Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Yr Alwad/Embrace it - Strategaeth Gymraeg Prifysgol Caerdydd

  • Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhagair

Yr Alwad/Embrace It: mae enw Strategaeth Gymraeg Prifysgol Caerdydd yn ddatganiad deublyg: mae’n alwad clir i weithredu ac yn wahoddiad diffuant i achub y cyfle i gamu i’r adwy a chysylltu, o fewn ein sefydliad a thu hwnt.

Dechreuwn, o reidrwydd, gydag egwyddorion cwbl ddiffuant. Awn ati wedyn i amlinellu ein dyheadau a’n hamcanion, gan symud tuag at fap o’n cynlluniau ymarferol. Mae’r cyfan yn seiliedig ar weledigaeth gyfannol o ddiwylliant cysylltiedig Cymraeg ar ein campws ac ar draws ein holl weithgareddau – un sydd wedi’i llwyr naturioli. Nid ar sail ‘cydymffurfiaeth’ a dulliau meintiol yn unig y caiff y diwylliant hwn ei gloriannu o ran ei fywiogrwydd a’i berthnasedd (er mor angenrheidiol yw’r dulliau hynny). Yn hytrach, gosodwn fri ar gysylltedd, amrywiaeth, cynaladwyedd, lles, dealltwriaeth ddiwylliannol a’n dyletswydd i genedlaethau’r dyfodol. Nid yw ein cysyniad o gampws Cymraeg yn gyfyngedig i’n presenoldeb yn ein prifddinas (sy’n fwrlwm diwylliannol oherwydd cyfraniad cymunedau amlieithog ac aml-ethnig o bedwar ban byd). Mae’n ymestyn i’n cymunedau lleol ac i’r mannau byd-eang lle’r ydym yn cynnal ein sgyrsiau, ein haddysgu a’n hymchwil bob dydd.

Mae ein dyheadau ar gyfer yr iaith Gymraeg yn cyd-blethu’n llwyr â’n dyheadau fel prifysgol ryngwladol ei gweledigaeth. Un o brif hanfodion ac addewidion

Yr Alwad/Embrace It yw na chaiff portffolio addysg Gymraeg (sydd wedi’i egnïo’n gynyddol ar blatfformau digidol), ynghyd â diwylliant ymchwil Cymraeg a chyfraniad o bwys at ein cenhadaeth ddinesig ac at ffurflywodraeth ifanc ein gwlad, eu cyflenwi ar draul unrhyw adnodd neu agenda arall yn ein sefydliad. Yn hytrach, maent yn rhan greiddiol o ecoleg ehangach, gyda’r Campws Cymraeg a’r Cynnig Cymraeg – ein rhyngweithio proffesiynol a phersonol, a’n profiad dysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg – yn elfennau anhepgor o’n holl gymhellion, gweithgareddau, ymrwymiadau a dyheadau.

Rydym yn uchelgeisiol. Mae’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw fel sefydliad, a’n gallu i drafod mewn modd ystyrlon gyda phartneriaid byd-eang sydd wedi hen arfer â dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, yn ymestyn ein cyrhaeddiad yn ogystal â’n bri a’n hygrededd rhyngwladol.

Mae Covid-19 a’r oes sydd ohoni wedi peri i ni sylweddoli nid yn unig gwerth bywyd, ond hefyd ein gallu i gysylltu a chefnogi, newid ac addasu – hyd yn oed ar adeg pan nad oes modd cofleidio’n llythrennol.

Damian Walford Davies
Dirprwy Is-Ganghellor, Damian Walford Davies

Mae Strategaeth Gymraeg Prifysgol Caerdydd yn ymateb i Covid yn ei ffordd bwysig ei hun. Drwy gynnig ffyrdd o gysylltu â’n gilydd a chreu bydoedd newydd cynaliadwy ar ein campws i fyfyrwyr a staff, mae’n gynllun a fydd yn ein galluogi i wneud cyfraniad arhosol i fywyd diwylliannol, economaidd a gwleidyddol Cymru a’r byd.

Yr Athro Damian Walford Davies
Dirprwy Is-Ganghellor, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol

Rhan 1: Cyd-destun

I. Rhaglith

I. Mae’r Gymraeg wedi ei hymgorffori yng nghyfansoddiad ein prifysgol. Mae cyfrannu ‘at ddatblygiad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru1 ymhlith ein hamcanion sylfaenol ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod profiad y myfyriwr ‘y gorau y gall fod … trwy Ddathlu Iaith a Diwylliant Cymru’.2

II. Mae ein dwyieithrwydd wedi ei ymgorffori yn ein gweledigaeth strategol, Y Ffordd Ymlaen, mewn perthynas ag addysg ein myfyrwyr a’n Cenhadaeth Ddinesig. Rydym wedi ymrwymo ‘i hyrwyddo a dathlu’r Gymraeg’ a datblygu darpariaeth Gymraeg gynaliadwy, gan ‘baratoi graddedigion medrus gyda’r gallu i gyfrannu’n ddwyieithog at fywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.’3

III. Mae gwireddu’r ymrwymiadau hyn yn gofyn am weledigaeth integredig sy’n sicrhau bod y Gymraeg wedi ei hymgorffori yn ein hunaniaeth, ein sefydliadau a phob un o’n harferion beunyddiol. Mae’r strategaeth bresennol hon yn cyflwyno’r egwyddorion, y targedau a’r swyddogaethau allweddol a fydd yn ymgorffori a chyflawni’r weledigaeth integredig honnoh.

IV. Gweithiwn i gyflawni ein hymrwymiadau trwy ein partneriaeth allweddol gyda’r Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (Y Coleg). Byddwn yn parhau i ddatblygu perthynas greadigol, cyd-gefnogol ac ysgogol, gan gydweithredu mewn ffyrdd arloesol i gyflawni’r amcanion sydd gennym ar y cyd.

