Ymarferoldeb prosiectau cydweithredol
I lawer o gwmnïoedd, gallai gweithio gyda Chyflymydd Arloesedd Data fod eu profiad cyntaf o gydweithio ar brosiect ymchwil gyda phrifysgol. Mae ffocws penodol iawn i waith Cyflymydd Arloesedd Data: gwyddor data ar gyfer arloesi mewn cwmnïoedd bychain.
Diben prosiect
Mae’r Cyflymydd Arloesedd Data wedi ei ariannu yn rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo cwmnïoedd i archwilio gwyddor data fel rhan o’u hanturiaeth arloesedd.
Mewn prosiect, bydd y tîm Cyflymydd Arloesedd Data yn gweithio gyda chi i fynd i’r afael â thechnoleg a chwestiynau ymchwil yn ymwneud â gwyddor data er mwyn eich galluogi i ddatblygu gwasanaeth/cynnyrch/proses (newydd), a allai fod yn rhywbeth at eich defnydd chi, neu i’w werthu i gleientiaid.
Mae cwmpas a maint prosiect yn dibynnu ar ei nodau a’i amcanion. Gallai prosiect arferol bara rhwng 6-9 mis gyda mewnbwn gan aelodau staff rhan-amser ar y ddwy ochr.
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn ymwneud â phrosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol, ac nid ag archwiliadau iechyd arloesi data.
Eich cyfraniad
Byddwn yn cynnal prosiectau gyda chwmnïau, yn aml yn ddwyochrog, ond gan gyflwyno partneriaid ychwanegol yn achlysurol i gael gwybodaeth ac arbenigedd perthnasol.
Bydd gan y prosiectau hyn nodau ac amcanion sydd wedi'u diffinio - er enghraifft, cynnal dadansoddeg ar set benodol o ddata i ddatblygu cynnyrch newydd y gall y cwmni werthu i'w gwsmeriaid.
Er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â chyfraith Ewrop a'r DU parthed defnyddio cyllid cyhoeddus i gefnogi'r sector preifat (cymorth gwladol), bydd gofyn i gwmnïau gyfrannu at brosiectau cydweithredol. Bydd y cyfraniad hwn ar ffurf amser staff a/neu ddatgan eu bod wedi prynu meddalwedd neu wasanaethau cwmwl sy'n angenrheidiol er mwyn cymryd rhan yn y prosiect. Er mwyn i ni ddangos bod y prosiect yn waith ar y cyd yn ôl diffiniad y Comisiwn Ewropeaidd, bydd rhaid i'ch cyfraniad fod o leiaf yr un faint â chyfaniad y Brifysgol o ran gwerth cyfatebol i arian parod.
Bydd maint a ffurf y prosiect yn dibynnu ar y cynnwys, wrth reswm, ond bydd prosiect nodweddiadol yn para tua 6-9 mis, gyda mewnbwn o £25-35K gan y Brifysgol. Rydym ni bob tro'n gwneud yn siŵr bod y gwaith ar y cyd yn bodloni eich anghenion, felly byddwn yn cynnig hyblygrwydd lle bo’n bosibl. Byddwn yn eich tywys drwy'r broses gyfan, gan ei gwneud mor syml a chlir â phosibl.
Eiddo deallusol
Er mwyn sicrhau bod yr ymchwil yn llifo’n dda a bod digon o gymorth gwladol ar gael, agwedd safonol y Cyflymydd Arloesedd Data at brosiectau yw mai ‘menter ar y cyd’ ydynt, gyda nodau’n cael eu diffinio gan y ddwy ochr. Bydd y ddwy ochr yn cyfrannu adnoddau ac yn rhannu’r risgiau a’r deilliannau.
Prosiectau cydweithredol: Canlyniadau’r prosiect
Pwy fydd yn meddu ar unrhyw ganlyniadau gan y prosiect?
Er mwyn dangos cydymffurfiaeth â rheolau gwladol ynghylch cymorth, bydd y rhai sy’n creu’r prosiect yn berchen ar unrhyw ganlyniadau sy’n deillio ohono. Os yw’r naill ochr a'r llall yn gweithio ar y cyd ac yn cynhyrchu canlyniadau nad oes modd eu gwahanu, byddant yn meddu arnynt mewn cyfrannedd â chyfraniadau perthnasol y naill ochr a'r llall.
Beth am wybodaeth a ddefnyddiwyd yn y prosiect a oedd yn bodoli eisoes?
Bydd gwybodaeth oedd yn bodoli eisoes a ddefnyddir mewn cysylltiad â’r prosiect yn parhau i fod yn eiddo i’r rhai a’i cyflwynodd. Fodd bynnag, bydd y ddwy ochr yn rhoi iawnderau rhydd i’w gilydd er mwyn gallu defnyddio eu gwybodaeth oedd yn bodoli eisoes at ddibenion y prosiect.
Pa fynediad fydd cwmni partner yn ei gael at ganlyniadau’r Brifysgol?
Bydd y Brifysgol yn caniatáu i chi ddefnyddio ei chanlyniadau heb gyfyngiadau, yn rhad ac am ddim, yn y maes perthnasol am gyfnod o 3 blynedd.
Pa fynediad fydd gan y Brifysgol at ganlyniadau’r cwmni partner?
Disgwylir i’r cwmni ganiatáu i’r Brifysgol ddefnyddio ei ganlyniadau heb gyfyngiadau, yn rhad ac am ddim, at ddibenion anfasnachol y Brifysgol ei hun, megis addysg ac ymchwil wyddonol.