Economi gylchol
Gyda’n gilydd, gallwn archwilio llwybrau tuag at fodel busnes economi gylchol tecach a mwy atebol.
Mae’r Grŵp Ymchwil Economi Gylchol a Digidol (CiDER) ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnig arbenigedd yn y meysydd hollbwysig hyn.
Dan arweiniad yr Athro Peter Wells a'r Athro Yingli Wang, mae CiDER yn cydweithio'n weithredol â sefydliadau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector. Rydym yn gweithio trwy fentrau amrywiol, o brosiectau ymchwil ar y cyd i drosglwyddo gwybodaeth ac astudiaethau dichonoldeb, pob un yn cynnwys ein myfyrwyr ôl-raddedig dan oruchwyliaeth y gyfadran.
Lleihau gwastraff
Mae'r model cynhyrchu a defnyddio "cymryd-gwneud-gwaredu" traddodiadol ar fin cyrraedd ei derfyn. Mae'r economi gylchol (EG) yn cynnig dewis arall cymhellol, yn eirioli dros system dolen gaeedig sy'n datgysylltu twf economaidd oddi wrth ddisbyddu adnoddau a diraddio amgylcheddol.
Fel y'i diffinnir gan Sefydliadau Ewropeaidd, mae EG yn blaenoriaethu cadw "gwerth cynhyrchion, deunyddiau ac adnoddau yn yr economi cyhyd ag y bo modd, tra'n lleihau gwastraff."
Mae technolegau digidol yn chwarae rhan hanfodol yn y trawsnewid hwn. Maent yn grymuso busnesau i ailgynllunio cadwyni cyflenwi llinellol yn rhwydweithiau cylchol sy'n blaenoriaethu effeithlonrwydd adnoddau, lleihau gwastraff, a chyfrifoldeb amgylcheddol.
Amcanion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu
Er mwyn llywio tirwedd esblygol EG, mae angen cymorth ar bartneriaid allanol a rhanddeiliaid.
Mae hyn yn cynnwys alinio â pholisïau cyhoeddus presennol a rhai sy'n dod i'r amlwg yn ogystal â nodau ACLl (amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu) y sefydliadau eu hunain.
Mae cydymffurfio â'r amgylchedd cyfreithiol datblygol sy'n canolbwyntio ar yrru trawsnewidiadau EG a'r pwysau cymdeithasol cynyddol ar gyfranogwyr busnes i ddatblygu modelau busnes cylchol yn gofyn am arloesi sylweddol yn ymwneud ag ymestyn cylchoedd oes, atgyweirio ac ailddefnyddio cynnyrch, olrhain deunyddiau a chydrannau trwy’r cylch oes cyfan, cipio gwerth o gamau diwedd oes, ail-sgilio i alluogi gweithgareddau cylchol, a llawer mwy.
Yr Athro Yingli Wang
Pro-Dean ar gyfer Ymchwil, Effaith ac ArloesiAthro mewn Rheoli Logisteg a Gweithrediadau