V. Mae’r ymrwymiadau uchod wedi eu seilio ar y rhagdybiaeth fod Prifysgol Caerdydd yn adlewyrchu’r cymunedau (o’r lleol i’r byd-eang) y mae wedi ei lleoli ynddynt, ac yn cyfrannu at eu datblygiad. Mae ehangu a dyfnhau ein hymrwymiad i’n gweithgaredd Cymraeg yn rhan naturiol o’r datblygu hwn, a byddwn yn annog ein staff a’n myfyrwyr i gyfranogi o’n huchelgais.

VI. Mae’r profiad y mae’r strategaeth hon yn anelu at ei ddarparu i’n myfyrwyr yn cyd-fynd â’n delfryd o raddedigion Caerdydd: unigolion sy’n gwerthfawrogi eu dealltwriaeth o ddiwylliannau, ieithoedd a gwahaniaeth, ac sy’n deall eu cyfrifoldeb fel dinasyddion cydwybodol, ble bynnag y bônt yng Nghymru neu yn y byd y tu hwnt.

II. Rhagdybiaethau

I. Ieithoedd sydd yn cyfansoddi ein byd. Nid disgrifio byd sydd eisoes ag ystyr yw diben iaith; mae’n ffurfio ein byd ac yn ei greu trwy broses gymdeithasol, hanesyddol. Felly, mae pob iaith yn cynrychioli bychanfyd – crynhoad unigryw o’r cyfanfydol gyda ffurfiau, hanesion ac ystyron neilltuol.

II. Mae Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau bod y bychanfyd Cymraeg yn un sy’n ymestyn ar draws ffiniau a disgyblaethau ac yn esblygu ar y gwastad deallusol. Ystyr dathlu’r Gymraeg yw rhoi gwerth ar ymestyn ac ehangu’r traddodiad deallusol Cymraeg, fel rhan o werthfawrogiad ehangach y Brifysgol o’r rhyddid i ymholi a’r hawl ‘i ymchwilio ar sail chwilfrydedd p’un a yw hynny’n arwain at ddefnydd ymarferol ai peidio’.

III. Mae Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan ganolog wrth feithrin y rhagoriaeth ymchwil ac addysgu sy’n sail ar gyfer creu gweithlu dwyieithog medrus ar draws ystod o sectorau allweddol yng Nghymru. Felly mae’r strategaeth hon yn ymgorffori mwy na thargedau ar gyfer ein sefydliad ni; mae hefyd yn ymgorffori dyheadau pobl a Senedd Cymru, fel y’u mynegir yn strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050 a’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

IV. Mae’r strategaeth hon yn gyfraniad i’r her fyd-eang o feithrin ac ehangu profiad deallusol mewn iaith frodorol ochr yn ochr â diwylliant academaidd byd-eang angloffon. Yn y modd hwn, mae datblygu ein sefydliad fel prifysgol ddwyieithog ac amlieithog yn ein cysylltu â phrifysgolion ledled y byd. Mae’n pwysleisio ein golygon a’n cymwysterau rhyngwladol, ac o anghenraid yn ein cyfeirio tuag at bersbectif byd-eang.

V. Mae pwyntiau cyswllt pwysig rhwng yr ymrwymiadau a ymgorfforir yn y strategaeth hon a’r ymrwymiadau ehangach hynny o eiddo’r Brifysgol sy’n cefnogi ein myfyrwyr a’n staff yn eu holl amrywiaeth. Mae’r strategaeth hon yn deillio o feddylfryd cynhwysol sy’n ceisio cefnogi ac ategu ein holl ymdrechion i sicrhau bod Prifysgol Caerdydd yn sefydliad sy’n dathlu gwahaniaethau ac yn trin pawb yn gydradd.

VI. Yn fwy cyffredinol, mae’r strategaeth yn ceisio amlygu’r dolenni cyswllt rhwng agendâu traws-sefydliadol, gan ddatblygu ein gweithgareddau iaith Gymraeg mewn ffyrdd sy’n cefnogi a helaethu ein huchelgais mewn sawl maes: cenhadaeth ddinesig, arbenigrwydd addysgu ac ymchwil, ehangu mynediad, recriwtio, cynaliadwyedd, a’n cryfder fel actor cymdeithasol trawsffurfiol. Nid yw buddsoddi yn y Gymraeg yn digwydd ar draul agendâu eraill. Yn hytrach, mae’n weithgaredd buddiol a ffurfiannol i bawb.

1 Siarter y Brifysgol
2 Siarter y Myfyrwyr
3 Y Ffordd Ymlaen

III. Ein hunaniaeth – ‘Prifysgol Caerdydd’

I. Caerdydd yw prifddinas a chanolfan lywodraethol a gweinyddol democratiaeth newydd Cymru, gyda’r Gymraeg a’r Saesneg yn ieithoedd swyddogol. Mae’n ddinas ifanc, ddeinamig a byd-eang ei gorwelion, sydd wedi ei hadeiladu ar gymunedau mewnfudol o bob cornel o’r byd, pob cornel o’r DU, a phob cornel o Gymru. Mae’r Gymraeg, y Saesneg a llu o ieithoedd rhyngwladol yn rhan annatod o’i hunaniaeth.

II. Wrth geisio adlewyrchu ei chynefin, mae Prifysgol Caerdydd yn ymgysylltu â chymunedau’r ddinas ac yn eu gwasanaethu, gan werthfawrogi amrywiaeth, diwylliant ac iaith – fel yr adlewyrchir yn ei rhaglenni Ieithoedd i Bawb a Cymraeg i Bawb, a phrosiectau megis Porth Cymunedol Grangetown.

III. Mae ein safle fel prifysgol Gymreig, fyd-eang, a leolir yn y brifddinas, yn cael ei adlewyrchu yn ein rhagoriaeth ymchwil, yr ymgysylltu â’r ymchwil sy’n canolbwyntio ar Gaerdydd a Chymru, ac agweddau ar Astudiaethau Cymru yn ein haddysgu a’n darpariaeth Gymraeg.

