Ein gwaith
Rydym yn cynnig amser a chefnogaeth ein tîm gwyddor data er mwyn rhoi ‘gwiriad iechyd arloesi data’ i chi neu weithio gyda chi ar brosiect cydweithredol i fynd i’r afael â’r heriau go iawn sy’n wynebu eich busnes.
Bydd y Cyflymydd Arloesedd Data yn eich cefnogi chi trwy gydol eich cyfnod gyda ni. Mae gennym aelodau tîm sydd â’r arbenigedd technegol a’r wybodaeth weinyddol i sicrhau bod gweithio gyda ni yn iawn i chi.
Gwiriadau iechyd
Bydd ein tîm gwyddor data yn ymgymryd â gwiriad iechyd arloesedd data Cyflymydd Arloesedd Data sy’n unigryw i’ch busnes chi. Rydym yn cyflawni hyn ar ffurf cymorth y wladwriaeth 'de minimis', ac felly bydd angen i chi ddangos i ni bod eich cwmni'n gymwys i dderbyn cymorth de minimis cyn i'r broses gwiriad iechyd ddechrau. Un o ddibenion allweddol yr archwiliad iechyd yw canfod a yw prosiect cydweithredol yn ddichonadwy.
Byddwch yn derbyn adroddiad a fydd yn:
- cyflwyno gwyddor data a’i chymwysiadau i’r byd busnes;
- rhoi nifer o enghreifftiau gweithiol o sut y gellir cymhwyso gwyddor data, wedi’i theilwra i’ch anghenion a’ch diddordebau;
- gwneud argymhellion i ddylanwadu ar eich data presennol i greu cyfleoedd ac i gyflwyno cynhyrchion neu wasanaethau newydd i’r farchnad ar eich llwybr i arloesedd data.
Prosiectau cydweithredol
Ar ôl y gwiriad iechyd, byddwn yn eich gwahodd i gynnig syniad ar gyfer prosiect ymchwil, datblygu ac arloesi cydweithredol.
Gallai ein bwrdd rheoli wedyn eich gwahodd i gynllunio prosiect gyda ni. Bydd gofyn i’r bwrdd gymeradwyo’r cynllun cyn i ni ddrafftio cytundeb cydweithio i’r Brifysgol a’r cwmni ei lofnodi.
Bydd aelodau o’n tîm gwyddor data yn gweithio ar y prosiect, a bydd eu hymrwymiad amser yn dibynnu ar anghenion y prosiect. Er enghraifft, efallai bydd un gwyddonydd data yn gweithio ar y prosiect am 10 awr yr wythnos am naw mis, gan dreulio diwrnod yr wythnos gyda chi ar eich safle.
Mae angen i gwmnïau gyfrannu hefyd, gan ddyrannu peth amser staff i’r prosiect a datgan gwariant arall sy’n ymwneud â’r prosiect, fel prynu pecyn meddalwedd newydd.
Pan ddaw’r prosiect i ben, byddwn yn eich helpu i nodi’r manteision gwirioneddol sydd eisoes wedi’u gwireddu o ganlyniad i’n cydweithio, neu sy’n debygol o gael eu gwireddu yn y dyfodol.
Byddwn yn rhoi gwybod am y rhain i’n cyllidwyr yn Llywodraeth Cymru fel y gallant, yn eu tro, adrodd wrth y Comisiwn Ewropeaidd sut mae arian Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop wedi’i ddefnyddio i greu effaith go iawn yng Nghymru.
Ein cwmnïau targed
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r i ni’r dasg o gefnogi cwmnïau, busnesau bach a chanolig sydd â sylfaen yn rhanbarth Dwyrain Cymru. Mae hyn yn cwmpasu:
- Caerdydd
- Casnewydd
- Bro Morgannwg
- Sir Fynwy
- Powys
- Wrecsam
- Sir y Fflint.
Os yw cwmni yn rhan o grŵp mwy neu â phartner neu fentrau cysylltiedig, gellir effeithio ar ei statws fel BBaCh. Gwiriwch eich statws BBaCh.
Byddwn yn targedu’r prif sectorau sy’n cael eu gyrru gan ddata a allai elwa o’n cymorth, gan gynnwys:
- TGCh a seiberddiogelwch
- deunyddiau uwch
- ynni ac eco-arloesedd
Fodd bynnag, rydym ni’n awyddus i archwilio cyfleoedd gydag amrywiaeth eang o gwmnïau, felly peidiwch ag oedi i gysylltu â ni os ydych chi’n gweithio mewn sector arall.
Nid oes angen i chi fod ag adran ymchwil a datblygu i gydweithio ar brosiect gyda ni, ond bydd angen staff sydd â’r wybodaeth addas i dreulio amser ar brosiect ar y cyd.
Rhagor o wybodaeth
Rhagor o wybodaeth am Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2014-2020