Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Y Sefydliad Ymchwil er Dementia’r DU ym Mhrifysgol Caerdydd yw’r buddsoddiad mwyaf mewn ymchwil i glefydau niwroddirywiol hyd yma yng Nghymru.

A digital image representation of DNA repair

Yr her

Mae'r Ganolfan yn dod â gwyddonwyr ynghyd o amrywiaeth o gefndiroedd ymchwil, sy'n arbenigo mewn geneteg, imiwnoleg, dadansoddeg gyfrifiadol, swyddogaeth synaptig ac atgyweirio DNA. Mae'r tîm cydweithredol iawn yn dod â syniadau a safbwyntiau newydd, ac yn cydweithio i ddarganfod mecanweithiau clefyd newydd, nodi targedau cyffuriau, ac yn y pen draw cynnig triniaethau newydd ar gyfer clefydau Alzheimer, Parkinson, Huntington a chlefydau niwroddirywiol eraill.

Gweithio tuag at ddatrysiadau

Mae gan y Ganolfan bedwar thema ymchwil cyffredinol:

  • geneteg
  • bioleg gyfrifiadol
  • imiwnedd ac atgyw
  • eirio DNA

Mae'r Ganolfan yn integreiddio adnoddau data digidol cenedlaethol a rhyngwladol amrywiol, gan ganolbwyntio ar eneteg, cofnodion gofal iechyd electronig, a data astudiaethau clinigol. Trwy harneisio technegau dysgu peirianyddol o'r radd flaenaf a thechnoleg dysgu ffederal, eu nod yw trawsnewid data gofal iechyd yn syniadau y gellir eu gweithredu, gan wella galluoedd gwneud penderfyniadau clinigol ac ymchwil. I grynhoi, mae gwaith y Ganolfan yn pontio o fecanweithiau moleciwlaidd sylfaenol i fodelau cyn-glinigol i glefydau dynol, gydag ymchwilwyr yn canolbwyntio ar ddarganfod mecanweithiau clefyd, nodi targedau therapiwtig newydd ac yn y pen draw creu cyffuriau newydd ar gyfer clefydau niwroddirywiol.

Mae ein hymchwilwyr yn ceisio deall y cyfraniad y mae'r system imiwnedd yn ei chwarae yng nghlefyd Alzheimer trwy astudiaethau genetig o ficroglia a'r system ategol, gan gynhyrchu modelau clefyd newydd yn seiliedig ar risg genetig, biomarcwyr newydd i wneud diagnosis o glefyd yn gynharach a dulliau newydd o drin trwy dargedu llid a’r system ategol.

Gyda chlefyd Parkinson, mae ein hymchwilwyr yn cyfuno gwyddorau data, geneteg a bioleg gyfrifiadol â phatholeg gellog, electroffisioleg ar gyfer asesu bioleg synaptig a chylched, carfannau o glefydau cynnar a modelu i nodi mecanweithiau clefyd.

Mae ein tîm yn defnyddio mecanweithiau atgyweirio DNA, geneteg a thechnegau addasu DNA i ddeall a thrin clefyd Huntington ac
anhwylderau ailadrodd DNA eraill.

Cysylltwch â ni

Sefydliad Ymchwil Dementia