IV. Mae’r strategaeth Gymraeg hon wedi ei seilio ar y rhagdybiaeth bod ein hunaniaeth Gymraeg – ‘Prifysgol Caerdydd’ – yn adlewyrchu hunaniaeth gyffredinol y Brifysgol yn ei chyfanrwydd, gan bwysleisio ein statws ymchwil a’n cyfraniad at fywyd sifig y rhanbarth, a Chymru lwyddiannus, gynaliadwy, gyda’r uchelgais o fod mor gynhwysol â phosib.

V. Mae’r cyfraniad hwn yn cynnwys arfogi ein myfyrwyr Cymraeg â’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad i gyfrannu at y ddinas a’r genedl yn ddwyieithog, gan gynnig cyfleoedd i ddatblygu eu gyrfaoedd trwy gysylltiadau â chyflogwyr. Mae ein prifysgol yn un sydd â rôl unigryw wrth feithrin dinasyddion dwyieithog a fydd yn helpu i arwain dinas a chenedl flaengar, gyda golygon byd-eang.

IV. ‘Y Campws Cymraeg’ – Bywyd Cymraeg y Brifysgol

I. Mae’r Campws Cymraeg yn cyfleu’r gwahanol agweddau ar fywyd Cymraeg sy’n rhan o’n profiad fel myfyrwyr a staff yn y Brifysgol a thu hwnt.

II. Mae’r rhain yn amrywio o weithgareddau cymdeithasol a chwaraeon; darllen ac ymchwil; yr ystafell seminarau a’r ddarlithfa; yr amgylchedd adeiledig a’r parth digidol; gofal bugeiliol a gwirfoddoli; gweithgaredd ymgysylltu a phrofiadau yn y gweithle; i ddigwyddiadau cyhoeddus a gweithgaredd recriwtio.

III. Wrth ddarparu’r profiadau a’r gwasanaethau gorau posib, ystyriwn Safonau’r Gymraeg yn waelodlin, ac nid yn derfyn ar ein huchelgais. Mae hyn yn galw am feithrin ymdeimlad o gydberchnogaeth ar yrymdrechion amrywiol a fynegir yn y strategaeth.

IV. Nid yw’r Campws Cymraeg wedi ei gyfyngu i gampws y Brifysgol. Wrth addysgu ein myfyrwyr a darparu cyfleoedd i’n staff, a chyfrannu at fywyd deallusol y ddinas gallwn ymgysylltu a dylanwadu tu hwnt i’n ffiniau a chydweithio gymuned ehangach.

V. Felly, cymerir pob cyfle i ddatblygu cydweithredu a phartneriaethau cyfrwng Cymraeg gyda’n partneriaid allweddol ym maes addysg a’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

VI. Bydd hyrwyddo ac ehangu’r digwyddiadau Cymraeg sy’n agored i’r cyhoedd yn allweddol i’n strategaeth, gyda phwyslais penodol ar ymgysylltu ag ysgolion, yn arbennig y rheini mewn ardaloedd sydd yn uchel ar y Mynegai Amddifadedd Lluosog. Mae creu darpariaeth cyfrwng Gymraeg ddeniadol yn dibynnu’n rhannol ar amlygu bodolaeth bywyd deallusol Cymraeg ystyrlon y gall ein myfyrwyr gymryd rhan ynddo.

V. Newid sefydliadol

Cyflwynir y strategaeth hon yn ystod cyfnod heriol o newid ym myd Addysg Uwch a’r Brifysgol ei hun, ac felly mae wedi ei llunio gyda hyn mewn golwg, er mwyn sicrhau cysondeb a gorgyffwrdd â datblygiadau ehangach.

I. Adnewyddu academaidd: mae newid sefydliadol yn gyfle i ad-drefnu ein darpariaeth, ein gwasanaethau a’n ffyrdd o weithio academaidd a phroffesiynol mewn modd radical er mwyn gwella profiad myfyrwyr a staff Cymraeg.

II. Recriwtio myfyrwyr: mae ein strategaeth Gymraeg yn cyfrannu at y nod ehangach o ddenu mwy o fyfyrwyr disglair sy’n hanu o Gymru, trwy bwysleisio’r elfen ieithyddol unigryw sy’n ein gwahaniaethu oddi wrth gystadleuwyr Grŵp Russell.

III. Profiad y myfyriwr: mae’r cyd-destun Cymraeg unigryw yn creu cyfleoedd i archwilio ac arloesi mewn modd a all ysgogi newid ar lefel sefydliadol ehangach, gan gynnwys treialu darpariaeth drawsddisgyblaethol a thraws-sefydliadol a gweithgareddau sy’n annog ymdeimlad o berthyn i’r Brifysgol a’r gymuned ehangach.

IV. Amodau gwaith: mae’r strategaeth yn ceisio cyfrannu at batrymau gwaith sy’n rhyddfreinio yn hytrach na chreu beichiau ychwanegol; mae hefyd yn fodd i annog mwy o werthfawrogiad o’r rhai sy’n gweithio i wireddu ein hamcanion Cymraeg, a meithrin ymdeimlad ehangach o berthyn a bodlonrwydd ymhlith staff.

V. Brandio: mae gweithredu strategaeth Gymraeg yn gysylltiedig â’n hunaniaeth fel prifysgol, ac mae’r ymgysylltiad ehangach gyda dwyieithrwydd, amlieithrwydd a deinameg y diwylliant ac iaith Gymraeg yn creu cyfleoedd i ddatblygu ein brand byd-eang unigryw, amlweddog.

VI. Rhyngddisgyblaethedd: Mae’r strategaeth yn ymgorffori uchelgais i fanteisio ar ein proffil ieithyddol neilltuol er mwyn annog arloesedd trawsddisgyblaethol ym meysydd ymchwil ac addysgu.

