Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau

Mae gennyn ni dechnoleg a chyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n galluogi ein hymchwilwyr i wneud gwaith ymchwil arloesol ym maes dementia.

Gwyliwch y fideo: Adeilad Hadyn Ellis a CUBRIC

Mae ein hymchwilwyr yn dod o amrywiaeth o ddisgyblaethau gwahanol, ac rydyn ni'n gysylltiedig â Sefydliadau Ymchwil blaenllaw’r Brifysgol sydd â chyfleusterau o’r radd flaenaf.

Adeilad Hadyn Ellis

Adeilad Hadyn Ellis

Mae Adeilad Hadyn Ellis yn cynnwys labordy 12,500 troedfedd sgwâr gydag ystafelloedd penodol ar gyfer gwaith cyn-PCR a biofancio, yn ogystal â mannau ar gyfer ymchwil genomeg, meithrin meinweoedd, proteomeg, dadansoddi RNA, organebau a addaswyd yn enetig, ymbelydredd a microsgopeg.

Mae ein hoffer yn cynnwys system HiSeq 4000 gan Illumina, systemau dilyniannu’r genhedlaeth nesaf Ion Proton ac Ion Torrent, system paratoi un gell C1 gan Fluidigm, llwyfannau genoteipio iScan a BeadXpress gan Illumina, technoleg OpenArray gan Life Technologies a system pyrodilyniannu PyroMark gan QIAGEN.

Ar gyfer dadansoddi data, rydyn ni’n defnyddio seilwaith cyfrifiadura perfformiad uchel ac is-adran Cyfrifiadura Ymchwil Uwch ym Mhrifysgol Caerdydd (ARRCCA), a hynny’n benodol ar gyfer dadansoddi data dilyniannu’r genhedlaeth nesaf.

Mae hefyd glinig i’r GIG yn y cyfleuster hwn, lle mae profion seicoffiseg yn y labordy ac ymchwil sy’n canolbwyntio ar y claf yn cael eu cefnogi gan y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl.

CUBRIC

Front of the new Brain Research Imaging Centre building
Cardiff University Brain Research Imaging Centre - a state-of-the-art research centre

Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd, a agorwyd ym mis Mehefin 2016, yw un o gyfleusterau blaenllaw Ewrop ar gyfer delweddu'r ymennydd.

Mae'n cynnwys sawl sganiwr MRI, gan gynnwys sganiwr maes hynod uchel sy’n bwerus iawn. Mae hefyd yn cynnwys sganiwr MEG, tri labordy electroenceffalograffeg (EEG), pum labordy efelychu’r ymennydd, 10 labordy profion gwybyddol a chyfleuster ymchwil glinigol.

Y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau

Mae cyfleusterau’r Sefydliad Ymchwil hwn yn cynnwys adnoddau labordy a chyfrifiadurol uwch. Mae hefyd yn rhoi mynediad i ymchwil glinigol a banciau meinwe.

Dysgwch ragor am y cyfleusterau yn y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau.

Clinigau ac unedau treialon

Canolfan Clefyd Huntington Prifysgol Caerdydd yw un o ganolfannau arweiniol y DU ar gyfer cychwyn a chydlynu ymchwil i glefyd Huntington. Mae tîm y clinig hefyd yn rhoi cyngor a gofal arbenigol i bobl sydd â chlefyd Huntington (neu sydd mewn perygl o’i ddatblygu), eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Mae Uned Treialon De-ddwyrain Cymru yn y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn uned treialon clinigol sydd ar gofrestr UKCRC. Mae'n cynllunio, yn cynnal, yn dadansoddi ac yn cyhoeddi manylion treialon clinigol ac astudiaethau eraill, boed yn dreialon fferyllol neu’n ymyriadau cymhleth i’w gwerthuso.

Uned 12 gwely yn Ysbyty Athrofaol Cymru yw’r Cyfleuster Ymchwil Glinigol. Mae’n gyfleuster hollbwysig ar gyfer troi datblygiadau sylfaenol ym maes y gwyddorau biofeddygol yn ymarfer clinigol.

Mae Uned Ymchwil Niwrowyddoniaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar ward niwroleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae'r uned niwrowyddoniaeth drosi hon yn cynnwys pedwar gwely ac yn cefnogi treialon llawfeddygol ym maes therapi mewngreuanol, treialon nad ydyn nhw’n rhai llawfeddygol ym maes ymchwil meddygaeth adfywiol a threialon clinigol arbenigol ar gyfer epilepsi, clefyd Huntington, clefyd Parkinson a strôc yn ogystal â chlefydau niwrolegol eraill.

Manylion cyswllt

Sefydliad Ymchwil Dementia