Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Strategaeth ehangu cyfranogiad 2020-25

‘Prifysgol Fwy Cynaliadwy’ – Strategaeth Galluogi Cynaliadwyedd Amgylcheddol 2018-2023 (Ail-lunio 2020).

Ein huchelgais

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i ddangos arweinyddiaeth o ran cynaliadwyedd a gwella ein perfformiad amgylcheddol. Ein gweledigaeth yw adeiladu dyfodol cynhwysol, cynaliadwy a chadarn i'n cymuned ac esgor ar fuddiannau amgylcheddol i Gaerdydd a Chymru yn ogystal â'r byd ehangach. Mae'n hollbwysig ein bod yn datblygu cynaliadwyedd amgylcheddol yn rhan annatod o'n gwerthoedd ac er mwyn ymgorffori Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig ym mhob agwedd o'n gweithgareddau academaidd a'n gwasanaethau gweithredol.

Byddwn yn hyrwyddo cynaliadwyedd trwy addysg, lledaenu gwybodaeth a chyfranogiad unigol sy’n galluogi myfyrwyr a staff i wneud newidiadau cadarnhaol i’n heffaith amgylcheddol, yn enwedig ein datganiad bod Argyfwng Hinsoddol a'n nod i fod yn garbon niwtral erbyn 2030 (Cwmpasau 1 a 2).  Byddwn yn galluogi ein myfyrwyr, ein graddedigion, a'n staff i ddod yn ddinasyddion cynaliadwy sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at gymdeithas ac yn weithgar o fewn eu cymunedau. Byddwn yn sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn ystyriaeth bwysig wrth wneud pob penderfyniad mawr, yn hyrwyddo materion ac egwyddorion cynaliadwyedd gyda'r holl staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid, ac yn ein galluogi i ddefnyddio ein hymchwil arloesol i wella cynaliadwyedd byd-eang.

Nodau sylfaenol

Mae ein nodau sylfaenol yn deillio ac wedi'u haddasu o Amcanion Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru, Nodau Llesiant. Mae'r rhain fel a ganlyn:

Prifysgol ffyniannus - Cymunedol arloesol, gynhyrchiol, a charbon isel sy'n cydnabod terfynau'r amgylchedd byd-eang ac felly'n defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur, gan gynnwys cymryd camau rhag y newid yn yr hinsawdd.

Prifysgol wydn - Prifysgol sy'n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach, gweithredol sy'n cynorthwyo gwydnwch cymdeithasol, economaidd ac ecolegol, gan ymgorffori’r gallu i addasu i newid.

Prifysgol iachach - Prifysgol sy'n darparu cyfleusterau er mwyn hwyluso ac annog staff a myfyrwyr i wneud dewisiadau iachach o ran teithio, bwyd a ffordd o fyw, sydd yn eu tro yn helpu i wella lles a lleihau llygredd yn lleol ac yn fyd-eang.

Prifysgol sy'n gyfrifol yn fyd-eang - Prifysgol fydd yn ystyried effaith ei gweithgareddau ar ddatblygu cynaliadwy byd-eang a lles byd-eang. Byddwn yn prynu ynni glân ac yn mabwysiadu arferion cyfrifol ar gyfer yr holl nwyddau a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnal ac yn eu defnyddio. Byddwn hefyd yn mynd ati i alluogi ein hymchwil arloesol i wella cynaliadwyedd byd-eang.

Argymhellir i holl is-strategaethau'r Brifysgol nodi eu perthynas â'r Nodau Datblygu Cynaliadwy. Mae’r strategaeth hon yn cefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG) 3; 4; 6; 7; 11; 12; 13; 14; 15 ac 17.

Adeiladu ar waith blaenorol

Gan adeiladu ar waith Gwerth Amgylcheddol a Chynaliadwyedd Cymdeithasol y Brifysgol, byddwn yn sicrhau gwelliant parhaol ar draws y Brifysgol. Rydym wedi defnyddio ein harbenigedd academaidd ac wedi cael cyngor gan academyddion blaenllaw wrth ddatblygu ein strategaeth.