VII. Cynhwysiant: dyma thema y mae’r Brifysgol yn ei blaenoriaethu, ac mae agenda’r strategaeth hon yn cydasio â’r ymdrechion hyn. Mae datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ddiwylliannol o’r Gymraeg yn rhan o ymdrech ehangach i sicrhau cydnabyddiaeth ddigonol o’i statws ac ymateb i’r angen parhaol i hyrwyddo cynhwysiant. Yn yr un modd, fel yr amlinellwyd yn Strategaeth Ehangu Cyfranogiad 2020-2025, mae ein Strategaeth Iaith Gymraeg yn ymgorffori amcanion sydd yn rhan o’r agenda ehangach honno. Bydd ein gweithgaredd recriwtio ac ymgysylltu a’n hymdrechion mewnol i ymgysylltu â’n myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn cydnabod amrywiaeth y gymuned Gymraeg, anghenion myfyrwyr rhan amser a dysgwyr, a’r angen i ymgorffori ein hegwyddorion Ehangu Cyfranogiad ar draws yr holl weithgareddau hyn.

VIII. Cynaliadwyedd: mae ffocysu ar gynaliadwyedd y Gymraeg a chyfrannu ato mewn byd lle mae miloedd o ieithoedd yn wynebu difodiant yn cysylltu ag amcanion ehangach i adnabod sut y medrwn newid arferion cymdeithasol – datblygiadau sydd yn ofynnol os ydym am sicrhau cadwraeth ein hamgylchfyd, byd natur ac elfennau bregus eraill y gymdeithas ddynol sydd o werth inni.

Rhan 2: Amcanion a Gweithgaredd

I. Prif amcanion strategol

I. Cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n dewis ein darpariaeth achrededig Gymraeg a dwyieithog a rhagori ar dargedau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n cymryd 5 neu 40 credyd o ddarpariaeth Gymraeg y flwyddyn;

II. Ehangu a mireinio ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg arloesol, pwrpasol ac ansawdd uchel, gan adlewyrchu a bywiogi ein hunaniaeth unigryw fel Prifysgol;

III. Datblygu Cynnig Caerdydd ar gyfer ein myfyrwyr, sef profiad dwyieithog unigryw, deinamig ac uchelgeisiol;

IV. Datblygu’r Campws Cymraeg er mwyn ymgorffori diwylliant Cymraeg cadarnhaol a chynhwysol ar gyfer staff a myfyrwyr;

V. Datblygu cymuned ymchwil Cymraeg ac iddo wyneb cyhoeddus.

Cynigir yr amcanion hyn ar sail cydnabod mai dim ond trwy ddatblygu dull integredig o ymdrin â’r Gymraeg – sy’n cydnabod cyd-ddibyniaeth ein gweithgareddau – y mae modd cyflawni’r amcanion strategol.

II. Ym maes addysg ein bwriad yw:

  • Adolygu’r ddarpariaeth gyfredol;
  • Datblygu llwybr ‘Dinesydd Caerdydd’ 5 credyd ar gyfer Myfyrwyr Israddedig sydd yn cynnig sylfaen ar gyfer cymuned addysgu cyfrwng Cymraeg, sy’n cofleidio ein hamryw Ysgolion ac sy’n meithrin ymdeimlad o berthyn;
  • Blaenoriaethu a chynllunio datblygiad llwybrau
  • 40-credyd cadarn ar draws Ysgolion;
  • Adnabod datblygiadau (trawsddisgyblaethol) posibl yn y ddarpariaeth gydag ystyriaeth benodol i’r canlynol: modiwlau traws-Ysgol; y rhaglen Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg arfaethedig; a’r posibilrwydd o raglen ‘Y Celfyddydau Rhyddfrydol’ trwy gyfrwng y Gymraeg;
  • Plannu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn gweithgareddau sy’n draddodiadol wedi bod yn rhai cyfrwng Saesneg;
  • Datblygu agwedd strategol tuag at ysgoloriaethau myfyrwyr ar lefel israddedig ac ôl-radd sy’n cefnogi ein hamcanion yng nghyswllt recriwtio myfyrwyr o ardaloedd sydd yn uchel ar y Mynegai Amddifadedd Lluosog, cwrdd â thargedau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a weithredir trwy’r Cynllun Ffioedd a Mynediad, a thrwy ehangu ein hymchwil ac addysgu Cymraeg;
  • Blaenoriaethu meysydd ar gyfer ehangu capasiti staff mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gyda golwg ar hunaniaeth ac arbenigedd Gymraeg y Brifysgol;
  • Sicrhau lle bo’n bosibl bod myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn derbyn profiadau sydd yn eu hannog a pharatoi i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle;
  • Sicrhau bod gwaith ehangach i weithredu strategaethau sefydliadol yn ystyried anghenion addysgu a dysgu cyfrwng Cymraeg, megis mewn perthynas ag addysg ddigidol, technolegau addysgol, a dylunio’r cwricwlwm;
  • Cefnogi ymhellach y gwaith hyrwyddo o amgylch Cymraeg i Bawb a’r Dystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg ymhlith y myfyrwyr, gan ganolbwyntio’n ehangach ar gefnogi siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl neu’n hyderus ac sy’n ceisio gwella eu sgiliau Cymraeg;
  • Sefydlu’r Brifysgol fel arweinydd sector mewn addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru.

