Computational social science
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Roedd y Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data ar agor rhwng 2015 a 2021. Mae'r dudalen hon yn dangos gwaith y sefydliad yn y gorffennol. Nid yw'n cael ei monitro na'i diweddaru.
Wrth i fodau dynol gynyddu eu defnydd o dechnoleg ar gyfer busnes a mwyniant, mae maint yr ôl troed digidol y maent yn ei adael yn cynyddu hefyd. Mae’r data hwn yn ffynhonnell gyfoethog i’w hastudio, gan ei bod yn cynnig safbwynt unigryw ar ymddygiad cymdeithasol a dynol.
Gwyddorau cymdeithasol cyfrifiadurol yw’r enw bras ar y maes, ac mae’n cynnwys agweddau ar anthropoleg, ethnograffeg, busnes, newyddiaduraeth a dyniaethau eraill.
Y Celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol
Rhagwelir y bydd elfen a sbardunir gan ddata i lawer o ddarganfyddiadau yn y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae ein sefydliad yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd, Ysgol y Gyfraith a WISERD er mwyn manteisio ar gyfleoedd am arloesedd a sbardunir gan ddata yn y gwyddorau cymdeithasol cyfrifiadurol. Drwy ryngweithio ag ymchwilwyr allweddol, rydym yn cydweithio’n agos, gan ganolbwyntio ar eu problemau distrwythur a sbardunir gan ddata.
Cyllid sbarduno’r Sefydliad Ymchwil
Mae cyllid sbarduno ein Sefydliad Ymchwil a Pheirianwyr Meddalwedd Ymchwil wedi cyfrannu at nifer o brosiectau dros y tair blynedd diwethaf, gan gynnwys:
- Labordy Gwyddorau Data Cymdeithasol
- Prosiectau EU SOCIALNETS a RECOGNITION
- Prosiect “Lluniau Coll”
Mae’r prosiectau hyn yn amlygu pwysigrwydd bod gwyddonwyr cymdeithasol yn cydweithio’n agos â gwyddonwyr cyfrifiadurol a Pheirianwyr Meddalwedd Ymchwil er mwyn gwneud yn siŵr bod deilliannau’r gwaith yn berthnasol i’r ddwy gymuned.
Mae gwaith yr ymgymerir ag e yn y maes hwn hefyd yn amlygu’r angen am ddefnyddio astudiaethau empirig o ddadansoddiadau all-lein ar gyfer ymddygiadau ar-lein er mwyn cynnal dadansoddiadau cymharol. Bydd ymchwil yn y maes hwn yn arwain at ddatblygu algorithm newydd i’w ddefnyddio ar gyfer dadansoddi data ar-lein sy’n ymddangos.