Cadwyni cyflenwi a logisteg
Gall technolegau digidol drawsnewid sut rydym ni'n cyrchu, gweithgynhyrchu, cludo a storio nwyddau.
Gallwn eich helpu i ddod yn fwy effeithlon trwy drawsnewid logisteg eich cadwyn gyflenwi’n ddigidol. Mae ein hymchwilwyr wedi datblygu polisïau rhagolygu newydd, dulliau newydd o reoli rhestrau stoc ac o gynllunio cynhyrchu sy’n helpu cwmnïau i chwyldroi eu cadwyni cyflenwi a’u modelau logisteg gan hyrwyddo cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol.
Rydym yn cydweithio gyda diwydiant i gyflenwi arbenigedd craidd o ran rhagolygu cadwyni cyflenwi, rheoli rhestrau stoc, gwyddor trafnidiaeth, modelu cadwyni cyflenwi, modelu busnes logisteg, ac economeg cludiant. Gallwn eich helpu i archwilio effeithiau datrysiadau gweithgynhyrchu adiol (argraffu 3D) ar benderfyniadau cadwyni cyflenwi, cadwyni cyflenwi dolen gaeedig, pasbortau digidol, rhagolygon, ac optimeiddio rhestrau stoc a chynhyrchu.
Mae Canolfan RemakerSpace yn cefnogi'r symudiad at economi gylchol, ymestyn cylch bywyd cynnyrch, dod â darfodiad arfaethedig i ben, a diogelu adnoddau'r byd ar gyfer y dyfodol.
Yr Athro Aris Syntetos
Athro Ymchwil Nodedig, Cadeirydd DSV