Amdanom ni
Rydym yn unedig gan un nod - gwella dyfodol gofal deintyddol ledled Cymru, y DU a thu hwnt.
Ymhlith y 4 uchaf
yn y DU ym maes Deintyddiaeth (The Complete University Guide 2025)
Ymhlith y 50 uchaf
yn y byd ym maes Deintyddiaeth (Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd 2024)
Ystafell efelychu clinigol
gwerth £2.2m, lle gallwch ymarfer eich sgiliau clinigol yn ddiogel
Ymunwch â’n casgliad o feddyliau gwych i gyd yn gweithio i wneud y byd yn lle gwell, o atal pydredd dannedd mewn plant a gwneud deintyddiaeth yn fwy cyfeillgar i gleifion - credwch neu beidio - lleihau troseddau treisgar ar strydoedd Caerdydd a newid agweddau tuag at alcohol.
Dysgu y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth
Byddwch yn ymarfer eich sgiliau clinigol yn ddiogel yn ein hystafell efelychu deintyddol, ar ddymis sy’n cael eu galw’n ‘bennau rhithiol’, cyn mynd ati mewn sefyllfaoedd clinigol go iawn gydag ystod o gleifion oherwydd ein cysylltiadau cryf â’r GIG.
Bydd y profiadau ymarferol a go iawn hyn yn gwneud yn siŵr eich bod wedi’ch paratoi’n llawn i fod yn weithiwr deintyddol proffesiynol, a bod gennych y sgiliau clinigol a’r hyder i ragori ym mha bynnag yrfa a ddewiswch.
Camwch i mewn i’n Hysgol
Fel myfyriwr gyda ni gallwch gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol a mentrau allgymorth sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
O ymweld ag ysgolion lleol ac addysgu plant am iechyd y geg, i gyflwyno pecynnau gofal hylendid deintyddol i gymunedau digartref ledled Caerdydd, mae ein myfyrwyr yn gwneud newid parhaol, ac yn gweithio i adeiladu dyfodol gwell.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â byrddau iechyd a'r llywodraeth i greu effaith yn y byd go iawn gydag etifeddiaeth barhaol, ac fel myfyriwr gyda ni, gallech fod yn rhan o'r newid hwn.