Drwy lofnodi llythyr Cytundeb Byd Eang y Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG), rydym wedi datgan bod argyfwng hinsoddol a'n bod wedi ymrwymo i fod yn garbon niwtral (Cwmpasau 1 a 2) erbyn 2030. Mae’n rhaid i ni ymgorffori cynaliadwyedd ym mhopeth a wnawn. Bydd hyn yn cynnwys cymryd camau i leihau ein allyriadau carbon dros y degawd nesaf, newid a rhesymoli ein defnydd o ynni, dŵr, deunyddiau cyfyngedig a phlastig, gan gadw llygredd a gwastraff ar eu hisaf drwy drwsio, arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu. Byddwn yn cynnal ardystiad ISO 14001, ac yn cyrraedd Safon Iechyd Corfforaethol Platinwm, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu cynaliadwy.

Gwneud i hyn ddigwydd

Y rhain fydd ein prif flaenoriaethau ar gyfer oes y strategaeth:

Prifysgol ffyniannus

  • Bod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Mae'r dangosydd hwn yn ymwneud â'r camau y gallwn eu rheoli'n uniongyrchol, ac y gallwn eu mesur. Gellir trefnu ein hallyriadau carbon yn Gwmpasau 1, 2 a 3. Mae allyriadau Cwmpas 1 yn ymwneud â llosgi tanwydd ffosil yn uniongyrchol mewn adeiladau a cherbydau sy'n eiddo i'r Brifysgol, neu a gynhelir ganddi. Mae allyriadau Cwmpas 2 yn ymwneud â llosgi tanwydd ffosil yn anuniongyrchol er mwyn cyflenwi trydan a dŵr i adeiladau'r Brifysgol. Mae allyriadau cwmpas 3 yn cwmpasu'r holl allyriadau anuniongyrchol eraill o weithgareddau, gan gynnwys teithio busnes, gwaith wedi'i gaffael, nwyddau a gwasanaeth a'u cadwyn gyflenwi, gwastraff a dŵr; ar hyn o bryd mae llai o safonau y cytunwyd arnynt gan y sector neu'r diwydiant i fesur a meintioli allyriadau Cwmpas 3.

Ein nod yw bod yn sero net ar gyfer Cwmpasau 1 a 2 erbyn 2030 a byddwn yn gwneud cynnydd sylweddol tuag at y nod hwn erbyn 2023. Erbyn 2023 byddwn hefyd yn ystyried safonau ac yn modelu llinellau sylfaen manylach ar gyfer ein hallyriadau Cwmpas 3. Byddwn yn cadarnhau camau dros dro tuag at leihau carbon Cwmpas 3 ac yn cychwyn arnynt, a byddwn hefyd yn cadarnhau ein dyddiad targed ar gyfer cyflawni Cwmpas 3 Sero Net erbyn 2050, neu cyn hynny os oes modd.

Prifysgol wydn

  • Gwella bioamrywiaeth   ein campws drwy hyrwyddo plannu peillwyr ar draws ein mannau gwyrdd.

Drwy adeiladu ar waith prosiect llwyddiannus Pharmabees, byddwn yn cynyddu faint o ystâd y Brifysgol sy'n cynnwys dolydd blodau gwyllt.  Bydd yr ymdrech hon yn cynyddu bioamrywiaeth leol, yn darparu porthiant ychwanegol gan gynnwys planhigion a nodwyd gan ymchwil y brifysgol fel eu bod yn addas ar gyfer pryfed peillio a chynyddu atafaelu carbon.

Prifysgol Iachach

  • Lleihau allyriannau   carbon a achosir gan deithio drwy ddefnyddio dulliau sy'n cynhyrchu llai o   lygredd a hyrwyddo technoleg amgen

Yn ogystal â'r dangosydd y manylir yn ei gylch uchod, rydym yn cydnabod effaith teithio a byddwn yn ymdrechu i leihau allyriadau carbon o deithio drwy ddefnyddio moddau llai llygrol ac yn hyrwyddo technoleg amgen. Byddwn hefyd yn ystyried modelau gwrthbwyso carbon, yn unol ag arferion gorau'r sector a'r diwydiant.

