Defnyddio gwyddoniaeth data
Mae'r Cyflymydd Arloesedd Data yn cefnogi cwmnïau i gymhwyso offer a thechnegau gwyddor data i'w data, a all fod yn arf hanfodol ar gyfer gwydnwch a thwf busnesau.
Mae hyn yn galluogi cwmnïau i gael mewnwelediad deallus i dueddiadau ac ymddygiadau sy'n dod i'r amlwg, darparu strategaethau gwerthu a marchnata wedi'u targedu'n dda, symleiddio prosesau busnes a bod yn ymatebol iawn i deimladau cwsmeriaid a newid amodau'r farchnad yn gyflym.
Drwy'r broses hon rydym wedi datblygu detholiad o achosion defnydd posibl:
Allweddeiriau gwyddor data
Mae pwnc gwyddor data yn berwi â therminoleg, cydgyfeiriad termau o wyddoniaeth gyfrifiadurol, ystadegau, mathemateg a pheirianneg meddalwedd. Yn ogystal, mae iaith gwyddor data yn esblygu'n gyflym iawn. Mae'r rhestr fer hon yn cynnwys rhai o'r allweddeiriau mwy cyffredin.
- Peirianneg data
- Cyfatebiaeth
- Rhagfynegi / rhagolygon cyfres amser
- Dadansoddi rhwydweithiau cymdeithasol
- Casgliad Bayesaidd
- Dadansoddi ymddygiad dynol
- Dysgu dan oruchwyliaeth a heb oruchwyliaeth
- Dysgu peiriant
- Optimeiddio
- Deallusrwydd artiffisial
- Modelu
- Cloddio / dadansoddi data
- Delweddu data
- Efelychu
Defnydd posib
Mae'r rhain yn achosion posibl o ddefnyddio gwyddoniaeth data ar gyfer trawsnewid busnes a gwydnwch:
Dadansoddi'r farchnad
- Integreiddio dadansoddiad o'r farchnad â setiau data agored cyhoeddus a thrydydd parti (ee data meteorolegol, yr amgylchedd, iechyd y cyhoedd, cyfrifiad ac ystadegau cenedlaethol) mewn perthynas â gweithgareddau cwmni, i gynorthwyo gwneud penderfyniadau, datblygu cynnyrch ac optimeiddio lleoliadau storfeydd ffisegol.
- Cloddio data rhwydweithiau cymdeithasol ar gyfer dadansoddi ymddygiad defnyddwyr amser real a’r galw am gynnyrch
- Optimeiddio llwybro ar gyfer gwasanaethau ar alw (trafnidiaeth gyhoeddus neu leoli beiciau hurio)
- Dadansoddeg ragfynegol cyfres amser ar gyfer rhagweld gwerthiannau a chynhyrchu cyfleoedd (ee, sut mae'r tywydd yn effeithio ar nifer y bobl sy’n mynd i’r siopau)
- Dadansoddi data delweddau lloeren a gofodol i bennu tueddiadau gwerthu lleol iawn, cyfleoedd gwerthu, mannau prysur a mannau ar y cyrion
Optimeiddio gwerthiant
- Dylanwadu ar beiriannau argymell ar gyfer uwch-werthu a chroes-werthu cynnyrch
- Optimeiddio prisiau deinamig (cymharu â chystadleuwyr, prisio yn y fan a’r lle, addasiadau tymhorol)
- Personoli cwsmeriaid "dwfn" (ee, cynigion sy'n ymwybodol o'r cyd-destun yn seiliedig ar hanes chwilio a manwerthu blaenorol a thueddiadau grŵp, gwobrau teyrngarwch a chyfleoedd ail-dargedu)
- Adnabod delwedd trwy ddysgu dwfn fel bod modd sicrhau gwell gallu i ddarganfod (e.e., chwilio gweledol a sain, tagio delweddau yn awtomatig)
- Fframweithiau profi A / B a monitro micro-ymddygiad gwefan i wella profiad y cwsmer ac Optimeiddio Cyfradd Trosi (CRO)
- Dadansoddi lleoliad ac amlygrwydd cynnyrch gan gynnwys effeithiau eurgylch cynnyrch
- Dadansoddi graff cymdeithasol i bennu grwpiau tebyg, eiriolwyr a dylanwadwyr brand
- Cymwysiadau realiti estynedig (AR) i droshaenu gwybodaeth mewn siopau ffisegol
Hysbysebu a marchnata
- Datblygu cyfathrebiadau marchnata hynod bersonol
- Defnyddio Prosesu Iaith Naturiol (NLP) ar gyfer hysbysebu sy'n ymwybodol o'r cyd-destun (e.e., y lleoliadau hysbysebu gorau posibl yn seiliedig ar y cynnwys o’u hamgylch)
- Datblygu strategaeth hysbysebu gydlynol a gwerthuso perfformiad ar draws platfformau gwahanol (pob sianel)
- Creu dangosfyrddau pwrpasol a delweddu data cwsmeriaid amser real