III. Yng nghyswllt gweithdrefnau a phrofiad myfyrwyr a staff bydd gofyn:

  • Cynllunio pensaernïaeth dewis a phrosesau syml ar gyfer myfyrwyr sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch darpariaeth a gwasanaethau Cymraeg. Rhoddir sylw penodol i’r egwyddor o ‘wneud bywyd yr un mor hawdd’ i fyfyrwyr sy’n dymuno dilyn addysg Gymraeg neu ddwyieithog a darparu cynigion ‘rhagweithiol’ yn hytrach na disgwyl i fyfyrwyr chwilio am ddarpariaeth neu wasanaethau;
  • Creu systemau cadarn ar gyfer casglu data sy’n berthnasol i ddarpariaeth Gymraeg a gweithgareddau cysylltiedig, er mwyn hybu cynnig ‘rhagweithiol’;
  • Gweithio gyda chorff y myfyrwyr, ei gynrychiolwyr, Undeb y Myfyrwyr a chymdeithasau eraill er mwyn ehangu ac amrywio profiadau cyfrwng Cymraeg, gan greu amgylchedd hwyliog, cynhwysol a chroesawgar i bawb;
  • Sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o gyfleoedd cyfrwng Cymraeg ym myd cyflogadwyedd a gyrfaoedd ac yn gallu manteisio arnynt, er enghraifft trwy weithio gyda Datblygu Sgiliau Myfyrwyr i ddatblygu rhychwant o hyfforddi sgiliau cyflogadwyedd yn y Gymraeg;
  • Pwysleisio Cymorth a Lles Myfyrwyr yn benodol mewn perthynas ag anghenion dysgu (megis trosglwyddo rhwng ysgol ac astudiaethau prifysgol), gan sicrhau yn ogystal gefnogaeth addas i siaradwyr Cymraeg fel rhan o’r gwasanaeth cwnsela;
  • Gweithio gydag Ysgolion academaidd, a darparu cyfeiriadaeth glir a chyson mewn perthynas â hyrwyddo cyfleoedd cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr, o ddiwrnodau agored i’r seremoni raddio;
  • Adolygu trefniadau mewn perthynas â’r amgylchedd adeiledig er mwyn sefydlu mannau canolog ar gyfer y Campws Cymraeg;
  • Annog ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ymysg staff a’r myfyrwyr ehangach, o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf, trwy weithgareddau ar-lein, gweithgareddau croeso/ymsefydlu, a gweithgareddau ymarferol eraill;
  • Adeiladu ar waith Dysgu Cymraeg Caerdydd a manteisio arno er mwyn cefnogi staff i wella sgiliau Cymraeg, gan gymryd mantais yn ogystal ar y gymuned addysgu fel modd o gryfhau rhwydweithiau a chysylltiadau o fewn y sefydliad;
  • Datblygu’r Rhwydwaith Staff Cymraeg, yn enwedig fel cyfrwng ar gyfer datblygu diwylliant Cymraeg cadarnhaol a chynhwysol ac eirioli dros anghenion penodol staff addysgu cyfrwng Cymraeg;
  • Gweithio ar draws y Brifysgol i sicrhau bod staff yn hyderus wrth ymateb i safonau’r Gymraeg a normaleiddio cydymffurfio fel gwaelodlin, nid amcan;
  • Sicrhau adnoddau digonol o ran addysgu a gwasanaethau proffesiynol er mwyn gweithredu amcanion y strategaeth;
  • Adolygu ein prosesau o ran creu, hysbysebu a recriwtio ar gyfer swyddi lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol, a sicrhau hysbysebu swyddi’n ddwyieithog yn unol â’r safonau iaith Gymraeg;
  • Cyflwyno rheoliadau safonol ar draws y brifysgol yn unol â chanllawiau QAA Cymru ar asesiadau a chyfieithu;
  • Adeiladu arbenigedd cyfieithu o fewn ein Hysgolion a’n hadrannau, gan sicrhau eu cydnabyddiaeth trwy’r broses Adolygiad Datblygu Perfformiad.

IV. Er mwyn hyrwyddo’r genhadaeth ddinesig, a thrwy hynny ddathlu’r Gymraeg, ein bwriad yw:

  • Adolygu gweithgaredd cyfredol gydag elfennau Cymraeg, gan nodi a blaenoriaethu cyfleoedd i wella mewn modd sydd yn cyd-fynd ag amcanion recriwtio, ehangu mynediad a hybu hunaniaeth Gymraeg y Brifysgol;
  • Datblygu ein hymlyniad strategol wrth wyliau Cymraeg gyda’r bwriad o flaenoriaethu recriwtio ac ehangu cyfranogiad o ardaloedd sydd yn uchel ar y Mynegai Amddifadedd Lluosog;
  • Cydweithio â sefydliadau eraill megis y BBC, Cyngor Caerdydd a Menter Iaith Caerdydd gan gyrchu amcanion cyfunol;
  • Cydweithio ag adran Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr a’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd er mwyn hybu’r gwaith allanol, megis trefnu lleoliadau gwaith i’r myfyrwyr, trwy adnabod a hybu cyfleoedd Cymraeg ac ymateb i’r angen am weithlu dwyieithog;
  • Cynyddu proffil fel cyflogwr Cymraeg a dwyieithog, ac adnabod cyfleoedd er mwyn cyflogi mwy o siaradwyr Cymraeg o’r gymuned;
  • Blaenoriaethu ymgysylltiad deallusol â’r gymuned ddinesig Gymraeg a dychmygu’r Campws Cymraeg fel un sy’n ymestyn i’r ddinas a thu hwnt.

V. Wrth gyfathrebu’n fewnol ac allanol ein bwriad yw:

  • Datblygu brand a hunaniaeth Gymraeg i’r Brifysgol sydd:
    • yn ddeniadol i fyfyrwyr;
    • yn arddangos ein pwysigrwydd i randdeiliaid o ran yr agenda ehangach o ddathlu a hyrwyddo’r Gymraeg.
  • Creu strategaeth ar gyfer cyfathrebu mewnol ac allanol a fydd yn gwneud y canlynol:
    • hybu ymwybyddiaeth o’n Cynnig Caerdydd gyda’n darpar ymgeiswyr;
    • sicrhau bod ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo ledled y Brifysgol;
    • hyrwyddo ymwybyddiaeth o weithgareddau i sicrhau bod ‘Prifysgol Caerdydd’ yn dod yn endid adnabyddus a nodedig ym mywyd cyhoeddus Cymru.

