Cydweithio a Phrosiectau
Rydym yn ceisio cydweithredu ar draws pob sector i ddatblygu ymchwil i ysbrydoli a herio ein cenhedlaeth nesaf o wyddonwyr data, gweithwyr proffesiynol seiberddiogelwch ac arbenigwyr AI.
Mae sawl ffordd y gallwch gymryd rhan
Prosiectau myfyrwyr
Gallwn ni roi mynediad i chi at garfan fawr o raddedigion arbenigol sy'n ymgeiswyr delfrydol ar gyfer swyddi ym maes gwyddor data, seiberddiogelwch a Deallusrwydd Artiffisial (AI). A chithau’n "gleient", gallwch chi gynnig prosiectau sy'n defnyddio problemau sy'n agos at eich busnes craidd. Bydd hynny’n eich galluogi chi i asesu myfyrwyr mewn sefyllfaoedd ymarferol er mwyn nodi’r rhai mwyaf addas i’ch anghenion a datblygu gweithlu gwell ar gyfer y dyfodol.
Gwyliwch y fideo canlynol i gael trosolwg o'r broses prosiect sy'n ymdrin â'r wybodaeth sylfaenol.
Rydyn ni’n cyd-weithio â phob diwydiant ar ymchwil a datblygu, yn hyfforddi darpar wyddonwyr data ac arbenigwyr ym maes seiberddiogelwch, ac yn eich cysylltu â’r graddedigion gorau i gydweithio ar brosiect yn y byd go iawn. Os gwneud prosiectau yw’r hyn sydd orau ar eich cyfer chi, a hoffech chi wybod rhagor, yna gwyliwch y fideo isod.
Gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr
A chithau’n fyfyrwyr, os hoffech chi astudio ar brosiect yr Academi Gwyddor Data (DSA) wrth ysgrifennu eich traethawd hir, mynnwch gip ar y fideo isod am gwybodaeth fanwl ynghylch y broses ddethol, cynnwys y prosiect, yr amserlen, prosiectau academaidd/diwydiannol, ac ati.
Bwrdd Cynghori
Mae Bwrdd Cynghori Allanol yr Academi Gwyddor Data (DSA) yn cynnig cyngor ac arweiniad ar ein cyfeiriad strategol, a hynny er mwyn llywio datblygiad a chyflwyniad y fenter. Rôl y bwrdd yw rhoi cyngor ar y canlynol: sut i ddatblygu brand yr Academi Gwyddor Data (DSA) a'i gefnogi; sut i ddatblygu ymgysylltiad allanol; yn ogystal â chynghori ar y cwricwlwm at ddibenion cefnogi cyflogadwyedd y graddedigion. Bydd aelodau o fwrdd cynghori allanol y DSA hefyd yn hyrwyddo ac yn hysbysebu Academi Gwyddor Data Prifysgol Caerdydd ymysg rhanddeiliaid allanol o bwys (gan gynnwys darpar gyllidwyr) ac yn cefnogi sefydlu cydberthnasau â sefydliadau blaenllaw eraill sy’n fuddiol i’r ddwy ochr.
Ymhlith y sefydliadau hynny sydd ag aelodau ar y Bwrdd ar hyn o bryd y mae:
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)
- Awdurdod Refeniw Cymru
- Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (WIS)
- Coats
- Tramshed Tech
- British Telecom (BT)
- Admiral
- Dŵr Cymru
- Tendertech
- Llywodraeth Cymru.
Cwestiwn cyffredin
- Mae angen cyflwyno prosiectau ar y lefel academaidd gywir ar gyfer y myfyrwyr a chaniatáu i fyfyrwyr gyflawni nodau academaidd y modiwl traethawd hir. Gall tîm academaidd yr Academi drafod hyn gyda chi. Gall y tîm academaidd hefyd gynghori ynghylch pa radd y gallai eich prosiect fod yn fwyaf addas ar ei chyfer.
- Bydd prosiectau tua 10-12 wythnos o hyd a byddan nhw’n rhedeg yn fras rhwng mis Mehefin a mis Medi.
