Amdanom ni
Roedd y Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data ar agor rhwng 2015 a 2021. Mae'r dudalen hon yn dangos gwaith y sefydliad yn y gorffennol. Nid yw'n cael ei monitro na'i diweddaru.
Ffurfiwyd y Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data er mwyn cynnal ymchwil sylfaenol i agweddau ar reoli, dadansoddi a dehongli meintiau enfawr o wybodaeth destunol a rhifiadol.
Mae i ddata mawr oblygiadau enfawr ar gyfer yr economi ac, yn ddiweddar, neilltuodd Llywodraeth y DU £73m ar gyfer ymchwil i ddata mawr. Amcangyfrifir y bydd y farchnad data mawr yn dod â buddion i economi'r DU gwerth £216 biliwn ac yn creu 58,000 o swyddi newydd cyn 2017. Yn rhanbarthol, mae llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n sylweddol mewn Cyfrifiadura Perfformiad Uchel (HPC) yng Nghymru, gan ddarparu mynediad at wasanaeth uwch-gyfrifiadura o'r radd flaenaf i fusnesau ac ymchwilwyr, Uwchgyfrifiadura Cymru.
Mae'r holl ddatblygiadau hyn yn darparu cyfleoedd cyffrous i ni wthio ein rhagoriaeth ymchwil ymlaen i mewn i ddata mawr sy'n effeithio ar y sector meddygol, y biowyddorau, y gwyddorau cymdeithasol, y gwyddau ffisegol a pheirianneg. Ac wrth i'r effaith mae data mawr yn ei chael ar fusnesau a sefydliadau ehangu, felly hefyd bydd ein hagenda ymchwil yn ehangu er mwyn cwmpasu'r sectorau a'r cyfleoedd newydd hyn.
Defnyddiwn arbenigedd staff o'r tri Choleg o fewn y Brifysgol. Bydd canfyddiadau eu hymchwil, ynghyd â chryfhau ac ehangu ein partneriaethau proffesiynol, yn ein galluogi i ddatblygu cymwysiadau ar gyfer y byd go iawn. Pan gânt eu cymhwyso, rhagwelwn y bydd y rhain yn arwain at gynnydd mewn cynhyrchiant busnes, gan helpu i drawsnewid sefydliadau'r sector cyhoeddus a phreifat.