VI. Wrth Farchnata a Recriwtio ein bwriad yw:

  • Datblygu strategaeth recriwtio dwyieithog sydd yn cysylltu’n agos â’n gwaith Cenhadaeth Ddinesig ac sydd wedi ei llunio er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targedau fel yr amlygir yn y Cynllun Ffioedd a Mynediad;
  • Cydlynu recriwtio â gweithgareddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol;
  • Gweithio ar yr agendâu ymgysylltu ac ehangu cyfranogiad yng nghyd-destun darpariaeth cyfrwng Cymraeg i ychwanegu at weithgareddau recriwtio cyfredol;
  • Sefydlu grŵp Gorchwyl a Gorffen i ddarparu’r profiad mwyaf croesawgar posibl i ddarpar fyfyrwyr Cymraeg;
  • Adolygu ein hymwneud â rhaglen Rhwydwaith Seren o safbwynt cyfleoedd recriwtio posibl.

VII. Ym maes ymchwil ein bwriad yw:

  • Cynnal adolygiad o weithgaredd ymchwil Cymraeg cyfredol ledled y Brifysgol;
  • Sefydlu Rhwydwaith Ymchwil Rhyngddisgyblaethol Cyfrwng Cymraeg ar gyfer datblygu ystod eang o weithgareddau ymchwil ardrawiadol, yn gyson â’n hethos o werth cyhoeddus, gyda phwyslais ar ennill grantiau, yn unol â’n dyheadau ymchwil sefydliadol ehangach. Wrth wneud hyn byddwn yn cydnabod amcanion llywodraeth leol a chenedlaethol yng Nghymru;
  • Ehangu ein hymwneud â strwythurau gwleidyddol Cymreig a strwythurau rhyngwladol mewn modd sy’n llunio ac yn arwain ar agendâu polisi cysylltiedig ag iaith, gan gynnwys adfywio ieithoedd, a heriau lluosieithrwydd a chynaliadwyedd yn ehangach;
  • Sicrhau bod ehangu capasiti addysgu, lle bynnag y bo hynny’n bosibl, yn cyd-fynd â blaenoriaethau ymchwil;
  • Nodi cyfleoedd ar gyfer hyrwyddo gweithgaredd ymchwil ardrawiadol yn y tri sector a’r gymuned ehangach.

Rhan 3: Strwythurau a gweithredu

I. ‘Academi’ draws-sefydliadol

Mae nifer o heriau allweddol yn wynebu staff sy’n ymwneud â gweithgaredd Cymraeg o ran cyflawni ein hamcanion, ac ysgogi’r angen i brif-ffrydio pwysigrwydd yr iaith yn ein harferion bob dydd:

  • Yysylltedd: mewn sefydliad helaeth gyda thua 7000 o staff ac unedau lluosog, rhaid hwyluso datblygu perthnasau gwaith gyda’r unigolion sy’n allweddol o ran newid.
  • Ymdeimlad o gymuned a phwrpas cyffredin: mae adeiladu cyfeiriad a momentwm ac ymdeimlad o genhadaeth, gyda chefnogaeth gydweithwyr, yn allweddol, lle y mae unigolion gwahanol yn aml yn gweithredu ar sail cyswllt achlysurol, ad hoc.
  • Balchder: mae’n allweddol ein bod ynsicrhau gwerthfawrogiad o’n gilydd ac ymdeimlad o gyflawni gwaith ar y cyd, lle y mae ymwneud dyddiol, wyneb-yn-wyneb, yn gyfyngedig.
  • Arfer gorau: mae angen hwyluso arloesi a chodi safonau pan nad yw staff yn gallu elwa’n aml ar gydweithio.
  • Perchnogaeth o’r agenda: mae angen canolbwynt ar gyfer gweithgaredd Cymraeg y Brifysgol, er mwyn arddangos a gweithredu ein hymrwymiad a’n bwriad.

Yng ngoleuni’r heriau hyn, y prif newid sefydliadol sy’n ofynnol yw creu academi draws-sefydliadol gyda’r nod penodol o adeiladu rhwydwaith cadarn, rhyng-gysylltiedig o wasanaethau proffesiynol a staff academaidd ar draws y Brifysgol ymysg y sawl sydd â rolau sy’n cynnwys elfennau o waith Cymraeg. Bydd academi o’r fath yn cysylltu’r unigolion allweddol sy’n ymwneud â chyflawni gwahanol elfennau’r strategaeth, ond bydd yn agored i bawb sy’n dymuno ymuno.

Bydd gofyn cartref ar academi o’r fath ar y campws (gweler isod) ond dylai ei phresenoldeb ar-lein a’r cysylltiadau ‘rhithiol’ fod yn flaenoriaeth o ran rhyngweithio bob dydd, a darparu’r gefnogaeth a’r isadeiledd sy’n ofynnol i weithredu effeithlon a chyflawni amcanion strategol.

II. Strwythurau’r’ Ysgolion a Cholegau

Bydd Cynnig Caerdydd yn cael ei ddarparu’n bennaf trwy ein Hysgolion academaidd.

Mae hyn yn gofyn am sylw ar draws ystod o weithgareddau – o recriwtio, diwrnodau agored a’r pecyn croeso, i addysgu, asesu a graddio. Er y gall ‘Academi Gymraeg’ ddarparu cefnogaeth ledled y sefydliad ar draws nifer o’r gweithgareddau allweddol hyn, bydd angen i Ysgolion hefyd gyflawni’r gorchwyl trwy adeiladu:

  • ymwybyddiaeth staff
  • gallu staff a chof sefydliadol
  • amgylchedd cefnogol i’r Gymraeg
  • strwythurau cadarn a chydymffurfio â safonau’r Gymraeg
  • parhad a chysondeb wrth gyflenwi’r gwasanaethau.

Felly, bydd Ysgolion yn gweithio tuag at sefydlu grwpiau llywio iaith Gymraeg sy’n cynnwys personél allweddol, gyda chyfrifoldeb ar y cyd; ni fydd grwpiau o’r fath yn canolbwyntio ar gyfarfodydd rheolaidd, ond yn hytrach yn adeiladu goruchwyliaeth, ymwybyddiaeth a gallu ar draws yr amrywiol swyddogaethau Ysgol fel bod y cwestiwn ‘a beth am y Gymraeg?’ yn cael ei ofyn yn ddigwestiwn. Lle mae gweithgaredd Cymraeg yn gyfyngedig oherwydd niferoedd bach o siaradwyr Cymraeg, anogir Ysgolion i ffurfio grwpiau o’r fath ar draws Ysgolion.

