Prosiectau sbarduno
Roedd y Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data ar agor rhwng 2015 a 2021. Mae'r dudalen hon yn dangos gwaith y sefydliad yn y gorffennol. Nid yw'n cael ei monitro na'i diweddaru.
Bu'n bleser gennym ariannu amrywiaeth eang o brosiectau sbarduno dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Yn ogystal â chryfhau cysylltiadau traws-golegol a chydweithio rhyngwladol, mae'r prosiectau hefyd wedi cynhyrchu dros £90,000 o incwm ymchwil, cyfrannu at achosion effaith, cyhoeddi erthyglau a threfnu gweithdai llwyddiannus.
Derbyniwyd ceisiadau gan 15 o ysgolion gwahanol, gyda llawer yn gofyn am fewnbwn ein peirianwyr meddalwedd ymchwil.
Roedd y ceisiadau llwyddiannus yn dangos tystiolaeth gref ar gyfer ceisiadau grant a gynllunnir at y dyfodol, cyhoeddiadau neu gryfhau cydweithio traws-golegol neu allanol o ganlyniad i'w gwaith sbarduno arfaethedig.
Talodd dyfarniadau'n amrywio o £2,000 i £20,000 am amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys gweithdai, astudiaethau dichonoldeb, ymweliadau rhyngwladol, cyfarpar ac amser peirianwyr meddalwedd ymchwil.
Prosiectau sydd wedi eu hariannu
Cyllidwyd prosiectau amrywiol gan gynnwys gwella cod AI, cyfathrebu digidol yng nghoedwig glaw Brasil, gweithio gyda'n cydweithwyr yn Saesneg i gyfoethogi prosiect Lost Visions ac adeiladu ystorfa ddata ar gyfer y sganiwr MRI diweddaraf yn CUBRIC.
Astudiaethau achos
Ysgolion Academaidd: Ysgol Meddygaeth a'r Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau
Ymchwilwyr: Dr You Zhou, yr Athro Valerie O’Donnell, yr Athro Andrew Godkin
Aeth You Zhou a'r tîm ati i:
- ddatblygu modiwl NAFLD cyffredin ac
- integreiddio setiau data a modelu sut roedd y clefyd yn datblygu.
Cyflawnwyd y ddau amcan yn llwyddiannus a thrwy eu gwaith sbarduno, cryfhawyd cydweithio buddiol gyda'r Athro Christopher Byrne (Prifysgol Southampton) a'r Athro Professor Hannele Yki-Järvinen (Prifysgol Helsinki, y Ffindir).
Bu'r tîm yn siarad mewn Gweithdai, seminarau a chynadleddau yng Nghaerdydd, Southampton a Helsinki. Yn y cyntaf o'r rhain, bu myfyriwr meddygaeth o Brifysgol Caerdydd, Nicholas Hodson, yn annerch cynulleidfa o 250 - y siaradwr ieuengaf a'r unig fyfyriwr.
Dywedodd You Zhou, "Gyda chefnogaeth y dyfarniad sbarduno, rydym ni wedi datblygu llinell modelu cyfrifiadurol (datblygwyd gyda chefnogaeth y Sefydliad). Mae ein gwaith wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar mewn cyfnodolyn grŵp cyhoeddi natur gyda ffactor effaith o 5.638. Fi yw'r cydawdur cyntaf ac mae'r gronfa sbarduno wedi'i chydnabod yn uchel yn y papur."
"Ymhellach, ar y cyd â Phrifysgol Southampton, rydym ni wedi cyflwyno cais i gronfa Rhaglen Gwerthuso Effeithlonrwydd a Mecanwaith yr NIHR ac MRC (cyfanswm o £675,864, 11.8% i Gaerdydd). Mae'r cais yn dal yn i fynd drwy'r broses ddethol, ar ôl llwyddo yn y cylch cyntaf."
Am ragor o fanylion cysylltwch â Dr You Zhou.
Ysgolion Academaidd: Yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a'r Ysgol Seicoleg
Ymchwilwyr: Dr Leandro Beltrachini (PI), Dr Andreas Papageorgiou, Dr Cyril Charron, yr Athro Kevin Murphy, Dr Joseph Whittaker, yr Athro Matt Griffin
Aeth Leandro a'r tîm ati i:
- asesu'r adnoddau diweddaraf yn yr ystorfeydd data niwroddelweddu
- cynllunio strwythur Canolfan Data Niwroddelweddu o'r dechrau i'r diwedd
- cynnal astudiaeth beilot gyda data sy'n bodoli
- amlinellu cynnig grant mawr.
