Simply Do Ideas
Sut mae busnes yn dod yn fwy craff? Helpodd Prifysgol Caerdydd Simply Do Ideas i sicrhau gwell dealltwriaeth o’u data, gan arwain at newid hanfodol i’r busnes
Mae Simply Do Ideas o Gaerdydd yn gwmni meddalwedd bach â breuddwydion mawr. Maen nhw’n canolbwyntio ar gysyniad datrysiadau ariannu torfol i heriau busnes strategol.
Trwy weithio gyda chleientiaid i amlygu’u prif broblemau a heriau, mae Simply Do Ideas yn cyflwyno heriau i weithwyr mewnol ac i sefydliadau allanol, gan ddod o hyd i atebion i sbarduno newid trawsffurfiol a datblygu cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd. Yn ei hanfod, maen nhw’n helpu eu cleientiaid i ddod o hyd i atebion arloesol ac adeiladu busnes gwell.
Fel y gallwch ddychmygu, mae gan Simply Do Ideas lawer o ddata! Ac, fel y dywedodd eu Pennaeth Ymchwil a Datblygu, John Barker: “Rydyn ni'n gwneud llawer o waith sy’n ymwneud â phen blaen ein platfform, o ran ymgysylltu a denu pobl i'r platfform, ond rydyn ni'n gwneud mwy gyda'n data presennol i ddarparu gwell gwasanaeth i'n cwsmeriaid. Roedden ni'n gwybod bod angen adeiladu ar ein harbenigedd gyda chefnogaeth a allai ein helpu yn ein proses o ddarganfod."
Dyfarnwyd PhD i Brif Swyddog Technoleg Simply Do Ideas, Will Webberley, gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd yn awyddus i ddechrau cydweithio gyda'r DIA, a roddodd gefnogaeth ychwanegol i'r cwmni fel y nododd Will; “Roedd y cydweithio yn ein galluogi i adeiladu ar ein set sgiliau bresennol a gwneud y defnydd gorau o ddata cwsmeriaid.”
Felly ar gyfer beth oedd angen help ar Simply Do Ideas? Esbonia John: “Ar ôl cynnal ymchwil marchnad i’n cystadleuwyr, sylweddolais y gallem ni wneud mwy. Gwelsom fod darparu adroddiadau pwrpasol i'n cleientiaid yn llyncu amser gwerthfawr staff a bod modd awtomeiddio'r gwaith. Roedden ni'n gwybod bod gennym ni ddata y gallen ni ei droi’n rhywbeth mwy gwerthfawr i ni ein hunain ac i’n cwsmeriaid pe bai modd i ni gymhwyso’r wyddor data flaengar ddiweddaraf.”
Wrth fynd ar drywydd hysbyseb gan Lywodraeth Cymru, roedd tîm Simply Do Ideas yn gwybod y gallai’r DIA gynnig y cymorth yr oedd ei angen i wneud defnydd gwell o’u data.
Yn ystod y prosiect saith mis, roedd y tîm gwyddor data yn gallu cymryd y data distrwythur a gasglwyd o’r ymatebion i’r heriau a’r arolygon a gyflwynwyd gan gleientiaid y cwmni a’i droi'n wybodaeth ddeallus, wedi’i threfnu a’i didoli drwy ddulliau awtomataidd, prosesu iaith naturiol a deallusrwydd artiffisial. Mae hyn wedi galluogi Simply Do Ideas i gynnig deallusrwydd busnes llawer mwy datblygedig i’w cleientiaid, gan gyflwyno data craff mewn ffordd ddiddorol ac ystyrlon yn weledol, a defnyddio nodweddion fel diagramau pelydrau’r haul a chymylau geiriau.
Adroddodd John: “Rwy’n falch o ddweud nawr ein bod mewn sefyllfa lle’r ydym ni’n defnyddio technolegau prosesu deallusrwydd artiffisial a thechnolegau cysylltiedig i sicrhau bod ein cleientiaid yn cael gafael ar adroddiadau amser real, o’r safon uchaf. Bydd modd nawr iddyn nhw wneud penderfyniadau busnes ymarferol ar unwaith, archwilio data ar lefel lawer dyfnach a gallu ymwneud â data craff mewn ffordd hwyliog, ysgogol."
Gan ddisgrifio sut mae’r datrysiad yn edrych mewn gwirionedd, dywed John y bydd eu “cleientiaid yn gallu cael pethau fel datrysiadau iechyd a lles hyfyw i’w gweithwyr, a chael cipolwg ar natur eu gweithlu neu eu rhwydweithiau allanol nad oedd modd ei gael o’r blaen. Byddan nhw'n deall themâu gwahanol ar draws eu busnes a gwahanol bocedi o weithgarwch, gan ddarparu tryloywder a deallusrwydd busnes hynod ddatblygedig. A gall hyn i gyd arwain at ddatblygu a gweithredu cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau gwell, gan ganiatáu iddyn nhw ffynnu yn yr ecosystem arloesi ac arwain at lwyddiant i’w busnes”.
A hwythau ar gam hollbwysig ar eu taith, mae John yn ymhelaethu: “Mae effaith gweithio gyda’r DIA wedi bod yn enfawr i ni. Yn y tymor byrrach, rydyn ni wedi datblygu galluoedd hollbwysig o ran prosesu data, deallusrwydd artiffisial a delweddu data, ond yn y tymor hwy, agorwyd ein llygaid i fyd gwyddor data a’i effaith posibl arnom ni, yn fewnol ac ar ein cleientiaid hynod werthfawr.
At hynny, mae wedi paratoi’r ffordd ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu yn y dyfodol gyda Phrifysgol Caerdydd wrth i ni ystyried datblygu ein galluoedd gwyddor data ymhellach, a chydweithio gydag Ysgol Busnes Caerdydd ar gyfleoedd cyllido cenedlaethol.”
Ychwanegodd: “Rydyn ni bob amser yn chwilio am raddedigion i’w cyflogi ac yn troi at Brifysgol Caerdydd i recriwtio talentau ym maes technoleg yn rheolaidd. Yn ein barn ni, mae safon eu graddedigion cyfrifiadureg yn eithriadol – maen nhw’n bobl amryddawn gyda sgiliau rhaglennu cyfrifiadurol gwych.”
Ac yntau’n llawn canmoliaeth i dîm y DIA, dywed John “maen nhw’n gampus; gwnaethon nhw argraff arbennig arnom ni. Roedden nhw’n gwbl broffesiynol, yn gwrando ar ein hanghenion, yn cyflawni’n brydlon, ac maen nhw wedi ein gosod ar daith gyffrous, pan fyddwn ni wir yn gallu dweud ‘ffarwel’ wrth ein cystadleuwyr!
I BBaChau eraill sy’n ystyried ymwneud â’r DIA, byddwn i’n dweud ‘nid yn unig byddwch chi’n cael cymorth technolegol/academaidd o’r radd flaenaf, ond cymorth busnes gwych hefyd, yn brydlon ac i’r safon a ddymunwch’. Byddwn yn eu hargymell yn fawr!”
Yn sicr, mae’n gyfnod cyffrous i Simply Do Ideas, gyda’r DIA nid yn unig yn agor y drws iddyn nhw, ond yn cyflymu eu taith hefyd. A does dim diwedd i gyrhaeddiad y llwyddiant hwn, gan fod llwyddiant Simply Do Ideas yn anochel yn golygu llwyddiant i’w cleientiaid, wrth roi’r adnoddau iddyn nhw arloesi a gwella. Does dim terfyn arni yn ôl pob golwg, ac mae Prifysgol Caerdydd yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw ac yn edrych ymlaen at barhau â’n perthynas.