Bydd angen i Ysgolion gael eu cefnogi gan weithgaredd y Colegau, o ran cyfleoedd i gronni adnoddau ac arbenigedd, a hefyd sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried wrth wneud penderfyniadau strategol lefel uchel. I’r perwyl hwn, bydd rhwydwaith Cymraeg Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd yn cael ei efelychu yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol ac yng Ngholeg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, gyda’r rhwydweithiau hynny’n bwydo i fyny’n uniongyrchol i Fyrddau Colegol.

III. Both olwyn i’r Gymraeg

Er mwyn gwasanaethu anghenion myfyrwyr a staff ar draws y Brifysgol, ein bwriad yw sefydlu both (hyb) Gymraeg.

Bydd wedi’i leoli o fewn yr Academi Draws-Sefydliadol Gymraeg a fydd yn cynnig cartref i Gangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol y Brifysgol yn ogystal. Bydd y Rhwydwaith Staff Cymraeg hefyd yn sefydlu presenoldeb yn yr Academi, er mwyn cefnogi dysgwyr Cymraeg a hyrwyddo cymuned Gymraeg y Brifysgol.

Dyma ddarparu cartref a chanolbwynt i’r Campws Cymraeg.

IV. Grŵp marchnata a recriwtio

Er mwyn sicrhau niferoedd cynyddol a mwy o bobl yn manteisio ar Cynnig Caerdydd – wrth inni ddatblygu Campws Cymraeg cadarnhaol a chynhwysol – mae’r cysylltiad â darpar fyfyrwyr cyn iddynt gyrraedd Caerdydd yn sylfaenol bwysig.

Mae hyn yn golygu datblygu strategaeth bwrpasol ar gyfer ysgolion uwchradd a sefydliadau addysg uwch eraill sy’n manteisio ar weithgareddau sy’n bodoli eisoes, megis Rhwydwaith Seren a phrosiectau ymgysylltu.

Bydd yr Academi Gymraeg yn hwyluso mwy o gydlynu a chydweithio mewn perthynas â’r gweithgareddau hyn, ond mae’n hanfodol hefyd fod grŵp Cymraeg craidd yn cael ei sefydlu gan Marchnata a Recriwtio, er mwyn adeiladu rhaglen bwrpasol sy’n amrywio o ddiwrnodau agored i ymweliadau ysgolion a’n digwyddiadau Cenhadaeth Ddinesig.

V. Ethos

Gwedd allweddol ar y strategaeth hon yw amlygu cyfraniad ein gweithgareddau Cymraeg at amcanion ehangach y Brifysgol, a gosod targedau er mwyn manteisio ymhellach ar y cyfraniad hwnnw.

O ganlyniad i hynny, y gobaith yw y bydd cydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad ehangach o waith y rhai sy’n ymwneud â’n gweithgareddau Cymraeg, a dealltwriaeth o’i arwyddocâd.

Mae’n bwysig bod cyfraniad a llwyth gwaith staff sy’n dysgu trwy’r Gymraeg yn cael eu cydnabod yn llawn o fewn gweithdrefnau’r Brifysgol. Ymhellach, dylid sicrhau cysondeb o ran sut mae’r cyfraniadau hyn yn cael eu mesur. Yn ehangach, ac o ran Gwasanaethau Proffesiynol yn benodol, rhaid gosod gwerth digonol ar gyfraniad staff a rhoi cydnabyddiaeth addas iddo wrth iddynt weithredu gwahanol agweddau ar ein Strategaeth Gymraeg, a sicrhau cydnabyddiaeth lle bo hynny’n briodol o fewn y broses Datblygiad Proffesiynol i’r sawl sy’n dewis gwella eu sgiliau iaith, trwy ein cyrsiau Dysgu Cymraeg Caerdydd a hyfforddiant arall.

VI. Rôl y Deon

Bydd nifer o agweddau allweddol i waith y Deon wrth wireddu’r strategaeth:

  • rôl arweiniol wrth ymdrin â’r berthynas â’n partneriaid allweddol, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol;
  • arweiniad strategol, gan adrodd i Rag Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau, a Gwyddorau Cymdeithasol;
  • aelodaeth o grwpiau perthnasol y Brifysgol;
  • cyfrifoldeb am fusnes beunyddiol yr Academi Gymraeg;
  • cydlynu Rhwydwaith Hyrwyddwyr y Gymraeg gyda Gwasanaethau Sicrwydd;
  • gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaethau Sicrwydd mewn perthynas â’r Strategaeth Gymraeg.

VII. Llywodraethiant

  • Bydd y Rhag Is-Ganghellor perthnasol yn gyfrifol am yr Iaith Gymraeg, gan gynnwys goruchwylio’r Academi Gymraeg;
  • Sefydlir grŵp newydd, sy’n adrodd i Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, drwy gyfuno swyddogaethau arweinyddiaeth a strategol y Grŵp Gweithredu Strategaeth Iaith Gymraeg a rôl arfer gorau Bwrdd Ymgynghorol y Gymraeg;
  • Bydd y Rhag Is-Ganghellor perthnasol yn ymgysylltu â’r Rhwydwaith Staff Cymraeg trwy’r Deon, yn enwedig o ran lles staff sy’n gyfrifol am ddarpariaeth Gymraeg.

Ein hymrwymiad Cymraeg

Ein gweledigaeth ni yw bod Prifysgol Caerdydd yn arweinydd byd-eang fel prifysgol ddwyieithog a lluosieithog, sy’n cynnig profiad eithriadol i fyfyrwyr a staff ac yn llunio agendâu polisi ac ymchwil perthnasol yng Nghymru a thu hwnt. Byddwn yn cyflawni hyn trwy greu strwythurau llywodraethiant a gweithredu sydd yn gadarn ac effeithiol.

