Ymchwil
Roedd y Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data ar agor rhwng 2015 a 2021. Mae'r dudalen hon yn dangos gwaith y sefydliad yn y gorffennol. Nid yw'n cael ei monitro na'i diweddaru.
Trwy ein hymchwil, rydym yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu sectorau allweddol wrth iddynt weithio gyda setiau data enfawr a data chynyddol gymhleth.
Wrth i ddiwydiannau gynhyrchu meintiau anferthol o ddata, mae mwy o angen am ymagweddau newydd er mwyn rheoli, storio, cywasgu, dadansoddi a dosbarthu’r wybodaeth hon.
Trwy natur draws-ddisgyblaethol ein hymchwil, mae'r Sefydliad yn cymryd rhan mewn prosiectau sy'n amrywio o heriau cyfrifiadurol i weithredu cymwysiadau byd go iawn gan ddefnyddio Cyfrifiadura Perfformiad Uchel (HPC), Deallusrwydd Artiffisial (AI) a modelu mathemategol uwch.
Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar sut mae data mawr yn effeithio ac yn cyflwyno heriau mewn tri maes allweddol ac yn cael ei hybu ymhellach gan Grwpiau Diddordeb Arbennig y sefydliad.