Cyflawnwyd yr holl amcanion. Disgrifir canlyniadau'r astudiaeth yn fanwl mewn adroddiad sydd wedi'i ddefnyddio i hyrwyddo'r syniad o Ganolfan ac Archif Data ar draws Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd (CUBRIC), drwy ddarparu diffiniad cynhwysfawr o strwythur a gweithrediad sefydliad o'r fath.
Elfen allweddol o'r gwaith oedd dod â thîm amlddisgyblaethol at ei gilydd o ddwy Ysgol. Dros gyfnod y prosiect, cryfhaodd y cydweithio hwn a disgwylir y bydd y gweithgor dilynol a'i nodau'n parhau i weithredu, gan ehangu cwmpas y gwaith presennol hwn a chwilio am gyllid pellach. Ymhellach, mae'r grŵp wedi datblygu cysylltiadau agos a chyd-fuddiannau gyda'r Gweithgor Gwyddoniaeth Agored yn CUBRIC, ac maen nhw wedi cytuno i drafod y prosiect hwn ymhellach, yn ogystal â cheisiadau yn y dyfodol.
Nod ychwanegol i'r gwaith hwn oedd datblygu'r cysyniad a dangos buddion Prosesu ac Archifo Data cyffredin ar draws y sefydliad o fewn CUBRIC. Mae'r astudiaeth hon wedi sicrhau'r profiad a'r deunydd angenrheidiol ar gyfer dechrau mynd i'r afael â'r her. O ganlyniad, ceir cynlluniau i gyflwyno'r gwaith mewn sgyrsiau a chyflwyniadau ar draws CUBRIC, â'r nod o gynnwys yr holl grwpiau offerynnau gwahanol yn CUBRIC.
Dywedodd Leandro, "Yn y prosiect sbarduno hwn, aethom ati i drosi arferion rheoli data a ddatblygwyd yn ein grantiau STFC ac UKSA blaenorol ym maes seryddiaeth (chwe grant mawr ar gyfer rheoli data rhwng mis Mehefin 2007 a mis Mehefin 2016, gyda chyfanswm o dros £1.5m) a'u defnyddio gyda'r data delweddu meddygol sydd ar gael yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), gan alluogi ymchwilwyr ledled y byd i harneisio eu gwir botensial. Defnyddiwyd y deunydd a gynhyrchwyd yn y prosiect hwn yn llwyddiannus i gael cyllid pellach i barhau â'r fenter heriol hon (o STRC, cyfanswm o £185,000)”.
Ysgolion Academaidd: Yr Ysgol Mathemateg a’r Ysgol Meddygaeth
Ymchwilwyr: Yr Athro Anatoly Zhigljavsky (PI), yr Athro Valentina Escott-Price
Prif nod y prosiect oedd trefnu gweithdy tri diwrnod 'High-dimensional optimisation and big data' yn hydref 2018.
Roedd diwrnod cyntaf y gweithdy (a gynhaliwyd yn Llundain ym mis Hydref) yn ymwneud â dysgu peiriannol ac optimeiddio mewn hysbysebu ar y rhyngrwyd. Roedd yr ail a'r trydydd diwrnod (a gynhaliwyd ar 6 a 7 Tachwedd yng Nghaerdydd) yn ymdrin ag agweddau damcaniaethol ac algorithmig ystadegau a dysgu peiriannol mewn problemau data mawr gan gynnwys geneteg.
Gwahoddwyd nifer o arbenigwyr byd-eang i Gaerdydd i gyflwyno'r prif ddarlithoedd a chymryd rhan mewn problemau byd real. Y disgwyl oedd y byddai o leiaf ddau o'r papurau’n cael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion ystadegol blaenllaw o ganlyniad i'r cydweithio a sefydlwyd yn y broses o baratoi a rhedeg y gweithdy.
Amcanion a gyflawnwyd
Cyflawnwyd prif amcanion y prosiect. Ymhlith y prif ddarlithwyr yn y gweithdy, roedd nifer yn ffigurau o statws rhyngwladol ac enw da rhagorol. Mae'r papurau a ddeilliodd o gydweithio newydd yn dal i gael eu paratoi.
