Ewch i’r prif gynnwys

Academi Gwyddor Data

Mae'r Academi Gwyddor Data yn ganolbwynt ar gyfer gwyddoniaeth data-ddwys a sefydlwyd i addysgu'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr yn y maes.

Data Science Academy

Pobl

Dewch i gwrdd â'r tîm y tu ôl i'r Academi Gwyddor Data.

Infographic representing big data

Newyddion

Yr holl newyddion a datblygiadau diweddaraf gan yr Academi Gwyddor Data.

Pwy ydym ni

Rydym yn hyfforddi graddedigion medrus a chyflogadwy ym meysydd y mae galw mawr amdanynt ac sy'n tyfu'n gyflym, o wyddoniaeth data a deallusrwydd artiffisial i seiberddiogelwch. Rydym yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau ôl-raddedig mewn meysydd amlddisgyblaethol megis Cyfrifiadureg, Mathemateg, Busnes, Newyddiaduraeth a Chymdeithaseg. Mae'r Academi Gwyddor Data (DSA) yn cael ei rhedeg gan Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â'r Ysgol Mathemateg gyda bwrdd ymgynghorol i'r diwydiant fel rhan o'r pwyllgor llywio. P'un a ydych chi'n gwmni, yn weithiwr llawrydd, yn ddarpar fyfyriwr, yn academydd neu'n fyfyriwr cyfredol, os ydych chi'n chwilio am unrhyw beth sy'n gysylltiedig â gwyddor data, rydych chi yn y lle iawn.

Pam mae angen gwyddonwyr data?

Mae galw mawr am wyddonwyr data mewn nifer o sectorau a diwydiannau am eu bod yn gallu nodi ffyrdd gwell o gyflawni gorchwylion cymhleth megis helpu meddygon i adnabod clefydau yn fwy effeithiol neu alluogi pobl i gyfathrebu ledled y byd trwy gyfrwng meddalwedd sy'n adnabod lleferydd ac yn cyfieithu ieithoedd yn y fan a'r lle. Mae Academi Gwyddor Data wedi’i sefydlu yn sgîl y galw hwnnw a’r ffaith bod angen graddedigion medrus ac uchelgeisiol iawn ar sawl diwydiant.