Cydweithio â ni
Rydym ni'n ysgogi trawsnewid digidol drwy ymchwil ac arloesedd rhyngddisgyblaethol.
Gan dynnu ar gryfderau ymchwil y brifysgol, rydym ni'n cynorthwyo academyddion i ddatblygu gwybodaeth newydd ac effaith gymhwysol. Gallwn gefnogi pob maes ymchwil. Hyd yma, rydym wedi arbenigo ar gefnogi perthnasoedd mewn meddygaeth, gwyddorau cymdeithasol, rheoli busnes, peirianneg, a gwyddorau cyfrifiadurol.
Gallwn hefyd gefnogi gyda thrawsnewid digidol mewn meysydd eraill. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth:
Sefydliad Arloesi Trawsnewid Digidol
Sut gallwn ni eich helpu chi
Ein nod yw eich cysylltu â phobl rydych chi'n dymuno gweithio gyda nhw.
Gallwn eich cefnogi chi drwy
- eich cysylltu â chydweithredwyr allweddol
- galluogi rhwydweithio a digwyddiadau
- cynorthwyo gydag ysgrifennu cynigion ar gyfer cyllid dros £1miliwn
- ysgrifennu llythyrau o gefnogaeth ar gyfer ceisiadau o dan £1miliwn
Rydym ni'n hyrwyddo arloesi cyfrifol fel bod eich trawsnewidiad digidol yn foesegol, yn gynaliadwy ac yn ddiogel.
Meysydd ymchwil
Mae gennym bedwar maes ymchwil blaenoriaeth.
Ehangu gorwelion
Rydym ni hefyd yn ehangu i weithio mewn meysydd fel addysg, y diwydiannau creadigol, ac ynni.
Mae ein technolegau yn cefnogi gwaith trawsnewid digidol.
Rhagor o wybodaeth
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i glywed y diweddaraf am ymchwil, newyddion, digwyddiadau, blogiau a mwy, gan Brifysgol Caerdydd.