Toddle
I Hannah Saunders o Toddle Born Wild, roedd derbyn ‘prawf iechyd’ DIA yn ffordd syml o gael gweld yr amrywiaeth o fuddion sydd ar gael i’w chwmni newydd trwy arloesedd data.
Sefydlodd Hannah Saunders ei chwmni gofal croen, Toddle, pan sylweddolodd fod angen cynnyrch gofal naturiol i’r croen ar gyfer plant o dan 3 oed.
Roedd hi’n gweithio’n llawn amser yn yr RAF, yn ogystal â bod yn fam actif iawn, yn mynd â’i mab allan i gerdded ar y bryniau a sgïo, ymhlith gweithgareddau awyr agored eraill. Roedd arni angen cynnyrch gofal croen digon tyner ar gyfer croen sensitif ei mab, ac fe sylweddolodd nad oedd dim ar gael oedd wedi’i greu o gynhwysion naturiol ac yn addas i blant o dan 3 oed. Dyna sbardunodd Hannah ymlaen i greu ei chynnyrch ei hun.
Sylwodd rhieni eraill yn fuan ei bod hi’n defnyddio’r cynnyrch yma, a dangos diddordeb. Yna dechreuodd Hannah eu cynhyrchu nhw ar gyfer ei ffrindiau a’u theulu, a dyna ddechrau busnes llwyddiannus.
Gwelodd Hannah y gallai fod marchnad ar gyfer y cynnyrch hyn, ac felly bod potensial da i greu busnes, felly dechreuodd dreulio ei hamser sbâr yn ymchwilio i’r farchnad yn y Llyfrgell Brydeinig. Yn fuan iawn fe sylweddolodd fod potensial gwirioneddol i greu cynnyrch gofal croen naturiol ar gyfer plant ifanc, fe wnaeth hi ymddiswyddo o’r RAF, a sicrhau cyfalaf i gychwyn ei chwmni.
Lansiodd ei chwmni, Toddle, ei gynnyrch ym mis Mawrth 2020. Bellach mae ganddi fusnes llewyrchus gyda phump o gyflogeion, a’i wefan a’i safle ei hun, ac mae hi’n gwerthu ei chynnyrch ar Amazon a thrwy 15 o wahanol fanwerthwyr. Mae Hannah yn cael hyd i’w holl gynhwysion fegan naturiol ei hun, ac mae’r cynnyrch yn cael eu creu i’w fformwlâu ei hun.
Trwy ddigwyddiad am ddata a gynhaliwyd gan Hwb Menter Wrecsam y darganfu Hannah y Cyflymydd Arloesedd Data (DIA) gyntaf. Roedd rhedeg ei busnes ei hun gyda dau blentyn ifanc a gŵr oedd yn gweithio i ffwrdd yn golygu ei bod hi’n croesawu cael cynnig cymorth wedi’i ariannu. Mae’r DIA yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Trwy eu gwiriad iechyd arloesedd data, cynigiodd y DIA help iddi edrych ar ei data busnes a gweld sut gallai hi ei ddefnyddio’n well. Aeth tîm gwyddor data’r DIA ati i astudio data Toddle yn drylwyr a gweld sut roedd y cwmni eisoes yn ei gasglu a’i ddefnyddio. Arweiniodd y gwiriad iechyd at adroddiad a roddodd ddarlun cyffredinol o’i data i Hannah, a manylu ar ffyrdd posibl o’i ddefnyddio a chael gwerth ohono. Dangosodd tîm y DIA sut gallai hi ddefnyddio pecynnau meddalwedd penodol i anfon cylchlythyron a hysbysebu allan a’u tracio, ac i weld sut roedden nhw’n cynhyrchu gwerthiant. Fe ddangoson nhw iddi hefyd sut gallai’r cwmni rannu data gyda’r tîm o staff a chadw golwg ar faterion cyllid, amcanion a chynlluniau gwaith, a chadw ar ben beth roedd pawb yn ei wneud. Fe wnaethon nhw gynnig awgrymiadau ynghylch sut mae gwneud gwefan Toddle yn fwy cadarn ac yn haws ei defnyddio, ac yn dadansoddi sut gallen nhw gael eu gwneud yn fwy effeithiol.
Ar ôl rhoi rhai o’r newidiadau hyn ar waith, mae Hannah wedi darganfod bod dilynwyr Toddle ar y cyfryngau cymdeithasol wedi ehangu a bod trosi ‘porwyr’ yn gwsmeriaid sy’n talu ar y wefan wedi gwella 10% hyd yma. Mae allbwn y staff hefyd wedi gwella, ac mae’r tîm yn hapusach yn eu rolau ac yn gliriach yn eu cylch.
Mae Hannah yn dweud bod y busnes yn tyfu a’i bod hi’n awyddus i ehangu ei hallforion a’i hallfeydd manwerthu, a chynnwys cynnyrch newydd fel rhan o’r hyn sydd ar gael ganddi.
“Fyddwn i ddim wedi gallu fforddio’r math o help oedd yn cael ei ddarparu trwy’r DIA ar y pryd, ac ar ben hynny, fyddwn i ddim wedi gwybod beth roedd angen ei newid”, meddai. “Y fantais wirioneddol, fodd bynnag, oedd gallu cymryd cam yn ôl o fod yn rheolwr prysur ac edrych ar eich strategaeth fusnes, gyda chefnogaeth ac arbenigedd y DIA.”