- Gall prosiectau gynnwys mwy nag un myfyriwr, ond bydd y gwaith y mae pob myfyriwr yn ei wneud yn waith unigol yn hytrach nag yn waith tîm.
- O ran dadansoddi data, mae'n bwysig bod data ar gael ar ddechrau'r prosiect ac yn ddienw i sicrhau bod digon o amser i'r myfyriwr gloddio, glanhau a dadansoddi'r data cyn ysgrifennu'r adroddiad (traethawd hir).
- Mae gan y Brifysgol gontract safonol sy'n ymdrin ag Eiddo Deallusol (IP) a chyfrinachedd a gellir defnyddio hyn lle y gallai fod angen diogelu buddiannau masnachol. Y drefn fel arfer yw bod y partner diwydiant yn cadw'r IP. Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw ofynion IP cyn cyflwyno'r prosiect.
Amserlen ddangosol
- Chwefror - Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno syniadau traethawd hir. Gellir cysylltu â chi ar ôl y cyfnod hwn am eglurhad neu gwestiynau addasu.
- Ebrill / Mai - Cadarnhau syniadau traethawd hir sydd wedi’u dewis.
- Mehefin / Gorffennaf - Prosiectau traethodau hir yr haf yn cychwyn.
- Medi / Hydref - Prosiectau traethodau hir yr haf yn dod i ben.
Rydyn ni hefyd yn ymdrechu i chwilio am ffyrdd i droi'r prosiectau hyn yn gyfleoedd ariannu pellach.
Cyfleoedd Ymchwil a Datblygu
Mae gan ein staff a'n gwasanaethau proffesiynol arbenigedd mewn sawl maes o Wyddor Data, Deallusrwydd Artiffisial, Seiberddiogelwch, Modelu Mathemategol, Ffactorau Dynol a mwy. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda thîm rhyngddisgyblaethol mawr o fewn y brifysgol i ddarparu gwybodaeth arbenigol mewn ystod eang o bynciau. Rydyn ni’n eich annog yn benodol i gysylltu â ni gyda gofynion o ran systemau neu ddulliau newydd a dadansoddi data ar gyfer ymchwil a datblygu newydd.
Rydyn ni’n arbennig o awyddus i gefnogi ceisiadau am gyllid fel grantiau INNOVATE UK SMART, Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, Smart Cymru, cyllid EPSRC a mwy ar gyfer ceisiadau rhwng £10,000-£5,000,000. Siaradwch â ni i lunio tîm a gwneud cais am y cyllid hwn.
Darlithoedd a Gweithdai Gwadd
Rydyn ni’n croesawu sgyrsiau a gweithdai ar gyfer ein staff a'n myfyrwyr ar unrhyw bwnc cysylltiedig. Gall hyn gynnwys sgyrsiau gweithredol fel sut mae data'n helpu i redeg busnes yn well a sut caiff data ei ddefnyddio mewn unrhyw ddisgyblaeth.
Lleoliadau ac Interniaethau Israddedig/Graddedigion
Rydyn ni’n croesawu interniaethau a chyfleoedd lleoliad ar gyfer ein myfyrwyr yn ogystal â lleoliadau myfyrwyr. Mae'r rhain yn cael eu talu fel rheol, ond efallai y bydd gennym hefyd gyfleoedd am interniaethau heb gost (yn dibynnu ar argaeledd myfyrwyr). Cysylltwch â ni i drafod amserlenni a disgwyliadau.
Noddi
Rydyn ni’n chwilio am gefnogaeth i'n myfyrwyr a'n staff. Gall hyn amrywio o wobr un-tro am y prosiect myfyrwyr gorau, i noddi offer (beiros, llyfrau nodiadau, mygiau ac ati). Yna, fe fyddwn ni’n hyrwyddo ac yn hysbysebu'r noddwr. Cysylltwch â ni os hoffech fod yn noddwr i'r academi gwyddor data.
Mae gan yr Ysgol, sy'n blaenoriaethu ymchwil, enw da am addysgu ardderchog a gweithgareddau ymchwil medrus rhyngwladol.