Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd - Polisi gordanysgrifio ar gyfer rhaglenni israddedig
- Dyddiad dod i rym:
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (PDF, 133.5 KB)
1. Nodau a Llywodraethu
1.1. Yn unol â pholisïau derbyniadau Prifysgol Caerdydd a chydymffurfio â Chod Ansawdd QAA UK ar gyfer Addysg Uwch, mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn cynnal ei phroses dethol myfyrwyr mewn modd gwrthrychol, agored, tryloyw, teg a diwahaniaeth. Er bod y prosesau dethol ar gyfer rhaglenni israddedig yn rhwym wrth bolisi'r Brifysgol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, mae hefyd yn amodol ar uchafswm o leoedd yn seiliedig ar dargedau a therfynau comisiynu Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar gyfer pob blwyddyn academaidd.
1.2. Goruchwylir y polisi hwn gan y Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn i Ysgolion a'r Grŵp Derbyn a Recriwtio Ysgolion Gofal Iechyd ac mae'n ceisio diffinio'r amodau sy'n gysylltiedig â gordanysgrifio o fewn paramedrau'r nifer o leoedd a gomisiynir ar unrhyw raglen.
2. Lleoedd a Gomisiynwyd
2.1. Gosodir nifer y lleoedd sydd ar gael ar unrhyw raglenni israddedig yn flynyddol gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ac ni all y Brifysgol ddarparu lleoedd ychwanegol.
2.2. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau o'r fath, bydd y Brifysgol yn gyntaf yn ceisio cynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael drwy drafod â'r corff comisiynu cyn amrywio, neu dynnu'n ôl, cynigion a dderbynnir gan ymgeiswyr.
3. Gwneud Cynnig
3.1. Mae'r Brifysgol yn rheoli ei chynigion yn y fath fodd fel bod lle, i amgylchiadau arferol, i bob deiliad cynnig sy'n cwrdd ag union amodau eu cynnig. Fodd bynnag, gall fod amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth resymol y Brifysgol sy'n golygu bod nifer yr ymgeiswyr sy'n cwrdd â'r mae amodau cynnig lle ar rhaglen yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael (“gordanysgrifio”).
4. Gor-danysgrifio
4.1. Mae gor-danysgrifio yn cyfeirio at nifer yr ymgeiswyr sy'n cwrdd ag amodau cynnig lle ar rhaglen sy'n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn / dyddiad mynediad hwnnw.
5. Camau gweithredu gan Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd pe bai achos o or-danysgrifio
5.1. Yn yr amgylchiadau hyn, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i wneud penderfyniad academaidd annibynnol ar ddeiliaid cynigion a bydd yn dyrannu lleoedd yn unol â pholisi gordanysgrifio ar sail deg a rhesymol. Ni fydd y Brifysgol yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sy'n deillio o unrhyw anallu neu fethiant i dderbyn deiliad cynnig i'r Brifysgol o ganlyniad i ordanysgrifio sydd y tu hwnt i'w rheolaeth resymol.
6. Sail Deg a Rhesymol ar gyfer dyrannu lleoedd
6.1.Mae pob ymgeisydd sy'n bodloni’r meini prawf mynediad a gyhoeddwyd yn cael ei sgorio trwy fynd i gyfweliad a chaiff cynigion i astudio eu gwneud wedi hynny yn seiliedig ar y sgorau hyn. Y sgôr hon a fyddai'n cael ei defnyddio pe bai gordanysgrifio i raglen ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi rhagori neu wedi bodloni amodau eu cynnig yn union. Mae defnyddio'r sgôr hon yn golygu bod yr agweddau academaidd a’r rhai sy’n seiliedig ar werthoedd yn cael eu hystyried.Gellir defnyddio graddau a gyflawnir a/neu dariff cyffredinol hefyd fel ffactorau i wahaniaethu rhwng y rhai sydd â'r un sgôr cyfweliad a/neu sgôr datganiad personol.
7. Beth fydd yn digwydd os na ddyrennir lle i mi?
7.1. Os na ddyrennir lle i chi oherwydd cymhwyso'r polisi gordanysgrifio, bydd y Brifysgol, lle bynnag y bo'n bosibl, yn ceisio:
a. cynnig cyfle i chi ohirio eich lle i'r pwynt mynediad / blwyddyn academaidd nesaf, neu
b. cynnig lle i chi ar raglen amgen briodol ym Mhrifysgol Caerdydd.
7.1.1 Os nad ydych am dderbyn un o'r opsiynau amgen a gynigir i chi o ganlyniad i'r polisi gordanysgrifio sy'n cael ei gymhwyso, cewch eich rhyddhau o'ch cynnig fel blaenoriaeth i'ch galluogi i fynd ar drywydd yswiriant, clirio, neu opsiynau a chynigion addas eraill.
Tabl rheoli'r ddogfen
Teitl y ddogfen: | Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd - Polisi gordanysgrifio ar gyfer rhaglenni israddedig |
---|---|
Dyddiad dod i rym: | 01 Tachwedd 2020 |