Amdanom ni
Dementia yw un o’n heriau iechyd byd-eang mwyaf, ac mae’n tyfu’n gyflym.
Rhagdybir y bydd nifer y bobl yn y DU sy’n byw gyda dementia yn cynyddu i 1.6 miliwn erbyn 2040, ac mae disgwyl i nifer yr achosion byd-eang dreblu i 153 miliwn erbyn 2050. Mae cost economaidd a phersonol y ffigurau hyn yn syfrdanol.
Er bod llond llaw o gyffuriau sy'n arafu datblygiad y clefyd yn gymedrol wedi dod i'r amlwg dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, nid oes gennym un driniaeth o hyd a all atal y clefyd neu atal dementia rhag datblygu. Mae hyn, yn rhannol, gan fod ymchwil dementia wedi cael ei danariannu’n sylweddol yn fyd-eang, sydd wedi cael effaith negyddol ar gynnydd.
Sefydlwyd Sefydliad Ymchwil Dementia y DU (UK DRI) i newid hyn. Gan weithio ledled y DU, rydyn ni’n cynnal gwyddoniaeth ddarganfod o'r radd flaenaf i lenwi'r bwlch gwybodaeth ym maes dementia. Mae ein strwythur unigryw yn cyfuno arbenigedd chwe phrifysgol wych ledled y DU a’r sgiliau amrywiol yn eu timau ymchwil, yn ogystal â denu’r doniau gwyddonol gorau o dramor. Mae’r gymuned sy’n deillio o hyn yn ecosystem hynod amlddisgyblaethol o ymchwilwyr, sy’n cydweithio i ateb cwestiynau hanfodol am yr ymennydd.
Mae ymchwilwyr yn UK DRI ym Mhrifysgol Caerdydd yn harneisio technegau blaengar i archwilio'r amrywiadau genetig sy'n gysylltiedig â chlefydau niwroddirywiol gan gynnwys clefyd Alzheimer, clefyd Parkinson a chlefyd Huntington. Mae ein darganfyddiadau genetig newydd yn cyfarwyddo ac yn llywio ein hymchwil i brosesau a mecanweithiau clefydau; bydd y rhain yn eu tro yn helpu i gyflymu'r cynnydd tuag at welliannau o ran canfod clefydau a thriniaethau newydd.
Ein harianwyr
Sefydlwyd UK DRI yn 2017 gan y prif gyllidwr, y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC), ochr yn ochr ag Alzheimer’s Research UK a’r Gymdeithas Alzheimer, ac fe’i hail-ariannwyd yn ddiweddar am bum mlynedd arall.