Avoir Fashion
Fe wnaeth Avoir Fashion oresgyn rhwystr tyngedfennol ar eu taith i lwyddiant busnes, diolch i’w cydweithrediad â’r Cyflymydd Arloesedd Data ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae Avoir, sef ‘cael’ yn Ffrangeg, yn crynhoi syniad busnes y gŵr a gwraig, Kathy ac Amir. Dywedont wrthym “mae ein gwefan yn cynnig dolenni i siopau dilys sy’n gwerthu nwyddau moethus i ddangos yn awtomatig i siopwyr pa fasnachwr sy’n cynnig y pris isaf am eitem ffasiwn foethus benodol”.
Deilliodd y profiad o siom Kathy yn dilyn prynu pâr o esgidiau dylunydd (yr oedd hi eisiau eu cael mewn lliw gwahanol) dim ond iddi ddod ar eu traws nhw (yn rhatach ac yn y lliw a ddymuna’i gael yn wreiddiol) ychydig ddiwrnodau yn ddiweddarach. A hithau’n teimlo bod hyn yn annheg, ganed syniad Kathy ar gyfer gwefan cymharu prisiau ffasiwn.
Yn wreiddiol, roedd Avoir Fashion o Gaerdydd, a sefydlwyd yn 2017, yn cyflogi staff ond dim ond Kathy ac Amir sydd yno bellach. Dywedont wrthym ‘bod peidio â dod o gefndir technegol wedi bod yn anodd. Roedd gennym syniad clir o’n dymuniadau ar gyfer ein busnes ond nid y sgiliau data i’w gwireddu’.
Roedd y rhwystr rhag llwyddiant Avoir Fashion yn syml ac yn gymhleth, ac yn perthyn yn llwyr i’w galluoedd data – sut gallwch chi gymharu nwyddau yn absenoldeb enwadur lleiaf?
Mae cymharu nwyddau yn gywir yn hanfodol i’w busnes. Ond, yn gynnar iawn, trwy gymharu â llaw gan ddefnyddio taenlenni, gwelodd Kathy fod disgrifiadau testun o nwyddau yn amrywio’n enfawr rhwng masnachwyr gwahanol, e.e. gallai lliw gael ei ddisgrifio fel ‘hufen’ neu ‘nude’ a gallai eitem gael ei disgrifio fel ‘sneakers’ neu ‘trainers’. Mae hyn yn fwy gwir yn y diwydiant ffasiwn nag yn unman arall a gellir ei ddeall wrth i ni edrych ar gymharu electroneg, er enghraifft; yma, mae’n hawdd adnabod eitemau yn ôl cod y cynnyrch.
Argymhelliad gan ffrind da â chysylltiad â Phrifysgol Caerdydd arweiniodd y ddau at y DIA ym mis Mawrth 2019. Trefnwyd cyfarfod, trafodwyd y broblem ac, ar unwaith, roedd y DIA yn gwybod y gallent wir wneud gwahaniaeth i’r busnes hwn.
Kathy ac Amir a sylweddolodd mai’r enwadur lleiaf rhwng nwyddau mewn gwirionedd oedd y darlun ei hun, ond nid oedd ganddynt y sgiliau i wybod sut yn union i greu a manteisio ar dechnoleg adnabod delweddau. Roedd y DIA yn awyddus i archwilio’r her ac yn hyderus bod modd dod o hyd i ateb.
Ar ôl ‘gwiriad iechyd’ cychwynnol o ddata, darparodd y DIA adroddiad cynhwysfawr yn cadarnhau y gallai’r data gael ei ‘normaleiddio’ fel y gallai Avoir Fashion gymharu eitemau ffasiwn yn llwyddiannus.
Trwy ddefnyddio cyfuniad o brosesu iaith naturiol ac adnabod delweddau, roedd Gwyddonwyr Data Priysgol Caerdydd yn gallu darparu set ddata lân (‘geiriadur ffasiwn’, fel petai), gan greu categorïau i’w halgorithm eu dadansoddi, gan arwain at baru eitemau ffasiwn drud yn gywir.
Aeth y cydweithrediad ymlaen am 9.5 mis ac, fel y rhan fwyaf o brosiectau ymchwil, wynebodd y tîm nifer o heriau. Roedd pendantrwydd y cwpl yn ystod diwrnodau cynnar eu syniad busnes, ar y cyd â sgiliau gwyddor data ac ymchwil tîm y DIA, wedi helpu i yrru’r cydweithrediad i’w gasgliad llwyddiannus.
Wrth siarad am y berthynas â’r DIA, dywedont wrthym “roeddent yn bobl ddymunol iawn, yn hawdd mynd atynt, heb unrhyw rwystrau. Teimlom y gallem fod yn gwbl agored a gonest am ein dymuniadau a sut roeddem ni’n teimlo. Roedd cyfle i siarad â phobl mor glyfar a chael y cyfle hwn yn anhygoel. Roedd hi’n brofiad mor gadarnhaol ac mae wedi rhoi’r gallu i ni barhau â’n taith. Byddem yn argymell gweithio gyda’r DIA i bawb, yn enwedig busnesau newydd fel ni”.
Felly, beth sydd nesaf i Avoir Fashion? Dywedodd Amir wrthym “cyn gweithio gyda’r DIA, doedden ni ddim wedi meddwl am gael gwyddonydd data ac rydyn ni’n sylweddoli nawr bod angen rhyw 2 neu 3!”
Diolch i’r cod a luniwyd yn ystod y cydweithrediad, bydd Kathy ac Amir yn gallu datblygu’r algorithm cymharu nwyddau a’i fireinio er mwyn lansio gwefan gymharu gwbl weithredol, foethus, gyda’r nod o lansio yn Ionawr 2021.
Dywedodd Amir wrthym “mae hyn wedi agor y drws i gydweithio yn y dyfodol ag Athrawon yn y Brifysgol, gan weithio ar dechnoleg adnabod delweddau o’r radd flaenaf, a hyd yn oed y posibilrwydd i ni gyflogi graddedigion cyfrifiadureg Prifysgol Caerdydd. Rydyn ni wedi bod trwy amser anodd iawn, gan wynebu sawl rhwystr, gwario arian, treulio amser a gwneud ymdrech, ond rydyn ni’n teimlo’n hyderus nawr am y daith o’n blaenau ac mae gennym yr adnoddau i wireddu Avoir Fashion, ac rydyn ni’n diolch i’r DIA am eu cyfraniad amhrisiadwy”.