Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn yr Ysgol Deintyddiaeth

Students conducting research in a lab

Mae gan ein diwylliant ymchwil ffyniannus ac arloesol un nod cyffredinol: cynhyrchu ymchwil o safon uchel sy'n cael effaith, sy'n mynd i'r afael â heriau byd-eang allweddol ym meysydd iechyd y geg ac iechyd yn gyffredinol.

Mae ein grwpiau ymchwil amrywiol i gyd yn gweithio i wneud y byd yn lle gwell, o atal pydredd dannedd mewn plant a gwneud deintyddiaeth yn fwy cyfeillgar i gleifion - credwch neu beidio - lleihau troseddau treisgar ar strydoedd Caerdydd a newid agweddau tuag at alcohol.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â rhanddeiliaid a sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i nodi cwestiynau pwysig a mynd i’r afael â nhw er mwyn gwella'r byd o'n cwmpas.

Grwpiau

Grwpiau

Mae ein canolfannau a grwpiau yn cynnal ymchwil arbenigol.

Ein heffaith fyd-eang

Ein heffaith fyd-eang

Mae gan ein hymchwil effaith cryf ar draws sawl maes, gwella triniaeth glinigol a gwasanaethau er budd i’r gymdeithas.

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

We have published books, articles and journals across all of our themes.

Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, cafodd ein hymchwil ei rhoi yn y 16eg safle (allan o 90) ar gyfer ansawdd. Mae hynny, ynghyd â maint yr ymchwil yn yr Uned hon, yn ein rhoi yn y 4ydd safle (allan o 90) ar gyfer Pŵer Ymchwil (sy’n arwydd o ansawdd a maint ein cyflwyniad).

Caniatâd Moesegol ar gyfer Ymchwil trwy Bwyllgor Moeseg Ymchwil yr Ysgol Deintyddiaeth: Mae ein holl ymchwil sy'n cynnwys cyfranogwyr dynol neu ddeunydd dynol neu ddata dynol yn destun adolygiad moesegol ffurfiol a chymeradwyaeth. Os ydych yn fyfyriwr neu’n aelod o staff presennol, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ar Fewnrwyd y Staff a Mewnrwyd y Myfyrwyr.