  • Darparu rhaglen   newid ymddygiad sy'n hyrwyddo materion ac egwyddorion ynghylch cynaliadwyedd   i staff a rhanddeiliaid.

Mae'r dangosydd hwn yn adeiladu ar y gyfres o raglenni newid ymddygiad sydd wedi ennill eu plwyf.  Mae cwrs sefydlu cynaliadwyedd ar gael i bawb, a chynhelir wythnos gynaliadwyedd yn flynyddol. Nodir Ymgyrchoedd â Thema dros gwrs bywyd y Strategaeth.

Prifysgol sy'n Gyfrifol yn fyd-eang

  • Byddwn yn hyrwyddo addysg a lledaenu gwybodaeth am gynaliadwyedd ac yn   galluogi myfyrwyr a staff i wneud newidiadau cadarnhaol i’n heffaith   amgylcheddol
  • Blaenoriaethu   a graddol gefnu gymaint â phosibl ar ddefnyddio plastig untro fel poteli dŵr   plastig, a gwella cyfleusterau ailgylchu o bob math ar draws y Brifysgol.

Rydym wedi dewis gweithred y gall pawb yn y Brifysgol a’r tu hwnt gyfrannu ati. Mae plastig yn ddeunydd gwydn, eto i gyd, caiff traean ohono ei ddefnyddio unwaith a’i daflu. Byddwn yn dechrau gweithio ar ymgyrch ynglŷn â hyn ar unwaith i leihau'r defnydd o fagiau plastig untro a nodi lle y gellir cyflwyno gwelliannau i'n cynllun ailgylchu.

  • Lleihau ein   galw am nwyddau a gwasanaethau nad ydynt yn gynaliadwy, a chynhyrchu cyn   lleied o wastraff â phosibl.

Byddwn yn ymgorffori cyfleoedd ar gyfer arferion caffael cynaliadwy mewn prosesau a gweithdrefnau rheoli ledled y Brifysgol. Bydd hyn yn galluogi'r Brifysgol i ystyried dewisiadau cynaliadwy eraill yn ystod y broses o gynllunio a thendro.

  • Prynu a chreu nwyddau a gwasanaethau mewn ffyrdd cyfrifol, gan gymryd   i ystyriaeth eu heffaith o ran cynaliadwyedd ac ymddwyn yn foesegol yn ein   harferion busnes wrth ddelio â'n cadwyn gyflenwi.

Er mwyn helpu Ysgolion ac Adrannau i ymgorffori ystyriaethau o ran cynaliadwyedd – gan gynnwys dadansoddi cylch bywyd – wrth wneud penderfyniadau, paratowyd crynodebau ar gyfer categorïau cyffredin o nwyddau a gwasanaethau, o effeithiau tebygol prynu a chyfleoedd ar gyfer lliniaru effeithiau negyddol neu gymryd camau cadarnhaol.

  • Sicrhau bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn rhan annatod o'r holl   brosesau academaidd a busnes gan gynnwys digwyddiadau mewnol ac allanol

Byddwn yn cynnal archwiliadau o brosesau academaidd a busnes er mwyn sicrhau bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn cael ei ystyried. Byddwn yn defnyddio'r egwyddorion yn ISO 20121-Digwyddiadau cynaliadwy, ar gyfer digwyddiadau mewnol ac allanol.