O ganlyniad i'r gwaith a alluogwyd drwy'r gronfa ysgogi, mae cydweithio rhwng yr Ysgol Mathemateg a'r Ysgol Meddygaeth wedi cryfhau. Mae cydweithio newydd rhwng Mathemateg a Phrifysgol Milan (y grŵp dan arweiniad yr Athro Francesco Archetti) hefyd wedi'i sefydlu.
Ym mis Chwefror 2019 ymwelodd yr Athro Zhigljavsky â Milan i weithio gyda grŵp Archetti ar amrywiaeth o brosiectau'n ymwneud ag amrywiol gymwysiadau optimeiddio byd-eang mewn peirianneg. Mae'n bosibl y gellir disgwyl o leiaf un papur ar y cyd yn fuan o'r cydweithio hwn. Mae trafodaeth am gyflwyniad ar y cyd i sefydliad Marie Curie yn mynd rhagddi.
Sefydlwyd cydweithio defnyddiol arall gyda'r Athro Arthur Gretton o UCL. Mae cydweithio gyda grŵp Rhydychen ar optimeiddio dan arweiniad yr Athro Coralia Cartis hefyd wedi cryfhau yn sgil y gweithdy.
Effaith y gronfa sbarduno yw:
- digwyddiad data mawr safon uchel yng Nghaerdydd (gyda thros 100 o staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd o wahanol adrannau'n bresennol)
- sefydlu cydweithio newydd ym meysydd dysgu peiriannol a data mawr a chryfhau cydweithio sydd eisoes yn bodoli.
Prosiectau sydd wedi'u hariannu - rhestr estynedig
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau yn y tabl isod, cysylltwch â'r Prif Ymchwilydd (PI).
Ysgol(ion) Academaidd | Prosiect | Prif Ymchwilydd |
---|---|---|
Daearyddiaeth a Chynllunio | Gwella modelu data cerddwyr ar gyfer stryd fawr fwy bywiog | Dr Scott Orford |
Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, a'r Gyfraith a Gwleidyddiaeth | Rhwydwaith dataeiddio a chymdeithas | Dr Lina Dencik |
Ffiseg a Seryddiaeth, Biowyddorau a Sefydliad Bôn-gelloedd Canser Ewrop | Oncoleg seryddol - defnyddio technegau dadansoddi delweddau seryddol i adnabod celloedd canser | Dr Chris Clark |
Mathemateg, a Ffiseg a Seryddiaeth | Meysydd isotropig ar hap mewn ffiseg seryddol | Yr Athro Nikolai Leonenko |
Peirianneg, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Maastricht a Chlinig MAASTRO (yr Athro Andre Dekker, Cyfadran Iechyd, Meddygaeth a Gwyddorau Bywyd). | Platfform gwybodeg ar gyfer ymchwil delweddu canser uwch | Dr Emeliano Spezi |
Ffiseg a Seryddiaeth, a Biowyddorau | Cywasgu data heb oruchwyliaeth a dehongli delweddu oes fflwroleuedd | Yr Athro Wolfgang Langbein |
Meddygaeth a Phrifysgol Abertawe | Dynodydd teulu data gweinyddol â chyswllt â Chymru | Robert French |
Mathemateg ac Ysgol Busnes Caerdydd | Optimeiddio Systemau Gwybodaeth Iechyd ar sail data | Dr Daniel Gartner |
Cyfrifiadureg a Gwybodeg, a'r Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data | Optimeiddio cod FlexiTerm | Yr Athro Irena Spasic |
Ysgol Busnes Caerdydd, Cyfrifiadureg a Gwybodeg, a'r Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data | Gwyddoniaeth y dinesydd ar sail data: Adeiladu capasiti ac arloesedd addysg yng nghymuned Coedwig Guapiruvu, Sete Barrass, Brasil | Yr Athro Tim Edwards |
Meddygaeth, Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg (NIST) UDA, Optometreg a Gwyddorau’r Golwg - Labordai Delweddu Biolegol Gwyddorau'r Golwg | Microsgobeg - tarddiad data mawr - adeiladu capasiti ym Mhrifysgol Caerdydd gyda gwaith allgymorth rhyngwladol | Yr Athro Rachel J Errington |
Meddygaeth | Technolegau gwisgadwy i'r defnyddiwr ar gyfer hyrwyddo iechyd a rheoli clefyd: pontydd a chau bylchau | Dr Tapio Paljarvi |
Mathemateg a Phrifysgol Carnegie Melon | Optimeiddio Systemau Gwybodaeth Iechyd ar sail data | Dr Daniel Gartner |