Bydd gennym bum ymrwymiad allweddol sy’n ymgorffori ein gweledigaeth ac yn cyflawni ein hamcanion strategol (AS):

I. Addysg, recriwtio a chofrestru

Rydym yn ymrwymo i ragori ar ein targedau recriwtio a’n targedau ar gyfer cofrestru ar fodiwlau cyfrwng Cymraeg (AS1, AS2).

Byddwn yn cyflawni hyn trwy weithgareddau rhyng-gysylltiedig y strategaeth, gan gefnogi datblygiad addysgu Cymraeg cyffrous, pwrpasol, sy’n adlewyrchu natur ein sefydliad a diwylliannau ein lleoliad neilltuol.

Er mwyn cyflawni hyn byddwn yn gweithio ar draws ein Hysgolion i ddatblygu cynnwys a chwricwlwm arloesol, llwybrau cadarn a deniadol, a chymorth astudio.

Byddwn yn gwybod ein bod wedi cyflawni ein nod pan fyddwn yn rhagori ar ein targedau.

II. Marchnata a chyfathrebu

Rydym yn ymrwymo i hyrwyddo’r holl weithgareddau Cymraeg sy’n rhychwantu’r Campws Cymraeg gyda brwdfrydedd ac ymroddiad, o’n darpariaeth addysgu i’n hymwneud â digwyddiadau cyhoeddus (AS1, AS3, AS4).

Byddwn yn cyflawni hyn trwy ddatblygu marchnata pwrpasol, wedi ei ffocysu ar ein recriwtio, a chyfathrebu allanol a mewnol yn yr un modd.

Er mwyn cyflawni hyn byddwn yn ffurfio grŵp marchnata Cymraeg, yn datblygu is-strategaethau recriwtio a chyfathrebu, ac yn ffurfio grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer ein diwrnodau agored.

Byddwn yn gwybod ein bod wedi cyflawni ein nod pan fydd ein Cynnig Caerdydd yn cael ei adnabod gan fyfyrwyr, pan fyddwn wedi cyrraedd ein targedau o ran ffigurau a niferoedd recriwtio sy’n cymryd modiwlau cyfrwng Cymraeg, a phan mae staff a’r cyhoedd fel ei gilydd yn cydnabod cyfraniad y Brifysgol i’r bywyd Cymraeg.

III. Profiad myfyrwyr a staff

Byddwn yn ymrwymo i greu profiad cyfrwng Cymraeg cadarnhaol a chynhwysol a ymgorfforir yn ein Cynnig Caerdydd a’r Campws Cymraeg, wedi ei weinyddu’n effeithiol ar gyfer myfyrwyr, staff a’r cyhoedd (AS3, AS4).

Byddwn yn cyflawni hyn trwy nodi a datrys problemau allweddol gan fabwysiadu persbectif cyfannol ar y Gymraeg ym mywyd beunyddiol y Brifysgol.

Er mwyn cyflawni hyn byddwn yn sefydlu Academi Gymraeg a gweithio fel un sefydliad i ddatblygu a gwella prosesau, arferion cyfieithu, casglu data, ymwybyddiaeth o’r Gymraeg, cefnogaeth staff a myfyrwyr, cyfleoedd allgyrsiol, ac adnoddau digidol a dysgu, gan fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd a gyflwynir gan Dysgu Cymraeg Caerdydd.

Byddwn yn gwybod ein bod wedi cyflawni ein nod pan fydd mwyafrif helaeth y staff a’r myfyrwyr yn adrodd ar brofiadau cadarnhaol mewn perthynas â’r iaith Gymraeg.

IV. Cenhadaeth ddinesig

Byddwn yn ymrwymo i ddathlu a gweithredu trwy’r Gymraeg i’r graddau mwyaf posibl wrth gyflawni ein nodau Cenhadaeth Ddinesig (AS3, AS4).

Byddwn yn cyflawni hyn trwy ddatblygu ac ehangu’r Campws Cymraeg a’n cyfraniad at wyliau Cymraeg, ac adnabod a datblygu cyfraniadau at weithgareddau Cymraeg eraill.

Er mwyn cyflawni hyn byddwn yn cynnal adolygiad o weithgareddau cyfredol, yn chwilio am gyfleoedd newydd, ac yn creu is-strategaeth a fydd yn blaenoriaethu gweithgaredd ymchwil, lleoliadau gwaith a recriwtio.

Byddwn yn gwybod ein bod wedi cyflawni ein nod pan fydd y Campws Cymraeg yn frand cydnabyddedig, pan fydd gennym raglen flynyddol ac amrywiol o ddigwyddiadau, a phan gyflawnir ein targedau lleoliadau gwaith i fyfyrwyr.

V. Ymchwil

Byddwn yn ymrwymo i ymgysylltu â’n staff Cymraeg er mwyn creu cymuned ymchwil Gymraeg sy’n cynnal ymchwil o’r radd flaenaf (AS5).

Byddwn yn cyflawni hyn trwy sefydlu rhwydwaith ymchwil Cymraeg rhyngddisgyblaethol sy’n gyfrifol am adnabod cyfleoedd ymchwil a chyfleoedd i ennill grantiau.

Er mwyn cyflawni hyn byddwn yn adnabod yr holl gyfranwyr posib a chyfranwyr y dyfodol, adnabod ac amlygu cyfleoedd o fewn meysydd ymchwil a chyllid presennol, ac yn darparu amgylchedd priodol ar gyfer ymchwil arloesol, drawsddisgyblaethol.

Byddwn yn gwybod ein bod wedi cyflawni ein nod pan fydd Prifysgol Caerdydd yn cael ei chydnabod ar lefel fyd-eang am ei gwaith mewn perthynas ag ymchwil wreiddiol trwy gyfrwng y Gymraeg, ac ymchwil arloesol yn ymwneud â dwyieithrwydd a lluosieithrwydd.