Modest Trends
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae Modest Trends yn gwmni dillad sy'n cynnig nwyddau ffasiynol i ferched Mwslimaidd rhwng 16 a 35 oed. Yn ôl perchennog brwd y cwmni, Rifhat Qureshi:
"Mae'n ymwneud â chyfuno dillad ffasiynol a welwch chi yn y siopau â dillad sy'n gweddu i gredoau ac egwyddorion Mwslimaidd. Mae'n ymwneud â chynnig mwy o ryddid i ferched ddewis beth yr hoffen nhw ei wisgo."
Sefydlodd Rifhat y cwmni ar ôl teithio i Dubai a Moroco, lle y gwelodd fod y ffasiynau’n wahanol iawn i’r rhai sydd ar gael yn y deyrnas hon.
Er gwaethaf natur amryfal Caerdydd, doedd dim digon o ddewisiadau yn y ddinas ym marn Rifhat (43), sy’n fam i dri o blant yn ardal Grangetown ac, felly, agorodd Modest Trends er ei bod yn swyddog menter amser llawn, hefyd.
Dechreuodd Rifhat y cwmni fis Ebrill 2019 ac mae hi’n ei gynnal gyda chymorth un gweithiwr:
“Roedd busnes yn dda iawn yn y siop ond, o achos Covid, penderfynais ei chau a chanolbwyntio ar y wefan.”
Ynghylch anawsterau'r busnes, meddai:
“Roedd problemau ynglŷn â threfnu rhestr y nwyddau a denu pobl i'r wefan. Roeddwn i wedi clywed am DIA mewn seminar ym Mhrifysgol Caerdydd ond yn credu mai dim ond i gwmnïau mawr y byddai’n berthnasol. Cysyllton nhw â mi ddechrau 2020 i egluro sut y gallen nhw fod o fudd i'r cwmni trwy asesu ei gyflwr a datblygu prosiect gyda mi.”
Wedi hynny, ac er gwaethaf holl helynt Covid-19, cwrddodd staff DIA â Rifhat a rhoi canlyniadau'r asesiad iddi erbyn diwedd mis Mai.
Ynglŷn â’r cydweithredu, meddai:
“Fe roeson nhw adroddiad am feysydd i’w gwella ac awgrymu sut y gallen nhw fy helpu.
Mae'r asesiad wedi fy helpu i ddeall ble y gallaf i wella’r busnes, datrys problem rhestr y nwyddau, rheoli’r stoc a phennu faint o elw fydd yn bosibl.”
Fe roes y tîm iddi syniadau ar gyfer prosiectau cydweithredu yn y dyfodol, hefyd:
“Heb gymorth DIA, byddwn i wedi parhau i reoli’r cwmni’n aneffeithlon. Byddwn i’n cynghori cwmnïau eraill i fanteisio ar gyfle gwych i ddysgu sut y gall data eu helpu, hyd yn oed os dim ond cwmni bychan neu newydd sbon fel fi ydyn nhw.”
Dyma ei barn am DIA:
“Roedd yn hawdd iawn cyfathrebu â’r tîm a wrandawodd ar hanes fy mhroblemau busnes a deall yr hyn yr oeddwn i’n ceisio ei gyflawni. Hoffwn i ddiolch i Linda, Sachin a thîm DIA am gydweithio â mi. Dysgais i lawer ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â nhw mewn prosiect arall cyn bo hir.”
Gan fod y cwmni ar ei fyny bellach, mae’n gobeithio sefydlu tîm ar gyfer e-fasnach a chynnig i ferched Mwslimaidd siop un stop a chanddi amrywiaeth helaeth o ddillad.
Mae’n dda gan Rifhat ddweud bod DIA wedi’i helpu i ail-enwi a lansio’r wefan, canolbwyntio ar ffynonellau a gweithgynhyrchu moesegol a chydweithio â dylunwyr lleol i gynhyrchu cyfres newydd o ddillad.
Mae’i bwriad i ddatblygu’r cwmni a chreu swyddi i ferched Mwslimaidd yn dangos ei dyhead i’r busnes fod yn rhan o’r gymuned y bydd yn ei gwasanaethu. Pob lwc i Rifhat a Modest Trends!