P’un a ydych am fod yn weithiwr deintyddol proffesiynol yn helpu pobl o ddydd i ddydd, dylanwadu ar ddyfodol iechyd y geg drwy ymchwil, neu arbenigo mewn maes penodol o ddeintyddiaeth, rydym yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd.
Byddwch yn ymarfer eich sgiliau clinigol yn ddiogel yn ein hystafell efelychu deintyddol, ar ddymis sy’n cael eu galw’n ‘bennau rhithiol’, cyn mynd ati mewn sefyllfaoedd clinigol go iawn gydag ystod o gleifion oherwydd ein cysylltiadau cryf â’r GIG.