Dangosyddion perfformiad allweddol Cynaliadwyedd Amgylcheddol

  • Byddwn yn lleihau allyriadau cwmpas 1 a   2 15% erbyn 2023.
  • Byddwn ymhlith yr 50 uchaf ar restr THE   Impact erbyn 2023.
  • Fel llofnodwyr Cytundeb EAUC, byddwn yn   parhau i gyflwyno adroddiad blynyddol am ymgorffori Nodau Cynaliadwy’r   Cenhedloedd Unedig yn holl weithgareddau’r Brifysgol.
  • Erbyn 2023 ni fydd mwy na 30% o’n   gwastraff yn mynd i gyfleusterau ERF/RDF (blwyddyn sylfaen 2017/18). Yn unol   â thargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwastraff Trefol erbyn 2025, nid yw’n   cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff adeiladu Cyfleusterau Adfer Deunyddiau/Ynni sy’n Deillio o Wastraff.
  • Drwy ddilyn yr hierarchaeth o ran   gwastraff, byddwn yn gweithio tuag at gyflawni targed Llywodraeth Cymru ar   gyfer ailgylchu, sef 70% erbyn 2024/25
  • Drwy Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y   Brifysgol, byddwn yn gwella seilwaith gwyrdd y Brifysgol drwy leihau amodau   amgylcheddol ystâd werdd y Brifysgol gan 30% erbyn 2023.

Ffactorau Cynaliadwyedd Amgylcheddol llwyddiannus

  • Bydd yn gosod sylfeini ar gyfer sut yr   ydym yn caffael plastig untro, yn nodi ffrydiau gwastraff ac yn gweithio er   mwyn dileu plastig untro ar draws ein cyfleusterau arlwyo, lle bo hynny'n briodol.
  • Asesir pob contract   newydd a chontractau wedi'u hadnewyddu sydd dros £25,000 gan ddefnyddio   asesiad risg cynaliadwyedd a/neu Asesiad Effaith. Caiff y canlyniadau eu   defnyddio i ffurfio'r broses o wneud penderfyniadau.
  • Bydd modelu carbon yn cael ei sefydlu er mwyn pennu costau cylch oes   ar gyfer pob adeilad ac ased newydd yn seiliedig ar ddisgwyliad realistig o   oes pob ased.
  • Byddwn yn gosod sylfeini ar gyfer   effaith amgylcheddol milltiroedd teithio'r Brifysgol gan reoli sut mae'r   Brifysgol yn defnyddio cerbydau drwy gyfrwng polisi teithio cynaliadwy   doethach, gan arwain at osod targedau priodol i leihau ein hallyriadau CO2 a Risgiau Dyletswydd Gofal.
  • Bydd prosiectau adnewyddu gwerth dros   £25,000 yn dangos gostyngiad net o 30% mewn allyriadau carbon o gymharu â'r   gwreiddiol a bydd yn dilyn y Gofynion Adeiladu, Trydanol a Mecanyddol Safonol   (SBEMR) sy’n cael eu hadolygu yn flynyddol.
  • Bydd holl adeiladau gweithredol y   Brifysgol yn rhan o’r rhaglen newid ymddygiad cynaliadwyedd amgylcheddol.
  • Byddwn yn mynd ati ar   unwaith i geisio ffyrdd o liniaru allyriadau carbon hediadau tramor staff a   myfyrwyr. Bydd hyn yn cynnwys lleihau nifer yr hediadau neu ddefnyddio ffyrdd   amgen o deithio os oes modd yn ogystal â chytuno ar gamau lliniaru ychwanegol (fel gwrthbwyso carbon â rhinweddau academaidd cryf). Bydd y rhain yn   cyfrannu’n uniongyrchol at Ffactorau Llwyddiant Critigol y Brifysgol 1)   Iechyd a Lles 2) Cynaliadwyedd ariannol a 5) Cenhadaeth Ddinesig

Bydd cynllun(iau) gweithredu ategol yn rhoi manylion am y cerrig milltir.

Hysbysu ynghylch ein perfformiad

Hysbysir ynghylch cyflawniadau drwy gyfrwng y strwythur Llywodraethol ac i'n rhanddeiliaid allanol drwy gyfrwng Adolygiad Blynyddol y Brifysgol. Yn ogystal, byddwn yn cynnal Fforymau Cynaliadwyedd thematig i hyrwyddo gwerthoedd y Brifysgol, fydd yn hysbysu ynghylch ac yn cydnabod perfformiad o ran cynaliadwyedd amgylcheddol ac yn gofyn am adborth gan staff, myfyrwyr, a rhanddeiliaid.

Manylion cyswllt

Ymholiadau amgylcheddol