:
- gweithredu ein Strategaeth Partneriaeth Ryngwladol newydd ac yn hyrwyddo'r cyfleoedd y mae'n eu creu ledled y brifysgol;
- anelu at ffurfioli a chyhoeddi ein pumed Partneriaeth Strategol yn 2021;
- mynd ati i archwilio cyfleoedd ar gyfer partneriaethau ychwanegol ar wahanol lefelau mewn rhanbarthau allweddol, wedi'u llywio gan ein Strategaeth Bartneriaeth Ryngwladol;
- archwilio synergeddau a datblygu cysylltiadau, lle bo hynny'n bosibl, rhwng ein partneriaethau rhyngwladol, Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru a'r cyfleoedd sy'n deillio o Strategaeth Addysg Ryngwladol y DU a'r Map Ffordd Ymchwil a Datblygu;
- gweithio'n weithredol gyda'n partneriaid rhyngwladol i ddilyn cyfleoedd cydweithredu a alluogir gan eu priod strategaethau, meysydd blaenoriaeth a mentrau cenedlaethol.