- Adnabod delweddau ar gyfer masnach fideo (e.e., adnabod a thagio cynnyrch mewn cynnwys a gynhyrchir gan gwsmeriaid / cwmnïau)
- Cynhyrchu cynnwys marchnata awtomataidd
- Dadansoddeg cyfryngau cymdeithasol i nodi’r gynulleidfa darged ac i bennu neges ac amseru negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol
Gwasanaethau a chefnogaeth
- Dadansoddeg boddhad cwsmeriaid (e.e., dadansoddi sgwrs, teimlad cwsmeriaid ac adnabod emosiwn trwy NLP)
- Ymatebion awtomataidd i adborth cwsmeriaid a thueddiadau cyfryngau cymdeithasol
- Datblygu "botiau sgwrsio" deallusrwydd artiffisial (AI) ar gyfer ymateb llinell gyntaf a chefnogaeth hunanwasanaeth, a botiau sgwrsio “gwrando i mewn” ar gyfer ymateb â chymorth ac awgrymiadau gweithredu nesaf
- Llwybro galwadau cymorth deallus (blaenoriaethu awtomataidd, asiant mwyaf galluog, paru personoliaeth)
- Cymorth i gwsmeriaid gyda realiti estynedig mewn siopau ffisegol (e.e., cymorth ymwybodol o leoliad, troshaenau mapio/cynnig)
Gwella Cynnyrch
- Dulliau uwch o ryngweithio a monitro gyda chynhyrchion digidol (ystumiau ac ymddygiad symud anghyson)
- Optimeiddio peiriannau paru ac argymell (e.e., dyddio ar-lein)
- Cloddio data i bennu tueddiadau fydd yn bwydo i ddatblygiad cynnyrch
- Dadansoddi teimladau cwsmeriaid ar ôl addasu a diweddaru cynnyrch
Logisteg a gweithrediadau busnes
- Galluogi technegau peirianneg data ar gyfer optimeiddio rhestr eiddo a chadwyn gyflenwi (e.e., rheoli gwybodaeth am gynnyrch, piblinellau mewn pryd)
- Defnyddio technoleg Rhyngrwyd Pethau (IoT) i ragfynegi methiant cydran (cynnal a chadw rhagfynegol ac adferiad awtomatig)
- Roboteg a “chobotiaid” ar gyfer awtomeiddio prosesau
- Effeithiolrwydd systemau talu heb ariannwr (e.e. desg dalu hunan-wasanaeth, tagio eitemau RFID)
Prosesau busnes
- Creu cynorthwywyr digidol ar gyfer dosrannu awtomatig a deall cyfeintiau mawr o ddogfennau (e.e., sicrhau cydymffurfiad rheoliadol)
- Optimeiddio penodi (e.e., penderfynu ar yr ymgeisydd gorau ar sail ddadansoddiad testun o wybodaeth am yr ymgeisydd)
- Monitro cyfraddau cadw gweithwyr a’u cynhyrchiant, gan gynnwys priodoli craff a gwneud iawn yn seiliedig ar berfformiad gweithwyr
- Cynorthwyo gyda chyfathrebu mewnol a phrosesau mewnol (amserlennu cyfarfodydd, blaenoriaethu e-bost, adrodd ar gostau a’u cymeradwyo, bilio)
- Rheoli adeiladau ac ystadau (e.e. monitro ynni clyfar mewn swyddfeydd)
- Dadansoddeg Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus (casglu data marchnata a dangosyddion perfformiad allweddol)
Rheoli data a warysau
- Cysoni a phrosesu a darlunio ffynonellau data gwahanol ar raddfa fawr yn effeithlon (rhag-brosesu, glanhau, ETL, dilysu)
- Creu piblinellau prosesu data i sbarduno gweithredoedd yng nghyswllt digwyddiadau cwsmeriaid
- Trosoli cyfrifiadura cwmwl i raddfa'n gyflym yn ôl y galw
- Labelu data i alluogi cymwysiadau dysgu peiriannol dan oruchwyliaeth
Diogelwch a thwyll
- Synwyryddion symud i ganfod gweithgareddau anghyson (ee, monitro torf)
- Canfod twyll mewn amser real
- Dilysu delwedd a llais
- Meddalwedd maleisus yn rhannu gwybodaeth ar draws seilwaith y cwmni
Rheoli risg
- Dadansoddeg ragfynegol ar gyfer teilyngdod credyd cwsmer (e.e., cyfrifo pa mor debygol yw hi na fydd cwsmer yn talu isafswm taliad ei gerdyn credyd i fusnes)
- Symleiddio prosesau casglu dyledion a thrafod anghydfodau
Bydd ein gwyddonwyr data yn cydweithio â chi i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu eich busnes.