Addysg ôl-raddedig
Mae gennym ystod eang o gyrsiau meistr a addysgir sy’n cynnig llwybrau at arbenigedd clinigol ac at ddatblygu hyfforddiant ymchwil yn y gwyddorau biofeddygol a bywyd.
Mae gan ein Hysgol enw da am ragoriaeth ei haddysgu, ei hymchwil a’i gofal clinigol, a hanes o addysg ôl-raddedig ers dros 40 mlynedd.
Mae ein rhaglenni’n cael eu cyflwyno gan academyddion sy’n ymgymryd ag ymchwil o safon fyd-eang, felly cewch eich addysgu gan arbenigwyr sy’n cael effaith sylweddol ar y gofal iechyd a ddarperir ar hyn o bryd er lles y gymuned.
Mae cyrsiau anghlinigol wedi’u cynllunio i ddarparu’r hyfforddiant ymchwil sylfaenol a ddisgwylir yn aml yn awr ar gyfer dechrau ar raglen astudio PhD. Gellir eu defnyddio i ganiatáu mynediad at raglen astudio PhD tair blynedd yn yr Ysgol Deintyddiaeth.
Yr amgylchedd a chyfleusterau
Byddwch wedi’ch lleoli yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, yr unig gyfleuster deintyddol o’i fath yng Nghymru, sy’n darparu ystod lawn o wasanaethau clinigol arbenigol deintyddol i nifer fawr o gleifion a chyfleoedd gwych ar gyfer addysg glinigol ôl-raddedig oherwydd hyn.
Cyflwynir ein rhaglenni gan glinigwyr ac academyddion ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n cynnig amgylchedd dysgu cyfeillgar, cefnogol a phroffesiynol ar gyfer rhaglenni astudio sy’n canolbwyntio ar wyddoniaeth glinigol a biofeddygol.
Byddwch hefyd yn ymuno â’r gymuned ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd yn ehangach, sy’n aelod o Grŵp Russell, grŵp dethol o’r prifysgolion mwyaf dwys o ran ymchwil yng ngwledydd Prydain.
Nawdd
Mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr yn hunan-ariannu eu hastudiaethau. Edrychwch ar ein tudalennau ffioedd ac ariannu ôl-raddedig i weld y cyfleoedd ariannu sydd ar gael. Mae Ysgoloriaethau Rhyngwladol yr Is-Ganghellor 2018 yn cynnig dyfarniadau o fyfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio rhaglenni ôl-raddedig a addysgir yn yr Ysgol Deintyddiaeth, mae telerau ac amodau yn berthnasol.
Sut i wneud cais
Cwblhewch y ffurflenni cais, a chyflwyno'ch cais ar-lein.
Gwybodaeth bellach
Am fwy o wybodaeth am wneud cais, cysylltwch â'r swyddfa ôl-raddedig:
Derbyn Ôl-raddedigion Deintyddiaeth
Dewch i edrych o gwmpas ein campws, cwrdd â myfyrwyr a staff, a chael blas ar sut beth yw astudio a byw yng Nghaerdydd.